Skip to main content
Ffurflen

Ymddiriedolwr elusen: datganiad o gymhwysedd a chyfrifoldeb

Dylai ymddiriedolwyr elusennau yng Nghymru a Lloegr lenwi a llofnodi'r ffurflen hon i gadarnhau eu bod yn gymwys i fod yn ymddiriedolwr.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Manylion

Dylai ymddiriedolwyr eich elusen lenwi’r ffurflen hon a’i llofnodi i gadarnhau eu bod yn:

  • yn fodlon ac yn gymwys i weithredu fel ymddiriedolwyr
  • deall dibenion eu helusen
  • wedi pasio unrhyw wiriadau angenrheidiol os yw’r elusen yn gweithio gyda phlant neu bobl sy’n agored i niwed

Anfonwch y ffurflen hon pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru eich elusen gyda’r Comisiwn Elusennau.

Mae angen i chi:

  • argraffu’r ffurflen
  • llenwi enw’r sefydliad a nifer o ymddiriedolwyr
  • ticiwch y blychau perthnasol os yw’r elusen yn gweithio gyda phlant neu bobl agored i niwed neu os oes ganddi ymddiriedolwr corfforedig
  • gofyn i’r holl ymddiriedolwyr ddarllen y ffurflen a’r deunydd cysylltiedig ag yna llofnodi a dyddio’r ffurflen
  • sganio’r ffurflen wedi’i llenwi ac arbed fel ffeil PDF

Yna gallwch chi lwytho’r ffurflen pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru.

Os oes gan eich elusen fwy o ymddiriedolwyr, argraffwch ffurflen datganiad arall i’r ymddiriedolwyr ychwanegol i lofnodi.

Argraffu'r dudalen hon