Canllawiau

Apeliadau codi arian elusennol: defnyddio rhoddion pan fyddwch wedi codi mwy nag sydd ei angen arnoch

Cyhoeddwyd 31 October 2022

Applies to England and Wales

Os yw’ch elusen yn gwneud apêl at ddiben neu ddibenion penodol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r rhoddion at y diben neu’r dibenion hynny yn unig.

Fodd bynnag, gallwch dderbyn mwy o roddion nac sydd eu hangen arnoch. Er enghraifft:

  • gallai apêl i adnewyddu caffi cymunedol godi mwy nac sydd ei angen ar gyfer y gwaith adnewyddu; hynny yw, mae’r caffi yn cael ei adnewyddu ac mae arian ar ôl
  • gallai apêl i brynu offer ar gyfer maes chwarae godi mwy nac sydd ei angen - mae’r offer i gyd wedi’i brynu ac mae arian ar ôl

Os bydd hyn yn digwydd, rhoddir rhoddion i chi at ddiben penodol, ond ni allwch eu defnyddio ar gyfer hyn.

Edrychwch ar eiriad eich apêl. Gall ganiatáu i chi wario’r rhoddion ar brosiectau eraill eich elusen.

Os na fydd, bydd angen i chi ddilyn y broses ofynnol a nodir isod i benderfynu ar ddiben newydd ar gyfer y rhoddion, fel y gallwch eu defnyddio.

Arian yw rhoddion i apêl fel arfer, ond gallant fod yn eiddo o unrhyw fath. Er enghraifft, nwyddau.

Mae’r canllaw hwn yn gymwys i bob elusen ac eithrio elusennau’r GIG. Os ydych yn elusen GIG, gweler adran 6.8 o elusennau GIG.

Mae rheolau ar wahân os nad yw eich apêl wedi codi digon o arian neu os na allwch gyflawni diben yr apêl.

Gwiriwch a oes gan eich apêl ddiben eilaidd

Diben eilaidd yw geiriad yn eich apêl sy’n dweud sut y byddwch yn defnyddio rhoddion os oes gennych arian dros ben (neu, er enghraifft, os nad ydych wedi codi digon).

Os yw geiriad eich apêl yn cynnwys diben eilaidd, mae’n rhaid:

  • defnyddio’r rhoddion at y diben eilaidd hwnnw
  • nid oes angen cysylltu â rhoddwyr na’r Comisiwn Elusennau

Os yw geiriad eich apêl yn cynnwys diben eilaidd, mae’n rhaid:

  • dilyn y broses ofynnol a nodir isod i ddefnyddio’r rhoddion hyn at ddibenion elusennol eraill
  • efallai y bydd angen gofyn i’r Comisiwn awdurdodi eich dibenion newydd
  • nid oes angen cysylltu â rhoddwyr na dychwelyd eu rhoddion

Dewis a chytuno ar ddibenion newydd ar gyfer rhoddion

Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r rhoddion dros ben hyd nes y byddwch yn penderfynu ar ddiben neu ddibenion newydd ar eu cyfer.

Wrth benderfynu ar ddibenion newydd, mae’n rhaid i chi ystyried:

  • hyd y mae yn bosibl ac yn ddymunol, a all y dibenion newydd fod yn debyg i’r rhai gwreiddiol
  • yr angen i’r dibenion newydd fod yn addas ac effeithiol yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol

Cadwch gofnod o unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennych i wneud eich penderfyniad.

Mae’n rhaid i chi allu dangos ac esbonio eich rhesymau os byddwch yn dewis dibenion newydd nad ydynt yn debyg i ddibenion gwreiddiol yr apêl.

Ond mae angen i’ch dibenion newydd hefyd fod yn ymarferol nawr ac yn y dyfodol. Enghreifftiau o’r hyn y dylech feddwl amdano yw:

  • os yw’r anghenion a’r sefyllfa a ysgogodd eich apêl wedi newid ers i chi wneud yr apêl
  • os oes amgylchiadau newydd sy’n effeithio ar bwy y bwriadwyd i’r apêl gael budd
  • os oes amgylchiadau newydd sy’n effeithio ar sut yr ydych yn gweithio gyda neu’n cefnogi’r bobl, sefydliadau neu weithgareddau y sefydlwyd yr apêl ar eu cyfer

Mae’n rhaid i’ch dibenion newydd fod yn elusennol.

Mae’n rhaid i chi:

  • wneud penderfyniad ffurfiol i gytuno ar y dibenion newydd ar gyfer y rhoddion
  • dilyn y rheolau yn nogfen lywodraethol eich elusen i basio’r penderfyniad – mae’n rhaid i chi sicrhau bod mwyafrif eich holl ymddiriedolwyr yn cymeradwyo’r penderfyniad
  • cadw cofnod ysgrifenedig o’ch penderfyniad, er enghraifft yng nghofnodion eich cyfarfod, eich rhesymau drosto ac unrhyw dystiolaeth ategol

Os yw cyfanswm gwerth y rhoddion yr hoffech eu defnyddio at ddibenion newydd yn £1,000 neu lai

Mae eich penderfyniad yn weithredol ar y dyddiad y byddwch yn ei basio. Nid oes angen i chi gysylltu â’r Comisiwn.

Os yw cyfanswm gwerth y rhoddion yr hoffech eu defnyddio at ddibenion newydd yn £1,000 neu fwy

Mae’n rhaid i chi ofyn i’r Comisiwn awdurdodi eich penderfyniad. Mae eich penderfyniad yn weithredol ar y dyddiad y mae’r Comisiwn yn ei awdurdodi.

E-bostiwch: fundraisingappeals@charitycommission.gov.uk gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a rhif cofrestru’r elusen
  • manylion eich apêl - cynnwys eich llenyddiaeth apêl
  • pam na allwch ddefnyddio eich rhoddion fel y bwriadwyd
  • gwerth cyfanswm y rhoddion yr ydych am eu defnyddio at y dibenion newydd
  • beth yw eich dibenion newydd
  • pam eich bod wedi dewis eich dibenion newydd a sut rydych wedi ystyried y ddau bwynt uchod
  • gopi o’ch penderfyniad neu gofnodion y cyfarfod lle y gwnaethoch gytuno ar y penderfyniad
  • cadarnhau eich bod wedi dilyn y rheolau yn eich dogfen lywodraethol i basio’r penderfyniad
  • eich enw, manylion cyswllt a rôl o fewn yr elusen
  • cadarnhad eich bod yn gweithredu ar ran yr elusen

I gael gwybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, darllenwch hysbysiad preifatrwydd y Comisiwn.

Dylech fod yn ymwybodol ei bod yn drosedd o dan adran 60 Deddf Elusennau 2011 i ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid.

Gallwn ofyn i chi hysbysebu eich cynigion cyn i ni ystyried awdurdodi eich penderfyniad. Gallwn hefyd ofyn i chi am dystiolaeth ategol yr ydych wedi dibynnu arni i wneud eich penderfyniad. Mae hyn fel arfer, er enghraifft, os yw eich dibenion newydd yn ddadleuol neu’n wahanol iawn i ddibenion gwreiddiol yr apêl.

Gallwch ddefnyddio ein canllawiau ar egwyddorion gwneud penderfyniadau i’ch helpu i wneud eich penderfyniadau yn y ffordd gywir.

Cronfeydd nad yw’r canllaw hwn yn berthnasol iddynt

Weithiau, gall fod gennych gronfeydd nad ydynt yn dod o apêl elusen ond gall fod cyfyngiadau ar eu defnydd. Nid oes angen i chi gysylltu â’r Comisiwn.

Er enghraifft:

  • tanwariant ar grant
  • rhoddion i’ch elusen at ddiben penodol os nad oedd eich elusen wedi apelio am y cronfeydd hynny

Cysylltwch â’r rhoddwr i drafod y camau nesaf.

Cael geiriad eich apêl yn gywir y tro cyntaf

Bydd cael geiriad eich apêl yn gywir, a chadw cofnodion rhoddwr ac apêl da, yn eich helpu i osgoi anawsterau os nad yw eich apêl yn codi digon o arian, yn codi gormod o arian neu os na allwch ddefnyddio’r rhoddion fel y bwriadwyd.

Darllenwch ein canllaw ar Apeliadau codi arian elusennau: geiriad apeliadau a chadw cofnodion.

Nodyn cyfreithiol

Daw’r rheolau hyn o Deddf Elusennau 2011 (fel y’i diwygiwyd).

Prif adrannau perthnasol y Ddeddf yw 62 a 67A.