Newyddion y Comisiwn Elusennau: Gorffennaf 2025
Diweddarwyd 24 Hydref 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mewnwelediadau newydd i gymhellion a sgiliau ymddiriedolwyr
Mae ymchwil newydd gan y Comisiwn Elusennau a Pro Bono Economics yn dangos bod y mwyafrif helaeth o ymddiriedolwyr yn “gadarnhaol iawn” am eu profiad, gydag 8 o bob 10 ymddiriedolwr yn debygol o argymell y rôl i eraill.
Dywedodd dros hanner yr ymddiriedolwyr ifanc fod ymddiriedolaeth yn cefnogi datblygiad eu gyrfa, tra bod ymddiriedolwyr hŷn yn dweud ei fod yn rhoi’r cyfle iddynt roi rhywbeth yn ôl. Mae’r ymchwil yn awgrymu symudiad tuag at gydraddoldeb rhywedd ar fyrddau ymddiriedolwyr, gyda 43% o ymddiriedolwyr bellach yn fenywod o’i gymharu â 36% yn 2017.
Mae canfyddiadau’n awgrymu y gallai rhai byrddau elwa o fwy o bobl â sgiliau penodol gan gynnwys sgiliau cyfreithiol, cyllid, mesurau gwrth-dwyll a marchnata.
Dyma’r arolwg mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed o gymhellion a sgiliau ymddiriedolwyr. Mae creu darlun gwell o brofiad ymddiriedolwyr yn helpu’r Comisiwn, llunwyr polisi a’r sector i ddeall sgiliau, cymhellion a chefndiroedd ymddiriedolwyr presennol yn well, ac ymgysylltu â’r gronfa ehangaf bosibl o dalent ymddiriedolwyr.
Darllenwch y canfyddiadau llawn yma
Canllawiau wedi’u diweddaru i’ch helpu i ddod o hyd i ymddiriedolwyr newydd
Oeddech chi’n gwybod mai dim ond 6% o ymddiriedolwyr a ddaeth o hyd i’w rôl drwy hysbyseb?
Rydym wedi adnewyddu ein canllawiau yn dilyn yr ymchwil ymddiriedolwyr uchod a ddangosodd fod y rhan fwyaf o elusennau yn dibynnu ar rwydweithiau personol eu hymddiriedolwyr wrth lenwi swyddi gwag ar fyrddau.
Archwiliwch ein canllawiau wedi’u diweddaru am gyngor ymarferol ar gael mynediad at gronfa ehangach o ymgeiswyr, gan gynnwys strategaethau a thechnegau hysbysebu effeithiol i annog ymgeiswyr posibl, ehangu eich cyrhaeddiad a’ch helpu i sicrhau talent newydd gwerthfawr ar gyfer eich bwrdd.
Dod o hyd i ymddiriedolwyr newydd a’u penodi (CC30)
Fframwaith cyfrifyddu elusen newydd – y camau nesaf
Mae’r ymgynghoriad ar ddatblygu Datganiad a Argymhellir ar gyfer Arfer Elusennau (SORP) newydd wedi cau erbyn hyn.
Hoffai’r corff sy’n llunio’r SORP – sy’n cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon – ddiolch i bawb a ymatebodd.
Rydym wedi derbyn dros 140 o ymatebion gan randdeiliaid. Mae’r rhain bellach yn cael eu dadansoddi i lywio’r fersiwn derfynol o’r SORP newydd, yr ydym yn anelu at ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025.
Bydd y SORP newydd yn dechrau, i’r elusennau hynny sy’n ei gymhwyso, mewn blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026.
Yn y cyfamser, rydym yn annog yr elusennau hynny i baratoi ar gyfer y newidiadau a gyflwynwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol mewn perthynas â chyfrifyddu prydlesi a chydnabod refeniw.
Am fwy o fanylion ar sut i baratoi, cyfeiriwch at ganllawiau SoRP
Ffeithiau newydd wedi’u datgelu am y sector ac ymddiriedaeth y cyhoedd
Rhyddhaodd y Comisiwn Elusennau ddau adroddiad newydd yr wythnos ddiwethaf, gan gynnig cipolwg ar y sector a’r dirwedd newidiol y mae’n ei hwynebu.
-
Dangosodd ein hymchwil cyhoeddus blynyddol, yn erbyn cefndir heriol, fod hyder y cyhoedd mewn gwariant elusennol wedi cynyddu a bod ymddiriedaeth mewn elusennau yn parhau’n uchel. Dywedodd bron i 60% o bobl fod ganddynt ymddiriedaeth uchel – gan osod elusennau yn ail yn unig i feddygon. Mae’r ymchwil hefyd yn cynnig cipolwg ar y ffactorau sy’n sail i ymddiriedaeth y cyhoedd, ar lefelau galw’r cyhoedd am wasanaethau elusennol, ac ar arferion rhoi elusennol dros amser.
-
Mae mewnwelediadau newydd o ffurflenni blynyddol, a anfonir at y Comisiwn gan y rhan fwyaf o elusennau, yn awgrymu bod elusennau wedi gallu cyfeirio adnoddau ychwanegol at gyflawni eu hamcanion, yng nghanol pwysau ariannol tynnach. Mae ein dadansoddiad o’r ffurflenni blynyddol diweddaraf yn ffurfio’r set ddata fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ar y sector, gan ein galluogi i nodi risgiau a thueddiadau’r sector a chaniatáu i lunwyr polisi, grwpiau sector a’r cyhoedd gael dealltwriaeth gyfoethocach o’r sector elusennol yng Nghymru a Lloegr.
Ceisio eich barn ar bartneriaethau mewn ymateb i argyfyngau
Mae’r Llywodraeth yn ceisio barn pob elusen sy’n darparu cefnogaeth, cydlynu a gofal i’r rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddyletswyddau newydd posibl ar gyfer ‘ymatebwyr Categori 1’ (megis y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol) i ymgynghori â sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a ffydd ar gynllunio argyfyngau lleol. Fe’i lansiwyd yn dilyn ymchwiliad i’r drychineb yn Nhŵr Grenfell a bydd yn helpu i gryfhau parodrwydd ac ymateb i argyfyngau yn y dyfodol. Y dyddiad cau i rannu’ch barn yw dydd Mawrth 16 Medi.
Darllenwch ac ymatebwch i’r Ymgynghoriad Cryfhau Partneriaethau
Nodwch y dyddiad: Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025
Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych ymddiriedolwyr ac i roi cyfleoedd i bawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Eleni, bydd yn digwydd o 3 – 7 Tachwedd.
Drwy gydol yr wythnos bydd cyfle i chi gysylltu ag ymddiriedolwyr eraill i rannu’ch profiadau. Gallwch hefyd ddatblygu’ch sgiliau drwy ystod eang o ddigwyddiadau, hyfforddiant ac arweiniad.
Bydd manylion amserlen y digwyddiad a sut i gofrestru yn cael eu rhannu’n agosach at y dyddiad.