Correspondence

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Rhifyn 64

Published 15 October 2019

Eich cyfrifoldebau o ran ymgyrchu gwleidyddol

Gyda’r posibilrwydd o etholiad cyffredinol eleni, rydym yn atgoffa elusennau o’u cyfrifoldebau o ran ymgyrchu gwleidyddol.

Mae gan elusennau hanes balch o ymgysylltu mewn trafodaethau cyhoeddus o amrywiol safbwyntiau, gan roi llais i’w buddiolwyr ac amlygu eu hachos.

Fodd bynnag, mae’r cyd-destun gwleidyddol presennol ar gyfer etholiad yn wahanol iawn i’r hyn yr ydym wedi ei weld yn y gorffennol.

Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Helen Stephenson CBE, wedi cyhoeddi blog yn trafod cyfrifoldebau elusennau a chanllaw i’ch helpu i wneud penderfyniadau.

Paratowch i ddychwelyd adroddiad blynyddol eich elusen

Ar 12 Tachwedd 2018, fe newidiom ein gwasanaeth ar-lein ar gyfer adroddiad blynyddol elusennau. Os nad ydych chi wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar-lein ers hynny, bydd angen i chi wneud pethau’n wahanol y tro nesaf.

Dysgwch beth fydd angen i chi ei wneud os mai’r tro diwethaf i’ch elusen gyflwyno adroddiad blynyddol oedd cyn 12 Tachwedd 2018.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich adroddiad blynyddol o fewn 10 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol. Er enghraifft, os oedd diwedd eich blwyddyn ariannol ar 31 Rhagfyr 2018, eich dyddiad cau yw 31 Hydref 2019.

Esbonia ein canllaw ynghylch paratoi adroddiad blynyddol elusen beth sydd angen i chi ei gyflwyno a phryd.

Gwelliannau i adrodd twyll elusennol a chydweithio i’w atal

Yn ddiweddar fe gyhoeddom ffurflen ar-lein newydd i adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn eich elusen, i’w gwneud yn llawer haws i chi adrodd am achosion o dwyll a throseddau seiber.

Dengys dadansoddiad diweddar o adroddiadau o dwyll fod elusennau yn parhau i fod yn ddioddefwyr i’r bygythiadau mwyaf mynych, megis Mandad, twyll Prif Swyddog a Gwe-rwydo - oll yn fathau o ‘beirianneg gymdeithasol’, yn ymwneud â chamddefnydd neu ddynwarediad, fel arfer trwy e-bost.

Gall y twyllau hyn beryglu cronfeydd, seilwaith ac enw da gwerthfawr eich elusen, ond gallant fod yn hynod soffistigedig ac anodd i’w canfod, gan dwyllo hyd yn oed y rhai mwyaf profiadol ac uwch ar draws pob sector. Os ydych chi’n credu bod eich elusen wedi ei thargedu, mae’n bwysig siarad ac adrodd am hyn, er mwyn i ni allu nodi’r risgiau a helpu eraill ar draws y sector.

Gallwch hefyd gymryd camau allweddol i ddiogelu eich elusen rhag niwed trwy gymryd rhan yn Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll Elusennau eleni.

Rydym yn annog pawb yn y sector elusennol i gymryd rhan i helpu trechu twyll. Gallwch:

Paratoi eich elusen ar gyfer Brexit

Mae’n hanfodol fod elusennau yn rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi cyhoeddi canllaw i helpu sefydliadau cymdeithas sifil i baratoi ar gyfer Brexit.

Mae’n cwmpasu 5 maes allweddol i’w hystyried, yn cynnwys beth sydd angen i chi ei wneud os yw eich elusen:

  • yn derbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd
  • yn cyflogi staff o’r Undeb Ewropeaidd neu gyda gwirfoddolwyr o’r Undeb Ewropeaidd
  • yn derbyn data personol o’r Undeb Ewropeaidd
  • yn mewnforio neu’n allforio nwyddau i neu o’r EU

Yn ddiweddar fe fu DCMS hefyd yn cynnal gweminar gyda’r Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) ynghylch Elusennau a Brexit heb gytundeb, sydd ar gael ar sianel YouTube yr NCVO.

Elusennau a Brexit heb gytundeb: Camau a Goblygiadau

Diogelu ac amddiffyn pobl

Mae diogelu yn flaenoriaeth llywodraethu allweddol ar gyfer yr holl ymddiriedolwyr, nid dim ond y rhai sy’n gweithio gyda grwpiau a ystyrir i fod dan risg yn draddodiadol.

Yn ddiweddar mae’r Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) wedi lansio amrywiaeth o adnoddau diogelu, gyda chefnogaeth sefydliadau eraill.

Cafodd yr adnoddau eu hariannu ar y cyd gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Adnoddau diogelu NCVO

Dylech ddefnyddio’r rhain ar y cyd â’n canllawiau ynghylch dyletswyddau diogelu ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cysylltu â ni ynghylch unrhyw faterion diogelu, neu ddigwyddiadau diogelu, cwynion neu gyhuddiadau nad ydynt wedi eu hadrodd i ni.

Dysgwch am adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn eich elusen fel ymddiriedolwr.

Dysgwch am adrodd am gamymddwyn difrifol mewn elusen gan weithiwr neu wirfoddolwr.

Canllaw wedi ei ddiweddaru ar archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennol

Os yw incwm eich elusen dros £25,000, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr drefnu i berson annibynnol neu gwmni cyfrifyddu gyflawni archwiliad neu archwiliad annibynnol o gyfrifon yr elusen.

Diben hyn yw rhoi rhywfaint o sicrwydd annibynnol i ymddiriedolwyr, cefnogwyr a buddiolwyr yr elusen, ynghyd â’r cyhoedd yn gyffredinol, y rhoddwyd cyfrif priodol am arian yr elusen. Gall ymddiriedolwyr y rhan fwyaf o elusennau ddewis cynnal archwiliad annibynnol yn hytrach nag archwiliad. Mae arolygiad annibynnol yn graffu ‘cyffyrddiad ysgafn’ sydd fel arfer yn costio llai nag archwiliad.

I helpu ymddiriedolwyr rydym wedi diweddaru ein canllaw archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: arweiniad i ymddiriedolwyr (CC31), i’w wneud yn haws i’w ddarllen ac yn fwy hygyrch.

Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i benodi arolygydd annibynnol gyda’r gallu a phrofiad ymarferol gofynnol i gyflawni arolygiad cymwys o gyfrifon eich elusen.

Adrodd trafodion gyda phartïon cysylltiedig mewn cyfrifon elusennol

Yn Awst 2019 fe gyhoeddom astudiaeth a ganfu fod llai na dwy draean o elusennau gydag incwm yn llai nag £1 miliwn oedd wedi paratoi eu cyfrifon yn defnyddio’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir i Elusennau (SORP) wedi datgelu trafodion gyda phartïon cysylltiedig yn llawn.

Gwyddom fod ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yn ddibynnol ar dryloywder, felly mae’n hanfodo fod elusennau sy’n paratoi cyfrifon SORP yn darparu darlun cyflawn o unrhyw daliadau neu gostau a dalwyd i’r ymddiriedolwyr ac unrhyw drafodion eraill yn ymwneud ag ymddiriedolwyr a phersonau ac endidau gyda chysylltiad agos iddynt.

Darllenwch yr astudiaeth ynghylch adrodd am drafodion gyda phartïon cysylltiedig.

Sut i gael help ar gyfer elusen anweithredol neu aneffeithiol

Mae’r rhaglen ‘Adfywio Ymddiriedolaethau’ yn helpu elusennau sy’n ei chael yn anodd i wario eu hincwm ar fuddiant cyhoeddus. Gall ymddiriedolwyr elusennau gael help o’r rhaglen, a dylent drafod dyfodol eu helusen os yw’n anodd:

  • cael ymddiriedolwyr newydd
  • gwario eich incwm
  • nodi buddiolwyr
  • canfod amser i redeg yr elusen

Dysgwch sut i gael help i’ch elusen o’r rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau.

Cadw mewn cysylltiad â ni

Mae oriau agor ein canolfan gyswllt wedi eu hymestyn i ddarparu mwy o gefnogaeth i chi.

Rydym am roi’r holl offer fydd eu hangen aroch chi i lwyddo, gan sicrhau y gall elusennau ffynnu ac ysbrydoli ymddiriedaeth er mwyn i bobl allu gwella bywydau a chryfhau cymdeithas. Y rhif yw 0300 066 9197 ac rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 4pm.

Cofrestru ar gyfer hysbysiadau e-bost GOV.UK yw’r ffordd fwyaf syml o fod yn gyfredol gyda’r wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Fe ofynnir i chi roi cyfeiriad e-bost er mwyn creu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael eich hysbysu.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i’n dilyn trwy ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Twitter a LinkedIn. Rydym yn rhannu gwybodaeth bwysig, canllawiau a diweddariadau ar gyfer y sector elusennol.