Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Rhifyn 58

Cyhoeddwyd 2 October 2017

This gohebiaeth was withdrawn on

This document has been archived as it is over 2 years old.

1. Anfon eich ffurflen flynyddol 2017 a’r dyddiad cau terfynol ar gyfer 2016

Mae gwasanaeth ffurflen flynyddol 2017 ar gael bellach. Bydd rhaid i chi anfon eich ffurflen flynyddol ar gyfer 2016 cyn y gallwch anfon y ffurflen ar gyfer 2017.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon cyfrifon 2016 yw 31 Hydref 2017, os oes cyfnod cyfrifyddu 12 mis gan eich elusen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffeilio’n gynnar er mwyn osgoi rhuthro ar y funud olaf.

Disgwyliwn weld galw mawr am y gwasanaeth ffurflen flynyddol ac fe’ch cynghorir i’w ddefnyddio y tu allan i oriau brig (10am - 3pm) er mwyn osgoi problemau mewngofnodi.

Gwybod beth mae angen i chi ei wneud paratoi ac anfon ffurflen flynyddol eich elusen.

2. Dweud eich dweud ar ffurflen flynyddol 2018

Rydym wedi cychwyn ymgynghoriad ar gyfer ffurflen flynyddol y flwyddyn nesaf. Dyma ail ran prosiect dwy flynedd i adolygu’r wybodaeth allweddol a gasglwn ac a ddangoswn ar gyfer elusennau.

Bwriadwn ddatblygu ffurflen flynyddol fwy deinamig sydd wedi’i thargedu’n well ac yn haws i elusennau ei defnyddio. Bydd elusennau sy’n llai o faint ac sydd â strwythurau gweithredu symlach yn ateb llai o gwestiynau, ond bydd rhaid i elusennau sy’n fwy o faint ac yn fwy cymhleth ateb mwy o gwestiynau.

3. Cod Llywodraethu Elusennau

Rydym wedi blogio am y rhifyn diweddaraf o’r Cod Llywodraethu Elusennau. Mae’r Cod yn offeryn ymarferol i helpu elusennau a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu safonau llywodraethu uchel.

Dywedodd Sarah Atkinson, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu yn y Comisiwn Elusennau:

Y gwir amdani yw, nid yw llywodraethu da yn ddewis ychwanegol mwyach. Mae’n hollbwysig ar gyfer effeithiolrwydd elusennau a’u goroesiad hefyd mwy na thebyg. Mae’n rhaid i elusennau allu dangos eu bod yn cymryd hyn o ddifrif, a’i fod yn rhoi cyfle iddynt newid y ffordd y maent yn gweithredu.

Mae Cod Llywodraeth Elusennau yn cynrychioli safon ymarfer llywodraethu da y dylai pob elusen anelu at ei chyrraedd. Anogwn bob elusen i’w ddarllen, ei ddilyn a’i gymhwyso mewn ffordd gymesur yn ôl ei hamgylchiadau. Ac os ydych yn cofrestru i ddilyn y cod, cyhoeddwch y ffaith honno ar eich gwefan neu’ch adroddiad blynyddol. Byddwch yn barod i sefyll i fyny a chael eich cyfrif, a gweld y gwahaniaeth y mae hynny’n ei wneud.

4. Ffydd a hyder yn y Comisiwn Elusennau 2017

Rydym wedi cyhoeddi ymchwil annibynnol ar ‘Ffydd a hyder yn y Comisiwn Elusennau’.

Mae’n dweud wrthym fod ffydd gyhoeddus yn y Comisiwn Elusennau wedi bod yn gyson ers 2015 (6 allan o 10) ac mae’r cyhoedd (88%) o’r farn ein bod ni’n gwneud gwaith hanfodol. Mae cefnogaeth gryf hefyd gan elusennau a’r cyhoedd ar gyfer ein blaenoriaethau rheoleiddio.

Gallwch ddarllen ein blog am gasgliadau’r ymchwil, ac edrych ar yr adroddiad.

5. Cael craffiad allanol elusennau yn gywir

Fel ymddiriedolwyr elusen mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i gael craffiad allanol o gyfrifon eich elusen os yw’r incwm gros yn fwy na £25,000. Y dewisiadau yw archwiliad ariannol, neu os ydych yn ddigon bach, archwiliad annibynnol.

Rydym newydd gyhoeddi fersiwn newydd o’r cyfarwyddiadau a chanllawiau ar gyfer archwilwyr annibynnol CC32, sy’n weithredol o 1 Rhagfyr 2017. Dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod copi o’r canllawiau newydd gan eich archwiliwr. Mae’n rhaid i archwilwyr ddilyn CC32 er mwyn cynnal yr archwiliad yn briodol.

I gael rhagor o wybodaeth ar y gofynion cyfrifyddu, adrodd a chraffu allanol darllenwch adroddiadau a chyfrifon elusennau: yr hanfodion (CC15d).

6. Sut i adrodd digwyddiadau difrifol yn eich elusen

Rydym wedi gwella ein canllawiau i helpu ymddiriedolwyr i nodi digwyddiadau difrifol a sut i adrodd amdanynt.

Mae cyfrifoldeb ar ymddiriedolwyr elusen i nodi digwyddiadau difrifol. Mae digwyddiad difrifol yn ddigwyddiad andwyol, boed yn un gwirioneddol neu honedig, sy’n arwain at neu’n peryglu:

  • colled sylweddol o arian neu asedau eich elusen
  • niwed sylweddol i eiddo eich elusen
  • niwed sylweddol i waith, buddiolwyr neu enw da eich elusen

Os yw digwyddiad difrifol yn codi mae’n rhaid i chi nodi’r hyn a ddigwyddodd ac esbonio sut rydych yn delio â’r digwyddiad, hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i’r heddlu, rhoddwyr neu reoleiddiwr arall.

7. Rhoi grantiau i sefydliad nad yw’n elusen

Diweddarwyd ein canllaw cyllid grant ar gyfer sefydliad nad yw’n elusen yn ddiweddar.

Mae’n esbonio’r egwyddorion sy’n gymwys i roi grantiau a’r prosesau y dylai ymddiriedolwyr eu mabwysiadu i’ch helpu i gydymffurfio â’ch dyletswyddau wrth roi grantiau i sefydliadau (ac elusennau) anelusennol.

Mae’r canllawiau newydd yn nodi’r camau allweddol canlynol:

  • deall dibenion eich elusen: rhoi grantiau ar gyfer prosiectau neu wasanaethau a fydd yn helpu i gyflawni dibenion eich elusen yn unig
  • bod â systemau priodol yn eu lle: derbyn, asesu a gwneud penderfyniadau am geisiadau
  • cynnal prosesau asesu risg a diwydrwydd dyladwy: cynnal gwiriadau priodol ar gyfer ceisiadau cyn gwneud eich penderfyniad
  • deall terfynau cyllido sefydliad nad yw’n elusen: pryd y gallwch (a phryd na allwch) dalu costau cymorth
  • gosod telerau ac amodau ysgrifenedig a systemau priodol ar gyfer monitro gwario’r grant
  • beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le

8. Comisiwn Elusennau yn croesawu ei Brif Weithredwr newydd

Ym mis Gorffennaf, croesawyd ein prif weithredwr newydd Helen Stephenson CBE.

Daeth Helen o’r Adran Addysg, lle y bu’n gyfarwyddwr y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ac mae ganddi brofiad o fod yn uwch arweinydd ar draws y sector cyhoeddus a gwirfoddol. Mae wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwr Swyddfa’r Gymdeithas Sifil hefyd, ac wedi cael rolau uwch yng Nghronfa’r Loteri Fawr a Chymdeithas Shaftesbury.

Dywedodd Helen Stephenson CBE:

Mae’r sector elusennol yn chwarae rôl hanfodol yn ein bywyd cenedlaethol, ac rwy’n falch fy mod i’n ymuno â’r Comisiwn Elusennau ar yr adeg bwysig hon.

Mae’n fraint i arwain y tîm ymroddedig a thalentog yn y Comisiwn ac mae Paula Sussex yn trosglwyddo sefydliad sydd mewn cyflwr arbennig o dda, ac sy’n barod iawn i wynebu heriau’r dyfodol.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda staff y Comisiwn i barhau â’r cynlluniau uchelgeisiol rydym wedi’u gosod.

Ar ôl ei hwythnosau cyntaf gyda’r Comisiwn Elusennau, roedd Helen wedi blogio am ei gweledigaeth o’r Comisiwn, ac ar gyfer y Comisiwn.

9. Diweddariadau i ofynion adrodd sancsiynau ariannol

Mae Swyddfa Sancsiynau Ariannol Trysorlys EM (OFSI) yn gyfrifol am sicrhau bod y sancsiynau ariannol yn cael eu deall, eu gweithredu a’u gorfodi’n gywir yn y Deyrnas Unedig.

Mae wedi diweddaru ei ganllaw i sancsiynau ariannol i gynnwys pennod newydd ar rwymedigaethau adrodd. Gwnaethpwyd hyn er mwyn adlewyrchu estyniad o bwerau OFSI i gymryd camau yn erbyn y rhai nad ydynt yn adrodd gwybodaeth a allai danseilio sancsiynau ariannol.

Anogwn bob elusen i ddarllen ac ymgyfarwyddo â’r canllaw hwn a gweithredu yn unol â’r rhwymedigaethau adrodd sydd wedi’u nodi yn y canllaw.

10. Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

O 25 Mai 2018, bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn dod i rym. Mae’r GDPR yn gymwys i ‘reolwyr’ a ‘phroseswyr’ data.

Mae’r diffiniadau yr un fath yn fras â’r rhai o dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae’r rheolwr yn dweud sut a pham y mae data personol yn cael ei brosesu ac mae’r proseswr yn gweithredu ar ran y rheolwr. Os ydych yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Diogelu Data mae’n debyg y byddwch yn ddarostyngedig i’r GDPR hefyd.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cynhyrchu dogfen ddefnyddiol ‘12 steps to take now’ ac offeryn hunanasesu i’ch helpu i baratoi ar gyfer y rheoliad newydd.

Cynghorwn fod pob elusen yn gwirio gwefan yr ICO yn gyson i gael diweddariadau, a’u bod yn dilyn yr holl ganllawiau a gyhoeddir gan yr ICO am GDPR.

11. Seiberddiogelwch mewn ymchwil elusennau

Mae’r Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi gwneud gwaith ymchwil gydag elusennau sydd wedi cofrestru yn y DU i archwilio eu hymwybyddiaeth, eu hagweddau a’u profiadau ynghylch seiberddiogelwch.

Mae hyn yn rhan o Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol y llywodraeth sy’n ceisio gwneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein.

Gallwch ddarllen yr ymchwil ar seiberddiogelwch mewn elusennau ar wefan GOV.UK. Bydd hyn yn eich helpu i adolygu ac asesu eich prosesau seiberddiogelwch er mwyn cadw’ch elusen yn ddiogel.

12. Wythnos ymwybyddiaeth twyll elusennau

Mae’r ail wythnos ymwybyddiaeth twyll elusennau genedlaethol yn cael ei chynnal rhwng 23-27 Hydref 2017, dan arweiniad y Comisiwn Elusennau a’r Panel Ymgynghorol Twyll ynghyd ag aelodau o’r bartneriaeth Elusennau yn Erbyn Twyll.

Mae’r ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r risgiau o dwyll er mwyn i elusennau fod yn effro i’r arwyddion rhybudd a datblygu ymateb effeithiol.

Mae elusennau yn cael eu hannog i gefnogi’r wythnos trwy eu mentrau eu hunain, a gallant ddilyn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #CharityFraudOut.

Bydd pecynnau cefnogwyr ar gael ar wefan y Panel Ymgynghorol Twyll o 1 Hydref 2017.

13. Cadw mewn cysylltiad â’r Comisiwn Elusennau

Mae ein canolfan gyswllt ar agor 10am - 12 hanner dydd a 1pm - 3pm, Llun - Gwener ar 0300 066 9197. Byddwn yn gallu eich helpu os ydych yn cael problemau technegol gyda’r ffurflen flynyddol, cais i gofrestru neu unrhyw un o’n ffurflenni ar-lein.

Gallwch gofrestru i gael rhybuddion GOV.UK. Hon yw’r ffordd symlaf o gadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael rhybudd.

Mae’n ddefnyddiol i’n dilyn ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd Twitter a LinkedIn. Rhannwn wybodaeth bwysig a diweddariadau yn rheolaidd ar gyfer y sector elusennol.