Canllawiau

Buddsoddi arian elusennol: canllaw i ymddiriedolwyr

Diweddarwyd 1 August 2023

Eich dyletswyddau ymddiriedolwr 

Fel ymddiriedolwyr, eich prif ddyletswydd yw hyrwyddo dibenion eich elusen. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud eich penderfyniadau buddsoddi er mwyn hyrwyddo’r dibenion hynny.

Chi sydd i benderfynu sut i fuddsoddi i gefnogi cyflawni dibenion eich elusen dros amser.

Yn dibynnu ar amgylchiadau eich elusen, mae gennych amrediad eang o opsiynau, ond mae’n rhaid i chi:

  • gydymffurfio â’r dyletswyddau a’r gofynion cyfreithiol a nodir yn y canllaw hwn
  • wneud penderfyniadau er budd pennaf eich elusen

Adolygwch eich dull buddsoddi yn rheolaidd.

Gwneud penderfyniadau

Fel gydag unrhyw benderfyniad ymddiriedolwr arall, wrth wneud eich penderfyniadau buddsoddi mae’n rhaid i chi ddilyn egwyddorion gwneud penderfyniadau da:

  • gweithredu o fewn eich pwerau
  • gweithredu’n ddidwyll a dim ond er buddiannau eich elusen
  • sicrhau eich bod yn cael digon o wybodaeth
  • ystyried yr holl ffactorau perthnasol
  • anwybyddu unrhyw ffactorau amherthnasol
  • rheoli gwrthdaro buddiannau
  • gwneud penderfyniadau sydd o fewn yr ystod o benderfyniadau y gallai corff ymddiriedolwyr rhesymol eu gwneud

Mae gweithredu er budd pennaf eich elusen yn golygu bob amser gwneud yr hyn rydych chi’n penderfynu fydd yn helpu’ch elusen orau i gyflawni ei ddibenion, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Nid yw’n ymwneud â diogelu eich elusen er ei mwyn ei hun.

Fel ymddiriedolwyr, mae’n rhaid i chi beidio â chaniatáu i’ch cymhellion personol, eich barn na’ch buddiannau effeithio ar y penderfyniadau a wnewch.

Cydymffurfiwch â’r egwyddorion a nodir uchod pan fyddwch yn cynllunio, rheoli ac adolygu buddsoddiadau eich elusen. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad cywir a dangos eich bod wedi gweithredu’n briodol.

Gweithredu â gofal a sgìl rhesymol

Fel ymddiriedolwyr:

  • mae’n rhaid i chi ddefnyddio gofal a sgìl rhesymol, gan ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad a cheisio cyngor pan fydd angen
  • dylech roi digon o amser, meddwl ac egni i mewn i’ch rôl. Er enghraifft, trwy baratoi ar gyfer, mynychu a chymryd rhan weithredol ym mhob cyfarfod ymddiriedolwyr

Weithiau gelwir hyn yn ddyletswydd gofal.

Dirprwyo a chadw cofnodion

Dylech gadw cofnod o’ch penderfyniadau buddsoddi a sut y gwnaethoch eu cyrraedd.

Gallwch ddirprwyo rhai penderfyniadau am fuddsoddiadau i bobl eraill. Er enghraifft i:

  • reolwr buddsoddi
  • cronfa neu gynllun buddsoddi cyfunol

Ond eich cyfrifoldeb chi yw’r cyfan.

Darganfod mwy am:

Eich pwerau buddsoddi

Gall pob elusen fuddsoddi, ac mae eich pwerau i fuddsoddi fel arfer yn dod o un neu’r ddau o’r canlynol:

  • eich dogfen lywodraethol
  • y gyfraith

Yn gyffredinol, mae ffynhonnell pwerau buddsoddi eich elusen yn dibynnu ar ei strwythur - boed yn gorfforedig (fel yn achos cwmni elusennol) neu beidio.

Ond yn ymarferol, mae gan y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr bwerau buddsoddi eang tebyg.

Darganfyddwch mwy am bwerau buddsoddi.

Eich dogfen lywodraethol

Gwiriwch eich dogfen lywodraethol ym mhob achos. Gall osod rhai amodau neu gyfyngiadau ar y defnydd o unrhyw bŵer buddsoddi. Er enghraifft, gall:

  • ddweud bod yn rhaid i chi fuddsoddi mewn rhai mathau o fuddsoddiadau neu beidio
  • ddweud bod yn rhaid i chi fuddsoddi rhywfaint neu holl arian eich elusen
  • gynnwys rheolau eraill ynghylch sut mae’n rhaid i chi neu sut y gallwch fuddsoddi

Gwiriwch os yw eich dogfen lywodraethol yn cynnwys unrhyw rai o’r rheolau hyn a sicrhewch eich bod yn eu dilyn.

Dylai eich elusen geisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr am:

  • bwerau buddsoddi eich elusen
  • reolau yn eich dogfen lywodraethol

Budd preifat

Mae’n rhaid i ddibenion elusen fod er budd y cyhoedd.

Fodd bynnag, weithiau, gall y ffordd orau i elusen helpu ei fuddiolwyr olygu bod unigolion neu sefydliadau yn cael budd preifat.

Mae budd preifat yn golygu unrhyw fuddion y mae person neu sefydliad yn eu cael gan eich elusen. Mae budd preifat yn ‘achlysurol’ os yw (gan ystyried ei natur a’i swm) yn ganlyniad neu’n sgil-gynnyrch angenrheidiol i gyflawni dibenion eich elusen.

Gall buddsoddiad y mae eich elusen yn gwneud gynnwys rhywfaint o fudd preifat i eraill, megis perchnogion busnes neu fuddsoddwyr eraill. Mae hyn yn dderbyniol os ydych yn fodlon fod pob un o’r canlynol yn berthnasol i’r budd preifat. Mae’n:

  • ddim mwy nag achlysurol
  • angenrheidiol dan yr amgylchiadau
  • yn rhesymol o ran swm
  • er budd pennaf eich elusen

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio eich barn i benderfynu os yw unrhyw fudd preifat o fuddsoddiad y mae eich elusen yn ei wneud yn dderbyniol, a gweithredu er budd pennaf eich elusen bob amser.

Dysgwch fwy am fudd preifat.

Buddsoddiad ariannol

Buddsoddiad ariannol yw buddsoddi â’r amcan yn y pen draw o wneud arian drwy un neu’r ddau o’r canlynol:

  • cynhyrchu incwm o fuddsoddiad
  • cynyddu gwerth buddsoddiad (twf cyfalaf)

Gelwir unrhyw arian a wnewch o’r buddsoddiad yn enillion ariannol.

Dyma rai enghreifftiau:

  • rhentu adeilad, anelu at gynhyrchu incwm
  • prynu cyfranddaliadau, anelu at gynhyrchu incwm, twf yng ngwerth cyfranddaliadau, neu’r ddau
  • rhoi arian parod ar adnau, gan anelu at gael llog

Gallwch ddefnyddio’r enillion ariannol at ddibenion eich elusen, ond mae rhai rheolau gwahanol yn gymwys pan fydd eich elusen yn buddsoddi gwaddol parhaol.

Eich dyletswyddau ymddiriedolwr penodol - buddsoddiadau ariannol

Yn ogystal â dyletswyddau ymddiriedolwyr cyffredinol, mae rhai dyletswyddau ymddiriedolwyr penodol wrth wneud buddsoddiadau ariannol:

  • ystyried os yw’r buddsoddiadau yn addas ar gyfer eich elusen os byddant yn bodloni ei hamcanion buddsoddi. Mae hyn yn golygu ystyried pa mor addas yw unrhyw fuddsoddiad ar gyfer eich elusen: y math o fuddsoddiad (er enghraifft, cyfranddaliadau) a buddsoddiadau arbennig o fewn y math hwnnw (er enghraifft, cyfranddaliadau mewn busnes penodol)
  • ystyried yr angen i amrywio buddsoddiadau, os yw’n briodol i’ch elusen, er mwyn lledaenu’r risg (er enghraifft, bod yn berchen ar gyfranddaliadau mewn nifer o gwmnïau neu sectorau gwahanol)
  • cymryd cyngor gan rywun sydd â phrofiad o faterion buddsoddi, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â gwneud hyn. Er enghraifft, os oes gennych ddigon o arbenigedd yn eich grŵp ymddiriedolwyr neu os oes gennych fuddsoddiadau cyfyngedig neu werth isel
  • adolygu buddsoddiadau eich elusen ar adegau priodol

Mae’r dyletswyddau cyfreithiol hyn yn gymwys i’ch elusen os yw wedi’i strwythuro fel ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig.

Ar gyfer cwmnïau elusennol, ac elusennau corfforaethol eraill, nid yw’r dyletswyddau hyn yn gymwys fel gofynion cyfreithiol heblaw eu bod wedi’u cynnwys yn nogfen lywodraethol yr elusen. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob ymddiriedolwr eu dilyn. Bydd hyn yn helpu ymddiriedolwyr i ddangos eu bod yn gweithredu er budd pennaf eu helusen ac yn rheoli ei hadnoddau’n effeithiol.

Dulliau enghreifftiol – buddsoddiadau ariannol

Wrth benderfynu ar ddull buddsoddi eich elusen, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’ch dyletswyddau cyffredinol a phenodol fel ymddiriedolwyr a nodir uchod. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr holl faterion sy’n berthnasol i amgylchiadau eich elusen a’ch penderfyniadau am eich dull buddsoddi.

Ar yr amod eich bod yn gwneud hyn, gall y dull buddsoddi y byddwch yn penderfynu arno gynnwys un neu fwy o’r dulliau o’r rhestr ganlynol (nad yw’n hollgynhwysfawr):

  • anelu at yr enillion ariannol gorau y gallwch eu cyflawni yn unig, o fewn lefel y risg rydych wedi’i phenderfynu yn dderbyniol ar gyfer eich elusen
  • ochr yn ochr â’r enillion ariannol rydych yn anelu atynt, gan osgoi buddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion eich elusen. Er enghraifft, gall elusen iechyd benderfynu osgoi buddsoddi mewn cwmnïau sy’n cynhyrchu alcohol, tybaco, neu fwyd sydd wedi’i brosesu’n helaeth yn bennaf; neu elusen amgylcheddol sy’n penderfynu osgoi buddsoddi mewn tanwydd ffosil
  • ochr yn ochr â’r enillion ariannol rydych yn anelu atynt, gan osgoi buddsoddiadau a allai leihau cymorth i’ch elusen neu niweidio ei henw da, yn enwedig ymhlith ei chefnogwyr neu ei fuddiolwyr. Er enghraifft, gall elusen benderfynu osgoi buddsoddi mewn tanwyddau ffosil os yw’r ymddiriedolwyr yn gallu dangos y byddai hyn er eu budd pennaf trwy osgoi niwed i’w henw da neu godi arian. Weithiau disgrifir buddsoddiadau yn y categori hwn fel creu gwrthdaro “anuniongyrchol” â dibenion elusen
  • ochr yn ochr â’r elw ariannol rydych yn anelu ato, yn osgoi neu’n gwneud buddsoddiadau mewn cwmnïau oherwydd eu harfer ar ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) fel: hinsawdd, hawliau dynol, cynaliadwyedd, effaith gymunedol ac atebolrwydd bwrdd. Gallai cymryd y dull hwn fod er budd pennaf eich elusen pe gallai ddiogelu neu wella gwerth ariannol eich buddsoddiadau neu enillion dros amser, neu oherwydd y bydd yn cefnogi cyflawni dibenion eich elusen yn fwy uniongyrchol
  • ochr yn ochr â’r enillion ariannol rydych yn anelu atynt, gan ddefnyddio eich pleidlais cyfranddalwyr, neu gyfleoedd eraill a ddaw gyda’ch buddsoddiad, i ddylanwadu ar arfer cwmnïau y mae eich elusen wedi’i buddsoddi ynddynt. Fel gyda’r enghraifft uchod, gallai cymryd y dull hwn fod er budd pennaf eich elusen oherwydd gallai ddiogelu neu wella gwerth ariannol eich buddsoddiadau neu enillion dros amser, neu oherwydd y bydd yn cefnogi cyflawni dibenion eich elusen yn fwy uniongyrchol.

Buddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion eich elusen

Os byddwch yn nodi y gallai buddsoddiad (cyfredol neu arfaethedig) wrthdaro â dibenion eich elusen neu niweidio ei henw da, mae hyn yn ffactor perthnasol ar gyfer eich penderfyniad.

Mae’r gyfraith yn dweud mai chi sydd i benderfynu os ydych am wneud y buddsoddiad neu beidio, gan weithredu yn unol â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr, a chydbwyso’r canlynol:

  • yr holl ffactorau sy’n berthnasol i amgylchiadau a phenderfyniadau buddsoddi eich elusen
  • maint unrhyw wrthdaro posibl a pha mor debygol a difrifol ydyw
  • unrhyw effaith ariannol bosibl o benderfyniad i eithrio’r buddsoddiad a pha mor debygol a difrifol yw hyn

Y sail gyfreithiol a gyhoeddwyd gyda’r canllaw hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y gyfraith ar fuddsoddiadau ariannol sy’n gwrthdaro.

Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen.

Buddsoddiad cymdeithasol

Yn ogystal â’r dulliau a ddangosir yn y rhestr uchod, gallwch hefyd fuddsoddi â’r bwriad o gyflawni dibenion eich elusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad a gwneud elw ariannol.

Mae cyfraith elusennau yn galw hyn yn fuddsoddiad cymdeithasol.

Os yw eich elusen yn gwneud buddsoddiad cymdeithasol, mae’r dyletswyddau ymddiriedolwyr penodol sy’n berthnasol yn wahanol i’r rhai sy’n berthnasol i fuddsoddiad ariannol.

Dysgwch fwy am ddulliau buddsoddi cymdeithasol yn adran nesaf y canllaw hwn.

Elusennau sy’n buddsoddi arian dros ben yn bennaf

Mae rhoi arian dros ben ar adnau yn cyfrif fel buddsoddiad. Er bod y dyletswyddau ymddiriedolwyr sy’n berthnasol yr un fath, mae’n debygol mai adran ddiweddarach o’r canllaw hwn fydd fwyaf defnyddiol ar gyfer elusennau sy’n buddsoddi arian yn bennaf.

Mae’r adrannau eraill yn y canllaw hwn yn darparu manylion yn bennaf ar gyfer elusennau sydd ag amrediad ehangach o fuddsoddiadau.

Buddsoddiad cymdeithasol

Nid yw pob elusen yn gwneud buddsoddiadau cymdeithasol. Ymdrinnir â buddsoddiadau cymdeithasol ar wahân, ac yn fanylach yma, oherwydd bod dyletswyddau ymddiriedolwyr penodol yn gymwys.

Beth mae buddsoddiad cymdeithasol yn ei olygu

Mae Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd) yn dweud mai buddsoddiad cymdeithasol yw pan fydd ymddiriedolwyr elusen yn defnyddio arian neu eiddo â’r bwriad o:

  • gyflawni dibenion eu helusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad
  • wneud elw ariannol

Mae’r diffiniad hwn yn cwmpasu amrediad o ddulliau gweithredu a ganiateir y mae elusennau ac eraill yn rhoi enwau gwahanol iddynt.

Er enghraifft:

  • elusen lleddfu tlodi sy’n gwneud rhai buddsoddiadau mewn tai fforddiadwy, meddygaeth fforddiadwy, neu mewn cwmnïau sy’n talu cyflog byw i weithwyr, ochr yn ochr â’r elw ariannol y mae’r ymddiriedolwyr yn anelu ato o’r buddsoddiad. Mae hyn yn helpu i gael effaith gadarnhaol i gefnogi dibenion yr elusen, tra bod arian yr elusen yn cael ei fuddsoddi
  • elusen ddatblygu sy’n rhoi benthyciad i fusnes ffermio ar raddfa fach. Mae hyn yn helpu i gyflawni dibenion yr elusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad drwy ddod â buddion i’r boblogaeth leol, yn ogystal â darparu enillion ariannol o log ar y benthyciad ac ad-daliad ohono.

Gall buddsoddiad cymdeithasol fod ar sawl ffurf fel:

  • gwneud benthyciadau
  • cymryd ymrwymiad, er enghraifft trwy roi gwarant
  • prynu cyfranddaliadau mewn cwmni preifat

Mae Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd) yn rhoi pŵer i elusennau wneud buddsoddiadau cymdeithasol, ac eithrio elusennau a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol neu ddeddfwriaeth. Gall y mathau hyn o elusennau ddibynnu ar eu pwerau dogfen lywodraethol i wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr ynghylch pwerau buddsoddi eich elusen.

Dyletswyddau ymddiriedolwyr

Wrth wneud eich penderfyniadau buddsoddi cymdeithasol mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r ddau a ganlyn:

  • eich dyletswyddau cyffredinol fel ymddiriedolwyr a’r egwyddorion gwneud penderfyniadau y cyfeirir atynt ar ddechrau’r canllaw hwn
  • dyletswyddau cyfreithiol penodol sy’n berthnasol i fuddsoddiad cymdeithasol, a nodir isod. Mae’r rhain yn wahanol i’r dyletswyddau cyfreithiol penodol sy’n berthnasol i fuddsoddiad ariannol

Ym mhob achos, gwiriwch a dilynwch unrhyw reolau dogfen lywodraethol ynghylch os gall neu sut y gall eich elusen wneud buddsoddiadau cymdeithasol.

Buddsoddiad cymhelliad cymysg a sy’n gysylltiedig â rhaglen 

Mae’r Comisiwn wedi defnyddio’r termau canlynol o’r blaen:

  • “buddsoddiad sy’n gysylltiedig â rhaglen” i ddisgrifio elusennau sy’n buddsoddi’n bennaf i gyflawni eu dibenion
  • “buddsoddiad cymhelliad cymysg” i ddisgrifio elusennau sy’n buddsoddi i wneud elw ariannol a chyflawni eu dibenion

Nid ydym yn defnyddio’r termau hyn rhagor oherwydd ein bod o’r farn bod y gweithgareddau y maent yn eu disgrifio yn debygol o gael eu cwmpasu gan ddiffiniad y gyfraith elusennau o fuddsoddiad cymdeithasol.

Os oes gan eich elusen fuddsoddiadau rydych yn eu disgrifio ar hyn o bryd fel rhai “cysylltiedig â rhaglen” neu “gymhelliad cymysg,” efallai yr hoffech ailystyried sut rydych yn eu hadnabod. Ond chi sydd i benderfynu pa dermau a ddefnyddiwch yn eich elusen i ddisgrifio buddsoddiad sydd o fewn diffiniad y gyfraith elusennau o fuddsoddiad cymdeithasol.

Dylech nodi bod y SORP Elusennau FRS 102 yn dal i ddefnyddio (ac yn diffinio) y termau buddsoddiadau “sy’n gysylltiedig â rhaglen” a “chymhelliant cymysg”, felly mae’r telerau’n dal yn berthnasol wrth ystyried y driniaeth gyfrifo ar gyfer y mathau hyn o fuddsoddiadau.

Dilynwch y canllawiau isod ar gyfer cynllunio, rheoli ac adolygu’r buddsoddiadau hyn.

Beth yw elw ariannol o fuddsoddiad cymdeithasol

Mae buddsoddiad cymdeithasol yn sicrhau enillion ariannol os yw eich elusen, mewn termau ariannol, yn well ei byd o’r buddsoddiad nag y byddai pe bai’r arian neu’r eiddo yn cael ei wario.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid disgwyl i o leiaf rhywfaint o arian ddod yn ôl i’ch elusen o fuddsoddiad cymdeithasol. Gall yr elw ariannol disgwyliedig ar fuddsoddiad cymdeithasol fod yn adenillion o’r arian a fuddsoddwyd, ynghyd â thwf cyfalaf neu incwm.

Gall hefyd fod pan fydd eich elusen ond yn disgwyl derbyn rhywfaint neu’r cyfan o’r arian a fuddsoddwyd gennych yn ôl, heb unrhyw dwf cyfalaf nac incwm.

Pan fyddwch chi’n gwneud buddsoddiad cymdeithasol, gallwch chi benderfynu beth rydych chi’n anelu ato:

  • o’r enillion ariannol; a

  • thrwy helpu i gyflawni dibenion eich elusen

Nid oes rhaid i chi nodi’r union elw rydych yn bwriadu eu gwneud ar gyfer pob un o’r canlyniadau hyn, ond gallwch benderfynu gwneud hyn.

Dylai fod gennych rywfaint o gofnod o’ch nodau a’ch elwau disgwyliedig fel y gellir eu hadolygu os oes angen. Mae’n rhaid i chi fod yn fodlon, gyda’i gilydd, bod yr elw disgwyliedig er budd pennaf eich elusen.

Darllenwch yr adran hon o’r canllaw, os ydych yn defnyddio gwaddol parhaol eich elusen i wneud buddsoddiadau cymdeithasol.

Gwneud penderfyniadau am fuddsoddiadau cymdeithasol

Wrth benderfynu os yw buddsoddiad cymdeithasol er budd pennaf eich elusen, cydymffurfiwch â’r egwyddorion gwneud penderfyniadau a meddyliwch am:

  • sut mae’r buddsoddiad cymdeithasol yn cyd-fynd â sefyllfa ariannol gyffredinol, cynlluniau gwariant a chynlluniau eich elusen ar gyfer cyflawni ei ddibenion

  • yr hyn rydych yn ei ddisgwyl o’r buddsoddiad - yr elw ariannol a’ch helpu i gyflawni dibenion eich elusen

  • y risg na fydd y buddsoddiad cymdeithasol yn cyflawni (neu’n tanberfformio) ar eich disgwyliadau

  • gost gwneud y buddsoddiad

  • faint o amser rydych yn bwriadu buddsoddi arian eich elusen, a’ch trefniadau ymadael

  • sut y byddwch yn mesur ac yn monitro perfformiad y buddsoddiad cymdeithasol

  • y driniaeth dreth y buddsoddiad

Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol penodol i gymryd cyngor ar unrhyw fuddsoddiadau cymdeithasol ac adolygu’r rhain.

Eich dyletswydd i gymryd cyngor

Cyn i chi wneud unrhyw fuddsoddiadau cymdeithasol, mae’n rhaid i chi wneud pob un o’r canlynol:

  • penderfynwch os dylech gymryd unrhyw gyngor am y buddsoddiad cymdeithasol arfaethedig

  • ystyriwch unrhyw gyngor a gymerwch

  • bod yn fodlon fod y buddsoddiad cymdeithasol er budd eich elusen, gan ystyried yr hyn rydych yn disgwyl wrth helpu i gyflawni dibenion eich elusen a gwneud elw ariannol

Efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol, ariannol neu gyfrifyddu arnoch ar eich cynigion.

Yn dibynnu ar arbenigedd perthnasol y cynghorydd gallai hyn fod, er enghraifft:

  • person proffesiynol y tu allan i’ch elusen

  • ymddiriedolwr

  • eich staff

Fel ymddiriedolwyr, mae’n rhaid i chi ystyried y cyngor a bod yn fodlon fod y buddsoddiad cymdeithasol er budd yr elusen.

Cadwch gofnod o’ch penderfyniadau a’r rhesymau drostynt.

Eich dyletswydd i adolygu buddsoddiadau cymdeithasol eich elusen

Mae’n rhaid i chi adolygu buddsoddiadau cymdeithasol eich elusen. Dewiswch gyfnodau adolygu sy’n adlewyrchu amgylchiadau eich elusen.

Fel rhan o’ch adolygiad, mae’n rhaid i chi ystyried os oes angen unrhyw gyngor arnoch. Gall os oes angen cyngor arnoch newid â phob adolygiad.

Gwarantau

Er nad yw gwarantau fel arfer yn fuddsoddiadau, gellir eu rhoi fel buddsoddiad cymdeithasol.

Mae rhoi gwarant yn golygu cytuno i fod yn gyfrifol am dalu costau neu rwymedigaethau a fyddai fel arall yn cael eu talu gan rywun arall.

Er enghraifft, elusen ddigartrefedd yn cytuno i dalu rhent tenant i landlord os nad yw’r tenant yn ei dalu.

Os ydych yn rhoi gwarant fel buddsoddiad cymdeithasol, mae’n rhaid i chi gyflawni dibenion eich elusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad fel rhan o’ch cymhelliant.

Mae’r diffiniad o enillion ariannol yn wahanol os ydych yn rhoi gwarant fel buddsoddiad cymdeithasol. Byddwch yn cael enillion ariannol o roi gwarant os bydd un o’r canlynol yn digwydd:

  • ni chaiff y warant ei alw

  • dim ond yn rhannol y mae’r warant yn cael ei alw

Mae hyn yn golygu, yn wahanol i fathau eraill o fuddsoddiad cymdeithasol, gall gwarant fod yn fuddsoddiad cymdeithasol heb ddisgwyliad y bydd unrhyw arian yn dod yn ôl i’ch elusen.

Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y mae rhoi gwarant yn debygol o fod yn briodol a dylech ddeall y risgiau rydych yn eu cymryd wrth roi gwarant.

Pennu polisi buddsoddi eich elusen

Mae’n rhaid i’ch penderfyniadau am eich polisi buddsoddi:

  • fod er budd pennaf eich elusen

  • gydymffurfio â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr ac egwyddorion gwneud penderfyniadau da

Eich amcanion buddsoddi

Wrth feddwl am yr hyn rydych yn anelu ato o fuddsoddiadau eich elusen, mae’n rhaid i chi benderfynu beth sydd er budd pennaf eich elusen, gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol gan gynnwys:

  • y swm sydd gennych i’w fuddsoddi

  • sefyllfa ariannol gyffredinol eich elusen, gan gynnwys ei hanghenion hirdymor a byrdymor

  • sut rydych wedi penderfynu y dylai eich buddsoddiadau gyfrannu at sefyllfa a darpariaeth ariannol eich elusen o’i ddibenion

Yn dibynnu ar amgylchiadau eich elusen, efallai y byddwch yn penderfynu ei bod yn well i’ch elusen ganolbwyntio ar un neu fwy o’r canlynol:

  • cael y swm uchaf o incwm y gallwch, neu gadw incwm yn sefydlog

  • cynyddu gwerth eich buddsoddiadau, neu gadw gwerth yn sefydlog

  • cyflawni dibenion eich elusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad

Mae rhai rheolau gwahanol yn berthnasol i’ch amcan buddsoddi pan fydd eich elusen yn buddsoddi gwaddol parhaol.

Wrth osod polisi buddsoddi eich elusen dylech hefyd feddwl am eich:

  • amserlen ar gyfer buddsoddi

  • mynediad at arian eich elusen

  • agwedd at risg

Eich amserlen ar gyfer buddsoddi

Dylech ystyried amserlen eich elusen ar gyfer buddsoddi.

Meddyliwch am ba mor hir rydych chi’n bwriadu buddsoddi arian eich elusen.

Mae rhai buddsoddiadau yn fwy addas fel buddsoddiadau tymor byr ac mae eraill yn well ar gyfer y tymor canolig neu’r tymor hir.

Gall eich amserlen ar gyfer buddsoddi hefyd ddylanwadu ar faint o risg rydych yn fodlon ei derbyn er mwyn sicrhau lefel arbennig o enillion i’ch elusen.

Mynediad at arian eich elusen (hylifedd)

Meddyliwch os byddwch chi’n gallu cael gafael ar arian eich elusen pan fydd ei angen arnoch chi.

Ni allwch drosi rhai mathau o fuddsoddiadau yn arian parod mor gyflym ag eraill.

Eich agwedd at risg

Mae’r rhan fwyaf o fuddsoddiadau yn cynnwys risg. Fel ymddiriedolwyr, dylech sicrhau eich bod yn:

  • adnabod a rheoli risg

  • ystyried risgiau tymor byr a hirdymor

  • penderfynu pa lefel o risg rydych yn fodlon ei derbyn er mwyn cyflawni lefel arbennig o enillion i’ch elusen. Fel rhan o’ch dyletswyddau dylech fod yn fodlon bod lefel gyffredinol y risg rydych yn ei chymryd yn briodol i’ch elusen a’i hamgylchiadau

  • ceisio cyngor proffesiynol, lle’n briodol, ar agwedd eich elusen at risg, a’r mathau o risg a allai fod yn berthnasol i’ch elusen

Mae enghreifftiau o risgiau ariannol y gallai fod angen i chi eu hystyried yn cynnwys:

  • risg cyfalaf: colli rhywfaint, neu’r cyfan, o’r arian a fuddsoddwyd gennych os bydd buddsoddiad yn methu

  • risg y farchnad: colled oherwydd amrywiadau yn y marchnadoedd ariannol

  • risg sector: colled o gael gormod o’ch buddsoddiadau mewn un sector

  • risg arian cyfred: colled o newidiadau i gyfraddau cyfnewid buddsoddiad a brisiwyd mewn arian cyfred gwahanol

  • risg amgylcheddol, cymdeithasol neu lywodraethol (ESG): colled oherwydd arfer ESG gwael gan gwmni rydych wedi buddsoddi ynddo

  • risg reoleiddiol: colled oherwydd buddsoddi mewn buddsoddiadau heb eu rheoleiddio, neu mewn marchnadoedd lle mae rheoleiddio gwasanaethau ariannol yn llai trwyadl neu lle nad oes cynlluniau iawndal ar waith

Mae enghreifftiau o risgiau eraill i’ch elusen y dylech eu hystyried yn cynnwys:

  • risg i enw da: llai o gymorth i’ch elusen neu niwed i’w henw da o ganlyniad i’ch dull buddsoddi

  • risg sy’n gysylltiedig â chyflawni dibenion eich elusen o fuddsoddiadau sy’n gwrthdaro â nhw

Ysgrifennu eich dogfen polisi buddsoddi

Mae’n rhaid i chi gael polisi buddsoddi ysgrifenedig os yw eich dogfen lywodraethol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael un neu os yw eich elusen:

  • wedi’i strwythuro fel ymddiriedolaeth, neu’n gymdeithas anghorfforedig, ac

  • yn rhoi pwerau i reolwr buddsoddi wneud penderfyniadau buddsoddi ar eich rhan

Os yw eich elusen yn gwmni, neu’n fath arall o elusen gorfforedig, nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gael polisi buddsoddi ysgrifenedig heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n buddsoddi gael polisi ysgrifenedig. Gall hon fod yn ddogfen syml os yw eich swm ar gyfer buddsoddiad yn fach.

Gallwch gael cyngor wrth osod eich polisi buddsoddi, ond dylech sicrhau eich bod:

  • yn ystyried y cyngor yn wrthrychol, ac yn gwneud yr hyn sydd orau i’ch elusen

  • yn nodi a rheoli unrhyw botensial gwrthdaro buddiannau sy’n effeithio ar gynghorydd

Sicrhewch fod yr holl ymddiriedolwyr, staff perthnasol, is-bwyllgorau a’ch cynghorwyr proffesiynol yn gyfarwydd â’ch polisi, ac os yw’n briodol yn gallu ei weithredu.

Dylai eich polisi gynnwys dibenion a chynlluniau eich elusen a sut mae eich buddsoddiadau yn cyd-fynd â’r rhain

Gall hefyd gynnwys y canlynol, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich elusen:

  • beth, os o gwbl, mae dogfen lywodraethol eich elusen yn dweud am sut mae’n rhaid i chi fuddsoddi

  • amcanion buddsoddi eich elusen, gan gynnwys unrhyw ffactorau perthnasol o ran enw da a ffactorau anariannol eraill

  • unrhyw sectorau neu sefydliadau yr ystyriwch eu bod yn gwrthdaro â dibenion eich elusen

  • eich amserlen ar gyfer buddsoddi - tymor byr, canolig neu hir

  • pa mor hawdd neu aml y mae angen mynediad at arian eich elusen

  • agwedd eich elusen at risg

  • eich ymagwedd, os o gwbl, at ffactorau ESG a’ch ymgysylltiad â’r cwmnïau rydych yn buddsoddi ynddynt

  • sut y byddwch yn monitro ac adolygu eich buddsoddiadau, gan gynnwys meincnodau allweddol

  • pwy yw eich cynghorwyr buddsoddi a rheolwyr, eu cyfrifoldeb a’u cylch gwaith, a sut y byddwch yn gweithio gyda nhw

Adolygwch eich polisi yn rheolaidd a’i drafod ag ymddiriedolwyr newydd.

Mae’n annhebygol y bydd gan y Comisiwn bryderon am eich penderfyniadau neu bolisi buddsoddi os gallwch ddangos eich bod wedi:

  • cydymffurfio â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr a’ch dogfen lywodraethol

  • ystyried a chydbwyso ffactorau perthnasol

  • cymryd cyngor, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â gwneud hynny.

  • dod i benderfyniad rhesymol

Mathau o fuddsoddiad

Mae enghreifftiau o fuddsoddiadau ariannol yn cynnwys:

  • adneuon arian parod sy’n dwyn llog mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu

  • cyfranddaliadau mewn cwmni preifat neu restredig (ecwitïau)

  • benthyciadau sy’n dwyn llog i gwmni neu’r llywodraeth (bondiau neu giltiau)

  • benthyciadau i elusennau neu fentrau cymdeithasol eraill

  • adeiladau neu dir

  • cynlluniau buddsoddi cyfunol, gan gynnwys y rhai y gall elusennau yn unig fuddsoddi ynddynt megis cronfeydd adnau cyffredin or charity authorised investment funds

  • cronfeydd rhagfantoli

  • nwyddau

  • deilliadau

Gall buddsoddiadau cymdeithasol fod ar amrywiaeth o ffurfiau megis:

  • benthyciadau

  • rhoi gwarantau

  • buddsoddi yn ecwiti cwmni preifat

Nid yw pob un o’r opsiynau hyn yn gyffredin nac yn brif ffrwd i bob elusen. Nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr a bydd cynhyrchion a dulliau buddsoddi newydd ar gael dros amser.

Ym mhob achos mae’r Comisiwn yn disgwyl i chi ystyried:

  • pa mor addas yw unrhyw fuddsoddiad i’ch elusen - bydd hyn yn cael ei ddylanwadu gan eich agwedd at risg ar draws eich portffolio buddsoddi

  • yr angen i gael cymysgedd o asedau yn eich portffolios - gall hyn ddiogelu eich buddsoddiadau rhag amrywiadau sydyn yn y farchnad a lleihau’r risg o golled

Buddsoddiadau risg uchel

Gall rhai buddsoddiadau fod yn risg uwch. Mae’r rhain yn debygol o fod yn addas dim ond os oes gan eich elusen ddigon o fuddsoddiadau i ledaenu risg yn effeithiol a byddant yn dibynnu ar eich lefel risg y cytunwyd arni a ffactorau eraill megis maint cronfa fuddsoddi eich elusen.

Er efallai na fyddwch yn gallu cyfiawnhau polisi buddsoddi sy’n golygu ysgwyddo lefel uchel o risg gyffredinol, efallai y byddai’n briodol cynnwys rhai buddsoddiadau risg uchel yn y portffolio cyffredinol.

Dylech geisio cyngor proffesiynol os ydych yn meddwl am fuddsoddiadau risg uchel. Gallwch hefyd ddarganfod pa fuddsoddiadau sydd â diogelwch rheoleiddiol.

Mae asedau crypto yn enghraifft o fuddsoddiad risg uchel. Mae’n annhebygol o fod yn addas i’r rhan fwyaf o elusennau fuddsoddi mewn asedau crypto. Mae’r buddsoddiadau hyn yn risg uchel iawn ac ychydig iawn o amddiffyniadau sydd ganddynt os aiff rhywbeth o’i le.

Mae’n rhaid i chi ddeall y risgiau o fuddsoddi mewn asedau crypto cyn unrhyw fuddsoddiad, gan y gallent golli eu gwerth.

Fel gyda buddsoddiadau risg uchel eraill, dylech fod yn sicr bod gennych yr arbenigedd i reoli’r risgiau hyn yn ofalus. Os aiff rhywbeth o’i le, byddai’r Comisiwn yn disgwyl tystiolaeth glir o pam y gwnaethoch y buddsoddiadau hyn a gallech fod yn atebol am golledion.

Dysgwch fwy am elusennau sy’n berchen ar asedau crypto.

Buddsoddi yng nghwmni masnachu eich elusen

Mae rhai elusennau yn sefydlu cwmni ar wahân i fasnachu i godi arian neu i gefnogi eu gwaith mewn ffyrdd eraill.

Darllenwch y canllaw hwn cyn buddsoddi arian eich elusen yn ei chwmni masnachu.

Buddsoddi mewn cwmnïau sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolwyr

Dylech fod yn arbennig o ofalus cyn penderfynu buddsoddi mewn cwmni sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolwr. Yn benodol:

  • mae’n rhaid i chi wirio a yw dogfen lywodraethol eich elusen yn caniatáu hyn

  • dylech ystyried cymariaethau â buddsoddiadau eraill sydd ar gael, a gwneud asesiad gwrthrychol a manwl o iechyd a rhagolygon ariannol y cwmni

  • dylech ystyried cael cyngor ar iechyd ariannol y cwmni a’r buddsoddiad

  • mae’n rhaid i chi adolygu’r buddsoddiad ar adegau addas

  • mae’n rhaid i chi fod yn fodlon bod gwrthdaro buddiannau wedi’u nodi a’u rheoli

  • mae’n rhaid i chi fod yn fodlon bod unrhyw fudd preifat i ymddiriedolwr yn dderbyniol

Cyn buddsoddi arian eich elusen mewn cwmni sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolwr mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’ch dyletswydd i ystyried os yw’r buddsoddiad yn addas ar gyfer eich elusen. Mae hyn yn gymwys fel gofyniad cyfreithiol yn unig os yw eich elusen wedi’i strwythuro fel:

  • ymddiriedolaeth

  • cymdeithas anghorfforedig

Os yw eich elusen yn gwmni, neu’n fath arall o elusen gorfforedig, nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n gwneud buddsoddiadau ariannol ystyried os yw buddsoddiad yn addas i’w helusen.

Cymryd cyngor a dirprwyo

Goruchwyliaeth ymddiriedolwyr

Mae gennych chi a’r ymddiriedolwyr eraill gyfrifoldeb cyffredinol am fuddsoddi arian eich elusen.

Gallwch ddirprwyo rhai penderfyniadau am fuddsoddiadau i eraill, ond fel ymddiriedolwyr mae’r cyfrifoldeb yn parhau i fod gennych chi.

Yn dibynnu ar y swm y mae’n rhaid i’ch elusen ei fuddsoddi, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi:

  • gael o leiaf un ymddiriedolwr â gwybodaeth arbenigol am fuddsoddiadau

  • feddwl pa fathau eraill o brofiad a gwybodaeth fyddai’n helpu’ch elusen i gyflawni ei pholisi a’i hamcanion buddsoddi

  • gael is-bwyllgor buddsoddi o ymddiriedolwyr a staff i’ch cynghori

Cymryd cyngor proffesiynol

Mae’n rhaid i chi geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â gwneud hynny os yw eich elusen wedi’i strwythuro fel:

  • ymddiriedolaeth

  • cymdeithas anghorfforedig

Os yw eich elusen yn gwmni, neu’n fath arall o elusen gorfforedig, nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n buddsoddi wneud hyn.

Dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a dylai gael ei roi gan rywun sydd â phrofiad o faterion ariannol a materion eraill sy’n berthnasol i ddull buddsoddi eich elusen. Rhoddir cyngor fel arfer gan:

  • reolwr buddsoddi neu gynghorydd

  • ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd â phrofiad a gallu perthnasol

Efallai y byddwch yn penderfynu nad oes angen cyngor proffesiynol allanol arnoch. Er enghraifft, efallai bod gennych:

  • ddigon o arbenigedd yn eich elusen

  • fuddsoddiadau cyfyngedig, gwerth isel

Cadwch gofnod o’ch rhesymau os penderfynwch beidio â chymryd cyngor proffesiynol allanol.

Cael cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr

Os ydych yn ymddiriedolwr sy’n rhoi cyngor proffesiynol i’ch elusen, chi sy’n gyfrifol am ansawdd y cyngor hwnnw.

Fel cynghorwyr eraill, gallwch gael eich dal yn gyfrifol os nad yw eich elusen yn bodloni ei hamcanion buddsoddi oherwydd cyngor gwael.

Os yw eich elusen yn ceisio cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr, mae’n rhaid i chi:

  • ystyried y cyngor yn wrthrychol, a gwneud yr hyn sydd orau i’ch elusen

  • nodi a rheoli unrhyw botensial gwrthdaro buddiannau sy’n effeithio ar ymddiriedolwr sy’n rhoi cyngor

Defnyddio rheolwr buddsoddi

Efallai y bydd angen cymorth proffesiynol ychwanegol arnoch i reoli eich buddsoddiadau.

Gall rheolwyr buddsoddi wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol:

  • rhoi cyngor i chi ar gynllunio a rheoli buddsoddiadau eich elusen (rheolaeth ymgynghorol)

  • mae ganddynt rai pwerau i wneud penderfyniadau buddsoddi ar eich rhan (rheolaeth ddewisol)

Mae nifer o elusennau yn rhedeg proses dendro ffurfiol wrth ddewis rheolwr buddsoddi.

Wrth eu dewis, dylech feddwl am:

  • sut y byddant yn cyflawni eich polisi buddsoddi, gan gynnwys unrhyw amcanion enw da ac anariannol eraill

  • y math a nifer y portffolios y mae’r darparwr yn eu rheoli

  • werth yr asedau y maent yn eu rheoli

  • eu profiad o reoli buddsoddiadau elusen

  • eu ffioedd a’u taliadau yn y tymor byr a’r hirdymor

  • eu proses dewis buddsoddiad ac adolygu risg

  • eu gallu i addasu eu hymagwedd i weddu i’ch elusen

  • os oes angen mwy nag un rheolwr buddsoddi arnoch - i helpu i ledaenu risg neu i gael mynediad at gynnyrch neu farchnad benodol

Cymharu rheolwyr buddsoddi a chostau ac ystyried cyfarfod â darparwyr ar y rhestr fer.

Wrth ddewis eich rheolwr dylech fod yn fodlon:

  • bod y rheolwr yn gallu cyflawni polisi ac amcanion buddsoddi eich elusen

  • bod trefniadau adrodd yn eu lle

  • eich bod yn gwybod pa daliadau a thaliadau i’w disgwyl

  • eich bod yn gwybod am unrhyw fuddion y bydd y rheolwr neu unrhyw un arall yn eu cael o dan eich cytundeb ag ef

  • bod costau’r trefniant yn werth da am arian eich elusen - gallwch geisio cyngor i’ch helpu i benderfynu ar hyn

Dirprwyo gwneud penderfyniadau i reolwr buddsoddi (rheolaeth ddewisol)

Mae rhai rheolau ychwanegol os byddwch yn rhoi pwerau i’ch rheolwr buddsoddi wneud penderfyniadau buddsoddi ar eich rhan.

Mae’n rhaid i chi gael y ddau o’r canlynol os yw eich elusen wedi’i strwythuro fel ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig:

  • datganiad polisi buddsoddi ysgrifenedig

  • contract ffurfiol â’r rheolwr

Os yw eich elusen yn gwmni, neu’n fath arall o elusen gorfforedig, nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n gwneud buddsoddiadau ariannol wneud hyn.

Mae’n rhaid i’ch polisi buddsoddi gwmpasu’r canlynol:

  • cylch gwaith a chyfrifoldebau eich rheolwr buddsoddi: pa benderfyniadau y gallant ac na allant eu gwneud

  • arweiniad i’ch rheolwr ar sut y dylid gwneud penderfyniadau buddsoddi ar ran eich elusen

  • y bydd swyddogaethau dirprwyedig y rheolwr yn cael eu cyflawni er budd pennaf eich elusen

Ni ddylai eich rheolwr buddsoddi baratoi eich polisi buddsoddi. Dyna yw eich rôl fel ymddiriedolwyr. Ond:

  • rydych yn gallu cael cyngor arbenigol annibynnol ar ei gynnwys

  • efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ymgynghori â’ch rheolwr buddsoddi i sicrhau bod ei delerau’n ymarferol ac yn gyraeddadwy

Mae’n rhaid i’ch contract ffurfiol â’ch rheolwr buddsoddi dewisol ei wneud yn ofynnol iddynt weithredu yn unol â’ch datganiad polisi rheoli buddsoddi. Gallwch gynnwys y gofyniad hwn yn y contract.

Ni ddylai’r contract, heblaw ei fod yn rhesymol angenrheidiol:

  • ganiatáu i’r rheolwr benodi dirprwy

  • leihau dyletswydd gofal arferol y rheolwr buddsoddi na gosod cap ar ei atebolrwydd am dorri contract

  • ganiatáu i’r rheolwr weithredu mewn sefyllfaoedd a allai arwain at wrthdaro buddiannau

Dylech adolygu’r contract yn rheolaidd.

Os ydych wedi dirprwyo cyfrifoldebau pleidleisio i’ch rheolwr buddsoddi, dylech fod yn ymwybodol o bolisi pleidleisio’r rheolwr. Dylech gymryd camau rhesymol i ddeall sut mae eich rheolwr buddsoddi wedi pleidleisio ar eich rhan.

Adolygu perfformiad eich rheolwr buddsoddi

Os ydych wedi penodi rheolwr buddsoddi ar gyfer eich elusen, dylech adolygu’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu yn rheolaidd. Dylai hyn ddigwydd yn annibynnol ar y rheolwr.

Dylech chi a’r ymddiriedolwyr eraill gynnal yr adolygiad hwn eich hunain, neu gall person neu sefydliad annibynnol weithio gyda chi.

Fel rhan o’ch adolygiad, mae’n rhaid i chi ystyried:

  • pa mor dda y mae’r rheolwr yn perfformio

  • os yw’r rheolwr yn cydymffurfio â pholisi buddsoddi eich elusen

  • os yw telerau’r penodiad yn dal yn briodol

  • os yw’r rheolwr yn dal yn addas ar gyfer y rôl

Dylech fod yn barod i ymyrryd drwy, er enghraifft:

  • roi cyfarwyddiadau i’ch rheolwr buddsoddi

  • newid neu ddod â’ch cytundeb â nhw i ben

Buddsoddi mewn cronfa neu gynllun buddsoddi cyfun neu gyfunol

Dyma ffordd arall o gael mynediad at reolaeth broffesiynol o fuddsoddiadau eich elusen, ochr yn ochr â buddion eraill.

Mae’r trefniadau hyn yn caniatáu i chi gyfuno’ch asedau ar gyfer buddsoddi ag asedau buddsoddwyr eraill, gan gynnwys rhai y gall elusennau yn unig eu defnyddio.

Gall buddsoddi mewn cynllun fel hwn fod yn rhan neu’n gyfan gwbl o ymagwedd elusen, os yw’r ymddiriedolwyr yn penderfynu bod hyn yn briodol.

Os oes gennych symiau llai i’w buddsoddi, gall eu cronni gydag arian buddsoddwyr eraill arbed arian i chi a’ch helpu i ledaenu risg.

Cyn buddsoddi mewn cronfa gyfun dylech fod yn fodlon ei fod yn bodloni anghenion eich elusen, gan ystyried:

  • nodau’r cynllun a sut mae’n cyd-fynd â’ch polisi buddsoddi

  • ymagwedd y cynllun at unrhyw ffactorau enw da a ffactorau anariannol eraill sy’n rhan o bolisi ac amcanion buddsoddi eich elusen

  • faint o reolaeth sydd gennych dros y penderfyniadau a wneir yn y cynllun

  • addasrwydd y rheolwr buddsoddi

  • sut mae’n adrodd ar berfformiad

  • ei chymysgedd o asedau

  • sut mae’n lledaenu risg

  • ei chostau a’i thaliadau

Adolygwch gymryd rhan mewn cronfa gyfun yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion eich elusen.

Darganfyddwch fwy am gronfeydd buddsoddi cyfun neu gyfunol .

Gwasanaethau ar gyfer dal buddsoddiadau

Os yw eich elusen yn gwmni neu’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), neu’n gorff corfforaethol arall, gall ddal buddsoddiadau yn ei henw ei hun.

Ar gyfer mathau eraill o elusennau, megis ymddiriedolaethau ac elusennau anghorfforedig eraill, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ddal buddsoddiadau yn eu henwau ar ran eu helusen. Ar gyfer yr elusennau hyn gall arbed costau a bod yn fwy cyfleus penodi enwebai neu geidwad i ddal buddsoddiadau, ond gall unrhyw fath o elusen wneud y penodiadau hyn.

Adolygu ac adrodd ar eich buddsoddiadau

Dylech gytuno ar y targed ar gyfer enillion a chanlyniadau eraill y byddwch yn eu defnyddio i asesu perfformiad eich buddsoddiadau dros gyfnod o amser y cytunwyd arno.

Ystyriwch gael cyngor arbenigol annibynnol i’ch helpu i osod eich targedau.

Os yw eich elusen yn defnyddio rheolwr buddsoddi, gall weithio gyda chi i adolygu perfformiad buddsoddiadau eich elusen.

Gallwch hefyd gymharu perfformiad â pherfformiad elusennau gydag amcanion buddsoddi tebyg.

Dylech adolygu buddsoddiadau eich elusen yn rheolaidd, ac efallai y bydd angen i chi gynnal adolygiad os bydd digwyddiadau eraill yn digwydd megis:

  • os bydd eich buddsoddiadau yn tanberfformio yn erbyn eich targedau

  • os oes newid yn y rhagolygon economaidd

  • os bydd sefyllfa ariannol neu flaenoriaethau eich elusen yn newid yn sylweddol

Adrodd ar eich buddsoddiadau

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr os yw eich elusen wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Elusennau.

Mae’n rhaid i’ch adroddiad blynyddol gynnwys esboniad o:

  • sut mae buddsoddiadau eich elusen wedi perfformio yn ystod y flwyddyn

  • beth yw eich polisi buddsoddi, gan gynnwys unrhyw nodau anariannol sydd gennych ar gyfer buddsoddiadau eich elusen

Nid oes angen i elusennau llai neu elusennau ag ychydig neu lai o fuddsoddiadau cymhleth gynnwys gwybodaeth fanwl.

Dysgwch fwy yn Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau a’r SORP Elusennau.

Buddsoddi gwaddol parhaol eich elusen

Yn syml, mae gwaddol parhaol yn eiddo y mae’n rhaid i’ch elusen ei gadw yn hytrach na’i wario.

I ddarganfod os oes gan eich elusen fuddsoddiadau gwaddol parhaol, edrychwch ar:

  • unrhyw ddogfennau sy’n dweud wrthych sut mae’n rhaid cadw a defnyddio buddsoddiadau

  • unrhyw ddogfennau a ddefnyddiwyd i roi buddsoddiadau i’ch elusen

  • ddogfen lywodraethol eich elusen

Gall fod yn anodd dweud os yw eiddo yn waddol parhaol. Cymerwch gyngor bob amser os ydych yn ansicr.

Rheolau safonol

Os oes gan eich elusen fuddsoddiadau sy’n waddol parhaol fel arfer mae’n rhaid i chi:

  • gadw’r cyfalaf a fuddsoddwyd, gan gynnwys ailfuddsoddi unrhyw dwf cyfalaf

  • wario’r incwm yn unig

Dylech sicrhau eich bod yn rheoli buddsoddiadau gwaddol parhaol mewn ffordd sy’n cydbwyso angen eich elusen am:

  • ddigon o incwm nawr

  • ddigon o dwf ar gyfer y dyfodol

Gall hyn achosi anawsterau pan fydd incwm llog neu ddifidend yn isel ac enillion cyfalaf yn uchel.

Gall mabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion alluogi ymddiriedolwyr elusen â gwaddoliad parhaol i gymryd camau i fynd i’r afael ag anawsterau a achosir gan y rheolau safonol.

Cyfanswm enillion buddsoddiad

Gallwch fabwysiadu dull ‘cyfanswm elw’ o reoli buddsoddiadau gwaddol parhaol eich elusen.

Mae hyn yn caniatáu i chi wario o’r holl enillion ar fuddsoddiadau, os derbyniwyd fel incwm neu dwf cyfalaf. Mae’n golygu y gallwch chi benderfynu faint o gyfanswm eich enillion buddsoddi:

  • i’w wario ar ddibenion eich elusen

  • i’w ailfuddsoddi

Er mwyn mabwysiadu dull cyfanswm enillion mae’n rhaid i chi wneud penderfyniad ffurfiol (drwy basio penderfyniad).

Os byddwch yn mabwysiadu dull cyfanswm enillion, fel ymddiriedolwyr, mae’n rhaid i chi reoli eich buddsoddiadau gwaddol parhaol mewn ffordd sy’n caniatáu i’ch elusen hyrwyddo ei ddibenion nawr ac yn y dyfodol.

Darganfyddwch fwy am gyfanswm yr enillion, a’r rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn pan fyddwch wedi mabwysiadu dull buddsoddi cyfanswm enillion.

Mae’r rheolau safonol yn berthnasol os nad ydych wedi mabwysiadu dull cyfanswm elw yn ffurfiol.

Gwaddol parhaol a buddsoddiad cymdeithasol

Os yw eich elusen wedi mabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddi ei waddol parhaol, gallwch benderfynu ar wahân (gwneud penderfyniad ffurfiol) i ddefnyddio rhywfaint neu’r cyfan o’ch cronfa enillion i wneud buddsoddiadau cymdeithasol y disgwyliwch a allai ddarparu enillion ariannol negyddol neu ansicr.

Mae’n rhaid i unrhyw golledion gael eu gwrthbwyso (dros amser) gan enillion eraill ym mhortffolio buddsoddiad cyfanswm enillion eich elusen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwaddol parhaol eich elusen yn cadw ei werth cyffredinol yn y tymor hir.

Fel ymddiriedolwyr, mae’n rhaid i chi ddilyn:

  • eich dyletswyddau cyffredinol a phenodol fel ymddiriedolwr wrth ystyried gwneud buddsoddiadau cymdeithasol y disgwylir iddynt wneud elw ariannol negyddol neu ansicr

  • y rheolau eraill yn y [Rheoliadau Elusennau (Cyfanswm yr Elw)] (https://www.gov.uk/government/publications/charity-commission-regulations-total-return) i wneud buddsoddiadau cymdeithasol o’r math hwn

Darganfyddwch fwy am waddol parhaol.

Treth ar fuddsoddiadau

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar incwm buddsoddi eich elusen os na allwch fodloni HMRC eich bod wedi gwneud buddsoddiad neu fenthyciad cymeradwy er budd eich elusen, yn hytrach nag fel y gall eich elusen neu unrhyw un arall osgoi treth.

Nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â goblygiadau treth buddsoddiadau.

Darllenwch ganllawiau HMRC i elusennau i gael gwybod mwy am dreth rheolau i elusennau, gan gynnwys:

  • rhestr gymeradwy HMRC o fuddsoddiadau

  • sut mae rheolau rhoddion llygredig yn gymwys i roddion o fuddsoddiadau

  • triniaeth dreth elw masnachu

  • triniaeth drethu buddsoddiadau mewn cwmni sy’n gysylltiedig ag un o’ch ymddiriedolwyr

Cyngor i elusennau sy’n buddsoddi arian parod yn bennaf

Gall eich elusen gadw arian mewn cyfrif cynilo neu adnau. Mae’r trefniadau hyn yn cyfrif fel buddsoddiadau.

Mae’r un dyletswyddau cyfreithiol (a nodir ar ddechrau’r canllaw hwn) yn berthnasol i benderfyniadau am fuddsoddi mewn arian parod ag i benderfyniadau buddsoddi eraill. Os yw eich elusen yn buddsoddi arian parod yn bennaf gallwch gymryd y camau canlynol i’ch helpu i gydymffurfio â’r rhain.

Diogelu arian eich elusen

Dim ond â darparwr dibynadwy y dylech adneuo arian eich elusen. Er enghraifft, banciau neu gymdeithasau adeiladu a awdurdodwyd gan:

  • Awdurdod Ymddygiad Ariannol

  • [Awdurdod Rheoleiddio Darbodus] (https://www.bankofengland.co.uk/explainers/what-is-the-prudential-regulation-authority-pra)

  • rheolydd ariannol perthnasol mewn unrhyw wlad arall

Darganfyddwch beth yw’r trefniadau diogelu os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn methu, boed yn y DU neu dramor.

Gallwch ddefnyddio Gwiriwr Banc FSCS a diogelu cynilion – i weld faint o’ch arian sydd wedi cael ei ddiogelu.

Os oes gennych swm sylweddol i’w adneuo, meddyliwch am osod uchafswm y gall eich elusen ei roi gydag un darparwr. Gall hyn eich helpu i leihau’r risg o golled fawr os bydd darparwr yn methu. Mae angen i chi gydbwyso’r risg is yn erbyn cyfradd llog is ar adneuon symiau llai.

Dewis cyfrif

Dylech ystyried:

  • y cyfraddau llog a gynigir gan ddarparwyr gwahanol

  • pryd y telir llog

  • os telir llog yn gros neu’n net o dreth - os yw’n net sicrhewch eich bod yn gallu adennill y dreth

  • unrhyw daliadau neu gosbau sy’n gymwys os ydych am gael mynediad i’ch arian ar fyr rybudd neu gau eich cyfrif

  • unrhyw ffactorau enw da a ffactorau anariannol eraill sy’n rhan o bolisi ac amcanion buddsoddi eich elusen, ac os yw’r rhain yn berthnasol i’ch dewis o gyfrif

Efallai y bydd angen mwy nag un cyfrif ar eich elusen. Er enghraifft, cyfrifon sy’n eich galluogi i gael mynediad at arian ar fyr rybudd neu rybudd hirach.

Ysgrifennwch bolisi buddsoddi syml

Dylai hyn gynnwys:

  • ble ac am ba hyd y gall eich elusen adneuo arian parod

  • yr uchafswm y gall eich elusen ei adneuo ag un darparwr

  • agwedd eich elusen at adneuon tymor byr, canolig neu hir

Mynnwch gyngor proffesiynol lle’n briodol

Os oes angen cyngor arnoch, dylai fod gan rywun sydd â gwybodaeth a phrofiad addas.

Adolygu trefniadau yn rheolaidd

Adolygwch eich trefniadau banc yn rheolaidd i sicrhau:

  • eu bod yn dal i ddiwallu anghenion eich elusen

  • bod eich adneuon yn dal i gael eu diogelu’n briodol

  • bod unrhyw daliadau neu gyfraddau llog yn dal yn gystadleuol

  • eich bod yn fodlon ar lefel y gwasanaeth a ddarperir

Ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod

Mae ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod, yn enwedig ar gyfer elusennau mwy. Mynnwch gyngor am eich opsiynau.

Mae cronfeydd adnau cyffredin yn caniatáu i chi gyfuno’ch asedau i’w hadneuo ag asedau elusennau eraill. Trwy gyfuno arian ag elusennau eraill gallwch gael cyfradd llog uwch.

Gall buddsoddi mewn cynllun fel hwn fod yn rhan neu’n gyfan gwbl o ymagwedd unrhyw elusen.

Dysgwch fwy am gronfeydd adnau cyffredin.

Buddsoddi cronfeydd wrth gefn

Dysgwch fwy am yr hyn y dylech ei ystyried wrth fuddsoddi cronfeydd wrth gefn eich elusen.

Nodyn cyfreithiol

Y prif ffynonellau cyfreithiol sy’n berthnasol i’r canllaw hwn yw: