Guidance

Elusennau ac yswiriant

Published 1 May 2012

Applies to England and Wales

1. Cyflwyniad

1.1 Am beth mae’r canllaw hwn?

Mae’r penderfyniad i brynu math arbennig o yswiriant (ar wahân i unrhyw yswiriant sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith) yn un ffordd y gall ymddiriedolwyr elusen gyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu asedau ac adnoddau eu helusen. Mae’r canllaw hwn yn egluro pa rwymedigaethau cyfreithiol sydd o ran yswiriant ac mae’n ystyried pa ddewisiadau sydd gan ymddiriedolwyr pan fyddan nhw’n adnabod ac yn rheoli unrhyw risgiau y gallai eu helusen eu hwynebu.

Un o rolau’r Comisiwn Elusennau fel y rheoleiddiwr elusennau yw hybu’r defnydd effeithiol o adnoddau elusennol ac, fel rhan o’r rôl hon, mae’r canllaw hwn yn ceisio helpu ymddiriedolwyr i benderfynu pryd y bydd yswiriant yn briodol a pha fath o yswiriant fydd yn briodol ar gyfer eu helusen. Ffactor allweddol wrth benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo ei nodau fydd asesiad yr elusen o’r risgiau y mae’n eu hwynebu drwy ei weithgareddau, ac a fydd angen polisi yswiriant er mwyn rheoli’r risgiau hynny.

Mae Adran 5 yn rhoi disgrifiad byr o’r mathau gwahanol o yswiriant sydd ar gael a pha risgiau sydd wedi’u cynnwys.

1.2 ‘Rhaid’ a ‘dylai’: beth mae’r comisiwnyn ei olygu

Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddir ‘rhaid’, mae’n golygu ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy’n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â’r gofynion hyn.

Mae’r comisiwn yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sy’n arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Mae hefyd yn cynnig cyngor llai ffurfiol ac argymhellion a allai fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr yn eu gwaith o reoli eu helusen.

1.3 Canllawiau blaenorol

Mae’r fersiwn hwn o Elusennau ac Yswiriant (CC49) wedi cael ei ddiweddaru a’i ailysgrifennu mewn fformat newydd ond nid yw’n cynnwys unrhyw newid polisi.

1.4 Ystyr rhai o’r termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn

Ystyr ‘adfer’ yw gwneud iawn. Os yw’r eiddo sydd wedi’i yswirio yn cael ei ddifrodi, fel arfer mae’r cais yn cael ei setlo drwy dalu swm o arian, ond gall polisi roi i’r sawl sydd wedi’i yswirio neu’r yswiriwr y dewis i adfer neu ailadeiladu yn lle hynny.

‘Atebolrwydd trydydd parti’ yw atebolrwydd y sawl sydd wedi’i yswirio i’r trydydd parti sy’n hawlio yn ei erbyn.

‘Brocer yswiriant’ yw cyfryngwr yswiriant sy’n cynghori cleientiaid ac yn trefnu eu hyswiriant iddynt. Er eu bod nhw’n gweithredu fel asiant eu cleient, fel rheol cânt eu talu comisiwn gan yr yswiriwr. Mae brocer yswiriant yn arbenigwr amser llawn gyda sgiliau proffesiynol mewn trin busnes yswiriant. Mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol a chael eu rheoleiddio ganddo.

‘Deddf Elusennau’ yw Deddf Elusennau 2011.

‘Deddf Ymddiriedolwyr’ yw Deddf Ymddiriedolwyr 2000.

‘Dogfen lywodraethol’ yw unrhyw ddogfen sy’n amlinellu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o’i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu, cynllun y comisiwn, Siarter Frenhinol, Statud neu trawsgludiad neu ewyllys.

‘Indemnio’ yw’r egwyddor lle mae’r yswiriwr yn ceisio rhoi’r sawl sy’n cael ei yswirio, cyn belled â phosibl, yn yr un sefyllfa ar ôl y golled ag yr oedd ef neu hi ynddi yn union cyn y golled. Yn y canllaw hwn defnyddir y term hwn i gyfeirio at elusen yn ad-dalu ymddiriedolwr am ei dreuliau priodol sy’n codi wrth gyflawni busnes yr elusen.

‘Polisi’ yw dogfen sy’n amlinellu’r telerau a’r amodau sy’n gymwys i gontract yswiriant ac mae’n dystiolaeth gyfreithiol o’r cytundeb i yswirio. Mae’n cael ei ddarparu gan yr yswiriwr neu ei gynrychiolydd ar gyfer cyfnod cyntaf y risg.

‘Premiwm’ yw’r pris sy’n cael ei dalu am gontract yswiriant.

‘Tor-ymddiriedaeth’ yw torri unrhyw ddyletswydd a osodir ar ymddiriedolwr. I ymddiriedolwyr elusen gall y dyletswyddau hyn gael eu gosod gan ddarpariaethau dogfen lywodraethol elusen, gofynion y gyfraith neu orchymyn y Llys neu’r Comisiwn Elusennau. Mae dyletswydd yn rhywbeth y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr ei wneud. Mae’n wahanol i ‘bwˆer’, y gall ymddiriedolwyr ddewis ei ddefnyddio neu beidio.

‘Tâl-dros-ben’ yw’r gyfran gyntaf o golled neu hawliad y mae’r sawl sydd wedi’i yswirio yn ei dalu. Gall y tâl-dros-ben naill ai fod yn wirfoddol er mwyn cael llai o bremiwm neu ei osod am resymau gwarantu.

‘Terfyn’ yw atebolrwydd mwyaf yr yswiriwr o dan bolisi yswiriant.

‘Trydydd parti’ yw rhywun sy’n hawlio yn erbyn y sawl sydd wedi’i yswirio. Yn nhermau yswiriant, y parti cyntaf yw’r yswiriwr a’r ail barti yw’r sawl sydd wedi’i yswirio.

‘Y sawl sy’n cael ei yswirio’ yw’r unigolyn y mae ei eiddo yn cael ei yswirio neu mae’r polisi yn cael ei ddarparu ar ei gyfer.

‘Ymddiriedolwyr’ yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw’r bobl sy’n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallan nhw gael eu galw’n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr neu’n gyfarwyddwyr, neu gall fod enw arall arnynt. O dan rai polisïau yswiriant, gallai gweithwyr y mae rhai neu unrhyw un o swyddogaethau ymddiriedolwr wedi cael eu dirprwyo iddynt, gael eu hystyried yn ymddiriedolwyr at ddiben yr yswiriant.

‘Yswiriwr’ yw cwmni yswiriant neu warantwr Lloyd’s sydd, yn gyfnewid am bremiwm, yn cytuno i wneud iawn yn y ffordd a amlinellir yn y polisi, am unrhyw golled neu niwed y mae’r sawl sy’n talu’r premiwm yn ei ddioddef o ganlyniad i ryw ddamwain neu ddigwyddiad.

2. Pam y gallai fod angen yswiriant ar elusen - yr ystyriaethau sylfaenol

2.1 Pam prynu yswiriant?

Yr ateb byr – gofyniad cyfreithiol

Mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr elusen i ddiogelu asedau ac adnoddau eu helusen. Mae pob elusen yn wynebu risgiau, a gall yswiriant fod yn ffordd briodol o’u diogelu nhw yn erbyn unrhyw golled, difrod neu atebolrwydd sy’n codi o’r risgiau hynny. Nid yswiriant yw’r unig ateb i reoli risg, ond mae rhai mathau o weithgareddau lle mae angen prynu yswiriant yn ôl y gyfraith.

Yn fwy manwl

Mae enghreifftiau o’r mathau o yswiriant y gallai fod eu hangen i yswirio eiddo elusen yn erbyn colled neu ddifrod yn cynnwys:

  • yswiriant adeiladau
  • yswiriant cynnwys
  • yswiriant digwyddiadau

Mae enghreifftiau o’r mathau o yswiriant y gallai fod eu hangen i yswirio yn erbyn atebolrwydd trydydd parti elusen yn cynnwys:

  • yswiriant indemniad proffesiynol
  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Mae’r rhain a mathau eraill o yswiriant yn cael eu disgrifio’n fanwl yn Adrannau 4 a 5.

Yn ogystal, gall fod yn ofynnol i ymddiriedolwyr brynu rhai mathau o yswiriant yn ôl y gyfraith (gweler adran 2.3).

2.2 All elusen ddefnyddio ei harian i brynu yswiriant?

Yr ateb byr – gofyniad cyfreithiol

Gall. Mae’r gyfraith yn caniatáu i ymddiriedolwyr yswirio unrhyw eiddo y mae’r elusen yn berchen arno yn erbyn y risg o golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, a thalu’r premiymau o’i chronfeydd.

Yn fwy manwl

Mae Deddf Ymddiriedolwyr yn rhoi pwˆer penodol i elusennau anghorfforedig yswirio eu heiddo. Nid yw’r pwˆer hwn yn gymwys i gwmnïau elusennol (ac eithrio os ydyn nhw’n ymddiriedolwyr corfforaethol), fodd bynnag fel rheol bydd erthyglau cymdeithasu cwmni elusennol yn caniatáu ar gyfer prynu unrhyw bolisi yswiriant sydd ei angen.

Mae dyletswydd gyffredinol ymddiriedolwyr i ddiogelu asedau ac adnoddau eu helusen yn golygu y dylen nhw ystyried defnyddio pwˆer y Ddeddf Ymddiriedolwyr. Mae hyn yn golygu sicrhau, lle y bo’n briodol, bod asedau ac adnoddau’r elusen wedi’u hyswirio’n ddigonol yn erbyn colled neu ddifrod. Er bod y pwˆer o dan y Ddeddf Ymddiriedolwyr wedi’i gyfyngu i yswirio yn erbyn colled neu ddifrod, efallai fod pwˆer penodol gan ymddiriedolwyr yn eu dogfen lywodraethol sy’n caniatáu iddynt brynu yswiriant yn erbyn atebolrwydd posibl trydydd parti. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, yr achos fel rheol yw y gall ymddiriedolwyr brynu’r math hwn o yswiriant os yw er lles yr elusen i wneud hynny.

Weithiau bydd dogfen lywodraethol elusen yn pennu bod rhaid i’w hymddiriedolwyr brynu yswiriant (neu fath arbennig o yswiriant) gan ddefnyddio cronfeydd yr elusen.

Os oes pwˆer neu ddyletswydd gan ymddiriedolwyr i brynu yswiriant yn erbyn colled neu atebolrwydd a’u bod yn gwrthod mewn modd afresymol i’w ddefnyddio, gallan nhw fod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw golled neu atebolrwydd dilynol.

Mae’r Ddeddf Elusennau yn rhoi pwˆer penodol i ymddiriedolwyr brynu yswiriant indemniad ymddiriedolwyr a thalu’r premiymau o gronfeydd eu helusen. Mae’r comisiwn yn ystyried yswiriant indemniad ymddiriedolwyr yn Adran 5.

2.3 Pa fathau o yswiriant sy’n orfodol?

Yr ateb byr – gofyniad cyfreithiol

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i elusennau sy’n cyflogi staff i brynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i elusennau sy’n berchen ar gerbydau modur neu’n eu gweithredu i brynu yswiriant modur.

Yn fwy manwl

Yswiriant atebolrwydd cyflogwyr: Mae’n ofynnol i elusennau sy’n cyflogi staff i brynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr. O dan y gyfraith1, mae’n rhaid i bob cyflogwr gael isafswm sicrwydd yswiriant o £5 miliwn ar gyfer anaf neu glefyd y mae gweithwyr yn ei ddioddef neu’n ei ddal wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae’n rhaid i elusen brynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr gan yswiriwr sy’n unigolyn neu’n gwmni sy’n gweithio o dan delerau Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn cadw cofrestru o yswirwyr awdurdodedig.

Mae’n rhaid i’r elusen (fel cyflogwr) arddangos mewn lle amlwg dystysgrif sy’n datgan bod polisi dilys mewn grym a lefel yr yswiriant a brynwyd.

Yswiriant modur: Os yw’r elusen yn berchen ar gerbydau modur neu’n eu gweithredu, mae’n rhaid iddi gydymffurfio â darpariaethau’r Deddfau Traffig Ffordd. Mae’r Deddfau yn ei gwneud hi’n ofynnol i gael yswiriant yn erbyn anaf i drydydd parti a difrod i eiddo. Os yw ymddiriedolwyr, gweithwyr neu wirfoddolwyr yn defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion yr elusen neu ar fusnes yr elusen, mae’n rhaid i’r elusen sicrhau bod yswiriant perchennog y cerbyd yn cynnwys defnydd o’r fath. Gall yr elusen dalu am unrhyw bremiymau angenrheidiol ychwanegol sydd eu hangen.

Mae gofynion arbennig ar gyfer bysiau mini a ddefnyddir i gludo pobl ar sail hurio neu wobrwyo a dylai yswirwyr yr elusen allu cynghori’r ymddiriedolwyr ynglyˆn â’r gofynion hyn.

2.4 Beth yw’r sefyllfa o ran yswiriant i wirfoddolwyr?

Yr ateb byr

At ddibenion yswiriant, cynghorir elusennau i drin gwirfoddolwyr yn yr un modd â’u gweithwyr gan sicrhau eu bod nhw wedi’u cynnwys gan y mathau arferol o yswiriant y gallai elusen eu prynu, megis yswiriant atebolrwydd cyflogwyr neu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Yn fwy manwl

Mae’n bwysig i elusen sicrhau bod gwirfoddolwyr, yn ogystal â gweithwyr, yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth digonol, a bod eu lles nhw a lles y bobl y maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw fel rhan o’u rôl yn cael ei ystyried yn briodol. Er enghraifft, dylai’r un safonau iechyd a diogelwch fod yn gymwys i weithwyr gwirfoddol ag y byddai’n gymwys i weithwyr sy’n agored i’r un risgiau.

Dylai elusen sicrhau fod ei gwirfoddolwyr wedi’u diogelu rhag niwed o ganlyniad i unrhyw esgeulustod ar ei rhan. Hefyd, dylai’r elusen a’i gwirfoddolwyr gael eu cynnwys rhag ofn y caiff trydydd parti ei anafu drwy weithredoedd gwirfoddolwr. Dylai’r elusen wirio unrhyw bolisi yswiriant er mwyn sicrhau:

  • ei fod yn cynnwys gwirfoddolwyr yn bendant
  • sut mae’r term ‘gwirfoddolwr’ wedi’i ddiffinio at ddibenion y polisi hwnnw
  • a yw unrhyw derfynau oedran uchaf neu isaf yn gymwys
  • bod y polisi yn cwmpasu’r mathau o weithgareddau y bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â nhw

Dylai’r elusen gadw cofnodion manwl o’r gwirfoddolwyr y mae’n eu defnyddio sydd wedi’u cynnwys o fewn y diffiniadau mewn unrhyw bolisi yswiriant sydd ganddi.

2.5 Pwy all gynghori ar ba yswiriant y dylai elusen ei brynu?

Yr ateb byr

Os yw ymddiriedolwyr yn ystyried prynu unrhyw fath o bolisi yswiriant, dylen nhw ystyried ceisio cyngor proffesiynol annibynnol priodol os nad yw’r arbenigedd ganddyn nhw eu hunain.

Yn fwy manwl

Fel arfer mae’n well defnyddio brocer yswiriant sy’n deall anghenion yswiriant elusennau ac sydd mewn sefyllfa i roi busnes i unrhyw un neu ragor o amrywiaeth o gwmnïau yswiriant. Gall elusennau hefyd fynd yn uniongyrchol at yswiriwr elusennau arbenigol. Y pwynt pwysig yw defnyddio brocer neu yswiriwr sydd â gwybodaeth arbenigol o ofynion yswiriant elusennau er mwyn sicrhau bod y polisi cywir yn cael ei drefnu am bris cystadleuol.

2.6 All elusen gael gwybod pa ffioedd a chomisiwn y mae brocer yswiriant yn eu cael?

Yr ateb byr

Gall.

Yn fwy manwl

Mae Llawlyfr yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn delio â thâl broceriaid a all fod ar ffurf comisiwn neu ffi neu’r ddau. Os yw’r ddau’n gymwys, mae’n amlwg bod dyletswydd i ddatgelu’r comisiwn a’r ffioedd. Y rheolau yw:

  • ffioedd - mae’n rhaid i’r brocer roi manylion i’r cwsmer am yr holl ffioedd cyn bod unrhyw ymrwymiad ar y cwsmer i’w talu
  • comisiwn - mae’n rhaid i frocer ddatgelu’r comisiwn y mae’n ei gael (neu y mae unrhyw swyddog cyswllt yn ei gael) ar gyfer trefnu’r polisi os gwneir cais am yr wybodaeth honno. Mae hyn yn cynnwys trefniadau ar gyfer rhannu elw, taliadau yn gysylltiedig â nifer y polisïau sy’n cael eu gwerthu a thaliadau gan gwmnïau cyllid premiwm ar gyfer trefnu cyllid

Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) yn egluro y dylai cwsmeriaid gael eu hatgoffa yn rheolaidd am eu hawl i ofyn am wybodaeth ynghylch comisiwn.

3. Asesu risg a gwneud penderfyniadau

3.1 Pam mae asesu risg yn bwysig?

Yr ateb byr

Os nad yw’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r elusen brynu math arbennig o yswiriant, bydd asesiad risg yr elusen yn ei helpu i benderfynu a oes angen yswiriant arni. Gall elusennau gael cyngor manwl ar risg yn y canllaw Elusennau a Rheoli Risg: Canllaw i ymddiriedolwyr (CC26). Mae sawl ffordd i reoli unrhyw risgiau y mae elusen yn eu hwynebu, ac un ohonynt yw prynu yswiriant.

Yn fwy manwl

Bydd asesiad risg cadarn yn ystyried pob agwedd ar waith a busnes yr elusen er mwyn adnabod y risgiau y gallai eu hwynebu. Hefyd, os yw’r elusen yn ystyried gweithgaredd neu faes gwaith newydd, bydd rhaid iddi ystyried yn ofalus beth fydd y risgiau tebygol a’r gost o reoli’r risgiau hynny. Mae enghreifftiau o’r meysydd risg allweddol hyn i’w gweld yn y canllaw risg manwl.

Gall y cwestiynau canlynol helpu ymddiriedolwyr i ystyried y risgiau posibl a nodwyd a phenderfynu ai yswiriant yw’r ffordd fwyaf priodol o’u rheoli.

  • Pa rai o’n meysydd gweithgaredd sy’n creu risg go iawn neu risg sylweddol y bydd math arbennig o golled neu atebolrwydd yn codi?
  • Faint fyddai cost prynu yswiriant i gwmpasu’r risg hwnnw? Ydym ni wedi siopa am y fargen orau neu ofyn i’n brocer am ddyfynbrisiau cystadleuol?
  • Allwn ni gymryd camau eraill i reoli’r risg, er enghraifft, cynyddu mesurau diogelwch neu wella rheolaethau ariannol mewnol?
  • Fyddai’n well i’n helusen drosglwyddo’r risg i drydydd parti (ar wahân i yswiriwr), er enghraifft, gallai’r gwaith o symud arian parod o’r safle i’r banc gael ei gontractio allan i gwmni trin arian proffesiynol?
  • Os ydym ni’n penderfynu yswirio yn erbyn risg, a fyddai’n helusen yn gallu parhau â’i gwaith neu barhau’n hyfyw os yw colledion yn codi o’r risg hwnnw?
  • Os ydym ni’n elusen anghorfforedig, ydym ni wedi ystyried y risg o atebolrwydd personol? Fel ymddiriedolwyr mae’n bosib y byddwn yn atebol yn bersonol ond nid ni sydd ar fai am hynny os nad yw asedau ein helusen yn ddigonol i dalu am unrhyw atebolrwydd sy’n codi.
  • Ddylem ni leihau neu roi’r gorau i’r gweithgaredd sy’n achosi’r risg?

3.2 Pa ystyriaethau eraill allai ddylanwadu ar benderfyniad i brynu yswiriant neu beidio?

Yr ateb byr

Dylid prynu yswiriant dim ond os yw lefel y risg sydd i’w throsglwyddo i’r yswiriwr yn golygu ei bod hi’n werth gwario’r premiwm yswiriant (oni bai ei bod hi’n ofynnol yn ôl y gyfraith).

Yn fwy manwl

Mae unrhyw benderfyniad i brynu yswiriant yn fater o farn ac yn un y mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr elusen ei wneud er lles yr elusen, gan geisio cyngor proffesiynol os oes angen. Ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr wedi gweithredu’n rhesymol ac wedi ceisio cyngor lle y bo’n briodol, bydd rhaid i’r elusen wynebu canlyniadau unrhyw golled sydd heb ei chynnwys gan yswiriant (yn amodol ar y pwynt a wnaed yn adran 3.1 ynghylch asedau annigonol elusen).

Os yw yswiriant yn orfodol ar gyfer math arbennig o weithgaredd, neu os yw’r ymddiriedolwyr o’r farn ei fod yn angenrheidiol, dylai’r elusen ystyried a yw’n gallu fforddio i barhau â’r gweithgaredd hwnnw. Gall prynu yswiriant ar y cyd ag elusen neu gorff arall sy’n gwneud yr un peth wneud yr yswiriant yn rhatach. Fodd bynnag, dylai elusennau gofio yn achos yswiriant at ebolrwydd cyflogwyr, os yw mwy nag un elusen yn cael ei chynnwys gan un polisi mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob cyflogwr gael sicrwydd yswiriant o £5m o leiaf.

Fel arall, gallai’r ymddiriedolwyr ystyried a all yr elusen gyflawni ei gwaith mewn ffordd wahanol neu ffordd well trwy uno neu gydweithio ag elusen arall. Gweler y canllaw Cwweithio gydag elusennau eraill i gael rhagor o wybodaeth.

Os yw elusen yn aelod o sefydliad cenedlaethol, dylai gysylltu â’r pencadlys cenedlaethol i gael cyngor ar yswiriant. Mae nifer o sefydliadau cenedlaethol a chyrff mantell wedi trafod telerau cynlluniau grwˆp sydd ar gael i’w haelodau.

3.3 Beth yw’r sefyllfa i elusennau sy’n gweithredu’n rhyngwladol?

Yr ateb byr

Bydd elusennau sy’n gweithio’n rhyngwladol yn wynebu risgiau mwy cymhleth i staff, gwirfoddolwyr ac eiddo. Mae’n hanfodol bod elusennau yn asesu ac yn cynllunio ar gyfer rheoli’r risgiau y gallai eu staff, eu gwirfoddolwyr, eu partneriaid lleol ac adnoddau eraill eu hwynebu - yn enwedig mewn ardaloedd risg uchel.

Yn fwy manwl

Gall elusennau ddarparu rhai mathau o yswiriant ar gyfer eu staff a’u gwirfoddolwyr sy’n gweithio dramor - mae enghreifftiau’n cynnwys yswiriant meddygol, yswiriant damweiniau, yswiriant salwch difrifol neu yswiriant teithio. Dylai telerau’r gyflogaeth neu’r cytundeb arall egluro pa yswiriant sy’n cael ei ddarparu gan yr elusen a phryd y bydd disgwyl i rywun ddarparu ei yswiriant ei hun.

Nid oes rhaid i elusen a leolir yng Nghymru a Lloegr brynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ar gyfer unrhyw weithwyr yr elusen sy’n gweithio dramor. Fodd bynnag, dylai holi i weld a oes unrhyw ofynion yn y wlad lle mae eu gweithwyr wedi’u lleoli i brynu yswiriant neu gymryd unrhyw gamau eraill i ddiogelu ei gweithwyr.

Gall staff a gwirfoddolwyr elusen gael eu hyswirio yn erbyn risgiau arbennig megis herwgipio a phridwerthu. Yn achos y math hwn o yswiriant, bydd yr yswiriwr dim ond yn ymateb i gais am ad-daliad o bridwerth sydd eisoes wedi cael ei dalu. Yn gyffredinol, mae’n amod o’r polisi y dylai ei fodolaeth gael ei gadw’n gyfrinachol bob amser, a bydd y polisi yn ddi-rym os yw’r amod hwn yn cael ei dorri. Fel mathau eraill o yswiriant, mae yswirwyr yn rhoi mwy o bwyslais ar roi mesurau ataliol yn eu lle.

Dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol, er nad yw talu pridwerthoedd yn anghyfreithlon ei hun yn ôl cyfraith y DU, gall fod yn anghyfreithlon mewn mannau eraill. Yn ogystal, mae troseddau a allai gael eu cyflawni os yw arian neu eiddo arall ar gael i gyllido terfysgwyr. Dylent geisio cyngor proffesiynol os ydynt yn ystyried prynu’r math hwn o yswiriant.

4. Yswiriant i elusennau sy’n berchen ar dir neu adeiladau neu’n eu meddiannu

4.1 Pa fath o yswiriant allai fod ei angen?

Yr ateb byr

Bydd graddfa neu natur unrhyw yswiriant sy’n cael ei brynu yn dibynnu ar asesiad yr elusen o’r risgiau y gallai eu hwynebu oherwydd y tir neu’r adeiladau y mae’n berchen arnynt neu’n eu meddiannu. Os yw’r ymddiriedolwyr yn penderfynu y dylai’r risgiau gael eu rheoli drwy brynu polisi yswiriant, bydd yr hyn a fydd yn briodol yn dibynnu a yw’r elusen yn:

  • berchennog y rhydd-ddaliad
  • y lesddeiliad; neu’n
  • berchennog rhydd-ddaliad neu’n lesddeiliad sydd hefyd yn landlord

Yn fwy manwl

Perchennog y rhydd-ddaliad: Os yw’r elusen yn berchennog rhydd-ddeiliad adeilad ac nid yw’r lesddeiliad neu’r tenant (os oes) yn gyfrifol am yswiriant, mae’r comisiwn yn argymell y dylai’r ymddiriedolwyr yswirio’r adeilad am ei werth adfer llawn fel rheol, er nad oes unrhyw ddyletswydd fel y cyfryw i wneud hyn. Mae hyn yn golygu y dylai’r swm y mae’r polisi yn ei yswirio (h.y. yr uchafswm a fyddai’n cael ei dalu dan y polisi yswiriant) fod yn ddigonol i dalu cost:

  • unrhyw waith dymchwel a allai fod angen ei wneud
  • clirio’r safle
  • ffioedd proffesiynol (pensaer, syrfëwr etc)
  • ailadeiladu’r adeilad yn yr un steil etc â’r gwreiddiol
  • cydymffurfio ag unrhyw ofynion cynllunio neu reoliadau adeiladu perthnasol

Y swm sydd wedi’i yswirio yw’r uchafswm y bydd yswiriwr yn ei dalu o dan gontract yswiriant. Fel arfer defnyddir yr ymadrodd yng nghyd-destun yswiriant eiddo ac yswiriant bywyd lle mae’r sawl sydd wedi’i yswirio (yn amodol ar gost y premiwm) yn pennu swm yr yswiriant i’w brynu. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysig iawn bod y polisi yn yswirio swm digonol. Os yw rhywun yn hawlio ac nid yw’r polisi yn yswirio swm digonol, bydd y cwmni yswiriant yn talu cyfran yn unig o unrhyw gais, er bod gwerth y cais yn is na’r swm y mae’r polisi yn ei yswirio.

Er enghraifft, os yw eiddo wedi’i yswirio ar gyfer £10m ond mewn gwirionedd mae’n werth £15m, byddai cais am ddifrod i hanner yr eiddo yn talu hyd at £5m yn unig.

Mewn achos lle y dylai’r ymddiriedolwyr fod wedi prynu polisi yswiriant mwy cynhwysfawr, gallan nhw fod yn atebol i dalu am y diffyg o’u pocedi eu hunain. Er mwyn lleihau’r risg o ddiffyg, mae’r comisiwn yn argymell bod ymddiriedolwyr yn ceisio cyngor gan syrfëwr adeiladu cymwysedig proffesiynol ynglyˆn â’r swm y dylai’r polisi yswirio ar ei gyfer, a dylid gofyn i’r syrfëwr (bob dwy flynedd efallai) i gadarnhau bod y ffigur presennol yn ddigonol. Os nad yw, dylai’r ymddiriedolwyr roi gwybod i’r yswiriwr ar unwaith er mwyn iddo ei addasu.

Yn yr un modd, os yw unrhyw addasiadau, gwelliannau neu ychwanegiadau yn cael eu gwneud i’r adeilad, dylai’r syrfëwr gadarnhau’r gost ailadeiladu gyfan (gan gynnwys ffioedd proffesiynol). Os yw hwn yn fwy na’r swm y mae’r polisi yn yswirio ar ei gyfer ar hyn o bryd, dylai’r ymddiriedolwyr roi gwybod i’r yswiriwr ar unwaith er mwyn addasu’r polisi.

Bydd rhai yswirwyr yn darparu gwasanaeth prisio, a bydd rhai hyd yn oed yn darparu’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim. Os yw’r ymddiriedolwyr yn dewis polisi yswiriant mynegrifol (sy’n golygu bod swm yr yswiriant yn cael ei addasu yn awtomatig bob blwyddyn gan yr yswirwyr i adlewyrchu newidiadau mewn costau llafur, deunyddiau adeiladu etc), mae’r comisiwn yn parhau i argymell y dylen nhw holi eu syrfëwr bob 3-4 blynedd i sicrhau bod y ffigur presennol yn ddigonol.

Mae’n rhaid i elusennau roi gwybod i’w hyswiriwr neu eu brocer yswiriant hefyd os:

  • yw’r defnydd o’r adeilad yn newid yn sylweddol
  • maen nhw ar fin gwneud unrhyw waith adeiladu strwythurol
  • nid yw unrhyw un yn meddiannu’r adeilad yn rheolaidd

Ym marn y comisiwn, byddai’r argymhellion hyn yn diogelu ymddiriedolwyr i raddau helaeth yn erbyn atebolrwydd posibl yn deillio o amrywiadau mawr yng ngwerth eiddo, neu gost deunyddiau adeiladu. Nid yw newidiadau mewn prisiau eiddo a deunyddiau adeiladu yn cael eu hadlewyrchu’n ddigonol o reidrwydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Gall elusennau brynu yswiriant ychwanegol i dalu am golli incwm neu’r gost ychwanegol o rentu adeilad arall os nad yw’r eiddo yn addas i’w ddefnyddio am gyfnod (oherwydd digwyddiad wedi’i yswirio fel tân).

Elusennau sy’n lesddeiliaid: Os yw elusen yn meddiannu eiddo o dan brydles, mae’n hanfodol bod telerau’r brydles yn cael eu harchwilio i weld pwy (yr elusen fel y lesddeiliad neu’r landlord) sy’n gyfrifol am yswirio’r adeilad. Mewn rhai achosion, gall cyfrifoldeb am yswirio’r adeiladau, o dan delerau’r brydles, gael ei gyfyngu i rai peryglon fel tân, mellt, daeargryn a ffrwydrad. Os yw’r elusen yn ei rhinwedd fel y lesddeiliad yn gyfrifol am atgyweiriadau i’r adeilad, mae’n bosib y bydd angen i’r ymddiriedolwyr ystyried a ellid yswirio yn erbyn risgiau eraill hefyd.

Os yw’r brydles ar gyfer rhan o adeilad yn unig, gall y landlord fod yn atebol i yswirio’r adeilad cyfan, ond efallai y bydd rhaid i bob lesddeiliad dalu cyfraniad priodol tuag at gost yr yswiriant i’r landlord (yn ogystal â’r rhent). Fel arfer cyfrifir swm y cyfraniad yn ôl fformwla gytunedig wedi’i nodi yn y brydles a’i ychwanegu at y rhent sy’n daladwy gan y lesddeiliad.

Elusennau sy’n landlordiaid: Pan fydd prydlesau’n cael eu llunio mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried pwy sy’n gyfrifol am yswiriant. Os yw’r elusen yn parhau i fod yn gyfrifol am yswiriant adeiladau (e.e. yn achos amlbreswyliaeth), mae angen i’r ymddiriedolwyr sicrhau bod y rhenti y cytunwyd arnynt yn adlewyrchu hyn, neu fod y brydles yn galluogi’r landlord i ailgodi rhan briodol o’r costau yswiriant ar bob un o’r lesddeiliaid. Os mai’r lesddeiliad fydd yn gyfrifol, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau bod yswiriant digonol gan y lesddeiliad. Gall y brydles gynnwys darpariaeth i’r elusen gael copïau o ddogfennau yswiriant adeiladau a chael rhywfaint o reolaeth dros lefel yr yswiriant.

4.2 Yswiriant cynnwys - beth ddylai elusennau ei ystyried?

Yr ateb byr

Mae’r ddyletswydd i ddiogelu eiddo elusen (gweler adran 2.2) yn ymestyn i gynnwys adeilad megis dodrefn, offer ac arian parod, a dylai fod polisi addas gan elusennau. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried y canlynol: - a ddylai’r yswiriant fod ar ‘sail newydd am hen’ - a ddylai’r yswiriant gynnwys colled sy’n deillio o ladrad - a oes angen i’r yswiriant gynnwys difrod damweiniol - a yw’n cynnwys eitemau penodol megis cyfrifiaduron - a yw’n cynnwys arian parod sy’n cael ei gludo neu sydd ar y safle lle y bo’n briodol

Yn fwy manwl

‘Newydd am hen’ yw’r math mwyaf cyffredin o yswiriant cynnwys. Mae’n bwysig bod yr elusen yn sicrhau ei bod hi’n gwybod beth yw gwerth cyfnewid cyfredol eitem at ddibenion yswiriant. Er enghraifft, efallai fod yr elusen wedi cael cyfrifiadur yn rhodd neu efallai di bod hi’n gallu prynu un sy’n is na phris y farchnad gyfredol, ond at ddibenion yswiriant dylai ddefnyddio gwerth y farchnad gyfredol. Os nad yw’n gwneud hynny, ni fyddai’r elusen yn cael ei had-dalu’n llawn am brynu cyfrifiadur arall os caiff ei golli.

Mae’n bosib i bolisïau yswiriant cynnwys gael cyfleuster mynegrifol awtomatig a bydd angen i’r ymddiriedolwyr ystyried a yw hyn yn briodol ar gyfer eu helusen nhw.

Os yw elusen yn gosod eiddo, mae yswiriant cynnwys yn gyfrifoldeb y lesddeiliad fel arfer, os yw’r cynnwys yn eiddo’r lesddeiliad. Os yw’r adeilad yn cael ei osod wedi’i ddodrefnu, bydd rhaid i’r elusen fel y landlord sicrhau naill ai fod y brydles yn nodi bod y tenant yn uniongyrchol gyfrifol am yswirio’r cynnwys, neu fod y tenant yn talu, trwy’r rhent neu dâl gwasanaeth, am yr yswiriant y mae’r elusen yn ei brynu.

Yn achos rhai elusennau, er enghraifft amgueddfa neu oriel gelf, mae’n bosib na fydd yswirio yn erbyn colli neu ddifrodi cynnwys yn briodol oherwydd mae’r cynnwys yn unigryw neu oherwydd byddai’r gost o’i ailbrynu yn rhy uchel. Pe byddai’r ymddiriedolwyr yn talu’r gost honno, efallai na fydden nhw’n gallu ymgymryd â’u gweithgareddau craidd eraill (er enghraifft arddangos, cynnal a chadw ac atgyweirio’r casgliad).

Gall yswiriant ar gyfer eitemau unigryw gael ei brynu ar sail ‘gwerth cytûn’ weithiau. Er bod yr eitem ei hun yn unigryw, gall yr yswiriwr gytuno ar ‘werth cyfnewid’ a bydd unrhyw daliad yn seiliedig ar y ffigur hwn a gellir ei ddefnyddio i brynu eitemau eraill.

Yn ogystal, gall yswiriant gael ei brynu am bris rhesymol ar gyfer cost atgyweirio eitemau sydd wedi’u difrodi, neu gost ymchwilio i ladrad a cheisio adfer eitemau sydd wedi cael eu dwyn. Gallai mesurau diogelwch gael eu hadolygu er mwyn lleihau’r risg o golled a gallai hyn olygu ei bod hi’n haws cael yswiriant.

Mae’r comisiwn yn argymell bod ymddiriedolwyr yn ceisio cyngor proffesiynol cyn penderfynu beth fyddai’n rhesymol yn yr amgylchiadau a beth fyddai er lles eu helusen nhw.

4.3 Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus - beth ddylai elusennau ei ystyried?

Yr ateb byr

Gall hwn fod yn briodol i elusennau sy’n berchen ar dir neu adeiladau neu sy’n eu meddiannu. Mae’n cynnig diogelwch atebolrwydd cyfreithiol:

  • yn erbyn aelodau’r cyhoedd sy’n hawlio yn dilyn anaf corfforol/salwch, colled neu ddifrod i eiddo materol sy’n digwydd ar safle’r elusen
  • yn erbyn ceisiadau sy’n codi o dan Ddeddfau Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984 - mae’r Deddfau hyn yn gosod dyletswydd gofal ar feddiannwr yr eiddo mewn perthynas ag ymwelwyr i’w eiddo a thresmaswyr ar ei eiddo2

Yn fwy manwl

Gall yswiriant atebolrwydd cyhoeddus hefyd fod yn briodol i elusennau sy’n ymgymryd â gweithgaredd busnes rywle arall heblaw ar eu safle eu hunain neu’n trefnu digwyddiadau lle mae’r cyhoedd yn bresennol. Felly, byddai’r elusen a’i hymddiriedolwyr, ei gweithwyr a’i gwirfoddolwyr wedi’u hindemnio yn erbyn aelodau’r cyhoedd sy’n hawlio yn dilyn niwed corfforol/salwch, colled neu ddifrod i eiddo materol a ddigwyddodd yn ystod y gweithgaredd, y digwyddiad neu wrth gyflenwi. Gall rhai prydlesau neu gontractau y mae elusennau’n eu harwyddo ar gyfer defnyddio eiddo ofyn am y math hwn o yswiriant.

Os yw cais yn fwy na’r uchafswm sy’n daladwy o dan y polisi (‘terfyn indemnio’) gall ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol am dalu’r diffyg. Dyma fyddai’r achos os oedd yswiriant digonol ar gael, ond roedden nhw wedi gweithredu’n afresymol drwy beidio â’i brynu, gan ystyried yr holl amgylchiadau gan gynnwys natur y risg a chost y polisi yswiriant. Nid oes lefel yswiriant lleiaf statudol.

4.4 Hysbysiadau ymwadiad - pa effaith ydyn nhw’n ei chael?

Mae’n bosib na fydd arddangos hysbysiad ymwadiad (sydd i’w weld yn aml mewn ystafelloedd cotiau a meysydd parcio) ynglyˆn â niwed, difrod neu golled i berson neu eiddo tra ei fod ar y safle neu’n defnyddio’r adeilad, yn cael yr effaith o osgoi atebolrwydd.

Bydd rhaid i elusennau geisio cyngor proffesiynol ar ddefnyddio hysbysiadau ymwadiad.

5. Trosolwg o’r mathau eraill o yswiriant sydd ar gael

5.1 Yswiriant digwyddiadau ac apeliadau

Yn aml, bydd elusennau sydd am drefnu digwyddiadau codi arian megis garddwesti, sioeau a galâu yn prynu yswiriant yn erbyn colledion sy’n deillio o ganslo’r digwyddiad oherwydd tywydd gwael. Gelwir hwn weithiau yn ‘yswiriant glawol’. Fel arfer mae cyfyngiadau amser a threfniadau caeth ar gyfer mesur lefelau glaw yn gysylltiedig â’r math hwn o yswiriant. Mae’r comisiwn yn argymell y dylai ymddiriedolwyr sy’n dymuno prynu’r math hwn o yswiriant geisio cyngor proffesiynol.

Fel rheol mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (gweler adran 4.3) yn cael ei argymell ar gyfer digwyddiadau mawr, ac fe’i cynghorir ar gyfer digwyddiadau bach hefyd. Bydd rhai lleoliadau yn gofyn am y math hwn o yswiriant a bydd yn pennu isafswm lefel yr yswiriant.

Os yw elusen yn cynnal apêl, mae yswiriant ar gael i dalu am gostau sefydlu a gweinyddu’r apêl rhag ofn nad yw’r ymateb cystal ag y disgwylir. Gallai hefyd gael ei estyn i gynnwys colli’r arian parod a godir mewn digwyddiad pan fydd yn cael ei gludo neu ei gadw yng nghartref unigolyn enwebedig neu uwch swyddog yr elusen. Os ydych chi’n bwriadu cynnal apêl codi arian fawr, dylai ymddiriedolwyr ystyried a yw’r math hwn o bolisi yn briodol. Fe gewch ragor o wybodaeth am godi arian yn y canllaw Elusennau a Chodi Arian (CC20).

5.2 Yswiriant ffyddlondeb

Mae modd cael yswiriant i wneud iawn am y golled y mae’r elusen yn ei hwynebu yn dilyn twyll neu anonestrwydd ar ran unrhyw un o’i gweithwyr os ydyn nhw’n trin arian parod neu eitemau gwerthfawr eraill yr elusen. Gall fod modd (a gall fod yn ddoeth) i ymestyn yr yswiriant hwn i gynnwys twyll neu anonestrwydd ar ran unrhyw ymddiriedolwr a/neu wirfoddolwr hefyd. Nid yw’r math hwn o yswiriant (a elwir weithiau yn yswiriant ‘lladrata gan weithiwr’ neu’n yswiriant ‘anonestrwydd gweithiwr’) yn ddewis arall i reolaeth risg ariannol a phersonél cadarn ac fel arfer fe’i darperir dim ond os gall yr elusen ddangos bod ei threfniadau gweinyddol yn ddigonol ac wedi’u harolygu’n briodol. Fe gewch ragor o wybodaeth am wiriadau a rheolaethau priodol yn y canllaw Rheolaethau Ariannol Mewnol ar gyfer Elusennau (CC8).

Os yw ymddiriedolwyr yn cael eu cynghori gan eu hymgynghorwyr proffesiynol cyfreithiol neu annibynnol bod angen yr yswiriant hwn neu ei fod yn ddymunol, mae’n rhaid i unrhyw ofn o roi’r argraff nad ydyn nhw’n ymddiried yn eu gweithwyr ddod yn ail i’w dyletswydd i ddiogelu asedau, adnoddau neu enw da’r elusen.

5.3 Yswiriant costau cyfreithiol

Gall elusennau brynu yswiriant i indemnio cost rhai costau cyfreithiol a all godi os oes rhaid i’r elusen ddwyn achos neu amddiffyn achos cyfreithiol a byddai’n daladwy fel arall gan yr elusen o’i hasedau ei hun (oni bai bod modd adfer y gost o’r gwrthwynebydd). Os yw’r math hwn o yswiriant yn cwmpasu costau anghydfod cyflogaeth, fel arfer mae hefyd yn cwmpasu atebolrwydd yr elusen (fel cyflogwr) am unrhyw iawndal penodedig a ddyfernir i’r gweithiwr. Fel rheol gall yr yswiriant gael ei ymestyn i gynnwys achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn yr ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr.

Fel rheol bydd yswiriant costau cyfreithiol yn cael ei brynu yn y ffordd arferol cyn bod unrhyw anghydfod neu gais yn codi, ac weithiau mae yswiriant cyfyngedig i unigolion wedi’i gynnwys ym mholisi cynnwys cartref neu yswiriant modur heb lawer neu dim cost ychwanegol. Mae hefyd modd prynu yswiriant costau cyfreithiol ar ôl adnabod angen arbennig am achos cyfreithiol, pan fydd yr yswiriant yn diogelu elusen sydd yn y sefyllfa ansicr o fod yn agored i dalu’r costau sy’n codi wrth ddelio â’r cais neu’r anghydfod dan sylw.

5.4 Llinellau cymorth cyngor cyfreithiol

Mae rhai polisïau costau cyfreithiol (a pholisïau yswiriant eraill) sydd ar gael i elusennau yn cynnwys cael cyngor cyfreithiol am ddim, fel arfer trwy linell gymorth dros y ffôn. Gall gwasanaeth o’r fath fod yn ddefnyddiol pan fydd problem yn codi ac mae angen cyngor ar frys cyn i’r broblem droi’n golled neu’n gais posibl, os yw wedi’i gynnwys gan unrhyw un o bolisïau yswiriant yr elusen neu beidio.

5.5 Colli refeniw/cynnydd yng nghost gweithio

Gall yswiriant colled ganlyniadol gael ei drefnu ar gyfer gostyngiadau mewn incwm busnes yr elusen a/neu gynnydd yn ei gorbenion pan fydd y busnes yn cael ei effeithio gan dân neu ddigwyddiad arall sy’n achosi difrod i’w adeiladau a/neu ei offer. Dylai’r yswiriant fod yn ddigonol i dalu’r gost o hurio eiddo a/neu offer newydd yn ystod unrhyw waith adeiladu neu tra bydd yr elusen yn aros am offer newydd.

5.6 Yswiriant indemniad proffesiynol

Os yw elusen yn darparu, naill ai dan gontract neu am ffi neu fel arall, wasanaeth proffesiynol (megis cwnsela) neu unrhyw fath arall o gyngor neu wybodaeth (yn enwedig os yw’n gymhleth neu os gall fod yn ddadleuol), gall yr elusen fod yn atebol os yw hwn yn cael ei ddarparu’n esgeulus. Dylai’r elusen ystyried prynu yswiriant yn erbyn ceisiadau sy’n hawlio bod yr elusen yn atebol yn gyfreithiol am niwed, colled neu ddifrod a gafwyd pan ddarparwyd y gwasanaeth hwnnw neu o ganlyniad i ddilyn y cyngor neu ddefnyddio’r wybodaeth honno.

Dylid ystyried telerau polisïau o’r fath yn ofalus. Os yw’r polisi (fel sy’n gyffredin) yn cwmpasu ceisiadau sy’n cael eu cychwyn yn ystod cyfnod y polisi yswiriant, waeth pryd y rhoddwyd y cyngor yr honnir iddo fod yn esgeulus, yna efallai y bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried neilltuo digon o arian i dalu’r premiymau ar gyfer cyfnod o sawl blwyddyn (yn unol â chyngor proffesiynol) ar ôl i’r cyngor gael ei roi. Gall y cyfnod hwn ymestyn y tu hwnt i ddiddymu’r elusen.

Bydd rhai o’r bobl y mae gan yr elusen berthynas gytundebol â nhw, megis cyfrifwyr, penseiri a gweithwyr proffesiynol eraill wedi prynu yswiriant indemniad proffesiynol eu hunain. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o’r ffaith bod rhaid i weithwyr proffesiynol gael yswiriant o’r fath. Os yw’r elusen yn cael gwasanaeth gwael iawn gan weithwyr proffesiynol ac mae hyn yn creu costau ychwanegol i’r elusen, yna dylen nhw ystyried hawlio yn erbyn y gweithiwr proffesiynol dan sylw.

5.7 Salwch staff

Gellir prynu yswiriant ar gyfer y gost o dalu cyflog salwch i weithwyr cyflogedig. Gall rhai mathau o yswiriant dalu am gostau’r elusen o ddarparu yswiriant i weithiwr sy’n sâl.

Os yw’r elusen yn prynu yswiriant salwch staff sy’n rhoi unrhyw daliad yn uniongyrchol i’r aelod o staff sy’n sâl, mae hwn yn fudd mewn nwyddau i’r gweithiwr sy’n drethadwy ar y premiwm. Fodd bynnag, os yw’r elusen yn prynu yswiriant sy’n ad-dalu’r elusen ei hun pan fydd aelod o staff yn sâl ac mae hawl gan y gweithiwr i gael tâl salwch wedi’i gynnwys yn ei gontract cyflogaeth, nid oes unrhyw fudd trethadwy i’r gweithiwr.

Mae’n bwysig nad yw’r elusen yn prynu yswiriant sy’n talu’r gweithiwr os yw’r gweithiwr eisoes yn gallu hawlio tâl salwch o dan ei gontract cyflogaeth. Os yw hyn yn digwydd, ni chaiff yr elusen ei had-dalu am y tâl salwch sy’n cael ei dalu o dan y polisi.

5.8 Terfysgaeth a thrais gwleidyddol

Er y gall yswirwyr yswirio yn erbyn effeithiau gweithgareddau terfysgwyr, mae hwn ar gael fel yswiriant ychwanegol ac nid yw wedi’i gynnwys mwyach ym mholisïau yswiriant safonol. Mae’r math hwn o yswiriant yn darparu indemniad os yw eiddo sydd wedi’i yswirio yn cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi gan derfysgwyr. Gallai’r math hwn o yswiriant fod yn unrhyw fath o warant gan gwmni yswiriant y bydd yn talu os yw rhywbeth yn cael ei ddinistrio, ei ddifrodi neu ei addasu fel arall oherwydd gweithredoedd terfysgwyr. Mae’n diogelu’r eiddo yn ogystal â’r unigolyn sy’n cael ei herwgipio a’i bridwerthu.

5.9 Yswiriant teithio

Bydd rhaid i ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr nifer o elusennau deithio’n aml a bydd rhaid i elusennau gael polisi clir sy’n egluro pa yswiriant y bydd yn ei ddarparu a phryd y bydd yn disgwyl i ymddiriedolwyr, staff elusen neu wirfoddolwyr ddarparu eu hyswiriant eu hunain. Mae risg sylweddol i enw da yn debygol os nad yw hyn yn cael ei ddeall ac mae rhywun yn hawlio yn erbyn yr elusen.

5.10 Yswiriant indemniad ymddiriedolwyr

Mae yswiriant indemniad ymddiriedolwyr (YIY) yn yswirio ymddiriedolwyr rhag gorfod talu am achosion cyfreithiol sy’n cael eu dwyn yn eu herbyn (gan eu helusen neu gan drydydd parti) oherwydd tor- ymddiriedaeth, neu dor-ddyletswydd neu esgeulustod a gafodd eu cyflawni yn rhinwedd eu swydd fel ymddiriedolwyr.

Y prif wahaniaeth rhwng yswiriant indemniad ymddiriedolwyr a mathau eraill o yswiriant sy’n cael ei brynu er budd yr elusen yw bod YIY yn diogelu ymddiriedolwr unigol yn uniongyrchol, yn hytrach na’r elusen ei hun. Am y rheswm hwnnw, ystyrir bod YIY yn fath o fudd personol i ymddiriedolwr a bydd rhaid i elusen gael awdurdod cyfreithiol priodol cyn y gall ei brynu drwy ddefnyddio ei harian ei hun. Mae sawl elusen wedi cael y math hwn o awdurdod ers tro yn eu dogfennau llywodraethol, ond os nad oes gan elusen yr awdurdod hwn, erbyn hyn mae adran 189 o Ddeddf 1993 yn darparu pwˆer cyffredinol i brynu YIY gan ddefnyddio arian yr elusen. Rhaid i’r gost fod yn rhesymol a rhaid i’r ymddiriedolwyr sicrhau bod YIY er lles gorau eu helusen.

Gall ymddiriedolwyr elusen brynu YIY o’u pocedi eu hunain os dymunant - ni fyddai hyn yn gofyn am unrhyw awdurdod cyfreithiol.

Mae hyn yn golygu mai’r unig amser y bydd angen i elusen gysylltu â’r comisiwn am awdurdod i brynu

YIY yw pan fydd dogfen lywodraethol yr elusen yn gwahardd ei brynu ac, yn ein profiad ni, mae hyn yn anghyffredin iawn. Nid yw’r pwˆer statudol i brynu YIY wedi’i eithrio gan waharddiad cyffredin ar ymddiriedolwyr sy’n cael budd gan yr elusen.

Gall ymddiriedolwyr elusen brynu YIY i yswirio eu hunain yn erbyn unrhyw atebolrwydd personol mewn perthynas ag:

(a)  unrhyw dor-ymddiriedaeth neu dor-ddyletswydd y maen nhw’n ei gyflawni yn rhinwedd eu swydd fel ymddiriedolwyr elusen neu ymddiriedolwyr ar gyfer yr elusen; neu

(b)  unrhyw esgeulustod, diffyg gweithredu, tor-ddyletswydd neu dor-ymddiriedaeth a gyflawnir ganddynt tra eu bod nhw’n gweithredu fel cyfarwyddwyr neu swyddogion yr elusen (os yw’n gorff corfforaethol) neu unrhyw gorff corfforaethol sy’n ymgymryd ag unrhyw weithgareddau ar ran yr elusen.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i delerau yswiriant o’r fath gael eu llunio fel eu bod nhw’n gwahardd indemnio unigolyn mewn perthynas ag:

(a)  unrhyw atebolrwydd a ddaw i’w ran i dalu:

  • dirwy sy’n cael ei gosod mewn achos troseddol, neu
  • swm sy’n daladwy i awdurdod rheoleiddio drwy gyfrwng cosb oherwydd nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o natur reoleiddio (sut bynnag y mae’n codi)

(b)  unrhyw atebolrwydd sy’n dod i’w ran wrth amddiffyn unrhyw achos troseddol lle mae’n cael ei ddedfrydu’n euog o drosedd o ganlyniad i unrhyw dwyll neu anonestrwydd, neu gamymddygiad bwriadol neu ddi-hid; neu

(c)  unrhyw atebolrwydd sy’n dod i ran yr elusen sy’n deillio o unrhyw ymddygiad yr oedd yr ymddiriedolwr yn gwybod (neu gellir cymryd yn rhesymol ei fod yn gwybod) nad oedd er lles yr elusen, neu nid oedd ef neu hi wedi ystyried a oedd hyn er lles gorau’r elusen neu beidio

Os yw ymddiriedolwyr elusen wedi gweithredu’n onest ac yn rhesymol, mae hawl ganddynt gael eu hindemnio o asedau’r elusen am unrhyw atebolrwydd a ddaw i’w rhan fel ymddiriedolwyr. Bydd yswirio atebolrwydd o’r fath o fudd i’r elusen yn hytrach na’r ymddiriedolwyr, ond bydd hefyd yn sicrhau bod ymddiriedolwyr wedi’u hyswirio hyd yn oed os nad oes digon o asedau gan yr elusen i ddarparu’r indemniad.

Os yw elusen yn gwmni, neu os yw’n cyflawni rhan o’i busnes trwy gwmni ar wahân, mae atebolrwydd personol ymddiriedolwyr ar gyfer unrhyw weithredoedd anghyfreithlon fel cyfarwyddwyr cwmni neu swyddogion (gan gynnwys unrhyw atebolrwydd am fasnachu anghyfreithlon’ wedi’i gynnwys yn yr un modd ar yr amod nad yw wedi’i gynnwys o fewn (c) uchod.

5.11 Cyfranwyr

Hoffem ni ddiolch i Ecclesiastical Insurance Group plc a Zurich Insurance plc am eu cyngor technoleg defnyddiol ar gynnwys y canllaw diwygiedig hwn.