Papur polisi

Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen

Diweddarwyd 3 March 2021

This papur polisi was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

You can:

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws wedi’i ymestyn tan 30 Medi 2021 a bydd lefel y grant sydd ar gael i gyflogwyr drwy’r cynllun yn aros yr un fath tan 30 Mehefin 2021.

1. Newidiadau i lefel y grant o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn cael ei gostwng a gofynnir i chi gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i chi barhau i dalu eich cyflogeion sydd ar ffyrlo 80% o’u cyflog, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, am y cyfnod y maent ar ffyrlo.

Mae’r tabl isod yn dangos lefel cyfraniad y llywodraeth a fydd ar gael yn y misoedd sydd i ddod, cyfraniad gofynnol y cyflogwr a’r swm y bydd y cyflogai yn ei gael bob mis tra bo’r cyflogai ar ffyrlo 100% o’r amser.

Mae uchafswm cyflog yn gymesur â’r oriau na chawsant eu gweithio.

Mai Mehefin Gorffennaf Awst Medi
Cyfraniad y llywodraeth: cyflog am oriau na chawsant eu gweithio 80% hyd at £2,500 80% hyd at £2,500 70% hyd at £2,187.50 60% hyd at £1,875 60% hyd at £1,875
Cyfraniad y cyflogwr: CYG a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr Iawn Iawn Iawn Iawn Iawn
Cyfraniad y cyflogwr: cyflog am oriau na chawsant eu gweithio Na Na 10% hyd at £312.50 20% hyd at £625 20% hyd at £625
Am yr oriau na chawsant eu gweithio, mae’r cyflogai’n cael 80% hyd at £2,500 y mis 80% hyd at £2,500 y mis 80% hyd at £2,500 y mis 80% hyd at £2,500 y mis 80% hyd at £2,500 y mis

Gallwch barhau i ddewis ychwanegu at gyflog eich cyflogeion, dros y cyfanswm o 80% a’r uchafswm o £2,500 am yr oriau na chawsant eu gweithio, allan o’ch poced eich hun.