Awgrymiadau i gael eich pasbort yn gyflymach (Fersiwn HTML)
Diweddarwyd 4 Hydref 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mam
Mae’n rhaid i’r fam:
- fod wedi’i chofrestru ar y System Olrhain Gwartheg fel benyw
- bod yn fyw ar adeg bwrw llo
- bod â chyfnod bwrw llo dilys
O dan amgylchiadau arferol, y fam enetig fydd mam naturiol y llo.
Yn achos trosglwyddiad embryo, y fam enetig fydd yr anifail y daw’r embryo ohono, a dylid nodi Trosglwyddiad Embryo ar eich cais. Y fam faeth yw’r anifail sydd wedi rhoi genedigaeth i’r llo a dylid nodi rhif y tag clust. Dim ond o dan yr amgylchiadau hyn y dylid cwblhau manylion y fam faeth.
Tag clust
Mae’n rhaid i chi roi dau dag clust ar eich llo cyn gwneud cais am basbort gwartheg. Os bydd gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i’w trafod.
Brîd
Bydd angen i chi ddilyn llinach y tad er mwyn cadarnhau beth yw’r brîd. Mae’r rhestr codau brîd swyddogol ar gael yn GOV.UK.
Codau brîd a nodir yn anghywir yn aml
Defnyddiwch BRB neu BRBX ar gyfer gwartheg Glas Prydeinig neu wartheg Croesiad Glas Prydeinig. Ni chaiff cod brîd Glas Gwlad Belg ei ddefnyddio mwyach.
Nodwch LIM neu LIMX ar gyfer Limousin neu Groesiad Limousin.
Dylid nodi gwartheg byrgorn fel un o’r canlynol:
- Byrgorn Llaeth (DS)
- Byrgorn Eidion (BSH)
- Byrgorn Gwyn (WS)
Ychwanegwch ‘X’ at y cod brîd os mai croesiad yw’r anifail.
Tad
Gallwch nodi rhif y tag clust os yw’r wybodaeth gennych. Os mai dim ond yr enw sydd gennych a’ch bod am i hwn ymddangos ar y pasbort, nodwch enw hyd at 14 llythyren.
Pwysig
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am basbort gwartheg
Mae’n rhaid i chi gofrestru’r llo o fewn 27 diwrnod i’r enedigaeth. Caiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y cyfnod hwn eu gwrthod.
System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein
SOG Ar-lein yw’r ffordd hawsaf o wneud cais am basbortau gwartheg. Caiff eich gwybodaeth ei chadarnhau cyn i chi ei chyflwyno er mwyn lleihau’r risg o wneud camgymeriad. Er mwyn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn am ddim, e-bostiwch bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Cyflwyno’ch ffurflen gais
Dylid anfon ffurflenni papur i:
British Cattle Movement Service
PO Box 301
SHEFFIELD
S95 1AB
Os nad ydych am gael ffurflenni cais papur, rhowch wybod i ni.
Llinell Hunanwasanaeth
Gallwch hefyd wneud cais am basbort gwartheg drwy ddefnyddio ein Llinell Hunanwasanaeth, sef llinell ffôn awtomataidd sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 0345 011 1213, neu 0345 011 1212 ar gyfer y llinell gymorth Saesneg.
Gwneud camgymeriad ar ffurflenni cais
Mae’n rhaid i unrhyw gamgymeriad gael ei gywiro cyn bod y pasbort yn cael ei gyflwyno. Ar ôl hyn, bydd angen i’r pasbort gael ei ddychwelyd. Os byddwch yn sylweddoli ar unwaith eich bod wedi gwneud camgymeriad, ffoniwch ni er mwyn sicrhau y byddwn yn ymdrin â hyn yn ddi-oed.
Heb dderbyn pasbort
Dylech dderbyn eich pasbort o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud cais. Os na fyddwch yn ei dderbyn, cysylltwch â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain cyn gynted â phosibl. Os na chaiff Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain ei hysbysu o fewn 6 wythnos ar ôl i basbort gael ei anfon, codir ffi o £20 am basbort newydd. Edrychwch ar eich pasbort cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn er mwyn sicrhau bod holl fanylion yr anifail yn gywir. Os bydd unrhyw fanylion yn anghywir, dychwelwch y pasbort i’w newid.
Cysylltu â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Llinell Gymorth
0345 050 3456 (Cymraeg)
0345 050 1234 (Saesneg)