Canllawiau

Canslo nwyddau neu wasanaethau

Cyhoeddwyd 2 March 2016

A ydych chi’n ddefnyddiwr sydd wedi:

  • Cytuno i brynu nwyddau neu wasanaethau, ond wedi newid eich meddwl neu’n methu bwrw ymlaen â’r contract?
  • Wedi cael cais i dalu tâl canslo i’r busnes, ond eisiau herio’r swm?
  • Wedi colli eich blaendal neu daliadau o flaen llaw, ac eisiau eu cael yn ôl gan y busnes?

Efallai y bydd y busnes yn gofyn am fwy o arian nag y mae ganddo hawl iddo. Dim ond oherwydd ei fod yn y contract, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Ni all busnesau ddibynnu ar amodau annheg. Gwiriwch eich hawliau defnyddwyr.

Efallai y bydd cyfraith defnyddwyr yn gallu’ch helpu

Peidiwch â dim ond derbyn y gall y busnes gadw eich blaendal a thaliadau o flaen llaw neu ofyn i chi dalu tâl canslo os ydych chi’n canslo’r cytundeb.

Dim ond os yw amod y contract yn deg y gall y busnes wneud hyn.

Dydy tâl canslo ddim yn deg dim ond am ei fod yn y contract a lofnodoch – mae angen iddo fod yn rhesymol.

Weithiau bydd gennych chi hawl i ad-daliad llawn neu rannol – ond allwch chi ddim disgwyl cael eich arian i gyd yn ôl pob tro os byddwch yn newid eich meddwl.

Gall busnesau gadw eich blaendal neu daliadau o flaen llaw, neu ofyn i chi dalu tâl canslo dan amgylchiadau penodol yn unig

Os byddwch chi’n canslo’r contract, yn gyffredinol does gan y busnes ddim ond hawl i gadw neu dderbyn swm digonol i dalu gwir golledion sy’n deillio’n uniongyrchol o ganslo (e.e. costau sydd eisoes wedi codi neu golled elw).

Rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau eu colledion (e.e. trwy ailwerthu’r nwyddau neu wasanaethau).

Dylai blaendaliadau nad ydynt yn ad-daladwy fod yn ganran fechan o’r pris yn unig.

Rhaid i daliadau canslo fod yn amcangyfrif dilys o golled uniongyrchol y busnes.

Cysylltwch â’r busnes

Os oes gennych bryderon, yn gyntaf gofynnwch i’r busnes esbonio sut wnaethant gyfrifo’r swm maent yn ei gadw neu’n ei godi arnoch am ganslo’r contract.

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i gyfarwyddo’ch hun gyda’n cyngor i fusnesau.

Am wybodaeth neu gyngor

Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (03454 04 05 06) am gyngor ar beth i’w wneud.

Dewch o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf ar www.citizensadvice.org.uk (Cymru a Lloegr) neu www.cas.org.uk (yn yr Alban).

Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline ar 0300 123 626.

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cymryd lle cyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am amodau annheg ar dudalennau gwe’r CMA.