Skip to main content
Ffurflen

Llosgi tail dofednod ar eich fferm: cais am gymeradwyaeth

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am gymeradwyaeth i losgi tail dofednod heb ei brosesu mewn peiriant llosgi ar eich fferm neu'ch daliad.

Dogfennau

ABPR36: Ffurflen gais ac arolygu ar gyfer cymeradwyo gweithfeydd hylosgi ar ffermydd lle defnyddir tail dofednod fel tanwydd

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Darperir y ffurflen hon i fferm wneud cais am gymeradwyaeth i weithredu peiriant llosgi sy’n defnyddio tail dofednod fel tanwydd.  

Dim ond tail heb ei brosesu sy’n cael ei gynhyrchu gan ddofednod ar yr un safle y gellir ei ddefnyddio fel tanwydd. 

Mae’r ffurflen hon yn cynnwys crynodeb o’r gofynion sylfaenol ar gyfer y peiriant cyn y gellir rhoi cymeradwyaeth. Mae’r broses gymeradwyo yn cynnwys archwiliad o’r safle. 

Darllenwch y canllaw ar ddefnyddio, storio neu symud tail am ragor o wybodaeth am losgi tail dofednod ar eich fferm. 

Dylai cwsmeriaid yn Lloegr ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i APHA Customer Service Centre Worcester. 

Dylai cwsmeriaid yng Nghymru ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i swyddfa APHA yng Nghaernarfon. 

Dylai cwsmeriaid yn yr Alban ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’w Swyddfa Gwasanaeth Maes APHA leol.

Argraffu'r dudalen hon