Byrgyrs
Cyhoeddwyd 19 Rhagfyr 2017
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Paratoi byrgyrs yn ddiogel yn y cartref
Dylech chi bob amser goginio byrgyrs yn drylwyr, p’un a ydych chi’n eu coginio ar y barbeciw neu yn y gegin. Gall byrgyrs gwaedlyd neu rai sydd heb eu coginio’n drylwyr gynnwys bacteria niweidiol a allai achosi gwenwyn bwyd.
Cyn gweini’ch byrgyrs, dylech chi bob amser sicrhau y canlynol:
- eu bod yn stemio’n boeth drwyddynt
- nad oes cig pinc pan fyddwch yn torri i ganol y byrgyr
- bod unrhyw suddion yn glir
Bydd oeri bwyd yn iawn yn helpu i’w gadw’n ddiogel:
- storiwch friwgig neu fyrgyrs amrwd yn yr oergell; y tymheredd delfrydol yw 5°C neu is
- sicrhewch fod cig oer yn cael ei gadw tu allan i’r oergell am yr amser byrraf posib cyn ei goginio
Mae hefyd yn bwysig cofio atal croeshalogi drwy:
- orchuddio cig amrwd a’i gadw ar wahân i fwyd parod i’w fwyta
- defnyddio dysgl a fydd yn atal suddion rhag tasgu
- storio cig amrwd ar silff waelod yr oergell
- defnyddio gwahanol offer, platiau a byrddau torri ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio (neu eu golchi nhw’n drylwyr rhwng tasgau)
- golchi’ch dwylo ar ôl cyffwrdd â chig amrwd a chyn trin bwyd parod i’w fwyta
Pam nad yw byrgyr fel stêc
Gall bacteria niweidiol fod yn bresennol ar arwyneb darnau cyfan o gig. Pan gaiff stêc waedlyd ei serio (sear), mae’r bacteria hyn yn cael eu lladd, sy’n gwneud y stêc yn ddiogel i’w bwyta.
Pan gaiff cig ei friwio (mince) i wneud byrgyrs, mae unrhyw facteria niweidiol oddi ar arwyneb y cig amrwd yn cael eu lledaenu drwy’r byrgyr. Oni bai bod y byrgyr wedi’i goginio drwyddo draw, mae’r bacteria hyn yn gallu parhau i fyw ar y tu mewn. Mae hyn yn berthnasol i bob math o fyrgyr, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u gwneud o gig o ansawdd neu gig drud.
Dyma pam mae angen coginio byrgyr yn drylwyr, er y gallwch chi weini stêc yn waedlyd.
Mae fideo gan yr ASB yn esbonio’r gwanhaniaeth.
Sut mae bacteria yn mynd ar gig
Pan gaiff cig ei gynhyrchu, mae bacteria niweidiol fel E. Coli O157 a salmonela yn gallu ei halogi. Yn bennaf, mae’r bacteria hyn yn dod o goluddion yr anifail. Pan gaiff anifeiliaid eu lladd, mae’n bosibl y gall E. Coli O157 a bacteria eraill o goluddion yr anifail halogi arwyneb y cig.
Mae hyd yn oed cig o’r safon uchaf yn cynnwys bacteria
Mae halogi’n gallu digwydd ar ddechrau’r broses, pan gaiff anifeiliaid eu lladd. Does dim ffordd o wybod pa anifeiliaid sydd â bacteria niweidiol yn eu coluddion.
Nid yw ansawdd y cig rydych chi’n ei brynu yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r risg bosib o halogi.
Ewch ati i atal croes-halogi.
Bwyta byrgyrs gwaedlyd mewn bwytai
Mae rhai bwytai yn gallu rhoi mesurau rheoli llym ar waith ar gyfer y byrgyrs maent yn eu cynhyrchu a’u coginio. Mae’r mesurau hyn yn golygu bod y risg o fyrgyrs sy’n binc yn y canol yn cael ei lleihau’n sylweddol.
Mae’n bwysig cofio bod risg yn dal i fodoli pan nad yw byrgyr yn cael ei goginio’n drylwyr, hyd yn oed mewn bwytai sydd â mesurau rheoli llym ar waith.
Dyma pam ein bod ni’n cynghori y dylai’r bobl isod, sydd yn fwy agored i wenwyn bwyd, fwyta byrgyrs sydd wedi’u coginio’n drylwyr.
- plant
- pobl 65 oed neu hŷn
- pobl sy’n feichiog
- pobl â system imiwnedd wan