Dod o hyd i rif Yswiriant Gwladol cyflogai, neu ei wirio, drwy ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol
Diweddarwyd 17 Rhagfyr 2024
Rhagarweiniad
Gallwch ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol cyflogai, neu ei wirio, drwy anfon Cais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol (NVR) gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.
Anfonwch NVR os ydych yn gyflogwr ac ni all eich meddalwedd fasnachol y gyflogres ddod o hyd i rifau Yswiriant Gwladol cyflogeion, neu eu gwirio.
Cyn i chi ddechrau
Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda CThEF ar gyfer TWE Ar-lein cyn defnyddio Offer TWE Sylfaenol i gyfrifo a chyflwyno o ran eich cyflogres.
Mae’n rhaid i chi aros o leiaf 2 wythnos ar ôl anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn cyntaf cyn anfon NVR. Ni fydd hyn yn creu rhif Yswiriant Gwladol newydd.
Os nad yw’ch cyflogai erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol, rhoi gwybod iddo am wneud cais am rif Yswiriant Gwladol.
Trefnu meddalwedd yr Offer TWE Sylfaenol
I ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i anfon NVR, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- lawrlwytho a gosod y feddalwedd
- creu cofnod ar gyfer y cyflogwr
- creu cofnod ar gyfer y cyflogeion rydych am wirio eu rhifau Yswiriant Gwladol
Cael help gyda threfnu Offer TWE Sylfaenol.
Os ydych yn wynebu anawsterau wrth lawrlwytho neu agor Offer TWE Sylfaenol, gwiriwch argaeledd y gwasanaeth ac a oes unrhyw broblemau ynghylch y gwasanaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Creu NVR ar gyfer cyflogai
- Lansio Offer TWE Sylfaenol.
- Dewiswch ‘Hafan’. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen hafan.
- Dewiswch enw’r cyflogwr o’r rhestr, ‘Cyflogwyr’, ar ochr chwith y dudalen. Os ydych wedi ychwanegu mwy nag un cyflogwr at yr Offer TWE Sylfaenol, bydd yn rhaid i chi ddewis y cyflogwr y mae’r cyflogai’n gweithio iddo. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen, ‘Manylion y cyflogwr’.
- Dewiswch y flwyddyn dreth bresennol o’r opsiynau ar dop y dudalen.
- Dewiswch y cysylltiad, ‘Rheoli cyflogeion’, o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen. Bydd hwn yn mynd â chi i’r dudalen, ‘Rheoli cyflogeion’, sydd â rhestr o’r holl gyflogeion o dan y cyflogwr hwn.
- Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr (dim ond un cyflogai ar y tro y mae modd i chi greu NVR ar ei gyfer). Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen, ‘Manylion y cyflogai’.
- Dewiswch y cysylltiad, ‘Cais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol (NVR)’, o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen. Bydd hwn yn mynd â chi i dudalen, ‘Cais i Ddilysu Rhif Yswiriant Gwladol (NVR)’.
- Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.
- Dewiswch ‘Nesaf’ i gadarnhau eich bod wedi creu NVR ar gyfer y cyflogai hwn.
- Dewiswch ‘Nesaf’ i orffen â’r broses a mynd yn ôl i’r dudalen, ‘Manylion y cyflogai’.
Gallwch greu Cais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol (NVR) ar gyfer cyflogai arall drwy ailadrodd y broses.
Anfonwch yr NVRs at CThEF
Mae angen i chi anfon yr NVRs fel un cyflwyniad ar ôl llenwi pob un.
- Ar y dudalen, ‘Manylion y cyflogai’, dewiswch enw’r cyflogwr yn adran, ‘Llywio’, y ddewislen ar y chwith. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
- Dewiswch y cysylltiad, ‘Bwrw golwg dros gyflwyniadau sydd heb eu gwneud’, o’r ddewislen ar y chwith. Bydd hwn yn mynd â chi i’r dudalen, ‘Bwrw golwg dros gyflwyniadau sydd heb eu gwneud’.
- Dewiswch y cysylltiad, ‘Anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu gwneud’, ar ochr dde isaf y dudalen. Bydd hwn yn mynd â chi i’r dudalen, ‘Cyflwyno data i Gyllid a Thollau EF’.
- Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.
- Dewiswch ‘Nesaf’ i fynd i’r dudalen, ‘Dilysu cyflwyniad’.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch ‘Nesaf’ i fynd i’r dudalen, ‘Statws y cyflwyniad’, a bydd y dudalen, ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’, yn dilyn honno.
Bydd y dudalen hon yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi er mwyn cwblhau’r broses o gyflwyno’r NVR.
Cadwch y rhif hwn ar gyfer eich cofnodion.
Ar ôl i chi gyflwyno’r NVRs
Bydd CThEF yn diweddaru’ch cyfrif TWE Ar-lein i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- dilysu rhif Yswiriant Gwladol
- rhoi’r rhif Yswiriant Gwladol cywir
Ni allwn roi amserlen i chi am y diweddariad hwn, felly efallai y bydd angen i chi wirio eich cyfrif fwy nag unwaith.