Defnyddwyr tro cyntaf: sut i lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol
Diweddarwyd 5 Mai 2020
Rhagarweiniad
Meddalwedd i chi ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur yw’r Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol (BPT). Bydd yn eich cynorthwyo i redeg eich cyflogres drwy gydol y flwyddyn. Mae wedi’i chynllunio ar gyfer cyflogwyr sydd â 9 neu lai o gyflogeion, ac wedi’i diweddaru fel y gallwch ei defnyddio i gyfrifo didyniadau’r gyflogres ac yna hysbysu ynghylch gwybodaeth y gyflogres ar-lein mewn amser real. Nid yw wedi’i chynllunio ar gyfer asiantau na biwroau cyflogres sy’n gweithredu ar ran sawl cyflogwr, ond os caiff ei defnyddio yn y capasiti hwn, bydd yn araf i agor ac yn araf wrth symud rhwng y sgriniau. Os defnyddir Offer TWE Sylfaenol (BPT) yn y rhinwedd hwn, rhaid i ddefnyddwyr ddeall nad oes swyddogaethau parod er mwyn i ddefnyddwyr allu gwahanu data ar gyfer cyflogwyr unigol.
Bydd Offer TWE Sylfaenol yn gwneud y canlynol:
- cofnodi manylion eich cyflogeion
- cyfrifo a chofnodi cyflog, treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich cyflogeion, ynghyd ag unrhyw ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr/Benthyciad Ôl-raddedig bob diwrnod cyflog
- cynhyrchu data’r gyflogres y bydd angen i chi ei anfon i CThEM mewn amser real, gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer y rhai sy’n cychwyn ac sy’n gadael
- cynhyrchu ‘Cofnod o Daliadau’r Cyflogwr’ sy’n cyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu i CThEM
- eich helpu i gyfrifo taliadau statudol megis Tâl Salwch Statudol (SSP) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (SPP) gan ddefnyddio’r cyfrifianellau a roddir
- eich caniatáu i hawlio Lwfans Cyflogaeth Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (darllenwch yr arweiniad cyn hawlio’r lwfans hwn o Ebrill 2019 ymlaen)
Bydd y canllaw hwn yn eich arwain drwy’r broses o lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol.
Y sgrinluniau sydd i’w cael yn y canllaw hwn yw’r prif rai y bydd angen i chi wybod amdanynt. Nid yw’n cynnwys popeth gan fod yna rai sgrinluniau na fydd y rhan mwyaf o gyflogwyr yn eu defnyddio am eu bod yn berthnasol i amgylchiadau mwy anarferol.
O ganlyniad i welliannau parhaus, efallai y bydd y sgriniau yn Offer TWE Sylfaenol yn edrych ychydig yn wahanol i’r rhai sydd i’w gweld yn y canllaw hwn.
Ar ôl i chi gwblhau’r camau yn y canllaw hwn, byddwch yn barod i ddechrau defnyddio Offer TWE Sylfaenol.
Ar y pwynt hwnnw, efallai y byddwch am ddarllen ac argraffu’r canllaw i ddefnyddiwr Offer TWE Sylfaenol.
Cam 1: Cofrestru fel cyflogwr gyda CThEM ac ymrestru er mwyn defnyddio gwasanaethau ar-lein
I ddechrau defnyddio Offer TWE Sylfaenol, mae’n rhaid sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:
1) cofrestru fel cyflogwr gyda CThEM
Os nad ydych wedi cofrestru gyda CThEM fel cyflogwr eto, ewch i’r dudalen ynghylch sut i gofrestru fel cyflogwr.
Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd gennych gyfeirnod TWE y Cyflogwr yn ogystal â chyfeirnod Swyddfa Gyfrifon.
2) cofrestru ac ymrestru i ddefnyddio gwasanaeth TWE ar-lein CThEM
Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, ewch i’r dudalen ynghylch cofrestru ar gyfer trethi CThEM a chofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair. Weithiau, cyfeirir at eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) fel Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os ydych wedi bod yn gyflogwr am dipyn, hwn yw’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair y byddwch wedi’u defnyddio wrth anfon data arall megis eich ffurflenni P35 a P14 i CThEM ar-lein.
Cam 2: Gwirio bod eich cyfrifiadur yn barod i lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol
Er ei fod yn dibynnu ar fanylebau’r cyfrifiadur yr ydych am ddefnyddio’r rhaglen arno, gall y defnyddiwr ddisgwyl weld y pethau canlynol wrth reoli dim mwy na 3 chofnod cyflogwr, ar gyfrifiadur sydd â’r manylion isod:
- dylai’r defnyddiwr weld newid o’i iteriad yn y Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI) o fewn 0.5 eiliad
- dylai digwyddiadau sy’n cymryd mwy na 2 eiliad ddangos gwybodaeth i’r defnyddiwr drwy’r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI)
- ni ddylai digwyddiadau gymryd mwy na 5 eiliad i’w cwblhau
- lle bo digwyddiadau’n cymryd mwy na 5 eiliad, os yw’n bosib, dylai’r rhaglen ddangos gwybodaeth arwyddocaol, megis yr amser sydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad hwnnw, drwy’r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI)
Manylebau cyfrifiadur ar gyfer yr ymatebion uchod:
- Intel(R) Pentium(R) D CPU 3.40GHz
- 2GB RAM
- 80GB, 7200rpm disg caled
- Windows 7 (32-bit)
Nid dyma’r manylebau lleiaf y bydd y cynnyrch yn rhedeg arnynt, ac nid ydynt ychwaith yn cynrychioli manyleb a argymhellir. Fodd bynnag, dyma’r manylebau lleiaf y bydd BPT yn cael eu profi yn eu herbyn.
Bydd angen CPU sy’n cyd-fynd ag Intel, ac sy’n cynnal set cyfarwyddiadau SSE2, er enghraifft Pentium 4 neu fwy newydd.
Ni fydd y gosodydd yn gweithio ar brosesyddion nad ydynt yn cynnal SSE2, gan gynnwys:
- Prosesyddion Intel cyn Pentium 4
- Prosesyddion AMD cyn Athlon 64, gan gynnwys pob prosesydd ar sail ‘Socket A’
- rhai prosesyddion Celeron
Gallu i Ryngweithredu
Mae’r systemau gweithredu canlynol yn cael eu cynnal gan y feddalwedd Offer TWE Sylfaenol (sylwer – er na fydd y systemau gweithredu’n newid, gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod rhifau’r fersiynau a roddir yn seiliedig ar strategaeth ryddhau ddisgwyliedig y cwmnïau meddalwedd dan sylw. Bydd rhifau’r fersiynau hyn yn cael eu hadolygu cyn dechrau’r cyfnod profi ac yn cael eu diwygio yn ôl yr angen).
System weithredu:
- Windows 7
- Windows 8.1
- Windows 10
- Mac OS 10.14 “Mojave”macOS 10.15 “Catalina” (gweler nodyn 1 isod)
- Ubuntu Linux -18.04 LTS(32-bit) (gweler nodyn 2 isod)
- Ubuntu Linux 19.10 (64-bit) – profi anffurfiol a chymorth yn unig (gweler nodyn 2 isod)
Nodyn 1: mae macOS 10.15 wedi cyflwyno gofyniad y dylai pob meddalwedd 3ydd parti y gellir ei lawrlwytho gael ei “hardystio” gan Apple cyn y bydd y system weithredu yn caniatáu iddi redeg. Mae’r broses o osod BPT wedi’i haddasu er mwyn bodloni’r gofyniad hwn.
Nodyn 2: gan fod pob prif ddosbarthiad Linux yn raddol ddiddymu cymorth 32-bit, rydym yn rhagweld newid BPT i gynnal dosbarthiadau 64-bit yn unig o fewn y flwyddyn nesaf. Ar gyfer fersiwn 2020, 32-bit yw’r unig saernïaeth a gynhelir yn swyddogol, ac 18.04 LTS yw’r unig ferswin 32-bit o Ubuntu a gynhelir yn weithredol.
Ers Ubuntu 17.10, ni cheir fersiwn 32-bit ar gyfer y brif system. Fodd bynnag, mae sawl amgylchedd bwrdd gwaith swyddogol o’r enw ‘Flavours’ yn dal yn darparu fersiynau 32-bit, gan ddefnyddio’r un seilwaith a’r un cylch rhyddhau. Bydd Offer TWE Sylfaenol yn cael ei brofi â’r ‘flavour’ a ddefnyddir fwyaf ar hyn o bryd sef, ‘Lubuntu’.7
Bydd pob system weithredu yn cael eu profi â phob diweddariad hysbys, gan gynnwys pecynnau gwasanaeth a diweddariadau i wasanaethau.
Dim ond fersiynau o’r system weithredu sy’n rhedeg ar Intel Pentium 4 neu saernïaeth CPU cydnaws, fydd yn cael eu cynnal.
Mae’r systemau gweithredu canlynol yn cael eu cynnal gan Offer TWE Sylfaenol pan gaiff ei redeg mewn modd cynorthwyol (sylwer – ym mhob achos, dim ond y fersiwn diweddaraf sydd ar gael cyn dechrau’r cyfnod profi gweithredol fydd yn cael ei brofi):
- Internet Explorer 11 (Windows yn unig)
- Google Chrome
- Mozilla Firefox
- Microsoft Edge (Windows yn unig)
- Apple Safari (Mac OS yn unig)
### Cadw wrth gefn ac adfer
Mae BPT â gosodiad diofyn sy’n cadw data a gedwir yn lleol wrth gefn yn awtomatig bob tro y gadewir y cynnyrch gan ddefnyddio’r rhaglen GUI. Mae modd i’r defnyddiwr ffurfweddu’r cyfleuster hwn hefyd drwy’r sgrin gosodiadau, megis dewis ble y caiff data wrth gefn eu cadw.
Cysylltiad â’r rhyngrwyd
Rhaid i chi roi gwybod i CThEM am eich cyflogres drwy ddull electronig bob tro y byddwch yn talu eich cyflogeion. I wneud hyn, rhaid i’ch cyfrifiadur gael cysylltiad â’r rhyngrwyd, fel y gall Offer TWE Sylfaenol anfon eich adroddiadau i CThEM. Ni fydd angen i chi gysylltu â’r rhyngrwyd drwy’r amser ac mae’r data sy’n cael ei anfon i CThEM o faint bach felly, ni fydd yn broblem os nad oes gennych gysylltiad band eang. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd ar-lein yn rheolaidd – bob tro rydych yn talu’ch cyflogeion.
Cam 3: Dewis y feddalwedd sy’n cyd-fynd â’r system weithredu ar eich cyfrifiadur
Mae 3 chysylltiad gwahanol sy’n eich galluogi i lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol ar eich cyfrifiadur. Rhaid i’r cysylltiad a ddewiswch gyd-fynd â’r system weithredu ar eich cyfrifiadur.
Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid sy’n defnyddio Offer TWE Sylfaenol yn lawrlwytho ‘Offer TWE Sylfaenol ar gyfer Windows’.
Mae rhai cwsmeriaid sy’n defnyddio Offer TWE Sylfaenol yn lawrlwytho ‘Offer TWE Sylfaenol ar gyfer Mac’. Mae hwn ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio Apple Mac fel cyfrifiadur.
Mae rhai cwsmeriaid sy’n defnyddio Offer TWE Sylfaenol yn lawrlwytho ‘Offer TWE Sylfaenol ar gyfer Linux’. Mae hwn ar gyfer pobl sydd â chyfrifiadur sy’n rhedeg Linux.
I wneud yn siŵr eich bod yn lawrlwytho fersiwn diweddaraf y feddalwedd, ewch i’r dudalen Lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol CThEM.
Ar ôl i chi ddarllen yr ymwadiad, sgroliwch i lawr y dudalen i lawrlwytho’r fersiwn Offer TWE Sylfaenol sy’n cyd-fynd â’ch cyfrifiadur. Yn y tabl, cliciwch ar y cysylltiad ‘Lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol ar gyfer 2020 i 2021’. Wedyn, cliciwch ar y cysylltiad sy’n cyd-fynd â’r system weithredu ar eich cyfrifiadur ac yna, dechreuwch lawrlwytho’r offer.
Cam 4: Lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol
Canllaw cam wrth gam yw hwn sy’n esbonio sut i lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol ar gyfer defnyddwyr Windows ac Apple Mac.
Os ydych yn defnyddio Linux, gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau sy’n esbonio sut i osod ac agor yr Offer yn y canllaw ynghylch defnyddio Offer TWE Sylfaenol gyda Linux.
Mae’r delweddau canlynol yn dod o’r system weithredu Windows ac felly, byddant ychydig yn wahanol i’r delweddau a welir gan bobl sy’n defnyddio Apple Mac. Gall eich system weithredu, ynghyd â’ch meddalwedd wrthfeirws, hefyd effeithio ar sut y dangosir sgriniau. Efallai y bydd yn rhaid i bobl sy’n defnyddio Apple Mac newid eu gosodiadau diogelwch a phreifatrwydd er mwyn lawrlwytho’r feddalwedd.
Internet Explorer
Os ydych yn defnyddio Internet Explorer, byddwch yn gweld sgrin debyg i hon. Dewiswch ‘Open’.

Mozilla Firefox
Os ydych yn defnyddio Mozilla Firefox, byddwch yn gweld sgrin debyg i hon. Dewiswch ‘Open with…’ ac wedyn ‘OK’.

Pob porwr gwe
Wedyn, gwelwch y sgrin ganlynol neu sgrin sy’n edrych yn debyg. Dewiswch a chlicio dwywaith ar ‘payetools-rti-1.2.1.12327…’.

Nesaf, efallai y gwelwch y sgrin ganlynol neu sgrin sy’n edrych yn debyg. Dewiswch ‘run’.

Fel arall, efallai y gwelwch y sgrin hon. Bydd y neges naid hon yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am i Offer TWE Sylfaenol wneud newidiadau i’ch cyfrifiadur. Dewiswch ‘Yes’.

Waeth beth yw’ch math o gyfrifiadur neu’ch system weithredu, byddwch yn cyrraedd y sgrin ganlynol. Cliciwch ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Rhaid i chi ddarllen y cytundeb trwyddedu a phenderfynu a ydych am ei dderbyn neu beidio. Os ydych yn derbyn y cytundeb trwyddedu, dylech ddewis ‘I accept the agreement’ ac wedyn clicio ‘next’ i fynd yn eich blaen.
Os ydych yn penderfynu peidio â derbyn y cytundeb trwyddedu, ni allwch osod na defnyddio Offer TWE Sylfaenol.

Dewiswch ‘Standard Installation’, oni bai eich bod yn ddefnyddiwr uwch neu’n weinyddwr y system a hoffech wneud ‘Custom Installation’.
Wedyn, cliciwch ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Cliciwch ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Gadewch y tic sydd yn y blwch ‘Check for updates automatically’. Ni ddylech newid y gosodiad hwn ar unrhyw gyfrif neu efallai y byddwch yn colli diweddariadau hanfodol i Offer TWE Sylfaenol.
Mae’r gosodiad awtomatig hwn yn golygu y gallwch gael y fersiwn diweddaraf ar eich cyfrifiadur os oes gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd pan fyddwch yn agor Offer TWE Sylfaenol. Wedyn, cliciwch ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Os gwnaethoch ddilyn Cam 2 yn y canllaw hwn, byddwch eisoes wedi gwirio bod gennych Adobe Reader 9 neu 10 ar eich cyfrifiadur. Felly, gallwch glicio ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Mae’r sgrin nesaf yn rhoi gwybod i chi am bwysigrwydd gwneud copïau wrth gefn o’ch data yn rheolaidd. Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud copïau wrth gefn o’ch cyflogres a’u cadw ar gof allanol megis cof bin neu CD ROM er mwyn bod yn ddiogel, rhag ofn i’ch cyfrifiadur gael ei dorri neu fynd ar goll. Ar ôl i chi wedi darllen hwn, cliciwch ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Cliciwch ‘Next’ i fynd yn eich blaen.

Bydd Offer TWE Sylfaenol nawr yn cael ei osod ar eich cyfrifiadur. Gall hyn gymryd hyd at 10 munud.

Pan fydd y gosodiad wedi’i gwblhau, gwelwch y sgrin hon. Cliciwch ‘Finish’.

Ar ôl i chi dewis yr opsiwn i orffen, bydd yr eicon canlynol yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith. I fynd yn ôl at eich bwrdd gwaith, dylech leihau pob tudalen sydd ar agor ar eich cyfrifiadur, neu ddefnyddio allwedd llwybr tarw os oes un gennych.

Mae’r broses o lawrlwytho a gosod wedi’i chwblhau
Ewch i Gam 5.
Problemau wrth osod Offer TWE Sylfaenol
Os ydych yn cael trafferth wrth osod Offer TWE Sylfaenol, ceisiwch ail gychwyn eich cyfrifiadur a rhedeg y gosodiad eto.
Mae rhai rhaglenni gwrthfeirws yn rhoi meddalwedd yr ydych wedi’i lawrlwytho o’r rhyngrwyd i gwarantîn yn anghywir. Os ydych yn ansicr sut i adfer lawrlwythiad o gwarantîn, cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd wrthfeirws am gymorth.
Os yw’ch cyfrifiadur yn rhan o rwydwaith o gyfrifiaduron, efallai y cewch eich atal rhag lawrlwytho unrhyw ddeunyddiau ar eich cyfrifiadur. Cysylltwch â Gwasanaethau TG eich busnes am gymorth.
Cam 5: Agor Offer TWE Sylfaenol
Mae 2 ffordd o agor Offer TWE Sylfaenol ar eich cyfrifiadur.
- Cliciwch ddwywaith ar yr eicon Offer TWE Sylfaenol ar eich bwrdd gwaith, neu
- Chwiliwch am ‘Offer TWE Sylfaenol’ yn eich dewislen cychwyn.
Pan agorwch Offer TWE Sylfaenol am y tro cyntaf, byddwch yn gweld y sgrin ganlynol.

Gall gymryd ychydig o funudau cyn i’r sgrin hon ymddangos, sef hafan Offer TWE Sylfaenol.

Mae Offer TWE Sylfaenol yn eich galluogi i gadw cofnodion eich cyflogres mewn fformat electronig a hefyd, cyfrifo treth TWE, cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ogystal â didyniadau eraill. Mae hefyd yn eich galluogi i roi gwybod i CThEM ynghylch gwybodaeth am eich cyflogres ar-lein, pan fyddwch yn talu’ch cyflogeion.
Cyn i chi allu dechrau defnyddio Offer TWE Sylfaenol, bydd yn rhaid i chi nodi:
- eich manylion fel y cyflogwr
- manylion pob un o’ch cyflogeion
Dewiswch y cysylltiad ‘Ychwanegu cyflogwr’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.

Cam 6: Ychwanegu manylion am y cyflogwr

Ar ôl i chi glicio ar y cysylltiad ‘Ychwanegu cyflogwr’, y cam nesaf fydd nodi manylion am y cyflogwr. I wneud hyn, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:
- eich enw fel cyflogwr
- eich cyfeirnod TWE – bydd hwn i’w weld ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEM. Bydd y cyfeirnod hwn ar ffurf 3 rhif a sawl nod alffaniwmerig
- eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon – bydd y cyfeirnod 13 cymeriad hwn i’w weld ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEM ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr neu ar flaen eich llyfryn slipiau talu P30BC oddi wrth CThEM
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth (os yw’n berthnasol)
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad (os yw’n berthnasol)
Nodwch yr wybodaeth sydd ei hangen yn y blychau gwag.
Mae’n rhaid i chi lenwi’r blychau sydd â seren goch (*) ger iddynt cyn i chi allu mynd yn eich blaen at y dudalen nesaf.
Os nad ydych yn siŵr beth i’w roi mewn blwch, cliciwch ar y marc cwestiwn gwyrdd (?) i weld y testun help am ragor o wybodaeth.
Pan fyddwch yn cyrraedd y cwestiwn ‘Dewiswch flwyddyn dreth eich cyflwyniad gwybodaeth amser real cyntaf drwy ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol ar gyfer hysbysu mewn amser real’, dylech ddewis 2020 i 2021, lle y gwelwch y sgrin nesaf.

Bydd yr wybodaeth a nodwyd ar y sgrin flaenorol yn cael ei rhag-lenwi. Wedyn, bydd rhaid i chi nodi’r wybodaeth ychwanegol ganlynol, yn seiliedig ar y flwyddyn dan sylw:
- eich cyfeiriad fel cyflogwr
- p’un a ydych ‘wedi eich eithrio rhag talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y Cyflogwr’ – os ydych yn dewis yr opsiwn hwn, ni fydd modd i chi ei newid, felly, gwnewch yn siŵr eich bod, fel cyflogwr, wedi’ch eithrio rhag talu cyn ticio’r blwch – dylai fod gennych gadarnhad ar bapur oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ynghylch y mater hwn
Unwaith eich bod wedi rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen uchod, dewiswch ‘nesaf’. Byddwch yn gweld sgrin lawn gwybodaeth yn ogystal â botwm ‘nesaf’ arall.

## Hawlio Lwfans Cyflogaeth
Wrth ddewis y botwm ‘nesaf’ uchod, caiff y broses o ychwanegu cyflogwr ei chwblhau. Byddwch nawr yn gweld y sgrin ganlynol.

Mae’r sgrin newydd hon yn cynnwys neges rhybudd (a nodir gan driongl oren) sy’n rhoi gwybod i chi nad ydych wedi ‘dynodi a ydych yn gymwys i hawlio Lwfans Cyflogaeth ac yn dymuno gwneud hynny’, ac mae’n eich cyfeirio at y cysylltiad Lwfans Cyflogaeth yn adran y ddewislen ar ochr chwith y sgrin. Pan ddewisir y cysylltiad hwn, bydd sgrin newydd yn ymddangos, fel y dangosir isod.

Mae’r sgrin hon yn esbonio’r meini prawf cymhwystra newydd y mae’n rhaid eu gwirio cyn hawlio’r Lwfans Cyflogaeth ac mae’n cynnwys cysylltiad i ganllaw ar GOV.UK sy’n esbonio’n fanylach. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi y byddwch yn gorfod hawlio’r lwfans hwn yn flynyddol o fis Ebrill 2020 ymlaen oherwydd na fydd yn cael ei gario ymlaen yn ddiddiwedd fel yr oedd yn y gorffennol.
Pan fyddwch wedi darllen yr wybodaeth ar y sgrin, dewiswch ‘nesaf’ i’ch galluogi i symud ymlaen yn y broses.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr eraill yn ymgymryd â gweithgaredd economaidd, felly mae rheolau Cymorth Gwladwriaethol de minimis yn berthnasol, a dylent ddewis o leiaf un o’r pedwar sector busnes Cymorth Gwladwriaethol de minimis wrth hawlio Lwfans Cyflogaeth:
- Amaethyddiaeth
- Dyframaeth a Physgodfeydd
- Cludo llwythi ar y ffyrdd
- Diwydiannol ac Arall ar gyfer popeth arall – gall enghreifftiau o’r mathau o fusnesau sy’n dewis yr opsiwn hwn gynnwys gwasanaethau neu gyfleustodau, marchnata, gweithgynhyrchu. Byddai salon gwallt neu fwyty, er enghraifft, yn dod o dan y sector hwn oherwydd eu bod yn cynnig nwyddau a gwasanaethau.
Mae’n ofynnol darparu’r sector busnes cywir i fodloni deddfwriaeth berthnasol fel y nodir yn y gyfraith. Gallai methu â darparu’r wybodaeth gywir yma arwain at Gyllid a Thollau EM yn cymryd camau cydymffurfio, a allai arwain at gyflogwyr yn gorfod ad-dalu’r Lwfans Cyflogaeth y maent wedi’i hawlio. Bydd canllawiau ynglŷn â hyn yn cael eu diweddaru ac mae erthygl wedi’i chynnwys ym Mwletin Cyflogwyr Ebrill 2020.
Nawr mae’n rhaid i chi gwblhau pob adran ar y sgrin hon, gan ddilyn y canllawiau uchod cyn ceisio symud ymlaen. Ar ôl ei gwblhau dewiswch nesaf.
Cam 7: Ychwanegu manylion am eich cyflogeion
Er mwyn sefydlu’r adran ‘cyflogeion’, bydd angen yr wybodaeth ganlynol am eich cyflogeion arnoch:
- teitl
- enw cyntaf
- enw canol (os yw’n hysbys)
- enw olaf
- cyfeiriad (gan gynnwys y cod post)
- rhyw
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol (os yw’n hysbys)
- rif pasbort (os yw’n hysbys)
- ID y gyflogres os yw’n berthnasol [footnote 1]
- oriau gwaith wythnosol arferol – [footnote 2]
- amlder talu (pa mor aml fyddwch yn eu talu)
- dangosydd cyflogaeth afreolaidd – [footnote 3]
- p’un a ydynt yn gyfarwyddwr cwmni (dylech ond ddewis ‘iawn’ os yw’r busnes yn Gwmni Cyfyngedig ac os yw’r cyflogai wedi’i benodi fel cyfarwyddwr cwmni)
- eu dyddiad dechrau – [footnote 4]
- y datganiad cyflogai sy’n cychwyn a wnaed ganddynt os gwnaethant ddechrau gweithio i chi yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol
- manylion cyflog a threth o’u cyflogaeth flaenorol, os gwnaethant ddechrau gweithio i chi yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol ac wedi rhoi ffurflen P45 i chi
- cod treth (ar gyfer cyflogeion presennol) – [footnote 5]
- llythyren gategori Yswiriant Gwladol (ar gyfer cyflogeion presennol, bydd hon i’w gweld ar gofnodion eich cyflogres) – sylwer, nid y llythyren sydd ar ddiwedd rhif Yswiriant Gwladol eich cyflogai yw hon, os yw’r cyflogai yr ydych am ei ychwanegu’n gyfarwyddwr, rhaid i chi ddewis ‘Dull cronnus y cyfarwyddwr’ o gyfrifo Yswiriant Gwladol, os yw’r cyfarwyddwr yn debygol o gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y flwyddyn dan sylw
- p’un a oes angen gwneud unrhyw ddidyniadau benthyciad myfyriwr a/neu fenthyciad ôl-raddedig (os ydych yn agored i ddidynnu unrhyw daliadau benthyciad myfyriwr a/neu fenthyciad ôl-raddedig o gyflogai), byddwch wedi cael llythyr oddi wrth CThEM sy’n dweud o dan ba fath o gynllun y mae’ch cyflogai yn ei ad-dalu
Unwaith bod gennych yr holl fanylion uchod wrth law, dewiswch ‘Hafan’ o frig y dudalen. Oddi yno, dewiswch y cyflogai o restr y cyflogeion.

Dewiswch y cysylltiad ‘Rheoli cyflogeion’ o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.

Dewiswch y cysylltiad ‘Ychwanegu cyflogai’ o’r ddewislen.

Dylech ddechrau drwy ychwanegu manylion unrhyw gyflogeion sydd wedi gadael ers dechrau’r flwyddyn dreth hon yn gyntaf, ac wedyn gallwch ychwanegu’ch cyflogeion presennol.
Mae’r sgrin isod yn gofyn i chi wneud dewis o ran y ‘math’ o gyflogai:
- bydd bron pob cyflogai yn ‘cyfredol’ – dyma’r bobl a gyflogir gennych heddiw, yn ogystal ag unrhyw un sydd wedi gadael ers 6 Ebrill 2018, mae hefyd yn cynnwys pobl yr ydych yn talu pensiwn galwedigaethol iddynt
- bydd angen i ychydig iawn o ddarparwyr pensiwn ddewis ‘cymudiad pitw’
- bydd angen i ychydig iawn o gyflogwyr ddewis ‘Nid yw’n unigolyn’
- os ydych dim ond yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol er mwyn cyflwyno Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) ar gyfer cyflogai am y flwyddyn dreth 2019 i 2020 neu’n hwyrach, dewiswch ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach yn unig’, rhaid nodi mai dim ond fel rhan o’r datganiad 2020 i 2021 y bydd yr opsiwn hwn ar gael

Nodwch yr wybodaeth sydd ei hangen am gyflogeion yn y blychau gwag.

Sgroliwch i lawr y dudalen a llenwch y blychau wrth fynd yn eich blaen. Cofiwch fod y rhai hynny sydd â seren goch (*) yn ofyniad gorfodol ac na fyddwch yn gallu symud o’r dudalen hyd nes bo’r wybodaeth wedi ei rhoi.
Pan fyddwch yn cyrraedd y cwestiwn ‘Sail ar gyfer sefydlu’r cyflogai’, bydd angen i chi wneud eich dewis unwaith eto drwy ddefnyddio’r gwymplen, cliciwch ar y symbol marc cwestiwn (?) am ragor o wybodaeth.
Dylech ond ddewis ‘Cyflogai newydd sy’n cael pensiwn galwedigaethol’ ar gyfer cyflogai sydd newydd gael pensiwn galwedigaethol. Gall hyn fod ar gyfer cyn-gyflogai, cyflogai presennol sydd wedi ymddeol yn rhannol, neu rywun sy’n ddibynnol ar gyflogai ymadawedig.
Ewch yn eich blaen i lenwi manylion y cyflogai y gofynnwyd amdanynt.

Gofynnir i chi nodi llythyren gategori Yswiriant Gwladol.
Unwaith bod pob un o’r blychau gwag perthnasol wedi’u llenwi, cliciwch ‘Nesaf’ i fynd yn eich blaen. Pan fyddwch wedi gorffen nodi manylion y cyflogai, bydd sgrin grynhoi yn ymddangos.
I weld y manylion, dewiswch o’r penawdau sydd yng nghanol y sgrin.

I ddiweddaru’r manylion, dewiswch y cysylltiad ‘Newid manylion y cyflogai’ o dde isaf y sgrin.

I ychwanegu cyflogai arall, dewiswch y cysylltiad ar gyfer enw’r cyflogai o’r panel ‘Llywio’ ar ochr chwith y sgrin. Dewiswch ‘Rheoli cyflogeion’ ac ailadroddwch y broses nes i bob un o’r cyflogeion gael eu hychwanegu.
Cam 8: Dechrau defnyddio Offer TWE Sylfaenol
Rydych nawr wedi gwneud y canlynol:
- cofrestru fel cyflogwr gyda CThEM
- ymrestru i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEM
- lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol ar eich cyfrifiadur
- ychwanegu eich manylion fel cyflogwr yn ogystal â manylion eich cyflogeion
Rydych nawr yn barod i ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol er mwyn gweithredu TWE ar gyflog eich cyflogeion. Rhaid i chi ychwanegu manylion talu cyflogeion bob tro yr ydych yn eu talu. Wedyn, rhaid i chi anfon gwybodaeth am y gyflogres i CThEM ar neu cyn y diwrnod yr ydych yn talu eich cyflogeion.
I gael help ynghylch hyn, gallwch ddarllen (ac efallai y byddwch am argraffu) y canllaw Offer TWE Sylfaenol.
Ni fydd angen i chi gyfeirio at y canllaw hwn, sydd at sylw’r rhai sy’n defnyddio’r Offer am y tro cyntaf, eto gan fod y broses hon bellach wedi’i chwblhau.
-
Mae ID y gyflogres yn opsiynol a gellir ei ddefnyddio gennych i adnabod cyflogai penodol. Os ydych yn sefydlu ID y gyflogres, rhaid i chi ei nodi. Gall methu â gwneud hynny arwain at greu cofnod cyflogaeth dyblyg ar gyfer y cyflogai hwn. Bydd CThEM yn ei ddefnyddio ar unrhyw ohebiaeth gyda chi ynghylch y cyflogai hwnnw. Os byddwch yn ail-gyflogi rhywun yn yr un flwyddyn dreth, peidiwch â defnyddio’r un ID y gyflogres a ddefnyddiwyd gennych yn flaenorol. ↩
-
Nodwch oriau gwaith wythnosol arferol bob cyflogai. Os nad oes gan y cyflogai gyfartaledd arferol, dewiswch ‘Arall’. ↩
-
Rhaid defnyddio’r dangosydd cyflogaeth afreolaidd ar gyfer cyflogai sydd ddim yn cael ei dalu’n rheolaidd. Er enghraifft, cyflogeion achlysurol neu dymhorol y mae eu cytundeb cyflogaeth yn parhau, cyflogeion ar absenoldeb mamolaeth, cyflogeion sydd o’r gwaith yn hirdymor oherwydd salwch neu gyfnod o absenoldeb, unrhyw gyflogai na fydd, am unrhyw reswm, yn cael ei dalu am gyfnod o 3 mis neu fwy – ond rydych yn dal yn ei ystyried fel cyflogai, cyfarwyddwr sy’n cael ei dalu’n chwarterol/flynyddol/anaml. ↩
-
Nodwch y dyddiad dechreuodd y cyflogai yn y gyflogaeth hon. Os ydych yn nodi dyddiad sydd yn y flwyddyn dreth bresennol, rhaid nodi dyddiad cywir. Os ydych yn nodi dyddiad sydd mewn blwyddyn gynharach, rhaid bod mor gywir â phosib. ↩
-
Bydd yn rhaid i chi nodi cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020. Os nad yw’ch cyflogai wedi cael cod treth, ewch i P9X: Codau treth. ↩