Canllawiau

Ymholiadau y gellir eu hosgoi a rhai na ellir eu hosgoi

Cyhoeddwyd 7 October 2016

Applies to England and Wales

Rydym yn disgwyl i’n cwsmeriaid wneud ceisiadau cywir. Cyn i gwsmeriaid gyflwyno ceisiadau, dylent:

  • archwilio’r gofrestr (lle mae eu cais mewn perthynas â theitl cofrestredig)
  • darllen canllawiau sydd ar gael, a gwybodaeth mewn ffurflenni

Trwy wneud hyn, dylai cwsmeriaid allu cyflwyno ceisiadau’n gywir gyda’r holl dystiolaeth gefnogol berthnasol.

Lle nad yw cwsmeriaid wedi cyflwyno eu ceisiadau mewn modd sy’n caniatáu iddynt gael eu prosesu ar unwaith, bydd unrhyw ymholiadau’n destun archwiliad i ganiatáu i reolwyr cyfrif fynd ar drywydd y rheiny a ystyrir yn rhai y gellir eu hosgoi.

Ymholiadau y gellir eu hosgoi

Gellir osgoi ymholiad os oes yn rhaid inni ofyn am rywbeth:

  • sy’n glir o’r ffurflenni a ddefnyddir yn y cais, megis amgáu cydsyniad lle mae hyn yn ofynnol gan y ffurflen

  • sy’n glir o wybodaeth ymarfer a gyhoeddir yn allanol, fel gofyniad a eglurir mewn cyfarwyddyd ymarfer neu wybodaeth arall ar GOV.UK (er enghraifft y Gorchymyn Ffi)

  • sy’n glir o ran yr hyn sydd ei angen o archwiliad blaenorol o’r gofrestr, fel cydsyniad neu dystysgrif yn unol â chyfyngiad

  • sydd wedi ei nodi’n glir yn Rheolau Cofrestru Tir 2003, er enghraifft y ffurflen y dylid ei defnyddio

  • sy’n glir o nodyn atgoffa a roddwyd gennym cyn cyflwyno cais, fel ar ganlyniad Chwiliad Swyddogol

  • sy’n fater y byddai disgwyl i drawsgludwr diwyd fodloni ei hunan yn ei gylch cyn cwblhau trafodiad na ddylai, ar adeg cofrestru, ddibynnu ar weithredoedd trydydd parti

  • sy’n fater lle mae’r gyfraith wedi ei hen sefydlu (er enghraifft bod estyn tymor prydles neu gynnwys tir ychwanegol mewn grant yn gweithredu fel ildiad y brydles bresennol trwy weithrediad y gyfraith)

Ymholiadau na ellir eu hosgoi

Ni ellir osgoi ymholiad os bydd yn rhaid inni ofyn am rywbeth:

  • nad yw’n amlwg ei fod yn ofyniad a nodwyd yn ein ffurflenni, ein cyfarwyddiadau ymarfer cyhoeddedig neu wybodaeth arall ar GOV.UK

  • sy’n anarferol neu aneglur neu sy’n ymwneud â gofyniad hanesyddol, megis ar gyfer dogfennau anghyfoes (er enghraifft tystiolaeth y dreth stamp cyn Rhagfyr 2003)

  • sy’n ofynnol yn ôl disgresiwn y Cofrestrydd o dan reol 17, Rheolau Cofrestru Tir 2003

  • sydd er eglurhad yn unig ac na allai’r cwsmer fod wedi ei ragweld yn rhesymol

Rhyddhau a thystiolaeth sy’n ofynnol i gydymffurfio â chyfyngiad yn y gofrestr

Rhaid cael rhyddhadau a’r dystiolaeth sy’n ofynnol i gydymffurfio â rhai cyfyngiadau gan drydydd parti.

Mae’r gofyniad i gyflwyno, neu drefnu bod rhoddwr benthyg yn cyflwyno, tystiolaeth o ryddhau arwystl cofrestredig lle mae gwarediad yr ystad gyfreithiol i fod yn rhydd o’r arwystl hwnnw wedi ei hen sefydlu. Fodd bynnag, ceir nifer o faterion hirsefydlog (y mae Cofrestrfa Tir EM yn eu deall) a allai atal cyflwyno tystiolaeth ryddhau mewn pryd gan gynnwys:

  • datganiadau adbrynu anghywir neu aneglur

  • parhau i gymryd benthyg ar ôl cyhoeddi datganiad adbrynu

  • darparu adnoddau adrannau adbrynu mewn sefydliadau rhoi benthyg

Er bod y dystiolaeth sy’n ofynnol i gael gwared ar gofnodion arwystlon yn glir, mae Cofrestrfa Tir EM, yn y sefyllfa benodol hon, yn trin ymholiad am ryddhau tystiolaeth fel un na ellir ei osgoi.

Fodd bynnag, rydym o’r farn bod ymholiad am dystiolaeth o gydymffurfiad ar gyfer cyfyngiad, gan gynnwys tystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer cyfyngiad ‘cwmni rheoli’ yn un y gellir ei osgoi oherwydd:

  • bod y dystiolaeth sy’n ofynnol yn glir o’r cofnod cyfyngu yn y gofrestr

  • bod yr anhawster i gael tystiolaeth ar adegau ar gyfer rhai mathau o gyfyngiadau yn hysbys iawn

  • dylai ceisydd neu ei drawsgludwr fod yn ymgysylltu ag unrhyw drydydd parti a fydd yn darparu’r dystiolaeth yn gynnar yn y broses drawsgludo/roi benthyg

  • gellir gwneud hyn yr un pryd â gweithgareddau eraill er mwyn osgoi oedi

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ragor o wybodaeth yn y canlynol: