Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Archwiliad o reolaethau alergenau a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau – Rhondda Cynon Taf

Cyhoeddwyd 1 Medi 2026

Yn berthnasol i Gymru

Rhagair 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth safonau a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, ac am sicrhau bod rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cynnal mewn sefydliadau busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. 

Mae rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, sydd â’r nod o wirio cydymffurfiaeth busnesau bwyd, yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniad strategol yr ASB, sef bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’. 

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid o ddydd i ddydd. 

Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Mae’n ofynnol i’r ASB fonitro ac archwilio gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth hon a Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625. Wrth ddatblygu ei threfniadau archwilio, mae’r ASB wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar sut y dylai archwiliadau o’r fath gael eu cynnal. 

Yn ogystal ag asesu’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yn erbyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau statudol, mae’r broses archwilio hefyd yn rhoi’r cyfle i nodi a rhannu arferion da ac i roi gwybodaeth i lywio polisi’r ASB ar weithredu a gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. 

Mae rhaglenni archwilio’r ASB yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gofynion Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625 a’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn y Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid gan Awdurdodau Lleol (y Cytundeb Fframwaith). Cynhaliwyd asesiadau hefyd yn erbyn Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021 (FLCoP) ynghyd â chanllawiau cysylltiedig a gyhoeddir yn ganolog, gan gynnwys Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021. Mae Cod Ymarfer a Chanllawiau Ymarfer newydd wedi’u cyhoeddi a byddant yn cael eu cymhwyso at argymhellion parhaus lle bo’n berthnasol. 

Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ffurf copi caled gan Dîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio’r ASB, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ac yn electronig ar wefan yr ASB.

1.0 Rhagymadrodd 

Cefndir 

1.1 Mae archwiliadau o wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau’r ASB i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gweithredu rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd ar amlderau priodol yn seiliedig ar risg yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr. 

1.2 Yn dilyn pandemig COVID-19, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, dylai awdurdodau lleol fod yn cynllunio i wneud y pethau canlynol: 

  • cynnal yr ymyriadau y mae angen eu cynnal ar gyfer sefydliadau sydd wedi dychwelyd i’r rhaglen ymyriadau rheolaidd yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer 

  • gweithio tuag at gyd-fynd â’r darpariaethau a nodir yn y Cod Ymarfer o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod Ymarfer. Mae manylion am yr hyblygrwydd hwn, gan gynnwys eithriadau, i’w gweld ym Mhennod 4 o’r Cod Ymarfer a Phennod 4 o’r Canllawiau Ymarfer 

  • parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran y gofynion a nodir yn y Cod Ymarfer, a hynny ar sail yr adnoddau sydd ar gael 

1.3 Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel Awdurdod Cymwys yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau bwyd, fel awdurdodau lleol, yn cyflawni ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ynghyd â’r arolygon o berfformiad bob chwe mis, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB. 

1.4 Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2009. 

1.5 Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith yr awdurdodau lleol i orfodi cyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.  

Cwmpas y Rhaglen Archwilio 

1.6 Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr a’r risg i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae’r archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau sy’n cynnwys asesiadau o alergenau yn seiliedig ar raglen o ymyriadau sy’n unol â’r Cod Ymarfer. 

1.7 Bu i’r asesiad archwilio ystyried y materion canlynol: 

  • Cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau safonau bwyd 

  • Yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau ar sail risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd 

  • Awdurdodi swyddogion a’u cymhwysedd 

  • Ymyriadau (rhai sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw a rhai ymatebol) a gorfodi  

  • Polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu 

  • Monitro mewnol 

  • Unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â rheolaethau alergenau 

  • Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn unol â hynny 

1.8 Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen archwilio, bu i’r ASB ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol a llunio cynllun archwilio. Mae hwn wedi’i atodi yn Atodiad A. 

2.0 Crynodeb gweithredol 

2.1 Craffodd yr archwiliad ar y trefniadau sydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd sy’n ymwneud ag alergenau, sef rhan sylweddol o swyddogaeth yr awdurdod o ran safonau bwyd. Roedd hyn yn cynnwys gwiriad realiti mewn sefydliad bwyd er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheolaethau swyddogol ac, yn fwy penodol, y gwiriadau a gynhaliwyd gan swyddogion yr awdurdod er mwyn gwirio bod gweithredwr y busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol. Roedd cwmpas yr archwiliad hefyd yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a’r gwaith mewnol i fonitro gweithgareddau safonau bwyd. 

2.2 Cyfrifoldeb cyffredinol Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned oedd darparu gwasanaethau safonau bwyd o fewn yr Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd. Y Rheolwr Safonau Masnach a Gwasanaethau Cofrestru oedd yn gyfrifol am reolaeth o ddydd i ddydd. 

2.3 Roedd gan yr awdurdod drefniadau cynllunio gwasanaethau ar waith, ynghyd â systemau ar gyfer adolygu perfformiad. Roedd dogfennau cynllunio gwasanaethau yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau, ond nid y cyfan. Yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yw’r ymrwymiad i gyflawni rhwymedigaethau llawn y Cyngor, dadansoddiad manwl o’r adnoddau sydd eu hangen yn erbyn y rhai sydd ar gael, y gofyniad i adolygu pob elfen o waith y flwyddyn flaenorol ac i fynd i’r afael â phob amrywiad yn y cynllun. 

2.4 Roedd trefniadau ar waith i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu gan nifer digonol o swyddogion cymwys a oedd wedi’u hawdurdodi’n briodol yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad. Amlygwyd hyn fel maes o arfer da. 

2.5 Cadarnhaodd gwiriadau o’r cronfeydd data, er bod ymyriadau risg uchel a risg isel yn cael eu cynnal yn ôl yr angen, fod nifer bach o sefydliadau risg ganolig yn hwyr yn cael ymyriad safonau bwyd a bod nifer bach o safleoedd heb sgôr yn dal i aros am ymyriad. Roedd cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r ymyriadau oedd heb eu cynnal ac roedd yr awdurdod ar ben ffordd i sicrhau bod ei amlderau ymyrryd yn cyd-fynd yn llwyr â’r Cod Ymarfer erbyn mis Ebrill 2026. 

2.6 Dangosodd cofnodion ymyrryd fod asesiadau o gydymffurfiaeth busnesau â’r rheolaethau alergenau yn ystod ymyriadau safonau bwyd o ansawdd gwael gan amlaf. Nid oedd digon o wybodaeth ar gael yn y rhan fwyaf o achosion i ddangos bod swyddogion wedi cynnal asesiad trylwyr. Yn gyffredinol, roedd y sgôr risg yn gywir ond weithiau roedd angen adlewyrchu’r gydymffurfiaeth o ran materion alergenau yn fwy cywir. Roedd y camau dilynol yn wael ar y cyfan, ac nid oedd unrhyw ailymweliadau wedi digwydd i wirio cydymffurfiaeth fel sy’n ofynnol. 

2.7 Roedd adroddiadau am ymyriadau safonau bwyd yn gynhwysfawr, gyda’r holl wybodaeth ofynnol wedi’i darparu. 

2.8 Er bod samplu o ran safonau bwyd wedi’i gynnal yn ôl yr angen ar y cyfan, roedd tystiolaeth nad oedd camau dilynol priodol wedi’u cymryd er mwyn cael gwared ar fwyd anniogel oddi ar y farchnad nac ychwaith oedd camau gorfodi wedi’u cymryd er mwyn atal hyn rhag digwydd eto. 

2.9 Roedd cwynion am fwyd wedi cael eu hateb o fewn yr amseroedd targed ond, yn gyffredinol, nid oedd ymchwiliadau wedi’u cynnal yn sgil y cwynion fel sy’n ofynnol. Roedd tystiolaeth nad oedd camau dilynol priodol wedi’u cymryd i atal yr achosion o dorri rheolau rhag digwydd eto. 

2.10 Nid oedd yr awdurdod wedi defnyddio ystod briodol o dechnegau gorfodi i sicrhau gwell cydymffurfiaeth gan fusnesau â deddfwriaeth rheoli alergenau. Y dechneg a ddefnyddiwyd yn bennaf oedd rhoi cyngor ar lafar ac ar lefel isel, gan gynnwys ambell waith pan oedd achosion difrifol o dorri rheolau wedi digwydd. 

2.11 Roedd tystiolaeth gyfyngedig o fonitro materion safonau bwyd yn fewnol, gan gynnwys rheolaethau alergenau. Byddai’r gweithgareddau monitro mewnol yn elwa o sicrhau bod yr holl weithgareddau rheolaeth swyddogol yn cael eu cynnwys, bod gwell defnydd o wiriadau cronfeydd data fesul swmp, yn ogystal â chadw cofnodion yn well. 

3.0 Methodoleg archwilio 

3.1 Cafodd yr awdurdod lleol lythyr cyn yr archwiliad a oedd yn cynnwys holiadur i’w lenwi cyn yr ymweliad, ynghyd â manylion y dogfennau yr oedd eu hangen arnon ni i asesu i ba raddau yr oedd wedi cyflawni’r argymhellion nad oedd wedi’u cwblhau’n flaenorol. 

3.2 Hefyd, cafodd yr awdurdod lleol gopi o unrhyw adroddiadau archwilio / cynlluniau gweithredu perthnasol. Gofynnon ni iddo ddarparu tystiolaeth o’i gynnydd o ran y camau gweithredu nad oeddent wedi’u cwblhau. 

3.3 Yna, cynhaliwyd archwiliad strwythuredig ar y safle a oedd yn cynnwys ymweliad gwirio â busnes lleol a chyfarfodydd â Phennaeth y Gwasanaeth, swyddog arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill. Yn ystod y cyfarfod trafodwyd y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol. Yn ogystal, cynhaliwyd archwiliad o ddetholiad o gofnodion rheolaethau swyddogol ar fwyd. 

3.4 Cynhaliwyd yr archwiliad rhwng 9 Chwefror a 11 Chwefror 2026. Roedd yr archwiliad a ddigwyddodd ar y safle wedi para dau ddiwrnod gwaith a hanner. 

3.5 Mae’r awdurdod lleol wedi cael yr adroddiad ysgrifenedig hwn am yr archwiliad, ynghyd â chynllun gweithredu diweddar ar sail yr archwiliad. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. 

4.0 Canfyddiadau’r archwiliad 

4.1 Trefniadaeth a rheolaeth 

4.1.1 Cafodd y gwaith o orfodi cyfraith bwyd ei oruchwylio gan Gyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned. Mae Cyfansoddiad yr awdurdod yn amlinellu ei drefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau. O dan y Cyfansoddiad, roedd penderfyniadau ar faterion gweithredol sy’n ymwneud â bwyd wedi’u dirprwyo i’r Cyfarwyddwr. 

4.1.2 Roedd yr awdurdod wedi datblygu ‘Cynllun Gwasanaeth Bwyd a Bwyd Anifeiliaid 2025-2026’ (‘y Cynllun Gwasanaeth’). Cafodd tystiolaeth ei darparu o gymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth gan bennaeth y gwasanaeth. Er bod y pŵer i gymeradwyo’r Cynllun wedi’i is-ddirprwyo i bennaeth y gwasanaeth, roedd hyn yn amodol ac nid oedd tystiolaeth o fodloni’r amod wedi’i darparu. 

4.1.3 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth a nodir yng Nghanllawiau’r Cynllun Gwasanaeth, gan gynnwys disgrifiad o’r awdurdod, cwmpas y gwasanaeth a siart sefydliadol yn dangos strwythur adran Diogelu’r Cyhoedd. Roedd yr amserau gweithredu, y mannau lle’r oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a nodau ac amcanion y gwasanaeth wedi’u nodi’n glir. 

4.1.4 Roedd y cynllun gwasanaeth yn dangos bod 2069 o sefydliadau bwyd yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd disgrifiad o’r busnesau ei ddarparu yn ôl math y sefydliad. Hefyd, roedd nifer yr ymyriadau a oedd wedi’u cynllunio ac a oedd i fod i gael eu cynnal, yn ôl sgôr risg, wedi cael eu nodi, gan gynnwys y rhai a oedd yn hwyr. 

4.1.5 Roedd y targedau a’r blaenoriaethau ar gyfer safonau bwyd yn cynnwys ymrwymiad i gyflawni’r holl arolygiadau/ymyriadau oedd i fod i gael eu cynnal mewn sefydliadau risg uchel a’r rhai heb sgôr yn ôl gofynion y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Ond nid oedd yr ymrwymiad i gynnal arolygiadau/ymyriadau mewn sefydliadau risg ganolig a risg isel yn bodloni gofynion y gyfraith a’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. 

4.1.6 Mae’r nifer disgwyliedig o ailymweliadau yn ystod y flwyddyn yn rhan ofynnol o’r rhaglen ymyrryd, ac roedd amcangyfrif o nifer bach o ailymweliadau wedi’i gynnwys yn y cynllun gwasanaeth. Fodd bynnag, nid oedd ymrwymiad clir i ailymweld â sefydliadau i asesu safonau bwyd yn unol â gofynion y gyfraith a’r Cod Ymarfer. 

4.1.7 Nid oedd blaenoriaethau na thargedau’r awdurdod o ran ymyriadau yn seiliedig yn llwyr ar risg yn unol â’r Cod Ymarfer. Dyma’r blaenoriaethau a thargedau sydd i’w gweld yn y Cynllun Gwasanaeth ac sydd yn bennaf ar sail cynnal ymyriadau mewn sefydliadau risg uchel a’r rhai heb sgôr. 

4.1.8 Roedd y cynllun yn cynnwys amcangyfrif o’r galw tebygol am y rhaglen ymyriadau bwyd, gan gynnwys y galw tebygol, yn seiliedig ar flynyddoedd blaenorol, am y gwaith ymatebol sy’n ofynnol. 

4.1.9  Cafodd gwybodaeth ei darparu am y rhaglen samplu safonau bwyd, a oedd yn cynnwys cymryd rhan mewn arolygon rhanbarthol. Fodd bynnag, nid oedd y cynllun yn seiliedig yn llwyr ar risg gan nad oedd yn cynnwys samplu yn ystod ymyriadau, a hynny ar sail risg y safle.  

4.1.10 Nid oedd manylion am yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd wedi’u nodi yn y Cynllun Gwasanaeth er bod datganiad i ddweud bod yr adnoddau sydd ar gael yn ddigonol. Mae angen i’r cynllun gynnwys dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob gweithgaredd rheolaeth swyddogol o’u cymharu â’r rhai sydd ar gael er mwyn dangos cywirdeb y datganiad. 

4.1.11 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth am Bolisi Gorfodi’r awdurdod a’i ddull o ddatblygu staff. 

4.1.12 Cyfeiriwyd yn y cynllun at drefniadau i fonitro’r gwasanaeth safonau bwyd yn fewnol, neu i gynnal ‘asesiad ansawdd’ ohono, a hynny drwy drefniadau adrodd meintiol, ynghyd â disgrifiad byr o’r trefniadau monitro mewnol ansoddol ar gyfer y gwasanaeth. 

4.1.13 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth yn dilyn adolygiad o’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd ar sail cynllun y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nodwyd, er bod yr adolygiad yn cwmpasu’r rhan fwyaf o feysydd gwaith, nad oedd yn cwmpasu pob targed. Dylai’r adolygiad gynnwys nifer y samplau a gymerwyd o dan y rhaglen samplu er safonau bwyd a nifer yr achosion ymatebol yr oeddent wedi ymateb iddyn nhw o fewn yr amseroedd targed. 

4.1.14 Yn dilyn yr adolygiad, nid oedd amrywiadau o ran cyflawni’r targedau a oedd i’w gweld yn y Cynllun Gwasanaeth blaenorol wedi’u nodi wrth drafod ôl-groniad bach o ymyriadau risg ganolig a risg isel (categori B a C). Ond nid oedd y nifer bach o fusnesau heb sgôr wedi’u hamlygu fel amrywiad. Er bod esboniad wedi’i roi am yr amrywiad categori B a C, nid oedd unrhyw esboniad wedi’i roi am y safleoedd heb sgôr. 

4.1.15 Roedd yr awdurdod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r amrywiad categori B a C yn ei Gynllun Gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gofynion y gyfraith a’r Cod Ymarfer. Ond nid oedd yr ymrwymiad hwn wedi’i gynnwys yn glir fel maes i’w wella. 

Argymhellion

4.1.16 Dylai’r awdurdod:

  • Sicrhau bod Cynlluniau Gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer safonau bwyd yn cael eu llunio yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau. Yn benodol, dylai’r awdurdod ddarparu ymrwymiad a chynllun i gynnal yr holl ymyriadau y mae angen eu cynnal a’r rhai sy’n hwyr, a hynny yn seiliedig ar ofynion y Cod Ymarfer. Hefyd, dylai’r awdurdod ddarparu dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen yn erbyn y rhai sydd ar gael.

  • Sicrhau bod yr adolygiad blynyddol o ran perfformiad yn cynnwys yr holl wybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth Bwyd ac unrhyw dargedau, safonau a chanlyniadau perfformiad a nodwyd.

  • Sicrhau bod pob amrywiad o ran cyflawni’r cynllun gwasanaeth bwyd yn cael ei egluro a’i drin yn ei gynllun dilynol. 

[Erthyglau 5(1)(a) ac (e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.3 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd; adrannau 2.3.18.2, 2.3.18.3 ac Atodiad 1 i’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd]

4.2 Swyddogion awdurdodedig 

4.2.1 Roedd Cynllun Dirprwyo Pwerau i Swyddogion yr awdurdod, a oedd wedi’i gynnwys yn ei Gyfansoddiad ysgrifenedig, yn rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned i gyflawni pob dyletswydd sy’n ymwneud â gwasanaethau bwyd. Mae hyn yn cynnwys y gallu i’r awdurdod dirprwyedig awdurdodi swyddogion eraill a’r pŵer i gychwyn erlyniadau. 

4.2.2 Roedd gweithdrefn, a oedd wedi’i chofnodi, wedi’i datblygu ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad. Roedd hyn yn unol â’r gofynion perthnasol. 

4.2.3 Roedd yr awdurdod wedi penodi swyddog arweiniol â’r cymwysterau a’r gallu, a oedd yn addas i waith safonau bwyd, a hynny yn unol â gofynion y Cod Ymarfer. 

4.2.4 Roedd yr awdurdod wedi nodi yn ei Gynllun Gwasanaeth fod yr adnoddau sydd ar gael yn ddigonol i gyflawni’r swyddogaeth safonau bwyd. 

4.2.5 Darperir hyfforddiant i swyddogion ar sail asesiad ffurfiol o’u hanghenion hyfforddi. Roedd yr awdurdod yn darparu cyfuniad o hyfforddiant mewnol ac allanol. Roedd yn ofynnol i bob swyddog gyflawni 10 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar faterion bwyd craidd yn unol â’r Cod Ymarfer. 

4.2.6 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion cymwysterau a hyfforddiant pum swyddog a oedd yn ymwneud â’r gwaith o gynnal rheolaethau safonau bwyd swyddogol. Roedd cofnodion yn cael eu cadw gan yr awdurdod ar gyfer swyddogion yn system ffeiliau a ffolderi gyfrifiadurol y Cyngor. 

4.2.7 Roedd pob un o’r pum swyddog wedi’u hawdurdodi yn unol â thystiolaeth o’u cymwysterau, hyfforddiant a phrofiad. Roedd awdurdodiadau wedi’u llofnodi gan swyddog ag awdurdod dirprwyedig, ac roeddent yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth allweddol sy’n ofynnol ar gyfer cynnal yr amrywiaeth o reolaethau swyddogol sy’n ofynnol ar gyfer alergenau. 

4.2.8 Roedd cymwysterau academaidd a chymwysterau perthnasol eraill ar gael i bob swyddog, ac roedd pob swyddog ond un wedi cael o leiaf y 10 awr o hyfforddiant DPP ar faterion bwyd craidd sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer a pholisïau’r awdurdod ei hun, yn unol â’u dyletswyddau. Nodwyd bod y swyddog arall bron wedi cyflawni’r targed hwn a bod disgwyl iddo wneud hynny erbyn diwedd y flwyddyn. 

Arferion da

Roedd yr awdurdod wedi penodi nifer digonol o swyddogion i ymgymryd â swyddogaethau rheoli alergenau ac wedi sicrhau bod eu hanghenion hyfforddi wedi’u hasesu a’u bod yn cael eu bodloni. Roedd swyddogion wedi’u hawdurdodi’n gywir yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad.

4.3 Arolygiadau, cofnodion ac adroddiadau o ran safleoedd bwyd 

4.3.1 Darparodd yr awdurdod wybodaeth yn ei gynllun gwasanaeth a oedd yn cadarnhau bod 2069 o fusnesau bwyd â sgôr ar gronfa ddata’r awdurdod o sefydliadau safonau bwyd ar ddechrau’r flwyddyn. Yn union cyn yr archwiliad, nifer y safleoedd a oedd yn hwyr yn cael arolygiad oedd 18 ar risg ganolig (categori B), ac nid oedd yr un sefydliad ar risg uchel (categori A) na risg isel (categori C). Roedd hefyd 23 o sefydliadau heb sgôr. Er bod rhai o’r safleoedd risg ganolig wedi’u harchwilio ers hynny, disgwylir y bydd yr ôl-groniad sy’n weddill yn cael ei glirio yn ystod rhaglen waith y flwyddyn nesaf gan ddefnyddio’r adnoddau presennol. 

4.3.2 Roedd gweithdrefnau ymyriadau safonau bwyd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaeth a’r weithdrefn OP402. Roedd ymyriadau safonau bwyd yn cael eu cynnal fel rhan o raglen arolygu annibynnol yn hytrach na rhaglen gyfunol. Er bod y gweithdrefnau’n rhoi fframwaith cyffredinol ar gyfer cynnal ymyriadau, nid oeddent yn darparu digon o fanylion i gwmpasu’r broses weithredol. Nid oedd yr archwilwyr yn gallu dangos tystiolaeth bod cyfarwyddyd i ymgymryd â phob ymyriad yn ddirybudd ac nid oedd digon o eglurder ynghylch pryd y dylid cynnal ailymweliadau a pha fanylion y dylai adroddiadau eu cynnwys, yn ogystal â’r amserlenni ar gyfer cynhyrchu’r rhain. 

4.3.3 Edrychwyd ar bum ymyriad safonau bwyd a gafodd eu cynnal yn y ddwy flynedd cyn yr archwiliad. Nodwyd mai dim ond dwy allan o bum ffeil oedd yn cynnwys y manylion perthnasol am gofrestru bwyd. Defnyddiwyd yr aide-mémoire cywir ym mhob achos, ac roedd y sylwadau’n ddarllenadwy ac roedd modd cael mynediad atyn nhw eto. Roedd pedwar allan o bum achos wedi cael ymyriad ar yr amlder cywir. 

4.3.4 Roedd yr archwilwyr yn gallu cadarnhau, ym mhob achos, fod yr ymweliadau wedi’u cynnal yn ddirybudd, bod natur a graddfa’r gweithgareddau yn ymwneud â bwyd, yn ogystal â manylion am y systemau rheoli bwyd sydd ar gael, wedi’u cofnodi. 

4.3.5 Dim ond mewn dau allan o bum achos yr oedd cofnod ar gael o drafodaethau ag unrhyw staff oedd â chyfrifoldebau allweddol dros reoli alergenau. Llwyddodd yr archwilwyr i gadarnhau bod asesiad o ofynion olrhain cynnyrch sy’n dod i mewn i’r busnes wedi’i ddangos yn gywir mewn tri allan o bum achos. 

4.3.6 Roedd cydymffurfiaeth â gofynion o ran cyfansoddiad wedi’i hasesu’n drylwyr ym mhob achos. Roedd cydymffurfiaeth â gofynion o ran cyflwyniad a labelu alergenau wedi’i hasesu mewn pedair allan o bum ffeil. 

4.3.7 Llwyddodd yr archwilwyr i bennu, fel rhan o olrhain cynnyrch sy’n gadael y busnes, fod asesiad o drefniadau o ran rhoi gwybod i gwsmeriaid am achosion o alw/tynnu cynnyrch yn ôl, a ph’un a ddylid cymryd samplau, wedi’i archwilio ym mhob achos. 

4.3.8 Llwyddodd yr archwilwyr i bennu bod problemau / achosion o dorri rheolau o ran alergenau a gododd yn ystod arolygiad blaenorol wedi’u hasesu’n ddigonol mewn un allan o bum achos. Cwblhawyd ffurflenni arolygu o ran alergenau yn llawn mewn dau allan o bum achos. 

4.3.9 Llwyddodd yr archwilwyr i gadarnhau bod y sgoriau risg yn gyson ym mhob achos ond un. Mewn un achos, nid oedd y ffurflen arolygu gyflawn yn cynnwys cofnod cywir o’r risgiau o ran alergenau ar y safle. 

4.3.10 Llwyddodd yr archwilwyr i bennu, ym mhob achos, fod adroddiadau wedi’u hanfon yn brydlon i’r cyfeiriad busnes cywir ar gyfer y Gweithredwr Busnes Bwyd, neu fod adroddiadau wedi’u gadael ar y safle. 

4.3.11 Roedd manylion yr arolygiad ar y gronfa ddata a ffeiliau digidol yn gyfredol, yn gywir ac yn gyson. 

4.3.12 Mewn pedwar allan o bum achos, ni chymerwyd camau dilynol priodol. Sgoriodd tri o’r ymweliadau hyn 40 am gydymffurfiaeth. Dylai hyn fod wedi ysgogi ailymweliad. Dim ond un achos allan o’r pump oedd wedi nodi problemau sylweddol ar gyfer ymyriadau yn y dyfodol. 

Argymhellion  

4.3.13 Dylai’r awdurdod:

  • Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal yn ôl yr amlder gofynnol a bennir gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a bod ailymweliadau’n cael eu cynnal yn ôl yr angen. [Erthyglau 9(1) a (2) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 4.2, 4.2.2, 4.2.4, 4.2.5 a 6.4.1 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod y gweithdrefnau ymyriadau safonau bwyd yn cael eu diwygio i gynnwys cyfarwyddyd i gynnal ymyriadau’n ddirybudd, manylion am ba bryd i gynnal ailymweliadau, a dylai’r adroddiadau manwl gynnwys amserlenni ar gyfer llunio’r rhain. [Erthygl 12(1) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.1 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod ffurflenni cofrestru yn cael eu cadw a bod modd cael mynediad atynt ar y gronfa ddata eto. [Erthygl 5(1)(a) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.6.3 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod gan safleoedd y sgôr gywir yng nghyd-destun alergenau. [Erthyglau 5(1)(a) a (b), 9(1) a (2) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 4.2.2 o’r Cod Ymarfer, Atodiad 1]

  • Sicrhau bod yr arsylwadau a/neu’r data a geir yn ystod ymyriad/arolygiad o ran safonau bwyd yn cael ei gofnodi’n llawn ac yn gywir ar yr aide-mémoire cywir, a’i fod yn cynnwys gwybodaeth gyflawn am y canlynol: 

    • asesiadau o systemau rheoli safonau bwyd, gan gynnwys yr holl fesurau rheoli sydd ar waith ar gyfer alergenau 

    • cofnod o drafodaethau ag unrhyw staff sydd â chyfrifoldebau allweddol wrth reoli alergenau 

    • asesiadau o labelu, cyfansoddiad a chyflwyniad 

    • gofynion olrheiniadwyedd ar gyfer cynnyrch sy’n dod i mewn, mewn perthynas ag alergenau, gan gynnwys manylion cyflenwyr, busnesau eraill sy’n cynhyrchu neu’n mewnforio ar gyfer y busnes, a manylebau cynhwysion 

    • unrhyw achosion o dorri’r rheolau a gododd yn ystod arolygiad blaenorol wedi’u hasesu’n ddigonol 

    • manylion am unrhyw gamau dilynol yn sgil canfyddiadau arolygiadau blaenorol gan gynnwys achosion o dorri rheolau sydd wedi codi fwy nag unwaith 

    • manylion am yr eitemau sydd wedi’u clustnodi ar gyfer ymyriadau dilynol 

[Erthyglau 5(1)(a) a (b), 13 ac 14 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 4.4 a 4.6 o’r Cod Ymarfer; adrannau 4.3.4.2, 4.3.4.3 a 4.6 o’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd]

Ymweliad dilysu â sefydliad bwyd 

4.3.14 Cynhaliwyd ymweliad dilysu mewn sefydliad bwyd gyda swyddog awdurdodedig yr awdurdod a oedd wedi cynnal arolygiad safonau bwyd diweddaraf y sefydliad. Prif amcan yr ymweliad oedd ystyried effeithiolrwydd asesiad yr awdurdod o systemau’r busnes i sicrhau bod bwyd yn bodloni gofynion y gyfraith safonau bwyd mewn perthynas â rheolaethau alergenau. 

4.3.15 Nid oedd y swyddog yn gallu dangos ei wybodaeth am y busnes nac yn gallu rhoi sicrwydd i’r archwilwyr fod asesiadau o reolaethau alergenau wedi digwydd fel rhan o’r arolygiad. Nid oedd y swyddog wedi nodi bod hyfforddiant i staff annigonol o ran mesurau rheoli alergenau. Nid oedd ychwaith wedi nodi bod y system ar gyfer sicrhau bod gan staff wybodaeth gyfredol am ba alergenau oedd yn y bwyd yr oeddent yn ei werthu yn annigonol. Nid oedd y materion hyn, na’r risgiau a oedd yn bresennol mewn perthynas ag alergenau, wedi’u cofnodi gan y swyddog. Nid oedd y safle chwaith wedi’i sgorio’n ddigonol i adlewyrchu’r risgiau i ddefnyddwyr. Ar ben hynny, roedd y swyddog wedi colli’r cyfle i nodi achosion o dorri’r rheolau a oedd yn ymwneud ag alergenau, ac i sicrhau bod camau ataliol wedi’u rhoi ar waith. Roedd hyn yn gadael risg o niwed i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd heb unrhyw reolaeth. 

4.4 Arolygu a samplu bwyd 

4.4.1 Roedd Cynllun Gwasanaeth yr awdurdod yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun samplu safonau bwyd, gan nodi cymryd rhan mewn prosiectau neu arolygon, a chan gynnwys alergenau. Fodd bynnag, nid oedd modd i’r archwilwyr bennu p’un a oedd yr awdurdod wedi defnyddio dull ar sail risg neu beidio. 

4.4.2 Nid oedd y polisi yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â hysbysu’r awdurdod gwreiddiol, na’r defnydd o samplu ffurfiol/anffurfiol. Nododd nad oedd monitro prosesau yn flaenoriaeth i’r awdurdod. 

4.4.3 Roedd y weithdrefn samplu safonau bwyd wedi’i chynnwys yn OP406, ac roedd honno’n cwmpasu sawl maes, er enghraifft offer, maint y sampl, trefniadau samplu y tu allan i oriau gwaith, ac yn y blaen. Fodd bynnag, byddai o fudd pe byddai’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â dulliau’r samplu, selio, labelu, a bagio. 

4.4.4 Roedd yr awdurdod wedi penodi Dadansoddwr Cyhoeddus i gynnal dadansoddiadau bwyd. Roedd y labordy ar y rhestr gydnabyddedig o Labordai Swyddogol dynodedig y DU. 

4.4.5 Edrychwyd ar bum sampl safonau bwyd a gymerwyd yn ystod y ddwy flynedd cyn yr archwiliad. Cafodd pob achos ei asesu gan labordy awdurdodedig priodol ac roedd y canlyniadau wedi’u rhyddhau i’r busnes bwyd mewn pedwar allan o bum achos. 

4.4.6 Roedd yr holl fanylion, a oedd ar y gronfa ddata, yn nodi bod y samplau’n anfoddhaol, ond nid oedd y canlyniadau gwreiddiol gan y Dadansoddwr Cyhoeddus ar gael mewn dau achos. 

4.4.7 Ym mhob achos, nid oedd unrhyw gamau gorfodi wedi’u cymryd yn dilyn y canlyniadau anfoddhaol. Mewn tri achos, dywedodd y dadansoddwr yn glir fod y lefel deirgwaith yn uwch na’r trothwy i achosi adwaith anaffylactig a bod y bwyd yn anniogel. Dylai penderfyniad y Dadansoddwr Cyhoeddus bod y bwyd hwn yn anniogel i’w fwyta fod wedi’i drin fel achos o ddiffyg cydymffurfio difrifol. Fodd bynnag, ni ddilynodd y swyddogion y polisi na’r weithdrefn gorfodi a gwnaethon nhw roi cyngor ar dynnu sylw at alergenau ar lafar ac ar lefel isel. Ni chafodd unrhyw ymchwiliad i achos gwreiddiol y samplau aflwyddiannus ei gofnodi. 

4.4.8 Mewn achos arall, gweinodd gweithredwr y busnes bwyd gynnyrch anniogel er i rywun ofyn am gynnyrch heb alergenau. Yn ei dro, ni chymerodd y swyddog unrhyw gamau pellach i fynd i’r afael â’r diffyg cydymffurfio difrifol hwn er gwaethaf penderfynu bod digon o wybodaeth ar gael i’r busnes. 

4.4.9 Nid oedd unrhyw wybodaeth am y camau dilynol go iawn a gymerwyd gan y swyddog wedi’u nodi ar y gronfa ddata nac ar y ffeil ei hun yn achos un o’r ffeiliau. 

Argymhellion

4.4.10 Dylai’r awdurdod wneud y canlynol:

  • Cynnwys rhaglen samplu safonau bwyd ar sail risg yn y cynllun samplu. Fel sy’n briodol, sicrhau bod y polisi a’r gweithdrefnau samplu yn cynnwys manylion am hysbysu’r awdurdod gwreiddiol, y defnydd o samplu ffurfiol/anffurfiol, y dull samplu (diogelu rhag croeshalogi), yn ogystal â selio, labelu, a bagio. [Erthyglau 9(1), 12(1) ac 14 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 2.3.1, 2.3.2, 2.3.3, 4.3, 4.3.3.1 a 4.4 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod holl ganlyniadau’r samplau yn cael eu cadw, a bod modd cael mynediad atyn nhw eto, am chwe blynedd. Mae’n rhaid i hyn gynnwys hysbysu gweithredwyr busnesau bwyd am ganlyniadau’r samplau. [Erthyglau 13(1) a (2) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 2.3.1, 2.6.3, 4.4 a 4.6 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas â diffyg cydymffurfio yn dilyn gwaith samplu. [Erthyglau 5, 12, 137 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 2.5, 4.3, 5.2, 6.3 a 6.4 o’r Cod Ymarfer; adrannau 6.3 a 6.4 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.5 Cwynion am fwyd a safleoedd bwyd 

4.5.1 Roedd yr awdurdod wedi datblygu gweithdrefn ar gyfer delio â chŵynion yn ymwneud â bwyd. Roedd hyn yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau a oedd yn unol â’r gofynion. Fodd bynnag, nid oedd y gweithdrefnau’n cwmpasu cwynion am safleoedd bwyd. Ar ben hynny, dylai’r weithdrefn gynnwys manylion am sut a phryd i hysbysu’r ASB, gan gynnwys ailgyfeirio at y Corff Cyswllt Unigol. 

4.5.2 Byddai o fudd hefyd pe byddai’r weithdrefn yn nodi’r angen i hysbysu’r person sydd wedi codi’r gŵyn am ganlyniad ei gŵyn, gan roi manylion/hyperddolenni am sut i hysbysu’r prif awdurdod, yr awdurdod cartref a’r awdurdod gwreiddiol. 

4.5.3 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion yn ymwneud â phum cwyn neu gais am wasanaeth a ddaeth i law’r awdurdod. Roedd yr archwilwyr yn gallu cadarnhau, lle bo’n briodol, fod cysylltu â chyflenwyr, gweithgynhyrchwyr, Prif Awdurdodau a’r ASB wedi digwydd. 

4.5.4 Mewn tri allan o bum achos, roedd yr archwilydd wedi gallu pennu bod ymchwiliad cywir wedi’i gynnal. Fodd bynnag, mewn tri achos nid oedd digon o wybodaeth ar gael i bennu a oedd camau priodol yn dilyn y gŵyn wedi’u cymryd. 

4.5.5 Roedd yr archwilwyr yn arbennig o bryderus am achos lle’r oedd rhywbeth a oedd yn cynnwys alergen datganedig wedi’i roi i blentyn ar ddau achlysur gwahanol yn un o ysgolion yr awdurdod lleol. Nid oedd digon o fanylion yn y ffeil i ddangos bod gwraidd y digwyddiadau wedi’i bennu, nac ychwaith fod y Cyfarwyddwr Addysg, fel gweithredwr y busnes bwyd, wedi cael gwybod am y canlyniad. Dywedodd y gwasanaeth safonau bwyd wrth y person a oedd wedi codi’r gŵyn na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd, heblaw monitro cydymffurfiaeth yn ystod arolygiadau yn y dyfodol. Nid oedd tystiolaeth i ategu’r penderfyniad i beidio â chymryd camau pellach. Yn ogystal, roedd amlder yr arolygiadau nesaf ar gyfer yr ysgol wedi’i ostwng i 5 mlynedd, yn hytrach na dilyn categori sgôr risg yr ysgol sy’n gofyn am barhau i gynnal arolygiadau bob 2 flynedd. Dangosodd y dystiolaeth yn yr achos hwn fethiant difrifol i ymchwilio’n llawn i achos lle’r oedd niwed wedi’i achosi, ddwywaith, i blentyn tra oedd yng ngofal yr awdurdod lleol, yn ogystal â methiant difrifol i gymryd camau dilynol priodol er mwyn atal yr achos rhag digwydd eto. 

Argymhellion

4.5.6 Dylai’r awdurdod:

  • Sicrhau bod y weithdrefn gwyno yn cynnwys manylion am sut i drin cwynion am safleoedd bwyd, sut a phryd i roi gwybod i’r ASB (gan gynnwys ailgyfeirio at y Corff Cyswllt Unigol), gwybodaeth am sut i roi gwybod i’r person sydd wedi codi’r gŵyn am ganlyniad ei gŵyn a hefyd fanylion am sut i roi gwybod i’r prif awdurdod, yr awdurdod cartref a’r awdurdod gwreiddiol. [Erthygl 12(1) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.1 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod cofnodion am gŵynion bwyd neu geisiadau gwasanaeth yn cael eu cadw a bod modd cael mynediad atyn nhw eto. Sicrhau bod ymchwil drylwyr yn cael ei chynnal i achosion o’r fath a bod camau priodol yn cael eu cymryd pan fo diffyg cydymffurfiaeth. [Erthyglau 5, 12, 13(1), 137 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 2.3, 2.6, 4.4, 4.6, 6.3 a 6.4 o’r Cod Ymarfer; adrannau 2.3.2.4 a 4.6 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.6 Gorfodi 

4.6.1 Roedd yr awdurdod wedi datblygu Polisi Gorfodi Corfforaethol a oedd wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet. Roedd y Polisi’n hyrwyddo dull graddedig o orfodi, ac yn gyffredinol roedd yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau swyddogol eraill. Roedd y Polisi yn gosod meini prawf ar gyfer cymryd pob cam gorfodi. Roedd y Polisi wedi cyfeirio at y cynllun i Brif Awdurdodau ond nid oedd yn cynnwys gwybodaeth i bennu trywydd unrhyw gamau gweithredu mewn sefydliadau pan fo gan y Cyngor ei hun fuddiant, er enghraifft ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau hamdden. 

4.6.2 Nid oedd gan y gwasanaeth safonau bwyd weithdrefnau wedi’u cofnodi, a hynny ar gyfer yr ystod lawn o hysbysiadau gorfodi sydd ar gael iddyn nhw – gan gynnwys Hysbysiadau i Wella o dan y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd, hysbysiadau cadw, atafaelu ac ildio gwirfoddol. Dylai’r gweithdrefnau sicrhau bod gwaith gorfodi’n digwydd yn unol â’r Cod. 

4.6.3 Pan gafodd Hysbysiadau i Wella o dan y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd eu cyflwyno, neu cafodd hysbysiadau cadw, atafaelu, ardystio neu ildio gwirfoddol eu cyflwyno (a oedd yn ymwneud ag alergenau), nid oedd y camau gorfodi o fewn cwmpas yr archwiliad wedi’u cymryd, ac felly ni chawsant eu hasesu. 

4.6.4 Roedd yr awdurdod wedi darparu gweithdrefnau cofnodedig ar gyfer cychwyn erlyniadau a chynnal rhybuddion syml. Roedd gweithdrefn ar wahân ar gael ar gyfer cydymffurfio ag ystyriaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a oedd hefyd yn foddhaol. Roedd y gweithdrefnau hyn wedi ystyried rhan fwyaf o agweddau’r gwaith hwn. Wedi dweud hyn, bydden nhw’n elwa o ddatblygiad pellach i gynnwys rôl y Swyddog Datgelu yn ei chyfanrwydd, ac i gofnodi’r broses ar gyfer anfon Rhybuddion Syml. 

4.6.5 Nid oedd unrhyw ffeiliau achos yn ymwneud â rheoli alergenau wedi’u huwchgyfeirio i’r Swyddog Erlyn am benderfyniad fel rhan o’r archwiliad hwn. 

Argymhellion

4.6.6 Dylai’r awdurdod:

  • Adolygu a diwygio ei bolisi a’i weithdrefnau gorfodi er mwyn cynnwys gwybodaeth i bennu trywydd camau gweithredu mewn sefydliadau pan fo gan y Cyngor ei hun fuddiant, yn ogystal â chynnwys rôl y Swyddog Datgelu yn ei chyfanrwydd a chofnodi’r broses ar gyfer anfon Rhybuddion Syml. [Erthyglau 5(1)(a) a (b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, adrannau 2.3, 2.3.1 a 2.3.2 o’r Cod Ymarfer, ac adran 2.3.10 o’r Canllawiau Ymarfer]

  • Adolygu a diwygio ei weithdrefnau gorfodi o ran safonau bwyd i sicrhau bod camau gorfodi sy’n ymwneud â Hysbysiadau i Wella o dan y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd, yn ogystal â hysbysiadau cadw, atafaelu ac ildio gwirfoddol wedi’u cofnodi’n llawn. [Erthyglau 5(1)(a) a (b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, adrannau 2.3 a 2.3.1 o’r Cod Ymarfer]

  • Sicrhau bod camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd fel bod diffyg cydymffurfio sydd wedi’i ganfod yn ystod ymyriadau, gwaith samplu ac ymchwiliadau i gŵynion yn cael eu cywiro. [Erthyglau 5(1)(a) a (b), 12 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, adrannau 6.3 a 6.4 o’r Cod Ymarfer, adrannau 6.4 a 6.6 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.7 Monitro mewnol 

4.7.1 Mae gwaith monitro mewnol yn bwysig i sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyflawni a bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â gofynion deddfwriaethol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a gweithdrefnau’r awdurdod. Mae hefyd yn sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau. 

4.7.2 Cafodd targedau perfformiad allweddol eu nodi yn unol â’r Cod Ymarfer, ac mae gan yr awdurdod drefniadau ar waith i ymgymryd â gwaith monitro mewnol meintiol chwarterol a blynyddol ar draws y gwasanaethau bwyd. Adroddwyd am berfformiad drwy’r system monitro perfformiad corfforaethol ac ar lefel adrannol. 

4.7.3 Roedd gweithdrefn monitro mewnol ddogfenedig wedi’i ddatblygu ar gyfer y gwasanaeth safonau bwyd. Roedd yn cynnwys cyfrifoldebau swyddogion, ymweliadau yng nghwmni eraill, a sampl o wiriadau ffeiliau yn ymwneud ag ymyriadau. Byddai’r gweithdrefnau’n elwa o nodi’r angen am ddefnyddio gwiriadau cronfa ddata swmp yn well, yn ogystal â chynnwys ffurflenni cofnodi safonol ar gyfer monitro gwiriadau ffeiliau. 

4.7.4 Roedd rheolwyr llinell yn gyfrifol am fonitro’r gwasanaethau gorfodi bwyd yn fewnol ar lefel weithredol. 

4.7.5 Roedd modd i’r archwilwyr wirio bod rhywfaint o fonitro mewnol ansoddol wedi digwydd ar draws y gwasanaeth, gan gynnwys gwirio cofnodion am ymyriadau. 

4.7.6 Pan oedd monitro mewnol wedi digwydd, nid oedd tystiolaeth ar ffurf cofnodion ar gael, a oedd yn dangos natur a graddfa’r gwaith monitro hwnnw, ac eithrio ar gyfer y materion yr oedd angen sôn amdanynt wrth y swyddogion. Byddai’r system yn elwa o sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw ar gyfer pob gweithgaredd rheolaeth swyddogol, gan gynnwys camau dilynol yn sgil samplu, digwyddiadau ac ymchwiliadau i geisiadau am wasanaeth. 

4.7.7 Roedd y cofnodion a oedd ar gael mewn perthynas â gwaith monitro mewnol yn cael eu cynnal gan reolwyr am o leiaf ddwy flynedd.

Argymhellion

4.7.8 Dylai’r awdurdod:

  • Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod yr holl weithgareddau perthnasol yn destun gwaith monitro cymesur. Dylai hyn gynnwys gwiriadau cronfa ddata swmp.

  • Wrth fynd ati gyda’r gwaith monitro mewnol, dylai’r gwaith sy’n digwydd gynnwys samplau dilynol, ymatebion i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau i geisiadau am wasanaeth, yn ogystal â chofnodion yn dangos yr hyn a oedd wedi’i wirio ym mhob achos. 

[Erthyglau 5(1)(a), 5(1)(b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd 2.3.1 a Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd 2.3.2]

4.8 Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau 

4.8.1 Rhoddwyd sylw i gamau archwilio perthnasol o raglenni archwilio blaenorol nad oeddent wedi’u cwblhau. Roedd hyn yn cynnwys camau gweithredu o raglen archwilio lawn 2013–2017 a’r archwiliad a oedd yn canolbwyntio ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn 2017. 

4.8.2 Cyhoeddwyd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar wefan yr ASB. 

Archwilwyr:  Craig Sewell, Angela Phillips 

Adran: Y Tîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Atodiad A: Cynllun Archwilio 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru 

Cynllun archwilio awdurdodau lleol – Cymru  

Ebrill 2025 – Mawrth 2026 

Briff y Rhaglen 

Sarah Maddox, Pennaeth Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio – yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru. E-bost: Sarah.Maddox@food.gov.uk 

Craig Sewell, Uwch-reolwr Archwilio, yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru – Archwilydd Arweiniol. E-bost: wales.audit@food.gov.uk 

Cefndir 

Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (y Ddeddf) a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. 

Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau statudol i’r ASB er mwyn cryfhau ei dylanwad dros weithgarwch gorfodi ac i sicrhau y caiff blaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol eu cyflawni ar lefel leol. Mae’n rhoi pwerau i’r ASB gyflawni’r dyletswyddau canlynol: 

  • pennu safonau perfformiad mewn perthynas â gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd 

  • monitro perfformiad awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd 

  • mynnu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynghylch gorfodi cyfraith bwyd ac archwilio unrhyw gofnodion 

  • mynd i mewn i safleoedd awdurdodau lleol, i archwilio cofnodion a chymryd samplau 

  • cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad awdurdodau lleol 

  • llunio adroddiadau i awdurdodau lleol unigol, gan gynnwys canllawiau ar wella perfformiad 

Yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gynhelir i sicrhau y gellir dilysu cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid neu fwyd, ceir gofyniad, o dan Erthygl 6, i awdurdodau cymwys gynnal archwiliadau mewnol neu gael eu harchwilio’n allanol. 

Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’r ASB yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau maent yn eu darparu, a hynny mewn modd cywir. Mae’r rhaglen archwilio hon, ynghyd â’r arolygon o berfformiad bob chwe mis, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB. 

Fel rhan o’r rhaglen archwilio hon, cynhelir archwiliadau systematig ac annibynnol o’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â chyfraith bwyd yng Nghymru. 

Amcanion y Rhaglen 

Bydd y rhaglen archwilio yn ystyried y rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Bydd gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â gweithredu’r ddeddfwriaeth yn y meini prawf cyn y dyddiad hwn hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen archwilio. 

Bydd yr archwiliadau’n dangos a fu’r broses o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud ag alergenau yng Nghymru yn effeithiol. Gallai methu â sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd, a allai effeithio’n andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru, arwain at niwed i enw da awdurdodau lleol a’r ASB, yn ogystal â cholli hyder yn y diwydiant bwyd. 

Bydd y rhaglen archwilio â ffocws yn cynnwys archwiliad o’r rheolaethau swyddogol, y gweithgareddau swyddogol a’r canlyniadau cysylltiedig y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth isod: 

  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990 

  • Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr 

  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 

Nodau penodol y rhaglen archwilio hon yw: 

  • rhoi sicrwydd bod y gwaith o gyflwyno deddfwriaeth labelu alergenau sydd wedi bod ar waith ers 2014 yng Nghymru wedi’i weithredu’n effeithiol gan awdurdodau lleol; hynny yw, bod rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod), Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), y Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a deddfwriaeth swyddogol eraill a gyhoeddwyd yn ganolog1 

  • gwerthuso gweithgareddau awdurdodau lleol mewn perthynas â busnesau bwyd sy’n darparu cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS) i ddefnyddwyr, a ddaeth i rym ym mis Hydref 2021 

  • nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth gynnal rheolaethau 

  • darparu modd o nodi tanberfformiad yn systemau gorfodi cyfraith bwyd yr awdurdodau lleol 

  • darparu gwybodaeth i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi’r ASB 

  • adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sydd heb eu cyflawni o archwiliadau blaenorol 

Cwmpas y Rhaglen Archwilio  

Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr a’r risg i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau sy’n cynnwys asesiadau o alergenau yn seiliedig ar raglen o ymyriadau sydd yn unol â’r Cod. 

Bydd y rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r meysydd canlynol o reolaethau swyddogol: 

  • Cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau safonau bwyd 

  • Yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau ar sail risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd 

  • Awdurdodi swyddogion a’u cymhwysedd 

  • Ymyriadau (rhai sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw a rhai ymatebol) a gorfodi 

  • Polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu 

  • Monitro mewnol 

  • Unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â rheolaethau alergenau 

Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn unol â hynny 

Dull Asesu 

Bydd yr archwiliadau’n cynnwys: 

  • holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynlluniau gwasanaeth yr awdurdod lleol, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig 

  • bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o gynlluniau gweithredu archwilio blaenorol, a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed ar unrhyw gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni 

  • yna cynhelir archwiliad strwythuredig ar y safle, a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda Phennaeth y Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, ymweliad gwirio realiti ac adolygiadau o ffeiliau achosion 

Hysbysu 

Rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o 4 wythnos o’r angen i gyflwyno deunydd cyn yr archwiliad, a rhoddir o leiaf 6 wythnos o rybudd ymlaen llaw ar gyfer ymweliad archwilio, ar gyfer pob archwiliad a gynhelir o dan y cynllun archwilio hwn. Bydd hyn yn hybu tryloywder ac yn hwyluso effeithiolrwydd y broses archwilio trwy ganiatáu digon o amser i bob awdurdod lleol gasglu dogfennau a sicrhau bod staff a chyfleusterau priodol ar gael. 

Amseru 

Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Mai 2025 a mis Chwefror 2026. Dylai’r elfen ‘ar y safle’ o’r archwiliad, ar gyfer pob awdurdod lleol, gymryd 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer gwaith asesu a ddilynir gan gyfarfod cloi ar y trydydd diwrnod. 

Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol 

Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adroddiad unigol a chynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar sail yr archwiliad, a fydd ill dau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. Bydd asesiad o sicrwydd cyffredinol ar gyfer rheolaethau alergenau hefyd yn cael ei anfon at bob awdurdod lleol ond ni fydd yn cael ei gyhoeddi. 

Ar ddiwedd y rhaglen, bydd adroddiad cryno dienw yn cael ei gynhyrchu a fydd yn cynnwys canfyddiadau’r rhaglen archwilio. Bydd yr adroddiad cryno yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol a’r ASB i wella’r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu cynnal. Bydd yr adroddiad cryno hefyd yn tynnu sylw at unrhyw themâu cyffredin a materion sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag unrhyw feysydd o arferion da a nodwyd yn ystod y rhaglen. 

Canlyniadau Disgwyliedig 

Canlyniadau Uniongyrchol:

  • Rhoi sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd ar waith o ran rheolaethau swyddogol a gynhelir gan awdurdodau lleol i reoli’r risg diogelwch bwyd a berir i unigolion â gorsensitifrwydd i fwyd wrth ddod i gysylltiad ag alergenau 

  • Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol 

  • Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd 

  • Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau 

  • Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei swyddogaeth statudol 

Canlyniadau Strategol:

  • Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd o fewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau 

  • Rhoi sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion y Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 

  • Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well o ran hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd 

  • Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2009 a Deddf Safonau Bwyd 1999

Atodiad B: Cynllun gweithredu yn sgil archwiliad ar gyfer rheoli alergenau 

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf  

Dyddiad yr archwiliad: 9 – 11 Chwefror 2026 

Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol) Erbyn (dyddiad) Gwelliannau arfaethedig Camau a gymerwyd hyd yma
4.1.16 Dylai’r awdurdod: (i) Sicrhau bod Cynlluniau Gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer safonau bwyd yn cael eu llunio yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau. Yn benodol, dylai’r awdurdod ddarparu ymrwymiad a chynllun i gynnal yr holl ymyriadau y mae angen eu cynnal a’r rhai sy’n hwyr, a hynny yn seiliedig ar ofynion y Cod Ymarfer. Hefyd, dylai’r awdurdod ddarparu dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen yn erbyn y rhai sydd ar gael. Gorffennaf 2026 Bydd cynllun 2026 i 2027 yn cynnwys gofynion o ran ailymweld, a’r holl amlderau yn unol â’r Cod Ymarfer. Bydd dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen yn cael ei amcangyfrif, er bod yn rhaid i ni nodi ei bod hi’n annhebygol y bydd penderfyniad rhesymol o ran adnoddau yn bosib tan gynllun 2027 i 2028, yn sgil rhoi’r Model Gweithredu Safonau Bwyd ar waith yn ystod 2026. Mae amcangyfrifon cynnar ar y gweill o’r adnoddau sydd eu hangen, yn seiliedig ar ddata cychwynnol gan yr ASB sydd wedi’i drosi.
4.1.16 (ii) Sicrhau bod yr adolygiad blynyddol o ran perfformiad yn cynnwys yr holl wybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth Bwyd ac unrhyw dargedau, safonau a chanlyniadau perfformiad a nodwyd. Gorffennaf 2026 Bydd cynllun 2026 i 2027 yn cael ei ddiwygio i gynnwys yr holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad archwilio (gan gynnwys ailymweld a samplu) [yn wag]
4.1.16 (iii) Sicrhau bod pob amrywiad o ran cyflawni’r cynllun gwasanaeth bwyd yn cael ei egluro a’i drin yn ei gynllun dilynol. Gorffennaf 2026 Bydd cynllun 2026 i 2027 yn cael ei ddiwygio i gynnwys materion sy’n ymwneud ag amrywiadau [yn wag]
4.3.13 (i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal yn ôl yr amlder gofynnol a bennir gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a bod ailymweliadau’n cael eu cynnal yn ôl yr angen. Ebrill 2026 Bydd yr ymyriadau hwyr sy’n weddill yn digwydd erbyn diwedd y flwyddyn, fel y mae’r archwilwyr wedi’i nodi yn adran 4.3.1. [yn wag]
4.3.13 (ii) Sicrhau bod y gweithdrefnau ymyriadau safonau bwyd yn cael eu diwygio i gynnwys cyfarwyddyd i gynnal ymyriadau’n ddirybudd, manylion am ba bryd i gynnal ailymweliadau, a dylai’r adroddiadau manwl gynnwys amserlenni ar gyfer llunio’r rhain. Gorffennaf 2026 Bydd OP402, paragraff 4.5.5, yn cael ei adolygu a’i ddiwygio i adlewyrchu’r Cod Ymarfer. Hynny yw, dylai Swyddogion ymweld â safleoedd bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddirybudd. Dim ond pan fo rhybudd yn angenrheidiol a bod cyfiawnhad priodol dros hynny er mwyn cyflawni’r rheolaethau yn unol â Chodau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid y dylai’r Swyddogion ystyried rhoi rhybudd ymlaen llaw. Cafodd nodyn atgoffa ei rannu â staff ynghylch ailymweliadau yng Nghyfarfod y Tîm ar 17 Chwefror 2026.
4.3.13 (iii) Sicrhau bod ffurflenni cofrestru yn cael eu cadw a bod modd cael mynediad atynt ar y gronfa ddata eto. Ebrill 2026 Bydd cydweithwyr Iechyd yr Amgylchedd yn cael eu hatgoffa i atodi ffurflenni cofrestru at gofnod safle’r system wybodaeth reoli. Dylai pob Swyddog wirio’r system wybodaeth reoli am y ffurflen gofrestru cyn ymweld, a gofyn i’r gweithredwr busnes bwyd gwblhau’r ffurflen hon os nad yw hi ar gael. [yn wag]
4.3.13 (iv) Sicrhau bod gan safleoedd y sgôr gywir yng nghyd-destun alergenau. Wedi’i gwblhau Bydd y cynllun alergenau sy’n rhan o’r Model Gweithredu Safonau Bwyd newydd yn sicrhau bod asesiad trylwyr o reolaethau alergenau yn cael ei gynnal. Cafodd cyfarwyddiadau eu rhannu â staff ynghylch cofnodi digon o wybodaeth am alergenau / systemau alergenau yng Nghyfarfod y Tîm ar 17 Chwefror 2026.
4.3.13 (v) Sicrhau bod yr arsylwadau a/neu’r data a geir yn ystod ymyriad/arolygiad o ran safonau bwyd yn cael ei gofnodi’n llawn ac yn gywir ar yr aide-mémoire cywir, a’i fod yn cynnwys gwybodaeth gyflawn am y canlynol: 1) asesiadau o systemau rheoli safonau bwyd, gan gynnwys yr holl fesurau rheoli sydd ar waith ar gyfer alergenau, 2) cofnod o drafodaethau ag unrhyw staff sydd â chyfrifoldebau allweddol wrth reoli alergenau, 3) asesiadau o labelu, cyfansoddiad a chyflwyniad, 4) gofynion olrheiniadwyedd ar gyfer cynnyrch sy’n dod i mewn, mewn perthynas ag alergenau, gan gynnwys manylion cyflenwyr, busnesau eraill sy’n cynhyrchu neu’n mewnforio ar gyfer y busnes, a manylebau cynhwysion, 5) unrhyw achosion o dorri’r rheolau a gododd yn ystod arolygiad blaenorol wedi’u hasesu’n ddigonol, 6) manylion am unrhyw gamau dilynol yn sgil canfyddiadau arolygiadau blaenorol gan gynnwys achosion o dorri rheolau sydd wedi codi fwy nag unwaith, 7) manylion am yr eitemau sydd wedi’u clustnodi ar gyfer ymyriadau dilynol. Wedi’i gwblhau [yn wag] Cafodd nodyn atgoffa ei rannu â staff ynghylch cofnodi digon o wybodaeth am yr holl bwyntiau sydd wedi’u rhestru yng Nghyfarfod y Tîm ar 17 Chwefror 2026.
4.4.10 (i) Cynnwys rhaglen samplu safonau bwyd ar sail risg yn y cynllun samplu. Fel sy’n briodol, sicrhau bod y polisi a’r gweithdrefnau samplu yn cynnwys manylion am hysbysu’r awdurdod gwreiddiol, y defnydd o samplu ffurfiol/anffurfiol, y dull samplu (diogelu rhag croeshalogi), yn ogystal â selio, labelu, a bagio. Gorffennaf 2026 Bydd cynllun samplu 2026 i 2027 yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at samplu sy’n seiliedig ar risg. Bydd cyfarwyddyd gwaith yn cael ei ddrafftio a bydd hyperddolen ar ei gyfer o OP406 (Samplu): bydd hyn yn rhoi manylion fel y mae wedi’u rhestru. [yn wag]
4.4.10 (ii) Sicrhau bod holl ganlyniadau’r samplau yn cael eu cadw, a bod modd cael mynediad atyn nhw eto, am chwe blynedd. Mae’n rhaid i hyn gynnwys hysbysu gweithredwyr busnesau bwyd am ganlyniadau’r samplau. Wedi’i gwblhau [yn wag] Cafodd nodyn atgoffa ei rannu â staff ynghylch sicrhau bod yr holl gofnodion wedi’u cysylltu â’i gilydd a bod y dolenni hynny yn gweithio. Cafodd y nodyn hwn ei rannu yng Nghyfarfod y Tîm ar 17 Chwefror 2026.
4.4.10 (iii) Sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas â diffyg cydymffurfio yn dilyn gwaith samplu. Ebrill 2026 Byddwn yn ehangu’r weithdrefn samplu i gynnwys y camau pellach angenrheidiol sy’n ofynnol pan fo canlyniadau samplu anfoddhaol. Mae’n rhaid cynnal Samplau Ffurfiol dan amodau rheoledig, caeth, gan ddilyn y gweithdrefnau sydd wedi’u nodi mewn rheoliadau a Chodau Ymarfer penodol. Mae modd cymryd samplau anffurfiol a’u cyflwyno i’w dadansoddi. Bydd pob canlyniad anfoddhaol, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol, yn cael ei drafod â’r Prif Swyddog neu Reolwr y Gwasanaeth i benderfynu ar y camau nesaf, a chytuno arnyn nhw. Mae’n rhaid cofnodi a chytuno ar y rhesymeg dros y penderfyniad i fwrw ymlaen neu i beidio â chymryd camau pellach. Yna, mae’n rhaid diweddaru’r gronfa ddata. Mae’n rhaid atodi canlyniad pob sampl i gofnod y sampl dan sylw. Gall camau priodol gynnwys ail-samplu neu ymweliad â’r safle cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Yn ystod unrhyw ymweliad, bydd y Swyddog yn rhoi gwybod am y canlyniad i weithredwr y busnes bwyd ac yn ymchwilio i ffactorau cyfrannol posib, gan roi gwybod i’r Awdurdod Cartref/Prif Awdurdod perthnasol. Bydd copi o’r adroddiad yn cael ei ddarparu i weithredwr y busnes bwyd os bydd y gweithredwr yn gofyn am gael copi. Bydd samplau dilynol hefyd yn cael eu cymryd lle bo’n briodol. Gall samplau sy’n anfoddhaol arwain at gymryd camau ffurfiol yn unol â’r Polisi Gorfodi Corfforaethol. [yn wag]
4.5.6 (i) Sicrhau bod y weithdrefn gwyno yn cynnwys manylion am sut i drin cwynion am safleoedd bwyd, sut a phryd i roi gwybod i’r ASB (gan gynnwys ailgyfeirio at y Corff Cyswllt Unigol), gwybodaeth am sut i roi gwybod i’r person sydd wedi codi’r gŵyn am ganlyniad ei gŵyn a hefyd fanylion am sut i roi gwybod i’r prif awdurdod, yr awdurdod cartref a’r awdurdod gwreiddiol. Gorffennaf 2026 Bydd OP405 (Cwynion) yn cael ei ddiweddaru i gynnwys materion sydd wedi’u rhestru, lle nad yw’r materion hyn eisoes yn amlwg. Mae OP107, paragraff 4.1 yn nodi bod yr holl ofynion yn y Llawlyfr Ansawdd yn ymwneud â’r holl ddyletswyddau deddfwriaethol, gan gynnwys Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid.
4.5.6 (ii) Sicrhau bod cofnodion am gŵynion bwyd neu geisiadau gwasanaeth yn cael eu cadw a bod modd cael mynediad atyn nhw eto. Sicrhau bod ymchwil drylwyr yn cael ei chynnal i achosion o’r fath a bod camau priodol yn cael eu cymryd pan fo diffyg cydymffurfiaeth. Mai 2026 Bydd y weithdrefn gwyno yn cael ei hadolygu a’i diweddaru lle bo hynny’n berthnasol. Bydd y Prif Swyddog yn monitro ffeiliau i werthuso cydymffurfiaeth â’r weithdrefn. Bydd staff yn cael gwybod yn ôl yr angen. Cafodd nodyn atgoffa ei rannu â staff ynghylch sicrhau bod yr holl gofnodion wedi’u cysylltu â’i gilydd a bod y dolenni hynny yn gweithio. Cafodd y nodyn hwn ei rannu yng Nghyfarfod y Tîm ar 17 Chwefror 2026.
4.6.6 (i) Adolygu a diwygio ei bolisi a’i weithdrefnau gorfodi er mwyn cynnwys gwybodaeth i bennu trywydd camau gweithredu mewn sefydliadau pan fo gan y Cyngor ei hun fuddiant, yn ogystal â chynnwys rôl y Swyddog Datgelu yn ei chyfanrwydd a chofnodi’r broses ar gyfer anfon Rhybuddion Syml. Mai 2026 Adolygu gweithdrefnau Diogelu’r Cyhoedd i gynnwys manylion am uwchgyfeirio pan fo’r mater yn ymwneud â safleoedd yr awdurdod lleol, yn ogystal â chynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r broses gyfreithiol. Bydd angen diweddaru’r Polisi Gorfodi Corfforaethol i nodi pa gamau i’w cymryd pan fo’r awdurdod a’r rolau dirprwyedig cyfrifol wedi torri rheolau. Bydd yr argymhelliad yn cael ei gyfleu i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd sy’n gyfrifol am y Polisi Gorfodi Corfforaethol.
4.6.6 (ii) Adolygu a diwygio ei weithdrefnau gorfodi o ran safonau bwyd i sicrhau bod camau gorfodi sy’n ymwneud â Hysbysiadau i Wella o dan y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd, yn ogystal â hysbysiadau cadw, atafaelu ac ildio gwirfoddol wedi’u cofnodi’n llawn. Medi 2026 Bydd gweithdrefnau perthnasol yn cael eu diwygio mewn perthynas â’r materion sydd wedi’u rhestru. [yn wag]
4.6.6 (iii) Sicrhau bod camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd fel bod diffyg cydymffurfio sydd wedi’i ganfod yn ystod ymyriadau, gwaith samplu ac ymchwiliadau i gŵynion yn cael eu cywiro. Mai 2026 Bydd polisïau Diogelu’r Cyhoedd yn cael eu hadolygu a’u diwygio. Bydd staff yn cael gwybod am y newidiadau, a bydd gofyn iddyn nhw gwblhau unrhyw hyfforddiant sydd wedi’i nodi. [yn wag]
4.7.8 (i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod yr holl weithgareddau perthnasol yn destun gwaith monitro cymesur. Dylai hyn gynnwys gwiriadau cronfa ddata swmp. Medi 2026 a Gorffennaf 2027 Bydd ffurflen gwirio gwaith monitro yn cael ei drafftio, i gasglu 10% o’r hyn sydd wedi’i asesu. Bydd y gallu i gynnal gwiriadau o gronfeydd data fesul swmp yn cael ei asesu ar ôl rhoi’r Model Gweithredu Safonau Bwyd ar waith; lle bo modd, bydd hyn yn cael ei weithredu. [yn wag]
4.7.8 (ii) Wrth fynd ati gyda’r gwaith monitro mewnol, dylai’r gwaith sy’n digwydd gynnwys samplau dilynol, ymatebion i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau i geisiadau am wasanaeth, yn ogystal â chofnodion yn dangos yr hyn a oedd wedi’i wirio ym mhob achos. Medi 2026 Rhoi’r un ffurflen gwirio gwaith monitro ar waith ag sydd i’w gweld yn adran 4.7.8 (i) ar draws gwaith samplu ac wrth ddelio â chŵynion. [yn wag]