Archwiliad o reolaethau alergenau a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau – Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 9 – 11 Chwefror 2026
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Roedd yr archwiliad wedi edrych ar drefniadau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer gweithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud ag alergenau, rhan fawr o swyddogaeth safonau bwyd yr awdurdod.
Mae hyn yn cynnwys gwirio realiti mewn sefydliad bwyd i asesu effeithiolrwydd rheolaethau swyddogol ac, yn fwy penodol, asesu’r gwiriadau y mae swyddogion yr awdurdod yn eu cynnal er mwyn gwirio a yw gweithredwr busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.
Hefyd, roedd cwmpas yr archwiliad yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a’r gweithgareddau mewnol i fonitro safonau bwyd.