Canllawiau

Gwneud cais am basbort (accessible)

Diweddarwyd 19 May 2022

Cyn i chi wneud cais am basbort

Ffyrdd o wneud cais am basbort

Peidiwch ag archebu taith tan eich bod wedi derbyn eich pasbort newydd, gan na allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw deithio y byddwch yn ei archebu. Er mwyn osgoi oedi, bydd arnom angen ffurflen wedi’i chwblhau’n llawn, 2 lun addas, y dogfennau cywir a’r ffi.

Ar-lein

Ewch i www.gov.uk/apply-renew-passport. Mae’n rhatach ac yn haws gwneud cais ar-lein. Byddwn yn dweud wrthych pa fanylion y mae angen i chi eu cwblhau a pha ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon atom. Nid oes angen i chi ddarllen y nodiadau canllaw hyn.

Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Digidol Swyddfa’r Post

Ewch i: www.gov.uk/how-the-post-office-check-and-send-service-works (canghennau dethol yn unig a ffi ychwanegol yn berthnasol, gweler yr adran ffi pasbort). Byddant yn tynnu’ch llun, yn llenwi’r cais ar-lein ac yn ei gyflwyno ar eich rhan. Byddant yn anfon eich hen basbort (os oes gennych un) neu ddogfennau i Swyddfa Basbort EM trwy Ddanfoniad Arbennig y Post Brenhinol (mae hyn wedi’i gynnwys yn y ffi ychwanegol, a godir gan Swyddfa’r Post). Am ragor o wybodaeth ewch i: www.postoffice.co.uk

Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Papur Swyddfa’r Post

Ewch i: www.gov.uk/how-the-post-office-check-and-send-service-works (canghennau dethol yn unig a ffi ychwanegol yn berthnasol, gweler yr adran ffi pasbort). Byddant yn tynnu’ch llun, yn llenwi’r cais ar-lein ac yn ei gyflwyno ar eich rhan. Byddant yn anfon eich hen basbort (os oes gennych un) neu ddogfennau i Swyddfa Basbort EM trwy Ddanfoniad Arbennig Wedi’i Warantu y Post Brenhinol (mae hyn wedi’i gynnwys yn y ffi ychwanegol, a godir gan Swyddfa’r Post). Am ragor o wybodaeth ewch i: www.postoffice.co.uk

Post

Defnyddiwch yr amlen a ddaeth gyda’ch pecyn i anfon eich ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn, dogfennau ategol, 2 lun, a’ch ffi atom. Rhaid i chi atodi’r pris postio cywir i’ch amlen.

Drwy apwyntiad i gael pasbort yn gyflym

Ewch i www.gov.uk/get-a-passport-urgently. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael pasbort gan ddefnyddio’r gwasanaeth Premiwm 1-diwrnod (fel arfer o fewn 4 awr, er y gallai hwn fod y diwrnod canlynol os yw’r swyddfa ar fin cau) neu wasanaeth Llwybr Carlam 1-wythnos. Bydd angen i chi archebu a thalu am apwyntiad ar-lein a mynd i swyddfa basbort gyda ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn, 2 lun a’r dogfennau ategol cywir. Fel arall, efallai y byddwch yn gallu adnewyddu eich pasbort ar frys ar-lein.

Os ydych yn byw y tu allan i’r DU, rydych yn gwneud cais mewn ffordd wahanol.

Ymweld â’r DU ac am wneud cais pan fyddwch chi yno?

Mae cymorth ychwanegol ar gael i unrhyw un sydd ag anabledd. Dysgwch ragor am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig a sut i’w cyrchu yn www.gov.uk/passport-services-disabled

Sut i lenwi pob adran o’r ffurflen gais bapur

  • Cwblhewch eich ffurflen bapur mewn PRIF LYTHRENNAU a BIRO DU yn unig.

  • Peidiwch ag ysgrifennu y tu allan i’r blychau gwyn neu y tu allan i’r ffiniau llofnod.

Os gwnewch gamgymeriad, croeswch ef allan. Peidiwch â defnyddio hylif cywiro. Os gwnewch fwy na 3 chamgymeriad ar unrhyw linell neu os nad ydych yn darparu llofnod clir yn adrannau 6 neu 9, bydd angen i chi lenwi ffurflen newydd.

Os oes angen cydlofnodi eich ffurflen, rhaid i’ch cydlofnodwr hefyd ysgrifennu yn y blychau gwyn a llofnodi yn y blwch llofnod yn adran 10.

Adran 1: Pa fath o basbort sydd ei angen arnoch ac adrannau i’w llenwi

Darllenwch y wybodaeth yn yr adran hon i ganfod pa fath o basbort y mae angen i chi wneud cais amdano a pha adrannau y mae angen i chi eu llenwi. Mae 5 math gwahanol o gais.

  • Mae blwch y Plentyn ar gyfer rhai dan 16 oed

  • Mae blwch yr Oedolyn ar gyfer y rhai 16 oed neu’n hŷn a’r rhai sy’n troi’n 16 o fewn y 3 wythnos nesaf

  • Mae pasbortau oedolion fel arfer yn ddilys am 10 mlynedd ac mae pasbortau plant fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd

Adnewyddu

Mae hyn yn berthnasol os:

  • nid yw eich pasbort Prydeinig presennol wedi’i ddifrodi AC

  • nid yw eich enw, dyddiad geni, man geni, rhyw, ymddangosiad a chenedligrwydd wedi newid AC

  • nid ydych yn adnewyddu pasbort sydd wedi’i ysgrifennu â llaw. Os ydych yn adnewyddu pasbort sydd wedi’i ysgrifennu â llaw, gweler Pasbort Prydeinig Cyntaf

Rhaid cwblhau Adran 10 ar gyfer:

  • pob plentyn 11 oed neu iau

  • pawb nad yw’n adnabyddadwy o’u llun pasbort blaenorol.

Rhaid i’r cydlofnodwr lenwi adran 10 ac ardystio un o’ch lluniau’n gywir. Gweler adran cydlofnodwr.

Adrannau i’w cwblhau

Oedolyn, 16 neu hŷn (neu ar fin troi 16 yn y 3 wythnos nesaf) 1 2 3     9
Plentyn, dan 16 1 2 3 4 6 (os yw’n 12-15 oed neu ar fin troi’n 12 yn ystod y 3 wythnos nesaf) 9

Pasbort Prydeinig cyntaf

Mae hyn yn berthnasol os ydych:

  • erioed wedi cael pasbort Prydeinig o’r blaen

  • wedi’ch cynnwys fel plentyn ar basbort rhywun arall

  • yn adnewyddu pasbort sydd wedi’i ysgrifennu â llaw

  • wedi dod yn wladolyn Prydeinig trwy frodori neu gofrestru

Rhaid llenwi Adran 10 ar gyfer: pob cais oedolyn a phlentyn.

Rhaid i’r cydlofnodwr lenwi adran 10 ac ardystio un o’ch lluniau’n gywir. Gweler adran cydlofnodwr.

Adrannau i’w cwblhau

Oedolyn, 16 neu hŷn (neu ar fin troi 16 yn y 3 wythnos nesaf) 1 2 3 4 5   9
Plentyn, o dan 16 1 2 3 4 5 6 (os yw’n 12-15 oed neu ar fin troi 12 yn ystod y 3 wythnos nesaf) 9

Amnewid

Mae hyn yn berthnasol os:

  • rydych chi am newid pasbort Prydeinig sydd wedi’i golli, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi

Rhaid llenwi Adran 10 ar gyfer: pob cais oedolyn a phlentyn

Rhaid i’r cydlofnodwr lenwi adran 10 ac ardystio un o’ch lluniau’n gywir. Gweler adran cydlofnodwr

Adrannau i’w cwblhau

Oedolyn, 16 neu hŷn (neu ar fin troi 16 yn y 3 wythnos nesaf) 1 2 3 4   8 (os yw pasbort wedi’i ddifrodi) 9
Plentyn, o dan 16 1 2 3 4 6 (os yw’n 12-15 oed neu ar fin troi 12 yn ystod y 3 wythnos nesaf) 8 (os yw pasbort wedi’i ddifrodi) 9

Newidiadau

Mae hyn yn berthnasol os ydych am newid eich pasbort Prydeinig cyfredol. Rydych chi’n newid:

  • eich enw, dyddiad geni, man geni, rhyw neu genedligrwydd

  • eich llun (gan gynnwys lle nad ydych yn adnabyddadwy o’ch llun pasbort cyfredol)

Rhaid llenwi Adran 10 ar gyfer:

  • pob plentyn 11 oed neu iau

  • pawb nad yw’n adnabyddadwy o’u llun pasbort blaenorol.

Rhaid i’r cydlofnodwr lenwi adran 10 ac ardystio un o’ch lluniau’n gywir. Gweler adran cydlofnodwr

Adrannau i’w cwblhau

Oedolyn, 16 neu hŷn (neu ar fin troi 16 yn y 3 wythnos nesaf) 1 2 3 4 5   9
Plentyn, o dan 16 1 2 3 4 5 6 (os yw’n 12-15 oed neu ar fin troi 12 yn ystod y 3 wythnos nesaf) 9

Estyniad

Mae hyn yn berthnasol os rhoddwyd eich pasbort diwethaf am flwyddyn neu lai.

Rhaid llenwi Adran 10 ar gyfer:

  • pob plentyn 11 oed neu iau

  • pawb nad yw’n adnabyddadwy o’u llun pasbort blaenorol.

Rhaid i’r cydlofnodwr lenwi adran 10 ac ardystio un o’ch lluniau’n gywir. Gweler adran cydlofnodwr.

Adrannau i’w cwblhau

Oedolyn, 16 neu hŷn (neu ar fin troi 16 yn y 3 wythnos nesaf) 1 2 3 4   9
Plentyn, o dan 16 1 2 3 4 6 (os yw’n 12-15 oed neu ar fin troi 12 yn ystod y 3 wythnos nesaf) 9

Angen danfoniad diogel i ddychwelyd eich dogfennau ategol?

Oni bai eich bod yn talu am ddanfoniad diogel, bydd y dogfennau y byddwch yn eu hanfon atom yn cael eu hanfon yn ôl atoch drwy bost ail ddosbarth y Post Brenhinol.

Rhowch ‘X’ yn y blwch ‘danfoniad diogel’ os hoffech i ni anfon eich dogfennau ategol yn ôl atoch trwy ddosbarthiad diogel. Bydd angen i chi dalu’r ffi danfoniad diogel (gweler yr adran ffi pasbort. Os croeswch y blwch ac nid ydych yn talu’r ffi ychwanegol, bydd hyn yn achosi oedi gyda’ch cais.

Os ydych yn talu am ddanfoniad diogel gallwch olrhain eich pecyn, neu ddod o hyd i wybodaeth ddosbarthu lawn yn:www.tnt.com/campaign/en_gb/hmpo.html

Ni allwn:

  • gymryd cyfrifoldeb neu ddarparu iawndal am unrhyw golled, neu oedi wrth ddychwelyd eich dogfennau ategol pan fyddwn yn eu dychwelyd drwy

  • bost ail ddosbarth ac nid ydych wedi gofyn am ddanfoniad diogel

  • amnewid unrhyw ddogfennau yr ydych yn adrodd eu bod ar goll 6 mis ar ôl i ni gyhoeddi’r pasbort.

  • derbyn cyfrifoldeb am basbortau a dogfennau ategol nad ydynt yn cael eu danfon, os byddwch yn rhoi cyfeiriad anghywir neu os na fyddwch yn dweud wrthym os byddwch yn symud tŷ tra byddwn yn prosesu eich cais.

Angen pasbort teithiwr aml 50 tudalen?

Mae pasbort safonol yn 34 tudalen. Os ydych chi’n deithiwr cyson ac angen lle ychwanegol ar gyfer fisas, dewiswch ‘pasbort 50 tudalen’ ar y ffurflen gais. Mae pasbortau teithwyr aml 50 tudalen yn costio mwy na phasbort 34 tudalen.

Angen sticer Braille ar eich pasbort newydd?

Os oes gennych chi neu’r ymgeisydd anawsterau golwg a bod angen sticer Braille ar y pasbort newydd, rhowch ‘X’ yn y blwch ‘Braille’.

Adran 2: Ar gyfer pwy mae’r pasbort?

  • Dylai’r enw a roddwch ar y ffurflen gyd-fynd yn llawn â’ch pasbort Prydeinig blaenorol neu’r dogfennau y byddwch yn eu hanfon atom. Er enghraifft, eich tystysgrif geni neu fabwysiadu, tystysgrif priodas, tystysgrif cenedligrwydd.

  • Os nad oes digon o le yn y blychau a ddarperir, defnyddiwch adran 8 y ffurflen gais i roi eich enw llawn i ni.

Enwau i’w dangos ar eich pasbort

  • Gallwn ychwanegu nifer cyfyngedig o deitlau at eich pasbort Prydeinig os gofynnwch. Gweler GOV.UK am fanylion.

  • Rhowch enw’r person y mae’r pasbort ar ei gyfer o dan ‘cyfenw’ ac ‘enwau cyntaf a chanol’

  • Dylai’r enw a ddangosir ar y pasbort fod yr enw a ddefnyddiwch at bob diben – hynny yw, dylai’r enw ar eich pasbort newydd gyd-fynd â’r enw sy’n ymddangos ar eich dogfennau ategol (megis eich tystysgrif geni neu basport blaenorol). Os ydych chi’n ddinesydd deuol ac yn dal pasbort nad yw’n un Prydeinig mewn enw gwahanol, rhaid i chi ei newid i gyd-fynd â’r enw rydych chi ei eisiau ar eich pasbort Prydeinig. Rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud eich cais.

  • Dim ond hyd at 30 nod (gan gynnwys bylchau) y gallwn eu dangos ar eich pasbort ar gyfer enwau cyntaf a chanol a 30 nod arall ar gyfer cyfenwau. Os nad yw eich enwau’n ffitio yn y blychau a ddarperir, cwtogwch nhw mewn ffordd y byddech chi am iddynt gael eu dangos ar eich pasbort. Yna dylech ysgrifennu eich enw llawn yn adran 8 y ffurflen. Byddwn yn ychwanegu eich enw llawn ar y dudalen sylwadau yn eich pasbort.

  • Os ydych chi wedi newid eich enw, rhowch eich enw fel y mae nawr.

Newid enw yn y pasbort

  • Os ydych yn newid eich enw, rhowch eich enw newydd yn y blychau ‘cyfenw’ ac ‘enwau cyntaf a chanol’ a rhowch eich enwau blaenorol yn y blychau ‘enw cyn priodi neu bob enw blaenorol’.

  • Os nad ydych bellach am i’ch enw canol gael ei gynnwys yn eich pasbort newydd pan yw wedi bod ar basbortau blaenorol, dywedwch wrthym yn adran 8 o’r ffurflen gais a rhowch dystiolaeth o’r newid. Gweler y tabl newid enw am fanylion. Os na wnewch chi, byddwn yn ychwanegu eich enw i gyd-fynd â’r hyn sydd yn eich pasbort blaenorol.

  • Os ydych chi’n sillafu’ch enw’n wahanol, yn newid trefn eich enwau neu’n ychwanegu enw newydd o’i gymharu â’r hyn sydd yn eich pasbort blaenorol, yna bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r newid enw. Gweler y tabl newid enw am ragor o fanylion.

  • Darparwch brawf o’ch newid enw os yw hyn yn wahanol i’ch dogfennau ategol. Anfonwch brawf i gefnogi pob newid enw. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil a’ch bod am i’ch pasbort fod yn eich enw newydd. Gweler y tabl newid enw am ragor o fanylion.

  • Rhestrwch eich holl enwau cyn priodi neu flaenorol rydych chi wedi cael eich adnabod ganddynt (cyfenw yn gyntaf yna enw cyntaf ac enwau canol). Gadewch fwlch rhwng pob enw. Os na fyddant yn ffitio yn y blychau, dylech eu hysgrifennu’n llawn yn adran 8.

  • Ni allwch newid enw plentyn oni bai bod gennych ganiatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Gweler adran 9 ar gyfrifoldeb rhiant am ragor o wybodaeth.

Cyfeiriad presennol y DU

  • Rhowch eich cyfeiriad preswyl llawn (lle rydych yn byw) gan gynnwys unrhyw rif stryd a’ch cod post llawn. Mae’n rhaid i hwn fod yn gyfeiriad yn y DU ac fel arfer dyma ble rydym yn danfon eich pasbort iddo. Os oes gan eich tŷ enw, lle bo modd rhowch rif y stryd i sicrhau ein bod yn danfon y pasbort i’r cyfeiriad cywir. Gallwch wirio manylion eich cyfeiriad ar gwefan y Post Brenhinol.

  • Efallai y byddwn yn gwirio eich bod yn byw yn y cyfeiriad a roddwch. Os nad ydych, gallai oedi eich cais oni bai eich bod yn esbonio’r amgylchiadau yn adran 8 o’r ffurflen gais.

  • Ni fyddwn fel arfer yn dychwelyd eich pasbort i gyfeiriad sy’n wahanol i’ch cyfeiriad presennol. Os ydych am iddo gael ei ddanfon i gyfeiriad arall, esboniwch pam a rhowch y cyfeiriad arall yn adran 8. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth o’ch cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw.

Rhywedd

  • Rhowch groes yn y blwch perthnasol i ddweud a yw’r person y mae’r pasbort ar ei gyfer yn wryw neu’n fenyw.

  • Os ydych yn drawsryweddol (yn byw fel rhyw gwahanol i’r hyn a ddangosir ar eich tystysgrif geni) neu os ydych wedi newid neu yn y broses o newid eich rhywedd, gallwch gael mwy o ganllawiau yn www.gov.uk/changing-passport-information

Dyddiad Geni

  • Rhowch eich dyddiad geni fel y dangosir ar eich tystysgrif geni, cofrestru neu frodori neu basport Prydeinig blaenorol

Man geni

  • Rhowch enwau’r dref a’r wlad y cawsoch eich geni ynddi fel y dangosir ar eich tystysgrif geni, cofrestru neu frodori neu basport Prydeinig blaenorol.

Manylion cyswllt

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi rhif ffôn symudol i ni, fel y gallwn anfon neges destun atoch pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen a phan fydd eich pasbort yn cael ei argraffu. Efallai y bydd ein negesydd hefyd yn ei ddefnyddio i helpu i ddanfon eich pasbort yn gyflymach. Rhowch gymaint o fanylion cyswllt â phosibl a gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth yn gywir oherwydd efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi ynghylch eich cais. Os oes gennych rif Text Relay, ysgrifennwch hwn yn y gofod yn adran 8 os na fydd yn ffitio yn y blychau.

Adran 3: Manylion pasbortau blaenorol a chyfredol a ddelir

Rhaid i bawb lenwi adran 3A.

Pasbortau heb eu canslo

Yn rhan B, nodwch fanylion yr holl basbortau heb eu canslo yr ydych yn eu hanfon atom.

Mae gan basbort Prydeinig wedi’i ganslo gornel dde uchaf y clawr wedi’i thorri i ffwrdd. Nid yw pasbort heb ei ganslo wedi’i ganslo gan ei awdurdod cyhoeddi (Prydeinig neu wlad arall). Gall hyn gynnwys:

  • pasbort sydd wedi dod i ben (un sydd wedi gorffen)

  • pasbortau yr ydych yn cael neu y cawsoch eich cynnwys arnynt (er enghraifft, fel plentyn), a

  • phasbortau a gyhoeddwyd i chi gan wledydd eraill

Wedi’i golli neu wedi’i ddwyn

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn rhoi gwybod bod eich pasbort wedi’i golli neu wedi’i ddwyn cyn gynted â phosibl er mwyn atal rhywun rhag camddefnyddio’ch pasbort a’ch hunaniaeth. Gwnewch hyn ar-lein yn www.gov.uk/report-a-lost-or-stolen-passport. Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas y gallwch ymddiried ynddynt eich helpu. Y cynharaf y byddwch yn rhoi gwybod amdano, y cynharaf y byddwch yn cael eich diogelu rhag i’r pasbort gael ei gamddefnyddio.

Os yw eich pasbort wedi’i golli neu wedi’i ddwyn, ond nad ydych wedi rhoi gwybod amdano eto, llenwch ran C. Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch a dywedwch wrthym sut y collwyd ef neu y cafodd y pasbort ei ddwyn. Defnyddiwch adran 8 os nad oes digon o le yn y blychau a ddarperir. Os cafodd eich pasbort ei ddwyn, rhowch wybod i’r heddlu lleol am y lladrad a chynnwys y rhif cyfeirnod trosedd yn adran 8.

Byddwn yn canslo eich pasbort sydd wedi’i golli neu wedi’i ddwyn pan fyddwn yn derbyn eich cais. Os byddwch yn dod o hyd i’r pasbort yn ddiweddarach y gwnaethoch adrodd ei fod wedi’i golli neu wedi’i ddwyn, rhaid i chi ei ddychwelyd atom. Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r pasbort mwyach. Mae’n bosibl y cewch eich dal gan yr awdurdodau mewnfudo neu’r heddlu os ceisiwch wneud hynny.

Am resymau diogelwch, dylai unrhyw basbort a ganfyddir gael ei ddychwelyd atom ni neu i drydydd parti megis yr Heddlu fel y gellir ei ddychwelyd atom i’w ganslo.

Adran 4: Manylion rhiant

Mae angen i chi lenwi’r adran hon os:

  • mae’r pasbort ar gyfer rhywun o dan 16 oed

  • rydych yn gwneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf

  • rydych yn gwneud cais i gael pasbort newydd sydd wedi’i golli, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi

  • rydych yn gwneud cais i ymestyn eich pasbort

Rhowch yr holl fanylion ar gyfer dau riant y sawl a enwir yn adran 2 y ffurflen gais.

At ddibenion cenedligrwydd diffinnir rhieni yn y gyfraith fel ‘mam’ a ‘thad’. Ni ellir bob amser ennill cenedligrwydd trwy enedigaeth trwy statws cenedlaethol y naill riant na’r llall. Mae hyn yn cynnwys rhieni o’r un rhyw. Oherwydd hyn, mae’n bwysig bod y ‘mam’ a’r ‘tad’ yn cael eu nodi yn y blychau cywir.

Os ganwyd y naill riant neu’r llall ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983, neu os cawsant eu geni y tu allan i’r DU, rhowch y manylion dilynol yn adran 8 o’r ffurflen gais. Naill ai:

  • enw llawn, tref, gwlad geni a dyddiad priodas rhieni eich mam neu riant 1 a rhieni eich tad neu riant 2, neu

  • manylion hawliad eich rhieni i genedligrwydd Prydeinig.

Os yw eich ‘mam’ yn briod â rhywun arall (nid eich tad biolegol) ar adeg eich geni nid eich ‘tad biolegol’ yw eich ‘tad’ at ddibenion cenedligrwydd. Gweler gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhaid i lys-rieni ac eraill sy’n cymryd rôl rhiant nad yw wedi’i diffinio fel ‘mam’ neu ‘dad’ at ddibenion cenedligrwydd beidio â llenwi eu manylion yn adran 4.

Mabwysiadu

Pan yw plentyn yn cael ei fabwysiadu yn y DU, gall y naill riant neu’r llall ennill cenedligrwydd Prydeinig. Os yw rhieni mabwysiadol o’r un rhyw, dylai’r rhiant sy’n ymddangos gyntaf ar y dystysgrif mabwysiadu nodi eu manylion yn y blwch ‘mam neu riant 1’ a dylai’r rhiant a enwir yn ail ar y dystysgrif mabwysiadu nodi eu manylion yn y blwch ‘tad neu’ rhiant 2’ waeth beth fo’u rhyw

Plant yn cael eu beichiogi drwy roi sberm

Os cafodd eich plentyn ei genhedlu trwy roi sberm a’i eni yn y DU, dylech lenwi’r ffurflen yn y ffordd arferol. Nid oes angen i chi ddweud wrthym fod eich plentyn wedi’i genhedlu drwy roi sberm.

Os yw’r rhieni o’r un rhyw, dylai’r fam a roddodd enedigaeth nodi eu manylion yn y blwch ‘mam neu riant 1’ a dylai’r rhiant a enwir yn ail ar dystysgrif geni’r plentyn nodi eu manylion yn y blwch ‘tad neu riant 2’.

Os cafodd eich plentyn ei genhedlu trwy roi sberm a’i eni y tu allan i’r DU gweler GOV.UK am wybodaeth ar ba ddogfennau y bydd angen i chi eu hanfon.

Benthyg croth

Pan yw plentyn yn cael ei eni o drefniant benthyg croth, rhowch wybod i ni yn adran 8 ar y ffurflen. Os rhoddwyd gorchymyn rhiant yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, gellir cymryd cenedligrwydd drwy’r naill riant neu’r llall a enwir ar y gorchymyn. Lle mae’r rhieni hyn o’r un rhyw, dylai’r rhiant sy’n ymddangos gyntaf ar y gorchymyn rhieni nodi eu manylion yn y blwch ‘mam neu riant 1’ a dylai’r rhiant a enwir yn ail ar y gorchymyn rhieni nodi eu manylion yn y blwch ‘tad neu riant 2’.

Mae’n bosibl y bydd modd gwneud cais am basbort cyn i orchymyn rhiant gael ei roi. Gall ceisiadau am basbort sy’n cynnwys benthyg croth fod yn gymhleth ac efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth.

Ni fydd unrhyw sôn am fanylion rhiant na ‘mam neu riant 1’ a ‘tad neu riant 2’ yn ymddangos ar y pasbort. Defnyddir y wybodaeth hon ond i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i roi pasbort.

Plentyn ag un rhiant

Os mai chi yw unig riant eich plentyn, llenwch naill ai adrannau ‘Mam neu Riant 1’ neu ‘Tad neu Riant 2’ y ffurflen, pa un bynnag sy’n berthnasol i chi a gadewch y bylchau ar gyfer rhiant ychwanegol yn wag.

Ychwanegwch nodyn yn adran 8 i ddangos mai chi yw’r unig riant a pham (p’un ai nad ydych yn adnabod rhiant arall y plentyn, yn fabwysiadwr unigol, neu’n rhiant unigol y cafodd ei blentyn ei genhedlu drwy roi sberm ac ati).

I gael rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau pan benderfynir ar genedligrwydd, ewch i GOV.UK

Am ragor o wybodaeth am genedligrwydd ewch i GOV.UK

Adran 5: Tystysgrif cofrestru neu frodori

  • Rhaid i chi roi croes yn y blwch ‘Nac ydw’ neu ‘Ydw’ os ydych yn gwneud cais am eich pasbort Prydeinig cyntaf

  • Rhaid i chi roi croes yn y blwch ‘Nac ydw’ neu ‘Ydw’ os ydych yn newid eich statws cenedlaethol i ddinesydd Prydeinig

  • Peidiwch â chynnwys manylion tystysgrif geni/mabwysiadu neu basbort yn yr adran hon

Mae’r blwch ‘Na’ yn berthnasol os nad yw’r person a enwir yn adran 2 wedi gwneud cais i’r Swyddfa Gartref i ddod yn Ddinesydd Prydeinig trwy gofrestru neu frodori. Dim ond pan yw’r ymgeisydd wedi bodloni holl ofynion y ddeddfwriaeth y caiff tystysgrif cofrestru neu frodori ei rhoi gan y Swyddfa Gartref. Rhowch ‘X’ yn y blwch ‘Nac ydw’.

Mae’r blwch Ydw yn berthnasol os gwnaeth y person a enwir yn adran 2 gais i’r Swyddfa Gartref i ddod yn Ddinesydd Prydeinig trwy gofrestru neu frodori. Os rhoddodd y Swyddfa Gartref ddinasyddiaeth Brydeinig bydd y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi tystysgrif cofrestru neu frodori. Rhowch ‘X’ yn y blwch ‘Ydw’ a rhowch fanylion y dystysgrif.

Adran 6: Plant 12 i 15 oed

Mae angen i blentyn rhwng 12 a 15 oed, neu blentyn a fydd yn troi’n 12 oed o fewn y 3 wythnos nesaf, lofnodi’r datganiad hwn.

Rhaid rhoi dyddiad yn yr adran dyddiad. Rhaid i berson â chyfrifoldeb rhiant lofnodi’r datganiad yn adran 9 o’r ffurflen.

Os na all eich plentyn lofnodi’r ffurflen, dylech:

  • adael yr adran hon yn wag, a

  • ddefnyddio adran 8 neu anfon llythyr eglurhaol yn cadarnhau pam na all y plentyn lofnodi. Gall y rhiant neu ofalwr neu feddyg y plentyn ysgrifennu hwn.

Adran 7

Peidiwch ag ysgrifennu yn yr adran hon. Mae’r maes hwn yn wag yn fwriadol.

Adran 8: Rhagor o wybodaeth

Nid oes angen i’r rhan fwyaf o bobl lenwi’r adran hon. Mae’r adrannau isod yn dangos pryd y dylech roi gwybodaeth ychwanegol i ni gan ddefnyddio’r adran hon.

Enwau

  • Enwau nad oeddech yn gallu eu gosod yn y blychau yn adran 2.

  • Os ydych wedi newid eich enw o ganlyniad i briodi, ond eich bod am barhau i ddefnyddio’ch enw cyn priodi at ddibenion proffesiynol, dylech wneud datganiad yn adran 8 o’r ffurflen gais a byddwn yn ychwanegu nodyn ar dudalen sylwadau’ch pasbort yn dangos eich enw cyn priodi.

  • i gadw sylw yn eich pasbort newydd.

Cyfeiriadau

  • Dywedwch wrthym pam fod angen i chi anfon eich pasbort i gyfeiriad arall a rhowch y cyfeiriad arall i ni

Pasbort wedi’i ddifrodi

  • Os yw eich pasbort wedi’i ddifrodi, eglurwch yn gryno sut y cafodd ei ddifrodi.

Cyfrifoldeb rhiant

  • Rhaid i chi ddatgelu a rhoi unrhyw orchmynion llys i ni sy’n ymwneud â’r plentyn, a allai effeithio ar y cais am basbort.

Os oes gennych anabledd

  • Os oes gennych anabledd sy’n golygu na allwch fodloni’r gofynion llun pasbort. Cynhwyswch lythyr gan eich meddyg, a dywedwch wrthym os yw’n anabledd parhaol neu dros dro.

  • Os oes gennych gyflwr meddyliol neu gorfforol a fyddai’n eich atal rhag cymryd rhan mewn cyfweliad hunaniaeth. Cynhwyswch lythyr gan eich meddyg, a dywedwch wrthym os yw’n gyflwr parhaol neu dros dro.

  • Os na ellid darparu llofnod yn adran 6 neu 9, dywedwch wrthym yn adran 8 a chynnwys llythyr esboniadol gan berson priodol megis rhiant (ar gyfer adran 6) neu feddyg, gofalwr neu weithiwr cymdeithasol. Bydd angen iddynt lofnodi’r cais ar eich rhan

  • Eich rhif ffôn Typetalk neu’r dull cyfathrebu sydd orau gennych os ydych yn ddall neu’n rhannol ddall (er enghraifft, dros y ffôn neu mewn print bras).

Manylion neiniau a theidiau a benthyg croth

  • Manylion neiniau a theidiau os cafodd y ddau riant a enwir yn adran 4 eu geni ar ôl 1 Ionawr 1983 neu eu geni dramor.

  • Os ganwyd yr ymgeisydd o drefniant benthyg croth.

Sylwer: Rhowch enw(au) llawn, dyddiad geni, a man geni yn ogystal ag unrhyw fanylion pasbort Prydeinig; er enghraifft rhif pasbort Prydeinig a’r man cyhoeddi. Os oedd neiniau a theidiau erioed wedi priodi, bydd angen i ni hefyd wybod dyddiad eu priodas at ddibenion cenedligrwydd

Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os rhoddwyd Caniatâd Amhenodol i Aros (ILR) i chi o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’ch bod yn gwneud cais am basbort Prydeinig cyntaf eich plentyn, bydd angen i chi:

  • roi eich Rhif Cais Unigryw (UAN) i ni. Mae hwn yn rhif 16 digid yn y fformat xxxx-xxxx-xxxx-xxxx. Fe welwch eich UAN ar yr e-bost a gawsoch gan y Swyddfa Gartref i gadarnhau eich bod wedi cael ILR o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r UAN i’w weld ar ochr dde uchaf eich e-bost gan y Swyddfa Gartref; wedi’i leoli wrth ymyl ‘Ein Cyf’

Dim digon o le yn Adran 8

  • Os nad oes digon o le yn adran 8, cynhwyswch unrhyw wybodaeth ychwanegol ar ddalen wag o bapur. Dylech lofnodi hwn a’i gynnwys gyda’ch ffurflen gais.

Adran 9: Datganiad

  • Cyn i chi lenwi a llofnodi’r datganiad, darllenwch y ffurflen eto i wneud yn siŵr bod y wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir.

  • Cwblhewch yr adran hon os ydych yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gwneud cais am:

  • eich pasbort eich hun

  • pasbort ar gyfer y plentyn a enwir yn adran 2

  • rhywun na all lofnodi, a’ch bod yn llofnodi ar eu rhan.

  • Darllenwch bwyntiau 1 i 9 yn adran datganiad y ffurflen cyn i chi lofnodi a dyddio’r ffurflen

  • Os ydych yn gwneud cais am blentyn, rhowch eich enw llawn a’ch perthynas â’r plentyn

Pobl 16 oed a throsodd sy’n gwneud cais. Os ydych yn 16 oed a throsodd, neu’n troi’n 16 o fewn 3 wythnos, llofnodwch y datganiad eich hun. Nid oes angen caniatâd person sydd â chyfrifoldeb rhiant arnoch. Ni ellir rhoi eich pasbort ‘oedolyn’ cyn i chi droi’n 16.

Ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd dysgu na allant ddeall canlyniadau llofnodi’r datganiad yn adran 9, dylai rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant roi eu caniatâd. Defnyddiwch adran 8 o’r ffurflen i egluro pam na all yr ymgeisydd lofnodi’r datganiad.

Cyfrifoldeb rhiant

Rhaid i blentyn dan 16 oed gael caniatâd gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant. Mae gan y fam gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig am ei phlentyn o’i enedigaeth, a gall roi caniatâd, ar yr amod nad yw’r llys wedi cymryd cyfrifoldeb rhiant oddi arni.

Gall y tad roi caniatâd os:

  • oedd yn briod â’r fam ar adeg geni’r plentyn (neu, ar gyfer y rhai a oedd yn byw yn yr Alban, pan ddaeth y fam yn feichiog)

  • oedd yn briod â’r fam ar unrhyw adeg ar ôl genedigaeth y plentyn

  • mae ganddo orchymyn neu gytundeb cyfrifoldeb rhiant (y mae’n rhaid ei anfon gyda’r cais)

  • mae ganddo orchymyn trefniadau plentyn sy’n rhoi cyfrifoldeb rhiant (rhaid anfon hwn gyda’r cais), neu

  • mae wedi’i enwi ar y dystysgrif geni (rhaid anfon hon gyda’r cais) a chofrestrwyd yr enedigaeth ar y cyd ar neu ar ôl: − 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon − 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr, neu − 4 Mai 2006 yn yr Alban.

Ar gyfer plant a anwyd i bartneriaid benywaidd o’r un rhyw a feichiogodd drwy roi sberm, gall yr ail riant benywaidd roi caniatâd os:

  • oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar adeg cenhedlu’r plentyn ac wedi cydsynio i’r cenhedlu

  • mae ganddi orchymyn neu gytundeb cyfrifoldeb rhiant (y mae’n rhaid ei anfon gyda’r cais)

  • mae ganddi orchymyn trefniadau plentyn sy’n caniatáu cyfrifoldeb rhiant (rhaid anfon hwn gyda’r cais), neu

  • mae wedi’i enwi ar y dystysgrif geni (rhaid anfon hon gyda’r cais) a chofrestrwyd yr enedigaeth ar y cyd ar neu ar ôl: − 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon − 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr, neu − 4 Mai 2006 yn yr Alban.

Os yw rhiant y plentyn o dan 16 oed, gallant lofnodi’r datganiad ar ran y plentyn.

Os yw plentyn wedi’i fabwysiadu, gall y naill riant neu’r llall sy’n mabwysiadu roi caniatâd.

Os yw rhieni wedi ysgaru, ni fydd gorchymyn trefniadau plentyn neu orchymyn cynhaliaeth yn dileu cyfrifoldeb rhiant y rhiant yn awtomatig.

Os yw plentyn wedi’i eni o drefniant benthyg croth, gall y naill riant neu’r llall a enwir ar y gorchymyn rhiant neu’r dystysgrif geni roi caniatâd. Os gwneir y cais cyn i’r gorchymyn rhiant gael ei ganiatáu, mae’r rheolau’n fwy cymhleth. Cysylltwch â ni am ganllawiau os yw hyn yn berthnasol i chi.

Mae Llys-rieni (oedolion sy’n mynd i briodas neu bartneriaeth sifil gyda rhywun sydd eisoes wedi’i ddiffinio fel rhiant fel yr eglurwyd uchod) yn gallu rhoi caniatâd, dim ond os oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant trwy orchymyn cyfrifoldeb rhiant, gorchymyn trefniadau plentyn sy’n rhoi cyfrifoldeb rhiant neu gytundeb cyfrifoldeb rhiant.

Os yw’r plentyn mewn gofal neu’n byw gyda rhieni maeth, bydd angen caniatâd yr awdurdod lleol arnom cyn y gallwn roi pasbort i’r plentyn. I gael nodiadau canllaw ar wahân ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ewch i www.gov.uk/government/publications

Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn ynghylch gyda phwy y dylai’r plentyn fyw, neu ynghylch y plentyn yn cael pasport, rhaid anfon hwn gyda’r cais. Os bydd rhywun wedi gwrthwynebu i’r plentyn gael y pasbort, efallai y byddwn yn gwrthod rhoi’r pasbort.

Os yw oedolyn yn gweithredu fel rhiant mewn sefyllfa heblaw’r un a ddisgrifir yn yr adran hon, esboniwch yr amgylchiadau mewn llythyr gyda’ch cais. Byddwn hefyd angen prawf dogfennol o’ch cyfrifoldeb am y plentyn.

Os ydym eisoes wedi rhoi pasbort i blentyn ar ôl i gais gael ei wneud gan un rhiant, ni all y rhiant arall nac unrhyw un arall â chyfrifoldeb rhiant wneud cais am basbort ar wahân ar gyfer y plentyn hwnnw. Os na allwch lofnodi’r ffurflen gais:

  • gofynnwch i rywun arall i lofnodi ar eich rhan, a

  • dywedwch wrthym yn adran 8 a chynnwys llythyr eglurhaol i egluro pam na allwch lofnodi. Gwneir hyn fel arfer gan y sawl sy’n llenwi’r ffurflen gais ar eich rhan. Bydd eich pasbort yn nodi nad oes rhaid i’r deiliad lofnodi.

  • Am ragor o gyngor neu os nad yw’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gallu rhoi caniatâd gweler [ffyrdd i gysylltu â ni](#contact}.

Adran 10: Cydlofnod

Cydlofnodwyr

Bydd angen i ‘gydlofnodwr’ lenwi’r adran hon os ydych yn gwneud cais:

  • am basbort Prydeinig cyntaf

  • i ddisodli pasbort sydd wedi’i golli, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi

  • i adnewyddu pasbort plentyn (os yw’r plentyn yn 11 oed neu’n iau)

  • i adnewyddu pasbort (oedolyn, neu blentyn rhwng 12 a 15 oed) os na ellir eich adnabod o’r llun yn eich pasbort cyfredol

  • i ymestyn pasbort

Cydlofnodwr yw rhywun a all gadarnhau pwy ydych. Mae angen iddynt gadarnhau, hyd eithaf eu gwybodaeth, bod y manylion a roddwyd gennych yn eich cais yn gywir, a rhaid iddynt hefyd gadarnhau bod y llun ohonoch chi.

Ar gyfer ceisiadau plant (dan 16 oed) mae hefyd i gadarnhau ei fod yn adnabod, ers o leiaf 2 flynedd, yr oedolyn a lofnododd y datganiad yn adran 9 y ffurflen gais. Rhaid iddynt hefyd gadarnhau bod gan y person gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a chadarnhau bod llun y plentyn yn debyg iawn.

Rhaid bod y cydlofnodwr:

  • wedi’ch adnabod yn bersonol ers o leiaf 2 flynedd (er enghraifft, ffrind, cymydog neu gydweithiwr, ac nid rhywun sy’n perthyn i chi neu sy’n eich adnabod yn broffesiynol yn unig)

  • yn berson proffesiynol (gweler galwedigaethau ar gyfer cydlofnodwyr

  • yn byw yn y DU, ac

  • yn dal pasbort Prydeinig neu Wyddelig sydd heb ddod i ben.

Mae angen i’r cydlofnodwr:

  • darllen drwy’r ffurflen gais wedi’i chwblhau i wneud yn siŵr bod y wybodaeth yn gywir

  • llenwi adran 10 y ffurflen, gan roi eu rhif pasbort, ac yna llofnodi’r blwch

  • rhoi eu cyfeiriad llawn a’u manylion cyswllt. Gall hwn fod yn gyfeiriad busnes neu gyfeiriad cartref, ond dylai fod yn un y gallwn gysylltu â nhw ynddo. Gall y cydlofnodwr roi cyfeiriad e-bost ar ddarn o bapur ar wahân os yw hyn yn fwy cyfleus

  • ar gyfer cais oedolyn, ‘ardystio’ un (nid y ddau) o’ch lluniau trwy ysgrifennu ar y cefn “Tystiaf fod hwn yn wir debygrwydd o —————– , [llofnod], [Dyddiad]”

  • ar gyfer cais plentyn (o dan 16), cadarnhau eu bod wedi adnabod yr oedolyn a lofnododd y datganiad yn adran 9 y ffurflen am o leiaf 2 flynedd, ac ardystio un llun (gan roi enw llawn y plentyn) trwy ysgrifennu ar y cefn” Tystiaf fod hwn yn wir debygrwydd o —————–, [llofnod], [Dyddiad]”

  • rhoi eu blaenlythrennau wrth ymyl unrhyw gamgymeriadau y gallent eu gwneud yn adran 10.

Rhaid i’r cydlofnodwr beidio â:

  • bod yn perthyn i chi trwy enedigaeth neu briodas (gan gynnwys perthnasau yng nghyfraith neu bartneriaid aelodau o’r teulu)

  • bod mewn perthynas bersonol â chi

  • byw yn eich cyfeiriad, neu

  • gweithio i ni yn Swyddfa Basbort EM.

Beth rydym yn ei wneud gyda manylion y cydlofnodwr

Fel rhan o’n gwaith byddwn yn gwirio bod y cydlofnodwr yn ddilys. Gall hyn gynnwys gwirio eu pasbort a chofnodion eraill i gadarnhau pwy ydynt a’u proffesiwn neu gymhwyster proffesiynol.

Gwnewch yn siŵr bod eich cydlofnodwr yn gwybod y gallwn gysylltu â nhw a chynnal y gwiriadau hyn.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu ffurflen gais arall gyda chydlofnodwr gwahanol os nad ydym yn fodlon ar eich dewis o gydlofnodwr neu os na allwn gysylltu â nhw.

Galwedigaethau a dderbynnir ar gyfer cydlofnodwyr

Rhaid i’ch cydlofnodwr naill ai:

  • gweithio mewn (neu fod wedi ymddeol o) broffesiwn cydnabyddedig

  • bod yn ‘berson o fri yn eu cymuned’

Proffesiynau cydnabyddedig

Mae enghreifftiau o broffesiynau cydnabyddedig yn cynnwys:

  • cyfrifydd

  • clerc erthygledig cwmni cyfyngedig

  • asiant sicrwydd cwmni cydnabyddedig

  • swyddog banc/cymdeithas adeiladu

  • bargyfreithiwr

  • cadeirydd/cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig

  • ciropodydd

  • cynghorydd, e.e. lleol neu sir

  • gwas sifil (parhaol)

  • deintydd

  • cyfarwyddwr/rheolwr/swyddog personél cwmni cofrestredig

  • ar gyfer TAW

  • peiriannydd – gyda chymwysterau proffesiynol

  • cyfryngwr gwasanaethau ariannol, e.e. brocer stoc neu frocer yswiriant

  • swyddog y gwasanaeth tân

  • trefnydd angladdau

  • asiant yswiriant (llawn amser) gyda chwmni cydnabyddedig

  • newyddiadurwr

  • ysgrifennydd cyfreithiol – cymrawd neu aelod cyswllt o Sefydliad yr Ysgrifenyddion Cyfreithiol a Pas

  • deiliad trwydded safle neu bersonol ddilys o dan y Ddeddf Trwyddedu

  • swyddog llywodraeth leol

  • rheolwr/swyddog personél cwmni cyfyngedig

  • aelod, cyswllt neu gymrawd o gorff proffesiynol

  • Aelod Seneddol

  • Swyddog y Llynges Fasnachol

  • gweinidog crefydd gydnabyddedig – gan gynnwys Gwyddoniaeth Gristnogol

  • nyrs – RGN neu RMN

  • swyddog y lluoedd arfog

  • optegydd

  • paragyfreithiwr – paragyfreithiwr ardystiedig, paragyfreithiwr cymwys neu aelod cyswllt o Sefydliad y Paragyfreithwyr

  • person ag anrhydedd, e.e. OBE neu MBE

  • fferyllydd

  • ffotograffydd – proffesiynol

  • heddwas

  • Swyddog Swyddfa’r Post

  • llywydd/ysgrifennydd sefydliad cydnabyddedig

  • Swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth

  • gweithiwr cymdeithasol

  • cyfreithiwr

  • syrfëwr

  • athro, darlithydd

  • swyddog undeb llafur

  • asiant teithio – cymwys

  • prisiwr neu arwerthwr – cymrodyr ac aelodau cyswllt o’r gymdeithas gorfforedig

  • Swyddogion Gwarant a Phrif Is-swyddogion

Pobl nad ydynt yn cael eu derbyn

Ni all eich cydlofnodwr:

  • bod yn perthyn i chi trwy enedigaeth neu briodas (gan gynnwys yng nghyfraith neu bartneriaid aelodau o’r teulu)

  • bod mewn perthynas bersonol â chi

  • gweithio i Swyddfa Basbort EM

  • bod yn feddyg neu’n Feddyg Teulu, oni bai eu bod yn nodi eu bod yn eich adnabod yn dda (e.e. ffrind da) a’u bod yn eich adnabod yn hawdd o’ch llun

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.gov.uk/countersigning-passport-applications

Dogfennau y mae angen i chi eu hanfon atom, gan gynnwys lluniau

Mae angen y dilynol ar bob cais:

2 lun diweddar union yr un fath (sy’n cydymffurfio â’r canllawiau lluniau – gweler y canllawiau lluniau)

Eich pasbort Prydeinig diwethaf neu unrhyw basbortau dilys a gyhoeddwyd mewn gwlad arall.

Mae angen gwahanol ddogfennau ar gyfer gwahanol ymgeiswyr:

Dogfennau ar gyfer ceisiadau am basbort Prydeinig cyntaf

Dogfennau ar gyfer ceisiadau am adnewyddu, amnewid, newidiadau ac estyniadau

Dogfennau ar gyfer ymgeiswyr a anwyd neu a fabwysiadwyd dramor

Dogfennau ar gyfer ymgeiswyr y mae eu henw wedi newid

  • Anfonwch ddogfennau gwreiddiol neu amnewid atom. Oni nodir yn wahanol, nid ydym yn derbyn llungopïau neu ddogfennau sydd wedi’u lamineiddio. Os cawsoch eich geni yn y DU, rhaid i ddogfennau fod wedi cael eu cyhoeddi gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Cymru a Lloegr neu’r Alban neu Ogledd Iwerddon, neu’r gwasanaeth cofrestru lleol.

  • Os oes angen i chi anfon tystysgrif geni y DU a chawsoch eich geni ar neu ar ôl 01/01/1983:

rhaid iddi fod yn dystysgrif geni lawn. (Dyma’r un sy’n cynnwys manylion amdanoch chi a’ch rhieni.)

  • Os yw unrhyw ddogfen yr ydych yn ei darparu mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, darparwch gyfieithiad swyddogol hefyd. Rhaid i hwn gael ei lofnodi a’i stampio gan gyfieithydd sy’n aelod o sefydliad proffesiynol cydnabyddedig i brofi ei fod yn ddilys.

  • Ni allwn dderbyn dogfennau sydd wedi’u difrodi. Bydd angen i chi anfon dogfen amnewid atom.

Tystysgrifau amnewid

  • I gael copïau o dystysgrifau geni, priodas neu farwolaeth a gyhoeddwyd yng Nghymru neu Loegr, ewch i www.gov.uk/bmdcertificates

  • I amnewid dogfennau a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon, ewch i www.nidirect.gov.uk ac ar gyfer yr Alban ewch i www.nrscotland.gov.uk

  • I amnewid dogfennau a gyhoeddwyd dramor, mynnwch gyngor gan lysgenhadaeth neu is-genhadaeth berthnasol y wlad honno.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth os na fyddwch yn darparu dogfennau gwreiddiol.

Unwaith y byddwn wedi ystyried eich cais, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth o hyd.

Dogfennau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer cais pasbort Prydeinig cyntaf

Ai am basbort Prydeinig cyntaf yr ymgeisydd yw’r cais hwn?

Os ‘ydyw’, anfonwch:

  • Wedi’ch geni cyn 01/01/83 – eich tystysgrif geni/mabwysiadu

  • Wedi’ch geni ar neu ar ôl 01/01/83 – Eich tystysgrif geni ‘lawn’ neu dystysgrif mabwysiadu sy’n dangos manylion eich rhiant (nid yw’r fersiwn ‘byr’ a gyhoeddir am ddim gan y cofrestrydd yn dderbyniol).

  • Os ydych wedi brodori neu gofrestru fel dinesydd Prydeinig – eich tystysgrif frodori neu gofrestru a’r pasbort a ddefnyddiwyd gennych i ddod i mewn i’r DU ac unrhyw basbort tramor sydd gennych neu yr ydych wedi’ch cynnwys arno. Tystysgrif geni/mabwysiadu ‘llawn’ sy’n dangos manylion rhieni ymgeiswyr o dan 16 oed neu orchymyn llys yn rhoi cyfrifoldeb rhiant (os oes rhai ar waith). Fel arfer nid oes angen i ymgeiswyr 16 a hŷn roi eu tystysgrif geni/mabwysiadu i ni.

A gafodd yr ymgeisydd ei eni neu ei fabwysiadu yn y DU?

Os ‘do’, anfonwch:

Tystiolaeth o hawliad rhieni’r ymgeisydd i genedligrwydd Prydeinig ar adeg geni’r ymgeisydd Gallai hyn fod yn:

  • Rhif pasbort Prydeinig y rhieni (a ddarperir yn adran 4 y ffurflen gais). Neu

  • Tystysgrif geni lawn rhiant(rhieni)*. Neu

  • Tystysgrif cofrestru neu frodori

*Os ganwyd yr ymgeisydd cyn 01/01/83 nid oes angen manylion y rhiant ar y dystysgrif geni. Os ydych yn gwneud cais trwy’r tad bydd angen i chi hefyd ddarparu tystysgrif priodas i’r fam.

Neu

Tystiolaeth o statws mewnfudo rhiant yr ymgeisydd yn y DU ar adeg geni’r ymgeisydd. Gallai hyn fod yn:

  • Pasbort rhieni ar adeg geni’r ymgeisydd

  • Os pasbort y tad, mae angen y dystysgrif briodas rhwng mam a thad yr ymgeisydd.

  • Rhif Cais Unigryw os rhoddwyd Caniatâd Amhenodol i Aros (ILR) i rieni o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (gweler adran 8)

A gafodd yr ymgeisydd ei eni neu ei fabwysiadu dramor?

Gweler cwestiynau ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr a anwyd neu a fabwysiadwyd dramor.

A yw enw’r ymgeisydd wedi newid ers cyhoeddi’r dystysgrif geni/mabwysiadu neu gofrestru/ brodori?

Gwiriwch tabl Newid Enw i weld pa dystiolaeth sydd angen i chi ei hanfon atom.

Os yw’r cais ar gyfer plentyn, a oes unrhyw orchmynion cyfrifoldeb rhiant neu orchmynion llys ar waith?

Os ‘oes’, anfonwch:

  • Gorchymyn llys

  • Gorchmynion cyfrifoldeb rhiant neu dystiolaeth o gytundeb

Sylwer: Rhaid bod gan y sawl sy’n llofnodi adran 9 ar y ffurflen gyfrifoldeb rhiant.

A yw’r ymgeisydd neu’r sawl sy’n llofnodi adran 9 heb y gallu i lofnodi’r datganiad?

Os ‘ydyw’, yna:

  • Llythyr gan y sawl sy’n llofnodi’r ffurflen i egluro’r rhesymau pam

Dogfennau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer ceisiadau adnewyddu, amnewid, newidiadau ac ymestyn

A yw’r ymgeisydd erioed wedi dal pasbort Prydeinig?

Os ‘ydyw’, anfonwch:

  • Pasbort Prydeinig

  • Pasbort Dinesydd Tiriogaethau Tramor Prydain

  • Pasbort Gwladolyn Prydeinig neu Ddeiliad Prydeinig

  • Pasbort Prydeinig sydd wedi’i ysgrifennu â llaw (bydd angen i chi hefyd anfon eich tystysgrif geni atom a chwblhau’r ffurflen ar gyfer pasbort Prydeinig cyntaf)

  • Pasbort Prydeinig wedi’i ddifrodi (a dywedwch wrthym pam ei fod wedi’i ddifrodi yn adran 8 ar y ffurflen)

Os yw eich pasbort wedi’i golli neu wedi’i ddwyn rhowch gymaint o fanylion am y golled yn adran 3c ar y ffurflen.

A yw enw’r ymgeisydd wedi newid ers cyhoeddi ei basbort Prydeinig?

Gwiriwch tabl newid enw i weld pa dystiolaeth sydd angen i chi ei hanfon atom.

Os yw’r cais ar gyfer plentyn, a oes unrhyw orchmynion cyfrifoldeb rhiant neu orchmynion llys ar waith?

Os ‘oes’, anfonwch:

  • Gorchmynion llys

Gorchmynion cyfrifoldeb rhiant neu dystiolaeth o gytundeb

SYLWER: rhaid i’r sawl sy’n llofnodi’r datganiad ar y ffurflen fod â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

  • A yw’r ymgeisydd neu’r sawl sy’n llofnodi adran 9 heb y gallu i lofnodi’r datganiad?

Os ‘ydyw’, anfonwch:

  • Llythyr gan y sawl sy’n llofnodi’r ffurflen i egluro’r rhesymau pam

A yw statws cenedlaethol yr ymgeisydd wedi newid ers cyhoeddi ei basbort Prydeinig? e.e. a yw’r ymgeisydd wedi dod yn ddinesydd Prydeinig yn ddiweddar?

Os ‘ydyw’, anfonwch:

  • Tystysgrif cofrestru neu frodori neu dystysgrif geni neu fabwysiadu

A yw statws cenedlaethol yr ymgeisydd wedi newid o ddinesydd Tiriogaethau Tramor Prydain i ddinesydd Prydeinig? AC A anwyd yr ymgeisydd ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983?

Os ‘ydyw/do’ i’r ddau, anfonwch:

  • Dogfennau rhieni neu dystysgrif cofrestru neu frodori naill ai fel Dinesydd Tiriogaethau Tramor Prydeinig neu ddinesydd Prydeinig

  • Dogfennau neiniau a theidiau

A yw dyddiad geni neu fan geni’r ymgeisydd wedi newid?

Os ‘ydyw’, anfonwch:

  • Tystysgrif geni yn dangos eich dyddiad geni

  • Tystysgrif geni yn dangos eich man geni

A yw rhywedd yr ymgeisydd wedi newid?

Os ‘ydyw’, anfonwch:

  • Tystysgrif Cydnabod Rhywedd

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu newydd yn dangos eich rhywedd gaffaeledig

  • llythyr gan eich meddyg neu ymgynghorydd meddygol yn cadarnhau bod eich newid rhywedd yn debygol o fod yn barhaol

Dogfennau ychwanegol sydd eu hangen ar ymgeiswyr sydd wedi’u geni neu eu mabwysiadu dramor

Mae’r adran hon yn cefnogi’ch hawliad i genedligrwydd Prydeinig, darparwch y dilynol: y pasbort y daethoch i’r DU ag ef a’r dystiolaeth a ddangosir isod – Rhaid i chi anfon hyn atom

A gafodd yr ymgeisydd ei eni cyn 1 Ionawr 1983?

Os ‘do’, anfonwch:

  • Eich tystysgrif geni ‘llawn’ neu dystysgrif mabwysiadu sy’n dangos manylion eich rhiant (nid yw’r fersiwn ‘byr’ a gyhoeddir am ddim gan y cofrestrydd yn dderbyniol).

  • Tystysgrif geni neu frodori neu dystysgrif cofrestru eich tad

  • Ei dystysgrif priodas i’ch mam

A gafodd yr ymgeisydd ei eni ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983?

Os ‘do’, anfonwch:

  • Eich tystysgrif geni ‘llawn’ neu dystysgrif mabwysiadu sy’n dangos manylion eich rhiant (nid yw’r fersiwn ‘byr’ a gyhoeddir am ddim gan y cofrestrydd yn dderbyniol).

  • Tystysgrif geni neu dystysgrifau brodori neu gofrestru un o’ch rhieni

  • Os mai eich tad yw hwn, ei dystysgrif priodas i’ch mam

A gafodd yr ymgeisydd ei eni dramor ond ei fabwysiadu yn y DU cyn 1 Ionawr 1983?

Os ‘do’, anfonwch: *

  • Tystysgrif mabwysiadu lawn y plentyn

  • Tystiolaeth o hawliad rhiant mabwysiadol i genedligrwydd Prydeinig trwy ddarparu eu tystysgrif geni neu fabwysiadu, brodori neu gofrestru yn y DU

  • Os yw’r mabwysiadu’n fabwysiad ar y cyd mae angen tystiolaeth arnom o hawliad y tad mabwysiadol i genedligrwydd Prydeinig.

A fabwysiadwyd yr ymgeisydd dramor? AC: heb gael tystysgrif frodori neu gofrestru.

Os ‘do’, anfonwch:

  • Tystysgrif mabwysiadu sy’n nodi’n glir bod y mabwysiadu wedi digwydd o dan Gonfensiwn yr Hâg o dan Erthygl 17 o’r Confensiwn ar Fabwysiadu Rhwng Gwledydd

  • Hawliad un mabwysiadwr i genedligrwydd Prydeinig trwy ddarparu ei dystysgrif geni neu frodori neu dystysgrif cofrestru

  • Tystiolaeth o breswyliad arferol mabwysiadwr yn y DU (neu’r ddau fabwysiadwr yn achos mabwysiadu ar y cyd). Preswyliad arferol yw eu cartref arferol, y man lle mae ganddynt y cysylltiadau personol cryfaf.

Ynglŷn â neiniau a theidiau:

Os ganwyd rhieni’r ymgeisydd ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983, bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o hawliad neiniau a theidiau i genedligrwydd Prydeinig trwy ddarparu eu tystysgrifau geni ac, yn achos teidiau, eu tystysgrifau priodas.

Nid yw hyn yn berthnasol os:

  • mae cenedligrwydd Prydeinig rhieni’r ymgeisydd yn seiliedig ar gofrestru, brodori neu eu statws mewnfudo, neu

  • mae’r ymgeisydd wedi darparu’r rhif pasbort Prydeinig ar gyfer rhieni yn Adran 4 o’r ffurflen gais

Mae angen dogfennau ychwanegol os yw enw’r ymgeisydd wedi newid

Byddwch naill ai wedi newid eich enw ers eich geni neu wedi newid eich enw ers cael eich pasbort Prydeinig. I gael eich pasbort mewn enw newydd bydd angen i chi anfon dogfennau atom sy’n dangos y newid enw. Rhaid i bob dogfen a anfonwch atom ddangos eich enw yn llawn.

Ydych chi wedi newid eich enw trwy briodas neu bartneriaeth sifil?

Os ‘ydw’, anfonwch:

  • Tystysgrif priodas, neu

  • Tystysgrif partneriaeth sifil

Ydych chi’n mynd yn ôl at eich enw cyn priodi neu ddibriod? Neu i enw blaenorol a ddefnyddiwyd un tro?

Os ‘ydw’, anfonwch:

  • un ddogfen o [Rhestr A] (#lista)

  • datganiad wedi’i lofnodi yn dweud eich bod bellach yn defnyddio’ch enw cyn priodi at bob diben

  • eich tystysgrif geni

  • eich tystysgrif priodas yn dangos y ddau enw

  • eich archddyfarniad absoliwt (os yw’n berthnasol)

  • tystiolaeth o’r holl enwau blaenorol o Rhestr B

Ydych chi am deithio yn eich enw newydd yn fuan ar ôl priodi neu ffurfio partneriaeth sifil?

Os ‘ydw’, anfonwch:

Ydych chi’n newid yr enw ar basbort plentyn?

Os ‘ydw’, anfonwch:

  • datganiad wedi’i lofnodi gan bawb sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn yn dweud eu bod yn rhoi caniatâd i’r newid enw, neu

  • gorchymyn llys yn caniatáu newid enw

a’r ddau o’r dilynol:

Ydych chi’n newid sillafiad eich enw ychydig? e.e. Bryan i Brian, newid y drefn y mae eich enwau cyntaf yn ymddangos yn eich pasbort neu ollwng enw cyntaf?

Os ‘ydw’, anfonwch:

Naill ai:

Ydych chi’n newid eich enw yn dilyn ailbennu rhywedd?

Os ‘ydw’, anfonwch:

  • Tystysgrif cydnabod rhyw neu dystysgrif geni wedi’i hailgofrestru

Neu fel arall llythyr gan eich meddyg neu ymgynghorydd meddygol ynghyd ag:

Ydych chi’n newid eich enw am unrhyw reswm arall?

Os ‘ydw’, anfonwch:

Rhestr A – darparwch un ddogfen sy’n cadarnhau eich enw yn y defnydd presennol

  • Cofnod treth e.e. llythyr gan awdurdod treth

  • Cerdyn adnabod cenedlaethol neu gyfwerth

  • Cofnod cyflogaeth e.e. llythyr swyddogol gan eich cyflogwr

  • Fisa neu drwydded breswylio

  • Cofnod addysgol e.e. adroddiad ysgol

  • Llythyr a anfonwyd atoch gan adran llywodraeth ganolog, ranbarthol neu leol

  • Trwydded Yrru

  • Cerdyn meddygol/iechyd

  • Cerdyn pleidleisiwr

  • Cyfriflen banc

  • Tystysgrif Bedydd/Gwasanaeth Derbyn

Rhestr B – darparwch un ddogfen sy’n dangos pob newid enw sydd wedi digwydd

  • Tystysgrif priodas

  • Tystysgrif partneriaeth sifil

  • Tystysgrif cydnabod rhywedd

  • Gweithred newid enw cofrestredig

  • Gweithred newid enw heb ei chofrestru (gweithred newid enw) wedi’i llofnodi yn eich enwau hen a newydd

  • Tystysgrif frodori neu gofrestru

  • Datganiad statudol neu affidafid wedi’i lofnodi yn eich enw newydd

  • Tystysgrif geni (ar ôl ailgofrestru)

  • Tystysgrif gan Lys Arglwydd Lyon yr Alban

  • Gorchymyn/tystysgrif mabwysiadu

ffi pasbort

Mae’r ffi pasbort yn dibynnu ar y math o gais yr ydych yn ei wneud, sut yr ydych yn gwneud cais a pha mor gyflym yr hoffech gael eich pasbort. Mae’n adlewyrchu costau derbyn, cofnodi a phrosesu eich cais. Ni allwn ad-dalu’r ffi os bydd eich cais yn aflwyddiannus neu’n cael ei dynnu’n ôl. Mae hyn oherwydd y byddwn eisoes wedi gwneud llawer o waith yn ei brosesu

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd pasbort:

  • Ewch i www.gov.uk/passport-fees

  • Ffôn: 0300 222 1999

  • Ffôn testun 0300 222 0222

  • Text relay: 18001 0300 222 0000

Sut i dalu

Sut ydych chi’n gwneud cais Cerdyn debyd neu gerdyn credyd wedi’i dderbyn? Derbynnir siec neu archeb bost? Arian wedi ei dderbyn?
Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa’r Post Ie Archeb bost yn unig Ie
Post Ie – llenwch y ffurflen. Peidiwch ag anfon cardiau atom Ie – yn daladwy i ‘Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi’ Na – peidiwch ag anfon arian parod yn y post.

Sylwer: Os cawsoch eich geni ar neu cyn 2 Medi 1929 a’ch bod yn gwneud cais am basbort newydd neu basbort amnewid neu i adnewyddu pasbort presennol, bydd gennych hawl i basbort 34 tudalen am ddim wrth ddefnyddio Gwirio ac Anfon, gwasanaethau post neu ar-lein.

Talu gyda siec neu archeb bost

Ysgrifennwch rif cod bar eich cais ar gefn eich siec neu archeb bost. Mae’r rhif cod bar i’w weld ar flaen eich ffurflen gais, fodd bynnag, os byddwch yn gwneud cais drwy Gwirio ac Anfon Swyddfa’r Post bydd y swyddfa bost yn rhoi rhif cais newydd i chi ei ddefnyddio. Os yw’r siec neu’r archeb bost ar gyfer mwy nag un cais, ysgrifennwch rifau cod bar yr holl geisiadau ar ei chefn.

Perchnogaeth Pasbort

Mae’r pasbort yn parhau i fod yn eiddo i’r Goron bob amser a gellir ei ddileu ar unrhyw adeg. Os bydd y taliad yn aflwyddiannus byddwn yn canslo’r pasbort ac ni fyddwch yn gallu teithio ag ef na’i ddefnyddio at ddibenion adnabod.

Cyfweliadau Hunaniaeth

Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, neu’n debygol o ddod yn 16 oed cyn y gallwn roi eich pasbort, efallai y bydd angen i chi gael cyfweliad hunaniaeth. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gofyn i unrhyw un fynychu cyfweliad hunaniaeth. Bydd y cyfweliad yn ein helpu i gadarnhau pwy ydych a bod y cais pasbort yr ydym wedi’i wirio yn perthyn i chi mewn gwirionedd. Mae hyn yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i helpu i leihau twyll hunaniaeth.

Bydd yn ein helpu i adnabod ac atal pobl eraill rhag defnyddio eich hunaniaeth a chyflawni twyll yn eich enw. Bydd y broses hon yn cynyddu’r amser y mae’n ei gymryd i ni brosesu’ch cais. Dylech wneud cais am eich pasbort. Yna byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud a oes angen i chi gael cyfweliad hunaniaeth. Bydd ein llythyr yn esbonio sut i wneud apwyntiad, ac yn rhoi gwybodaeth bwysig fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl a beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Os oes gennych gyflwr meddyliol neu gorfforol a fyddai’n eich atal rhag cymryd rhan mewn cyfweliad hunaniaeth, rhowch wybod i ni yn adran 8 o’r ffurflen gais. Dylech hefyd ddarparu llythyr gan eich meddyg neu ymgynghorydd ysbyty yn egluro’ch cyflwr ac a yw hwn yn debygol o fod yn barhaol neu a ellir disgwyl gwelliant.

Os hoffech ddysgu rhagor am gyfweliadau hunaniaeth gallwch gael gwybod yn www.gov.uk/apply-first-adult-passport

Gwybodaeth ynghylch danfon

Sut mae’ch pasbort yn cael ei ddanfon

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich pasbort yn cael ei ddanfon trwy gludwr (ar ran Swyddfa Basbort EM) rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 6pm ar ddydd Sadwrn. Mewn ardaloedd lle mae risg isel y bydd danfoniadau’n cael eu colli, mae’n bosibl y bydd eich pasbort yn cael ei ddanfon gan Ddanfoniad Arbennig Gwarantedig y Post Brenhinol. Gallwch olrhain eich pecyn, neu ddod o hyd i wybodaeth ddanfon lawn.

Sut mae eich dogfennau ategol yn cael eu danfon

Mae’r dogfennau a roddwch i ni yn cael eu hanfon ar wahân i’ch pasbort. Gallwch ddewis cael y rhain wedi’u danfon trwy ddanfoniad diogel (am ffi) neu byddant yn cael eu dychwelyd trwy bost ail ddosbarth y Post Brenhinol. Gweler dosbarthiad diogel ar gyfer dychwelyd eich dogfennau.

Llofnodi ar gyfer eich pasbort

Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd angen i chi lofnodi ar gyfer eich pasbort ar y negesydd. Mae negeswyr yn defnyddio technoleg sy’n cofnodi cyfeiriad, amser a dyddiad y danfoniad, a bydd y negesydd yn tynnu llun o’r eiddo lle cafodd y pasbort ei ddanfon.

Cerdyn galw wedi’i adael gan y cludwr

Ni fydd y cludwr yn postio’ch pasbort mewn blwch llythyrau allanol. Byddant yn gadael cerdyn galw i chi drefnu i’w ddanfon ar ddyddiad cyfleus. Bydd y cerdyn galw yn esbonio sut i:

  • cael eich pasbort wedi’i ddanfon ar amser penodol (mae’r tâl am hyn yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw)

  • cael eich pasbort wedi’i ddanfon unrhyw bryd yn ystod diwrnod penodol (nid oes tâl am hyn)

  • casglu eich pasbort o fannau casglu diogel y cwmni dosbarthu, neu

  • casglu eich pasbort o swyddfa basbortau Os oes angen llofnod ac nad ydych gartref pan yw’r cludwr yn ceisio danfon eich pasbort, bydd yn gadael cerdyn galw i chi drefnu danfoniad ar ddyddiad cyfleus.

Os na all y cludwr gael mynediad i’ch eiddo i ddanfon eich pasbort, ni fydd yn gadael cerdyn galw a bydd yn anfon hysbysiad o ddanfoniad a fethwyd atoch drwy’r post arferol. Nid yw ein cwmni danfon diogel yn cydnabod unrhyw drefniadau ailgyfeirio post y gallech fod wedi’u gwneud gyda’r Post Brenhinol.

Danfoniadau Post Brenhinol

Os yw’ch pasbort yn cael ei ddanfon gan y Post Brenhinol, bydd angen i chi lofnodi ar ei gyfer. Os nad ydych gartref, byddant yn gadael cerdyn galw yn esbonio sut i aildrefnu danfoniad neu gasglu o’ch swyddfa ddidoli leol. Dylech wneud hynny’n gyflym, gan y bydd eich pasbort yn cael ei ddychwelyd i Swyddfa Basbort EM ar ôl 7 diwrnod. Gweler www.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Casglu pasbortau (gwasanaethau Premiwm a Chasglu Llwybr Carlam yn unig)

Gallwch drefnu i gasglu’ch pasbort o Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ystod oriau agor arferol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Os ydych am i rywun gasglu’ch pasbort i chi, hyd yn oed os ydynt wedi gwneud y cais ar eich rhan, bydd angen iddynt ddarparu:

  • prawf o’u hunaniaeth

  • llythyr wedi’i lofnodi oddi wrthych yn rhoi caniatâd iddynt gasglu’r pasbort (os yw’r pasbort ar gyfer plentyn, rhaid i’r sawl a lofnododd adran 9 o’r ffurflen gais hefyd lofnodi’r llythyr sy’n rhoi ei ganiatâd)

Llofnodi’ch pasbort newydd

Llofnodwch eich pasbort newydd cyn gynted ag y byddwch yn ei gael. Byddwch yn cael taflen wybodaeth gyda’ch pasbort newydd yn dweud wrthych am lofnodi ar y llinell ‘llofnod deiliad’ gan ddefnyddio beiro du. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/signing-your-new-passport/signing-your-new-passport

Cysylltu â ni

Os oes angen i chi gysylltu â ni bydd angen i chi roi’r rhif cod bar i ni oddi ar flaen eich ffurflen gais. Os gwnaethoch ddefnyddio Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa’r Post neu wneud cais yn un o’n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid, bydd angen i chi hefyd roi’r rhif cais sydd wedi’i brintio ar eich derbynneb.

cyngor pasbort

  • I gael cyngor neu i gael fersiwn print bras, Braille neu sain o’r llyfryn hwn, ffoniwch y llinell gyngor pasbort ar 0300 222 0000. (Codir tâl ar alwadau i’r rhif hwn ar y gyfradd arferol rydych yn ei thalu am alwadau cenedlaethol.)

  • Ffôn testun ar 0300 222 0222 neu Text Relay ar 18001 0300 222 0000 (ar gyfer cwsmeriaid sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw).

Cyngor ar ffioedd pasbort

  • Ffoniwch y llinell ffioedd pasbort ar 0300 222 1999 (gwasanaeth ffôn 24 awr).

  • Ffôn testun ar 0300 330 1111 (ar gyfer cwsmeriaid sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw)

Cyngor ar deithio

Darperir cyngor ar deithio gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. I gael gwybodaeth fanwl a chyfredol:

Mae cyngor yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pryd mae pasbort yn ddilys, gwybodaeth am fisa a gofynion i fynd i mewn i wledydd penodol, a gwybodaeth am iechyd, yswiriant ac arian pan ydych yn teithio.

Gwybodaeth arall

Amddiffyn eich gwybodaeth bersonol

Mae eich hunaniaeth a gwybodaeth bersonol yn werthfawr. Rydym yn diogelu eich preifatrwydd ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth diogelu data gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Gwelir eich gwybodaeth bersonol dim ond gan y rhai sydd â rheswm dilys dros ei gweld. Byddwn yn gwirio’r wybodaeth a roddwch i ni ag adrannau eraill y llywodraeth ac asiantaeth gwirio credyd i’n helpu i wirio pwy ydych chi. Gallwn hefyd drosglwyddo’r wybodaeth a roddwch i ni i asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU neu adrannau’r llywodraeth sy’n ymwneud ag atal twyll er mwyn helpu i atal neu ganfod lladrad hunaniaeth, twyll neu weithgaredd troseddol arall. Gallwch ddod o hyd i fanylion am y wybodaeth bersonol sydd gennym, sut rydym yn ei diogelu, i bwy rydym yn ei throsglwyddo a sut y gallwch gael copi o’r wybodaeth honno a hawliau eraill yn ein Hysbysiad Gwybodaeth Preifatrwydd (PIN) ar ein gwefan. Efallai y bydd Swyddfa Basbort EM yn cysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol neu i ofyn i chi am ein gwasanaeth yn ddiweddarach. I gael rhagor o wybodaeth neu i gael gwybod sut i optio allan ewch i www.gov.uk/government/publications/hmpo-privacy-information-notice Gallwch gael copi printiedig o’r wybodaeth trwy ysgrifennu atom yn:

Disclosure of Information Section
His Majesty’s Passport Office
Aragon Court
Northminster Road
Peterborough
PE1 1QG

Safonau gwasanaeth

Mae darparu lefel uchel o wasanaeth i’n holl gwsmeriaid yn bwysig iawn i ni. Weithiau byddwn yn gwneud camgymeriadau, neu gallai amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth effeithio ar safonau gwasanaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn ymddiheuro ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i unioni pethau. Rydym yn croesawu’ch adborth ar unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, gan gynnwys sut y gallwn wella yn y dyfodol.

Mae gennym gynllun cydraddoldeb anabledd sy’n cyflwyno nodau clir a phenodol ynghylch sut y byddwn yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl ag anableddau. Mae eich barn yn bwysig i ni, cysylltwch â ni dros y ffôn, trwy lythyr, neu e-bost os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau i’n helpu i wella.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni:

  • bydd ein staff yn gwrtais, yn gymwynasgar ac yn broffesiynol.

  • bydd y manylion yn eich pasbort (gan gynnwys y sglodyn) yn gywir a byddwn yn dychwelyd eich dogfennau ategol gan ddefnyddio’r dull danfon a ddewiswch.

  • byddwn yn rhoi esboniad clir a defnyddiol i chi os gwrthodir pasbort Prydeinig i chi oherwydd dinasyddiaeth neu resymau eraill.

Cwynion am basbortau

Cam un

Os oes gennych gŵyn am y ffordd yr ymdriniwyd â’ch cais am basbort, cysylltwch â’n Tîm Rheoli Gwasanaethau Cwsmeriaid dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu drwy ddefnyddio ein ffurflen ymholi ar-lein.

Cam dau

Os ydych wedi dilyn cam un ac yn anfodlon ar ein hymateb, gallwch ofyn i ni adolygu’ch cwyn.

Cam tri

Os ydych wedi dilyn camau un a dau ac yn dal yn anfodlon, gallwch ofyn i’ch Aelod Seneddol (AS) godi’r mater gyda’n Cyfarwyddwr Cyffredinol.

Cam pedwar

Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch ofyn i’ch AS ofyn am ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (yr Ombwdsmon). Dim ond trwy eich AS y gallwch chi wneud hyn. Rôl yr Ombwdsmon yw ymchwilio i gŵynion gan aelodau’r cyhoedd am y ffordd y mae adrannau’r llywodraeth, a’u hasiantaethau gweithredol, wedi eu trin.

Iawndal

Rydym yn sylweddoli y gall ein camgymeriadau weithiau achosi colled ariannol i chi. Yn yr achosion hyn, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau yng ngham un ac ysgrifennu llythyr atom. Gyda’r llythyr dylech anfon unrhyw ddogfennau sy’n profi eich hawliad (er enghraifft, derbynneb i ddangos taith awyren wedi’i chanslo). Fel arfer, dim ond iawndal am golled ariannol o ganlyniad i oedi yn ein gwasanaethau gwarantedig (Trac Cyflym a Phremiwm) y byddwn yn ei gynnig.

Ffôn: 0300 222 0000

Ffôn testun: 0300 222 0222

Text Relay: 18001 0300 222 0000

Ysgrifennwch at:


HM Passport Office

PO Box 767

SOUTHPORT

PR8 9PW

Ar-lein: cwblhewch ein ffurflen ymholiad ar-lein.

Pan ydych yn ysgrifennu atom, rhowch:

  • manylion llawn y broblem

  • enw a dyddiad geni’r person yr oedd y pasbort ar ei gyfer

  • y dyddiad yr anfonwyd y ffurflen gais atom

  • i ba un o’n swyddfeydd yr anfonwyd y ffurflen gais

  • rhif y cod bar o’r ffurflen gais, os oes gennych nodyn ohono

  • rhif y pasbort, os oes gennych un

  • gwybodaeth fel y gallwn gysylltu â chi (enw, cyfeiriad, cod post, rhifau ffôn dydd a nos, a chyfeiriad e-bost os oes gennych y rhain), a

  • dyddiad ac amser eich apwyntiad a chyfeirnod yr apwyntiad os ymweloch ag un o’n swyddfeydd i gael eich pasbort.

Pan fyddwn yn derbyn eich cwyn, byddwn yn ymchwilio ac yn rhoi gwybod i chi beth aeth o’i le ac yn dweud wrthych beth rydym yn ei wneud i unioni pethau. Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn, naill ai ag ateb llawn neu i roi gwybod i chi beth sy’n digwydd os nad ydym wedi gorffen ein hymchwiliad.

Rhestr wirio cyn i chi anfon eich cais i mewn

Os ydych chi’n defnyddio Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa’r Post neu’n gwneud cais yn bersonol mewn swyddfa basbort, gwnewch yn siŵr eich bod wedi

gwneud nodyn o rif y cais wedi’i argraffu ar eich derbynneb. Bydd angen y rhif hwn arnoch os bydd angen i chi gysylltu â ni. Rhaid i chi anfon:

Ffurflen gais wedi’i llenwi’n gywir

Dylid cwblhau pob adran fel y manylir yn ‘Pa fath o basbort yr ydych yn gwneud cais amdano a pha adrannau i’w cwblhau’

Mae’r ffurflen wedi’i llofnodi a’i dyddio yn adran 9, a 6 os yw’r ceisydd yn 12-15 oed.

Os yw’r cais ar gyfer plentyn, rhaid i’r oedolyn sy’n llofnodi’r datganiad fod â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

Os oes angen cydlofnodwr, maent wedi llenwi adran 10 yn llawn ac wedi’i hardystio’n gywir,

wedi llofnodi a ddyddio un llun. Gweler adran cydlofnodwr.

2 lun diweddar union yr un fath

(sy’n bodloni canllawiau lluniau)

Y dogfennau cywir

Defnyddiwch y rhestr wirio ar gyfer pa ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon atom.

Y ffi gywir

Os gwnaethoch groesi’r blwch i gael eich dogfennau ategol yn ôl trwy ddanfoniad diogel, cofiwch gynnwys hyn yng nghyfanswm eich ffi. Gweler ‘Ffioedd pasbort’.

Peidiwch ag anfon cardiau credyd neu ddebyd gyda’ch cais. Os byddwn yn derbyn cerdyn banc, bydd yn cael ei ddinistrio’n ddiogel ar ôl ei dderbyn.

Bydd eich pasbort yn cael ei ddanfon ar wahân. Gweler danfon eich pasbort