Cais am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy yng Nghymru oherwydd anabledd
Os ydych wedi cael argyfwng meddygol ar ôl 5pm, ar y chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais, sy’n golygu na allwch bleidleisio’n bersonol yn eich gorsaf bleidleisio, gallwch wneud cais am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy.
Applies to England, Scotland and Wales
Dogfennau
Manylion
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu os na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch gael rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo i fwrw eich pleidlais drosoch.
Os ydych wedi cael argyfwng meddygol ar ôl 5pm, ar y chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais, sy’n golygu na allwch bleidleisio’n bersonol yn eich gorsaf bleidleisio, gallwch wneud cais am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy.
Gallwch wneud cais hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
Cyn gwneud cais
Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod ei fod wedi’i gofrestru i bleidleisio a’i fod yn fath o etholiad y caniateir iddo bleidleisio ynddo.
Sut i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Efallai y gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng os bydd y dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy wedi mynd heibio.
Ble i anfon eich ffurflen
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.