Canllawiau

Pwysig: Ceisiadau ar gyfer adnewyddu trwyddedau gyrru lori a bws yn ystod y pandemig coronafeirws

Diweddarwyd 29 June 2021

This canllawiau was withdrawn on

On 24 March 2022 the temporary scheme allowing lorry and bus drivers to renew their licence at 45 or over without submitting the D4 medical report will end. From that date, lorry and bus drivers will need to follow the normal licence renewal process without exception.

Any licence renewal applications received without the D4 after this date will be rejected by DVLA and the application will need to be resubmitted.

1. Gwneud cais am ac adnewyddu eich trwydded lori a bws gyda ffurflen feddygol D4

Ar y cyd â Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA), mae meddygon teulu wedi cytuno i geisio cynnal apwyntiadau meddygol D4 am yrwyr sy’n gyrru am waith i sicrhau eich bod ar gael i’r diwydiant trafnidiaeth.

Os yw’ch trwydded yrru lori neu fws ar fin dod i ben yn arferol, neu os ydych wedi cael trwydded 1 flwyddyn heb adroddiad meddygol D4 sydd ar fin dod i ben:

  1. Bydd ffurflen ‘cais i adnewyddu hawl lori a bws’ wedi cael ei hanfon atoch 2 fis cyn dyddiad dod i ben y drwydded.
  2. Dylech drefnu apwyntiad am archwiliad meddygol D4 gyda meddyg neu optegydd cyn gynted eich bod yn derbyn y llythyr atgoffa.
  3. Ar ôl yr archwiliad, llenwch y ffurflen a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen cyn gynted â phosibl a chyn dyddiad dod i ben y drwydded.

Os oedd eich trwydded yrru lori neu fws wedi cael ei hestyn yn awtomatig gan 11 mis:

  1. Ni fydd ffurflen ‘cais i adnewyddu hawl lori a bws’ yn cael ei hanfon atoch cyn bod eich estyniad 11 mis yn dod i ben. Byddwch wedi derbyn llythyr atgoffa, cyn y dyddiad dod i ben gwreiddiol a oedd yn dweud wrthych p’un ai bod arnoch angen archwiliad meddygol D4 i adnewyddu eich trwydded.
  2. Os nad ydych wedi cadw’r llythyr atgoffa dylech archebu pecyn D2 a gwneud apwyntiad gyda meddyg neu optegydd am archwiliad meddygol D4 cyn gynted â phosibl ond nid yn gynharach na 2 fis cyn bod yr estyniad awtomatig i’ch trwydded i fod i ddod i ben.

Gwnewch apwyntiad am eich archwiliad meddygol D4 cyn gynted â phosibl.

Gallai eich apwyntiad fod mewn nifer o wythnosau felly mae angen ichi fod yn hyblyg ynghylch pryd y gallwch fynychu.

Cofiwch gymryd:

  • eich sbectol (pan rydych yn mynychu eich apwyntiad optegydd) os oes angen ichi ei gwisgo i yrru
  • eich trwydded yrru gyfredol a ffurflen ‘cais i adnewyddu hawl lori a bws’
  • cadarnhad o gyflogaeth neu gynnig o gyflogaeth os ydych yn gwneud cais am drwydded yrru dros dro lori neu fws neu os ydyw wedi dod i ben yn barod

2. Cynllun dros dro am drwyddedau gyrru lori a bws 1 flwyddyn (heb D4)

Mae’r cynllun dros dro, a sefydlwyd oherwydd effaith y coronafeirws ar feddygon y GIG, i gyhoeddi trwyddedau gyrru lori a bws 1 flwyddyn i yrwyr 45 oed a throsodd sydd heb D4 yn parhau os na allwch gael archwiliad meddygol D4.

Mae’r cynllun hawlildio D4 dim ond yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os yw’ch trwydded yrru yn dod i ben ar ôl 1 Ionawr 2020
  • na chyhoeddwyd trwydded yrru 1 flwyddyn ichi yn barod yn y cynllun hwn

Os yw’ch trwydded yn dangos bod eich hawl i yrru loriau a bysiau wedi dod i ben rhwng 1 Awst a 31 Rhagfyr 2020, a chafodd ei hestyn yn awtomatig am 11 mis, ni allwch wneud cais i’r cynllun hawlildio D4 am drwydded 1 flwyddyn heb D4. Rhaid ichi adnewyddu, gyda D4, pan mae’ch estyniad 11 mis i fod i ddod i ben.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylech wneud cais i DVLA heb yr adroddiad meddygol D4.

3. Gwybodaeth bellach

Mae’r canllaw BMA i feddygon teulu i gynnal archwiliadau meddygol D4 am yrwyr sy’n gyrru am waith yn eithrio adnewyddiadau trwydded yrru car gyda hawliau lori fach (C1, C1E (107)) a bysiau mini (D1 (101) a D1 (101, 119)) a gyhoeddwyd cyn 1997 ble defnyddir yr hawliau hyn i yrru cerbydau hamdden mawr yn hytrach nag i weithio yn y sector trafnidiaeth. Efallai y bydd apwyntiadau D4 ar gael wrth ddarparwyr sector preifat ond gall y rhain hefyd fod yn destun oedi.

Efallai y byddwch wedi derbyn llythyr atgoffa yn gofyn ichi ddarparu ffurflen feddygol D4. Os na allwch gael apwyntiad meddygol D4 cyn ichi adnewyddu, gallwch dal wneud cais am drwydded yrru car ac ail-ymgeisio am yr hawliau uchod ar ôl ichi gael eich archwiliad meddygol D4 a bod eich ffurflen gais wedi cael ei llenwi.