Apelio yn erbyn penderfyniad am hawlio iawndal mewn perthynas â brechlynnau (SSCS7)
Defnyddiwch y ffurflen hon i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (BSA y GIG) ar hawliad o dan y cynllun talu iawndal mewn perthynas â brechlynnau.
Dogfennau
Manylion
I apelio yn erbyn penderfyniad BSA y GIG, rhaid i chi wneud cais i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) am ddyfarniad annibynnol ynghylch a yw’r penderfyniad yn gywir ai peidio. Gall tribiwnlys ystyried eich apêl.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau yn y ddogfen ‘Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (SSCS7A)’.
I wneud eich apêl, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen SSCS7 a’i hanfon i’r ganolfan apeliadau SSCS briodol. Mae’r cyfeiriadau ar gyfer y canolfannau apêl i’w gweld ar y ffurflen.
Ar ôl i’r ganolfan apeliadau gael eich ffurflen, byddant yn dweud wrth BSA y GIG eich bod wedi apelio yn erbyn eu penderfyniad. Bydd BSA y GIG yn anfon gwybodaeth atoch chi a’r tribiwnlys am y rhesymau dros eu penderfyniad mewn ymateb i’ch apêl.
Yna, bydd y tribiwnlys yn trefnu’r gwrandawiad ar gyfer eich apêl (os ydych wedi dewis mynychu’r gwrandawiad). Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar eich hawl i gael budd-daliadau.