Apelio yn erbyn penderfyniad y llys mewn achosion sifil a theulu (EX340)
Updated 10 April 2024
Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Bydd yr arweiniad hwn yn help ichi os ydych eisiau apelio yn erbyn penderfyniad y llys mewn apeliadau sifil a theulu. Bydd yn dweud wrthych:
- beth i’w ystyried cyn ichi apelio
- beth sydd ei angen arnoch i apelio
- beth i’w ddisgwyl gan y broses apelio
Mae rhagor o wybodaeth am apelio yn nodiadau canllaw ffurflenni hysbysiad apelydd N161, N161A, N164, FP161 neu FP161A.
Gallwch gael copi o’r ffurflenni a’r nodiadau canllaw yn (gan gynnwys ar gyfer y Llys Apêl).
Arweiniad yn unig yw hwn, efallai y byddwch eisiau ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n seiliedig ar yr arweiniad hwn.
Os oes arnoch angen yr arweiniad hwn mewn fformat arall, er enghraifft mewn print bras, cysylltwch â’ch llys lleol.
Termau a ddefnyddir yn yr arweiniad hwn
Gelwir y llys lle penderfynwyd ar eich achos yn ‘llys is’.
Gelwir y llys rydych yn apelio iddo yn ‘llys apêl’.
Os mai chi sydd eisiau apelio, chi yw’r ‘apelydd’, a gelwir y parti (unigolyn) arall yn ‘atebydd’.
Pryd allwch chi apelio yn erbyn canlyniad achos
Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad llys is dim ond am eich bod yn credu na ‘chafodd y barnwr bethau’n iawn’. Gallwch ond apelio os oes gennych seiliau cyfreithiol priodol - er enghraifft, os gallwch ddangos bod y penderfyniad yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad difrifol, neu oherwydd na chafodd y weithdrefn ei dilyn yn iawn.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich seiliau dros apelio, dylech geisio cyngor gan gynrychiolydd cyfreithiol, canolfan y gyfraith neu asiantaeth gynghori.
Cyn i chi apelio
Gall apelio fod yn broses gostus a hir. Dyma rai o’r pethau y mae angen ichi eu hystyried cyn cychwyn.
Efallai y bydd angen ichi gael caniatâd i apelio
Gan amlaf, bydd rhaid ichi ofyn am ganiatâd barnwr i apelio (oni bai eich bod eisoes wedi cael caniatâd yn eich gwrandawiad). Dim ond os bydd y barnwr yn credu bod gwir obaith i’r apêl lwyddo y bydd yn caniatáu ichi apelio, neu mewn achos teulu, bod yna reswm dilys arall i wrando eich apêl.
Bydd angen ichi weithredu’n gyflym
Unwaith y bydd y llys wedi gwneud ei benderfyniad, dim ond cyfnod penodol o amser fydd gennych i apelio.
Rhaid ichi ffeilio eich hysbysiad apelydd:
- o fewn y terfyn amser a bennwyd gan y barnwr yr ydych chi’n apelio yn erbyn ei (g)orchymyn
- mewn achos teulu pan na fydd y barnwr wedi pennu cyfyngiad amser ond bod yr apêl yn erbyn penderfyniad rheoli achos neu orchymyn gofal interim o dan Adran 38 (1) Deddf Plant 1989, o fewn 7 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad yr ydych eisiau apelio yn ei erbyn gael ei wneud
- os na fydd y barnwr wedi pennu cyfyngiad amser, o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad yr ydych eisiau apelio yn ei erbyn gael ei wneud
Efallai y bydd angen ichi gael cyngor cyfreithiol
Ni all staff y llys roi cyngor cyfreithiol i chi, er enghraifft a ddylech chi apelio, neu a fydd eich apêl yn llwyddiannus ai peidio. Mae llwyddiant eich apêl yn debygol o ddibynnu ar bwyntiau cyfreithiol a gweithdrefnol manwl, felly fe’ch cynghorir yn gryf i gael cyngor gan gynrychiolydd cyfreithiol.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor cyfreithiol am ddim gan ganolfan y gyfraith neu Cyngor ar Bopeth.
Efallai y bydd rhaid ichi dalu ffi
Fel arfer, bydd rhaid ichi dalu ffi llys pan fyddwch yn gwneud apêl. Mae rhestr o ffioedd y llys yn nhaflen EX50 - Ffioedd y Llys Sifil a’r Llys Teulu.
Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai cewch ostyngiad os nad oes gennych lawer o gynilion a buddsoddiadau, os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel. Weithiau gelwir hyn yn ‘dileu ffi’.
Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd llys a thribiwnlys ar-lein yn neu drwy lenwi ffurflen ‘EX160A – Gwneud cais am help i dalu ffioedd’ a’r cyfarwyddyd ‘EX160A – Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd’.
Mae’n bosib y dyfernir costau yn eich erbyn
Os byddwch yn colli eich apêl, mae’n bosib y dywedir wrthych am dalu costau’r unigolyn arall, gan gynnwys costau eu cynrychiolydd cyfreithiol, os oes ganddynt un.
Oes angen imi gael caniatâd i apelio?
Ni fydd angen caniatâd arnoch i apelio yn erbyn penderfyniad ynad lleyg yn y Llys Teulu. Bydd angen ichi ofyn am ganiatâd i apelio:
- os na wnaethoch ofyn am ganiatâd yn ystod eich gwrandawiad
- os gwnaethoch ofyn am ganiatâd ond gwrthodwyd eich cais
Yn y ddau achos, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan y llys apêl
Efallai y bydd rhaid ichi hefyd ofyn am ganiatâd y llys apêl os oedd eich achos yn achos hawliadau bychain a bod y penderfyniad wedi’i wneud yn eich absenoldeb oherwydd ni wnaethoch fynychu’r gwrandawiad.
Mewn achos hawliadau bychain, os na wnaethoch fynychu’r gwrandawiad, ac os na wnaethoch roi gwybod i’r llys na fyddech yn bresennol, gall y parti arall wneud cais i’r dyfarniad gael ei roi o’r naill du ac i beidio â chaniatáu apêl. Os ydych wedi rhoi gwybod i’r llys na fyddwch yn mynychu ac nid ydych yn cytuno â’r penderfyniad, yna mae’n apêl.
Dim ond os bydd y barnwr yn credu bod gwir obaith i’r apêl lwyddo y bydd yn caniatáu ichi apelio, neu mewn achos teulu, bod yna reswm dilys arall i wrando eich apêl.
Sut ydw i’n gwneud cais am ganiatâd i apelio?
Os nad ydych wedi cael caniatâd i apelio gan y llys is, mae’n rhaid ichi wneud eich cais am ganiatâd i apelio yn yr hysbysiad apelydd. Gallwch wneud y cais am ganiatâd i apelio a’r apêl ar yr un pryd gan ddefnyddio’r un ffurflen.
Yr hysbysiad apelydd fydd naill ai ffurflen N161, N164 neu FP161 a bydd yn dibynnu ar y math o achos ac i ba lys yr ydych yn gwneud eich apêl.
Mae yna nodiadau canllaw wedi’u paratoi ar gyfer pob ffurflen, a dylech eu darllen yn ofalus cyn dechrau. Mae’r nodiadau’n dweud wrthych sut i lenwi’r ffurflen a pha ddogfennau y mae’n rhaid ichi eu darparu gyda’ch cais.
Gallwch gael copi o’r ffurflenni a’r nodiadau canllaw yn.
Sut ydw i’n cychwyn apêl?
Os ydych wedi cael caniatâd ac yn barod i gychwyn eich apêl, rhaid ichi lenwi’r hysbysiad apelydd (ac eithrio’r adrannau ynghylch caniatâd) a’i anfon gyda’r ffi briodol i’r llys apêl. Gelwir hyn yn ‘ffeilio apêl’.
Rhaid ichi gynnwys digon o gopïau o’r hysbysiad a’r dogfennau cefnogi fel y’u rhestrir yn y nodiadau canllaw.
Ni allwch gyflwyno tystiolaeth newydd yn eich cais heb ganiatâd y llys apêl. Tystiolaeth newydd yw tystiolaeth na chafodd ei defnyddio yn eich gwrandawiad, neu dystiolaeth sydd wedi dod i’r fei ers hynny.
Pa bryd y mae’n rhaid imi ffeilio fy apêl?
Fel rheol, nodir erbyn pryd y bydd rhaid ichi ffeilio’ch apêl ar y gorchymyn a gawsoch yn rhoi caniatâd ichi apelio. Os nad oes dyddiad wedi’i bennu, rhaid ichi ffeilio eich hysbysiad apelydd o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad pan gafodd y penderfyniad yn eich achos ei wneud.
Os byddwch yn ffeilio hysbysiad apelydd anghyflawn a bod angen ichi ei newid ar ôl ei ffeilio, bydd angen ichi wneud cais i’r llys apêl er mwyn gwneud hyn.
I ba lys y gallwch wneud apêl
Mae hyn yn dibynnu ar y llys a lefel y barnwr a wnaeth y penderfyniad yn eich achos a’r math o orchymyn a wnaeth y barnwr, fel yr eglurir isod.
Achosion sifil
Y rheol gyffredinol yw y bydd apêl yn cael ei gwrando gan farnwr ar y lefel nesaf. Er enghraifft bydd apêl yn erbyn penderfyniad Barnwr Rhanbarth yn y Llys Sirol yn cael ei gwrando gan Farnwr Cylchdaith yn y Llys Sirol, a bydd apêl yn erbyn penderfyniad Barnwr Uchel Lys yn cael ei gwrando gan y Llys Apêl.
Achosion sifil, ac eithrio achosion ansolfedd
Y Llys Sirol
Barnwr y penderfyniad gwreiddiol | Penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad, ac eithrio achos di-ansolfedd dan y Deddfau Cwmnïau | Barnwr Cylchdaith yn y Llys Sirol |
Barnwr Rhanbarth | Penderfyniad mewn achos di-ansolfedd dan y Deddfau Cwmnïau | Yr Uchel Lys |
Barnwr Cylchdaith | Unrhyw benderfyniad | Yr Uchel Lys |
Yr Uchel Lys
Barnwr y penderfyniad gwreiddiol | Penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Meistr | Unrhyw benderfyniad | Yr Uchel Lys |
Barnwr Uchel Lys | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Llys Mentrau Eiddo Deallusol (IPEC)
Barnwr y penderfyniad gwreiddiol | Penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Mentrau yn yr IPEC |
Barnwr Mentrau | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Achosion sifil, achosion ansolfedd
Y Llys Sirol
Barnwr y penderfyniad gwreiddiol | Penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Ansolfedd Unigol | Barnwr Uchel Lys |
Barnwr Rhanbarth | Ansolfedd Corfforaethol | Barnwr Uchel Lys neu Gofrestrydd |
Yr Uchel Lys
Barnwr y penderfyniad gwreiddiol | Penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Meistr, Cofrestrydd neu Farnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Uchel Lys |
Barnwr Uchel Lys | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Achosion teulu ym Mhrif Gofrestrfa’r Adran Deulu, gan gynnwys achosion dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 ac achosion dan Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.
Barnwr y penderfyniad gwreiddiol | Penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn | Gwrandewir gan |
---|---|---|
Barnwr Rhanbarth | Unrhyw benderfyniad | Barnwr Uchel Lys (Yr Adran Deulu) |
Barnwr Uchel Lys (Yr Adran Deulu) | Unrhyw benderfyniad | Y Llys Apêl |
Ble i ffeilio apeliadau teulu
Apeliwch i Farnwr Cylchdaith sy’n eistedd yn y Llys Teulu os mai:
- un neu fwy o ynadon lleyg yn eistedd yn y Llys Teulu wnaeth y penderfyniad
- Barnwr ar lefel Barnwr Rhanbarth yn eistedd yn y Llys Teulu wnaeth y penderfyniad
Apeliwch i Farnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn y Llys Teulu os mai:
- Barnwr Rhanbarth neu Uwch Farnwr Rhanbarth yn yr Adran Deulu yn eistedd yn y
Llys Teulu yn gwrando achosion ariannol wnaeth y penderfyniad
Apeliwch i Farnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn yr Uchel Lys os mai:
- Unrhyw un o’r canlynol yn eistedd yn yr Uchel Lys wnaeth y penderfyniad:
- Barnwr Rhanbarth yr Uchel Lys
- Dirprwy Farnwr Rhanbarth
- Uwch Farnwr Rhanbarth yr Adran Deulu
- Barnwr Rhanbarth yr Adran Deulu
- Barnwr Costau
- Unigolyn a benodwyd i weithredu fel dirprwy i Farnwr Costau
- Barnwr Cylchdaith neu Gofiadur sy’n eistedd yn y Llys Teulu, ac eithrio pan fo’r esiamplau isod yn berthnasol
Apeliwch i’r Llys Apêl os mai unrhyw un o’r canlynol wnaeth y penderfyniad:
- Farnwr Cylchdaith neu Gofiadur sy’n eistedd yn y Llys Teulu pan fydd yr apêl yn deillio o:
(a) benderfyniad neu orchymyn mewn achos o dan:
(i) Rhan 4 neu 5 o, neu baragraff 19(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf Plant 1989
(ii) Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
(b) penderfyniad neu orchymyn mewn perthynas ag achos dirmyg llys, lle gwnaethpwyd y penderfyniad neu’r gorchymyn hwnnw mewn, neu mewn cysylltiad â math o achos a gyfeirir ato yn (a) uchod
(c) penderfyniad neu orchymyn a wnaed yn dilyn apêl i’r Llys Teulu (‘ail apêl’) - Barnwr ar lefel Barnwr Uchel Lys
- Unrhyw farnwr arall sy’n eistedd yn y Llys Teulu nas cyfeiriwyd ato/i uchod
- Barnwr Uchel Lys sy’n eistedd yn yr Uchel Lys (gan gynnwys unigolyn sy’n gweithredu fel barnwr yn unol ag adran 9(1) neu (4) Deddf Uwchlysoedd 1981
Apeliwch i Farnwr Uchel Lys os mai:
- Barnwr Costau wnaeth y penderfyniad
Ail Apeliadau
Rhaid cyflwyno apêl sy’n deillio o benderfyniad a wnaed yn y Llys Sirol, y Llys Teulu neu’r Uchel Lys a gafodd ei wneud ei hun yn dilyn apêl, i’r Llys Apêl.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl ichi ffeilio hysbysiad apelydd, bydd y llys yn anfon copïau o’r holl ddogfennau rydych wedi’u ffeilio at yr atebydd. Os ydych eisiau anfon copïau at yr atebydd eich hun, rhaid ichi ddweud wrth y llys. Bydd staff y llys yn anfon copïau wedi’u stampio â sêl y llys atoch, a rhaid ichi anfon y rheini at yr atebydd o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad pan wnaethoch ffeilio eich hysbysiad apelydd.
Bydd beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar a ydych yn ceisio caniatâd i apelio, ac ar ganlyniad unrhyw gais o’r fath.
Rwyf wedi cael caniatâd yn barod neu nid oes angen caniatâd arna’i
Bydd y llys yn anfon hysbysiad atoch yn dweud wrthych:
- pa bryd y gwrandewir eich apêl neu yn ystod pa gyfnod (a elwir yn ‘ffenestr restru’) y mae’n debygol o gael ei gwrando
- beth y mae angen ichi ei baratoi ar gyfer gwrandawiad yr apêl (a elwir yn ‘gyfarwyddiadau’)
Rwyf wedi gwneud cais am ganiatâd i apelio
Trosglwyddir eich cais i farnwr, a fydd yn ei ystyried. Fel rheol, bydd hyn yn digwydd heb ichi orfod mynychu gwrandawiad llafar. Bydd y llys yn anfon gorchymyn atoch yn dweud beth yw penderfyniad y barnwr.
Rhoddwyd caniatâd
Mae’n bosib y cewch ganiatâd llawn i apelio neu ganiatâd gyda chyfyngiadau. Bydd y gorchymyn sy’n rhoi caniatâd ichi yn datgan pa bethau y cewch eu codi yn eich apêl a pha bethau na chewch eu codi. Os nad ydych yn cytuno â hyn, cewch wneud cais i’r llys apêl am amrywio telerau’r caniatâd. Rhaid ichi wneud hynny cyn gynted â phosibl a rhaid ichi roi gwybod i’r atebydd eich bod yn gwneud hynny. Fel rheol, ymdrinnir â’r cais hwn ar ddechrau gwrandawiad yr apêl.
Gwrthodwyd caniatâd
Os yw’r barnwr wedi ystyried eich caniatâd i apelio ar bapur, ac wedi ei wrthod, ac yn credu na ellir cyfiawnhau eich apêl mewn unrhyw ffordd, efallai y bydd yn gorchymyn na allwch ofyn i’w benderfyniad gael ei ailystyried mewn gwrandawiad llafar. Os na fydd y barnwr yn gwneud y gorchymyn hwn, gallwch ofyn iddo/iddi ailystyried y penderfyniad mewn gwrandawiad llafar.
I wneud hyn, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 7 diwrnod i chi gael yr hysbysiad gwrthod ac mae’n rhaid i chi anfon copi o’ch cais at yr atebydd. Os na fyddwch yn gwneud cais a fewn 7 diwrnod, bydd y penderfyniad gwrthod yn derfynol.
Os cafodd y cais am ganiatâd ei wrthod gan y Llys Apêl ar bapur, yna ni allwch wneud cais arall.
Os caniateir ichi gael gwrandawiad llafar a bod y caniatâd yn cael ei wrthod eto, nid oes modd apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Ceisiadau eraill
Os oes angen gwrandawiad ar wahân i ymdrin ag unrhyw geisiadau eraill rydych wedi’u gwneud gyda’ch hysbysiad apelydd - er enghraifft, cais am ragor o amser i gasglu’r dogfennau y mae eu hangen arnoch – bydd y llys yn rhoi gwybod ichi am amser a dyddiad y gwrandawiad hwn. Fel arall, bydd y llys yn penderfynu ynghylch y materion hyn ac yn rhoi gwybod ichi am y canlyniad.
A all yr atebydd apelio?
Gall. Efallai y bydd yr atebydd yn anghytuno â phenderfyniad y llys is, neu efallai y bydd eisiau i’r penderfyniad hwnnw gael ei gadarnhau ond am resymau gwahanol i’r rhesymau a roddwyd gan y barnwr. Bydd angen caniatâd i apelio ar yr atebydd, yn union fel y mae angen caniatâd ar yr apelydd. Rhaid iddo/i lenwi hysbysiad atebydd, sy’n debyg i’r hysbysiad apelydd, a darparu dogfennau cefnogi, a rhaid iddo/i anfon y rheini atoch chi hefyd.
Fel rheol, bydd y llys yn gwrando apêl yr atebydd ar yr un pryd ag y bydd yn gwrando eich apêl chi.
Canolfannau apeliadau a gwrandawiadau
Mae’r tablau canlynol yn nodi’r lleoliadau y mae apêl yn mynd gerbron Barnwr Uchel Lys yn dilyn penderfyniad gan y Llys Sirol neu Farnwr Rhanbarth Uchel Lys.
Cylchdaith Canolbarth Lloegr
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Canolfan Cyfiawnder Cyfun Birmingham | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Birmingham |
Boston | Lincoln |
Burton-upon-Trent | Nottingham |
Chesterfield | Nottingham |
Coventry | Coventry |
Derby | Nottingham |
Dudley | Walsall |
Henffordd | Caerwrangon |
Kettering | Northampton |
Kidderminster | Caerwrangon |
Caerlŷr | Caerlŷr |
Lincoln | Lincoln |
Mansfield | Nottingham |
Northampton | Northampton |
Nottingham | Nottingham |
Nuneaton | Coventry |
Redditch | Caerwrangon |
Stafford | Stoke-on-Trent |
Stoke-on-Trent | Stoke-on-Trent |
Telford | Telford |
Walsall | Walsall |
Warwig | Coventry |
Wolverhampton | Walsall |
Caerwrangon | Caerwrangon |
Cylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Barnsley | Sheffield |
Bradford | Bradford |
Darlington | Teesside |
Doncaster | Sheffield |
Dyrham | Newcastle-upon-Tyne |
Gateshead | Newcastle-upon-Tyne |
Grimsby | Kingston-upon-Hull |
Halifax | Bradford |
Harrogate | Leeds |
Hartlepool | Teesside |
Huddersfield | Bradford |
Kingston-upon-Hull | Kingston-upon-Hull |
Leeds | Leeds |
Newcastle-upon-Tyne | Newcastle-upon-Tyne |
North Shields | Newcastle-upon-Tyne |
Rotherham | Sheffield |
Scarborough | Leeds |
Scunthorpe | Kingston-upon-Hull |
Sheffield | Sheffield |
Skipton | Bradford |
South Shields | Newcastle-upon-Tyne |
Sunderland | Newcastle-upon-Tyne |
Teesside | Teesside |
Wakefield | Leeds |
Caerefrog | Leeds |
Cylchdaith Gogledd Orllewin Lloegr
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Barrow-in-Furness | Caerliwelydd |
Penbedw | Lerpwl |
Blackburn | Preston |
Blackpool | Preston |
Bolton | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Manceinion |
Burnley | Preston |
Bury | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Manceinion |
Caerliwelydd | Caerliwelydd |
Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caer | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caer |
Crewe | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caer |
Kendal | Caerliwelydd |
Caerhirfryn | Preston |
Lerpwl | Lerpwl |
Canolfan Cyfiawnder Cyfun Manceinion | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Manceinion |
Oldham | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Manceinion |
Preston | Preston |
St Helens | Lerpwl |
Stockport Canolfan Cyfiawnder Cyfun Manceinion | Warrington Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caer |
Gorllewin Cymbria | Caerliwelydd |
Wigan | Lerpwl |
Cylchdaith Cymru
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Aberystwyth | Abertawe |
Y Coed Duon | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Brycheiniog | Abertawe |
Caernarfon | Wrecsam |
Caerdydd | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Caerfyrddin | Abertawe |
Conwy a Colwyn | Wrecsam |
Hwlffordd | Abertawe |
Llanelli | Abertawe |
Llangefni | Wrecsam |
Merthyr Tudful | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Yr Wyddgrug | Wrecsam |
Casnewydd (Gwent) | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Pontypridd | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Caerdydd |
Port Talbot | Abertawe |
Y Rhyl | Wrecsam |
Abertawe | Abertawe |
Y Trallwng a’r Drenewydd | Wrecsam |
Cylchdaith De Orllewin Lloegr
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Aldershot a Farnham | Caer-wynt |
Barnstaple | Barnstaple |
Basingstoke | Caer-wynt |
Caerfaddon | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Bryste |
Bodmin | Bodmin |
Bournemouth | Bournemouth |
Bryste Canolfan Cyfiawnder Cyfun Bryste | Cheltenham Canolfan Cyfiawnder Cyfun Bryste |
Chippenham | Caer-wynt |
Caerwysg | Caerwysg |
Caerloyw | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Bryste |
Newport (Ynys Wyth) | Caer-wynt |
Plymouth | Plymouth |
Portsmouth | Portsmouth |
Caersallog | Caer-wynt |
Southampton | Southampton |
Swindon | Swindon |
Taunton | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Bryste |
Torquay a Newton Abbot | Torquay a Newton Abbot |
Trowbridge | Trowbridge |
Truro | Truro |
Weston-Super-Mare | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Bryste |
Weymouth a Dorchester | Caer-wynt |
Caer-wynt | Caer-wynt |
Yeovil | Bryste |
Cylchdaith De Ddwyrain Lloegr
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Banbri | Rhydychen |
Barnet | Barnet |
Basildon | Southend |
Rhydwely | Luton |
Bow | Bow |
Brentford | Brentford |
Brighton | Brighton |
Bromley | Bromley |
Bury St Edmunds | Caergrawnt |
Caergrawnt | Caergrawnt |
Caergaint | Caergaint |
Canolfan Cyfiawnder Cyfun Canol Llundain | Canolfan Cyfiawnder Cyfun Canol Llundain |
Chelmsford | Southend |
Chichester | Chichester |
Clerkenwell a Shoreditch | Clerkenwell a Shoreditch |
Colchester | Southend |
Croydon | Croydon |
Dartford | Dartford |
Eastbourne | Eastbourne |
Edmonton | Edmonton |
Guildford | Guildford |
Hastings | Hastings |
Hertford | Luton |
High Wycombe | Rhydychen |
Horsham | Horsham |
Hove | Hove |
Ipswich | Norwich |
Kingston-upon-Thames | Kingston-upon-Thames |
King’s Lynn | Norwich |
Lambeth | Lambeth |
Lewes | Lewes |
Luton | Luton |
Maidstone | Maidstone |
Maer a Dinas | Maer a Dinas |
Medway | Medway |
Milton Keynes | Rhydychen |
Norwich | Norwich |
Rhydychen | Rhydychen |
Trebedr | Caergrawnt |
Reading | Rhydychen |
Reigate | Reigate |
Romford | Romford |
Slough | Rhydychen |
Southend | Southend |
St Albans | Luton |
Staines | Staines |
Thanet | Thanet |
Tunbridge Wells | Tunbridge Wells |
Uxbridge | Uxbridge |
Wandsworth | Wandsworth |
Watford | Watford |
Willesden | Willesden |
Woolwich | Woolwich |
Worthing | Worthing |
Cylchdaith Llundain
Llys | Canolfan Apeliadau |
---|---|
Llysoedd Barn Brenhinol |
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth gyffredinol am ddatrys anghydfod cyfreithiol, ewch i www.gov.uk/browse/justice/courts-sentencing-tribunals
Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim yn un o ganolfannau’r gyfraith neu gan ganolfan Cyngor ar Bopeth
I ddarllen ein taflenni eraill yn y gyfres hon, ewch i.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth chwilio am lys neu dribiwnlys i ddod o hyd i fanylion cyswllt ein holl lysoedd
Pobl sydd ag anabledd
Os oes gennych anabledd sy’n golygu bod mynd i’r llys neu gyfathrebu’n anodd, neu os ydych angen unrhyw wybodaeth mewn fformat gwahanol, e.e. print mawr, cysylltwch â’r llys perthnasol a fydd yn gallu eich helpu. Mae manylion cyswllt ein holl lysoedd ar-lein
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn un o asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, a thribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n darparu system gyfiawnder deg, effeithlon ac effeithiol a weithredir gan farnwriaeth annibynnol.
Rydym yn anelu at sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad prydlon at gyfiawnder yn unol â’u gwahanol anghenion, boed yn ddioddefwyr trosedd neu’n dystion, yn ddiffynyddion a gyhuddwyd o gyflawni trosedd, yn ddefnyddwyr mewn dyled, yn blant mewn perygl o niwed, yn fusnesau sydd mewn anghydfodau masnachol neu’n unigolion sy’n mynnu eu hawliau cyflogaeth neu’n herio penderfyniadau cyrff y llywodraeth.