Guidance

Cymorth integreiddio 2023 i 2024 (accessible version)

Updated 25 April 2024

Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP) a Chynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) ynghyd â Gwladolion Prydeinig cymwys

Cymorth integreiddio

Cyfeirnod Grant: 392

Blwyddyn Ariannol 2023-2024

Resettlement Operations
Lunar House
Croydon
CR9 2BY

Dyddiad dyroddi 20 Gorffennaf 2023

Fersiwn 1.0.

© Hawlfraint y Goron 2021

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored f3.0 ac eithrio lle nodwyd fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennu at Information Policy Team, The National Archives, Kew, Llundain TW9 4DU, neu anfonwch e-bost i: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Lle’r ydym wedi nodi bod gwybodaeth o dan hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint cysylltiedig.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/government/publications

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn atom ni yn: ResettlementLAPaymentsTeam@homeoffice.gov.uk

Telerau ac amodau cyllido

1. Diffiniadau

1.1. Ystyr “Oedolyn” at ddibenion y ddarpariaeth iaith Saesneg yw Buddiolwr sy’n 19 blwydd oed neu’n hŷn, neu sy’n troi’n 19 oed o fewn y deuddeg (12) Mis cyntaf ar ôl cyrraedd yn y DU.

1.2. Ystyr “Atodiad” yw’r atodiadau i’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.3. Ystyr “Awdurdod” yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn gweithredu drwy Weithrediadau Adsefydlu’r Swyddfa Gartref ar ran y Goron.

1.4. Ystyr “Buddiolwr” yw: (i) y rheini sydd wedi’u hadsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a’u dibynyddion uniongyrchol (yn cynnwys aelodau o deuluoedd Gwladolion Prydeinig) o dan Lwybr 1; a (ii) y rheini sydd wedi’u hadleoli o dan gynllun Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP) a’u dibynyddion uniongyrchol; a (iii) Gwladolion Prydeinig cymwys, (iv) yn ogystal â hyn mae’r ACRS wedi’i ehangu i gynnwys y rheini sydd wedi’u cydnabod yn Ffoaduriaid gan yr UNHCR a’u hadsefydlu yn y DU o dan Lwybr 2 yr ACRS, a (v) y rheini sydd wedi’u hadleoli o dan Lwybr 3 yr ACRS.

Y diffiniad o Fuddiolwr yw pob oedolyn, plentyn a baban sy’n cyrraedd yn y DU.

1.5. Ystyr “Llawlyfr Brandio” yw Llawlyfr Brandio Llywodraeth EF Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ‘Funded by UK Government’[footnote 1] a gyhoeddwyd gyntaf gan Swyddfa’r Cabinet ym mis Tachwedd 2022, yn cynnwys unrhyw ddiweddariadau dilynol a wneir o bryd i’w gilydd;

1.6. Ystyr “Gwladolyn Prydeinig” yw person sy’n dal un o’r chwe math o genedligrwydd Prydeinig. Mae’r chwe math wedi’u hamlinellu yma: https://www.gov.uk/types-of-british-nationality

1.7. Ystyr “Achos o Ddiddordeb” yw bod Buddiolwr:

  • Wedi cael ei arestio am drosedd yn ymwneud â thrais; arfau; terfysgaeth/eithafiaeth; troseddau rhywiol (troseddoldeb).

  • Wedi dioddef trosedd gasineb yn ei erbyn (troseddau casineb).

  • Wedi bod yn destun atgyfeiriad i PREVENT (atgyfeiriad PREVENT).

  • Wedi dioddef (neu wedi canfod iddo ddioddef) effaith negyddol ddifrifol oherwydd gweithred neu anweithred gan y Swyddfa Gartref a/neu awdurdodau lleol/partneriaid cyflenwi (methiant canfyddedig).

  • Wedi bod â rhan mewn unrhyw ddigwyddiad arall y mae’r cyfryngau’n ymwybodol ohono (sylw dichonol yn y cyfryngau).

1.8. Ystyr “Noddwr Cymunedol” (neu “Noddwr”) yw grŵp neu sefydliad sydd:

1.8.1. yn bodoli ac yn gweithio er budd y gymuned yn hytrach na chyfranddalwyr preifat, ac

1.8.2. sydd wedi’i gofrestru un ai’n elusen (neu o 2013 yn sefydliad corfforedig elusennol), neu’n gwmni buddiannau cymunedol, neu sydd yn unigolyn neu gorff yn dod o fewn Adran 10(2)(a) o Ddeddf Elusennau 2011, ac

1.8.3. sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod i gynorthwyo’r rheini sydd wedi’u hadsefydlu yn y DU o dan yr ACRS neu Gynllun Adsefydlu’r DU (UKRS), ac

1.8.4. sydd yn gallu hawlio Cyllid i gefnogi Darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion a adsefydlwyd o dan yr ACRS fel yn Atodlen 1 Rhan 6 a Chostau Eiddo Gwag yn Atodiad D.

1.9. Ystyr “Cymal” yw’r cymalau yn y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.10. Ystyr “Dyddiad Cychwyn” yw’r dyddiad y daw’r Cyfarwyddyd Cyllido i rym ac y gellir hawlio Gwariant Cymwys o dano o hynny ymlaen, sef 01 Ebrill 2023.

1.11. Ystyr y “Cynllun Noddi Cymunedol” yw’r rhaglen a ddatblygwyd gan yr Awdurdod i alluogi Noddwr Cymunedol i gynorthwyo’r rheini a adsefydlwyd yn y DU o dan yr ACRS neu’r UKRS am gyfnod o ddau ddeg pedwar (24) Mis yn dilyn dechrau’r cymorth y maent yn ei gael gan Noddwr Cymunedol.

1.12. Ystyr “Dangosyddion Perfformiad Allweddol” yw’r dangosyddion sy’n ofynnol i asesu llwyddiant y Cyllido ar sail y canlyniad arfaethedig ar ei gyfer.

1.13. Ystyr “Corff y Goron” (neu’r “Goron”) yw llywodraethau’r Deyrnas Unedig (yn cynnwys Cynulliad a Phwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon, Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru), yn cynnwys, ymysg eraill, gweinidogion ac adrannau a chyrff penodol, personau, comisiynau, neu asiantaethau sydd o bryd i’w gilydd yn cyflawni swyddogaethau ar ei ran.

1.14. Ystyr “Deddfwriaeth Diogelu Data” yw (i) GDPR y DU, (ii) Deddf Diogelu Data 2018 (‘DDD 2018’) i’r graddau y mae’n ymwneud â phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, (iii) yr holl Gyfraith gymwysadwy yn ymwneud â phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, a (iv) (i’r graddau y mae’n gymwys) GDPR yr UE.

1.15. Ystyr y “Protocol Rhannu Data” (neu’r “PRhD”) yw’r set o egwyddorion a nodwyd yn Atodiad B sy’n rheoli prosesau ac agweddau ymarferol ar rannu gwybodaeth rhwng yr Awdurdod a’r Derbynnydd, ac y mae’r Derbynnydd yn cytuno i gadw atynt a chydymffurfio â nhw.

1.16. Ystyr “Diwrnod” yw unrhyw ddiwrnod calendr o ddydd Llun hyd ddydd Sul (yn gynwysedig).

1.17. Ystyr “Partner Cyflenwi” yw unrhyw Drydydd Parti, nad yw’n Fuddiolwr, boed yn sefydliad neu’n unigolyn yn gweithio gyda’r Derbynnydd, pa un a yw’n cael ei dalu neu beidio, wrth gyflawni’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn er mwyn darparu ar gyfer y Pwrpas.

1.18. Ystyr “Gwariant Cymwys” yw’r holl gostau, treuliau, atebolrwydd a rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â, sy’n cael eu hysgwyddo drwy, neu sy’n codi o ganlyniad i gyflawni gweithgareddau a gweithrediadau’r Pwrpas gan y Derbynnydd yn ystod y cyfnod cyllido 01 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 ac sy’n cydymffurfio ym mhob peth â’r rheolau cymhwystra a nodwyd yn y Cyfarwyddyd hwn fel y’u penderfynwyd gan yr Awdurdod yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.

1.19. “Gwladolion Prydeinig cymwys” yw’r rheini a oedd:

a) wedi’u symud o Affganistan gan luoedd milwrol y DU, gwledydd eraill NATO neu wladwriaeth yn y rhanbarth yn ystod Ymgyrch PITTING

NEU

b) wedi cael cynhorthwy gan Lywodraeth EF i adael Affganistan ar ôl Ymgyrch PITTING, a’r cynhorthwy hwn wedi cychwyn cyn 6 Ionawr 2022.

[At ddibenion y cyfarwyddyd cyllido hwn, ystyr cynhorthwy yw bod cymhwystra wedi’i gadarnhau gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i’w cynnwys yn ehediadau siarter Llywodraeth Qatar o Kabul i Doha; neu gynhorthwy gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i’w galluogi i groesi’r ffin yn gyfreithlon o Affganistan i drydedd wlad (er enghraifft, drwy gyflwyno Note Verbales i lywodraethau sy’n derbyn i geisio caniatâd i Wladolion Prydeinig groesi eu ffiniau).]

AC

c) wedi mynd i lety pontio NEU wedi ymgyflwyno fel rhai digartref i gyngor.

1.20. Ystyr “ESOL” yw cymorth ffurfiol ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’, neu gymorth ffurfiol cyfatebol arall ar gyfer sgiliau iaith.

1.21. Ystyr “Costau Eithriadol” yw costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan Dderbynnydd wrth gynorthwyo Buddiolwyr y mae gan yr Awdurdod gyllideb ar eu cyfer ac y gall gytuno i’w talu’n ôl gan ystyried pob achos ar wahân.

1.22. Ystyr “Man Rhannu Ffeiliau” (neu “FSA”) yw’r man dynodedig o fewn MOVEit lle gall Derbynnydd gyrchu ffeiliau y mae’r Awdurdod wedi trefnu iddynt fod ar gael i’w rhannu.

1.23. Ystyr “Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun” neu “FYOA” yw lle mae Buddiolwyr yn cael cymorth i ddod o hyd i’w llety sefydlog eu hunain.

1.24. Ystyr “Hyfforddiant Iaith Ffurfiol” yw’r ddarpariaeth o ESOL a ddylai arwain, lle bo modd, at ennill cymwysterau achrededig gan Fuddiolwyr oddi wrth ddarparwr a reoleiddir gan gorff cenedlaethol priodol (h.y. Cymwysterau Cymru, OFQAL neu SQA). Mae hyn hefyd yn cynnwys cyrsiau nad ydynt yn arwain at gymhwyster achrededig ar eu pen eu hunain, ond sy’n helpu Buddiolwyr i gael mynediad yn ddiweddarach at gwrs sy’n arwain at gymhwyster achrededig. Er enghraifft, darpariaeth sydd heb ei rheoleiddio a gynigir gan ddarparwyr ar lefel cyn mynediad, nad oes cymwysterau achrededig ar ei chyfer. Rhaid i bob hyfforddiant iaith ffurfiol gynnwys y nodweddion allweddol a ganlyn:

1.24.1. Eu bod yn cael eu darparu o dan arweiniad tiwtoriaid cymwysedig, ac

1.24.2. Eu bod yn briodol i alluoedd penodol y Buddiolwr a nodwyd yn dilyn asesiad diagnostig a gynhaliwyd o dan arweiniad tiwtor ESOL cymwysedig, ac

1.24.3. Eu bod yn dilyn cwricwla a gytunwyd.[footnote 2]

1.25. Ystyr y “Cyfarwyddyd Cyllido” (neu’r “Cyfarwyddyd”) yw’r ddogfen hon sy’n disgrifio’r amodau y gall Derbynnydd hawlio Cyllid o danynt.

1.26. Ystyr y “Cyfnod Cyllido” yw’r cyfnod y darperir y Grant ar ei gyfer o’r Dyddiad Cychwyn hyd 31 Mawrth 2024.

1.27. Ystyr “Cyllid” yw cyfraniadau ariannol yr Awdurdod at y Gwariant Cymwys gan Dderbynnydd a ysgwyddwyd wrth gynorthwyo Buddiolwyr am hyd at dri deg a chwech (36) Mis wedi iddynt gyrraedd mewn ardal awdurdod lleol ac ar ôl cychwyn darparu tai a chymorth ac yn unol â thelerau a chanlyniadau’r Cyfarwyddyd hwn.

1.28. Ystyr “Hyfforddiant Iaith Anffurfiol” yw darpariaeth o hyfforddiant iaith nad oes iddo unrhyw un neu ragor neu’r oll o’r nodweddion a ddisgrifiwyd yn 1.24. Er enghraifft, gall ddigwydd mewn unrhyw leoliad, gall ddilyn cwricwlwm a osodwyd ymlaen llaw neu beidio a chaiff ei ddarparu fel arfer mewn ffordd strwythuredig neu led-strwythuredig, a’i gyflwyno gan amrywiaeth o bobl yn cynnwys gwirfoddolwyr. Gall gynnwys darpariaeth i feithrin hyder, dinasyddiaeth weithgar a gweithgareddau cymunedol neu hamdden o lawer math.

1.29. Ystyr “Deddfau Gwybodaeth” yw’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (‘FOIA’), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (‘EIR’) ac unrhyw is-ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth ddiwygiedig a wnaed o dan y Deddfau hyn o bryd i’w gilydd ynghyd ag unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer a ddyroddwyd gan yr adran(nau) llywodraeth perthnasol ynghylch y ddeddfwriaeth.

1.30. Ystyr “Ysgrifenedig” yw dulliau o ddangos neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weledol yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gohebu ar bapur, drwy e-bost, drwy eu dangos ar sgrin a’u trosglwyddo drwy ddulliau electronig.

1.31. Ystyr “Cyfraith” yw unrhyw gyfraith, statud, is-ddeddf, rheoliad, gorchymyn, polisi rheoliadol, cyfarwyddyd neu god diwydiant sy’n gymwysadwy, dyfarniad gan lys barn perthnasol, neu gyfarwyddiadau neu ofynion unrhyw gorff rheoleiddio, deddfwriaeth ddirprwyedig neu is-ddeddfwriaeth.

1.32. Ystyr “Mis” yw mis calendr.

1.33. Ystyr “MOVEit” yw gwasanaeth rhannu ffeiliau dwyffordd ar-lein yr Awdurdod sy’n caniatáu rhannu data Swyddogol a Swyddogol-Sensitif (IL2) ag adrannau llywodraeth eraill, cyrff cyhoeddus anadrannol, a sefydliadau allanol, mewn amgylchedd cwbl ddiogel. Ymysg y ffeiliau y gellir eu rhannu y mae PDFs, dogfennau Office o bob math, delweddau, a WinZip hyd at 2GB o faint.

1.34. Ystyr “Gordaliad” yw Cyllid a dalwyd gan yr Awdurdod i’r Derbynnydd sy’n fwy na’r swm a oedd yn ddyledus mewn gwirionedd.

1.35. Mae i “Ddata Personol” yr ystyr a roddir iddynt yn Neddfwriaeth Diogelu Data y DU.

1.36. Ystyr “Derbynnydd” yw awdurdod lleol neu ranbarthol sy’n cymryd rhan y cytunodd yr Awdurdod i ddarparu Cyllid iddo o dan y Cyfarwyddyd hwn fel cyfraniad at wariant cymwys a ysgwyddwyd wrth gynorthwyo Buddiolwyr.

1.37. Ystyr “Ffoadur” yw person cymwys sydd, heb ystyriaeth i’w genedligrwydd:

1.37.1. wedi’i dderbyn yn un sydd mewn angen gan yr Awdurdod yn dilyn atgyfeiriad gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), ac

1.37.2. wedi cyrraedd yn y DU ar ôl cael ei dderbyn i’r Cynlluniau,

1.37.3. ac wedi cael ei adsefydlu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

1.38. Ystyr “Atodlen” yw’r Atodlenni i’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.39. Ystyr “y Cynlluniau”, at ddibenion y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, yw Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a Pholisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP), ynghyd â Gwladolion Prydeinig Cymwys.

1.40. Ystyr “Gwerth Cymdeithasol” yw ymrwymiadau’r Awdurdod i sicrhau Gwerth am Arian, buddion amgylcheddol a chymdeithasol, Sero Net erbyn 2050, defnydd effeithlon o adnoddau, mwy o gynhwysiant cymdeithasol, cymorth ar gyfer arloesi, rheoli risgiau’n well a gwell cysylltiadau â chyflenwyr. Mae’r egwyddorion hyn wedi’u seilio ar y rhwymedigaethau a bennwyd yn Neddf Gwerth Cymdeithasol 2012, Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a Deddf Cydraddoldeb 2010;

1.41. Ystyr “Staff” yw unrhyw berson sydd wedi’i gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y Derbynnydd ac yn gweithredu mewn cysylltiad â chyflawni’r Cyfarwyddyd hwn yn cynnwys perchnogion, cyfarwyddwyr, aelodau, ymddiriedolwyr, cyflogeion, asiantau, cyflenwyr, gwirfoddolwyr y Derbynnydd, a Phartneriaid Cyflenwi (a’u priod gyflogeion, asiantau, cyflenwyr, a Phartneriaid Cyflenwi) a ddefnyddir wrth sicrhau’r canlyniadau a ariennir.

1.42. Ystyr “SMP” yw Partneriaeth Ymfudo Strategol.

1.43. Ystyr “Trydydd Parti” yw unrhyw barti boed yn berson neu’n sefydliad heblaw’r Awdurdod neu’r Derbynnydd.

1.44. Ystyr “Gwerth am Arian” yw sicrhau’r cyfuniad gorau o gost, ansawdd ac effeithiolrwydd, yn cynnwys meini prawf perthnasol ar gyfer Gwerth Cymdeithasol dros holl gyfnod y defnydd; nid yw’n golygu lleihau prisiau a delir ymlaen llaw h.y., yr opsiwn lleiaf neu rataf.

1.45. Ystyr “Diwrnod Gwaith” yw unrhyw ddiwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener (yn gynwysedig) heb gynnwys unrhyw wyliau cyhoeddus cydnabyddedig yn y DU.

2. Y cyfarwyddyd hwn

2.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn cynnwys pedwar ar ddeg (14) o Erthyglau, un (1) Atodlen, a saith (7) Atodiad ac mae’n cymryd lle unrhyw gyfarwyddiadau cyllido a ddyroddwyd o’r blaen gan yr Awdurdod a oedd yn darparu cyfraniadau ariannol at gostau Derbynwyr a ysgwyddwyd wrth gynorthwyo Buddiolwyr.

2.2. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn darparu Cyllid sy’n galluogi Derbynnydd i gynorthwyo Buddiolwyr:

2.2.1. yn ystod y deuddeg (12) Mis cyntaf wedi iddynt gyrraedd yn ardal y Derbynnydd, yn cynnwys costau Addysgol (BLWYDDYN 1) – Atodlen 1, Rhan 1,

2.2.2. yn ystod y dau ddeg pedwar (24) o Fisoedd (BLYNYDDOEDD 2 – 3) – Atodlen 1, Rhan 2,

2.2.3. ar y Cynllun Noddi Cymunedol (ar gyfer Buddiolwyr ACRS yn unig) – Atodlen 1, Rhan 3,

2.2.4. i wella eu sgiliau iaith Saesneg er mwyn hyrwyddo integreiddio a gwella cyflogadwyedd – Atodlen 1, Rhan 4, a

2.2.5. i gwrdd ag anghenion gofal plant er mwyn mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol – Atodlen 1, Rhan 5.

2.3. Mae’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn cymryd lle unrhyw delerau ac amodau a gytunwyd o’r blaen rhwng yr Awdurdod a’r Derbynnydd/Derbynwyr i ddarparu cymorth i Fuddiolwyr y Cynllun ARAP a gyrhaeddodd o 22 Mehefin 2021 ymlaen.

3. Cwmpas

3.1. Gellir gwneud hawliadau o dan y cyfarwyddyd hwn ar gyfer Buddiolwyr sydd wedi cyrraedd yn y DU o dan un o’r cynlluniau a nodir ym mharagraffau 3.1.1 a 3.1.2, ynghyd â Gwladolion Prydeinig Cymwys.

3.1.1. Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS), a fydd yn rhoi blaenoriaeth i’r rheini a gynorthwyodd ymdrechion y DU yn Affganistan ac a safodd dros werthoedd fel democratiaeth, hawliau menywod a rhyddid i lefaru, rheolaeth y gyfraith; a phobl agored i niwed, yn cynnwys menywod a merched sy’n wynebu risg, ac aelodau o grwpiau lleiafrifol sy’n wynebu risg. Bydd y cynllun hwn yn adsefydlu hyd at 20,000 o bobl sy’n wynebu risg. Bydd gwŷr a gwragedd priod, partneriaid, a phlant dibynnol o dan 18 oed i unigolion cymwys dynodedig yn rhai cymwys i’w derbyn i’r cynllun. Gall aelodau eraill o’r teulu fod yn gymwys mewn amgylchiadau eithriadol. Gellir cynnig adsefydlu plant ar eu pen eu hunain o dan yr ACRS lle penderfynwyd mai adsefydlu yn y DU sydd er y budd pennaf iddynt, a’u bod wedi’u dynodi’n rhai cymwys ar gyfer y cynllun. Bydd plant ar eu pen eu hunain a adsefydlir o dan yr ACRS (heblaw mewn amgylchiadau eithriadol) yn cael eu trin yn yr un ffordd â Phlant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASC) i ddibenion cyllido, a bydd awdurdodau lleol sy’n derbyn plant ar eu pen eu hunain o dan y Cynllun yn cael eu had-dalu yn unol â’r Cyfarwyddyd Cyllido UASC ar gyfer y flwyddyn berthnasol, nid y Cyfarwyddyd hwn.

3.1.2. Mae Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP), a aeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2021, yn cynnig adleoli neu gynhorthwy arall i’r rheini a wasanaethodd ochr yn ochr â’n lluoedd arfog yn Affganistan a darparu cymorth pwysig i genhadaeth amddiffyn a diogeledd Llywodraeth Ei Fawrhydi yn y fan honno, yn bennaf y rheini a gyflogwyd yn uniongyrchol neu, mewn rhai achosion arbennig, drwy gontractwyr, ac yr aseswyd eu bod yn wynebu risg ddifrifol o ganlyniad i waith o’r fath. Mae ar gael i bobl heb ystyried eu rheng neu rôl, neu gyfnod eu gwasanaeth, ac mae’n ychwanegol i’r cymorth hirsefydlog sydd eisoes ar gael. Mae’r polisi yn darparu y caiff y prif ymgeisydd ddod ag aelodau ei deulu agos (priod a phlant dan 18 oed) i’r DU ac mae’n ehangu’n sylweddol ar y meini prawf cymhwystra yn y cynllun blaenorol. Gall aelodau eraill o’r teulu fod yn gymwys mewn amgylchiadau eithriadol. Ni chaniateir hawliadau o dan y cyfarwyddyd hwn ond ar gyfer Buddiolwyr a ddechreuodd dderbyn cymorth gan y Derbynnydd ar neu ar ôl 22 Mehefin 2021.

3.2. Er mwyn ategu’r ymrwymiadau hyn ymhellach, datblygwyd y Cynllun Noddi Cymunedol sy’n galluogi Noddwyr, yn lle’r Derbynnydd, i ddarparu cymorth cofleidiol cynhwysfawr i’r rheini a adsefydlwyd yn y DU o dan yr ACRS am gyfnod o ddwy (2) flynedd.

3.3. Mae Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (Llwybr 2) yn cael ei redeg mewn partneriaeth ag Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (yr ‘UNHCR’). Mae’n dangos cefnogaeth y DU i ymdrech fyd-eang yr UNHCR i liniaru’r argyfwng dyngarol drwy ddarparu cyfleoedd i adsefydlu i bobl agored i niwed mewn cymunedau yn y DU sydd:

3.3.1. wedi cofrestru gyda’r UNHCR; a

3.3.2. y mae’r UNHCR yn credu eu bod yn cwrdd ag un o’i gategorïau cyflwyniadau adsefydlu[footnote 3].

3.4. Mae Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (Llwybr 3) yn cael ei redeg mewn partneriaeth â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Bydd y llwybr hwn yn adsefydlu’r rheini sy’n wynebu risg a gynorthwyodd yn ymdrech y DU a’r ymdrech ryngwladol yn Affganistan, yn ogystal â’r rheini sy’n neilltuol o agored i niwed, fel menywod a merched sy’n wynebu risg a grwpiau lleiafrifol. Ym mlwyddyn gyntaf y llwybr hwn, bydd y llywodraeth yn cynnig lleoedd ACRS i gontractwyr y British Council a GardaWorld ac Alumni Chevening sy’n wynebu’r risg fwyaf. 

3.5. Mae’r Derbynnydd wedi gwneud ymrwymiadau i gynorthwyo’r Cynlluniau, ac mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid i’r Derbynnydd fel cyfraniad at gynorthwyo Buddiolwyr am hyd at dair (3) blynedd wedi iddynt gyrraedd gyntaf yn ardal y Derbynnydd fel y disgrifir ymhellach yn y Cyfarwyddyd hwn.

3.6. Oni nodir yn benodol fel arall, bydd unrhyw Gyllid yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chostau Derbynnydd wrth gyflawni ei ddyletswyddau statudol, ac unrhyw beth a gytunir fel arall â’r Awdurdod.

3.7. Gall Cyllid fod ar gael ar gyfer buddiolwyr y mae dyletswyddau digartrefedd yn ddyledus iddynt o dan Ddeddf Tai 1996 ac sydd wedi’u symud i lety sefydlog drwy’r cynllun wrth gyflawni’r dyletswyddau hynny.

3.8. Bydd y Derbynnydd yn rhydd i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r Cyllid ond i ddibenion monitro a gwerthuso’r Cynlluniau rhaid iddo allu dangos bod y Cyllid wedi’i neilltuo i gynorthwyo Buddiolwyr a hyrwyddo nodau’r Cynlluniau.

4. Cyfnod

4.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn pennu’r telerau y bydd yr Awdurdod yn cydymffurfio â nhw wrth drefnu i Gyllid fod ar gael i’r Derbynnydd, mewn perthynas â gwariant a ysgwyddwyd wrth gynorthwyo Buddiolwyr. Ni chaniateir gwneud hawliadau o dan y Cyfarwyddyd hwn ond ar gyfer Buddiolwyr a ddechreuodd dderbyn cymorth gan Dderbynnydd ar neu ar ôl 01 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.

4.2. Yn unol â pholisïau cyllido sefydledig Trysorlys EF, bydd yr Awdurdod yn dyroddi cyfarwyddyd newydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol y cymeradwyir Cyllid ar ei chyfer. Bydd hyn yn digwydd pa un a wneir unrhyw newidiadau neu beidio.

5. Tryloywder, cyfrinachedd, diogelu data a rhannu data

5.1. Mae’r Derbynnydd yn cydnabod y gellir cyhoeddi trefniadau a ariennir drwy grant a ddyroddwyd gan Gyrff y Goron ar wefan ar gyfer y cyhoedd a bod rhaid i’r Awdurdod ddatgelu taliadau a wnaed ar sail y Cyfarwyddyd hwn yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i effeithlonrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.

5.2. Mae’r Derbynnydd yn ymrwymo i gadw’n gyfrinachol a pheidio â datgelu, ac i beri y bydd ei staff yn cadw’n gyfrinachol ac yn peidio â datgelu unrhyw wybodaeth y maent wedi’i chael drwy’r Cyfarwyddyd hwn.

5.3. Nid oes dim yn yr Erthygl 5 hon yn gymwys i wybodaeth sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd neu ym meddiant y Derbynnydd heblaw drwy dorri’r Erthygl 5 hon. Hefyd, ni fydd yr Erthygl 5 hon yn gymwys i wybodaeth y mae’n ofynnol ei datgelu yn unol ag unrhyw gyfraith neu’n unol ag unrhyw orchymyn gan lys neu gan gorff statudol neu reoliadol.

5.4. Bydd y Derbynnydd a’r Awdurdod yn cydymffurfio bob amser â’i briod rwymedigaethau o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU.

5.5. Rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw Fuddiolwr a ddatgelir iddo wrth ddarparu’r Cynlluniau hyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni ddylid ei datgelu i drydydd parti ond yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data y DU. Os bydd unrhyw ansicrwydd yn codi, rhaid cyfeirio’r mater i’r Awdurdod a bydd ei benderfyniad ar y mater yn derfynol. Yn benodol, rhaid i’r Derbynnydd:

5.5.1. sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith ganddo i gydnabod angen y Buddiolwr am gyfrinachedd a pharhau i’w ddiwallu; a

5.5.2. sicrhau na fydd manylion Buddiolwr yn cael eu datgelu i sefydliad nad yw’n barti i’r Cyfarwyddyd hwn os na chafwyd cydsyniad i hynny gan y Buddiolwr hwnnw.

5.6. Rhaid i’r Derbynnydd beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth a gafodd o ganlyniad i ddarparu’r Cynlluniau (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw Fuddiolwr) mewn unrhyw ffordd sy’n anghywir neu’n gamarweiniol.

5.7. Wrth dderbyn data personol oddi wrth yr Awdurdod, bydd y Derbynnydd yn dod yn rheolydd annibynnol ar y data hynny i’r graddau y bydd y Derbynnydd, wrth ddarparu’r Cynlluniau, ar unrhyw adeg yn penderfynu pwrpas a dull prosesu’r data personol. Wrth wneud hynny rhaid iddo gydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data gymwysadwy mewn perthynas â phrosesu Data Personol o’r fath ganddo; bydd yn gyfrifol, yn unigol ac ar wahân, am ei gydymffurfiaeth ei hun a bydd mewn perthynas â phrosesu Data Personol ganddo fel Rheolydd annibynnol yn gweithredu ac yn cynnal mesurau technegol a sefydliadol priodol i sicrhau lefel o ddiogelwch sy’n briodol i’r risg honno, yn cynnwys, fel y bo’n briodol, y mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(1)(a), (b), (c) a (d) o’r GDPR, a rhaid i’r mesurau gydymffurfio, o leiaf, â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, yn cynnwys Erthygl 32 o’r GDPR.

5.8. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig, bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am ddilyn ei drefniadau diogelu data lleol a chyfeirio unrhyw dor diogelwch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr ar ôl canfod y digwyddiad cychwynnol.

5.9. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig, rhaid hysbysu’r Awdurdod yn ddi-oed. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu pa gamau adferol, os o gwbl, y dylid eu cymryd a bydd y Derbynnydd wedi’i rwymo gan benderfyniad yr Awdurdod a bydd yn cadw ato.

5.10. Lle bo Derbynnydd yn gyfrifol am ddatgeliad anawdurdodedig sy’n torri’r Cyfarwyddyd hwn, bydd y Derbynnydd hwnnw’n atebol am unrhyw ganlyniadau i ddatgeliad anawdurdodedig o’r fath, gan gynnwys unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol (ond nid yn gyfyngedig i hynny).

5.11. Cyn gadael am y DU, bydd ffoaduriaid Llwybr 2 a Llwybr 3 ACRS wedi llofnodi ffurflen gydsynio yn cadarnhau eu parodrwydd i rannu data personol â chyrff gweithredol a phartneriaid cyflenwi perthnasol. Bydd yr Awdurdod yn cadw’r ffurflenni hyn ac yn caniatáu i’r Derbynnydd eu harchwilio yn ôl y gofyn.

5.12. Mae’r Awdurdod hefyd yn disgwyl i’r Derbynnydd rannu gwybodaeth berthnasol am gyflawniad y Cynlluniau ac am Fuddiolwyr â’i bartneriaid; cyn gwneud hynny, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod cytundeb ffurfiol wedi’i lofnodi gyda darparwyr perthnasol y Cynlluniau sy’n pasio drwodd delerau’r Protocol Rhannu Data.

5.13. Ni ddylid rhannu Ffurflen Gofrestru Adsefydlu yr UNHCR (RRF) neu unrhyw ddogfen gysylltiedig arall a grëir gan yr UNHCR am Fuddiolwr (ffoadur) â phartneriaid cyflenwi ond ar sail yr angen i wybod.

5.14. Rhaid peidio â rhannu’r RRF a dogfennau cysylltiedig â’r Ffoadur y mae’n ymwneud ag ef, nac unrhyw barti arall heblaw Partneriaid Cyflenwi priodol, heb gael cytundeb penodol gan swyddfa’r UNHCR yn Llundain.

5.15. Rhaid cyfeirio pob cyswllt a wneir gan unrhyw berson neu sefydliad nad yw’n barti i’r Cyfarwyddyd hwn mewn perthynas â chyflawni i gyllido’r Cynlluniau i swyddfa’r wasg yn yr Awdurdod i gael cyngor a/neu gamau gweithredu ganddi.

5.16. Lle mae’n gymwysadwy, mae’n ofynnol i’r Derbynnydd a’r Awdurdod gydymffurfio bob amser â’i briod rwymedigaethau o dan y Deddfau Gwybodaeth, unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

5.17. Rhaid i’r Derbynnydd gydymffurfio â thelerau’r darpariaethau ar Rannu Data a nodwyd yn Atodiad C. Rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod darpariaethau digonol a rheolaethau effeithiol ar waith ganddo i reoli:

5.17.1. data ac atal Digwyddiadau Data.

5.17.2. trefniadau i brosesu data y mae’n eu rhannu ag unrhyw Bartner Cyflenwi a/neu Fuddiolwr (ac i’r cyfeiriad arall); a

5.17.3. cydymffurfiaeth â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

5.18. Mae’r Derbynnydd yn cytuno i gynorthwyo a chydweithredu â’r Awdurdod i alluogi’r Awdurdod i gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Deddfau Gwybodaeth pryd bynnag y gwneir cais am wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu sy’n codi ohono.

5.19. Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth os byddai datgelu’r wybodaeth honno yn groes i’r Deddfau Gwybodaeth neu os yw’r wybodaeth honno wedi’i hesemptio rhag ei datgelu o dan y Deddfau Gwybodaeth.

5.20. Rhaid i’r Derbynnydd sicrhau ei fod ef, a’i Staff, yn cydymffurfio â phrotocolau rhannu data’r Awdurdod sydd wedi’u disgrifio yn Atodiad C.

5.21. Bydd darpariaethau’r Erthygl 5 hon yn goroesi terfyniad y Cyfarwyddyd hwn, sut bynnag y bydd hynny’n digwydd.

6. Cyllid

Gwariant Cymwys

6.1. Rhaid peidio â defnyddio’r arian a ddarperir at unrhyw ddiben heblaw cyflawni canlyniadau’r Cynlluniau a nodwyd yn Atodlen 1 i’r Cyfarwyddyd hwn, ac ni chaniateir trosglwyddo unrhyw arian o’r fath i le arall heb gael cydsyniad ysgrifenedig gan yr Awdurdod ymlaen llaw.

6.2. Os bydd unrhyw faterion cyllido yn codi o ganlyniad i’r ffaith bod Buddiolwr yn symud yn barhaol o ardal awdurdod lleol cyfranogol yn ystod y cyfnod Cyllido hiraf o dri deg chwech (36) o Fisoedd, mae’r rhain i gael eu datrys rhwng y Derbynnydd a’r awdurdod lleol perthnasol.

6.3. Ni chaiff unrhyw agwedd ar y gweithgarwch a gyllidir gan yr Awdurdod fod yn bleidiol wleidyddol o ran bwriad, defnydd na chyflwyniad.

6.4. Ni cheir defnyddio’r Cyllid i gefnogi neu hyrwyddo gweithgarwch crefyddol. Ni fydd hyn yn cynnwys gweithgarwch a fwriadwyd i wella cysylltiadau a/neu gydweithio rhyng-ffydd.

Gordaliadau

6.5. Rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted â phosibl os yw Derbynnydd yn disgwyl i’w ofynion Cyllido fod yn is na’r disgwyl, er mwyn osgoi Gordaliadau.

6.6. Os gwneir Gordaliad, o ba achos bynnag, rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mewn achosion o’r fath, gall yr Awdurdod ofyn am ad-dalu’r Gordaliad ar unwaith neu gall addasu taliad(au) dilynol yn unol â hynny.

Terfynu Cyllido

6.7. Bydd cyfrifoldeb yr Awdurdod am ddarparu Cyllid o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dri deg chwech (36) o Fisoedd ers cychwyn y cymorth i Fuddiolwyr o dan y Cynlluniau ac ni ellir hawlio Cyllid ar gyfer unrhyw gymorth a ddarperir ar ôl y cyfnod hwn.

6.8. Gall taliadau ddod i ben hefyd os bydd y Buddiolwr:

6.8.1. yn marw,

6.8.2. yn gadael ardal y Derbynnydd i fyw mewn ardal awdurdod lleol arall yn y DU,

6.8.3. yn nodi nad yw bellach yn dymuno cael cymorth o dan y Cynlluniau,

6.8.4. yn nodi ei fod yn gadael y DU yn barhaol,

6.8.5. yn gwneud cais am statws Mewnfudo arall yn y DU, neu

6.8.6. fel arall yn gadael neu’n dod yn anghymwys ar gyfer y Cynlluniau.

6.9. Os bydd unrhyw ddigwyddiad o’r fath o dan Gymal 6.8, rhaid i’r Derbynnydd hysbysu’r Awdurdod yn ddi-oed.

6.10. At ddibenion Cymal 6.7, bydd y cyfnod o dri deg chwech (36) o Fisoedd yn cychwyn ar y dyddiad y bydd y Buddiolwr yn cyrraedd at y Derbynnydd, a chychwyn y cymorth, a bydd yn parhau’n ddi-dor tan ddiwedd y cyfnod hwnnw o dri deg chwech (36) o Fisoedd.

6.11. Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i roi’r gorau i wneud taliadau drwy’r Cyfarwyddyd hwn os oes ganddo sail resymol dros gredu bod y Buddiolwr wedi ceisio twyllo’r Awdurdod, y Derbynnydd perthnasol, neu asiantaeth partner mewn perthynas â’i amgylchiadau, gan gynnwys ei le yn y Cynlluniau neu ei weithgareddau wrth gymryd rhan ynddynt.

Costau Eithriadol

6.12. Gellir gwneud taliadau hefyd er mwyn talu costau hanfodol ychwanegol a ysgwyddwyd gan y Derbynnydd ar ben yr hyn y gellid yn rhesymol ei ystyried yn wariant arferol ac nad yw ar gael drwy fecanweithiau cyllido prif ffrwd eraill. Gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb Costau Eithriadol, ymhlith pethau eraill, i dalu am:

  • Addasiadau i Eiddo (gweler Atodiad D)

  • Costau Eiddo Gwag (gweler Atodiad E)

  • Cymorth i blant ag anghenion addysgol dynodedig

  • Darparu Gofal Cymdeithasol

  • Ychwanegiad enwol Credyd Cynhwysol (gweler Atodlen 1, Cymal 1.12)

6.13. Cyn ysgwyddo Costau Eithriadol, rhaid i’r Derbynnydd geisio cytundeb ysgrifenedig gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan yr Awdurdod neu wynebu’r risg o wrthod yr hawliad. Bydd yr Awdurdod yn arfer ei farn resymol wrth asesu mesurau lliniaru ar gyfer hawliadau lle na fu hyn yn bosibl (gweler Atodiad F).

6.14. Bydd pob cais yn cael ei asesu, a thaliadau yn cael eu gwneud, fesul achos:

6.14.1. Nid oes isafswm nac uchafswm y gellir ei hawlio.

6.14.2. Ni ellir hawlio Costau Eithriadol am gymorth a ddarperir i Fuddiolwr a fyddai fel arfer yn cael ei gyllido drwy gyllid iechyd neu addysg y pen neu drwy daliadau lles.

6.14.3. Rhaid i Dderbynwyr gyflwyno tystiolaeth o wariant Costau Eithriadol a ysgwyddwyd (e.e. copi o anfonebau) ynghyd â ffurflen hawlio Costau Eithriadol, cyn y bydd hawliadau’n cael eu hystyried i’w talu.

6.15. Bydd yr Awdurdod yn adolygu gweithrediad y broses a’r gyllideb Costau Eithriadol o bryd i’w gilydd.

Costau Cymorth Tai Ychwanegol

6.16. Ni dderbynnir hawliadau newydd o hyn ymlaen am y cyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol a oedd ar gael mewn cyfarwyddiadau cyllido ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22 a 2022/23. Yn lle hynny, mae awdurdodau lleol sy’n cynorthwyo aelwydydd i gael llety sefydlog yn gallu gwneud hawliadau i’r Gronfa Tai Hyblyg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn “Atodlen 1, Rhan 7 – Cymorth i Gael Llety Sefydlog: Datganiad o Ganlyniadau ar gyfer Cyllid Tai Hyblyg”.

6.17. Bydd hawliadau am Gostau Cymorth Tai Ychwanegol a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol cyn 1 Ebrill 2023 yn cael eu hadolygu a’u gweinyddu os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.

6.18. Os yw awdurdod lleol, cyn 1 Ebrill 2023, yn cynorthwyo aelwyd gan ddefnyddio cyllid Costau Tai Ychwanegol, yna gall barhau i’w hawlio tan flwyddyn 3 y cyfnod y mae’r aelwyd honno mewn llety sefydlog. Bydd y meini prawf cymhwystra blaenorol yn gymwys.

Cyffredinol

6.19. Ni fydd yr Awdurdod yn ad-dalu gwariant anawdurdodedig sy’n uwch na’r lefelau Cyllido uchaf a nodir yn Atodlen 1, 1.39.

6.20. Ym mhob achos, mae Cyllid a dderbyniwyd i gael ei gyfuno a’i reoli rhwng yr holl Fuddiolwyr sy’n cael cymorth gan y Derbynnydd perthnasol.

6.21. Y Derbynnydd perthnasol fydd y pwynt cyswllt sengl ar gyfer anfonebau a thaliadau.

6.22. Bydd unrhyw daliadau a wneir o dan y Cyfarwyddyd hwn hefyd yn cynnwys TAW neu dollau eraill a delir gan y Derbynnydd i’r graddau na fydd y Derbynnydd yn gallu adennill y rhain fel arall.

6.23. Nid oes dim yn y Cyfarwyddyd hwn y dylid ei ddehongli fel rhywbeth sy’n darparu neu’n caniatáu i gyfanswm y buddion perthnasol fynd dros y terfyn statudol (y ‘cap budd-daliadau’) sy’n bodoli ar adeg y taliad.

7. Cysoni data a thaliadau

7.1. Rhaid i’r Derbynnydd gwblhau ceisiadau am daliad ar y ffurf berthnasol a nodir yn Atodiad A, sy’n cynnwys manylion pob Buddiolwr a’r cymorth ariannol y gwneir cais amdano.

7.2. Mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer cwblhau Atodiad A wedi’u cynnwys yng ngweithlyfr Excel cyllido’r ALl, a ddarperir gan yr Awdurdod. Dim ond drwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MOVEIT DMZ”, y dylid cyflwyno’r ffurflen yn Atodiad A, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.

7.3. Gwneir taliadau o fewn tri deg (30) Diwrnod ar ôl cael hawliad wedi’i gwblhau’n gywir.

7.4. Dylai’r Awdurdod gael yr Atodiad A a gyflwynir i’w dalu heb fod yn hwyrach na thri (3) Mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r cais yn ymwneud ag ef; os caiff ei anfon yn hwyr, gall hynny arwain at oedi cyn talu. Bydd y Derbynnydd yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau os yw’n credu bod lefel y Cyllid a gafwyd yn llai na’r hyn y mae ganddo hawl i’w gael o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn. Rhaid i’r Derbynnydd perthnasol hysbysu’r Tîm Taliadau Cynlluniau Affganistan am unrhyw anghysondebau ynghylch y symiau a dalwyd o fewn un (1) Mis ar ôl anfon yr ymateb i’r Atodiad A, yn dilyn cysoni â chofnodion yr Awdurdod.

7.5. Ar ddiwedd y cyfnod y telir cymorth ar ei gyfer, bydd gwiriadau terfynol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y taliadau a wnaed eisoes yn adlewyrchu’n gywir y symiau y mae gan y Derbynnydd hawl i’w cael. Mae taliadau a wneir o ganlyniad i geisiadau i’w hystyried yn daliadau ar gyfrif, a fydd yn cael eu cwblhau pan fydd yr hawliad terfynol yn cael ei gadarnhau gan yr Awdurdod. Dylai’r Derbynnydd nodi na ddylid newid fformat y taenlenni hawlio.

7.6. Lle mae Derbynnydd yn credu bod lefel y Cyllid a dalwyd mewn gwirionedd gan yr Awdurdod yn llai na’r hyn y mae ganddo hawl i’w gael o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn, gall y Derbynnydd gyflwyno sylwadau i Dîm Cyllido’r Awdurdod. Rhaid rhoi gwybod i’r Tîm Taliadau Cynlluniau Affganistan am unrhyw anghysondebau o fewn un (1) Mis ar ôl gwneud taliad. Ni ellir cytuno ar daliadau ôl-weithredol gan yr Awdurdod ar gyfer unigolion nad ydynt wedi’u cynnwys yn brydlon yn yr hawliad Atodiad A oni bai y gellir dangos bod yr amgylchiadau’n eithriadol.

7.7. Gwneir taliadau drwy BACS gan ddefnyddio manylion cyfrif y mae’n rhaid i’r Derbynnydd eu rhoi i’r Awdurdod ar bapur pennawd, wedi’i lofnodi gan uwch swyddog cyllid. Mae’r Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr Awdurdod wedi cael gwybod am ei fanylion cyfrif banc cywir ac unrhyw newidiadau dilynol. Mae’r wybodaeth y bydd ei hangen ar yr Awdurdod er mwyn gallu talu i gyfrif newydd neu newid manylion talu BACS fel a ganlyn:

Manylion y Cyflenwr

  1. Enw cofrestredig y cwmni

  2. Enw masnachu’r cwmni

  3. Rhif cofrestru’r cwmni

  4. Rhif cofrestru TAW

Manylion Cyfeiriad y Cyflenwr

  1. Cyfeiriad cofrestredig

  2. Cyfeiriad rheoli credyd/cyllid

Manylion Cyswllt

  1. Cyfeiriad e-bost ar gyfer archebion prynu
  2. Cyfeiriad e-bost ar gyfer hysbysiadau talu
  3. Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau am anfonebau
  4. Rhif ffôn ar gyfer cyfrifon i’w derbyn/rheoli credyd

Manylion Talu

  1. Enw’r banc
  2. Enw a chyfeiriad y gangen
  3. Enw cyfrif banc y cwmni
  4. Rhif cyfrif banc
  5. Cod didoli’r cyfrif banc

7.8. Os bydd manylion banc yn newid, dylai’r Derbynnydd perthnasol hysbysu’r Awdurdod ar unwaith am y wybodaeth newydd. Rhaid darparu hysbysiad o’r fath yn ysgrifenedig, ar ffurf PDF na ellir ei golygu, ac yn unol â gofynion Cymal 7.7.

7.9. Rhaid i’r Derbynnydd gofnodi gwariant yn ei gofnodion cyfrifyddu yn unol â safonau cyfrifyddu cydnabyddedig mewn ffordd sy’n rhoi’r gallu i ddethol y costau perthnasol os oes angen. Drwy gydol y flwyddyn, bydd tîm Cyllid yr Awdurdod yn cydweithio â’r Derbynnydd i sicrhau bod hawliadau’n gywir, fel y bydd llai o angen am archwiliadau ar ddiwedd y flwyddyn.

8. Monitro a gwerthuso

8.1. Dylai’r Derbynnydd ei hun reoli a gweinyddu ansawdd a lefel y ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r cymorth y mae’n ei ddarparu i Fuddiolwyr.

8.2. Rhaid i’r Derbynnydd fonitro gweithrediad a llwyddiant y Cynlluniau drwy gydol y cyfnod Cyllido er mwyn sicrhau bod y Pwrpas yn cael ei gyflawni a bod cydymffurfiaeth â’r Cyfarwyddyd hwn.

8.3. Bydd yr Awdurdod yn gofyn i’r Derbynnydd ddarparu gwybodaeth a dogfennau am Fuddiolwyr at ddibenion monitro a gwerthuso.

8.4. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth ar lefel yr unigolyn am Fuddiolwyr ar gyfer gwerthuso’r Cynlluniau. Ni ddylid cyflwyno’r ffurflen dystiolaeth ond drwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MOVEIT DMZ”, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

8.5. Rhaid i’r Derbynnydd ddarparu gwybodaeth y gofynnir amdani i fonitro cynnydd ar y Datganiad o Ganlyniadau. Bydd yr Awdurdod neu ei gynrychiolwyr penodedig, yn cynnwys y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn gallu cynnal ymweliadau o bryd i’w gilydd. Er nad yw’n ofynnol cyflwyno costau manwl, rhaid i’r Derbynnydd allu darparu’r costau ar gyfer achosion unigol ac, os gofynnir iddo, bydd disgwyl iddo gyfiawnhau, esbonio a dangos tystiolaeth o gostau.

8.6. Ym mhob achos, er mwyn helpu i fonitro a gwerthuso’r Cynlluniau, rhaid i’r Derbynnydd ddarparu i’r Awdurdod yr holl wybodaeth ariannol y gofynnir amdani’n rhesymol o bryd i’w gilydd, ar ffurf cyfrifon agored.

9. Torri amodau cyllido

9.1. Os bydd Derbynnydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o’r amodau a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn, neu os bydd unrhyw rai o’r digwyddiadau a grybwyllir yng Nghymal 9.2 yn digwydd, yna gall yr Awdurdod leihau neu atal taliadau, neu eu cadw’n ôl, neu ei gwneud yn ofynnol i’r Derbynnydd ad-dalu’r taliadau perthnasol i gyd neu unrhyw ran ohonynt. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r Derbynnydd ad-dalu unrhyw swm sy’n ofynnol o dan Gymal 9.1 hwn o fewn tri deg (30) Diwrnod ar ôl derbyn yr archeb am ad-daliad.

9.2. Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yng Nghymal 9.1 yw’r rhai a ganlyn:

9.2.1. Bod y Derbynnydd yn honni trosglwyddo neu aseinio unrhyw hawliau, buddiannau neu rwymedigaethau sy’n codi o dan y Cytundeb hwn heb gael cytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod, neu

9.2.2. Canfyddiad bod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd yn y cais am Gyllid (neu mewn hawliad am daliad neu Gostau Arbennig) neu mewn unrhyw ohebiaeth ategol ddilynol yn anghywir neu’n anghyflawn i’r graddau bod yr Awdurdod o’r farn bod hynny’n berthnasol, neu

9.2.3. Bod y Derbynnydd yn cymryd camau annigonol i ymchwilio a datrys unrhyw afreoleidd-dra a gofnodwyd.

10. Gweithgareddau – cyffredinol

Is-gontractio

10.1. Wrth gaffael gwaith, nwyddau neu wasanaethau, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol, er enghraifft Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ym mhob achos, rhaid i’r Derbynnydd ddangos gwerth am arian a rhaid iddo weithredu mewn modd teg, agored ac anwahaniaethol wrth brynu’r holl nwyddau a gwasanaethau ar gyfer darparu’r Cynlluniau.

10.2. Pan fo’r Derbynnydd yn gwneud contract (neu fath arall o gytundeb) ag unrhyw drydydd parti ar gyfer darparu unrhyw ran o’r Cynlluniau, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod teler wedi’i gynnwys yn y contract neu gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Derbynnydd dalu’r holl symiau sy’n ddyledus o fewn cyfnod penodedig: bydd y cyfnod hwn wedi’i ddiffinio gan delerau’r contract neu’r cytundeb hwnnw, ond ni fydd yn fwy na thri deg (30) Diwrnod ar ôl dyddiad derbyn anfoneb wedi’i dilysu.

10.3. Rhaid i’r Derbynnydd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau na fydd unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran yn dwyn anfri ar yr Awdurdod na’r Cynlluniau; er enghraifft, drwy beryglu a/neu weithredu’n groes i fuddiannau’r Awdurdod a/neu’r Cynlluniau.

Oriau Gweithredu

10.4. Rhaid i’r Derbynnydd nodi bod yr Awdurdod yn cyflawni ei waith arferol yn ystod yr oriau 09.00 tan 17.00 ar Ddiwrnodau Gwaith.

10.5. Rhaid i’r Cynllun gael ei ddarparu ar bob Diwrnod Gwaith o leiaf. Mae’r Awdurdod yn cydnabod, er mwyn effeithlonrwydd, y bydd union argaeledd ac amseriadau’r gwahanol elfennau gwasanaeth yn amrywio. Rhagwelir y bydd angen rhywfaint o ddarpariaeth y tu allan i oriau gwaith gan y Derbynnydd.

10.6. Dylai’r holl safleoedd a ddefnyddir i ddarparu elfennau’r Cynlluniau fod yn rhai sy’n bodloni’r holl ofynion rheoleiddiol a bod yn addas at y diben hwnnw.

Cwynion

10.7. Rhaid i’r Derbynnydd a/neu ei bartneriaid cyflenwi ddatblygu, cynnal a gweithredu gweithdrefnau sy’n galluogi Buddiolwyr i gwyno am y cymorth a’r cynhorthwy a ddarperir gan y Derbynnydd.

Safonau Staff

10.8. Wrth ddarparu’r Cynlluniau, rhaid i’r Derbynnydd fod yn ymwybodol bob amser o fwriad “Cod Ymddygiad i Dderbynwyr Grantiau Cyffredinol Llywodraeth”[footnote 4] Llywodraeth y DU sy’n amlinellu’r safonau a’r ymddygiadau y mae’r llywodraeth yn eu disgwyl gan ei holl Bartneriaid Cyflenwi, a rhaid i’r Derbynnydd ymddwyn yn gyson â’r Cod hwnnw bob amser.

10.9. Rhaid i’r Derbynnydd:

10.9.1. sicrhau bod y dull o recriwtio, dethol a hyfforddi Staff yn gyson â’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni’r canlyniadau,

10.9.2. paratoi a hyfforddi staff yn drwyadl i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu rolau a sicrhau bod darpariaethau diogelwch priodol a digonol yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl Staff sy’n ymgymryd â gweithgareddau wyneb yn wyneb,

10.9.3. sicrhau bod lefelau Staff yn briodol bob amser at ddibenion darparu’r Cynlluniau a sicrhau diogelwch a lles yr holl Fuddiolwyr, plant dibynnol a’i Staff,

10.9.4. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y bydd ef ac unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran yn meddu ar yr holl gymwysterau, trwyddedau, sgiliau a phrofiadau angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol, yn ddiogel ac yn unol â’r holl gyfraith berthnasol sydd mewn grym ar y pryd (i’r graddau y mae’n rhwymo’r Derbynnydd), a

10.9.5. sicrhau ei fod wedi sefydlu polisïau sefydliadol perthnasol i gyflawni’r gweithgareddau a gyllidir gan y Cyfarwyddyd hwn. Rhaid i’r rhain barhau mewn grym drwy gydol cyfnod y Cyfarwyddyd hwn a chael eu hadolygu’n rheolaidd gan uwch staff priodol. Rhaid i’r holl staff fod yn ymwybodol o’r polisïau hyn a sut i godi unrhyw bryderon.

10.9.6. bod pob ymgeisydd am gyflogaeth sy’n gysylltiedig â’r Cynlluniau yn gorfod datgan ar ei ffurflenni cais unrhyw euogfarnau troseddol blaenorol yn amodol bob amser ar y darpariaethau yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

10.10. Yn ogystal, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod yr holl Staff:

10.10.1. sydd wedi’u cyflogi neu eu cymryd ymlaen yn rhai sydd â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig o dan gyfraith mewnfudo gymwysadwy, a

10.10.2. eu bod yn onest a dibynadwy ac yn addas i ddarparu cymorth i Fuddiolwyr. Rhaid ystyried cymhwystra ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS2). Pan fo gwiriadau o’r fath yn datgelu euogfarnau troseddol blaenorol y gellid yn rhesymol ystyried eu bod yn berthnasol i briodoldeb yr unigolyn i gael mynediad heb oruchwyliaeth, yn enwedig at blant o dan 18 oed, neu lle nad yw gwiriadau o’r fath yn bosibl oherwydd materion adnabod, rhaid i’r Derbynnydd ddilyn ei bolisi mewnol a chynnal asesiad risg priodol cyn cynnig cyflogaeth, a

10.10.3. os ydynt yn debygol o gael mynediad heb oruchwyliaeth at blant o dan 18 oed, eu bod wedi cael cyfarwyddyd yn unol â’r canllawiau cenedlaethol perthnasol ar amddiffyn plant e.e. ar gyfer pobl sy’n gweithio yn Lloegr, Working Together to Safeguard Children yr Adran Addysg, 2015, a chanllawiau a gweithdrefnau Awdurdodau Lleol, a

10.10.4. os ydynt yn darparu cyngor ar fewnfudo, yn rhai hysbys i Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) yn unol â’r cynllun rheoleiddio a bennwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Rhaid i’r Derbynnydd wneud pob ymdrech resymol i sicrhau nad yw Staff yn darparu cyngor am fewnfudo neu wasanaethau mewnfudo oni bai eu bod yn “gymwysedig” neu’n “esempt” yn ôl penderfyniad ac ardystiad OISC.

10.10.5. yn cyflawni cyfrifoldebau a rhwymedigaethau diogelu cyhyd ag y bydd personél, yn cynnwys gwirfoddolwyr, yn ymwneud yn ffurfiol â’r awdurdod lleol wrth ddarparu gwasanaethau adsefydlu ac integreiddio i’r Buddiolwr.

10.11. Os gwneir cais am hynny, rhaid i’r Derbynnydd ddarparu manylion i’r Awdurdod am yr holl Staff sy’n gweithredu’r Cynlluniau.

10.12. Os gwneir cais am hynny, rhaid i’r Derbynnydd ddarparu CVs a/neu ddisgrifiadau swyddi i’r Awdurdod ar gyfer yr holl Staff a ddewisir i weithio ar y prosiect.

10.13. Rhaid i’r Derbynnydd wneud pob ymdrech resymol i gydymffurfio â gofynion Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

10.14. Rhaid i’r Derbynnydd weithredu’r Cynlluniau yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data y DU.

11. Atebolrwydd

11.1. Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw atebolrwydd i’r Derbynnydd nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw gostau, hawliadau, difrod neu golledion, sut bynnag y maent yn cael eu hysgwyddo, ac eithrio i’r graddau y maent wedi’u hachosi gan esgeuluster neu gamymddygiad yr Awdurdod.

12. Datrys anghydfodau

12.1. Rhaid i’r Partïon geisio negodi setliad yn ddidwyll mewn unrhyw anghydfod sy’n codi rhyngddynt o ganlyniad i’r Cyfarwyddyd hwn neu mewn cysylltiad ag ef.

12.2. Gall y Partïon setlo unrhyw anghydfod drwy ddefnyddio proses datrys anghydfodau y maent yn cytuno arni.

12.3. Os na fydd y Partïon yn gallu datrys anghydfod yn unol â gofynion Cymalau 12.1 neu 12.2, gellir cyfeirio’r anghydfod, drwy gytundeb rhwng y Partïon, i’w gyfryngu yn unol â’r Weithdrefn Gyfryngu Enghreifftiol a gyhoeddwyd gan y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (“CEDR”), neu unrhyw weithdrefn gyfryngu arall y bydd y Partïon yn cytuno arni. Oni chytunir fel arall rhwng y Partïon, bydd y cyfryngwr yn cael ei enwebu gan CEDR. I gychwyn y cyfryngu, rhaid i’r Parti roi rhybudd ysgrifenedig (yr Hysbysiad ADR) i’r Parti arall, a bydd y Parti olaf hwnnw yn dewis a fydd yn derbyn cyfryngu ai peidio. Dylid anfon copi o’r Hysbysiad ADR i CEDR. Bydd y cyfryngu yn dechrau heb fod yn hwyrach na deg (10) Diwrnod Gwaith ar ôl dyddiad yr Hysbysiad ADR.

12.4. Ni fydd cyflawniad y rhwymedigaethau sydd ar y Derbynnydd o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben nac yn cael ei ohirio oherwydd bod anghydfod wedi’i gyfeirio ar gyfer cyfryngu o dan Gymal 12.3 y Cyfarwyddyd hwn.

13. Hawliau eiddo deallusol a brandio

13.1. Rhaid i’r Partïon gadw eu Hawliau Eiddo Deallusol blaenorol yn gyfyngedig.

13.2. Oni chytunir fel arall yn Ysgrifenedig, bydd y Derbynnydd yn berchen ar yr holl Hawliau Eiddo Deallusol a grëwyd wrth ddefnyddio’r Grant. Er hynny, rhaid i’r Derbynnydd roi i’r Awdurdod heb gost drwydded anghyfyngedig, ddi-droi’n-ôl, wastadol, fyd-eang heb freindal i ddefnyddio ac i is-drwyddedu’r defnydd o unrhyw ddeunydd neu Hawliau Eiddo Deallusol a grëwyd gan y Derbynnydd boed wedi’i ariannu’n llwyr neu’n rhannol o’r Grant at hynny o ddibenion y bydd yr Awdurdod yn eu tybio’n briodol.

13.3. Bydd y berchnogaeth ar feddalwedd Trydydd Parti neu Hawliau Eiddo Deallusol eraill sy’n angenrheidiol i gyflawni’r Pwrpas yn aros gyda’r Derbynnydd neu’r Trydydd Parti perthnasol.

13.4. Ni fydd hawl gan y naill Barti na’r llall i ddefnyddio unrhyw un o enwau, logos, brandiau neu nodau masnach y Parti arall ar unrhyw un o’i gynhyrchion neu wasanaethau heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Parti arall.

13.5. Rhaid i’r Derbynnydd ar bob adeg yn ystod ac yn dilyn diwedd y Cyfnod Cyllido:

a. cydymffurfio â gofynion y Llawlyfr Brandio mewn perthynas â’r Pwrpas; a

b. rhoi’r gorau i ddefnyddio’r logo Ariannwyd gan Lywodraeth y DU ar gais os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr Awdurdod.

13.6. Rhaid i’r Derbynnydd ofyn am gymeradwyaeth gan yr Awdurdod cyn defnyddio logo’r Awdurdod wrth gydnabod y cymorth ariannol y mae’r Awdurdod wedi’i roi at ei waith. Bydd cydnabyddiaeth o’r fath (lle bo’n briodol neu yn ôl cais yr Awdurdod) yn cynnwys enw a logo’r Awdurdod (neu unrhyw enw neu logo a fabwysiedir gan yr Awdurdod yn y dyfodol) gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir gan yr Awdurdod o bryd i’w gilydd.

13.7. Wrth ddefnyddio enw a logo’r Awdurdod, bydd y Derbynnydd yn cydymffurfio â’r holl ganllawiau brandio rhesymol a ddyroddir gan yr Awdurdod o bryd i’w gilydd.

13.8. Bydd yr Awdurdod yn rhydd i rannu unrhyw wybodaeth, brandiau, gwybodaeth ymarferol, system neu broses a ddatblygwyd drwy ddefnyddio’r Grant yn ystod y Cyfnod Cyllido ac wedyn i gynnal cynlluniau tebyg neu olynol.

14. Gofynion gwerth cymdeithasol

14.1. Rhaid i’r Derbynnydd fod yn ymwybodol o fesurau rhesymol a’u cymryd er mwyn sicrhau bod ei holl weithgareddau wrth gyflawni’r Pwrpas yn ategu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau Gwerth Cymdeithasol drwy:

14.1.1 ymladd newid yn yr hinsawdd yn unol â “Greening Government Commitments” Llywodraeth y DU, yn cynnwys yr angen i osgoi effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd a chyfrannu at gyflawni’r uchelgais Sero Net erbyn 2050

  • arbed ynni, dŵr, coed, papur ac adnoddau eraill,

  • lleihau gwastraff,

  • lleihau allyriadau tanwydd lle bynnag y bo modd,

  • rhoi’r gorau’n raddol i ddefnyddio sylweddau sy’n teneuo’r osôn a lleihau’r symiau a ryddheir o nwyon tŷ gwydr, cyfansoddion organig anweddol a sylweddau eraill sy’n niweidio iechyd a’r amgylchedd, a

  • rhoi sylw dyladwy i’r defnydd o gynhyrchion eildro, ar yr amod nad ydynt yn amharu ar y gallu i gyflawni’r Pwrpas neu ar yr amgylchedd, yn cynnwys y defnydd o ddeunydd pacio o bob math, y dylid gallu ei gael yn ôl i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu.

14.1.2 mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd drwy greu busnesau newydd, swyddi newydd a sgiliau newydd, cynyddu a chryfhau cadwyni cyflenwi, cynlluniau prentisiaeth o ansawdd da, rhoi terfyn ar anghydbwysedd tâl ar sail rhywedd, talu’n brydlon drwy ei drefniadau masnachol, a sicrhau cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig eu maint a Chymdeithas Sifil a’r rheini y mae pobl â nodweddion gwarchodedig yn berchen arnynt neu’n eu harwain, a

14.1.3 hyrwyddo cyfle cyfartal a lles drwy leihau’r bwlch cyflogaeth anabledd, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y gweithlu, gwella iechyd a lles, a gwella integreiddio cymunedol, a

14.1.4 cadwyni cyflenwi diogel a sicr sy’n rhydd o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl drwy arolygu ac archwilio, defnyddio’r Offeryn Asesu Caethwasiaeth Fodern, asesu a chofnodi risgiau, a mapio cadwyni cyflenwi.

15. Manylion cyswllt

Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu gyflwyno ceisiadau am daliadau, anfonwch e-bost at y tîm Taliadau Adsefydlu Awdurdodau Lleol yn ResettlementLAPaymentsTeam@homeoffice.gov.uk

Atodlen 1: cymorth adsefydlu ar ôl cyrraedd

1. Rhan 1 – datganiad o ganlyniadau blwyddyn 1

Darparu llety

1.1 Bydd y Derbynnydd yn trefnu llety ar gyfer y Buddiolwyr hynny y mae’n eu cynorthwyo a fydd:

1.1.1 yn bodloni safonau awdurdodau lleol, ac

1.1.2 ar gael pan fyddant yn cyrraedd a/neu’n cael eu hadleoli yn ardal yr awdurdod lleol, ac

1.1.3 yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

1.2 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod y llety wedi’i ddodrefnu yn briodol. Ni ddylid defnyddio’r Cyllid i gaffael eitemau moethus: mae hyn yn golygu y dylid defnyddio Cyllid a dderbynnir ar gyfer cyfleusterau storio bwyd, coginio ac ymolchi ond ni ddylai gynnwys darparu nwyddau gwyn neu nwyddau brown eraill, h.y. setiau teledu, chwaraewyr DVD nac unrhyw gyfarpar adloniant trydanol arall. Ni fydd hyn yn atal y Derbynnydd rhag darparu nwyddau moethus, gwyn neu frown ychwanegol i Fuddiolwyr drwy ffynonellau cyllid eraill.

1.3 Rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod y Buddiolwr wedi’i gofrestru gyda chwmnïau cyfleustodau a sicrhau bod trefniadau talu wedi’u gwneud (dim cyfrifon â mesuryddion rhagdalu â darnau arian neu gardiau)[footnote 5].

1.4 Bydd y Derbynnydd yn darparu cyfarwyddiadau am y llety a materion iechyd a diogelwch i’r holl newydd-ddyfodiaid gan gynnwys darparu pwynt cyswllt brys.

1.5 Gall Derbynwyr wneud defnydd o’r sector rhentu preifat a Llety’r Weinyddiaeth Amddiffyn i Deuluoedd y Lluoedd Arfog i gynnig llety os yw hynny’n addas. Os ysgwyddir unrhyw wariant o’r tariff at y diben hwn, rhaid iddo gyrraedd trothwyon tebyg o ran diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o arian cyhoeddus. Gellir defnyddio’r cyllid mewn ffyrdd hyblyg i gaffael llety yn y sector rhentu preifat gan gynnwys, ymysg pethau eraill:

  • Blaendaliadau

  • Cymhellion i landlordiaid

  • Ffioedd gosod

  • Dodrefn angenrheidiol

1.6 Ni fydd cyllid ar gael i awdurdodau lleol ar ben y symiau sydd wedi’u nodi yn y Tariff a Chyfarwyddiadau Cyllido presennol, ond mae anogaeth i awdurdodau lleol ei ddyrannu’n hyblyg ac fel y gwelont orau er mwyn defnyddio’r holl opsiynau llety. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r holl elfennau sydd wedi’u nodi yn y Datganiad o Ganlyniadau ac fe’u hanogir i ddyrannu gwariant yn synhwyrol.

Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun

1.7 Lle mae’r Derbynnydd yn cynorthwyo Buddiolwyr i ddod o hyd i’w llety eu hunain yn y sector rhentu preifat (drwy’r llwybr Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun), bydd angen iddo sicrhau bod pwyntiau 1.1 i 1.6 yn yr Atodlen hon wedi cael eu bodloni. Mae disgwyliad y bydd yr awdurdodau lleol sy’n derbyn yn gwneud ymdrech resymol i sicrhau bod llety rhent preifat a geir gan Fuddiolwyr yn cyrraedd safonau rhesymol yr awdurdod lleol, ei fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac mewn cyflwr rhesymol; ac y bydd yr holl deuluoedd sy’n chwilio am eu llety eu hunain yn cael canllawiau digonol i’w galluogi i ystyried safonau perthnasol yr eiddo.

1.8 Dylai’r Derbynnydd ymgysylltu â’r awdurdod lleol sy’n pontio (lle bo’n gymwys) i gadarnhau’r math o gymorth y bydd angen ei ddarparu i’r Buddiolwr. Dylai awdurdodau lleol ymdrechu i ddilyn yr egwyddorion yn y Protocol Gweithio Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun a gylchredwyd ar 26 Ebrill 2023.

1.9 Yn yr enghreifftiau a grybwyllwyd yn 1.1 ac 1.8, dylai’r Derbynnydd gytuno i ddarparu cymorth integreiddio llawn am 36 mis i’r Buddiolwr fel y gall y Derbynnydd gael mynediad at y cyllid hwn.

Trefniadau Derbyn Cychwynnol

1.10 Bydd y trefniadau ar gyfer cludo’r Buddiolwr i’r llety yn amrywio yn ôl a yw’r Buddiolwr hwnnw’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad dramor neu a yw’n aros mewn gwesty pontio. Lle bo’n briodol, bydd y Derbynnydd yn cwrdd â’r holl Fuddiolwyr a’u cyfarch pan fyddant yn cyrraedd o’r maes awyr perthnasol ac yn eu hebrwng i’w llety. Mewn amgylchiadau eraill, bydd yr Awdurdod yn trefnu iddynt gael eu cludo i’w llety. Pan fydd Buddiolwyr yn cyrraedd eu llety, dylid eu cyfarwyddo ynghylch sut i ddefnyddio’r amwynderau.

1.11 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod yr holl Fuddiolwyr yn derbyn pecyn o nwyddau groser i’w croesawu pan fyddant yn cyrraedd – dylid ystyried diwylliant a chenedligrwydd y Buddiolwr/Buddiolwyr wrth ddewis cynnwys y pecyn hwn.

1.12 Mae’r tariff blynyddol yn cynnwys darpariaeth i’r Derbynnydd ddarparu lwfans arian parod cychwynnol o £200 i bob Buddiolwr – gwneir hyn er mwyn sicrhau y bydd ganddo ddigon o arian i fyw wrth brosesu ei hawliad am fudd-daliadau. Os oes Buddiolwr sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau prif ffrwd, ni ddylid darparu’r lwfans arian parod cychwynnol hwn. Os yw Buddiolwr wedi’i adsefydlu mewn ardal lle mae Credyd Cynhwysol wedi’i gyflwyno, gall y Derbynnydd ddarparu taliad untro ychwanegol o hyd at £100 i bob Ffoadur, os oes angen. Dylid hawlio hyn fel Cost Eithriadol ar y ffurflen hawlio gychwynnol yn Atodiad A.

Cymorth Gwaith Achos

1.13 Dylai’r Derbynnydd sicrhau bod yr holl Fuddiolwyr yn cael ffynhonnell cyngor a chymorth benodedig i’w helpu i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau prif ffrwd, a’u cyfeirio at asiantaethau eraill sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys:

1.13.1 Helpu i ddosbarthu Trwyddedau Preswylio Biometrig ar ôl cyrraedd. Ar gyfer unrhyw Fuddiolwyr sy’n dod o wlad dramor, rhaid i’r Derbynnydd ddosbarthu cardiau Trwyddedau Preswylio Biometrig. Ni fydd hyn yn cynnwys y rheini sy’n aros mewn gwestai pontio a fydd eisoes wedi cael cardiau Trwyddedau Preswylio Biometrig.

1.13.2 Cofrestru gydag ysgolion lleol, neu yn achos Oedolion, dosbarthiadau iaith Saesneg a llythrennedd (gweler paragraffau 1.26 - 1.36 yn yr Atodlen hon), neu hyfforddiant priodol arall.

1.13.3 Mynychu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith lleol i gael asesiadau budd-daliadau (os oes angen),

1.13.4 Cofrestru gyda meddyg teulu lleol, a darparwyr gofal iechyd eraill yn unol ag anghenion meddygol a nodwyd,

1.13.5 Rhoi gwybod am wasanaethau iechyd meddwl priodol a gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr artaith ac atgyfeirio iddynt fel y bo’n briodol,

1.13.6 Darparu cymorth i gael mynediad at gyflogaeth.

1.14 Rhaid i’r Derbynnydd ddatblygu cynllun (neu fframwaith) cymorth integreiddio cynhwysfawr a chynlluniau cymorth integreiddio pwrpasol ar gyfer pob teulu neu unigolyn/Buddiolwr ar gyfer y deuddeg (12) mis cyntaf o gymorth er mwyn hwyluso integreiddio ac ymgynefino yn eu cartref/ardal newydd. Yn y cynllun, dylid ystyried y gwahanol anghenion sydd gan unigolion yn eu teuluoedd a sut i gwrdd â’r anghenion hyn ac anghenion unigolion ar sail eu nodweddion.

1.15 Drwy gydol y cyfnod o ddarparu cymorth adsefydlu, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael. Gellir hawlio unrhyw gostau cyfieithu ar y pryd ychwanegol a ysgwyddwyd, er enghraifft am fynychu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith neu Ofal Iechyd, fel Cost Eithriadol, ar yr amod bod yr Awdurdod wedi cymeradwyo hyn ymlaen llaw.

1.16 Darperir y canlyniadau uchod drwy gyfuniad o apwyntiadau swyddfa, sesiynau galw heibio, cymorthfeydd allgymorth ac ymweliadau cartref (yn rhithiol neu wyneb yn wyneb).

1.17 Rhaid i’r Derbynnydd gasglu hynny o wybodaeth am waith achos y cytunir arni i alluogi’r Awdurdod i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd wrth ddarparu’r Cynlluniau.

1.18 Os nad yw Buddiolwyr yn cael mynediad at wasanaethau allweddol, yn cynnwys achosion lle mae’n bosibl nad yw anghenion seiliedig ar nodweddion gwarchodedig yn cael eu diwallu neu lle mae derbynwyr yn pryderu fel arall am les Buddiolwyr neu eu dibynyddion, gofynnir i Dderbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol.

Gofynion ar gyfer Buddiolwyr sydd ag anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol asesedig

1.19 Er mwyn hwyluso camau gan y Derbynnydd i wneud trefniadau ychwanegol sydd eu hangen, fel addasiadau i eiddo (gweler hefyd Atodiad D), ar gyfer pob Buddiolwr y nodwyd y posibilrwydd bod ganddo anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol, bydd yr Awdurdod yn sicrhau, hyd y gellir, fod yr anghenion hyn wedi’u nodi’n glir a’u cyfleu i’r Derbynnydd o leiaf bedwar deg dau (42) Diwrnod cyn i bob Buddiolwr gyrraedd y DU. Os yw Buddiolwr eisoes yn preswylio mewn llety dros dro yn y DU, rhoddir y wybodaeth hon i’r Derbynnydd cyn gynted ag y gellir er mwyn iddo allu gwneud trefniadau angenrheidiol.

1.20 Lle nad yw anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol yn cael eu nodi tan ar ôl i’r Buddiolwr gyrraedd y DU, bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau prif ffrwd priodol cyn gynted â phosibl.

1.21 Pan nodir materion sensitif (gan gynnwys materion diogelu neu achosion o gam-drin domestig, trais neu droseddoldeb) gan yr Awdurdod, bydd yr Awdurdod yn hysbysu’r Derbynnydd ar unwaith, ac nid hwyrach nag un (1) Diwrnod, ar ôl iddo dderbyn y wybodaeth.[footnote 6]

Darparu Addysg i Rai dan 18 oed

1.22 Mae dyletswydd statudol ar y Derbynnydd i sicrhau bod lleoedd addysg ar gael ar gyfer plant oedran ysgol.

1.23 Er mwyn cynorthwyo’r Derbynnydd i gyflawni’r rhwymedigaeth hon, bydd yr Awdurdod yn talu Cyllid mewn perthynas ag unrhyw Fuddiolwr rhwng 3 a 18 mlwydd oed (gan gynnwys y Buddiolwyr ACRS hynny sy’n dod i mewn o dan y Cynllun Noddi Cymunedol) er mwyn bodloni’r gofynion o ran:

1.23.1 darparu addysg mewn sefydliadau a ariennir gan y wladwriaeth; ac

1.23.2 cyflawni rhwymedigaethau statudol y Derbynnydd ynghylch asesu Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (SEND), lle telir costau’r asesiad hefyd ar ôl ystyried pob achos ar wahân.

1.24 Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (yn cynnwys ysgolion, academïau, ysgolion rhydd a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Buddiolwyr yn y grwpiau oedran perthnasol.

1.25 Gellir gwneud taliadau ychwanegol pellach hefyd er mwyn talu Costau Eithriadol angenrheidiol am ofal cymdeithasol, lle mae amgylchiadau’n dangos bod rheswm cryf dros wneud hynny. Bydd y rhain yn cael eu hasesu a’u talu ar ôl ystyried pob achos ar wahân.

Darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion

1.26 Diben hyfforddiant iaith yw sicrhau bod pob Buddiolwr sy’n Oedolyn yn gallu symud ymlaen tuag at lefel rhuglder sydd ei hangen i fyw o ddydd i ddydd; hyrwyddo integreiddio; a chynorthwyo’r rheini sy’n adsefydlu yn y DU i symud ymlaen tuag at hunangynhaliaeth, gan gynnwys cael mynediad at wasanaethau neu ymuno â’r gweithlu.

1.27 Rhaid i’r Derbynnydd gynnal asesiad o alluoedd iaith Saesneg pob Buddiolwr sy’n Oedolyn i benderfynu ar ei anghenion hyfforddi; dylid cynnal yr asesiad hwn cyn gynted â phosibl. Dylid hysbysu Buddiolwyr sy’n Oedolion am lefel yr asesiad ohonynt. Ar sail yr asesiad, dylid penderfynu a yw Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol, a lle y dylid defnyddio Hyfforddiant Iaith Anffurfiol i’w ategu, neu i fod yn sylfaen ar gyfer Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Y gofyniad sylfaenol yw bod Buddiolwyr sy’n Oedolion yn gallu cael cyfle i ymarfer sgwrsio i gadarnhau/ategu eu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol.

1.28 Os credir bod Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol yn ôl yr asesiad o Fuddiolwr sy’n Oedolyn, dylai’r Buddiolwr hwnnw allu derbyn o leiaf wyth (8) awr o hyfforddiant yr wythnos o fewn un (1) Mis ar ôl cyrraedd neu, yn achos y rheini sydd eisoes yn y DU, ar ddechrau cyfnod cymorth y Derbynnydd. Dylid darparu hyn i Fuddiolwyr sy’n Oedolion nes eu bod wedi cyrraedd Lefel Mynediad 3 neu am o leiaf ddeuddeg (12) mis ar ôl dechrau cyfnod cymorth y Derbynnydd (pa un bynnag sydd gynharaf).)

1.29 Bydd gwahanol Fuddiolwyr sy’n Oedolion yn wynebu rhwystrau gwahanol wrth gymryd rhan mewn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn ôl eu hamgylchiadau penodol. Felly, nid oes un gweithgaredd unffurf y dylid defnyddio’r Cyllid hwn ar ei gyfer. Yn hytrach, dylai’r Derbynnydd ei ddefnyddio ar sail ei wybodaeth am natur y ddarpariaeth leol bresennol a chan ystyried amgylchiadau ac anghenion penodol pob Buddiolwr sy’n Oedolyn. Gweithgareddau y gellir ystyried eu cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i’r rhain, yw:

1.29.1 Cyllido taliadau am Hyfforddiant Iaith Ffurfiol prif ffrwd.

1.29.2 Comisiynu dosbarthiadau Hyfforddiant Iaith Ffurfiol ar wahân ar gyfer Buddiolwyr sy’n Oedolion neu gyllido ESOL ar lefelau uwch ar gyfer y rhai sydd â lefel uwch o ruglder yn y Saesneg.

1.29.3 Helpu i ddarparu o leiaf wyth (8) awr yr wythnos (Rhan 1, paragraff 1.28 o’r Atodlen 1 hon).

1.29.4 Hyfforddiant iaith neu baratoi ar gyfer profion rhugledd i’w helpu i gael mynediad at gyflogaeth, addysg bellach neu addysg uwch.

1.29.5 Comisiynu dosbarthiadau ar y lefel sy’n wynebu’r pwysau mwyaf yn yr ardal gan gytuno y bydd rhai o’r Buddiolwyr sy’n Oedolion yn eu mynychu – ynghyd â myfyrwyr eraill – a chan gytuno y bydd y capasiti ychwanegol a grëir yn caniatáu i Fuddiolwyr sy’n Oedolion ar lefelau eraill fynychu dosbarthiadau prif ffrwd.

1.29.6 Cyllido dosbarthiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau.

1.29.7 Talu am adnoddau a/neu ddarpariaeth ar-lein i ategu gwasanaethau wyneb yn wyneb, fel y gall Buddiolwyr gael mynediad at wahanol fathau o gymorth ESOL sy’n fwyaf addas i’w hanghenion.

1.30 Rhoddir blaenoriaeth i Gyllid ar gyfer cymryd rhan mewn darpariaeth ESOL. Fodd bynnag, os oes diffyg yn y ddarpariaeth sydd ar gael, gellir gwario hyd at 25% o’r Cyllid i gynyddu seilwaith ESOL, ac felly cynyddu cyfraddau cyfranogi yn y dyfodol, lle credir bod hynny’n gwbl angenrheidiol. Gallai seilwaith ESOL gynnwys, er enghraifft, hyfforddi athrawon ESOL, prynu offer ac adnoddau a llogi ystafelloedd dosbarth. Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd am gyfran y gwariant ar seilwaith ESOL.

1.31 Gall rhai Buddiolwyr sy’n Oedolion wynebu mwy o anawsterau na’i gilydd wrth fynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Er enghraifft, efallai y bydd ganddynt gyfrifoldebau gofalu, anabledd neu’n ei chael yn anodd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Yn yr achosion hyn, mae’n bwysig bod camau yn cael eu cymryd i ddelio â’r rhwystrau hyn, felly gellir defnyddio 25% o’r elfen seilwaith ESOL yn y Cyllid (a ddisgrifiwyd ym mharagraff 1.23) i hyrwyddo gweithgareddau sy’n helpu i oresgyn rhwystrau hygyrchedd [dylid hawlio cyllid gofal plant ar wahân, fel y nodir yn Rhan 5].

1.32 Fodd bynnag, dylai’r Derbynnydd geisio defnyddio ffynonellau neu wasanaethau cyllid lleol neu ganolog eraill, lle bo’n bosibl.

1.33 Mewn achosion lle mae Buddiolwyr sy’n Oedolion yn cyrraedd y tu allan i amser tymor, fel ei bod yn anodd cael mynediad ar unwaith at Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, dylid darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol amgen i ddechrau o fewn un (1) mis ar ôl cyrraedd.

1.34 Mae darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol hefyd yn ddewis amgen addas mewn achosion lle mae’r asesiad o’r Buddiolwr yn dangos ei fod ar lefel cyn mynediad ESOL neu fod amgylchedd Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn rhwystr i hygyrchedd, na ellir ei ddatrys drwy ddefnyddio’r cyllid seilwaith a nodir ym mharagraff 1.30.

1.35 Mewn achosion fel y rheini a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 1.26 a 1.27, dylai’r Derbynnydd gymell y Buddiolwr sy’n Oedolyn i dderbyn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn y dyfodol. Y rheswm am hyn yw na all Hyfforddiant Iaith Anffurfiol roi cymwysterau achrededig sy’n aml yn angenrheidiol i gael mynediad at gyflogaeth, astudio pellach neu hyfforddiant.

1.36 Mae swm ychwanegol o Gyllid ar gael hefyd i Dderbynwyr, i gynyddu mynediad gan Fuddiolwyr sy’n Oedolion at Hyfforddiant Iaith sy’n addas i’w gallu a’u hanghenion. Mae hyn wedi’i amlinellu yn Rhan 4 o’r Atodlen 1 hon. Taliad sengl yw hwn, i’w hawlio o fewn y 12 mis cyntaf wedi iddynt gyrraedd neu, ar gyfer y rheini sydd eisoes yn y DU, ar ddechrau cyfnod cymorth y Derbynnydd.

Gohirio neu Ganslo Dyfodiad

1.37 Os bydd oedi cyn i’r Buddiolwr gyrraedd, gall y Derbynnydd hawlio costau rhent eiddo gwag a ysgwyddwyd nes iddo gyrraedd. Dylai’r Derbynnydd fod yn ymwybodol bod y tariff wedi’i gyfrifo fel y bydd yn talu am gyfnod penodol o gostau eiddo gwag. Felly, mae costau eiddo gwag am bum deg chwech (56) diwrnod eisoes wedi’u cynnwys yn y tariff i alluogi Derbynwyr i sicrhau eiddo cyn i Fuddiolwyr gyrraedd.

1.38 Os bydd dyfodiad yn cael ei ganslo, bydd cyllid ar gael i’r rheini sy’n ysgwyddo costau (e.e., am gostau rhent eiddo gwag a gwneud trefniadau) o ganlyniad i ganslo dyfodiad os na ellir defnyddio’r eiddo ar gyfer Buddiolwr arall. Bydd yr Awdurdod yn derbyn hawliadau am gostau eiddo gwag ar gyfer yr eiddo cysylltiedig. Ystyrir costau eiddo gwag:

  • O’r dyddiad y daethoch yn atebol am y rhent neu o’r dyddiad y cafodd yr eiddo ei gynnig yn ffurfiol i’r Awdurdod (pa un bynnag sydd hwyraf),

  • Hyd at ddyddiad yr e-bost gan yr Awdurdod yn eich hysbysu i ryddhau’r eiddo, neu

  • Mewn achosion lle’r ydych eisoes wedi hysbysu’r Awdurdod nad oeddech bellach yn gallu dal yr eiddo, ystyrir costau eiddo gwag hyd at ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.

Proses Cyllido a Hawliadau

1.39 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbynnydd wrth gyflawni’r canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 o’r Atodlen 1 hon (paragraffau 1.1 i 1.25 yn gynwysedig), ar gyfradd safonol y pen y flwyddyn ar gyfer pob Buddiolwr fel a ganlyn:

Costau unedau blwyddyn 1[footnote 7]



Hawlydd Budd-daliadau sy’n Oedolyn (£)

Oedolion Eraill (£)

Plant 5-18 oed (£)

Plant 3-4 oed (£)

Plant dan 3 oed (£)
Costau Awdurdodau Lleol
10,500

10,500

10,500

10,500

10,500
Addysg
0

0

4,500

2,250

0
Cyfansymiau
10,500

10,500

15,000

12,750

10,500

1.40 Bydd taliadau wedi’u seilio ar oedran y Buddiolwr wrth gyrraedd ardal y Derbynnydd.

1.41 Unwaith y bydd yr uchafsymiau hyn wedi’u cyrraedd, ni fydd yr Awdurdod yn talu unrhyw gyllid pellach i’r Derbynnydd ac eithrio unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Eithriadol (gweler Telerau ac Amodau, Cymalau 6.12 a 6.13).

1.42 Ar y Diwrnod y mae’r Derbynnydd yn dechrau darparu cymorth yn unol â’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn, bydd y Derbynnydd yn gymwys i hawlio 40% o gyfanswm y swm rhagamcanol blynyddol y pen ar gyfer y person hwnnw. Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol berthnasol (Atodiad A).

1.43 Bydd y gweddill yn ddyledus mewn dau randaliad cyfartal ar ddiwedd y pedwerydd (4ydd) a’r wythfed (8fed) Mis yn dilyn dyfodiad y Buddiolwr i’r DU.

1.44 Mae’r tariff y pen yn cynnwys elfen i’r Derbynnydd i dalu costau eiddo gwag am hyd at bum deg chwech (56) Diwrnod (h.y. wyth wythnos). Eglurir y broses ar gyfer hawlio costau eiddo gwag ychwanegol/eithriadol yn Atodiad E.

1.45 Mae’r Cyllid a dderbynnir i gael ei gyfuno a’i reoli ar gyfer pawb o’r rheini y dynodwyd eu bod yn cael cymorth gan y Derbynnydd perthnasol.

1.46 Bydd yr Awdurdod yn darparu Cyllid ychwanegol i dalu am gyflawni cyfrifoldebau SEND y Derbynnydd tuag at unrhyw Fuddiolwr, gan ystyried pob achos ar wahân fel Cost Eithriadol.

1.47 Lle mae amgylchiadau sy’n dangos bod rheswm cryf dros wneud hynny, gall y Derbynnydd ofyn am gyllid ychwanegol at ddibenion addysgol mewn perthynas ag unrhyw Fuddiolwr sy’n 18 oed neu’n iau ac sydd mewn addysg amser llawn. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, fel Cost Eithriadol, a bydd y penderfyniad terfynol am y taliad, y cyfnod a’r gyfradd (y gellir ei haddasu o bryd i’w gilydd) yn cael ei wneud gan y Awdurdod.

1.48 Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.

2. Rhan 2 – datganiad o ganlyniadau blwyddyn 2 I 3

Cyllid Blwyddyn 2 – 3

2.1 Mae Cyllid Blwyddyn 2 – 3 wedi’i fwriadu i fod yn gyfraniad at y costau y mae’r Derbynnydd yn eu hysgwyddo wrth barhau cyfranogiad y Buddiolwr yn y Cynlluniau.

2.2 Er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf posibl, mater i’r Derbynnydd fydd penderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r Cyllid a hawlir i gynorthwyo’r Buddiolwr i integreiddio a dod yn hunangynhaliol. Dylai’r cymorth fod yn unol â’r nodau integreiddio person-ganolog a nodwyd yn y cynllun cymorth integreiddio personol a dylai gynnwys mesurau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ar gyfer integreiddio parhaus yn y cymunedau y mae’r Buddiolwr wedi’i adsefydlu ynddynt; symud ymlaen at gyflogaeth a sicrhau cyflogaeth (a all gynnwys cymorth cyflogaeth teilwredig a hyfforddiant iaith ffurfiol neu anffurfiol ar gyfer sector penodol); costau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant; neu gymorth addysgol ychwanegol. Dylid teilwra’r cymorth gan ystyried yn benodol y ffordd orau i helpu’r Buddiolwr i ddelio â rhwystrau penodol rhag integreiddio yn ogystal â rhoi sylw dyladwy i nodweddion gwarchodedig.

2.3 Dylai’r Derbynnydd allu egluro sut mae’n cynorthwyo’r Buddiolwr ac yn hyrwyddo nodau’r Cynlluniau drwy gofnodi’r math(au) o gymorth a ddarperir. Dylid gwneud hyn gan gyfeirio at gynllun a nodau integreiddio personol yr unigolyn.

Proses Cyllido a Hawliadau

2.4 Gall y Derbynnydd hawlio Cyllid oddi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (h.y. 12 Mis) ar ôl cychwyn darparu cymorth o dan y Cynlluniau, ac ar gyfer blynyddoedd dilynol tan ddiwedd y drydedd flwyddyn.

2.5 Prif egwyddorion y Cyllid yw:

2.5.1 ei fod yn darparu tariff blynyddol ar gyfer pob Buddiolwr (gweler tabl 2.6),

2.5.2 nad yw’n cael ei glustnodi,

2.5.3 ei fod yn darparu ar gyfer gwerthuso ac adrodd ar raglenni, a

2.5.4 gellir ei gyfuno rhwng yr holl Fuddiolwyr y mae’r Derbynnydd yn eu cynorthwyo.

2.6 Gall y Derbynnydd hawlio hyd at ddau (2) daliad blynyddol ar gyfradd safonol am bob Buddiolwr y mae’n ei gynorthwyo:

Blwyddyn 2 I 3 – costau unedau [footnote 8]


Cyfnod

13-24 mis

25-36 mis
Tariff
£6,000

£4,020

2.7 Dim ond un hawliad y flwyddyn ar gyfer pob Buddiolwr y bydd yr Awdurdod yn ei gymeradwyo.

2.8 Ni fydd yr Awdurdod yn talu unrhyw Gyllid pellach i’r Derbynnydd ar wahân i unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Eithriadol (gweler Telerau ac Amodau, Cymalau 6.12 a 6.13).

2.9 Rhaid cyflwyno pob cais am Gyllid Blwyddyn 2 - 3 yn ystod ail chwarter y flwyddyn ariannol (h.y. o 1 Gorffennaf, ond ym mhob achos erbyn 30 Medi) yn yr un flwyddyn: os cyflwynir ffurflenni’n hwyr , gall hynny arwain at ohirio neu wrthod ceisiadau am daliadau. Ni wneir taliadau i Dderbynwyr ond ar gyfer yr holl Fuddiolwyr sy’n preswylio yn ardal yr awdurdod lleol ar 30 Medi. Os nad yw’r Buddiolwr yn preswylio ar y dyddiad hwnnw, yna gwrthodir gwneud taliad. Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi’i fodloni bod y cais am daliad wedi’i gyflwyno’n gywir, bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i wneud taliadau Cyllid sy’n ddyledus yn ystod trydydd chwarter yr un flwyddyn ariannol (h.y. o 1 Hydref, ond heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr).

2.10 Bydd y Cyllid yn cael ei dalu drwy un taliad blynyddol i’w hawlio ar yr adegau sydd wedi’u nodi yn y tabl canlynol:

Cyllid blynyddoedd 2-3 – proffil talu ar gyfer dyfodiadau ACRS ac ARAP

Dyfodiaid a fydd yn derbyn cymorth gan yr Awdurdod Lleol rhwng 22/06/2021 a 21/06/2022

Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 2 - 21/06/2023

Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 3 - 21/06/2024

Dyfodiaid a fydd yn derbyn cymorth gan yr Awdurdod Lleol rhwng 22/06/2022 a 21/06/2023

Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 2 - 21/06/2024

Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 3 - 21/06/2025

2.11 Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.

3. Rhan 3 – datganiad o ganlyniadau I dderbynwyr mewn perthynas â noddi cymunedol I fuddiolwyr ACRS yn unig

3.1 Un agwedd allweddol ar y Cynllun Noddi Cymunedol (y ‘Cynlluniau’) yw’r gofyniad i bob Noddwr cymeradwyedig gael cefnogaeth gan ei awdurdodau statudol perthnasol, gan gynnwys y Derbynnydd.

Ad-dalu am Gostau Addysg

3.2 Yn unol â’i ddyletswydd statudol, bydd hawl gan y Derbynnydd i hawlio Cyllid tuag at gostau addysgol a ysgwyddir wrth gynorthwyo plant o oedran ysgol hyd at y cyfraddau uchaf y pen a ganlyn:

Costau unedau (£GBP) ar gyfer y cynlluniau[footnote 9]



Hawlydd Budd-daliadau sy’n Oedolyn

Oedolion Eraill

Plant

5-18 oed

Plant

3-4 oed

Plant dan 3 oed
Blwyddyn 1

Addysg



0



0



4,500



2,250



0

3.3 Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (yn cynnwys ysgolion, academïau, ysgolion rhydd a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Buddiolwyr yn y grwpiau oedran perthnasol.

3.4 Gall y Derbynnydd ofyn am gyllid ychwanegol at ddibenion addysgol mewn perthynas â’r holl Fuddiolwyr a gynorthwyir sy’n 18 mlwydd oed neu’n iau ac sydd mewn addysg amser llawn, lle mae amgylchiadau sy’n dangos bod rheswm cryf dros wneud hynny. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, fel Cost Eithriadol, a bydd y penderfyniad terfynol am y taliad, y cyfnod a’r gyfradd (y gellir ei haddasu o bryd i’w gilydd) yn cael ei wneud gan y Awdurdod.

Ad-dalu am Gostau Cymorth eraill yn ystod Blynyddoedd 1 a 2

3.5 Os na fydd Noddwr, am unrhyw reswm, yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau wrth ddarparu Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS), bydd yn ofynnol i’r Derbynnydd ddod i’r adwy a darparu’r cymorth angenrheidiol yn:

3.5.1 Y deuddeg (12) Mis cyntaf (Blwyddyn 1), yn cynnwys darparu llety, cymorth gwaith achos, addysg (yn cynnwys Hyfforddiant Iaith), a gofal cymdeithasol, fel y disgrifir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ac yn

3.5.2 Yr ail gyfnod o ddeuddeg (12) Mis (Blwyddyn 2), darparu llety ac unrhyw gymorth arall y mae’r Derbynnydd yn credu ei fod yn briodol, fel y disgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

3.6 Os na fydd Noddwr yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau contractiol, neu gynorthwyo fel arall y rheini a adsefydlir o dan yr ACRS a’u dibynyddion agos, yna gall Derbynnydd hefyd fod yn gymwys i hawlio Cyllid ar gyfer pob person a gynorthwyir hyd at y cyfraddau uchaf safonol y pen a ganlyn:

Costau unedau (£GBP) ar gyfer y cynlluniau[footnote 10]



Hawlydd Budd-daliadau sy’n Oedolyn

Oedolion Eraill

Plant

5-18 oed

Plant

3-4 oed

Plant dan 3 oed
Blwyddyn 1

Costau Adsefydlu

10,500

10,500

10,500

10,500

10,500
Blwyddyn 2

Costau Adsefydlu

6,000

6,000

6,000

6,000

6,000

3.7 Cydnabyddir y byddai Noddwr eisoes wedi gallu cyflawni rhai o’i rwymedigaethau mewn perthynas ag anghenion cymorth yr unigolyn neu’r teulu. Mater i’r Derbynnydd, felly, fydd asesu a phenderfynu ar anghenion pob person ar sail y canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 a Rhan 2 o’r Atodlen 1 hon.

3.8 Penderfynir union werth y Cyllid ac amseriad y taliad drwy ystyried pob achos ar wahân ar sail amgylchiadau pob person y mae’r Derbynnydd yn hawlio ar ei gyfer.

3.9 Bydd swm y Cyllid a ddarperir hyd at yr uchafsymiau a nodir yn dibynnu ar y cyfnod y bydd gofyn i’r Derbynnydd ddarparu cymorth i’r unigolyn neu’r teulu. Fel arfer, bydd hyn fel a ganlyn:

3.9.1 Mwy na chwe (6) Mis – gwerth llawn

3.9.2 Llai na chwe (6) Mis – 50% o’r gwerth

Cyllid ar gyfer Blwyddyn 3

3.10 Bydd y Derbynnydd yn gymwys i hawlio am gyfraniadau at gostau o dan y cyfnodau perthnasol a ddisgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen 1 hon, i’w penderfynu fesul achos.

4. Rhan 4 – mynediad at ESOL: datganiad o ganlyniadau ar gyfer cyllid ychwanegol I gefnogi darpariaeth iaith Saesneg I fuddiolwyr sy’n oedolion

Cynyddu Mynediad at Hyfforddiant Iaith

4.1 Fel y nodwyd yn Rhan 1, paragraff 1.30 o’r Atodlen 1 hon, prif bwrpas y Cyllid ychwanegol sydd ar gael yw cynyddu mynediad gan unrhyw Fuddiolwr sy’n Oedolyn at Hyfforddiant Iaith Ffurfiol sy’n addas i’w allu a’i anghenion.

4.2 Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer Hyfforddiant Iaith Anffurfiol (Rhan 1, paragraff 1.27 o’r Atodlen 1 hon).

4.3 Yn unol â chanllawiau presennol ar arferion da ar gyfer adsefydlu, y bwriad yw i’r Cyllid hwn gael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hyrwyddo integreiddio a’r siwrnai at ddod yn hunangynhaliol.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

4.4 Mae’r Awdurdod wedi llunio set o ddangosyddion i asesu effeithiolrwydd y Cyllid wrth gyflawni ei ganlyniad. Y Ffactorau Llwyddiant Hanfodol hyn yw:

4.4.1 taliadau a dderbyniwyd,

4.4.2 y rhaniad rhwng gwariant ar gyfranogi a gwariant ar ddarpariaeth heb gyfranogi (sydd wedi’i ddisgrifio yn Rhan 1, paragraffau 1.30 -1.31 o’r Atodlen hon)

4.5 Yn ogystal â hyn, dylai Derbynwyr adrodd ar y canlynol:

4.5.1 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi cynyddu capasiti lleol i ddarparu ESOL? A gafwyd unrhyw rwystrau rhag darparu nad yw’r Cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

4.5.2 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi gwella mynediad at ESOL? A gafwyd unrhyw rwystrau i hygyrchedd nad yw’r Cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

4.5.3 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi helpu Buddiolwyr sy’n Oedolion i integreiddio’n well a gwneud cynnydd at ddod yn hunangynhaliol, gan gynnwys yn y gweithle?

4.6 Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses fonitro flynyddol ar ddiwedd y flwyddyn.

Proses Cyllido a Hawliadau

4.7 Gellir hawlio taliad y pen am bob Buddiolwr sy’n Oedolyn y mae’r Derbynnydd yn darparu hyfforddiant iaith ar ei gyfer ar y gyfradd safonol ganlynol:

Costau Unedau (£GBP)[footnote 11] (gweler paragraff 4.11 isod)

  • Buddiolwr sy’n oedolyn (19+ oed ar ddechrau’r cyfnod o gymorth gan y Derbynnydd): £850 – hawlio pan fydd y cymorth gan y Derbynnydd yn dechrau

  • Buddiolwr sy’n oedolyn (18+ oed ar ddechrau’r cyfnod o gymorth gan y Derbynnydd): £850 – hawlio unwaith y bydd y Buddiolwr yn cyrraedd 19 blwydd oed

4.8 Bydd Noddwyr Cymunedol yn hawlio’r taliadau y pen hyn am y rheini y dynodwyd eu bod yn Fuddiolwr o dan yr ACRS sy’n cael cymorth ganddynt.

4.9 Gall Derbynnydd ‘gyfuno’ unrhyw Gyllid a hawlir, ar lefel leol neu ranbarthol, er mwyn cynyddu ei allu i nodi gofynion hyfforddiant iaith unigolion yn effeithiol, bod yn ymatebol i’r anghenion hyn drwy’r trefniadau darparu mwyaf priodol a’r ystod o ddarparwyr mewn ardal leol.

4.10 Wedi i Fuddiolwr gael ei asesu’n gymwys (Rhan 1, paragraff 1.27 o’r Atodlen 1 hon), bydd y Derbynnydd yn gallu cyflwyno hawliad.

4.11 Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol berthnasol (Atodiad A) er mwyn cael taliad. Dylid rhoi ESOL yng ngholofn O yn yr Atodiad a’r tariff safonol o £850 yng ngholofn P ar gyfer pob Buddiolwr y mae’r Cyllid yn cael ei hawlio ar ei gyfer.

4.12 Gellir hawlio’r Cyllid ESOL ychwanegol o £850 am bob Buddiolwr sy’n Oedolyn sydd, ar ddechrau cyfnod y cymorth gan y Derbynnydd, yn 19+ mlwydd oed neu’n cyrraedd 19 blwydd oed yn y 12 mis cyntaf yn y cyfnod cymorth hwnnw.

4.13 Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.

5. Rhan 5 – mynediad at ESOL: datganiad o ganlyniadau ar gyfer cynigion cyllido I ddelio â rhwystrau I fynediad, yn enwedig cymorth gofal plant

Canlyniadau

5.1 Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod Ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, yn cynnwys gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill, y gallu i gyfuno cyflogaeth a darpariaeth iaith Ffurfiol a’r angen am gludiant.

5.2 Mae oedi cyn dechrau dysgu Saesneg ar ôl cyrraedd yn ei gwneud yn fwy anodd i’r Buddiolwr (yn enwedig menywod â theuluoedd) integreiddio a dod yn hunangynhaliol. Mae tynnu’r rhwystr hwn yn allweddol i gynorthwyo unrhyw Fuddiolwr i ymgartrefu’n effeithiol yn ei gymuned newydd.

5.3 Mae’r Awdurdod yn sicrhau bod Cyllid ar gael i helpu Derbynwyr, boed yn awdurdodau sy’n derbyn, yn Noddwyr Cymunedol a/neu’n gyrff cydgysylltu rhanbarthol (h.y. Partneriaethau Ymfudo Strategol) ledled y DU i fynd i’r afael â’r broblem hon.

5.4 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys gan y Derbynnydd i oresgyn rhwystrau er mwyn galluogi’r Buddiolwr i gymryd rhan mewn hyfforddiant ESOL.

5.4 Er mwyn cael mynediad at y Cyllid, bydd gofyn i ddarpar Dderbynwyr gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau ar y ffurflen gais sydd ar gael ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

5.6 Gallai prosiectau ddarparu:

5.6.1 mathau traddodiadol o ofal plant fel meithrinfeydd neu gylchoedd chwarae, neu

5.6.2 gofal plant teilwredig ar yr un safle â’r dosbarthiadau ESOL, neu

5.6.3 dulliau arloesol fel darparu digwyddiadau dysgu teuluol i helpu oedolion i ddysgu Saesneg lle maent yn amharod neu heb gyfle i adael eu plant. Rhaid i brosiectau dysgu teuluol gwrdd â’r ddau ofyniad o ddarparu ar gyfer plant a darparu hyfforddiant iaith i oedolion, neu

5.6.4 darpariaeth symudol i ddod â gwersi’n nes at ddysgwyr sydd heb gyfle i fynychu darpariaeth brif ffrwd. Gallai fod yn agosach i gartrefi Ffoaduriaid, i ddarparwyr gofal plant neu fathau eraill o ofal, i leoedd cyflogaeth a/neu mewn lleoliad sydd â gwell cysylltiad â llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus presennol, neu

5.6.5 mathau o gludiant nad ydynt yn cael eu cynnig eisoes gan yr Adran Drafnidiaeth, awdurdodau lleol neu ffrydiau cyllido eraill.

5.7 Nid yw’r rhestr ym mharagraff 5.6 yn cynnwys pob posibiliad. Gall yr Awdurdod ddarparu rhagor o ganllawiau ar wariant Cymwys ac Anghymwys os gwneir cais.

Cyllid a Hawliadau

5.8 Er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei ddosbarthu’n deg, bydd yr Awdurdod yn asesu cynigion ar sail meini prawf sy’n ymwneud â dynodi anghenion a chanlyniadau. Bydd yr Awdurdod yn rhoi gwybod am fanylion y broses ymgeisio i Awdurdodau Lleol, Partneriaethau Ymfudo Strategol a grwpiau Noddi Cymunedol ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Gellir gwneud ceisiadau ychwanegol bob chwarter yn ystod y flwyddyn ariannol. Dylid nodi na fydd cyllid ychwanegol ar gael ar ôl dyrannu uchafswm y cyllid sydd ar gael.

5.9 Mae manylion ar gael am y meini prawf asesu a sut i ymgeisio am gyllid gofal plant ESOL yn ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

Uchafswm y Cyllid sydd ar gael ledled y DU ar gyfer prosiectau Mynediad at ESOL (Gofal Plant) yn 2023/24[footnote 12]

Cyllid gofal plant Mynediad at ESOL

ACRS - £600,000

ARAP - £600,000

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

5.10 Mae’r Awdurdod wedi llunio set o ddangosyddion i asesu effeithiolrwydd y Cyllid wrth gyflawni ei ganlyniad.

5.11 Dylai Derbynwyr adrodd ar y canlynol:

5.11.1 Cyfanswm yr oedolion a gafodd gymorth i dderbyn hyfforddiant ESOL o ganlyniad i’r cyllid hwn.

5.11.2 Gwersi a ddysgwyd o ran effeithiolrwydd y prosiect, ac unrhyw argymhellion am fesurau ychwanegol i gynyddu cyfranogiad mewn hyfforddiant ESOL.

5.12 Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses fonitro flynyddol ar ddiwedd y flwyddyn. Gall yr Awdurdod hefyd ofyn am wybodaeth fonitro a gwerthuso ychwanegol y tu allan i’r broses hon, gan gynnwys, er enghraifft, astudiaethau achos sy’n dangos sut mae wedi bod yn llesol i unigolion penodol.

5.13 Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y ffrwd gyllido hon, cysylltwch â: ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

6. Rhan 6 – mynediad at gyllid gan noddwyr cymunedol

Ad-dalu am Gyllid Ychwanegol i Gefnogi Darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS)

6.1 Gall Noddwyr Cymunedol hawlio Cyllid Ychwanegol i gefnogi darpariaeth iaith Saesneg ar gyfer Buddiolwyr sy’n Oedolion a adsefydlir o dan yr ACRS yn unol â Rhan 4, paragraffau 4.7 i 4.13 yn yr Atodlen hon.

Costau unedau (£GBP) ar gyfer cynlluniau

  • Buddiolwr sy’n oedolyn (19+ oed ar ddechrau’r cyfnod o gymorth gan y grŵp Noddi Cymunedol): £850 – hawlio pan fydd y cymorth gan y grŵp Noddi Cymunedol yn dechrau

  • Buddiolwr sy’n oedolyn (18+ oed ar ddechrau’r cyfnod o gymorth gan y grŵp Noddi Cymunedol): £850 – hawlio pan fydd y cymorth gan y grŵp Noddi Cymunedol yn dechrau

6.2 Gellir hawlio’r Cyllid ESOL ychwanegol o £850 am bob Buddiolwr sy’n Oedolyn a adsefydlir o dan yr ACRS sydd, ar ddechrau cyfnod y cymorth gan y Derbynnydd, yn 19+ blwydd oed neu’n cyrraedd 19 blwydd oed yn y 12 mis cyntaf yn y cyfnod cymorth hwnnw.

6.3 Gall Noddwyr Cymunedol wneud cais hefyd am y cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal plant i hwyluso cyfranogi mewn gweithgarwch Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, fel y nodwyd yn Rhan 5 o’r Atodlen 1 hon.

7. Rhan 7 – cymorth I gael llety sefydlog: datganiad o ganlyniadau ar gyfer cyllid tai hyblyg

Canlyniadau

7.1. Mae’r cyllid hwn ar gael i helpu’r Derbynnydd (boed yn Awdurdod Lleol gwesty pontio neu’n Awdurdod Lleol sy’n derbyn) i symud Buddiolwyr i lety sefydlog. Gellir defnyddio’r cyllid hwn mewn ffordd hyblyg i symud Buddiolwyr o westai pontio neu lety dros dro i lety sefydlog priodol ar y cyfle cynharaf.

7.2. Bydd y Derbynnydd yn rhydd i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r Cyllid ond, i ddibenion monitro a gwerthuso, rhaid iddo allu dangos bod y Cyllid wedi’i ddefnyddio i gynorthwyo Buddiolwyr i symud i lety sefydlog priodol.

7.3. At ddibenion y cyllid hwn, y diffiniad o lety sefydlog yw llety sy’n cyrraedd safonau’r awdurdod lleol ac sy’n cael ei ystyried yn addas a chynaliadwy. Gall hyn gynnwys, ymysg mathau eraill o eiddo, eiddo yn y sector rhentu preifat (a nodwyd drwy’r llwybr Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun), eiddo a nodwyd drwy’r broses paru, Llety i Deuluoedd yn y Lluoedd Arfog neu dai Barratt.

7.4. Gellir defnyddio’r cyllid hwn yn y ffyrdd canlynol (ymysg eraill):

7.4.1. Cymorth i gael mynediad i’r sector rhentu preifat (er enghraifft, drwy’r llwybr Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun), yn cynnwys (ymysg pethau eraill):

  • Cymhellion i landlordiaid (fel taliadau rhent ymlaen llaw)

  • Cymorth o ran gwarantau rhent

  • Blaendaliadau

  • Talu rhent ar y dechrau, neu ddarparu symiau atodol rheolaidd ar gyfer rhent lle bo angen

  • Dodrefn

7.4.2. Gellir defnyddio’r cyllid hefyd i gynorthwyo’r Buddiolwr drwy roi cyngor a chyfarwyddyd ar gadw tenantiaeth, er enghraifft, darparu gwybodaeth am sut i drefnu i dalu biliau a chynnal a chadw eiddo.

7.4.3. Cymorth ar ffurf adnoddau sy’n rhoi’r gallu i gaffael, paru a/neu reoli eiddo dros y Buddiolwr, yn cynnwys drwy gynlluniau cysylltiedig fel Cronfa Tai yr Awdurdod Lleol (LAHF) neu Lety i Deuluoedd yn y Lluoedd Arfog.

7.4.4. Ymgysylltu â sefydliadau eraill i helpu i ddod o hyd i lety sefydlog addas.

7.4.5. Gwariant cyfalaf i ddod â llety sefydlog ymlaen (yn cynnwys ymysg pethau eraill):

  • Adnewyddu a/neu addasu adeiladau preswyl neu amhreswyl sy’n eiddo i awdurdodau lleol, yn cynnwys llety gwarchod nas defnyddir.

  • Caffael, adnewyddu a/neu addasu adeiladau preswyl neu amhreswyl nad ydynt yn eiddo i awdurdodau lleol, yn cynnwys adfer defnydd o eiddo gwag neu adfeiliedig.

  • Caffael eiddo parod wedi’i adeiladu o’r newydd, yn cynnwys caffael ac addasu eiddo rhanberchnogaeth.

  • Datblygu eiddo newydd, yn cynnwys drwy Ddulliau Adeiladu Modern.

  • Darparu cyllid cyfatebol ar gyfer eiddo LAHF i deuluoedd o Affganistan.

  • Dodrefn.

7.5. Mae swm o £7,100 o gyllid ar gael ar gyfer pob Buddiolwr i’w ddefnyddio mewn ffordd hyblyg i gyflawni’r canlyniadau uchod.

7.6. Gellir hawlio Cyllid unwaith y bydd wedi’i gadarnhau bod Buddiolwyr wedi symud i lety sefydlog o lety dros dro neu lety pontio a lle mae awdurdod lleol yn darparu cymorth i’r Buddiolwr i gael mynediad i’r llety hwn.

7.7. Unwaith y bydd Cyllid wedi’i hawlio, caiff ei dalu mewn un cyfandaliad.

7.8. Unwaith yn unig y gellir hawlio Cyllid ar gyfer pob Buddiolwr. Mae hyn yn gymwys, er enghraifft, lle mae’r Buddiolwr yn symud rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Os bydd nifer o awdurdodau lleol yn ysgwyddo gwariant, yna dylid datrys hyn yn lleol.

7.9. Rhaid i’r Buddiolwr fod mewn llety pontio neu lety dros dro ar 1 Ebrill 2023 er mwyn i’r awdurdod lleol allu hawlio’r Cyllid hwn.

7.10. Prif egwyddorion y Cyllid yw:

7.10.1. nad yw’n cael ei glustnodi;

7.10.2. ei fod yn darparu ar gyfer gwerthuso ac adrodd ar raglenni;

7.10.3. y bydd yr Awdurdod yn cymeradwyo un hawliad yn unig ar gyfer pob Buddiolwr; a

7.10.4. na fydd yr Awdurdod yn talu cyllid pellach i’r Derbynnydd o dan Atodlen 1, Rhan 7 i’r cyfarwyddyd cyllido hwn.

Proses Cyllido a Hawliadau

7.11. Gall y Derbynnydd hawlio cyllid oddi ar y pwynt y mae’r Buddiolwr yn symud i lety sefydlog.

Cyllid Tai Hyblyg sydd ar gael yn 2023/24

  • Buddiolwr yn preswylio mewn llety pontio ar 1/4/2023: £7,100 am bob Buddiolwr

7.12. Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen benodol ar gyfer “Y GRONFA TAI HYBLYG” yn Atodiad A i gael y taliad sengl hwn.

7.13. Mae canllawiau yn y Tab Canllawiau ynghylch sut i gynnwys y ffurflen Atodiad A.

7.14. Rhaid darparu tystiolaeth i ategu hawliadau i ddangos bod y Buddiolwr wedi’i leoli mewn llety sefydlog. Gall hyn fod ar ffurf copi o’r cytundeb tenantiaeth neu ddogfen debyg wedi’i lofnodi.

7.15. Rhaid cyflwyno’r ffurflen Atodiad A a’r wybodaeth ategol drwy MOVEIT.

7.16. Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.

Monitro a Gwerthuso

7.17. Bydd yr Awdurdod yn gofyn i’r Derbynnydd ddarparu gwybodaeth am y defnydd o’r cyllid hwn at ddibenion monitro a gwerthuso er mwyn canfod sut mae wedi’i ddefnyddio i gynorthwyo Buddiolwyr i gael llety sefydlog.

7.18. Nid yw’n ofynnol darparu prawf o wariant er mwyn i’r cyllid gael ei ryddhau, dim ond cadarnhad bod y Buddiolwr wedi symud i lety sefydlog, fel y gall awdurdodau lleol gael y cyllid hwn cyn gynted â phosibl.

Atodiad A –ffurflen hawlio am wariant

Bydd y taenlenni Excel Atodiad A canlynol, y ffurflen hawlio Costau Cymorth Tai Ychwanegol a’r ffurflen hawlio Costau Eithriadol yn cael eu darparu ar wahân gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan.

  • ACRS/ARAP Atodiad A – hawliad cychwynnol Blwyddyn 1

  • ACRS/ARAP Atodiad A – hawliadau dilynol Blwyddyn 1

  • ACRS/ARAP Atodiad A – hawliadau Blwyddyn 2

  • Cyllid Tai Hyblyg – Atodiad A 2023/24

  • ACRS/ARAP – ffurflen hawlio Costau Eithriadol 2023/24

Atodiad B – categorïau cyflwyniadau adsefydlu yr UNHCR

Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am ddynodi Ffoaduriaid addas i’w hadsefydlu yn y DU o dan Gynllun Adsefydlu y DU drwy gydgysylltu ag Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) ar sail y saith categori cyflwyniadau adsefydlu canlynol[footnote 13]:

  • Anghenion Cyfreithiol a/neu Anghenion Amddiffyn Corfforol

  • Goroeswyr Artaith a/neu Drais

  • Anghenion Meddygol

  • Menywod a Merched mewn Perygl

  • Ailuno Teuluoedd

  • Plant a’r Glasoed mewn Perygl*

  • Diffyg Atebion Hirbarhaus Eraill Rhagweladwy

*Categorïau Plant a’r Glasoed mewn Perygl yr UNHCR

  • Plant ar eu pen eu hunain (UAC): yw’r plant hynny sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y ddau riant a pherthnasau eraill ac nad ydynt yn derbyn gofal gan oedolyn sydd, yn ôl y gyfraith neu ddefod, yn gyfrifol am wneud hynny.

  • Plant ar wahân (SC): yw’r rheini sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y ddau riant, neu oddi wrth eu prif roddwr gofal cyfreithiol neu ddefodol blaenorol, ond nid o reidrwydd oddi wrth berthnasau eraill. Felly, gallant fod yn blant sydd gydag oedolion eraill sy’n aelodau o’r teulu.

  • Plant heb ddogfennau cyfreithiol: Byddai hyn yn cynnwys plant heb ddogfennau cyfreithiol i brofi eu hunaniaeth gyfreithiol, ac a allai fod yn arbennig o agored i niwed a chael eu hystyried ar gyfer adsefydlu, gan gynnwys:

1. plant 0-4 blwydd oed sydd heb dystiolaeth o’u genedigaeth (dim tystysgrif geni, pasbort hysbysu genedigaeth na llyfryn teulu), a lle nad yw un rhiant yn bresennol (yn benodol, lle nad yw’r rhiant sydd â’r hawl i basio cenedligrwydd yn bresennol), neu

2. plant 12-17 flwydd oed sydd heb ddogfennau i brofi eu hoedran ac sy’n wynebu risgiau diogelu eraill (llafur plant, priodas plant, recriwtio plant, plant sy’n cael eu cadw neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith) sydd mewn perygl neilltuol am nad oes ganddynt brawf o’u statws fel plant ac sydd felly heb y gallu i brofi bod ganddynt hawl i amddiffyniadau plant oed-benodol o dan y gyfraith.

  • Plant ag anghenion meddygol penodol: Mae plentyn sydd â chyflwr meddygol difrifol yn berson o dan 18 oed sydd ag angen cynhorthwy, o ran triniaeth neu ddarparu eitemau maethol ac eitemau heblaw bwyd, yng ngwlad y lloches.

  • Plant ag anableddau: Mae plentyn ag anabledd yn berson o dan 18 oed sydd â namau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd o’i eni, neu o ganlyniad i salwch, haint, anaf neu drawma. Gall y namau hyn fod yn rhwystr rhag cymryd rhan yn llawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.

  • Gofalwyr sy’n blant: Mae’r categori Gofalwyr sy’n Blant yn cynnwys person o dan 18 oed, nad yw’n blentyn ar ei ben ei hun ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb fel pen y teulu. Er enghraifft, byddai hyn yn gallu cynnwys plentyn sy’n parhau i fyw gyda’i rieni, ond sydd wedi ymgymryd â’r rôl o ofalu amdanyn nhw (a brodyr neu chwiorydd hefyd o bosibl) am fod y rhieni’n sâl, yn anabl, etc.

  • Plant sydd mewn perygl oherwydd arferion traddodiadol niweidiol, yn cynnwys priodas plant ac anffurfio organau cenhedlu benywod: Person o dan 18 oed sydd mewn perygl o ddioddef oherwydd arfer traddodiadol niweidiol, neu sydd wedi dioddef/goroesi arfer o’r fath. Mae gan bob grŵp cymdeithasol arferion a chredoau traddodiadol penodol, rhai ohonynt yn llesol i bob aelod tra bo eraill yn niweidiol i grŵp penodol, fel menywod. Mae arferion traddodiadol niweidiol o’r fath yn cynnwys, er enghraifft, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas gynnar, pris gwaddol, priodas lefiraidd, gorfodi menywod i fwyta, hela gwrachod, babanladdiad benywaidd, ffafrio meibion a’r goblygiadau o hynny i blentyn benywaidd. Yn ôl yr amgylchiadau, mae rhai mathau o enwaedu gwrywaidd, creithio neu datŵs hefyd yn dod o dan y categori hwn.

  • Llafur plant: Mae’n cynnwys plant sy’n ymwneud ag:

(i) y mathau gwaethaf o lafur plant: Person o dan 18 oed sy’n ymwneud â’r mathau gwaethaf o lafur plant, sy’n cynnwys pob math o gaethwasiaeth neu arferion tebyg i gaethwasiaeth (fel gwerthu a masnachu plant, caethwasiaeth drwy ddyled a chaethwasanaeth a llafurio dan orfod, gan gynnwys gorfodi plant i gymryd rhan mewn gwrthdaro arfog); defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer puteindra, ar gyfer cynhyrchu pornograffi neu ar gyfer perfformiadau pornograffig; defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, yn enwedig ar gyfer cynhyrchu a masnachu cyffuriau fel y diffinnir yn y cytundebau rhyngwladol perthnasol; gwaith sydd, oherwydd ei natur neu’r amgylchiadau lle mae’n digwydd, yn debygol o niweidio iechyd, diogelwch neu foesau plant; a

(ii) mathau eraill o lafur plant: Person o dan 18 oed sy’n ymwneud â mathau o lafur plant heblaw’r mathau gwaethaf, fel gwaith sy’n debygol o fod yn beryglus neu ymyrryd â’i addysg, neu o fod yn niweidiol i’w iechyd neu ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol. Diffiniad UNICEF o lafur plant yw gwaith sy’n parhau am fwy na nifer oriau penodol, yn ôl oedran y plentyn a’r math o waith. Ystyrir bod gwaith o’r fath yn niweidiol i’r plentyn fel a ganlyn: 5-11 oed: o leiaf un awr o lafur economaidd neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 12-14 oed: o leiaf 14 awr o lafur economaidd neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 15-17 oed: o leiaf 43 awr o waith economaidd neu ddomestig yr wythnos.

  • Plant sy’n gysylltiedig â lluoedd arfog neu grwpiau arfog: pobl o dan 18 oed sy’n cael eu recriwtio neu sydd wedi cael eu recriwtio i luoedd arfog neu grŵp arfog, neu wedi’u defnyddio ganddynt, mewn unrhyw swyddogaeth, gan gynnwys fel ymladdwr, cogydd, porthor, negesydd, ysbïwr, neu at ddibenion rhywiol neu briodas dan orfod. Nid yw’r diffiniad yn gyfyngedig i blentyn sydd neu sydd wedi cymryd rhan yn uniongyrchol mewn ymladd.

  • Plant sydd wedi’u cadw yn y ddalfa a/neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith: Person o dan 18 oed sydd yn cael neu sydd wedi cael ei gyhuddo neu ei euogfarnu am dorri’r gyfraith.

  • Plant sy’n wynebu risg o refoulement[footnote 14]: Person o dan 18 oed sydd mewn perygl o gael ei ddychwelyd at ffiniau tiriogaethau lle byddai bygythiad i’w fywyd neu ei ryddid, neu lle mae mewn perygl o erledigaeth ar un neu ragor o’r seiliau yng Nghonfensiwn Ffoaduriaid 1951, gan gynnwys rhyng-gipio, ei wrthod ar y ffin, refoulement anuniongyrchol.

  • Plant sy’n wynebu risg o beidio â mynd i’r ysgol: Person o dan 18 oed sydd heb allu neu barodrwydd i fynychu’r ysgol neu sy’n wynebu mwy o risg o dorri ar draws neu derfynu ei addysg.

  • Plant sy’n goroesi (neu sydd mewn perygl o ddioddef) trais, camdriniaeth neu gamfanteisio, gan gynnwys Trais Rhywiol a Thrais ar sail Rhywedd (SGBV): Person o dan 18 oed, sydd mewn perygl o ddioddef trais corfforol a/neu seicolegol, camdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio. Gall y cyflawnwr fod yn unrhyw berson, grŵp neu sefydliad, gan gynnwys gweithredwyr gwladwriaethol ac anwladwriaethol.

Atodiad C – protocol rhannu data (PRhD)

1. Nodau ac amcanion y PRhD

1.1 Nod y PRhD hwn yw darparu set o egwyddorion ar gyfer rhannu gwybodaeth.

1.2 Mae’r PRhD hwn yn nodi’r rheolau y mae’n rhaid i’r Derbynnydd eu dilyn wrth ymdrin â gwybodaeth a ddynodwyd yn “ddata personol” gan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU sydd mewn grym.

2. Deddfwriaeth diogelu data

2.1 Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn gosod rhwymedigaethau penodol ar bob unigolyn sy’n prosesu data personol y mae’n rhaid cadw atynt. Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn ei gwneud yn ofynnol bod pob trosglwyddiad gwybodaeth yn dilyn ei chwe egwyddor diogelu data. Rhaid i’r Derbynnydd, wrth brosesu data personol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddyd, gydymffurfio â’r egwyddorion hyn ar gyfer arfer da.

2.2 Rhaid prosesu data personol yn unol â’r chwe egwyddor diogelu data ganlynol:

i. Cyfreithlondeb: eu prosesu yn gyfreithlon, yn deg ac mewn ffordd dryloyw mewn perthynas ag unigolion.

ii. Tegwch a Thryloywder: eu casglu at ddibenion penodedig, penodol a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni ystyrir bod prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn anghydnaws â’r dibenion cychwynnol.

iii. Cyfyngu ar bwrpas: bod yn ddigonol, perthnasol ac yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r dibenion y maent yn cael eu prosesu ar eu cyfer.

iv. Cywirdeb: bod yn gywir a, lle bo angen, yn cael eu diweddaru; rhaid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod data personol sy’n anghywir, gan ystyried y dibenion y maent yn cael eu prosesu ar eu cyfer, yn cael eu dileu neu eu cywiro’n ddi-oed.

v. Cyfyngu ar storio: eu cadw ar ffurf sy’n caniatáu adnabod testunau data am ddim mwy o amser nag sy’n angenrheidiol at y dibenion y caiff y data personol eu prosesu ar eu cyfer; gellir storio data personol am gyfnodau hirach os bydd y data personol yn cael eu prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd yn unig, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol ar yr amod y bydd mesurau technegol a sefydliadol priodol yn cael eu cymryd yn unol â GDPR y DU er mwyn diogelu hawliau a rhyddid unigolion; a

vi. Uniondeb a chyfrinachedd (Diogelwch): eu prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol i’r data personol, yn cynnwys eu diogelu rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon a rhag colled, dinistr neu ddifrod damweiniol, gan gymryd mesurau technegol neu sefydliadol priodol.

3. Diogelwch

3.1 Rhaid i’r Derbynnydd a’i Staff arfer gofal wrth ddefnyddio gwybodaeth y maent yn ei chael wrth gyflawni eu rôl swyddogol, ac er mwyn diogelu gwybodaeth a gaiff ei dal ganddynt yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys:

  • peidio â thrafod gwybodaeth am Fuddiolwr yn gyhoeddus;

  • peidio â datgelu gwybodaeth i bartïon sydd heb gael eu hawdurdodi i weld y wybodaeth a rennir.

3.2 Yn ogystal â’r uchod, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau:

  • bod y data personol a geir yn cael eu prosesu dim ond at ddibenion cyflawni ei rwymedigaethau o ran cynorthwyo’r Buddiolwr o dan y Cyfarwyddyd hwn,

  • bod yr holl ddata personol a geir yn cael eu storio’n ddiogel,

  • mai dim ond pobl sydd â gwir angen gweld y data a fydd yn cael eu gweld,

  • na fydd gwybodaeth yn cael ei chadw ond tra bydd angen ei chadw, ac y bydd yn cael ei dinistrio yn unol â chanllawiau’r llywodraeth,

  • bod pob ymdrech resymol wedi’i gwneud i warantu nad yw’r Derbynnydd yn cyflawni tor diogelwch data personol,

  • bod unrhyw achosion o golli gwybodaeth, datgelu anghywir neu dor diogelwch data personol sy’n deillio o’r Awdurdod yn cael eu hadrodd i dîm Diogelwch yr Awdurdod yn HOSecurity-DataIncidents@homeoffice.gov.uk,

  • ei fod yn dilyn unrhyw wybodaeth a ddarperir gan Dîm Diogelwch a Swyddog Diogelu Data yr Awdurdod, a fydd yn darparu cyfarwyddyd ar y camau priodol i’w cymryd, e.e., hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) neu ddosbarthu unrhyw wybodaeth i’r Buddiolwr.

  • Nid yw’r cyfrifoldeb i hysbysu’r Awdurdod yn effeithio ar y polisïau mewnol y bydd Partneriaethau Ymfudo Strategol ac awdurdodau lleol wedi’u mabwysiadu o ran hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am dor diogelwch data yn eu rôl fel rheolydd data yn unol â Chymal 5 o’r cyfarwyddyd cyllido hwn.

3.3 Mae achosion o dor diogelwch a digwyddiadau data yn gallu peri i wybodaeth y llywodraeth fod ar gael i’r rheini sydd heb eu hawdurdodi i’w chael neu arwain at dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, mae digwyddiad data neu achos o dor diogelwch data yn gallu tanseilio diogelwch gwladol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.4 Bydd yr Awdurdod yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn dor diogelwch data personol os gwneir cais am hynny.

3.5 Fel cyrff sector cyhoeddus, mae’n ofynnol i’r Awdurdod a’r Derbynnydd brosesu data personol yn unol â chanllawiau Fframwaith Polisi Diogelwch Llywodraeth Ei Fawrhydi (Security policy framework: protecting government assets - GOV.UK (www.gov.uk)) a ddyroddwyd gan Swyddfa’r Cabinet wrth drin, trosglwyddo, storio, cyrchu neu ddinistrio asedau gwybodaeth.

4. Ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun

4.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn ateb unrhyw geisiadau a gaiff am fynediad at ddata gan y testun neu geisiadau eraill a wneir o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU lle mae’n Rheolydd ar y data hynny. Mewn achosion lle ceir cais o’r fath, rhaid i’r Awdurdod a’r Derbynnydd:

  • ymgynghori â’i gilydd cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;

  • caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw;

  • peidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU; a

  • rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw ddadleuon gan y llall ynghylch pam na ddylid datgelu data, a lle bo’n bosibl, dod i gytundeb cyn gwneud unrhyw ddatgeliad.

5. Data i’w rhannu

5.1 Bydd yr Awdurdod yn rhannu amrywiaeth o ddogfennau â’r Derbynnydd i ddarparu gwybodaeth am y Buddiolwr/Buddiolwyr. Bydd y math o ddata yn dibynnu ar y modd a thrwy ba lwybr y mae’r Buddiolwr wedi cyrraedd yn y DU, a gall gynnwys:

5.1.1 Holiadur Teuluol (os yw ar gael)

5.1.2. Arolwg o unigolion sy’n aros mewn llety dros dro neu westy pontio

5.2 Bydd yr Awdurdod yn rhannu’r dogfennau canlynol â’r Derbynnydd ar gyfer Ffoadur Llwybr 2 yr ACRS:

5.2.1 Ffurflen Cofrestru Adsefydlu (RRF) yr UNHCR

5.2.2 Ffurflen Asesu Iechyd Ymfudwyr (MHA) yr IOM

5.2.3 Asesiadau a Phenderfyniadau Budd Pennaf yr UNHCR

5.2.4 Ffurflen Sgrinio Meddygol Cyn Gadael (PDMS) a Thystysgrif Cyn Byrddio (PEC) yr IOM.

5.3 Bydd y dogfennau uchod yn cynnwys y wybodaeth bersonol ganlynol am Ffoadur:

Ffurflen Cofrestru Adsefydlu (RRF) yr UNHCR

  • Data bywgraffyddol am bob Ffoadur, yn cynnwys statws priodasol, crefydd, tarddiad ethnig, manylion cyswllt yn y wlad letyol;

  • Crynodeb o addysg, sgiliau a chyflogaeth;

  • Perthnasau hysbys y prif ymgeisydd a’r priod nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cyflwyniad atgyfeirio;

  • Crynodeb o’r Sail dros Gydnabod y Prif Ymgeisydd yn Ffoadur[footnote 15];

  • Yr angen am adsefydlu [footnote 16];

  • Asesiad o anghenion penodol[footnote 17];

  • Nifer y bobl yn y teulu sydd i gael eu hadsefydlu, eu hoedran a’u rhywedd neu aelodau o’r teulu;

  • Yr iaith sy’n cael ei siarad;

  • Y gallu i gyfathrebu yn Saesneg;

  • Unrhyw faterion diwylliannol neu gymdeithasol penodol sy’n hysbys [footnote 18].

Ffurflen MHA

  • Cydsyniad gan y Ffoadur i gynnal archwiliad meddygol;

  • Cydsyniad gan y Ffoadur i Gynghorwyr Meddygol ddatgelu unrhyw gyflyrau meddygol presennol i’r Awdurdod sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses adsefydlu [footnote 19].

Asesiadau a Phenderfyniadau Budd Pennaf

  • Gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau diogelu penodol ac asesiad o’r hyn sydd er y budd pennaf i’r unigolion yr effeithir arnynt [footnote 20].

Ffurflen PDMS a PEC

  • Data bywgraffyddol am bob Ffoadur sydd ag angen y ffurflen hon;

  • Gwybodaeth feddygol mewn perthynas â’r Ffoadur gan gynnwys hanes meddygol, diweddariadau ar driniaethau a meddyginiaeth, anghenion gofal parhaus.

6. Amserlen storio, cadw a dinistrio

6.1 Bydd y Derbynnydd yn cadw’n ddiogel yr holl wybodaeth bersonol a rennir yn unol â’r cyfarwyddiadau trafod sy’n gysylltiedig â’r dosbarthiadau diogelwch gwybodaeth yn ogystal â’i amserlenni ei hun ar gyfer cadw a dinistrio data.

6.2 Ni fydd Derbynwyr yn cadw’r wybodaeth bersonol yn hirach nag sydd raid at ddibenion gweithgarwch adsefydlu sydd wedi’i ddisgrifio yn y cyfarwyddyd cyllido.

6.3 Rhaid i’r Derbynnydd gynnal adolygiad yn rheolaidd i asesu’r angen i gadw data personol y Buddiolwr. Unwaith y bydd y data yn peidio â bod yn berthnasol at y dibenion hynny, fe’u dinistrir mewn ffordd ddiogel.

7. Prif bwyntiau cyswllt ar gyfer materion, anghydfodau a datrysiadau

7.1 Rhaid i’r Derbynnydd gynorthwyo a chydweithredu â’r Awdurdod yn rhesymol os gwneir unrhyw gŵyn neu gais mewn perthynas ag unrhyw ddata a rennir o dan y trefniant rhannu data hwn, gan gynnwys darparu i’r Awdurdod unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae’r Awdurdod yn gwneud cais rhesymol amdani.

7.2 Rhaid cyfeirio unrhyw faterion gweithredol neu anghydfodau sy’n codi o ganlyniad i’r PRhD hwn yn y lle cyntaf at Arweinwyr Rhanbarthol Strategol y Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol.

8. Cyfrifoldebau staff

8.1 Mae staff sydd wedi’u hawdurdodi i weld data personol Buddiolwr yn bersonol gyfrifol am gadw’n ddiogel unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael, ei thrin, ei defnyddio a’i datgelu.

8.2 Dylai staff wybod sut i gael, defnyddio a rhannu gwybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyfreithlon i wneud eu gwaith.

8.3 Mae staff o dan rwymedigaeth i ofyn am brawf adnabod neu gymryd camau i ddilysu awdurdodiad a gafodd rhywun arall cyn datgelu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani o dan y PRhD hwn.

8.4 Dylai staff gadw at egwyddorion cyffredinol cyfrinachedd, dilyn y canllawiau a nodir yn y PRhD hwn a gofyn am gyngor pan fo angen.

8.5 Dylai staff fod yn ymwybodol bod unrhyw dor preifatrwydd neu dor cyfrinachedd yn anghyfreithlon ac yn fater disgyblu a allai arwain at eu diswyddo. Gellid dod ag achos troseddol yn erbyn yr unigolyn hwnnw hefyd.

9. Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

9.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn ateb unrhyw geisiadau a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y maent yn eu cael am wybodaeth y maent yn ei chadw o ganlyniad i’r trefniant rhannu data hwn, neu yn ei chylch. Pan geir cais o’r fath mewn achosion o’r fath, rhaid i’r Awdurdod a’r Derbynnydd:

  • ymgynghori â’i gilydd cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;

  • caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw;

  • peidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

10. Dull trosglwyddo data personol buddiolwr

10.1 Bydd yr Awdurdod yn defnyddio proses ddiogel, a elwir yn MOVEit, i drosglwyddo’r data sy’n caniatáu i ddefnyddwyr mewnol ac allanol rannu ffeiliau’n ddiogel a rhaid ei ddefnyddio i ddarparu’r rhyngweithio rhwng y partïon.

10.2 Rhaid i’r Derbynnydd gael mynediad at MOVEit drwy borwr ar y we. Unwaith y bydd y trefniant hwn yn weithredol, bydd yn ofynnol i’r Derbynnydd, o bryd i’w gilydd ar gais yr Awdurdod, ddefnyddio MOVEit at ddibenion ei ryngwyneb â’r Awdurdod o dan y Memorandwm hwn.

10.3 Dylai rhestr o Staff awdurdodedig fod ar gael i’w harchwilio os bydd yr Awdurdod yn gofyn amdani.

11. Cyfyngiadau ar ddefnyddio’r wybodaeth a rennir

11.1 Mae’r holl wybodaeth am Fuddiolwr a rennir gan yr Awdurdod i gael ei defnyddio at y dibenion a ddiffiniwyd yn Adran 3 o’r PRhD hwn yn unig, oni bai fod gorfodaeth i wneud fel arall o dan statud neu reoliad neu o dan gyfarwyddiadau llys. Felly ni fydd unrhyw ddefnydd pellach a wneir o’r data personol yn gyfreithlon nac yn dod o dan y PRhD hwn.

11.2 Gall cyfyngiadau fod yn gymwys hefyd i unrhyw ddefnydd pellach o wybodaeth bersonol, fel sensitifrwydd masnachol neu niwed i eraill a achosir drwy ryddhau’r wybodaeth, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ystyried defnydd eilaidd o wybodaeth bersonol. Os bydd unrhyw ansicrwydd, rhaid cyfeirio’r mater at yr Awdurdod y bydd ei benderfyniad – ym mhob achos – yn derfynol.

11.3 Rhaid gwneud cofnod llawn ar ffeil achos y Buddiolwr o unrhyw ddatgeliad(au) eilaidd a wneir yn ôl gofynion y gyfraith neu orchymyn llys a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • Dyddiad datgelu;

  • Manylion y sefydliad sy’n gwneud y cais;

  • Rheswm dros wneud cais;

  • Pa fath(au) o ddata y gofynnwyd amdanynt;

  • Manylion y person sy’n awdurdodi;

  • Dull trosglwyddo (rhaid iddo fod yn un diogel);

  • Cyfiawnhad dros y datgeliad.

11.4 Mae’r cyfyngiadau ar ddatgeliadau eilaidd a nodwyd ym mharagraff 11.1 ac 11.2 o’r PRhD hwn yn gymwys i’r un graddau i dderbynwyr trydydd parti sydd wedi’u lleoli yn y DU a derbynwyr trydydd parti y tu allan i’r DU fel asiantaethau gorfodi rhyngwladol.

12. Archwilio

12.1 Mae’r Derbynnydd yn cytuno y gall gael ei archwilio ar gais yr Awdurdod i sicrhau bod y data personol wedi’u storio a/neu eu dileu’n briodol, a’i fod wedi cydymffurfio â’r protocolau diogelwch a nodwyd yn y PRhD hwn.

12.2 Mae’r Awdurdod yn cadarnhau na fyddai unrhyw wybodaeth arall yn cael ei hadolygu na’i harchwilio at y diben hwn.

Atodiad D – addasiadau eiddo I fuddiolwr/buddiolwyr

1. Byddai angen ceisio cymeradwyaeth ‘mewn egwyddor’ gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan cyn ymgymryd ag unrhyw waith. Byddai disgwyl i’r costau fod yn unol â’r costau cyfartalog ar gyfer pob addasiad a ddangosir yn y tabl isod. Bydd y Cynlluniau hefyd yn ystyried costau rhesymol am ddad-wneud addasiadau i eiddo: byddai angen ceisio cymeradwyaeth i hyn gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan cyn gwneud unrhyw waith.

2. Mae addasiadau eiddo i unrhyw Fuddiolwr sydd â phroblemau symudedd yn cael eu rhannu i ddau gategori:

a) mân addasiadau sydd wedi’u cynnwys yng nghyfradd y tariff, a

b) addasiadau mawr y gellir talu amdanynt o’r gronfa Achosion Eithriadol.

Mân addasiadau

3. Y rhain yw’r mathau o waith lle nad oes angen unrhyw newidiadau strwythurol i’r eiddo, gan gynnwys:

  • canllawiau gafael

  • canllawiau grisiau

  • tapiau liferi

  • trothwyon cerdded i mewn

  • grisiau hanner maint wrth ddrysau

  • clychau drws/larymau mwg sy’n fflachio/dirgrynu

  • cawodydd uwchben bath.

Byddai costau’r rhain yn cael eu talu o’r tariff safonol ar gyfer pob Buddiolwr.

Addasiadau mawr

4. Y rhain yw’r mathau o waith lle mae angen gwneud newidiadau strwythurol i’r eiddo a gallant gynnwys:


Addasiad

Amcangyfrif o’r gost gyfartalog (£GBP)
Cyfleusterau cawod cerdded i mewn
£3,500
Lifftiau grisiau
£1,500 (Syth) –

£5,000 (Corneli)
Rampiau
£500 i £1,000
Newid uchder arwynebau gweithio cegin
£2,000
Addasiadau i’r cartref ar gyfer defnyddio cadair olwyn fel lledu drysau
£600 - £800 y drws
Cyfleusterau ystafell ymolchi/ystafell wely ar y llawr gwaelod
£2,000 i £3,000

Gellir talu am y rhain o’r gronfa achosion eithriadol yn dilyn asesiad gan therapydd galwedigaethol neu berson sydd â chymwysterau tebyg. Yr uchafswm y gellir ei wario ar unrhyw eiddo yw £30,000 ac ni ddylai hyn gynnwys estyniadau.

Os trefnir i grant fod ar gael i addasu eiddo Rhent Cymdeithasol neu Breifat, yna bydd yn ofynnol i’r landlord sicrhau bod yr eiddo ar gael i’w osod i’r tenant am gyfnod o bum (5) mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith, yn unol â threfniadau’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

Atodiad E – costau eiddo gwag am eiddo â *phedair ystafell wely

1. Mae awdurdodau lleol eisoes yn gallu defnyddio tariff Blwyddyn Un (gweler Atodlen 1, Rhan 1) i dalu am gostau eiddo gwag dros gyfnod penodol. I adlewyrchu hyn, mae pum deg chwech (56) Diwrnod o gostau eiddo gwag eisoes wedi’u cynnwys yn y tariff i alluogi Derbynwyr i sicrhau eiddo cyn i deuluoedd Buddiolwyr gyrraedd.

2. Mae’r Awdurdod yn deall yr heriau o ran y cyflenwad sy’n gysylltiedig â sicrhau eiddo â *phedair (4) ystafell gwely neu ragor. Er mwyn cynorthwyo Derbynwyr a Noddwyr Cymunedol i sicrhau eiddo o’r math hwn pan fydd ar gael, mae’r Awdurdod wedi cytuno i dalu am gostau eiddo gwag dros gyfnod ychwanegol o ddau ddeg wyth (28) Diwrnod fel Cost Eithriadol y tu allan i’r tariff. Bydd hyn yn dod â chyfanswm y cyfnod o gostau eiddo gwag i wyth deg pedwar (84) Diwrnod.

Meini prawf

3. Gall Derbynwyr gyflwyno hawliad am Gostau Eithriadol i dalu am gostau eiddo gwag dros gyfnod ychwanegol o hyd at ddau ddeg wyth (28) Diwrnod ar gyfer eiddo â phedair (4) ystafell wely neu ragor yn unig.

4. Rhaid cynnwys tystiolaeth gyda phob hawliad i ddangos bod costau eiddo gwag dros ben wedi’u hysgwyddo ar ben y cyfnod o bum deg chwech (56) Diwrnod yn y tariff, hyd at uchafswm o ddau ddeg wyth (28) Diwrnod ychwanegol.

5. Bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried costau eiddo gwag eraill mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, lle nad yw teulu wedi cyrraedd ar ôl sicrhau’r eiddo.

6. Gofynnir i Dderbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol i drafod hyn os ydynt yn credu bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli.

Atodiad F – canllaw ar hawlio costau eithriadol

1. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, byddai angen ceisio cymeradwyaeth ‘mewn egwyddor’ gan y Tîm Taliadau Adsefydlu i Awdurdodau Lleol cyn ymgymryd ag unrhyw waith. Os oes angen brys, cysylltwch ag arweinydd y Tîm Taliadau Adsefydlu i Awdurdodau Lleol.

Cymeradwyo mewn egwyddor

Gellir cael oedi os na fydd y Swyddfa Gartref yn cael digon o wybodaeth i benderfynu mewn egwyddor.

Enghreifftiau o wybodaeth ategol

Prosesu hawliad am gostau eithriadol

Atodiad G – cofnod o newidiadau yn y cyfarwyddyd cyllido hwn (o gymharu â’r fersiwn gyhoeddedig flaenorol)


Rhif tudalen/paragraff

Manylion y newid
Cymal 1.5, tudalen 5
Ychwanegu diffiniad: Llawlyfr Brandio
Cymal 1.40, tudalen 8
Ychwanegu diffiniad: Gwerth Cymdeithasol
Cymal 13, tudalen 21
Ychwanegu: Hawliau Eiddo Deallusol a Brandio
Cymal 14, tudalennau 21-22
Ychwanegu: Gofynion Gwerth Cymdeithasol
Atodlen 1, Rhan 1, 1.8, tudalen 24
Ychwanegu o dan Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun: Dylai’r Derbynnydd ymgysylltu â’r awdurdod lleol sy’n pontio (lle bo’n gymwys) i gadarnhau’r math o gymorth y bydd angen ei ddarparu i’r Buddiolwr. Dylai awdurdodau lleol ymdrechu i ddilyn yr egwyddorion yn y Protocol Gweithio Dod o Hyd i’ch Llety Eich Hun a gylchredwyd ar 26 Ebrill 2023.

Atodlen 1, Rhan 1, 1.48, tudalen 29
Ychwanegu: Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.
Atodlen 1, Rhan 2, 2.11, tudalen 31
Ychwanegu: Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.
Atodlen 1, Rhan 4, 4.13, tudalen 35
Ychwanegu: Wrth gyflwyno hawliad o dan y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, mae’r Derbynnydd yn cadarnhau ei fod hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred wedi cyflwyno gwybodaeth sydd yn wir ac yn gywir.
Atodlen 1, Rhan 7, 7.1-18, tudalennau 39-41


Ychwanegu: Rhan 7 yn ymwneud â Chymorth i Gael Llety Sefydlog: Datganiad o Ganlyniadau ar gyfer Cyllid Tai Hyblyg
  1. https://gcs.civilservice.gov.uk/guidance/marketing/branding-guidelines/ 

  2. Gweler hefyd y wefan Excellence Gateway lle mae rhagor o wybodaeth am gwricwlwm cenedlaethol ESOL a’r Cwricwlwm Sgiliau Bywyd 

  3. Gweler Atodiad B 

  4. https://www.gov.uk/government/publications/supplier-code-of-conduct 

  5. Mae’r Awdurdod yn ffafrio peidio â defnyddio cyfrifon â mesuryddion rhagdalu â darnau arian neu gardiau gan fod y rhain yn ddrutach ar y cyfan. Os bydd Derbynwyr yn gofyn am eithriadau, dylent gydgysylltu drwy Arweinydd Rhanbarthol Strategol perthnasol yr Awdurdod yn y Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol. 

  6. Gweithdrefn Achos o Ddiddordeb – mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Arweinydd Rhanbarthol Strategol y Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol. 

  7. Mae gwerthoedd y taliadau yn ddilys ar gyfer cyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn unig; mae gwerthoedd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn rhai dangosol a gall yr Awdurdod eu haddasu o bryd i’w gilydd. 

  8. Mae gwerthoedd y taliadau yn ddilys ar gyfer cyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn unig; mae gwerthoedd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn rhai dangosol a gall yr Awdurdod eu haddasu o bryd i’w gilydd. 

  9. Mae gwerthoedd y taliadau yn ddilys ar gyfer cyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn unig; mae gwerthoedd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn rhai dangosol a gall yr Awdurdod eu haddasu o bryd i’w gilydd. 

  10. Mae gwerthoedd y taliadau yn ddilys ar gyfer cyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn unig; mae gwerthoedd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn rhai dangosol a gall yr Awdurdod eu haddasu o bryd i’w gilydd. 

  11. Mae gwerthoedd y taliadau yn ddilys ar gyfer cyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn unig; mae gwerthoedd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn rhai dangosol a gall yr Awdurdod eu haddasu o bryd i’w gilydd. 

  12. Mae gwerthoedd y taliadau yn ddilys ar gyfer cyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn unig; mae gwerthoedd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn rhai dangosol a gall yr Awdurdod eu haddasu o bryd i’w gilydd 

  13. Yn ôl y diffiniad yn Llawlyfr Adsefydlu yr UNHCR (http://www.unhcr.org/46f7c0ee2.pdf

  14. Ystyr refoulement yw gyrru allan bersonau sydd â’r hawl i’w cydnabod yn ffoaduriaid. 

  15. Wedi’u dynodi’n ddata categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU. 

  16. Wedi’u dynodi’n ddata categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU. 

  17. Yn ôl natur y cynnwys, gellid dynodi’r rhain yn ddata categori arbennig dichonol o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  18. Yn ôl natur y cynnwys, gellid dynodi’r rhain yn ddata categori arbennig dichonol o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  19. Wedi’u dynodi’n ddata categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU. 

  20. Yn ôl natur y cynnwys, gellid dynodi’r rhain yn ddata categori arbennig dichonol o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.