Guidance

Cyfarwyddyd Cyllido i awdurdodau lleol i gefnogi’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan a’r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (accessible)

Updated 10 January 2023

Cymorth integreiddio

Blwyddyn Ariannol 2022-2023

Dyddiad cyhoeddi 28 Gorffennaf 2022

Fersiwn 1.0

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn:

afghanschemepayments@homeoffice.gov.uk

Telerau Ac Amodau Cyllid

1. Diffiniadau

1.1. Mae “Oedolyn” at ddiben y ddarpariaeth Saesneg yn golygu Buddiolwr sy’n 19 oed neu’n hŷn, neu sy’n troi’n 19 oed o fewn y deuddeg (12) Mis cyntaf ar ôl cyrraedd y DU.

1.2. Mae “Atodiad” yn golygu’r atodiadau sydd ynghlwm wrth y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.3. Mae’r “Awdurdod” yn golygu Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref sy’n gweithredu drwy’r Gweithrediadau Adsefydlu ar ran y Goron.

1.4. Mae “Buddiolwr” yn golygu: (i) y rhai a adsefydlir o dan y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a’u dibynyddion uniongyrchol (gan gynnwys aelodau teulu Gwladolion Prydeinig) o dan Lwybr 1; a (ii) y rhai sydd wedi’u hadleoli o dan gynllun y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP) a’u dibynyddion uniongyrchol; a (iii) Gwladolion Prydeinig cymwys, (iv) yn ogystal mae’r ACRS wedi’i ehangu i gynnwys y rhai sydd wedi’u cydnabod yn Ffoaduriaid gan UNHCR a’u hadsefydlu i’r DU o dan Lwybr 2 ACRS, a (v) y rhai sydd wedi’u hadleoli o dan Lwybr 3 ACRS.

Diffinnir buddiolwr fel pob oedolyn, plentyn a babi sy’n cyrraedd y DU.

1.5. Ystyr “Gwladolyn Prydeinig” yw person sy’n dal un o’r chwe math o genedligrwydd Prydeinig. Nodir y chwe math yma: https://www.gov.uk/types-of-british-nationality.

1.6. Mae “Achos o Ddiddordeb” yn golygu bod Buddiolwr:

  • Wedi cael ei arestio am drosedd yn ymwneud â thrais; arfau; terfysgaeth/eithafiaeth; troseddau rhywiol (troseddoldeb).

  • Wedi bod yn destun trosedd casineb (troseddau casineb).

  • Wedi cael atgyfeiriad PREVENT yn eu cylch (atgyfeiriad PREVENT)

  • Wedi dioddef effaith negyddol ddifrifol (neu ganfyddiad eu bod wedi) oherwydd gweithred neu hepgoriad gan y Swyddfa Gartref a/neu awdurdodau lleol/partneriaid cyflawni (methiant canfyddedig).

  • Wedi bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiad arall y mae’r cyfryngau’n ymwybodol ohono (sylw posibl yn y cyfryngau).).

1.7. Mae “Noddwr Cymunedol” (neu “Noddwr”) yn golygu grŵp neu sefydliad sydd:

1.7.1. yn bodoli ac yn gweithio er budd y gymuned yn hytrach na chyfranddalwyr preifat, ac

1.7.2. wedi’i gofrestru naill ai fel elusen (neu o 2013 ymlaen fel Sefydliad Elusennol Corfforedig), neu sy’n gwmni buddiant cymunedol, neu’n unigolyn neu’n gorff sy’n dod o fewn Adran 10(2)(a) o Ddeddf Elusennau 2011, ac

1.7.3. wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod i gefnogi’r rhai a adsefydlir i’r DU o dan yr ACRS neu Gynllun Adsefydlu’r DU (UKRS), a

1.7.4. sy’n gallu hawlio Cyllid i gefnogi Darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion a adsefydlir o dan yr ACRS fel yn Atodlen 1 Rhan 6 a Chostau Gwag yn Atodiad D.

1.8. Mae “Cymal” yn golygu’r cymalau yn y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.9. Mae’r “Cynllun Nawdd Cymunedol” yn golygu’r rhaglen a ddatblygwyd gan yr Awdurdod i alluogi Noddwr Cymunedol i gefnogi’r rhai sydd wedi adsefydlu i’r DU o dan yr ACRS neu’r UKRS am gyfnod o bedwar ar hugain (24) Mis yn dilyn dechrau eu cymorth gan Noddwr Cymunedol.

1.10. Mae “Ffactorau Llwyddiant Allweddol” yn golygu’r dangosyddion sydd eu hangen i asesu llwyddiant y Cyllid yn erbyn ei ganlyniad arfaethedig.

1.11. Mae “Deddfwriaeth Diogelu Data” yn golygu (i) y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (“UKGDPR”) gan gynnwys y Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith ac unrhyw Ddeddfau gweithredu cymwys fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd, (ii) Deddf Diogelu Data 2018 (“DPA 2018”) i’r graddau y mae’n ymwneud â phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, a (iii) yr holl Ddeddfau perthnasol ynghylch prosesu Data Personol a phreifatrwydd.

1.12. Mae’r “Protocol Rhannu Data” (neu’r “DSP”) yn golygu’r set o egwyddorion y manylir arnynt yn Atodiad B sy’n llywodraethu’r prosesau a’r agweddau ymarferol ar rannu gwybodaeth rhwng yr Awdurdod a’r Derbynnydd, ac y mae’r Derbynnydd yn cytuno i gadw atynt a chydymffurfio â nhw.

1.13. Mae “Diwrnod” yn golygu unrhyw ddiwrnod calendr o ddydd Llun i ddydd Sul (yn gynwysedig).

1.14. Mae “Partner Cyflenwi” yn golygu unrhyw Drydydd Parti, boed yn sefydliad neu’n unigolyn sy’n gweithio gyda’r Derbynnydd, p’un ai’n derbyn tâl ai peidio, wrth gyflwyno’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn ar gyfer darparu’r Diben.

1.15. Mae “Gwariant Cymwys” yn golygu’r holl gostau, treuliau, atebolrwyddau, a rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â, a dynnir gan, neu sy’n codi o gyflawni, gweithgareddau, a gweithrediadau’r Diben gan y Derbynnydd yn ystod y cyfnod cyllido 01 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 ac sy’n cydymffurfio ym mhob ffordd â’r rheolau cymhwysedd a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn fel y’u pennir gan yr Awdurdod yn ôl ei ddisgresiwn llwyr.

1.16. “Gwladolion Prydeinig cymwys” yw’r rhai sydd:

a) wedi cael eu gwacáu o Affganistan gan fyddin y DU, gwledydd NATO eraill neu wladwriaeth ranbarthol yn ystod Ymgyrch PITTING

neu

b) wedi cael eu cynorthwyo gan LlEM i adael Affganistan ar ôl Ymgyrch PITTING, gyda’r cymorth hwn yn dechrau cyn 6 Ionawr 2022.

At ddiben y cyfarwyddyd cyllido hwn, mae cymorth yn golygu bod cymhwysedd wedi’i sefydlu gan yr FCDO i’w gynnwys yn hediadau siarter Llywodraeth Qatar o Kabul i Doha; neu gymorth FCDO i alluogi hwyluso ffiniau cyfreithiol o Affganistan i drydedd wlad (fel cyflwyno Nodyn Verbales i lywodraethau cynnal i ofyn am ganiatâd i ddinasyddion Prydeinig groesi eu ffiniau).

ac

c) wedi mynd i lety pontio NEU wedi’u cyflwyno’n ddigartref i gyngor.

1.17. Mae “ESOL” yn golygu ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ ffurfiol, neu gymorth sgil iaith ffurfiol arall cyfatebol.

1.18. Mae “Costau Eithriadol” yn golygu treuliau ychwanegol a dynnir gan Dderbynnydd wrth gefnogi Buddiolwr y mae gan yr Awdurdod gyllideb ar ei gyfer ac y gall, ar sail achos wrth achos, gytuno i’w had-dalu.

1.19. Mae “Ardal Rhannu Ffeiliau” (neu’r “FSA”) yn golygu’r ardal ddynodedig o fewn MOVEit lle gall Derbynnydd gyrchu ffeiliau y mae’r Awdurdod wedi’u darparu i’w rhannu.

1.20. Mae “Hyfforddiant Iaith Ffurfiol” yn golygu darparu ESOL a ddylai, lle bo modd, arwain at Fuddiolwyr yn ennill cymwysterau achrededig gan ddarparwr a reoleiddir gan gorff cenedlaethol priodol (h.y. OFQAL, SQA neu Cymwysterau Cymru). Mae hyn hefyd yn cynnwys cyrsiau nad ydynt eu hunain yn arwain at gymhwyster achrededig, ond sy’n helpu Buddiolwyr i gael mynediad yn ddiweddarach at gwrs sy’n arwain at gymhwyster achrededig. Er enghraifft, darpariaeth heb ei rheoleiddio a gynigir gan ddarparwyr ar lefel cyn mynediad, lle nad oes unrhyw gymwysterau achrededig. Rhaid i bob hyfforddiant iaith ffurfiol fodloni’r nodweddion allweddol dilynol:

1.20.1. Arweinir eu cyflwyniad gan diwtoriaid cymwys, a

1.20.2. Maent yn briodol i alluoedd Buddiolwyr unigol fel y’u nodir yn dilyn asesiad diagnostig dan arweiniad tiwtor ESOL cymwys, a

1.20.3. Maent yn dilyn cwricwla cytunedig.[footnote 1]

1.21. Mae’r “Cyfarwyddyd Cyllido” (neu’r “Cyfarwyddyd”) yn golygu’r ddogfen hon sy’n disgrifio’r amodau y gall Derbynnydd hawlio Cyllid oddi tanynt.

1.22. Mae “Cyllid” yn golygu cyfraniadau ariannol yr Awdurdod tuag at Wariant Cymwys Derbynnydd a dynnir i gefnogi Buddiolwyr am hyd at dri deg chwech (36) Mis ar ôl iddynt gyrraedd ardal awdurdod lleol a chychwyn y ddarpariaeth o dai a chymorth ac yn unol â’r telerau a chanlyniadau’r Cyfarwyddyd hwn.

1.23. Mae “Hyfforddiant Iaith Anffurfiol” yn golygu darpariaeth hyfforddiant iaith nad oes ganddi unrhyw un neu bob un o’r nodweddion a ddisgrifir yn 1.18, er enghraifft, gall ddigwydd mewn unrhyw leoliad, efallai y bydd ganddo gwricwlwm wedi’i osod ymlaen llaw neu efallai na fydd ganddo, ac fe’i darperir fel arfer mewn mewn ffordd strwythuredig neu led-strwythuredig, a ddarperir gan amrywiaeth o bobl gan gynnwys gwirfoddolwyr. Gall gynnwys magu hyder, dinasyddiaeth weithgar a llu o weithgareddau hamdden neu gymunedol.

1.24. Mae “Deddfau Gwybodaeth” yn golygu Deddfwriaeth Diogelu Data, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“FOIA”) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (“EIR”) sydd mewn grym, ac unrhyw Ddeddfau gweithredu cymwys fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

1.25. Mae “Ysgrifenedig” yn golygu dulliau o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau mewn ffurf weladwy gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ohebiaeth bapur, e-bost, arddangos ar sgrin a throsglwyddo electronig.

1.26. Mae “Deddf” yn golygu unrhyw ddeddf, statud, is-ddeddf, rheoliad, gorchymyn, polisi rheoleiddio, canllawiau neu god diwydiant, dyfarniad llys barn perthnasol, neu gyfarwyddebau neu ofynion unrhyw gorff rheoleiddio, deddfwriaeth ddirprwyedig neu is-ddeddfwriaeth sy’n berthnasol.

1.27. Mae “Mis” yn golygu mis calendr.

1.28. Mae “MOVEit” yn golygu gwasanaeth rhannu ffeiliau dwy ffordd ar-lein yr Awdurdod sy’n caniatáu rhannu data Swyddogol a Swyddogol Sensitif (IL2) ag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol a sefydliadau allanol, mewn amgylchedd cwbl ddiogel. Mae ffeiliau gan gynnwys PDFs, pob math o ddogfennau Office, delweddau a WinZip hyd at 2GB mewn maint yn gallu cael eu rhannu.

1.29. Mae “Gordaliad” yn golygu Cyllid a delir gan yr Awdurdod i’r Derbynnydd sy’n fwy na’r swm sy’n ddyledus mewn gwirionedd.

1.30. Mae gan “Data Personol” yr ystyr a roddir iddo yn Neddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

1.31. Mae “Derbynnydd” yn golygu awdurdod lleol neu ranbarthol sy’n cymryd rhan y mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid iddo o dan y Cyfarwyddyd hwn fel cyfraniad tuag at wariant cymwys sy’n cefnogi Buddiolwyr.

1.32. Mae “Ffoadur” yn golygu person cymwys sydd, waeth beth fo’i genedligrwydd:

1.32.1 wedi cael ei dderbyn fel un sydd mewn angen gan yr Awdurdod yn dilyn atgyfeiriad gan Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR), ac

1.32.2 wedi cyrraedd y DU ar ôl cael ei dderbyn i’r Cynlluniau,

1.32.3 ac wedi cael ei adsefydlu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

1.33. Mae “Atodlen” yn golygu’r Atodlenni sydd ynghlwm wrth y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.34. At ddibenion y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, ystyr “Y Cynlluniau”, yw’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a’r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP), ynghyd â Dinasyddion Prydeinig Cymwys.

1.35. Mae “Staff” yn golygu unrhyw berson a gyflogir neu a gyflogir dros dro gan y Derbynnydd ac sy’n gweithredu mewn cysylltiad â gweithredu’r Cyfarwyddyd hwn gan gynnwys perchnogion, cyfarwyddwyr, aelodau, ymddiriedolwyr, cyflogeion, asiantau, cyflenwyr, gwirfoddolwyr, a Phartneriaid Cyflenwi y y Derbynnydd (a’u cyflogeion, asiantau, cyflenwyr a Phartneriaid Cyflenwi) a ddefnyddir i gyflawni’r canlyniadau a gyllidir.

1.36. Mae “SMP” yn golygu Partneriaeth Ymfudo Strategol.

1.37. Mae “Trydydd Parti” yn golygu unrhyw barti boed yn berson neu’n sefydliad heblaw’r Awdurdod neu’r Derbynnydd.

1.38. Mae “Diwrnod Gwaith” yn golygu unrhyw ddiwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener (yn gynwysedig) ac eithrio unrhyw wyliau cyhoeddus cydnabyddedig yn y DU.

2. Y cyfarwyddiad hwn

2.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn cynnwys tair ar ddeg (13) o Erthyglau, un (1) Atodlen, a saith (7) Atodiad ac mae’n disodli unrhyw gyfarwyddiadau cyllido a gyhoeddwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod sy’n darparu cyfraniadau ariannol tuag at gostau Derbynwyr a dynnwyd i gefnogi Buddiolwyr.

2.2. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn darparu Cyllid sy’n galluogi Derbynnydd i gefnogi Buddiolwyr:

2.2.1. yn ystod y deuddeg (12) mis cyntaf ar ôl cyrraedd ardal y Derbynnydd, gan gynnwys Costau Addysgol (BLWYDDYN 1) – Atodlen 1, Rhan 1,

2.2.2. yn ystod y pedwar ar hugain (24) Mis dilynol (BLYNYDDOEDD 2 – 3) – Atodlen 1, Rhan 2,

2.2.3. ar y Cynllun Nawdd Cymunedol (ar gyfer Buddiolwyr ACRS yn unig) – Atodlen 1, Rhan 3,

2.2.4. i wella eu sgiliau iaith Saesneg er mwyn cynorthwyo ag integreiddio a gwella cyflogadwyedd – Atodlen 1, Rhan 4, ac

2.2.5. ag anghenion gofal plant i fynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol – Atodlen 1, Rhan 5.

2.3. Mae’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn yn disodli unrhyw delerau ac amodau y cytunwyd arnynt yn flaenorol rhwng yr Awdurdod a’r Derbynydd/Derbynwyr i ddarparu cymorth i fuddiolwyr y Cynllun ARAP a gyrhaeddodd o 22 Mehefin 2021 ymlaen.

3. Cwmpas

3.1. Gellir gwneud hawliadau dan y cyfarwyddyd hwn ar gyfer Buddiolwyr sydd wedi cyrraedd y DU o dan un o’r cynlluniau a nodir ym mharagraffau 3.1.1 a 3.12, ynghyd â Gwladolion Prydeinig Cymwys.

3.1.1. Y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS), a fydd yn blaenoriaethu’r rhai sydd wedi cynorthwyo ymdrechion y DU yn Affganistan ac wedi sefyll dros werthoedd fel democratiaeth, hawliau menywod a rhyddid barn, rheolaeth y gyfraith; a phobl agored i niwed, gan gynnwys menywod a merched mewn perygl, ac aelodau o grwpiau lleiafrifol sydd mewn perygl. Bydd y cynllun hwn yn adsefydlu hyd at 20,000 o bobl mewn perygl. Bydd priodau, partneriaid, a phlant dibynnol dan 18 oed unigolion cymwys a nodwyd yn gymwys ar gyfer y cynllun. Gall aelodau eraill o’r teulu fod yn gymwys mewn amgylchiadau eithriadol. Gellir cynnig adsefydlu i blant ar eu pen eu hunain o dan yr ACRS os penderfynir bod adsefydlu i’r DU er eu lles gorau, a’u bod wedi’u nodi’n gymwys ar gyfer y cynllun. Bydd plant ar eu pen eu hunain sy’n cael eu hadsefydlu o dan ACRS (oni bai mewn amgylchiadau eithriadol) yn cael eu trin yn yr un modd â Phlant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches (UASC) at ddibenion cyllido, a bydd awdurdodau lleol sy’n derbyn plant ar eu pen eu hunain o dan y Cynllun yn cael eu had-dalu yn unol â Chyfarwyddyd Cyllido UASC y flwyddyn berthnasol, nid y Cyfarwyddyd hwn.

3.1.2. Mae’r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP), a ddaeth yn fyw ar 1 Ebrill 2021, yn cynnig adleoli neu gymorth arall i’r rhai a wasanaethodd ochr yn ochr â’n lluoedd arfog yn Affganistan ac a roddodd gefnogaeth bwysig i genhadaeth amddiffyn a diogelwch Llywodraeth Ei Mawrhydi yno, yn bennaf y rhai sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol, neu mewn rhai achosion arbennig drwy gontractwyr, ac yr asesir eu bod mewn perygl difrifol o ganlyniad i waith o’r fath. Mae ar gael i bobl waeth beth fo’u rheng neu rôl, neu hyd yr amser a wasanaethwyd, ac mae’n adeiladu ar y cymorth hirsefydlog sydd eisoes ar gael. Mae’r polisi’n darparu i’r prif ymgeisydd ddod ag aelodau agos o’u teulu (priod a phlant o dan 18 oed) i’r DU ac mae’n ehangu’n sylweddol y meini prawf cymhwysedd o’r cynllun blaenorol. Gall aelodau eraill o’r teulu fod yn gymwys mewn amgylchiadau eithriadol. Dim ond ar gyfer Buddiolwyr a ddechreuodd gael cymorth gan Dderbynnydd ar neu ar ôl 22 Mehefin 2021 y gellir gwneud hawliadau o dan y cyfarwyddyd hwn.

3.2. I gefnogi’r ymrwymiadau hyn ymhellach, mae’r Cynllun Nawdd Cymunedol wedi’i ddatblygu gan alluogi Noddwyr, yn lle’r Derbynnydd, i ddarparu cymorth cofleidiol cynhwysfawr i’r rhai sydd wedi’u hadsefydlu yn y DU o dan yr ACRS am gyfnod o ddwy (2) flynedd.

3.3. Mae’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (Llwybr 2) yn cael ei redeg mewn partneriaeth ag Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (Yr ‘UNHCR’). Mae’n dangos cefnogaeth y DU i ymdrech fyd-eang yr UNHCR i leddfu’r argyfwng dyngarol drwy ddarparu cyfleoedd adsefydlu i bobl agored i niwed mewn cymunedau yn y DU sydd:

3.3.1 wedi cofrestru gyda’r UNHCR; ac

3.3.2 mae’r UNHCR yn ystyried eu bod yn bodloni un o’u categorïau cyflwyno adsefydlu[footnote 2]

3.4. Mae’r Derbynnydd wedi gwneud ymrwymiadau i gefnogi’r Cynlluniau, ac mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid i’r Derbynnydd fel cyfraniad at gefnogi Buddiolwyr am hyd at dair (3) blynedd ar ôl cyrraedd ardal y Derbynnydd am y tro cyntaf fel y disgrifir ymhellach yn y Cyfarwyddyd hwn.

3.5. Oni nodir yn benodol fel arall, bydd unrhyw Gyllid yn ymwneud â chostau Derbynnydd wrth gyflawni ei ddyletswyddau statudol, ac unrhyw beth y cytunir arno fel arall gyda’r Awdurdod.

3.6. Gall cyllid fod ar gael i fuddiolwyr y mae dyletswyddau digartrefedd yn ddyledus iddynt o dan Ddeddf Tai 1996 ac sy’n cael eu hadsefydlu drwy’r cynllun wrth gyflawni’r dyletswyddau hynny.

3.7. Bydd y Derbynnydd yn rhydd i benderfynu’r ffordd orau i ddefnyddio’r Cyllid ond at ddibenion monitro a gwerthuso Cynlluniau rhaid iddo allu dangos bod y Cyllid wedi’i ymrwymo i gefnogi Buddiolwyr a hyrwyddo nodau’r Cynlluniau.

4. Hyd

4.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn nodi o dan ba delerau y bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod Cyllid ar gael i’r Derbynnydd, mewn perthynas â gwariant a dynnir i gefnogi Buddiolwyr. Dim ond ar gyfer Buddiolwyr a ddechreuodd gael cymorth gan Dderbynnydd ar neu ar ôl 01 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 y gellir gwneud hawliadau o dan y cyfarwyddyd hwn.

4.2. Yn unol â pholisïau cyllido sefydledig Trysorlys EM, bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi cyfarwyddyd newydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol y cymeradwyir Cyllid ar ei chyfer. Bydd hyn yn digwydd p’un a wneir unrhyw newidiadau ai peidio.

5. Tryloywder, Cyfrinachedd, Diogelu Data A Rhannu Data

5.1. Mae’r Derbynnydd yn cydnabod y gall trefniadau cyllid grant a gyhoeddir gan adrannau’r llywodraeth gael eu cyhoeddi ar wefan gyhoeddus ac y bydd yr Awdurdod yn datgelu taliadau a wnaed yn erbyn y Cyfarwyddyd hwn yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i effeithlonrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.

5.2. Mae’r Derbynnydd yn ymrwymo i gadw’n gyfrinachol ac i beidio â datgelu, ac i sicrhau bod ei staff yn cadw’n gyfrinachol ac nad yw’n datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi’i chael o ganlyniad i’r Cyfarwyddyd hwn.

5.3. Nid oes dim yn yr Erthygl 5 hon yn gymwys i wybodaeth sydd eisoes yn y parth cyhoeddus neu feddiant y Derbynnydd ac eithrio oherwydd torri’r Erthygl 5 hon. Ymhellach, ni fydd yr Erthygl 5 hon yn gymwys i wybodaeth y mae’n ofynnol ei datgelu yn unol ag unrhyw ddeddf neu yn unol â gorchymyn unrhyw lys neu gorff statudol neu reoleiddiol.

5.4. Bydd y Derbynnydd a’r Awdurdod yn cydymffurfio bob amser â’u rhwymedigaethau priodol o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

5.5. Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud ag unrhyw Fuddiolwr a ddatgelir iddo wrth gyflawni’r Cynlluniau hyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol a dim ond yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU y dylid ei datgelu i drydydd parti. Os bydd unrhyw amheuaeth yn codi, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Awdurdod a bydd ei benderfyniad ar y mater yn derfynol. Yn benodol, bydd y Derbynnydd yn:

5.5.1. rhoi polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith i gydnabod a chynnal angen y Buddiolwr am gyfrinachedd; a

5.5.2. sicrhau, heb ganiatâd Buddiolwr, nad yw manylion y Buddiolwr unigol hwnnw’n cael eu rhyddhau i unrhyw sefydliad nad yw’n rhan o’r Cyfarwyddyd hwn.

5.6. Ni fydd y Derbynnydd yn defnyddio unrhyw wybodaeth y mae wedi’i chael o ganlyniad i gyflawni’r Cynlluniau (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw Fuddiolwr) mewn unrhyw fodd sy’n anghywir neu’n gamarweiniol.

5.7. Ar ôl derbyn data personol gan yr Awdurdod, bydd y Derbynnydd yn dod yn rheolydd annibynnol o’r data hwnnw yn yr ystyr y bydd y Derbynnydd, wrth gyflawni’r Cynlluniau, ar unrhyw adeg yn pennu pwrpas a dull prosesu’r data personol. Wrth wneud hynny byddant yn cydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data berthnasol mewn perthynas â phrosesu Data Personol o’r fath, yn gyfrifol yn unigol ac ar wahân am ei gydymffurfiaeth ei hun ac mewn perthynas â phrosesu Data Personol fel Rheolydd annibynnol, yn gweithredu ac yn cynnal mesurau technegol a sefydliadol priodol i sicrhau lefel o ddiogelwch sy’n briodol i’r risg honno, gan gynnwys, fel y bo’n briodol, y mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(1)(a), (b), (c) a (d) o’r GDPR, a’r rhaid i fesurau, o leiaf, gydymffurfio â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, gan gynnwys Erthygl 32 o’r GDPR.

5.8. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig, mae’r Derbynnydd yn gyfrifol am ddilyn ei drefniadau diogelu data lleol a chyfeirio unrhyw doriad data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr i nodi’r digwyddiad cychwynnol.

5.9. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig rhaid hysbysu’r Awdurdod ar unwaith. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu pa gamau adferol, os o gwbl, y dylid eu cymryd a bydd y Derbynnydd yn rhwym i benderfyniad yr Awdurdod ac yn cadw ato.

5.10. Lle bo Derbynnydd yn gyfrifol am ddatgeliad anawdurdodedig sy’n torri’r Cyfarwyddyd hwn, bydd y Derbynnydd hwnnw’n atebol am unrhyw ganlyniadau o ddatgeliad anawdurdodedig o’r fath, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol.

5.11. Cyn gadael am y DU, bydd ffoaduriaid Llwybr 2 ACRS wedi llofnodi ffurflen ganiatâd yn cadarnhau eu parodrwydd i rannu data personol â chyrff gweithredol a phartneriaid cyflawni perthnasol. Bydd yr Awdurdod yn cadw’r ffurflenni hyn ac yn caniatáu i’r Derbynnydd eu harchwilio yn ôl y gofyn.

5.12. Mae’r Awdurdod hefyd yn disgwyl i’r Derbynnydd rannu gwybodaeth berthnasol am gyflawniad y Cynlluniau ac am Fuddiolwyr gyda’i bartneriaid; cyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod cytundeb ffurfiol wedi’i lofnodi gyda’r darparwyr perthnasol o’r Cynlluniau sy’n llifo i lawr telerau’r Protocol Rhannu Data.

5.13. Rhaid rhannu Ffurflen Gofrestru Adsefydlu UNHCR (RRF) neu unrhyw ddogfen gysylltiedig arall a grëir gan UNHCR am Fuddiolwr (ffoadur), dim ond ar sail angen gwybod.

5.14. Rhaid peidio â rhannu’r RRF a dogfennau cysylltiedig â’r ffoadur dan sylw, nac ag unrhyw barti arall y tu allan i’r partneriaid cyflawni priodol, heb gytundeb penodol swyddfa UNHCR yn Llundain.

5.15. Rhaid cyfeirio pob cyswllt a wneir gan unrhyw berson neu sefydliad nad yw’n rhan o’r Cyfarwyddyd hwn mewn perthynas â chyflawni i gyllido’r Cynlluniau at swyddfa wasg yr Awdurdod am gyngor a/neu gamau gweithredu.

5.16. Lle mae’n berthnasol, mae’n ofynnol i’r Derbynnydd a’r Awdurdod gydymffurfio â’r Deddfau Gwybodaeth, unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed, ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

5.17. Mae’r Derbynnydd yn cytuno i gynorthwyo a chydweithio â’r Awdurdod i alluogi’r Awdurdod i gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Deddfau Gwybodaeth pryd bynnag y gwneir cais am wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu sy’n codi ohono.

5.18. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei datgelu pe byddai datgeliad o’r fath yn torri amodau neu os yw wedi’i eithrio rhag cael ei datgelu o dan y Deddfau Gwybodaeth.

5.19. Bydd y Derbynnydd yn sicrhau ei fod ef, a’i Staff, yn cydymffurfio â phrotocolau rhannu data’r Awdurdod fel y disgrifir yn Atodiad C.

5.20. Bydd darpariaethau’r Erthygl 5 hon yn goroesi terfyniad y Cyfarwyddyd hwn, sut bynnag y bydd hynny’n digwydd.

6. Cyllid

Gwariant Cymwys

6.1. Ni ddylid defnyddio’r arian a ddarperir at unrhyw ddiben heblaw cyflawni canlyniadau’r Cynllun a nodir yn Atodlen 1 y Cyfarwyddyd hwn, ac ni chaniateir trosglwyddo unrhyw arian o’r fath yn rhywle arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod.

6.2. Mae unrhyw faterion ariannu sy’n deillio o Fuddiolwr yn symud yn barhaol o awdurdod lleol cyfranogol yn ystod uchafswm tymor tri deg chwech (36) Mis y Cyllid i’w datrys rhwng y Derbynnydd a’r awdurdod lleol perthnasol.

6.3. Ni chaiff unrhyw agwedd ar y gweithgarwch a gyllidir gan yr Awdurdod fod yn wleidyddol o ran bwriad, defnydd na chyflwyniad.

6.4. Ni cheir defnyddio’r Cyllid i gefnogi neu hyrwyddo gweithgarwch crefyddol. Ni fydd hyn yn cynnwys gweithgarwch a gynllunir i wella perthnasoedd rhyng-ffydd a/neu weithio.

Gordaliadau

6.5. Rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted â phosibl os yw Derbynnydd yn disgwyl i’w ofynion Cyllido fod yn is na’r disgwyl, er mwyn osgoi Gordaliadau.

6.6. Os gwneir Gordaliad, sut bynnag y caiff ei achosi, rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd yr Awdurdod yn gofyn am ad-daliad ar unwaith o’r Gordaliad neu gall addasu taliad(au) dilynol yn unol â hynny.

Terfynu Cyllid

6.7. Bydd cyfrifoldeb yr Awdurdod am ddarparu Cyllid o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben heb fod yn hwyrach na’r tri deg chwech (36) mis ers dechrau cymorth i Fuddiolwyr o dan y Cynlluniau ac nid oes modd hawlio Cyllid ar gyfer unrhyw gymorth a ddarperir y tu hwnt i’r pen-blwydd hwn.

6.8. Gall taliadau ddod i ben hefyd os bydd y Buddiolwr:

6.8.1. yn marw,

6.8.2. yn gadael ardal y Derbynnydd i fyw mewn ardal awdurdod lleol arall yn y DU,

6.8.3. yn nodi nad yw bellach yn dymuno cael cymorth o dan y Cynlluniau,

6.8.4. yn nodi eu bod yn gadael y DU yn barhaol,

6.8.5. yn gwneud cais am ryw statws Mewnfudo arall o fewn y DU, neu

6.8.6. fel arall yn gadael neu’n dod yn anghymwys ar gyfer y Cynlluniau.

6.9. Os bydd unrhyw ddigwyddiad o’r fath o dan Gymal 6.8, rhaid i’r Derbynnydd hysbysu’r Awdurdod yn ddi-oed.

6.10. At ddibenion Cymal 6.7, bydd y cyfnod tri deg chwech (36) Mis yn cychwyn ar y dyddiad y bydd y Buddiolwr yn cyrraedd gyda’r Derbynnydd, a chychwyn y cymorth, a bydd yn parhau’n ddi-dor tan ddiwedd y cyfnod tri deg chwech Mis hwnnw (36).

6.11. Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i roi’r gorau i wneud taliadau drwy’r Cyfarwyddyd hwn os oes ganddo sail resymol i gredu bod y Buddiolwr wedi ceisio twyllo’r Awdurdod, y Derbynnydd perthnasol, neu asiantaeth bartner mewn perthynas â’u hamgylchiadau, gan gynnwys eu cynnwys ar y Cynlluniau neu eu gweithgareddau tra’n cymryd rhan.

Costau Eithriadol

6.12. Gellir gwneud taliadau hefyd er mwyn talu costau hanfodol ychwanegol a dynnir gan y Derbynnydd y tu hwnt i’r hyn y gellid yn rhesymol ei ystyried yn wariant arferol ac nad yw ar gael drwy fecanweithiau cyllido prif ffrwd eraill. Gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb Costau Eithriadol, ymhlith pethau eraill, i dalu am:

  • Addasiadau Eiddo (gweler Atodiad D)

  • Costau Eiddo Gwag (gweler Atodiad E)

  • Cymorth i blant ag anghenion addysgol dynodedig

  • Darpariaeth Gofal Cymdeithasol

  • Ychwanegiad enwol Credyd Cynhwysol (gweler Atodlen 1, Cymal 1.11)

  • Costau Cymorth Tai Ychwanegol (gweler Atodiad G)

6.13. Cyn tynnu Costau Eithriadol, rhaid i Dderbynnydd geisio cytundeb ysgrifenedig gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan yr Awdurdod neu beryglu i’r hawliad gael ei wrthod. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio ei farn resymol wrth asesu mesurau lliniaru ar gyfer hawliadau lle na fu hyn yn bosibl. Gweler Atodiad F.

6.14. Bydd pob cais yn cael ei asesu, a thaliadau yn cael eu gwneud, fesul achos:

6.14.1. Nid oes isafswm nac uchafswm y gellir ei hawlio.

6.14.2. Ni ellir hawlio Costau Eithriadol am gymorth a ddarperir i Fuddiolwr a fyddai fel arfer yn cael ei gyllido drwy gyllid iechyd neu addysg y pen neu drwy daliadau lles.

6.14.3. Rhaid i dderbynwyr gyflwyno tystiolaeth o wariant Costau Eithriadol a dynnwyd (e.e. copi o anfonebau) ynghyd â ffurflen hawlio Costau Eithriadol, cyn y bydd hawliadau’n cael eu hystyried i’w talu.

6.15. Bydd yr Awdurdod yn adolygu gweithrediad y broses Costau Eithriadol a’r gyllideb o bryd i’w gilydd.

Costau Cymorth Tai Ychwanegol

6.16. Gellir gwneud taliadau hefyd er mwyn talu costau tai ychwanegol y mae’r Derbynnydd wedi’u hysgwyddo o reidrwydd i gyllido llety i deuluoedd mwy sy’n cael eu hadsefydlu drwy’r Cynlluniau ARAP ac ACRS, yn ogystal â gwladolion Prydeinig cymwys a ddaeth i’r DU fel rhan o’r digwyddiad gwacáu. Nid yw’r cyllid ar gael i gartrefu teuluoedd ACRS sy’n cael eu hadsefydlu i’r DU ar ôl 31 Awst 2021 (h.y. nad oeddent yn rhan o’r digwyddiad gwacáu). Cymerwyd y penderfyniad hwn i sicrhau tegwch o ystyried mai cyfiawnhad polisi oedd y gwacáu torfol, er ein bod yn cadw hyn dan adolygiad.

6.17. Er y bydd cyfanswm y Cyllid ar gael am hyd at 3 blynedd o ddyddiad dechrau’r denantiaeth, mae’r rhan fwyaf o gyfanswm y Cyllid i’w ddyrannu yn 2021-22 (£15m) gyda chyfanswm y Cronfeydd yn cael eu lleihau yn 2022-23 ( £7.5m) a 2023-24 (£3m). Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir i Dderbynwyr gefnogi teuluoedd i ddod o hyd i waith gyda chyflog digonol i allu cyllido eu llety eu hunain.

6.18. Mae’n bosibl y bydd taliadau ar gael i dalu costau eithriadol mewn perthynas â:

6.18.1. Sicrhau eiddo mwy (3 ystafell wely neu fwy) am renti fforddiadwy o fewn y sector rhentu preifat trwy gynnig cyllid ‘atodol’ i dalu am unrhyw fwlch rhwng y Lwfans Tai Lleol (LHA) a rhent y farchnad ar gyfer eiddo. Gallai’r cyllid atodol gael ei dalu gan y Derbynnydd fel cyfandaliad o’r cychwyn cyntaf i sicrhau eiddo a fydd wedyn yn cael ei osod am rent fforddiadwy am gyfnod y denantiaeth. Fel arall, gall y Derbynnydd ddarparu cyllid atodol i gynorthwyo gyda’r rhent am gyfnod o amser nes bod y teulu’n dod o hyd i waith gyda chyflog digonol i ddileu hawl i Gredyd Cynhwysol.

6.18.2. Cwmpasu unrhyw ddiffygion mewn taliadau Credyd Cynhwysol sy’n effeithio ar allu teulu i dalu eu rhent. Efallai y bydd derbynwyr am sicrhau costau cymorth tai ychwanegol er mwyn sicrhau tenantiaethau i deuluoedd gan wybod y gellir talu costau rhentu, hyd at lefel LHA, pe byddai’r teulu’n destun y cap ar fudd-daliadau.

6.18.3. Gall costau tai eithriadol ychwanegol gael eu talu hefyd trwy gytundeb ymlaen llaw gyda’r Awdurdod. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, costau ychwanegol i sicrhau eiddo llai o faint gyda chytundeb ymlaen llaw lle mae anghenion penodol na fyddent yn cael eu diwallu fel arall.

6.19. Gall derbynwyr wneud cais am Gyllid o dan fwy nag un o’r tri chategori uchod a nodir ar gyfer un aelwyd. Os yw Derbynnydd yn gwneud cais am Gyllid o dan fwy nag un categori mewn perthynas ag aelwyd, rhaid i’r Derbynnydd ddangos nad oes unrhyw ddyblygu.

6.20. Ar ôl ceisio adborth gan awdurdodau lleol, mae’r broses symlach ar gyfer gwirio cymhwysedd ar gyfer Cyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol wedi’i chynnwys yn Atodiad G.

Cyffredinol

6.21. Ni fydd yr Awdurdod yn ad-dalu gwariant anawdurdodedig sy’n uwch na’r lefelau Cyllido uchaf a nodir yn Atodlen 1, 1.31.

6.22. Ym mhob achos, dylai Cyllid a dderbynnir gael ei gronni a’i reoli ar draws yr holl Fuddiolwyr gyda chymorth y Derbynnydd perthnasol.

6.23. Y Derbynnydd perthnasol fydd y pwynt cyswllt sengl ar gyfer anfonebau a thaliadau.

6.24. Bydd unrhyw daliadau a wneir o dan y Cyfarwyddyd hwn hefyd yn cynnwys TAW neu dollau eraill a delir gan y Derbynnydd i’r graddau na fydd y Derbynnydd yn adennill y rhain fel arall.

6.25. Ni ddylid dehongli dim yn y Cyfarwyddyd hwn fel rhywbeth sy’n darparu neu’n caniatáu i gyfanswm y budd-daliadau perthnasol fynd dros y terfyn statudol (y ‘cap budd-daliadau’) sy’n bodoli ar adeg y taliad.

7. Cysoni data a thaliadau

7.1. Bydd y Derbynnydd yn cwblhau ceisiadau am daliad ar y ffurf berthnasol a nodir yn Atodiad A, sy’n cynnwys manylion pob Buddiolwr a’r cymorth ariannol y gwneir cais amdano.

7.2. Mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer cwblhau Atodiad A wedi’u cynnwys yng ngweithlyfr Excel cyllido’r ALl, a ddarperir gan yr Awdurdod. Dim ond trwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MOVEIT DMZ”, y dylid cyflwyno’r ffurflen yn Atodiad A er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.

7.3. Gwneir taliadau o fewn tri deg (30) Diwrnod o dderbyn hawliad wedi’i gwblhau’n gywir.

7.4. Dylai’r Awdurdod dderbyn yr Atodiad A a gyflwynir i’w dalu heb fod yn hwyrach na thri (3) mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r cais yn ymwneud ag ef; gall dychwelyd yn hwyr arwain at oedi cyn talu. Bydd y Derbynnydd yn cael cyfle i wneud sylwadau os yw’n credu bod lefel y Cyllid a dderbyniwyd yn llai na’r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn. Rhaid i’r Derbynnydd perthnasol hysbysu’r Tîm Taliadau Cynlluniau Affganistan am unrhyw anghysondebau ynghylch y symiau a dalwyd o fewn un (1) Mis o anfon ymateb Atodiad A, yn dilyn cysoni yn erbyn cofnodion yr Awdurdod.

7.5. Ar ddiwedd y cyfnod y telir cymorth ar ei gyfer, bydd gwiriadau terfynol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y taliadau a wnaed eisoes yn adlewyrchu’n gywir y symiau y mae gan y Derbynnydd hawl iddynt. Mae taliadau a wneir o ganlyniad i geisiadau i’w hystyried yn daliadau ar gyfrif, a fydd yn cael eu cwblhau pan fydd y cais terfynol yn cael ei gadarnhau gan yr Awdurdod. Dylai’r Derbynnydd nodi na ddylid newid fformat y taenlenni hawlio.

7.6. Lle mae Derbynnydd yn credu bod lefel y Cyllid a dalwyd mewn gwirionedd gan yr Awdurdod yn llai na’r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn, gall y Derbynnydd gyflwyno sylwadau i Dîm Cyllido’r Awdurdod. Rhaid rhoi gwybod i’r Tîm Taliadau Cynlluniau Affganistan am unrhyw anghysondebau o fewn un (1) Mis o wneud taliad. Ni ellir cytuno ar daliadau ôl-weithredol gan yr Awdurdod ar gyfer unigolion nad ydynt wedi’u cynnwys yn brydlon yn hawliad Atodiad A oni bai y gellir dangos amgylchiadau eithriadol.

7.7. Gwneir taliadau trwy BACS gan ddefnyddio manylion cyfrif y mae’n rhaid i’r Derbynnydd eu rhoi i’r Awdurdod ar bapur pennawd, wedi’i lofnodi gan uwch swyddog cyllid. Mae’r Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr Awdurdod wedi cael gwybod am ei fanylion cyfrif banc cywir ac unrhyw newidiadau dilynol. Mae’r wybodaeth sydd ei hangen ar yr Awdurdod i alluogi cyfrif newydd neu newid manylion talu BACS fel sy’n dilyn:

Manylion y Cyflenwr

  1. Enw cofrestredig y cwmni
  2. Enw masnachu’r cwmni
  3. Rhif cofrestru’r cwmni
  4. Rhif cofrestru TAW

Manylion Cyfeiriad y Cyflenwr

  1. Cyfeiriad Cofrestredig

  2. Cyfeiriad Rheoli Credyd/Cyllid

Manylion Cyswllt

  1. Cyfeiriad e-bost ar gyfer archebion prynu
  2. Cyfeiriad e-bost ar gyfer hysbysiad talu
  3. Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau anfonebau
  4. Rhif Ffôn ar gyfer Cyfrifon Derbyniadwy/Rheoli Credyd

Manylion Talu

  1. Enw’r Banc
  2. Enw a chyfeiriad y gangen
  3. Enw Cyfrif Banc y Cwmni
  4. Rhif Cyfrif Banc
  5. Cod Didoli Cyfrif Banc

7.8. Os bydd newid yn y manylion banc, dylai’r Derbynnydd perthnasol hysbysu’r Awdurdod ar unwaith o’r wybodaeth newydd. Rhaid darparu hysbysiad o’r fath yn ysgrifenedig, ar ffurf PDF, ac yn unol â gofynion Cymal 7.7.

7.9. Rhaid i’r Derbynnydd gofnodi gwariant yn ei gofnodion cyfrifyddu o dan safonau cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol mewn ffordd y gellir tynnu’r costau perthnasol yn syml os oes angen. Drwy gydol y flwyddyn, bydd tîm Cyllido’r Awdurdod yn gweithio gyda’r Derbynnydd i sicrhau cywirdeb hawliadau, a thrwy hynny leihau’r angen am archwiliadau ar ddiwedd y flwyddyn.

8. Monitro a gwerthuso

8.1. Dylai’r Derbynnydd ei hun reoli a gweinyddu ansawdd a lefel y ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r cymorth y mae’n ei roi i Fuddiolwyr.

8.2. Bydd yr Awdurdod yn gofyn i’r Derbynnydd ddarparu gwybodaeth a dogfennaeth ynghylch Buddiolwyr at ddibenion monitro a gwerthuso.

8.3. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth ar lefel unigol am Fuddiolwyr ar gyfer gwerthuso’r Cynlluniau. Dim ond trwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MOVEIT DMZ”, y dylid cyflwyno’r ffurflen dystiolaeth, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

8.4. Bydd y Derbynnydd yn darparu gwybodaeth y gofynnir amdani i fonitro cynnydd yn erbyn y Datganiad o Ganlyniadau. Gall ymweliadau gael eu gwneud o bryd i’w gilydd gan yr Awdurdod neu ei gynrychiolwyr penodedig, gan gynnwys y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Er nad oes angen cyflwyno costau manwl, mae’n rhaid i’r Derbynnydd allu darparu’r costau ar gyfer achosion unigol ac, os bydd angen, bydd disgwyl iddo gyfiawnhau, egluro a dangos tystiolaeth o’r costau.

8.5. Ym mhob achos, er mwyn cynorthwyo gyda monitro a gwerthuso’r Cynlluniau, bydd y Derbynnydd yn rhoi i’r Awdurdod yr holl wybodaeth ariannol y gofynnir amdani’n rhesymol o bryd i’w gilydd, ar sail llyfr agored.

9. Torri amodau cyllido

9.1. Lle mae Derbynnydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn, neu os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a grybwyllir yng Nghymal 9.2 yn digwydd, yna gall yr Awdurdod leihau, atal neu wrthod taliadau, neu fynnu bod y cyfan neu unrhyw ran o’r taliadau perthnasol yn cael eu had-dalu gan y Derbynnydd. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r Derbynnydd ad-dalu unrhyw swm sy’n ofynnol o dan y Cymal 9.1 hwn o fewn tri deg (30) Diwrnod o dderbyn y cais am ad-daliad.

9.2. Mae’r digwyddiadau y cyfeirir atynt yng Nghymal 9.1 fel sy’n dilyn:

9.2.1. Mae’r Derbynnydd yn honni ei fod yn trosglwyddo neu’n aseinio unrhyw hawliau, buddiannau neu rwymedigaethau sy’n codi o dan y Cytundeb hwn heb gytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod, neu

9.2.2. Canfyddir bod unrhyw wybodaeth a ddarperir yn y cais am Gyllid (neu mewn hawliad am daliad neu Gostau Eithriadol) neu mewn unrhyw ohebiaeth ategol ddilynol yn anghywir neu’n anghyflawn i’r graddau y mae’r Awdurdod yn ei ystyried yn berthnasol, neu

9.2.3. Mae’r Derbynnydd yn cymryd mesurau annigonol i ymchwilio i unrhyw afreoleidd-dra a adroddir a’i ddatrys.

10. Gweithgareddau – Cyffredinol

Is-gontractio

10.1. Wrth gaffael gwaith, nwyddau neu wasanaethau rhaid i’r Derbynnydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol, er enghraifft Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Beth bynnag, bydd y Derbynnydd yn dangos gwerth am arian ac yn gweithredu mewn modd teg, agored ac anwahaniaethol ym mhob achos o brynu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi cyflawni’r Cynlluniau.

10.2. Pan fo’r Derbynnydd yn ymrwymo i gontract (neu fath arall o gytundeb) ag unrhyw drydydd parti ar gyfer darparu unrhyw ran o’r Cynlluniau, bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod amod yn cael ei gynnwys yn y contract neu gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Derbynnydd dalu’r holl symiau sy’n ddyledus. o fewn cyfnod penodol: bydd hyn fel y’i diffinnir gan delerau’r contract neu’r cytundeb hwnnw, ond ni fydd yn hwy na thri deg (30) Diwrnod o ddyddiad derbyn anfoneb ddilysedig.

10.3. Rhaid i’r Derbynnydd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau na fydd unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran yn dwyn anfri ar yr Awdurdod na’r Cynlluniau; er enghraifft, oherwydd rhagfarnu a/neu fod yn groes i fuddiannau’r Awdurdod a/neu’r Cynlluniau.

Oriau Gweithredu

10.4. Bydd y Derbynnydd yn nodi bod yr Awdurdod yn cyflawni busnes arferol yn ystod yr oriau 09.00 i 17.00 ar Ddiwrnodau Gwaith.

10.5. Darperir y Cynllun o leiaf ar bob Diwrnod Gwaith. Mae’r Awdurdod yn cydnabod, er budd effeithlonrwydd, y bydd union argaeledd ac amseriad yr elfennau gwasanaeth amrywiol yn amrywio. Rhagwelir y bydd angen rhywfaint o ddarpariaeth y tu allan i oriau gan y Derbynnydd.

10.6. Dylai pob safle a ddefnyddir i gyflawni elfennau’r Cynllun fodloni’r holl ofynion rheoleiddio a bod yn addas i’r diben.

Cwynion

10.7. Bydd y Derbynnydd a/neu ei bartneriaid cyflawni yn datblygu, cynnal a gweithredu gweithdrefnau sy’n galluogi Buddiolwyr i gwyno am y gefnogaeth a’r cymorth a ddarperir gan y Derbynnydd.

Safonau Staff

10.8. Bob amser wrth gyflawni’r Cynlluniau, bydd y Derbynnydd yn ymwybodol o fwriad, ac yn gweithredu ysbryd, “Cod Ymddygiad ar gyfer Derbynwyr Grantiau Cyffredinol y Llywodraeth”[footnote 3]Llywodraeth y DU sy’n amlinellu’r safonau a’r ymddygiadau y mae’r llywodraeth yn eu disgwyl o’i holl Bartneriaid Cyflenwi.

10.9. Bydd y Derbynnydd yn:

10.9.1. sicrhau bod y broses o recriwtio, dethol a hyfforddi Staff yn gyson â’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni’r canlyniadau,

10.9.2. cyfarparu a hyfforddi Staff yn llawn i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu rolau a sicrhau bod darpariaethau diogelwch priodol a digonol yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl Staff sy’n ymgymryd â gweithgareddau wyneb yn wyneb,

10.9.3. sicrhau bod lefelau Staff yn briodol bob amser at ddibenion cyflawni’r Cynlluniau a sicrhau diogelwch a lles yr holl Fuddiolwyr, plant dibynnol, a’i Staff,

10.9.4. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau eu bod nhw ac unrhyw un sy’n gweithredu ar eu rhan yn meddu ar yr holl gymwysterau, trwyddedau, hawlenni, sgiliau, a phrofiadau angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol, yn ddiogel ac yn unol â’r holl ddeddfau perthnasol sydd mewn grym am y tro; mor bell ag y mae’n rhwymo’r Derbyniwr), a

10.9.5. sicrhau bod ganddo bolisïau sefydliadol perthnasol ar waith i gyflawni’r gweithgareddau a ariennir gan y Cyfarwyddyd hwn. Bydd y rhain yn parhau i fod yn gyfredol drwy gydol y Cyfarwyddyd hwn ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan staff priodol uwch. Rhaid i bob aelod o staff fod yn ymwybodol o’r polisïau hyn a sut i godi unrhyw bryderon.

10.9.6. trefnu ei bod yn ofynnol i bob ymgeisydd am gyflogaeth mewn cysylltiad â’r Cynlluniau ddatgan ar eu ffurflenni cais unrhyw euogfarnau troseddol blaenorol yn amodol bob amser ar ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

10.10. Yn ogystal, bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod yr holl Staff:

10.10.1. a gyflogir neu a gyflogir dros dro â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfau mewnfudo perthnasol, ac

10.10.2. eu bod yn addas ac o gymeriad da i ddarparu cymorth i Fuddiolwyr. Rhaid ystyried cymhwysedd ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS2). Lle mae gwiriadau o’r fath yn datgelu euogfarnau troseddol blaenorol y gellid yn rhesymol eu hystyried yn berthnasol i briodoldeb yr unigolyn i gael mynediad heb oruchwyliaeth, yn arbennig i blant o dan 18 oed, neu lle nad yw gwiriadau o’r fath yn bosibl oherwydd problemau adnabod, bydd y Derbynnydd yn dilyn ei bolisi mewnol a chynnal asesiad risg priodol cyn cynnig cyflogaeth, a

10.10.3. sy’n debygol o gael mynediad heb oruchwyliaeth at blant o dan 18 oed wedi’u cyfarwyddo yn unol â’r canllawiau amddiffyn plant cenedlaethol perthnasol e.e. ar gyfer pobl sy’n gweithio yn Lloegr, canllawiau Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant yr Adran Addysg, 2015, a chanllawiau a gweithdrefnau Awdurdodau Lleol, a

10.10.4. sy’n darparu cyngor ar fewnfudo fod yn hysbys i Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) yn unol â’r cynllun rheoleiddio a nodir o dan Ran 5 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999. Bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau nad yw Staff yn darparu cyngor ar fewnfudo neu wasanaethau mewnfudo oni bai eu bod yn “gymwys” neu “eithriedig” fel y’u pennir ac a ardystir gan OISC.

10.10.5. Mae cyfrifoldebau a rhwymedigaethau diogelu’n berthnasol cyhyd â bod personél, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yn ymwneud yn ffurfiol â’r Awdurdod Lleol wrth ddarparu gwasanaethau adsefydlu ac integreiddio i’r Buddiolwr.

10.11. Bydd y Derbynnydd, ar gais, yn darparu i’r Awdurdod fanylion yr holl Staff sy’n cyflwyno’r Cynlluniau.

10.12. Bydd y Derbynnydd, ar gais, yn rhoi CVs a/neu ddisgrifiadau swyddi i’r Awdurdod ar gyfer yr holl Staff a ddewisir i weithio ar y prosiect.

10.13. Bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech resymol i gydymffurfio â gofynion Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

10.14. Bydd y Derbynnydd yn gweithredu’r Cynlluniau yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

11. Atebolrwydd

11.1. Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw atebolrwydd i’r Derbynnydd nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw gostau, hawliadau, difrod, neu golledion, sut bynnag y’i tynnir, ac eithrio i’r graddau y cânt eu hachosi gan esgeulustod neu gamymddwyn yr Awdurdod.

12. Datrys anghydfodau

12.1. Bydd y Partïon yn ceisio’n ddidwyll i negodi setliad i unrhyw anghydfod rhyngddynt sy’n codi o’r Cyfarwyddyd hwn neu mewn cysylltiad ag ef.

12.2. Gall y Partïon setlo unrhyw anghydfod gan ddefnyddio proses datrys anghydfodau y maent yn cytuno arni.

12.3. Os na all y Partïon ddatrys anghydfod yn unol â gofynion Cymalau 12.1 neu 12.2, gellir cyfeirio’r anghydfod, trwy gytundeb rhwng y Partïon, at gyfryngu yn unol â’r Weithdrefn Gyfryngu Enghreifftiol a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Datrys Anghydfodau’n Effeithiol ( “CEDR”), neu unrhyw weithdrefn gyfryngu arall y cytunir arni gan y Partïon. Oni chytunir fel arall rhwng y Partïon, bydd y cyfryngwr yn cael ei enwebu gan CEDR. Er mwyn cychwyn y cyfryngu bydd y Parti’n rhoi rhybudd ysgrifenedig (y Rhybudd ADR) i’r Parti arall, a bydd y Parti olaf hwnnw’n dewis p’un ai i gytuno i gyfryngu ai peidio. Dylid anfon copi o’r Hysbysiad ADR i CEDR. Bydd y cyfryngu’n dechrau ddim hwyrach na deg (10) Diwrnod Gwaith ar ôl dyddiad yr Hysbysiad ADR.

12.4. Ni fydd perfformiad y rhwymedigaethau sydd gan y Derbynnydd o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben nac yn cael ei oedi oherwydd bod anghydfod wedi’i gyfeirio at gyfryngu o dan Gymal 12.3 o’r Cyfarwyddyd hwn.

13. Manylion cyswllt

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu gyflwyno ceisiadau am daliadau, anfonwch e-bost at y tîm Asefydlu Taliadau Awdurdodau Lleol perthnasol yn: afghanschemepayments@homeoffice.gov.uk

Atodlen 1: Cymorth Adsefydlu Ar Ôl Cyrraedd

1. Rhan 1 – datganiad o’r canlyniadau blwyddyn 1

Darpariaeth llety

1.1 Bydd y Derbynnydd yn trefnu llety ar gyfer y Buddiolwyr y mae’n eu cefnogi sydd:

1.1.1 yn diwallu safonau’r awdurdod lleol, ac

1.1.2 a fydd ar gael wrth iddynt gyrraedd a/neu adleoli i ardal yr awdurdod lleol, a

1.1.3 sydd yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

1.2 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod y llety wedi’i ddodrefnu’n briodol. Ni ddylai’r Cyllid gael ei ddefnyddio i gaffael eitemau moethus: Mae hyn yn golygu y dylai’r Cyllid a dderbynnir gael ei ddefnyddio ar gyfer storio bwyd, coginio, a chyfleusterau ymolchi ond ni ddylai gynnwys darparu nwyddau gwyn eraill neu nwyddau brown, h.y. setiau teledu, chwaraewyr DVD neu unrhyw rai offer adloniant trydanol eraill. Ni fydd hyn yn atal y Derbynnydd rhag darparu nwyddau moethus, gwyn neu frown ychwanegol i Fuddiolwyr trwy ffynonellau cyllid eraill.

1.3 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod y Buddiolwyr wedi’u cofrestru gyda chwmnïau cyfleustodau ac yn sicrhau bod trefniadau ar gyfer taliadau’n cael eu rhoi yn eu lle (dim cyfrifon mesurydd rhag-dalu arian parod na cherdyn)[footnote 4].

1.4 Bydd y Derbynnydd yn darparu sesiynau briffio ar lety a materion iechyd a diogelwch ar gyfer yr holl newydd-ddyfodiaid gan gynnwys darparu pwynt cyswllt brys.

1.5 Lle mae’r Derbynnydd yn cefnogi Buddiolwyr, sydd ar hyn o bryd mewn gwestai pontio, i ddod o hyd i’w llety eu hunain yn y sector rhentu preifat mae angen iddynt sicrhau bod pwyntiau 1.1 i 1.5 yn cael eu diwallu. Mae disgwyl i awdurdodau lleol adsefydlu wneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod llety rhent preifat a ganfyddir gan Fuddiolwyr yn ddiogel, ac mewn cyflwr rhesymol; a bod pob teulu sy’n chwilio am eu llety eu hunain yn cael arweiniad digonol i’w galluogi i ystyried eu safonau perthnasol.

1.6 Yn yr achos a grybwyllir yn 1.5, dylai’r Derbynnydd gytuno i ddarparu cymorth integreiddio llawn am 36 mis i’r Buddiolwyr er mwyn galluogi’r Derbynnydd i gael mynediad at y cyllid hwn. Gall y Derbynnydd ddewis cefnogi’r blaendal a’r rhent cychwynnol yn unig heb ddarparu cymorth pellach, ond rhaid i hyn ddod o arian arall y tu allan i’r cyllid hwn.

1.7 Gall derbynwyr ddefnyddio’r sector rhentu preifat a Llety Teulu Gwasanaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer cynigion llety addas. Rhaid i unrhyw wariant a dynnir o’r tariff at y diben hwn ddiwallu trothwyon diwydrwydd dyladwy tebyg i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Gall defnydd hyblyg o’r cyllid i alluogi caffael yn y sector rhentu preifat gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Blaendaliadau

  • Cymhellion landlordiaid

  • Ffioedd gosod

  • Dodrefn angenrheidiol

1.8 Ni fydd unrhyw gyllid ar gael i awdurdodau lleol uwchlaw’r symiau a nodir yn y Tariff a’r Cyfarwyddiadau Cyllido presennol, ond anogir awdurdodau lleol i ddyrannu hyn yn hyblyg ac fel y gwelant yn addas i wneud defnydd o’r holl opsiynau llety. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r holl elfennau a nodir yn y Datganiad o Ganlyniadau a chânt eu hannog i gymesuro gwariant yn synhwyrol.

Trefniadau Derbyn Cychwynnol

1.9 Bydd trefniadau cludo i lety yn amrywio yn dibynnu a yw Buddiolwyr yn cyrraedd yn uniongyrchol o dramor neu a ydynt mewn gwesty pontio. Lle bo’n briodol bydd y Derbynnydd yn cyfarfod ac yn cyfarch Buddiolwyr sy’n cyrraedd o’r maes awyr perthnasol ac yn eu hebrwng i’w llety. Mewn amgylchiadau eraill, bydd cludiant i’w llety yn cael ei drefnu gan yr Awdurdod. Pan fydd Buddiolwyr yn cyrraedd eu llety, dylent gael eu briffio ar sut i ddefnyddio’r amwynderau.

1.10 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod Buddiolwyr yn cael pecyn croeso o nwyddau pan fyddant yn cyrraedd – dylai cynnwys y pecyn hwn ystyried diwylliant a chenedligrwydd y Buddiolwr(wyr).

1.11 Yn gynwysedig yn y tariff blynyddol mae darpariaeth i’r Derbynnydd ddarparu lwfans arian parod cychwynnol o £200 ar gyfer pob Buddiolwr – mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i fyw arno tra bod eu cais am fudd-daliadau’n cael ei brosesu. Os yw Buddiolwyr eisoes yn derbyn buddion prif ffrwd ni ddylid darparu’r lwfans arian parod cychwynnol hwn.

Cymorth Gwaith Achos

1.12 Dylai’r Derbynnydd sicrhau bod Buddiolwyr yn cael ffynhonnell benodol o gyngor a chymorth i’w cynorthwyo i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau prif ffrwd, a’u cyfeirio at asiantaethau eraill sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth – mae’r cymorth hwn yn cynnwys:

1.12.1 Cynorthwyo ynghylch dosbarthu cardiau Trwyddedau Preswylio Biometrig (BRP) ar ôl cyrraedd. Ar gyfer Buddiolwyr sy’n dod o dramor bydd angen i chi ddosbarthu cardiau BRP. Bydd gan y rhai mewn gwestai pontio eu cardiau BRP eisoes.

1.12.2 Cofrestru ag ysgolion lleol, neu os ydynt yn Oedolion, dosbarthiadau Saesneg a llythrennedd (gweler paragraffau 1.16 - 1.30), neu hyfforddiant priodol arall.

1.12.3 Mynychu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith lleol ar gyfer Asesiadau Budd-daliadau (lle bo angen),

1.12.4 Cofrestru gyda Meddyg Teulu lleol, a darparwyr gofal iechyd eraill yn unol ag anghenion meddygol a nodwyd,

1.12.5 Cyngor ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl priodol ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol fel y bo’n briodol,

1.12.6 Darparu cymorth gyda mynediad i gyflogaeth.

1.13 Bydd y Derbynnydd yn datblygu cynllun cymorth integreiddio trosfwaol (neu fframwaith) a chynlluniau cymorth integreiddio pwrpasol ar gyfer pob teulu neu unigolyn am y deuddeg (12) mis cyntaf o’u cymorth er mwyn hwyluso eu hintegreiddio a’u cyfeiriadedd i’w cartref/ardal newydd. Dylai’r cynllun ystyried anghenion amrywiol unigolion o fewn aelwydydd a sut i gefnogi’r anghenion hyn ac anghenion unigolion ar sail eu nodweddion.

1.14 Trwy gydol y cyfnod o gymorth adsefydlu bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael. Gellir hawlio unrhyw gostau cyfieithu ychwanegol, er enghraifft presenoldeb yn y Ganolfan Byd Gwaith neu apwyntiadau Gofal Iechyd, fel Cost Eithriadol, yn amodol ar gymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Awdurdod.

1.15 Darperir y canlyniadau uchod trwy gyfuniad o apwyntiadau yn y swyddfa, sesiynau galw heibio, cymorthfeydd allgymorth ac ymweliadau cartref (rhithwir neu wyneb yn wyneb).

1.16 Bydd y Derbynnydd yn coladu’r cyfryw wybodaeth gwaith achos ag y cytunir arno i alluogi’r Awdurdod i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd darpariaeth y Cynllun.

1.17 Lle nad yw Buddiolwyr yn cyrchu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys lle na chaiff anghenion ar sail nodweddion gwarchodedig eu diwallu neu lle mae Derbynwyr fel arall yn pryderu am les Buddiolwyr neu eu dibynyddion, gofynnir i’r Derbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol.

Gofynion ar gyfer Buddiolwyr ag anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol a aseswyd

1.18 Er mwyn hwyluso angen Derbynnydd i wneud trefniadau ychwanegol, megis addasiadau eiddo (gweler hefyd Atodiad D), ar gyfer pob Buddiolwr a nodwyd fel un a allai fod ag anghenion arbennig/gofal cymunedol, bydd yr Awdurdod yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod yr anghenion hyn yn cael eu nodi’n glir a’u cyfleu i’r Derbynnydd o leiaf pedwar deg dau (42) Diwrnod cyn i bob Buddiolwr gyrraedd y DU. Lle mae Buddiolwyr eisoes yn byw mewn llety dros dro yn y DU, caiff y wybodaeth hon ei chyfathrebu i’r Derbynnydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol er mwyn galluogi’r trefniadau angenrheidiol i gael eu gwneud.

1.19 Pan nodir anghenion arbennig/gofal cymunedol dim ond ar ôl cyrraedd gyda’r Derbynnydd, byddwch yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau prif ffrwd priodol cyn gynted â phosibl.

1.20 Pan fo materion sensitif (gan gynnwys materion diogelu neu achosion o gam-drin domestig, trais neu droseddoldeb) yn cael eu nodi gan yr Awdurdod, bydd yr Awdurdod yn hysbysu’r Derbynnydd ar unwaith, ac nid yn hwy nag un (1) Diwrnod, ar ôl iddo dderbyn y wybodaeth.[footnote 5]

Darpariaeth Addysg i’r rhai dan 18 oed

1.21 Mae gan y Derbynnydd ddyletswydd statudol i sicrhau bod lleoedd addysgol ar gael i blant oed ysgol.

1.22 Er mwyn cefnogi’r Derbynnydd i gyflawni’r rhwymedigaeth hon, bydd yr Awdurdod yn talu Cyllid mewn perthynas â Buddiolwyr rhwng 3 a 18 oed (gan gynnwys y Buddiolwyr ACRS hynny a ddaeth i mewn o dan y Cynllun Noddi Cymunedol) i dalu am:

1.22.1 ddarpariaeth addysg mewn sefydliadau a gyllidir gan y wladwriaeth; a

1.22.2 Rhwymedigaethau statudol y derbynnydd o ran asesu Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (SEND), y bydd costau’r asesiad hefyd yn cael eu talu fesul achos ar eu cyfer.

1.23 Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (gan gynnwys ysgolion, academïau, ysgolion rhydd, a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Buddiolwyr o’r grwpiau oedran perthnasol.

1.24 Gellir gwneud taliadau ychwanegol pellach hefyd er mwyn talu am Gostau Eithriadol angenrheidiol ar gyfer gofal cymdeithasol, lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli. Bydd y rhain yn cael eu hasesu a’u gwneud fesul achos.

Darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion

1.25 Pwrpas hyfforddiant iaith yw: sicrhau bod pob buddiolwr sy’n Oedolyn yn gallu symud ymlaen tuag at y lefel o hyfedredd sydd ei angen i weithredu yn eu bywyd bob dydd; hyrwyddo integreiddio; a chefnogi’r rhai sy’n adsefydlu yn y DU i symud ymlaen i fod yn hunangynhaliol, gan gynnwys cyrchu gwasanaethau neu ymuno â’r gweithlu.

1.26 Bydd y Derbynnydd yn cynnal asesiad o allu Saesneg pob Buddiolwr sy’n Oedolyn i bennu ei anghenion hyfforddi; dylid cynnal yr asesiad hwn cyn gynted â phosibl. Dylid hysbysu’r Buddiolwr sy’n Oedolyn am ei lefel asesu. Dylai’r asesiad benderfynu a yw Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol, a lle dylid defnyddio Hyfforddiant Iaith Anffurfiol i ategu, neu fel sylfaen ar gyfer, Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Fel lleiafswm, dylai Oedolion sy’n Fuddiolwyr allu cyrchu ymarfer sgwrsio i atgyfnerthu/ategu eu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol.

1.27 Os bernir bod Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol yn ôl eu hasesiad, dylai’r buddiolwr sy’n oedolyn allu cyrchu o leiaf wyth (8) awr yr wythnos o fewn un (1) mis ar ôl cyrraedd neu, i’r rhai sydd eisoes yn y DU, ar ddechrau’r cymorth i Fuddiolwyr. Dylid darparu hyn i Fuddiolwyr sy’n Oedolion nes eu bod wedi cyrraedd Lefel Mynediad 3 neu am o leiaf ddeuddeg (12) mis ar ôl dechrau Cymorth i Fuddolwyr, (pa un bynnag sydd gyntaf).

1.28 Bydd gwahanol Fuddiolwyr sy’n Oedolion yn wynebu rhwystrau gwahanol i gymryd rhan mewn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigryw. Nid oes, felly, un gweithgaredd gwisg unffurf y dylid defnyddio’r Cyllid hwn ar ei gyfer. Yn lle hynny, dylai defnydd y Derbynnydd gael ei lywio gan natur y ddarpariaeth leol bresennol a chan amgylchiadau a gofynion penodol pob Buddiolwr sy’n Oedolyn. Mae gweithgareddau posibl yn cynnwys ond ni ddylid eu hystyried yn gyfyngedig i:

1.28.1 Taliadau cyllido ar gyfer Hyfforddiant Iaith Ffurfiol prif ffrwd.

1.28.2 Comisiynu dosbarthiadau Hyfforddiant Iaith Ffurfiol arwahanol i Fuddiolwyr sy’n Oedolion neu gyllido lefelau uwch o ESOL ar gyfer y rhai sydd â lefel uwch o hyfedredd Saesneg.

1.28.3 Cefnogi cyflwyno’r ddarpariaeth isafswm o wyth (8) awr yr wythnos (Rhan 1, paragraff 1.20 o’r Atodlen hon 1).

1.28.4 Hyfforddiant iaith neu baratoi ar gyfer profion hyfedredd iaith sy’n cefnogi mynediad i gyflogaeth, addysg bellach neu addysg uwch.

1.28.5 Comisiynu dosbarthiadau ar y lefel sy’n wynebu’r pwysau mwyaf yn yr ardal gyda’r cytundeb bod rhai o’r Buddiolwyr sy’n Oedolion yn mynychu – ynghyd â myfyrwyr eraill – a chyda’r cytundeb bod y capasiti ychwanegol a grëwyd yn caniatáu i Fuddiolwyr sy’n Oedolion ar lefelau eraill fynychu dosbarthiadau prif ffrwd.

1.28.6 Cyllido dosbarthiadau gyda’r nos a phenwythnos.

1.28.7 Cyllido adnoddau a/neu ddarpariaeth ar-lein i ategu gwasanaethau wyneb yn wyneb, gan alluogi Buddiolwyr i gyrchu amrywiaeth o gymorth ESOL sy’n diwallu eu gofynion orau.

1.29 Mae’r Cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cyfranogiad mewn darpariaeth ESOL. Fodd bynnag, os oes diffyg darpariaeth, gellir gwario hyd at 25% o’r Cyllid i gynyddu seilwaith ESOL, ac felly cyfraddau cyfranogiad yn y dyfodol, lle bernir bod hynny’n gwbl angenrheidiol. Gallai seilwaith ESOL gynnwys, er enghraifft, hyfforddi athrawon ESOL, prynu offer ac adnoddau a rhentu gofod ystafell ddosbarth. Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd yn ôl ar gyfran y gwariant ar seilwaith ESOL.

1.30 I rai buddiolwyr sy’n oedolion, bydd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn fwy heriol nag eraill. Er enghraifft, efallai fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu, anabledd neu’n ei chael yn anodd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Yn yr achosion hyn, mae’n bwysig bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn fel y gellir defnyddio’r elfen seilwaith ESOL o 25% o’r Ariannu (fel y nodir ym mharagraff 1.23) i gefnogi gweithgareddau sy’n helpu i oresgyn rhwystrau hygyrchedd [dylid hawlio cyllid gofal plant ar wahân, fel y disgrifir yn Rhan 5].

1.31 Fodd bynnag, dylai’r Derbynnydd geisio defnyddio ffynonellau cyllid neu wasanaethau lleol neu ganolog eraill, lle bynnag y bo modd.

1.32 Mewn achosion lle mae Buddiolwyr sy’n Oedolion yn cyrraedd y tu allan i amser tymor, gan ei gwneud yn anodd cael mynediad uniongyrchol at Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, yn lle hynny dylid darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol arall o fewn un (1) mis o gyrraedd.

1.33 Mae darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol hefyd yn ddewis amgen addas mewn achosion lle asesir bod Buddiolwr ar lefel ESOL cyn mynediad neu’n canfod bod amgylchedd Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn rhwystr i hygyrchedd, na ellir ei ddatrys gan ddefnyddio’r cyllid seilwaith a nodir yn paragraff 1.23.

1.34 Mewn achosion o’r fath fel y nodir ym mharagraffau 1.27 ac 1.28, dylai’r Derbynnydd annog y Buddiolwr sy’n Oedolyn i gyrchu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn y dyfodol. Y rheswm am hyn yw na all Hyfforddiant Iaith Anffurfiol ddarparu cymwysterau achrededig sydd yn aml yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, astudiaethau pellach neu hyfforddiant.

1.35 Mae swm ychwanegol o Gyllid hefyd ar gael i Dderbynwyr, i gynyddu mynediad Buddiolwyr sy’n Oedolion i Hyfforddiant Iaith sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion. Mae hyn wedi’i amlinellu yn Rhan 4 o’r Atodlen hon 1. Mae hwn yn daliad sengl i’w hawlio o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl cyrraedd neu, i’r rhai sydd eisoes yn y DU, ar ddechrau cymorth y Derbynnydd.

Cyraeddiadau wedi’u Hoedi a’u Canslo

1.36 Os bydd oedi wrth gyrraedd, gall y Derbynnydd hawlio costau rhent gwag a dynnir nes i’r buddiolwr gyrraedd. Dylai’r Derbynnydd fod yn ymwybodol bod y tariff wedi’i gyfrifo i dalu am gyfnod o gostau gwag. I adlewyrchu hyn, mae costau gwag am bum deg chwech (56) diwrnod eisoes wedi’u cynnwys yn y tariff i alluogi Derbynwyr i sicrhau eiddo cyn i fuddiolwyr gyrraedd.

1.37 Os bydd cyraeddiad yn cael ei ganslo, bydd cyllid ar gael ar gyfer y rhai sy’n tynnu costau (e.e., rhai gwag a sefydlu) ar gyfer cyraeddiadau wedi’u canslo os na ellir defnyddio’r eiddo ar gyfer buddiolwr arall. Bydd yr Awdurdod yn derbyn hawliadau am gostau eiddo gwag ar gyfer yr eiddo dan sylw. Bydd costau eiddo gwag yn cael eu hystyried:

  • O’r dyddiad y daethoch yn atebol am y rhent neu’r dyddiad y cynigiwyd yr eiddo yn ffurfiol i’r Awdurdod (pu’n bynnag yw’r hwyraf),

  • Hyd at y dyddiad y bydd yr Awdurdod yn anfon e-bost atoch i ryddhau’r eiddo, neu

  • Mewn achosion lle rydych eisoes wedi rhoi gwybod i’r Awdurdod na allech ddal yr eiddo mwyach, bydd costau eiddo gwag yn cael eu hystyried hyd at ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.

Proses Gyllido a Hawliadau

1.38 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbynnydd wrth gyflawni’r canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 o’r Atodlen 1 hon (paragraffau 1.1 i 1.33, yn gynwysedig), ar gyfradd safonol y pen y flwyddyn ar gyfer pob Buddiolwr fel sy’n dilyn:

Costau Uned Blwyddyn 1[footnote 6]

Oedolion sy’n Hawlio Budd-daliadau Oedolion Eraill Plant 5-18 Plant 3-4 Plant Dan-3
Costau Awdurdodau Lleol £10,500 £10,500 £10,500 £10,500 £10,500
Addysg 0 0 £4,500 £2,250 0
Cyfansymiau £10,500 £10,500 £15,000 £12,750 £10,500

1.39 Bydd taliadau’n cael eu seilio ar oedran y Buddiolwr wrth iddo gyrraedd ardal y derbynnydd.

1.40 Unwaith y bydd yr uchafsymiau hyn wedi’u cyrraedd, ni fydd yr Awdurdod yn talu unrhyw gyllid pellach i’r Derbynnydd ac eithrio unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Eithriadol (gweler Telerau ac Amodau, Cymalau 6.12 a 6.13).

1.41 Ar y Diwrnod y bydd y Derbynnydd yn dechrau darparu cymorth fel y nodir yn y Cyfarwyddyd Cyllido hwn, bydd y Derbynnydd yn gymwys i hawlio 40% o gyfanswm y swm blynyddol rhagamcanol y pen ar gyfer y person hwnnw. Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol berthnasol (Atodiad A).

1.42 Bydd y gweddill yn ddyledus mewn dau randaliad cyfartal ar ddiwedd y pedwerydd (4ydd) a’r wythfed (8fed) mis ar ôl i’r Buddiolwr gyrraedd y DU.

1.43 Mae’r tariff y pen yn cynnwys elfen i’r Derbynnydd dalu am hyd at bum deg chwech (56) Diwrnod (h.y. wyth wythnos) o gostau gwag. Esbonnir y broses ar gyfer hawlio costau ychwanegol/eithriadol gwag yn Atodiad E.

1.44 Bydd cyllid a dderbynnir yn cael ei gronni a’i reoli ar draws yr holl Fuddiolwyr gyda chymorth y Derbynnydd perthnasol.

1.45 Bydd cyllid ychwanegol i dalu am gyfrifoldebau SEND y Derbynnydd ar gyfer unrhyw Fuddiolwr yn cael ei dalu gan yr Awdurdod fesul achos fel Cost Eithriadol.

1.46 Lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli, gall y Derbynnydd ofyn am gyllid ychwanegol at ddibenion addysgol mewn perthynas â Buddiolwyr sy’n 18 oed neu’n iau ac sydd mewn addysg amser llawn. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, fel Cost Eithriadol, gyda’r Awdurdod yn pennu’r penderfyniad terfynol ar daliadau, hyd, a chyfradd (y gellir eu haddasu o bryd i’w gilydd.

2. Rhan 2 – Datganiad O’r Canlyniadau Blwyddyn 2 I 3

Cyllid Blwyddyn 2 – 3

2.1 Bwriad Cyllid Blwyddyn 2 – 3 yw cyfraniad tuag at gostau Derbynnydd i gefnogi cyfranogiad parhaus Buddiolwr yn y Cynlluniau.

2.2 Er mwyn cynyddu hyblygrwydd, mater i’r Derbynnydd fydd penderfynu ar y defnydd gorau o Gyllid a hawlir i gefnogi Buddiolwyr ar eu taith tuag at integreiddio a hunangynhaliaeth. Dylai cymorth fod yn unol â’r nodau integreiddio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a nodir yn y cynllun cymorth integreiddio personol a dylai gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) integreiddio parhaus yn y cymunedau y mae Buddiolwr wedi’i adsefydlu ynddynt; cynnydd tuag at ac i mewn i gyflogaeth (a all gynnwys cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra a hyfforddiant iaith ffurfiol neu anffurfiol sy’n benodol i’r sector); costau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant; neu gymorth addysgol ychwanegol. Dylid teilwra cymorth ac ystyried yn arbennig y ffordd orau o gefnogi Buddiolwyr gyda rhwystrau penodol i integreiddio yn ogystal â rhoi sylw dyledus i nodweddion gwarchodedig.

2.3 Dylai’r Derbynnydd allu egluro sut y mae’n cefnogi Buddiolwyr ac yn hyrwyddo nodau’r Cynlluniau drwy ddogfennu’r math(au) o gymorth a ddarperir. Dylid gwneud hyn gan gyfeirio at gynllun integreiddio personol a nodau’r unigolyn.

Proses Gyllido a Hawliadau

2.4 Gall y Derbynnydd hawlio Cyllid o’r pen-blwydd cyntaf (h.y. 12 mis) yn dilyn dechrau darparu cymorth o dan y Cynlluniau, ac ar gyfer blynyddoedd dilynol tan ddiwedd y drydedd flwyddyn.

2.5 Egwyddorion allweddol y Cyllid yw ei fod:

2.5.1 yn darparu tariff blynyddol fesul Buddiolwr (gweler tabl 2.6),

2.5.2 heb ei glustnodi,

2.5.3 yn cefnogi gwerthuso ac adrodd ar raglenni, ac

2.5.4 y gellir ei gyfuno ar draws yr holl Fuddiolwyr y mae Derbynnydd yn eu cefnogi.

2.6 Gall Derbynnydd hawlio uchafswm o ddau (2) daliad cyfradd safonol blynyddol ar gyfer pob Buddiolwr a gefnogir:

Blwyddyn 2 I 3 - Costau Uned [footnote 7]

Amserlen Tariff
13-24 mis £6,000
25-36 mis £4,020

2.7 Dim ond un hawliad y Buddiolwr y flwyddyn y bydd yr Awdurdod yn ei gymeradwyo.

2.8 Ni fydd yr Awdurdod yn talu unrhyw Gyllid pellach i Dderbynnydd ar wahân i unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Eithriadol (gweler Telerau ac Amodau, Cymalau 6.12 a 6.13).

2.9 Rhaid cyflwyno pob hawliad am Gyllid Blwyddyn 2 – 3 yn ystod yr ail chwarter ariannol (h.y. o 1 Gorffennaf, ond ym mhob achos erbyn 30 Medi) yn yr un flwyddyn: gall ffurflenni hwyr arwain at oedi neu wrthod ceisiadau am daliadau. Dim ond i dderbynwyr ar gyfer Buddiolwyr sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol ar y dyddiad 30 Medi y gwneir taliad. Os nad yw’r Buddiolwr yn breswylydd ar y dyddiad hwnnw, yna bydd y taliad yn cael ei wrthod. Unwaith y bydd yn fodlon bod cais am daliad wedi’i gyflwyno’n gywir, bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i wneud taliadau Cyllid sy’n ddyledus yn ystod trydydd chwarter yr un flwyddyn ariannol (h.y. o 1 Hydref, ond dim hwyrach na 31 Rhagfyr).

2.10 Bydd cyllid yn cael ei wneud drwy un taliad blynyddol i’w hawlio ar yr adegau a nodir yn y tabl dilynol:

Cyllid Blynyddoedd 2-3 - Proffil Talu Ar Gyfer Cyraeddiadau ACRS ac ARAP

Cyraeddiadau i gymorth yr Awdurdod Lleol rhwng Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 2 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 3
22/06/2021 i 21/06/2022 21/06/2023 21/06/2024
22/06/2022 i 21/06/2023 21/06/2024 21/06/2025

3. Rhan 3 – Datganiad O Ganlyniadau Ar Gyfer Derbynwyr Mewn Perthynas  Nawdd Cymunedol Ar Gyfer Buddiolwyr Acrs Yn Unig

3.1 Agwedd allweddol ar y Cynllun Nawdd Cymunedol (y ‘Cynlluniau’) yw’r gofyniad i bob Noddwr cymeradwy gael cymorth eu hawdurdodau statudol perthnasol, gan gynnwys y Derbynnydd.

Ad-dalu Costau Addysg

3.2 Yn unol â’i ddyletswydd statudol, bydd gan Dderbynnydd yr hawl i hawlio Cyllid tuag at gostau addysgol a dynnir i gefnogi plant o oedran ysgol hyd at yr uchafswm cyfraddau y pen sy’n dilyn:

Costau Uned (£GBP) Ar Gyfer Cynlluniau[footnote 8]

Oedolion sy’n Hawlio Budd-daliadau Oedolion Eraill Plant 5-18 Plant 3-4 Plant Dan-3
Blwyddyn 1 Addysg 0 0 £4,500 £2,250 0

3.3 Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (gan gynnwys ysgolion, academïau, ysgolion rhydd, a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Buddiolwyr o’r grwpiau oedran perthnasol.

3.4 Gall y Derbynnydd ofyn am gyllid ychwanegol at ddibenion addysgol mewn perthynas â Buddiolwyr a gefnogir sy’n 18 oed neu’n iau ac sydd mewn addysg amser llawn, lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, gyda’r Awdurdod yn pennu’r penderfyniad terfynol ar daliadau, hyd, a chyfradd (y gellir eu haddasu o bryd i’w gilydd).

Ad-dalu ar gyfer Costau Cymorth eraill yn ystod Blynyddoedd 1 a 2

3.5 Os na all Noddwr, am unrhyw reswm, gyflawni ei rwymedigaethau i gyflawni Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS), bydd yn ofynnol i’r Derbynnydd gamu i mewn a darparu’r cymorth angenrheidiol drwy:

3.5.1 Y deuddeg (12) Mis cyntaf (Blwyddyn 1), gan gynnwys darparu llety, cymorth gwaith achos, addysg (gan gynnwys Hyfforddiant Iaith), a gofal cymdeithasol, fel y disgrifir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ac

3.5.2 Yn yr ail ddeuddeg (12) Mis (Blwyddyn 2), darparu llety ac unrhyw gymorth arall y mae’r Derbynnydd yn ei ystyried yn briodol, fel y disgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

3.6 Pan na fydd Noddwr yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau contractiol, neu fel arall gefnogi’r rhai a adsefydlir o dan yr ACRS a’u dibynyddion uniongyrchol, gall Derbynnydd hefyd fod yn gymwys i hawlio Cyllid ar gyfer pob person a gefnogir hyd at y cyfraddau uchaf safonol y pen sy’n dilyn:

Costau Uned (£Gbp) Ar Gyfer Cynlluniau [footnote 9]

Oedolion sy’n Hawlio Budd-daliadau Oedolion Eraill Plant 5-18 Plant 3-4 Plant Dan-3
Blwyddyn 1 Costau Adsefydlu £10,500 £10,500 £10,500 £10,500 £10,500
Blwyddyn 2 Costau Adsefydlu £6,000 £6,000 £6,000 £6,000 £6,000

3.7 Cydnabyddir y gallai Noddwr eisoes fod wedi cyflawni rhai o’i rwymedigaethau mewn perthynas â gofynion cymorth unigolyn neu deulu. Mater i’r Derbynnydd, felly, fydd asesu a phennu anghenion pob person yn ôl y canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 a Rhan 2 o’r Atodlen 1 hon.

3.8 Bydd union werth y Cyllid ac amseriad y taliad yn cael ei bennu fesul achos yn dibynnu ar amgylchiadau pob person y mae’r Derbynnydd yn hawlio ar ei gyfer.

3.9 Bydd cyllid hyd at yr uchafsymiau a nodir yn dibynnu ar hyd yr amser y mae angen i’r Derbynnydd ddarparu cymorth i’r unigolyn neu’r teulu. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn:

3.9.1 Mwy na chwe (6) Mis – gwerth llawn

3.9.2 Llai na chwe (6) Mis – 50% o’r gwerth

Cyllid ar gyfer Blwyddyn 3

3.10 Bydd Derbynnydd yn gymwys i hawlio am gyfraniadau at gostau o dan y cyfnodau amser perthnasol a ddisgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen 1 hon, i’w penderfynu fesul achos.

4. Rhan 4 – Mynediad I Esol: Datganiad O Ganlyniadau Ar Gyfer Cyllid Ychwanegol I Gefnogi Darpariaeth Saesneg I Fuddiolwyr Sy’n Oedolion

Cynyddu Mynediad at Hyfforddiant Iaith

4.1 Fel y nodir yn Rhan 1, paragraff 1.30 o’r Atodlen 1 hon, bwriad y Cyllid ychwanegol sydd ar gael yn bennaf yw cynyddu mynediad Buddiolwyr sy’n Oedolion at Hyfforddiant Iaith Ffurfiol sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion.

4.2 Gellir ei ddefnyddio hefyd i gefnogi Hyfforddiant Iaith Anffurfiol (Rhan 1, paragraff 1.26 o Atodlen 1 hon).

4.3 Yn unol â’r canllawiau arfer da presennol ar adsefydlu, bwriedir defnyddio’r Cyllid hwn mewn ffordd sy’n hyrwyddo integreiddio a’r daith tuag at hunangynhaliaeth.

Ffactorau Llwyddiant Allweddol

4.4 Mae’r Awdurdod wedi cynllunio set o ddangosyddion i asesu effeithiolrwydd y Cyllid o ran cyflawni ei ganlyniad. Y Ffactorau Llwyddiant Allweddol hyn yw:

4.4.1 taliadau a dderbynnir,

4.4.2 rhaniad y gwariant ar gyfranogiad a gwariant ar beidio â chyfranogi (manylir yn Rhan 1, paragraffau 1.22 -1.23 yr Atodlen hon)

4.5 Yn ogystal, dylai Derbynwyr adrodd ar y dilynol:

4.5.1 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi cynyddu gallu lleol i gyflwyno ESOL. A fu unrhyw rwystrau cyflawni nad yw’r Cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

4.5.2 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi gwella mynediad i ESOL. A fu unrhyw rwystrau hygyrchedd nad yw’r cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

4.5.3 I ba raddau y mae’r cyllid wedi helpu i wella integreiddio a chynnydd buddiolwyr sy’n oedolion tuag at hunangynhaliaeth, gan gynnwys yn y gweithle?

4.6 Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses monitro Diwedd y Flwyddyn flynyddol.

Proses Gyllido a Hawliadau

4.7 Gellir hawlio taliad y pen ar gyfer pob Oedolwr sy’n Derbynnydd y darperir hyfforddiant iaith iddo gan y Derbynnydd ar y gyfradd safonol sy’n dilyn:

Costau Uned (£GBP)[footnote 10](gweler para 4.11 isod)

Buddiolwr sy’n Oedolyn (19+ oed ar ddechrau cymorth y Derbynnydd)

£850 – hawlio pan fydd cymorth y Derbynnydd yn dechrau

Buddiolwr sy’n Oedolyn (18+ oed ar ddechrau cymorth y Derbynnydd)

£850 – hawlio unwaith y bydd y Buddiolwr wedi cyrraedd 19 oed

4.8 Bydd Noddwyr Cymunedol yn hawlio’r taliadau hyn y pen ar gyfer y Buddiolwyr hynny o dan yr ACRS y maent yn eu cefnogi.

4.9 Gall Derbynnydd ‘gronni’ unrhyw Gyllid a hawlir, ar lefel leol neu ranbarthol, i wneud y mwyaf o’i allu i nodi gofynion hyfforddiant iaith unigolion yn effeithiol, bod yn ymatebol i’r anghenion hyn drwy’r trefniadau cyflwyno mwyaf priodol a’r ystod o ddarparwyr o fewn ardal leol.

4.10 Ar ôl i fuddiolwr gael ei asesu’n gymwys (Rhan 1, paragraff 1.19 o’r Atodlen 1 hon) bydd y Derbynnydd yn gallu cyflwyno hawliad.

4.11 Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol berthnasol (Atodiad A) i dderbyn taliad. Dylid mewnosod ESOL yng ngholofn O o’r Atodiad a mewnosod y tariff safonol o £850 yng ngholofn P ar gyfer pob Buddiolwr y mae’r Cyllid yn cael ei hawlio ar ei gyfer.

4.12 Gellir hawlio’r £850 o gyllid ESOL ychwanegol ar gyfer pob Buddiolwr sy’n Oedolyn sydd, ar ddechrau cymorth y Derbynnydd, yn 19+ oed neu’n cyrraedd 19 oed o fewn 12 mis cyntaf y cymorth hwnnw.

5. Rhan 5 – Mynediad I Esol: Datganiad O’r Canlyniadau Ar Gyfer Cymorth Gofal Plant

Canlyniadau

5.1 Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod Buddiolwyr yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, yn arbennig darpariaeth gofal plant.

5.2 Mae oedi wrth ddechrau dysgu Saesneg ar ôl cyrraedd yn ei gwneud yn anoddach i Fuddiolwyr (yn arbennig, menywod â theuluoedd) integreiddio a dod yn hunangynhaliol, gyda sgiliau iaith a’r gallu i sgwrsio â phobl eraill yn hollbwysig i ddatgloi cyfleoedd. Mae cael gwared ar y rhwystr hwn yn allweddol i gynorthwyo Buddiolwyr i ymgartrefu’n effeithiol yn eu cymuned newydd.

5.3 Mae’r Awdurdod yn sicrhau bod Cyllid ar gael i helpu Derbynwyr, boed yn awdurdodau derbyn, Noddwyr Cymunedol a/neu gyrff cydlynu rhanbarthol (h.y. Partneriaethau Ymfudo Strategol), ledled y DU i fynd i’r afael â’r broblem hon.

5.4 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbynnydd i oresgyn rhwystrau gofal plant tra bod Buddiolwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ESOL.

5.5 Bydd mynediad at y Cyllid yn ei gwneud yn ofynnol i Dderbynwyr posibl gyflwyno cynigion prosiect y bwriedir iddynt chwalu’r rhwystrau hyn gan ddefnyddio’r ffurflen gais sydd ar gael gan ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

5.6 Gallai prosiectau ddarparu:

5.6.1 mathau traddodiadol o ofal plant megis meithrinfeydd neu gylchoedd chwarae, neu

5.6.2 gofal plant wedi’i deilwra ar yr un safle â dosbarthiadau ESOL, neu

5.6.3 dulliau mwy arloesol megis darparu digwyddiadau dysgu teuluol i helpu oedolion i ddysgu Saesneg pan ydynt yn anfodlon neu’n methu gadael eu plant. Rhaid i brosiectau dysgu teuluol ddiwallu gofynion deuol arlwyo ar gyfer plant a darparu hyfforddiant iaith i oedolion.

5.7 Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Gall y Swyddfa Gartref ddarparu canllawiau pellach ar wariant Cymwys ac Anghymwys ar gais.

Cyllido a Hawliadau

5.8 Er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o arian, bydd bidiau’n cael eu hasesu gan yr Awdurdod yn ôl meini prawf sy’n ymwneud â nodi angen, canlyniadau, a lliniaru risg. Bydd canran o’r cyllid y gofynnir amdano yn cael ei dyfarnu ar sail canlyniad yr asesiad hwn. Gellir gwneud ceisiadau pellach yn ymwneud ag amgylchiadau annisgwyl neu gyraeddiadau annisgwyl yn ystod y flwyddyn ariannol.

5.9 Gellir cael manylion y meini prawf asesu a sut i wneud cais am ofal plant ESOL oddi wrth ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

Uchafswm y cyllid DU-gyfan sydd ar gael ar gyfer prosiectau Mynediad i ESOL (Gofal Plant) yn 2022/23[footnote 11]

Mynediad at gyllid gofal plant ESOL

£1,800,000

Ffactorau Llwyddiant Allweddol

5.10 Mae’r Awdurdod wedi cynllunio set o ddangosyddion i asesu effeithiolrwydd y Cyllid o ran cyflawni ei ganlyniad. Y Ffactor Llwyddiant Allweddol yw:

5.10.1 Cyfanswm nifer yr unigolion sy’n defnyddio ESOL o ganlyniad i’r cyllid hwn.

5.11 Yn ogystal, dylai Derbynwyr adrodd ar y dilynol:

5.11.1 Nifer y dosbarthiadau ESOL a fynychwyd na ellid bod wedi eu mynychu heb fynediad i gyllid gofal plant.

5.11.2 A fu unrhyw rwystrau hygyrchedd yn ymwneud â gofal plant nad yw’r cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

5.11.3 Unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’r manteision i’r rhai sy’n cymryd rhan.

5.12 Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses monitro Diwedd y Flwyddyn flynyddol. Gall yr Awdurdod hefyd ofyn am wybodaeth monitro a gwerthuso ychwanegol y tu allan i’r broses hon, gan gynnwys, er enghraifft, astudiaethau achos sy’n dangos sut y bu’n fuddiol ar sail unigol.

5.13 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffrwd gyllido hon, cysylltwch ag: ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

6. Rhan 6 –Mynediad Nawdd Cymunedol I Gyllid

Ad-dalu am Gyllid Ychwanegol i Gefnogi Darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS)

6.1 Gall Noddwyr Cymunedol hawlio Cyllid Ychwanegol i gefnogi darpariaeth Iaith Saesneg i Fuddiolwyr sy’n Oedolion a adsefydlir o dan yr ACRS yn unol â Rhan 4, paragraffau 4.7 i 4.12 o’r Atodlen hon.

Costau uned (£GBP) ar gyfer Cynlluniau

Buddiolwr sy’n Oedolyn (19+ oed ar ddechrau cymorth gan y grŵp Noddwr Cymunedol)

£850 – hawlio pan fydd cymorth Nawdd Cymunedol yn dechrau

Buddiolwr Oedolyn (18+ oed ar ddechrau cymorth gan y grŵp Noddwr Cymunedol)

£850 – hawliad pan fydd cymorth Nawdd Cymunedol yn dechrau

6.2 Gellir hawlio’r £850 o gyllid ESOL ychwanegol ar gyfer pob buddiolwr sy’n oedolyn a adsefydlir o dan yr ACRS sydd, ar ddechrau’r cymorth i Dderbynwyr, yn 19+ oed neu’n cyrraedd 19 oed o fewn 12 mis cyntaf y cymorth hwnnw.

6.3 Gall Noddwyr Cymunedol hefyd wneud cais am y cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal plant i hwyluso cymryd rhan mewn gweithgarwch Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, fel y nodir yn Rhan 5 o’r Atodlen 1 hon.

Atodiad A – Profforma Hawlio Gwariant

Bydd y taenlenni Excel Atodiad A dilynol, y ffurflen hawlio Costau Cymorth Tai Ychwanegol a’r ffurflen hawlio Costau Eithriadol yn cael eu darparu ar wahân gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan.

  • ACRS/ARAP Atodiad A – Hawliad cychwynnol Blwyddyn 1

  • ACRS/ARAP Atodiad A – Hawliadau dilynol Blwyddyn 1

  • ACRS/ARAP Atodiad A – Hawliadau Blwyddyn 2

  • Rhestr Wirio’r Gronfa Costau Tai

  • Ffurflen hawlio Costau Cymorth Tai Ychwanegol ACRS

  • Ffurflen hawlio Costau Cymorth Tai Ychwanegol ARAP

  • Ffurflen hawlio Costau Eithriadol

Atodiad B – Categorïau Cyflwyno Adsefydlu Unhcr

Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am nodi Ffoaduriaid addas i’w hadsefydlu i’r DU o dan Gynllun Adsefydlu’r DU mewn cysylltiad ag Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) yn seiliedig ar y saith categori cyflwyniad adsefydlu dilynol[footnote 12]:

  • Anghenion Amddiffyn Cyfreithiol a/neu Gorfforol

  • Goroeswyr Artaith a/neu Drais

  • Anghenion Meddygol

  • Menywod a Merched sydd mewn Perygl

  • Ailuno Teuluol

  • Plant a Phobl Ifanc sydd mewn Perygl*

  • Diffyg Atebion Gwydn Amgen Rhagweladwy

*Categorïau UNHCR o Blant a Phobl Ifanc sydd Mewn Perygl

Plant ar eu pen eu hunain (UAC):

yw’r plant hynny sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y ddau riant a pherthnasau eraill ac nad ydynt yn derbyn gofal gan oedolyn sydd, yn ôl y gyfraith neu arferiad, yn gyfrifol am wneud hynny.

Plant sydd wedi’u gwahanu:

yw’r rhai sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y ddau riant, neu oddi wrth eu rhoddwr gofal sylfaenol cyfreithlon neu arferol blaenorol, ond nid o reidrwydd oddi wrth berthnasau eraill. Gall y rhain, felly, gynnwys plant yng nghwmni oedolion eraill o’r teulu.

Plant heb ddogfennaeth gyfreithiol:

Byddai hyn yn cynnwys plant heb ddogfennaeth gyfreithiol i brofi eu hunaniaeth gyfreithiol, ac a allai fod yn arbennig o agored i niwed ac yn cael eu hystyried ar gyfer adsefydlu, gan gynnwys:

  1. plant 0-4 oed sydd heb dystiolaeth o’u geni (dim tystysgrif geni, dim pasbort hysbysiad geni na llyfryn teulu), a lle nad yw un rhiant yn bresennol (yn arbennig, os yw’r rhiant sydd â’r hawl i basio cenedligrwydd ddim yn bresennol), neu

  2. plant 12-17 oed sydd heb ddogfennaeth i brofi eu hoedran ac sy’n wynebu risgiau amddiffyn eraill (llafur plant, priodas plant, recriwtio plant, plant sy’n cael eu cadw neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith) sydd mewn perygl arbennig oherwydd nad oes ganddynt brawf o’u statws fel plant ac felly ni allant brofi eu hawl i amddiffyniadau plant oed-benodol o dan y gyfraith.

Plant ag anghenion meddygol penodol:

Plentyn â chyflwr meddygol difrifol yw person o dan 18 oed sydd angen cymorth, o ran triniaeth neu ddarparu eitemau maethol a di-fwyd, yn y wlad lloches.

Plant ag anableddau:

Mae plentyn ag anabledd yn berson o dan 18 oed sydd â namau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd o enedigaeth, neu o ganlyniad i salwch, haint, anaf neu drawma. Gall y rhain rwystro cyfranogiad llawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.

Gofalwyr sy’n blant:

Mae’r categori Gofalwyr sy’n Blant yn cynnwys person o dan 18 oed, nad yw’n blentyn ar ei ben ei hun ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb fel pennaeth cartref. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, plentyn sy’n dal i fyw gyda’i rieni, ond sydd wedi cymryd y rôl o ofalu amdanynt (a brodyr a chwiorydd posibl) oherwydd bod y rhieni’n sâl, yn anabl, ac ati.

Plant sydd mewn perygl o arferion traddodiadol niweidiol, gan gynnwys priodas plant ac anffurfio organau cenhedlu benywod:

Person dan 18 oed sydd mewn perygl o, neu’n ddioddefwr/goroeswr, arfer traddodiadol niweidiol. Mae gan bob grŵp cymdeithasol arferion a chredoau traddodiadol penodol, y mae rhai ohonynt yn fuddiol i bob aelod tra bod eraill yn niweidiol i grŵp penodol, megis menywod. Mae arferion traddodiadol niweidiol o’r fath yn cynnwys er enghraifft, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas gynnar, pris gwaddol, etifeddiaeth gweddw, bwydo menywod dan orfod, hela gwrachod, babanladdiad benyw, dewis mab a’i oblygiadau i’r ferch fach. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae rhai mathau o enwaedu gwryw, creithiau neu datŵio hefyd yn dod o dan y categori hwn.

Llafur plant:

Yn cynnwys plant sy’n ymwneud ag:

(i) y mathau gwaethaf o lafur plant: Person o dan 18 oed sy’n cymryd rhan yn y mathau gwaethaf o lafur plant, sy’n cynnwys pob math o gaethwasiaeth neu arferion sy’n debyg i gaethwasiaeth (megis gwerthu a masnachu mewn plant, caethiwed dyled a gwasanaeth a llafur dan orfodol neu orfodol, gan gynnwys recriwtio plant dan orfod neu orfodol i’w defnyddio mewn gwrthdaro arfog); defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer puteindra, ar gyfer cynhyrchu pornograffi neu ar gyfer perfformiadau pornograffig; defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, yn arbennig ar gyfer cynhyrchu a masnachu cyffuriau fel y’i diffinnir yn y cytuniadau rhyngwladol perthnasol; gwaith sydd, oherwydd ei natur neu’r amgylchiadau y caiff ei wneud odanynt, yn debygol o niweidio iechyd, diogelwch neu foesau plant; a

(ii) mathau eraill o lafur plant: Person o dan 18 oed sy’n cymryd rhan mewn mathau o lafur plant heblaw’r ffurfiau gwaethaf, megis gwaith sy’n debygol o fod yn beryglus neu o amharu ar ei addysg, neu o fod yn niweidiol i’w iechyd neu ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol. Mae UNICEF yn diffinio llafur plant fel gwaith sy’n fwy na nifer lleiaf yr oriau, yn dibynnu ar oedran y plentyn a’r math o waith. Ystyrir bod gwaith o’r fath yn niweidiol i’r plentyn: 5-11 oed: o leiaf awr o lafur economaidd neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 12-14 oed: o leiaf 14 awr o lafur economaidd neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 15-17 oed: o leiaf 43 awr o waith economaidd neu ddomestig yr wythnos.

Plant sy’n gysylltiedig â lluoedd arfog neu grwpiau arfog

yw pobl o dan 18 oed sydd wedi’u recriwtio neu sydd wedi cael eu recriwtio i, neu a ddefnyddir gan, lu arfog neu grŵp arfog mewn unrhyw swyddogaeth, gan gynnwys fel ymladdwr, cogydd, porthor, negesydd, ysbïwr, neu at ddibenion rhywiol neu briodas dan orfod. Nid yw’n cyfeirio’n unig at blentyn sy’n cymryd neu sydd wedi cymryd rhan uniongyrchol mewn ymladd.

Plant yn y ddalfa a/neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith:

Person o dan 18 oed sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyhuddo neu ei ddyfarnu’n euog o dorri’r gyfraith.

Plant sy’n wynebu risg o ddychwelyd dan orfod[footnote 13]:

Person o dan 18 oed sydd mewn perygl o gael ei ddychwelyd i ffiniau tiriogaethau lle byddai ei fywyd neu ei ryddid dan fygythiad, neu lle mae mewn perygl o gael ei erlid am un neu ragor o seiliau Confensiwn Ffoaduriaid 1951, gan gynnwys rhyng-gipio, gwrthod ar y ffin neu ddychwelyd dan orfod anuniongyrchol

Plant sydd mewn perygl o beidio â mynychu’r ysgol:

Person o dan 18 oed nad yw’n gallu neu’n fodlon mynychu’r ysgol neu sydd mewn perygl uwch o ymyrraeth â’i addysg neu ddod â’i addysg i ben.

Plant sydd wedi goroesi (neu sydd mewn perygl o) drais, cam-drin neu gamfanteisio, gan gynnwys Trais Rhywiol a Thrais ar sail Rhywedd (SGBV):

Person o dan 18 oed, sydd mewn perygl o drais corfforol a/neu seicolegol, cam-drin, esgeulustod , neu gamfanteisio. Gall y cyflawnwr fod yn unrhyw berson, grŵp neu sefydliad, gan gynnwys actorion gwladwriaethol ac anwladwriaethol.

Atodiad C – Protocol Rhannu Data (DSP)

1. Nodau Ac Amcanion Y DSP

1.1 Nod y DSP hwn yw darparu set o egwyddorion ar gyfer rhannu gwybodaeth.

1.2 Mae’r DSP hwn yn nodi’r rheolau y mae’n rhaid i’r Derbynnydd eu dilyn wrth drin gwybodaeth a ddosberthir fel “data personol” gan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU sydd mewn grym.

2. Deddfwriaeth Diogelu Data

2.1 Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn pennu rhwymedigaethau penodol ar bob unigolyn sy’n prosesu data personol y mae’n rhaid cadw atynt. Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i bob trosglwyddiad gwybodaeth ddod o fewn ei chwe egwyddor diogelu data. Rhaid i’r Derbynnydd, wrth brosesu data personol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddyd, gydymffurfio â’r egwyddorion arfer da hyn.

2.2 Rhaid prosesu data personol yn unol â’r chwe egwyddor diogelu data dilynol:

i. cael eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas ag unigolion.

ii. cael eu casglu at ddibenion penodedig, eglur a chyfreithlon a heb gael eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni fydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn cael ei ystyried yn anghydnaws â’r dibenion cychwynnol.

iii. digonol, perthnasol, ac wedi’u cyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r dibenion y cânt eu prosesu ar eu cyfer.

iv. cywir a, lle bo angen, yn cael eu cadw’n gyfredol; rhaid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod data personol sy’n anghywir, o ystyried y dibenion y cânt eu prosesu ar eu cyfer, yn cael eu dileu, neu eu hunioni’n ddi-oed.

v. cael eu cadw ar ffurf nad yw’n caniatáu adnabod testunau data am gyfnod hwy nag sy’n angenrheidiol at y dibenion y mae’r data personol yn cael eu prosesu ar eu cyfer; gellir storio data personol am gyfnodau hwy i’r graddau y bydd y data personol yn cael eu prosesu dim ond at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn amodol ar weithredu’r mesurau technegol a threfniadol priodol sy’n ofynnol gan GDPR y DU er mwyn diogelu hawliau a rhyddid unigolion; a,

vi. cael eu prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol y data personol, gan gynnwys amddiffyniad rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn colled, dinistr neu ddifrod damweiniol, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol.

3. Diogelwch

3.1 Bydd y Derbynnydd a’i Staff yn cymryd gofal wrth ddefnyddio’r wybodaeth y maent yn ei chael yn ystod eu rôl swyddogol, ac i ddiogelu gwybodaeth a gedwir ganddo yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys:

  • peidio â thrafod gwybodaeth am Fuddiolwr yn gyhoeddus; a

  • pheidio â datgelu gwybodaeth i bartïon nad ydynt wedi’u hawdurdodi i gael mynediad i’r wybodaeth a rennir.

3.2 Yn ogystal â’r uchod, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau:

  • mae data personol a dderbynnir yn cael eu prosesu dim ond at ddibenion cyflawni eu rhwymedigaethau i gefnogi Buddiolwyr o dan y Cyfarwyddyd hwn,

  • mae’r holl ddata personol a dderbynnir yn cael eu storio’n ddiogel,

  • dim ond pobl sydd ag angen gwirioneddol i weld y data fydd â mynediad atynt,

  • dim ond tra bod angen ei chadw y caiff gwybodaeth ei chadw, a chaiff ei dinistrio yn unol â chanllawiau’r llywodraeth,

  • gwnaed pob ymdrech resymol i warantu nad yw’r Derbynnydd yn torri amodau data personol

  • mae unrhyw golledion gwybodaeth, datgeliadau anghyfiawn neu doriadau data personol sy’n deillio o’r Awdurdod yn cael eu hadrodd i dîm Diogelwch yr Awdurdod yn HOSecurity-DataIncidents@homeoffice.gov.uk

  • Bydd yr Awdurdodau, y Tîm Diogelwch a’r Swyddog Diogelu Data yn rhoi cyfarwyddyd ar y camau priodol i’w cymryd e.e. hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) neu ddosbarthu unrhyw wybodaeth i’r Buddiolwyr.

  • Nid yw’r cyfrifoldeb i roi gwybod i’r HO er gwaethaf polisïau mewnol a fydd gan SMPs, ac awdurdodau lleol o ran adrodd am achosion o dorri data i’r ICO yn eu rôl fel rheolydd data yn unol â 5.6 uchod.

  • Gall achosion o dorri diogelwch a digwyddiadau diogelwch olygu bod gwybodaeth y llywodraeth ar gael i’r rhai nad ydynt wedi’u hawdurdodi i’w chael neu dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, gall digwyddiad diogelwch neu doriad diogelwch beryglu diogelwch cenedlaethol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.3 Gall achosion o dorri diogelwch a digwyddiadau diogelwch olygu bod gwybodaeth y llywodraeth ar gael i’r rhai nad oes ganddynt yr awdurdod i’w chael neu dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, gall digwyddiad diogelwch neu doriad diogelwch beryglu diogelwch cenedlaethol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.4 Bydd yr Awdurdod yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n gyfystyr â thorri rheolau data personol ar gais.

3.5 Fel cyrff sector cyhoeddus mae’n ofynnol i’r Awdurdod a’r Derbynnydd brosesu data personol yn unol â chanllawiau Fframwaith Polisi Diogelwch Llywodraeth Ei Mawrhydi (HMG SPF) a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet wrth drin, trosglwyddo, storio, cyrchu, neu ddinistrio asedau gwybodaeth.

4. Ceisiadau Gwrthrych Am Wybodaeth

4.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn ateb unrhyw geisiadau gwrthrych am wybodaeth neu geisiadau eraill a wneir o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU y mae’n eu derbyn am y data lle mai ef yw’r Rheolydd ar gyfer y data hwnnw. Mewn achosion lle derbynnir cais o’r fath, bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn:

  • ymgynghori â’r llall cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;

  • caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw;

  • peidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU; a,

  • rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw ddadleuon gan y llall ynghylch pam na ddylid datgelu data, a lle bo’n bosibl dod i gytundeb cyn datgelu unrhyw beth.

5. Data I’w Rhannu

5.1 Bydd yr Awdurdod yn rhannu amrywiaeth o ddogfennau gyda’r Derbynnydd gan ddarparu gwybodaeth am y Buddiolwr/wyr. Bydd y math o ddata yn dibynnu ar sut ac o dan ba lwybr y cyrhaeddodd y Buddiolwr y DU, a gall gynnwys:

5.1.1 Holiadur Teulu (lle mae ar gael)

5.1.2. Arolwg unigol gwesty pontio dros dro

5.2 Bydd yr Awdurdod yn rhannu’r dogfennau dilynol ar gyfer Ffoadur Llwybr 2 ACRS gyda’r Derbynnydd:

5.2.1 Ffurflen Gofrestru Adsefydlu UNHCR (RRF)

5.2.2 Ffurflen Asesiad Iechyd Ymfudo IOM (MHA)

5.2.3 Asesiadau a Phenderfyniadau Budd Gorau UNHCR

5.2.4 Ffurflen Sgrinio Meddygol Cyn Gadael ION (PDMS) a Thystysgrif Cyn Cychwyn (PEC).

5.3 Bydd y dogfennau uchod yn cynnwys y wybodaeth bersonol ddilynol am Ffoadur:

Ffurflen Gofrestru Adsefydlu UNHCR (RRF)

  • Data bywgraffyddol ar gyfer pob Ffoadur gan gynnwys statws priodasol, crefydd. Tarddiad ethnig, manylion cyswllt yn y wlad sy’n cynnal;

  • Crynodeb addysg, sgiliau a chyflogaeth;

  • Perthnasau hysbys y prif ymgeisydd a’i briod heb eu cynnwys yng nghyflwyniad yr atgyfeiriad;

  • Crynodeb o Sail Cydnabod y Prif Ymgeisydd fel Ffoadur [footnote 14];

  • Angen am adsefydlu[footnote 15];

  • Asesiad o anghenion penodol[footnote 16];

  • Nifer y bobl o fewn teulu sydd ar fin cael eu hadsefydlu, oedran a rhywedd aelodau o’r teulu;

  • Yr iaith a siaredir;

  • Y gallu i gyfathrebu yn Saesneg; ac

  • Unrhyw faterion diwylliannol neu gymdeithasol penodol hysbys[footnote 17].

Ffurflen MHA

  • Caniatâd gan Ffoadur i gynnal archwiliad meddygol;

  • Caniatâd gan y Ffoadur i Gynghorwyr Meddygol i ddatgelu unrhyw gyflyrau meddygol presennol sy’n bodoli i’r Awdurdod sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses adsefydlu[footnote 18].

Asesiadau a Phenderfyniadau Budd Gorau

  • Gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau diogelu penodol ac asesiad o fuddiannau gorau’r unigolion yr effeithir arnynt [footnote 19].

Ffurflen PDMS a PEC

  • Data bywgraffyddol ar gyfer pob ffoadur sydd angen y ffurflen hon;

  • Gwybodaeth feddygol mewn perthynas â’r ffoadur gan gynnwys hanes meddygol, diweddariadau ar driniaethau a meddyginiaeth, gofynion gofal parhaus.

6. Rhestr Storio, Cadw A Dinistrio

6.1 Bydd y Derbynnydd yn cadw’r holl wybodaeth bersonol a rennir yn ddiogel yn unol â’r cyfarwyddiadau trin sy’n gysylltiedig â’r dosbarthiadau diogelwch gwybodaeth yn ogystal â’i amserlenni cadw a dinistrio data ei hun.

6.2 Ni fydd derbynwyr yn cadw’r wybodaeth bersonol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at ddiben gweithgarwch adsefydlu fel yr amlinellir yn y cyfarwyddyd cyllido.

6.3 Bydd adolygiad rheolaidd yn cael ei gynnal gan y Derbynnydd i asesu a oes angen cadw data personol y Buddiolwr. Unwaith na fydd y data bellach yn berthnasol at y dibenion hynny, caiff eu dinistrio’n ddiogel.

7. Pwyntiau Cysylltu Canolog Ar Gyfer Materion, Anghydfodau Ac Atebion

7.1 Bydd y Derbynnydd yn rhoi cydweithrediad a chymorth rhesymol i’r Awdurdod mewn perthynas ag unrhyw gŵyn neu gais a wneir mewn perthynas ag unrhyw ddata a rennir o dan y trefniant rhannu data hwn, gan gynnwys darparu i’r Awdurdod unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gofynnir amdani yn rhesymol gan yr Awdurdod.

7.2 Rhaid i unrhyw faterion gweithredol neu anghydfodau sy’n codi o ganlyniad i’r DSP hwn gael eu cyfeirio yn y lle cyntaf at arweinwyr Rhanbarthol Strategol Tîm Ymgysylltu’r Awdurdod Lleol.

8. Cyfrifoldebau Staff

8.1 Mae staff sydd wedi’u hawdurdodi i gyrchu data personol Buddiolwr yn bersonol gyfrifol am gadw’n ddiogel unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael, ei thrin, ei defnyddio a’i datgelu.

8.2 Dylai staff wybod sut i gael, defnyddio a rhannu gwybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyfreithlon i wneud eu gwaith.

8.3 Mae gan staff rwymedigaeth i ofyn am brawf adnabod neu gymryd camau i ddilysu awdurdodiad rhywun arall cyn datgelu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani o dan y DSP hwn.

8.4 Dylai staff gadw at egwyddorion cyffredinol cyfrinachedd, dilyn y canllawiau a nodir yn y DSP hwn a cheisio cyngor pan fo angen.

8.5 Dylai staff fod yn ymwybodol bod unrhyw achos o dorri preifatrwydd neu dorri cyfrinachedd yn anghyfreithlon ac yn fater disgyblu a allai arwain at eu diswyddo. Gellir dwyn achos troseddol yn erbyn yr unigolyn hwnnw hefyd.

9. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

9.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd ill dau yn ateb unrhyw geisiadau a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y mae’n eu derbyn am wybodaeth y mae’n ei chadw dim ond o ganlyniad i’r trefniant rhannu data hwn neu am y trefniant rhannu data hwn. Mewn achosion o’r fath pan dderbynnir cais o’r fath, bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn:

  • Ymgynghori â’r llall cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio.

  • Caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnn; a

  • Pheidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

10. Dull Trosglwyddo Data Personol Buddiolwr

10.1 Bydd yr Awdurdod yn defnyddio proses ddiogel, a elwir yn MOVEit, i drosglwyddo’r data sy’n caniatáu i ddefnyddwyr mewnol ac allanol rannu ffeiliau’n ddiogel a bydd yn darparu’r modd rhyngweithio rhwng y partïon.

10.2 Bydd y Derbynnydd yn cael mynediad i MOVEit dros borwr ar y we. Unwaith y bydd y trefniant hwn yn weithredol, bydd yn ofynnol i’r Derbynnydd, i’r graddau a bennir o bryd i’w gilydd gan yr Awdurdod, ddefnyddio MOVEit at ddiben ei ryngwyneb â’r Awdurdod o dan y Memorandwm hwn.

10.3 Dylai rhestr o Staff awdurdodedig fod ar gael i’w harchwilio os bydd yr Awdurdod yn gofyn am hynny.

11. Cyfyngiadau Ar Ddefnydd O’r Wybodaeth A Rennir

11.1 Rhaid defnyddio’r holl wybodaeth am Fuddiolwr sydd wedi’i rhannu gan yr Awdurdod at y dibenion a ddiffinnir yn Adran 3 o’r DSP hwn yn unig, oni bai ei bod yn ofynnol dan statud neu reoliad neu o dan gyfarwyddiadau llys. Felly, ni fydd unrhyw ddefnyddiau pellach a wneir o’r data personol yn gyfreithlon nac yn dod o dan y DSP hwn.

11.2 Gall cyfyngiadau hefyd fod yn berthnasol i unrhyw ddefnydd pellach o wybodaeth bersonol, megis sensitifrwydd masnachol neu ragfarn i eraill a achosir gan ryddhau’r wybodaeth, a dylid ystyried hyn wrth ystyried defnydd eilaidd o wybodaeth bersonol. Os bydd unrhyw amheuaeth, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Awdurdod a bydd ei benderfyniad ef – ym mhob achos – yn derfynol.

11.3 Rhaid gwneud cofnod llawn o unrhyw ddatgeliad(au) eilaidd os oes angen yn ôl y gyfraith neu orchymyn llys ar ffeil achos y Buddiolwr a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth ddilynol o leiaf:

  • Dyddiad datgelu.

  • Manylion y sefydliad sy’n gwneud cais.

  • Rheswm dros y cais.

  • Pa fath(au) o ddata y gofynnwyd amdano(ynt).

  • Manylion y person awdurdodi.

  • Dulliau trosglwyddo (rhaid eu bod yn ddiogel); a

  • Chyfiawnhad dros ddatgelu..

11.4 Mae’r cyfyngiadau ar ddatgeliadau eilaidd fel y nodir ym mharagraffau 11.1 ac 11.2 o’r DSP hwn yr un mor berthnasol i dderbynwyr trydydd parti sydd wedi’u lleoli yn y DU a derbynwyr trydydd parti sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU megis asiantaethau gorfodi rhyngwladol.

12. Archwiliadau

12.1 Mae’r Derbynnydd yn cytuno y gellir ei archwilio ar gais yr Awdurdod i sicrhau bod y data personol wedi’u storio a/neu eu dileu’n briodol, a’u bod wedi cydymffurfio â’r protocolau diogelwch a nodir yn y DSP hwn.

12.2 Mae’r Awdurdod yn cadarnhau na fyddai unrhyw wybodaeth arall yn cael ei hadolygu na’i harchwilio at y diben hwn.

Atodiad D – Addasiadau Eiddo Ar Gyfer Buddiolwyr

Byddai angen cael cymeradwyaeth ‘mewn egwyddor’ gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Byddai disgwyl i gostau fod yn unol â chostau cyfartalog pob addasiad a ddangosir yn y tabl uchod. Bydd y Cynlluniau’n ystyried costau gwrthdroi addasiadau eiddo rhesymol - byddai angen cael cymeradwyaeth gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan cyn gwneud unrhyw waith.

Rhennir addasiadau eiddo ar gyfer Buddiolwyr sydd â phroblemau symudedd yn ddau gategori:

a) mân addasiadau sydd wedi’u cynnwys yn y gyfradd dariff, ac

b) addasiadau mawr y gellir talu amdanynt o’r gronfa Achosion Eithriadol.

Mân addasiadau

Mae’r rhain yn waith lle nad oes angen unrhyw newidiadau strwythurol i’r eiddo, gan gynnwys:

  • rheiliau cydio

  • rheiliau grisiau

  • tapiau lifer

  • trothwyon mynediad gwastad

  • hanner grisiau i ddrysau

  • clychau drws yn fflachio/dirgrynu/larymau mwg, a

  • chawodydd dros y bath.

Byddai’r rhain yn cael eu talu o’r tariff safonol ar gyfer pob Buddiolwr.

Addasiadau mawr

Mae’r rhain yn waith sydd angen newidiadau strwythurol i’r eiddo a gallant gynnwys:

Addasiad Cost gyfartalog amcangyfrifedig (£GBP)
cyfleusterau cawod mynediad gwastad £3,500
lifftiau grisiau £1,500 (Syth)
£5,000 (Corneli)
rampiau £500 to £1,000
newid uchder arwynebau gwaith cegin £2,000
Addasu’ch cartref ar gyfer defnydd cadair olwyn megis lledu drysau £600 - £800 y drws
cyfleusterau ystafell ymolchi/ystafell wely ar y llawr gwaelod £2,000 i £3,000

Gall y rhain gael eu cyllido gan y gronfa achosion eithriadol yn dilyn asesiad gan therapydd galwedigaethol neu berson â chymwysterau tebyg. Yr uchafswm y gellir ei wario ar unrhyw eiddo yw £30,000 ac ni ddylai gynnwys estyniadau.

Os bydd grant ar gael ar gyfer addasu eiddo Cymdeithasol neu Breifat ar Rent mae’n ofynnol i’r landlord sicrhau bod yr eiddo ar gael i’w osod gan y tenant am gyfnod o bum (5) mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith, yn unol â’r trefniadau Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Atodiad E – Costau Gwag Ar Gyfer *Eiddo Pedair Ystafell Wely

1. Mae awdurdodau lleol eisoes yn gallu defnyddio tariff Blwyddyn Un (gweler Atodlen 1, Rhan 1) i dalu am gyfnod o gostau gwag. I adlewyrchu hyn, mae costau gwag pum deg chwech (56) Diwrnod (‘gwag’) eisoes wedi’u cynnwys yn y tariff er mwyn galluogi Derbynwyr i sicrhau eiddo cyn i deuluoedd y buddiolwyr gyrraedd.

2. Mae’r Awdurdod yn deall yr heriau cyflenwi sy’n gysylltiedig â sicrhau eiddo *pedair (4) neu fwy yn benodol. Er mwyn cefnogi Derbynwyr a Noddwyr Cymunedol i sicrhau’r eiddo hwn pan fyddant ar gael, mae’r Awdurdod wedi cytuno i gyllido wyth ar hugain (28) Diwrnod gwag ychwanegol fel Cost Eithriadol y tu allan i’r tariff. Bydd hyn yn dod â chyfanswm y cyfnod o ddiwrnodau gwag hyd at wyth deg pedwar (84) Diwrnod.

Meini prawf

3. Gall derbynwyr gyflwyno hawliad Costau Eithriadol i dalu am hyd at wyth ar hugain (28) diwrnod gwag ychwanegol ar gyfer pedwar (4) neu fwy o ystafelloedd gwely yn unig.

4. Rhaid cyflwyno tystiolaeth i gyd-fynd â phob hawliad sy’n dangos bod diwrnodau gwag dros ben wedi’u tynnu y tu hwnt i’r tariff pum deg chwech (56) Diwrnod, hyd at uchafswm o wyth ar hugain (28) Diwrnod ychwanegol.

5. Bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried diwrnodau gwag eraill mewn amgylchiadau eithriadol, megis teulu’n methu â chyrraedd ar ôl i’r eiddo gael ei sicrhau.

6. Gofynnir i dderbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol i drafod a ydynt yn credu bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

Atodiad F – Canllaw I Hawlio Costau Eithriadol

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau byddai angen ceisio cymeradwyaeth ‘Mewn egwyddor’ gan Dîm Taliadau Cynlluniau Affganistan cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Os oes brys, cysylltwch ag arweinydd Tîm Taliadau Cynlluniau Affganistan.

Cymeradwyaeth mewn egwyddor

  1. Yr Awdurdod Lleol yn nodi’r angen posibl am gostau eithriadol

  2. Yr Awdurdod Lleol yn casglu’r wybodaeth berthnasol am y costau eithriadol (gweler y dudalen nesaf am enghreifftiau o wybodaeth)

  3. Yr Awdurdod Lleol yn anfon e-bost at y Swyddfa Gartref yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor gyda gwybodaeth a gwariant amcangyfrifedig ar gyfer y costau eithriadol

  4. Ymateb e-bost wedi’i anfon at yr awdurdod lleol gyda phenderfyniad ynghylch y cais am gostau eithriadol, mewn egwyddor (o fewn 10 diwrnod gwaith)

Gall oedi ddigwydd pan na fydd y Swyddfa Gartref yn derbyn digon o wybodaeth i benderfynu mewn egwyddor.

Enghreifftiau o wybodaeth ategol

Addasiadau eiddo

  • Gwybodaeth ynghylch yr angen am yr addasiadau e.e. Asesiad OT, gwybodaeth feddygol arall.
  • Amcangyfrif o gost pob addasiad – dylid darparu o leiaf dau amcangyfrif, i ddangos bod y gwerth gorau am arian wedi’i gyflawni.

Costau gwag

  • Cofiwch fod y tariff yn cynnwys cyllid ar gyfer y 56 diwrnod cyntaf ar gyfer rhentu eiddo.

  • Rheswm dros hawlio costau gwag ychwanegol.

  • Tystiolaeth o wariant e.e. anfonebau rhent.

  • Tystiolaeth o’r dyddiad y prynwyd yr eiddo ar gyfer adsefydlu.

Costau SEND

  • Gwybodaeth am anghenion penodol cleientiaid, wedi’i hategu gan Asesiad Addysg, Gofal ac Iechyd (ECHA), adroddiad Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA) neu debyg. Cynhwyswch fanylion yr hyn y gofynnir amdano.
  • Cost cymorth addysgu bwrpasol.
  • Hysbyseb am y cymorth addysgu.
  • Manylion ac amcangyfrif o gostau unrhyw offer arbenigol, gan ddarparu amcangyfrifon i ddangos y gwerth gorau am arian.

Costau Gofal Cymdeithasol

  • Therapi Galwedigaethol ac asesiadau meddygol.
  • Manylion ac amcangyfrif o gostau gofal arbenigol.
  • Manylion ac amcangyfrif o gostau unrhyw offer arbenigol, gan ddarparu amcangyfrifon i ddangos y gwerth gorau am arian.

Prosesu hawliad cost eithriadol

  1. Unwaith y bydd gwariant wedi digwydd, gall awdurdod lleol gyflwyno hawliad am gostau eithriadol a gymeradwyir ymlaen llaw.

    • Mae’r Awdurdod Lleol yn llenwi ffurflen hawlio “Costau Eithriadol.
    • Cais yn cael ei gyflwyno gyda’r holl dystiolaeth o wariant, naill ai drwy e-bost i afghanschemepayments@homeoffice.gov.uk
    • (os nad oes gwybodaeth bersonol); neu
    • Drwy gyfrif Atodiad A SRP MOVEit.
    • Mae’r tîm Taliadau Cynllun Affganistan yn gwirio’r holl wybodaeth a gyflwynir gan yr awdurdod lleol.
    • Os yw’r hawliad wedi’i gwblhau, caiff ei gymeradwyo i’w dalu o fewn 10 diwrnod gwaith.
  2. Hysbysiad Talu’n cael ei anfon at yr awdurdod lleol

Atodiad G – Canllaw I Hawlio Costau Cymorth Tai Ychwanegol

1. Mae cyllid ar gael tuag at gostau tai ychwanegol y mae Derbynnydd wedi’u tynnu o reidrwydd i ariannu llety i deuluoedd mwy fel y nodir isod. Er y bydd cyfanswm y cyllid ar gael am hyd at 3 blynedd o ddyddiad dechrau’r denantiaeth, mae’r mwyafrif i’w ddyrannu ym mlwyddyn un (£15m) gyda chyfanswm y symiau cyllid yn lleihau ym mlwyddyn 2 (£7.5m) a blwyddyn 3 ( £3m). Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir i ardaloedd lleol gefnogi teuluoedd i ddod o hyd i waith ac i allu ariannu eu llety eu hunain.

2. Mae’r cyllid ar gael lle bo angen i gartrefu teuluoedd ARAP, i deuluoedd sy’n dod i’r DU fel rhan o’r gwacáu, sy’n cael eu hadsefydlu o dan yr ACRS, a dinasyddion Prydeinig cymwys. Mae’r Llywodraeth yn darparu’r cyllid hwn i gydnabod yr angen sy’n deillio o’r gwacáu i ddod o hyd i nifer sylweddol o eiddo mewn cyfnod byr o amser. Nid yw’r cyllid ar gael i gartrefu teuluoedd ACRS nad oeddent yn rhan o’r cyfnod gwacáu a ddaeth i ben ar 31 Awst 2021, gan y bydd gan awdurdodau lleol fwy o amser i nodi llety addas a fforddiadwy.

3. Mae tri thaliad posibl ar gael. Gall derbynwyr wneud cais am gyllid o dan fwy nag un categori ar gyfer un aelwyd. Os yw Derbynnydd yn gwneud cais am gyllid o dan fwy nag un categori mewn perthynas ag aelwyd, rhaid iddo ddangos nad oes unrhyw ddyblygu.

4. Ar gyfer pob un o’r tri thaliad posibl, dylai’r Derbynnydd ystyried cynaliadwyedd yr eiddo ar gyfer y teulu yn y tymor hwy. Gellir gwneud taliadau i helpu’r teulu i dalu’r rhent yn y tymor byr tra byddant yn setlo ac yn sicrhau cyflogaeth, ond y nod ddylai fod i’r teulu allu talu’r rhent yn llawn gan ddefnyddio incwm o gyflogaeth a/neu fudd-daliadau cyn gynted â phosibl.

5. Y disgwyl yw na fydd y rhan fwyaf o deuluoedd angen cymorth o’r cyllid hwn y tu hwnt i’r 12 mis cyntaf pan fydd y denantiaeth yn cael ei sicrhau. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, mae darpariaeth ar gyfer rhywfaint o barhad cyllid ym mlynyddoedd 2 a 3 ar gyfer aelwydydd nad ydynt yn gallu talu eu rhent yn llawn eto. Dylai derbynwyr wneud cais cychwynnol am gyllid i sicrhau’r denantiaeth a’i chynnal am o leiaf y 12 mis cyntaf, Os, trwy eithriad, mae angen cyllid pellach y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o 12 mis, gall y Derbynnydd wneud cais eto, ond dylai ddarparu tystiolaeth (fel y nodir isod) bod yr aelwyd wedi cael cymorth i geisio sicrhau cyflogaeth a/neu gael mynediad at yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt ond bod ganddynt ofyniad parhaus o hyd i gefnogi costau tai.

6. Os caiff cais am gyllid ei gymeradwyo, bydd cyllid ar gael i’r Derbynnydd. Dylai’r Derbynnydd wneud y taliad y cytunwyd arno’n uniongyrchol i’r landlord ac nid i’r aelwyd, bydd hyn yn golygu nad yw’n effeithio ar hawl yr aelwyd i gael budd-daliadau.

7. Bydd llawer o dimau Tai a Digartrefedd awdurdodau lleol yn gwneud taliadau tebyg i’r rhai a nodir isod er mwyn cefnogi aelwydydd sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Cynghorir y Derbynnydd i geisio cymorth gan dîm Tai a/neu Ddigartrefedd yr ALl os yw’r Derbynnydd yn anghyfarwydd ag ymgysylltu â landlordiaid sector preifat a gwneud trefniadau o’r fath.

A. Taliad i gynorthwyo gyda diffyg mewn costau tai oherwydd bwlch LHA/ rhent

8. Dylai pob eiddo a sicrheir ar gyfer Buddiolwyr fod o fewn y Lwfans Tai Lleol (LHA) neu’n agos at derfynau’r LHA fel bod tenantiaethau’n gynaliadwy gyda chymorth Credyd Cynhwysol neu hebddo. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae cyllid ar gael i helpu i sicrhau eiddo mwy yn y sector rhentu preifat sy’n fforddiadwy i deuluoedd, lle nad oes eiddo addas ar gael i’w gosod ar lefelau rhent LHA. Gall cyllid dalu am daliadau ymlaen llaw unwaith ac am byth i’r landlord a wneir yn gyfnewid am ostyngiad yn y rhent o fewn terfyn yr LHA; neu gyllid ‘atodol’ wythnosol sy’n cael ei dalu nes bod y teulu’n gallu talu’r rhent contractiol llawn heb gymorth o’r fath.

9. Lle gwneir taliad untro ymlaen llaw, yn ddelfrydol bydd Derbynwyr yn sicrhau tenantiaeth 2 neu 3 blynedd o’r cychwyn cyntaf trwy wneud taliad ymlaen llaw cychwynnol hyd at yr uchafswm ar gyfer taliad cychwynnol a nodir isod. Rydym yn cydnabod y gallai fod angen cyllid ychwanegol i ymestyn tenantiaeth yn yr ail neu’r drydedd flwyddyn pe na byddai’r Derbynnydd yn gallu sicrhau tenantiaeth 2 neu 3 blynedd ac nad yw’r aelwyd wedi sicrhau cyflogaeth. Adlewyrchir hyn yn y symiau cyllid gwahaniaethol a nodir yn y meini prawf isod.

10. Bydd y meini prawf canlynol yn berthnasol i’r rhan A hon:

  • Mae cyllid ar gael i sicrhau eiddo gyda 3 ystafell wely neu fwy yn y sector rhentu preifat.

  • Ar gyfer pob aelwyd a leolir, gall Derbynwyr dderbyn cyllid ar gyfer taliadau ymlaen llaw neu ar gyfer ychwanegiadau wythnosol, ond nid y ddau.

Taliadau Ymlaen Llaw

  • Dylai tenantiaethau a sicrheir gan ddefnyddio taliad untro ymlaen llaw fod am 2 neu 3 blynedd lle bynnag y bo modd, er, yn eithriadol, gellir sicrhau tenantiaeth 12 mis gan ddefnyddio’r cyllid hwn lle mai dyna’r unig opsiwn sydd ar gael.[footnote 20]

  • Gellir adennill costau ychwanegol taliadau ymlaen llaw pellach, o fewn yr uchafsymiau a nodir isod lle mae hyn yn angenrheidiol i sicrhau cytundeb landlord i ymestyn tenantiaeth pan ddaw’r contract cychwynnol i ben.

Ychwanegiadau wythnosol

  • Bydd cyllid ar gyfer ychwanegiadau wythnosol ar gael nes bydd yr aelwyd yn sicrhau cyflogaeth gyda chyflog digonol i ddileu hawl i Gredyd Cynhwysol.

  • Lle gwneir ychwanegiad wythnosol, bydd y cyllid ar gael am y 12 mis cyntaf o gymorth tai, ac eithrio lle gall yr awdurdod lleol ddangos rhwystr(au) penodol i’r aelwyd yn cael gwaith.

Symiau uchaf

  • Mae’r costau y gellir eu hadennill ar gyfer taliad untro cychwynnol ymlaen llaw hyd at uchafswm o £4,000 fesul aelwyd ar gyfer tenantiaethau yn Llundain, a £3,000 fesul aelwyd ar gyfer tenantiaethau y tu allan i Lundain; ond ni ddylai fod yn fwy na’r symiau a delir fel arfer gan y Derbynnydd wrth sicrhau eiddo ar gyfer aelwydydd digartref yn yr ardal.

  • Yr uchafswm y gellir ei adennill, naill ai fel taliadau untro neu ychwanegiad rhent, dros y cyfnod cyllido 3 blynedd yw £6,000 y tu mewn i Lundain a £4,500 y tu allan i Lundain.

Enghreifftiau (sylwer: at ddibenion enghreifftiol yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt ar gyfer asesu costau tebygol):

Mae awdurdod lleol wedi nodi eiddo 3 ystafell wely sy’n addas ar gyfer teulu o 6 y tu allan i Lundain, ond mae’r rhent yn uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol (LHA) ac nid yw’r landlord yn fodlon gosod yr eiddo ar lefel LHA. Y rhent misol yw £800 y mis calendr (ymc) a’r LHA yw £680, gan adael diffyg o £120ymc. Mae’r landlord yn fodlon cynnig tenantiaeth dwy flynedd gan gydnabod yr angen i ddarparu cartref sefydlog.

Opsiwn 1: Ychwanegiad Untro

Mae’r ALl yn cynnig darparu taliad ychwanegol i’r landlord yn gyfnewid am denantiaeth dwy flynedd ar lefel LHA.

  • Gwahaniaeth rhwng rhent eiddo a LHA = £120ymc

  • Ar gyfer tenantiaeth dwy flynedd mae’r ALl yn cynnig taliad untro o 24 x £120 = £2880

Ar ôl 2 flynedd mae’r landlord yn cynnig codi rhent i £810ymc, sef y rhent marchnad y gellir ei gyflawni ar gyfer yr eiddo hwn. Mae’r teulu wedi setlo ac mewn cyflogaeth ond ar incwm isel ac yn hawlio Credyd Cynhwysol. Asesiad yr ALl yw na allant fforddio rhent uwch na £680ymc ac mae’n cynnig taliad i’r landlord i ymestyn y denantiaeth am flwyddyn arall tra bod y teulu’n ceisio cynyddu eu hincwm neu’n chwilio am dŷ arall.

  • Gwahaniaeth rhwng rhent yr eiddo a LHA = £130ymc

  • Ar gyfer tenantiaeth blwyddyn y diffyg yw 12 x £130 = £1560

  • Cyfanswm y cyllid dros 3 blynedd yw £4440 (£2,880+£1,560) ac o fewn yr uchafswm sydd ar gael dros y 3 blynedd ar gyfer eiddo y tu allan i Lundain ac felly gellir ei dalu’n llawn gan y gronfa.

Opsiwn 2: Ychwanegiadau Wythnosol

Mae awdurdod lleol wedi nodi eiddo 4 ystafell wely sy’n addas ar gyfer teulu y tu allan i Lundain lle mae’r rhent £50ymc yn uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol. Mae’r ALl yn cytuno â’r landlord y bydd yr eiddo’n cael ei osod ar y rhent contractiol ac mae’n ymrwymo i dalu’r diffyg rhent rhwng yr LHA a’r swm contractiol nes bod y teulu wedi sicrhau cyflogaeth gyda chyflog digonol i ddileu eu hawl i Gredyd Cynhwysol. Wrth sicrhau’r eiddo, mae’r ALl wedi bodloni ei hun bod y rhent ar lefel sy’n fforddiadwy i deuluoedd sy’n gweithio yn yr ardal nad ydynt yn derbyn Credyd Cynhwysol i gynorthwyo gyda chostau tai a chostau eraill.

11. Tystiolaeth o’r costau a dynnir sydd ei hangen i gefnogi’r hawliad:

  • Ar gyfer taliadau untro ymlaen llaw, anfoneb neu dderbynneb gan y landlord yn cadarnhau taliad i sicrhau’r denantiaeth.

  • Ar gyfer ychwanegiadau rhent, tystiolaeth o gyfraniadau’n cael eu gwneud i’r landlord A thystiolaeth o asesiad UC sy’n nodi bod yr aelwyd yn parhau i fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau p’un a ydynt wedi cael cyflogaeth ai peidio.

  • Ar gyfer cyllid y tu hwnt i 12 mis neu gyfnod y denantiaeth a sicrheir gyda thaliad ymlaen llaw, datganiad wedi’i lofnodi ar y cyd gan DWP i gadarnhau bod gan y teulu rwystrau penodol i gyflogaeth; a bod cymorth cyflogaeth yn cael ei ddarparu.

B. Taliad i gefnogi teuluoedd sy’n dibynnu ar Gredyd Cynhwysol (UC) wedi’i gyfyngu gan y cap budd-daliadau

12. Gall derbynwyr hawlio cyllid tuag at ddiffygion yn y Credyd Cynhwysol lle mae budd-daliadau aelwyd wedi’u capio. Mae’r cyllid ar gael lle:

  • Nid yw’r cartref wedi sicrhau digon o waith cyflogedig i fod yn gymwys i gael ei eithrio o’r cap budd-daliadau, ac

  • Mae’r Derbynnydd wedi cynorthwyo’r aelwyd i wneud cais am unrhyw esemptiad cap budd-daliadau neu gyfnod gras a allai fod ar gael iddynt, ac

  • Oherwydd y cap budd-daliadau, mae diffyg rhwng y swm sydd ei angen ar gyfer costau byw cyfunol yr aelwyd a thaliadau rhent o fewn y dyfarniad Credyd Cynhwysol.

13. Bydd y diffiniadau a’r meini prawf dilynol yn berthnasol i’r Rhan B hon:

  • Y rhent a fydd yn cael ei ystyried wrth asesu cyllid diffyg fydd y rhent gwirioneddol sy’n daladwy hyd at uchafswm hawl Lwfans Tai Lleol (LHA).

  • LHA yw’r swm a ddefnyddir gan DWP i gyfrifo’r uchafswm y gall pobl sy’n rhentu gan landlord preifat ei hawlio tuag at eu costau tai. Mae’n seiliedig ar y lleoliad a nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar yr aelwyd. Mae cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol ar gyfer pob ardal i’w gweld yn Cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol (LHA) - GOV.UK (www.gov.uk).

  • Elfen Costau Tai hawliad Credyd Cynhwysol (UC) yw’r uchafswm y gellir ei dalu i’r hawlydd UC tuag at ei rent, sef naill ai swm y rhent contractiol neu swm y Lwfans Tai Lleol, p’un bynnag yw’r isaf.

  • Y cap ar fudd-daliadau yw’r uchafswm arian y gall hawliwr ei dderbyn ar UC os yw o oedran gweithio a ddim yn gymwys i gael esemptiad. Mae gwybodaeth am esemptiadau o’r cap ar fudd-daliadau ar gael yn Cap budd-daliadau: Pan nad effeithir arnoch - GOV.UK (www.gov.uk)

  • Bydd y cyllid ar gael am y 12 mis cyntaf o gymorth tai, ac eithrio lle gall yr awdurdod lleol ddangos rhwystr(au) penodol i’r aelwyd yn cael esemptiad cyflogaeth/cap budd-daliadau.

Enghraifft (noder: at ddibenion enghreifftiol yn unig ac ni ddylid dibynnu arno ar gyfer asesu costau tebygol), mae niferoedd sydd wedi’u talgrynnu wedi’u defnyddio er hwylustod):

Cwpl gyda 4 o blant 2, 6, 9, 13 oed yn byw y tu allan i Lundain.

  • A: Lwfans safonol UC (£526) a lwfans plant (£779) + budd-dal plant (£282) = £1,587 ymc

  • B: Costau tai ar gyfer eiddo 4 llofft ar LHA £875ymc

  • C: Cyfanswm hawl i fudd-daliadau £2,462ymc (A+B)

  • D: Terfyn y cap budd-daliadau £1,667ymc

  • Didyniad cap budd-daliadau UC (sy’n gyfystyr â’r diffyg yn yr incwm budd-daliadau sydd ar gael i dalu costau tai a byw cyfunol) £795ymc (C-D)

  1. Tystiolaeth o’r costau a dynnir sydd ei hangen i gefnogi’r hawliad:
  • Copi o ddadansoddiad asesiad UC DWP ar gyfer yr aelwyd.

  • Ar gyfer cyllid y tu hwnt i 12 mis, datganiad wedi’i gyd-lofnodi gan y DWP i gadarnhau bod gan y teulu rwystrau penodol i gyflogaeth nas cwpasir gan esemptiadau’r cap budd-daliadau; a bod cymorth cyflogaeth yn cael ei ddarparu.

15. Y swm sy’n gymwys ar gyfer cyllid fydd p’un bynnag yw’r isaf o swm y cap budd-daliadau neu swm costau tai yn yr asesiad Credyd Cynhwysol.

C. Talu costau eithriadol y tu allan i’r meini prawf uchod

16. Gall derbynwyr gyflwyno ceisiadau am gostau y tu allan i’r meini prawf uchod i dalu am gostau tai ychwanegol lle mae anghenion neu amgylchiadau eithriadol, nad ydynt wedi’u cynnwys yn unman arall yn y trefniadau cyllido. Dylai amgylchiadau o’r fath fod yn wirioneddol eithriadol ac nid dim ond cais am gostau sy’n fwy na’r uchafswm a nodir yn rhannau A a B uchod.

17. Cyn tynnu Costau Eithriadol, bydd Derbynnydd yn ceisio cytundeb ysgrifenedig gan Dîm Taliadau Cynllun Affganistan yr Awdurdod neu berygl y bydd yr hawliad yn cael ei wrthod. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio ei farn resymol wrth asesu mesurau lliniaru ar gyfer hawliadau lle na fu hyn yn bosibl. Gweler Atodiad F.

Proses ar gyfer gwirio cymhwysedd ar gyfer Cyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol

18. Mae’r Awdurdod wedi datblygu rhestr wirio yn Atodiad H i gynorthwyo Derbynwyr i wirio a fydd eiddo yn gymwys ar gyfer y Cyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol ar y lefel rhent a gytunir gyda’r landlord cyn cyflwyno cynnig eiddo. Lle bo’r Derbynnydd wedi cwblhau Rhan A o’r rhestr wirio yn gywir ac yn fodlon bod unrhyw ddiffyg rhwng yr LHA a’r rhent o fewn yr uchafswm yn Rhan A o’r gronfa hon, gall y Derbynwyr fod yn sicr y bydd y cyllid y gofynnir amdano yn cael ei ddarparu o’r gronfa.

19. Os yw’r Derbynnydd yn anghyfarwydd â’r derminoleg neu’r cyfrifiadau sy’n ofynnol yn y rhestr wirio, rydym yn argymell ceisio cyngor gan dîm tai neu ddigartrefedd yr ALl sy’n debygol o fod yn gyfarwydd â’r telerau a’r cyfrifiadau gofynnol. Os yw’r Derbynnydd yn parhau i fod yn ansicr a yw’r eiddo’n gymwys ar gyfer y cyllid ychwanegol, gall anfon y rhestr wirio ymlaen at Dîm Taliadau Affganistan yr Awdurdod i’w dilysu, er y dylai’r Derbynnydd nodi y gallai hyn achosi oedi yn y broses ac felly fe’i cynghorir i geisio cymorth cydweithwyr tai lleol yn y lle cyntaf.

20. Nid oes angen cwblhau Rhan B o’r rhestr wirio ar yr adeg y mae’r Derbynnydd yn gwneud cynnig eiddo. Ni fydd y Derbynnydd yn gallu cwblhau Rhan B o’r rhestr wirio nes bod teulu wedi’u paru â’r eiddo ac mae’r hawl i fudd-daliadau’n hysbys, i helpu’r Derbynnydd i gyfrifo faint o unrhyw ddiffyg yn y cap budd-daliadau y gellir ei hawlio. Bydd elfen costau tai diffyg yn y cap budd-daliadau yn cael ei gwmpasu’n llawn gan y cyllid am o leiaf y 12 mis cyntaf. Nid oes amodau ar faint yr eiddo ar gyfer yr elfen hon o’r gronfa.

21. Rhaid cyflwyno rhestr wirio wedi’i chwblhau ochr yn ochr ag unrhyw hawliadau am Gyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol. Bydd hyn yn cynorthwyo Tîm Taliadau Affganistan yr Awdurdod i ddilysu a phrosesu hawliadau. Bydd methu â darparu rhestr wirio wedi’i chwblhau yn oedi talu hawliadau o’r fath.

22. Dylai pob hawliad o dan y cyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol gael ei hawlio fel ôl-daliad a chael ei gefnogi â thystiolaeth o wariant.

Atodiad H – Rhestrau Wirio Ar Gyfer Hawliadau Costau Cymorth Tai Ychwanegol

1. Bwriad y ddogfen hon yw helpu awdurdodau lleol i ddeall sut y gellir defnyddio’r Gronfa Costau Cymorth Tai Ychwanegol i sicrhau eiddo sy’n addas ar gyfer teuluoedd ac unigolion o Affganistan drwy’r cynlluniau adsefydlu a’i chyflwyno fel tystiolaeth ochr yn ochr â chais am y Gronfa Gostau Cymorth Tai Ychwanegol. Mae’r Gronfa Costau Cymorth Tai Ychwanegol yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod cynigion tai yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

2. Rhaid cyflwyno rhestr wirio wedi’i chwblhau ochr yn ochr ag unrhyw gais am y Cyllid Costau Cymorth Tai Ychwanegol. Cyfeiriwch at Atodiad G am fanylion llawn y cyllid a’r broses ar gyfer gwneud hawliadau.

3. Mae’r Gronfa Costau Cymorth Tai Ychwanegol ar gael dim ond i aelwydydd sy’n cael eu hadsefydlu drwy’r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP), ac i’r rheini a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Awst 2021 drwy’r gwacáu o Affganistan ac sydd (i) naill ai yn cael eu hadsefydlu drwy Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) neu sy’n (ii) wladolion Prydeinig yn cael cymorth adsefydlu (ACRS).

4. Mae enghreifftiau wedi’u gweithio ar gyfer gwahanol hawliadau y gellir eu gwneud a’r hyn y byddent yn gyfystyr ag ef yn ariannol o dudalen 4 ymlaen.

5. Gwybodaeth am y Telerau a Ddefnyddir

  • Mae DWP yn defnyddio’r Lwfans Tai Lleol (LHA) i gyfrifo’r uchafswm y gall pobl sy’n rhentu gan landlord preifat ei hawlio tuag at eu costau tai. Mae’n seiliedig ar y lleoliad a nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar yr aelwyd. Gellir dod o hyd i’r cyfraddau LHA wythnosol ar gyfer pob ardal yn voa.gov.uk a’r symiau misol a ddefnyddir gan DWP ar gyfer cyfrifiadau Credyd Cynhwysol yn Cyfraddau Lwfans Tai Lleol Credyd Cynhwysol: 2022 i 2023 - GOV.UK (www.gov.uk)

  • Mae diffyg LHA yn codi pan fo’r rhent contractiol y mae’r landlord yn gofyn i’r tenant ei dalu yn uwch na’r swm y gellir ei hawlio drwy’r LHA am yr eiddo.

  • Elfen Costau Tai hawliad Credyd Cynhwysol (UC) yw’r uchafswm y gellir ei dalu i’r hawlydd UC tuag at ei rent, sef naill ai swm y rhent contractiol neu swm y Lwfans Tai Lleol, p’un bynnag yw’r isaf.

Y cap ar fudd-daliadau yw’r uchafswm arian y gall hawliwr ei gael ar Gredyd Cynhwysol os yw o oedran gweithio a ddim yn gymwys i gael esemptiad. Mae gwybodaeth am esemptiadau o’r cap budd-daliadau ar gael yn Cap budd-daliadau: Pan nad effeithir arnoch - GOV.UK (www.gov.uk)

Symiau’r Cap Budd-daliadau ar gyfer Teuluoedd/Pobl Sengl yn ôl Lleoliad

Math o Aelwyd Lleoliad Symiau’r Cap Budd-daliadau Yr Wythnos Symiau’r Cap Budd-daliadau Mis Calendr* Symiau’r Cap Budd-daliadau Y Flwyddyn
Parau gyda neu heb blant a rhieni unigol Llundain £442.31 £1916.67 £23,000
Parau gyda neu heb blant a rhieni unigol Tu allan i Lundain £384.62 £1666.67 £20,000
Pobl sengl heb gyfrifoldebau rhiant Llundain £296.35 £1284.17 £15,410
Pobl sengl heb gyfrifoldebau rhiant Tu allan i Lundain £257.69 £1116.67 £13,400
  • Telir UC yn fisol, ac felly bydd cyfrifiadau DWP yn cyfeirio at swm y mis calendr.

Rhestr Wirio’r Gronfa Costau Cymorth Tai Ychwanegol

Darperir y rhestr wirio i awdurdodau lleol ar wahân.

Enghreifftiau o Hawliadau Cronfa Costau Tai

(sylwer: at ddibenion enghreifftiol yn unig ac ni ddylid dibynnu arno ar gyfer asesu costau tebygol)

Hawliadau Diffyg LHA

Ychwanegiad Ymlaen Llaw

Mae awdurdod lleol wedi nodi eiddo 3 ystafell wely sy’n addas ar gyfer teulu o 6 y tu allan i Lundain, ond mae’r rhent yn uwch na’r gyfradd LHA, ac nid yw’r landlord yn fodlon gosod yr eiddo ar lefel LHA. Y rhent misol yw £800ymc a’r LHA yw £680, gan adael diffyg o £120ymc. Mae’r landlord yn fodlon cynnig tenantiaeth dwy flynedd gan gydnabod yr angen i ddarparu cartref sefydlog.

Mae’r ALl yn cynnig darparu taliad atodol i’r landlord yn gyfnewid am denantiaeth dwy flynedd ar lefel LHA.

  • Gwahaniaeth rhwng rhent eiddo a’r LHA = £120 ymc.

  • Ar gyfer tenantiaeth dwy flynedd mae’r ALl yn cynnig taliad untro o 24 x £120 = £2880.

Ar ôl 2 flynedd mae’r landlord yn cynnig codi rhent i £810ymc, sef y rhent marchnad y gellir ei gyflawni ar gyfer yr eiddo hwn. Mae’r teulu wedi setlo ac mewn cyflogaeth ond ar incwm isel ac yn hawlio Credyd Cynhwysol. Asesiad yr ALl yw na allant fforddio rhent uwch na £680ymc ac mae’n cynnig taliad i’r landlord i ymestyn y denantiaeth am flwyddyn arall tra bod y teulu’n ceisio cynyddu eu hincwm neu’n chwilio am dŷ arall.

  • Gwahaniaeth rhwng rhent eiddo a’r LHA = £130ymc

  • Ar gyfer tenantiaeth un flwyddyn y diffyg yw 12 x £130 = £1560

Y cyfanswm a hawlir mewn cyllid atodol dros y 3 blynedd yw £4440 [£2,880+£1,560]. Mae o fewn yr uchafswm sydd ar gael dros y 3 blynedd ar gyfer eiddo y tu allan i Lundain ac felly gellir ei dalu’n llawn gan y gronfa.

Ychwanegiadau Wythnosol

Yn y senario uchod - mae’r ALl yn cytuno â’r landlord y caiff yr eiddo ei osod ar y rhent contractiol ac mae’n ymrwymo i dalu’r diffyg rhent rhwng yr LHA a’r swm contractiol nes bod y teulu wedi sicrhau cyflogaeth gyda chyflog digonol i ddileu eu hawl i UC. Wrth sicrhau’r eiddo, mae’r ALl wedi bodloni ei hun bod y rhent ar lefel sy’n fforddiadwy i deuluoedd sy’n gweithio yn yr ardal nad ydynt yn derbyn Credyd Cynhwysol i gynorthwyo gyda chostau tai a chostau eraill. Mae’r ALl yn cytuno i dalu ychwanegiad wythnosol i’r landlord er mwyn sicrhau rhent fforddiadwy.

Hawliadau Diffyg Cap Budd-daliadau

Mae’r enghreifftiau isod yn amlinellu gwahanol senarios lle mae’r cap budd-daliadau wedi’i weithredu:

Enghraifft 1 Mae Cap Budd-daliadau yn golygu nad yw lwfans tai wedi’i gynnwys yn llawn
Cyf y teulu 2 Oedolyn (dros 25) - 4 Plentyn 2, 6, 9, 13 oed
Ystafelloedd gwely 4  
Lleoliad Y tu allan i Lundain  
Dyddiad gweithredu UC 30/05/2022  
Lwfans safonol £525.72  
Cyfanswm Lwfans Plant £779.16 Yn y senario hon mae’r lwfans plant yn daladwy ar gyfer 3 o’r 4 plentyn gan fod y plentyn ifancaf wedi’i eni ar ôl 6 Ebrill 2017.
Cyfanswm Budd-dal Plant £282.32 Cyfartaledd misol fel Budd-dal Plant yn cael ei dalu’n wythnosol
Costau tai £875.00 Bydd hwn yn swm LHA, neu rwymedigaeth rhent lle mae’r rhent yn is na’r LHA
Cyfanswm hawl £2,462.20 Cyfrifiad DWP o hawl pe na byddai cap yn cael ei weithredu
Cyfanswm a dderbynir ar hyn o bryd £1,666.67 Swm yn cael ei dalu
Diffyg £795.53  
  • Mae’r Credyd Cynhwysol a delir yn is na chyfanswm yr hawl, ac mae ar lefel y cap budd-daliadau ar gyfer y tu allan i Lundain sy’n cadarnhau bod y cap wedi’i weithredu

  • Y swm cymwys yw p’un bynnag sydd isaf o’r didyniad cap neu gostau tai, sef £795.53

  • Cyllid o £795.53ymc ar gael am hyd at 12 mis, hyd nes y bydd y teulu’n cael eu hesemptio o’r cap; neu am gyfnod hwy trwy eithriad

Enghraifft 2: Cap budd-daliadau wedi’i weithredu, ond angen eglurhad pellach ar symiau
Cyf y teulu 2 Oedolyn (dros 25) - 5 Plentyn 1, 3, 6, 9, 13 oed
Ystafelloedd gwely 4  
Lleoliad Y tu allan i Lundain  
Dyddiad gweithredu UC 30/5/2022  
Lwfans safonol £525.72  
Cyfanswm Lwfans Plant £779.16 Yn y senario hon mae’r lwfans plant yn daladwy ar gyfer 3 o’r 5 plentyn gan fod y ddau blentyn ifancaf wedi’u geni ar ôl 6 Ebrill 2017.
Cyfanswm Budd-dal Plant £344.93  
Costau tai £875.00  
Cyfanswm hawl £2,524.81 Hawl os na weithredir cap
Cyfanswm a dderbynir ar hyn o bryd £715.00 Swm yn cael ei dalu
Diffyg £1,809.81  
  • Mae’r UC sy’n cael ei dalu yn is na swm y cap budd-daliadau, sy’n dangos bod didyniadau ychwanegol yn cael eu gwneud e.e. am ad-dalu blaenswm neu fenthyciad UC

  • Bydd angen i’r ALl gael eglurhad ar y rhesymau dros ddidynnu, a dim ond fel y maent yn berthnasol i’r elfen lwfans tai y gall hawlio am y gostyngiadau cap budd-daliadauUC

  • Pe byddai’r teulu’n cael cap ar fudd-daliadau, y diffyg oherwydd y cap fyddai - £858.14. Hynny yw £2,524.81ymc (cyfanswm hawl), llai £1666.67ymc (cap budd-daliadau y tu allan i Lundain)

  • Mae £858.14 yn is na’r lwfans tai LHA o £875.00 ac felly £858.14ymc yw’r uchafswm sy’n gymwys ar gyfer cyllid

Enghraifft 3: Mae diffyg Cap Budd-daliadau yn fwy na swm costau tai
Cyf y teulu 2 Oedolyn (dros 25) - 6 Plentyn 6, 7, 9, 11, 13, 15 oed
Ystafelloedd gwely 4  
Lleoliad Outside London  
Dyddiad gweithredu UC 30/05/22  
Lwfans safonol £525.72  
Cyfanswm Lwfans Plant £1,512.90 Yn y senario hon mae’r lwfans plant yn daladwy ar gyfer yr holl blant gan eu bod i gyd wedi’u geni cyn 6 Ebrill 2017
Cyfanswm Budd-dal Plant £407.55  
Costau tai £1296.44 Swm LHA, neu rwymedigaeth rhent pan fo’r rhent yn is na’r LHA
Cyfanswm hawl £3,742.61 Cyfrifiad DWP o hawl pe na byddai cap yn cael ei weithredu
Cyfanswm a dderbynir ar hyn o bryd £1,666.67 Swm yn cael ei dalu
Diffyg £2,075.94  
  • Mae’r UC a delir yn is na chyfanswm yr hawl, ac mae ar lefel y cap budd-daliadau ar gyfer y tu allan i Lundain sy’n cadarnhau bod y cap wedi’i weithredu

  • Y swm cymwys yw p’un bynnag sydd isaf o’r didyniad cap neu gostau tai, sef £1296.44

  • Cyllid o £1296.44 ymc ar gael am hyd at 12 mis, hyd nes y bydd y teulu’n cael eu hesemptio o’r cap; neu am gyfnod hwy trwy eithriad

Atodiad I - Cofnod O Newidiadau I’r Cyfarwyddyd Cyllido Hwn (I’r Fersiwn Flaenorol A Gyhoeddwyd)

Rhif tudalen/paragraff Manylion y newidiadau
Tudalen 6, para 1.4 Ehangu’r diffiniad o Fuddiolwr i “(i) y rhai a adsefydlir o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a’u dibynyddion uniongyrchol (gan gynnwys aelodau teulu Gwladolion Prydeinig) o dan Lwybr 1; a (ii) y rhai sydd wedi’u hadleoli o dan gynllun Y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP) a’u dibynyddion uniongyrchol; a (iii) Gwladolion Prydeinig cymwys, (iv) yn ogystal â’r ACRS, mae’r cynllun hwn wedi’i ehangu i gynnwys y rhai sydd wedi’u cydnabod yn Ffoaduriaid gan UNHCR ac wedi’u hadsefydlu i’r DU o dan Lwybr 2 ACRS, a (v) y rhai sydd wedi’u hadleoli o dan Lwybr 3 ACRS.”
Tudalen 8, para 1.20 Dileu geiriad amherthnasol
Tudalen 9, para 1.32 Mewnosod y diffiniad o “Ffoadur”
Tudalen 11, para 3.3 Mewnosod is-baragraff newydd i adlewyrchu cynnwys Llwybr 2 ACRS drwy atgyfeiriadau UNHCR. Is-baragraffau dilynol wedi’u hailrifo.
Tudalen 13, paragraffau 5.11 i 5.20 Wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu gwybodaeth UNHCR a ddarparwyd fel rhan o’r broses atgyfeirio ar gyfer Llwybr 2 ACRS.
Tudalen 15, para 6.16 Ehangu’r paragraff i gynnwys “gwnaed y penderfyniad hwn i sicrhau tegwch o gofio mai cyfiawnhad y polisi oedd y gwacáu torfol, er ein bod yn cadw hyn dan adolygiad.”
Tudalen 16, para 6.20 Wedi’i adolygu i adlewyrchu’r newid yn y broses ar gyfer gwirio cymhwysedd.
Tudalen 22-23 Atodlen 1 paragraffau 1.5 i 1.6 Mewnosod paragraffau newydd ac ail-rifo dilynol
Tudalen 24 Atodlen 1 para 1.15 Mewnosod paragraff newydd
Tudalen 24 Atodlen 1 paragraffau 1.20.1 i 1.20.2 Is-baragraffau wedi’u rhifo’n anghywir wedi’u cywiro
Tudalen 25 Atodlen 1 para 1.25 Paragraff wedi’i ailysgrifennu er eglurder
Tudalen 25 Atodlen 1 paragraffau 1.26.1 i 1.26.7 Paragraffau wedi’u hail-rifo
Tudalen 25 Atodlen 1 para 1.26.4 Is-baragraff wedi’i ailysgrifennu er eglurder
Tudalen 26 Atodlen 1 para 1.33 Paragraff wedi’i ailysgrifennu er eglurder
Tudalen 32 Atodlen 1 para 4.1 Brawddeg agoriadol wedi’i hailysgrifennu er eglurder
Tudalen 33 Atodlen 1 para 4.12 Paragraff wedi’i ailysgrifennu er eglurder
Tudalen 34 Atodlen 1 para 5.3 Ychwanegu “Noddwyr Cymunedol” i sefydliadau sy’n gymwys i hawlio cyllid
Tudalen 34 Atodlen 1 paragraffau 5.6.2 i 5.6.3 Is-baragraffau wedi’u hailysgrifennu
Tudalen 34 Atodlen 1 para 5.7 Paragraff wedi’i ailysgrifennu er eglurder
Tudalen 35 Atodlen 1 paragraffau 5.8 i 5.9 Rhifo diwygiedig a thestun diwygiedig er eglurder
Tudalen 36 Atodlen 1 para 6.2 Paragraff wedi’i ail-eirio
Tudalen 36 Atodlen 1 para 6.3 Mewnosodwyd paragraff newydd.
Atodiad A Rhestr o ffurflenni hawlio taliadau wedi’i diweddaru
Atodiad B Atodiad B Newydd - CATEGORÏAU CYFLWYNO ADSEFYDLU UNHCR. Ailenwyd yr holl Atodiadau dilynol i adlewyrchu cynnwys Atodiad B newydd.
Atodiad C Cynnwys is-baragraffau newydd 5.2 a 5.3
Atodiad G Adolygu Atodiad G, i ddarparu canllawiau pellach.
Atodiad H Cynnwys Rhestr Wirio ar gyfer Costau Cymorth Tai Ychwanegol yngylch hawliadau am Gyllid
Atodiad I Atodiad H gynt
  1. Byddwch cystal â chyfeirio at y Porth Rhagoriaeth am wybodaeth pellach ynglŷn â chwricwlwm cenedlaethol ESOL a’r cwricwlwm Sgiliau Bywyd 

  2. Gweler Atodiad B 

  3. https://www.gov.uk/government/publications/supplier-code-of-conduct 

  4. Mae’n well gan yr Awdurdod na ddylid defnyddio cyfrifon mesuryddion rhagdalu arian parod na cherdyn gan fod y rhain yn gyffredinol yn ddrytach. Dylai derbynwyr sy’n ceisio eithriadau gysylltu drwy arweinydd Rhanbarthol Strategol Tîm Ymgysylltu Awdurdod Lleol perthnasol yr Awdurdod. 

  5. Gweithdrefn Achos o Ddiddordeb – gellir cael rhagor o wybodaeth gan arweinydd Rhanbarthol Strategol Tîm Ymgysylltu’r Awdurdod Lleol. 

  6. Dim ond am gyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn y mae gwerthoedd taliadau’n ddilys; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  7. Dim ond am gyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn y mae gwerthoedd taliadau’n ddilys; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod 

  8. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Cyfarwyddyd hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  9. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Cyfarwyddyd hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  10. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Cyfarwyddyd hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  11. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Memorandwm hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod Authority 

  12. Fel y diffinnir yn Llawlyfr Adsefydlu UNHCR (http://www.unhcr.org/46f7c0ee2.pdf

  13. Ystyr dychwelyd dan orfod yw diarddel pobl sydd â’r hawl i gael eu cydnabod yn ffoaduriaid. 

  14. Wedi’i ddosbarthu fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  15. Wedi’i ddosbarthu fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  16. Gan ddibynnu ar y cynnwys, gallai hwn gael ei ddosbarthu fel data categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  17. Gan ddibynnu ar y cynnwys, gallai hwn gael ei ddosbarthu fel data categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  18. Wedi’i ddosbarthu fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r D. 

  19. Gan ddibynnu ar y cynnwys, gallai hwn gael ei ddosbarthu fel data categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  20. Nid yw’r gofyniad am gyfnod penodol yn berthnasol yn yr Alban lle dylai tenantiaethau a sicrheir gan ddefnyddio’r cyllid hwn fod yn denantiaethau preswyl preifat parhaus, yn unol â deddfwriaeth tenantiaeth yr Alban.