Canllawiau statudol

Mynediad i dacsis a cherbydau llogi preifat i ddefnyddwyr anabl

Cyhoeddwyd 20 June 2022

Cyflwyniad

1. Statws y canllawiau hyn

(1.1) Mae’r canllawiau hyn wedi’u diweddaru o’r fersiwn a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017 i adlewyrchu’r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022 (“Deddf 2022”) i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n darparu canllawiau statudol ac anstatudol ar y dyletswyddau a’r troseddau o dan yr adran tacsis a cherbydau hurio preifat yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys y rhai a gyflwynwyd o ganlyniad i Ddeddf 2022, gyda thestun wedi’i ddiweddaru ar y dyletswyddau a’r troseddau a oedd eisoes yn bodoli. Felly, dylid defnyddio’r canllawiau hyn fel rhai annibynnol (yn hytrach nag ochr yn ochr â chanllawiau 2017, sydd bellach wedi’u tynnu’n ôl).

(1.2) Bwriad y canllawiau hyn yw cynorthwyo ag awdurdodau trwyddedu lleol (“LLAs”) i weithredu darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 â’r bwriad o gynorthwyo â theithwyr anabl wrth ddefnyddio gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat (“PHV”). Mae’n rhoi cyngor ar sut caiff cerbydau eu

dynodi fel rhai sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, cyfathrebu â gyrwyr a gweithredwyr ynglŷn â’u cyfrifoldebau, ymdrin â cheisiadau gan yrwyr am eithriadau o’r gofynion cymorth symudedd, a gorfodi’r dyletswyddau.

(1.3) Yn y canllawiau hyn mae ‘gyrrwr’ yn cyfeirio at yrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat. Lle mae cyfeiriad sy’n berthnasol i un o’r ddau yn unig, yna rydym wedi nodi naill ai ‘gyrrwr tacsi’ neu ‘gyrrwr cerbydau hurio preifat’.

(1.4) Mae canllawiau statudol ac anstatudol yn y canllawiau hyn.

(1.4.1) Mae paragraff 3.1 i 6.1 yn ganllawiau statudol a gyhoeddir o dan adran 167(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r paragraffau hyn yn cynnwys canllawiau ffurfiol yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i Awdurdodau Trwyddedu Lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gymhwyso adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rhaid i Awdurdodau Trwyddedu Lleol ystyried y paragraffau hyn wrth ymgymryd â gweithgarwch trwyddedu perthnasol.

(1.4.2) Mae paragraff 7.1 – 17.4 yn ganllawiau anstatudol sy’n ymwneud ag adrannau 164A, 165, 165A, 166, a 167A o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bwriedir i’r paragraffau hyn ddarparu canllawiau ar y dyletswyddau a’r troseddau i yrwyr a gweithredwyr, ac, yn achos 166, ar gyfer yr awdurdod trwyddedu lleol ei hun. Rydym yn annog pob Awdurdod Trwyddedu Lleol i ystyried yn gryf y paragraffau hyn, fel y gallant sicrhau bod gyrwyr a gweithredwyr yn eu hardal yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt o dan adran tacsis a Cherbydau Hurio Preifat Deddf Cydraddoldeb 2010.

(1.5) Trafodir yr adrannau canlynol o Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

(1.5.1) Mae Adran 164A [Paragraff 12.1 – 12.11]: yn rhoi dyletswydd ar unrhyw yrrwr i gario unrhyw berson anabl ac i ymatal rhag codi tâl ychwanegol arnynt am wneud hynny. Mae’r adran hon hefyd yn rhoi dyletswydd ar unrhyw yrrwr dacsi neu yrrwr cerbyd hurio preifat nad yw wedi’i eithrio i roi cymorth rhesymol i unrhyw deithiwr anabl.

(1.5.2) Mae Adran 165 [Paragraff 12.1 – 12.11]: yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr tacsi neu gerbyd hurio preifat dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn gario defnyddiwr cadair olwyn heb godi tâl ychwanegol, ac i unrhyw yrrwr nad yw wedi’i eithrio i roi cymorth rhesymol i unrhyw ddefnyddiwr cadair olwyn.

(1.5.3) Mae Adran 165A [Paragraff 13.1 – 13.5]: yn darparu dyletswydd ar unrhyw yrrwr tacsi neu gerbyd hurio preifat sydd wedi’i archebu ymlaen llaw i gynorthwyo ag unrhyw berson anabl i adnabod a dod o hyd i’r cerbyd ac i

ymatal rhag codi tâl ychwanegol arnynt am wneud hynny, ar yr amod bod y gyrrwr yn cael gwybod bod angen cymorth o’r fath ar y teithiwr.

(1.5.4) Mae Adran 166 [Paragraff 7.1 – 8.3]: yn gosod dyletswydd ar Awdurdod Trwyddedu Lleol i roi tystysgrif eithrio i yrrwr, os yw’n briodol, fel eu bod wedi’u heithrio o’r dyletswyddau cymorth symudedd yn adran 164A a 165.

(1.5.5) Mae Adran 167 [Paragraff 3.1 – 6.1]: yn gosod dyletswydd ar Awdurdod Trwyddedu Lleol i gynnal a chyhoeddi rhestr o dacsis a cherbydau hurio preifat dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

(1.5.6) Mae Adran 167A [Paragraff 15.1 – 15.3.2]: yn gosod troseddau ar weithredwyr cerbydau hurio preifat sy’n gwrthod neu’n methu â darparu archeb ar gyfer person anabl naill ai am fod y person yn anabl, neu i atal gyrrwr rhag cael ei wneud yn ddarostyngedig i ddyletswydd a fyddai fel arall yn cael ei osod ar y gyrrwr gan adran 164A, 165 neu 165A.

(1.5.7) Mae Adran 168 [Paragraff 14.1 – 14.2]: yn gosod dyletswyddau ar yrwyr tacsi i gario cŵn cymorth heb dâl ychwanegol.

(1.5.8) Mae Adran 170 [Paragraff 14.1 – 14.2 a 16.1 – 16.2]: yn gosod troseddau ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr cerbydau hurio preifat sy’n methu neu’n gwrthod archeb, neu’n codi tâl ychwanegol am archeb, gan berson anabl oherwydd bydd ganddynt gi cymorth yn dod gyda nhw.

(1.6) Dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol hefyd ymgyfarwyddo â’r canllawiau gorfodi sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a’r troseddau o dan yr adrannau a restrir uchod [gweler paragraff 17.1 – 17.4].

(1.7) Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Awdurdodau Trwyddedu Lleol p’un a oeddent yn cadw rhestr o gerbydau dynodedig o dan adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o’r blaen neu beidio. Mae Deddf 2022 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Trwyddedu Lleol i gynnal a chyhoeddi rhestrau o’r fath. Rhaid i’r rhai nad ydynt wedi gwneud hynny o’r blaen wneud hynny nawr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion newydd. (1.8) Mae Atodiad A yn darparu:

(1.8.1) Cyfres o restrau i ddangos pa ddyletswyddau a throseddau sy’n berthnasol i yrrwr tacsi neu gerbyd hurio preifat, yn dibynnu ar eu cerbyd a’r teithiwr; a

(1.8.2) Rhestr sy’n dangos y troseddau sy’n gymwys i weithredwyr cerbydau hurio preifat.

2. Gweithredu

(2.1) Rydym am sicrhau bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cael effaith gadarnhaol ar bob person anabl, gan sicrhau eu bod yn cael gwell gwybodaeth am hygyrchedd tacsis a cherbydau hurio preifat dynodedig yn eu hardal, a’u bod yn hyderus o gael y cymorth sydd ei angen arnynt i deithio’n ddiogel.

(2.2) Cyfrifoldeb gyrrwr a gweithredwr yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Er mwyn eu cefnogi i ddeall eu dyletswyddau, dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol wneud gyrwyr a gweithredwyr yn ymwybodol o’r gofynion diwygiedig a dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol i eithrio gyrwyr sydd â chyflyrau corfforol neu feddygol penodol rhag darparu cymorth symudedd, lle mae tystiolaeth ddigonol o’r angen am gael eithriad.

Dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol hefyd sicrhau, lle nad yw’r rhain eisoes yn bodoli, eu bod wedi datblygu gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chyhoeddi rhestr o dacsis a cherbydau hurio preifat dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, gan gynnwys hysbysu perchnogion cerbydau os yw eu cerbyd wedi’i gynnwys ar y rhestr.

(2.3) Felly, rydym yn annog Awdurdodau Trwyddedu Lleol i roi gweithdrefnau synhwyrol ac ymarferol ar waith i sicrhau bod y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 diwygiedig yn cael ei gweithredu’n syml ac yn effeithiol. Yn benodol, dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol:

  • sefydlu’r gofynion data a’r dull o’u creu ac yna cyhoeddi a chynnal eu rhestr o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn
  • hysbysu pob gyrrwr am eu ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gydag enghreifftiau o beth fydd hyn yn ei olygu’n ymarferol
  • rhoi digon o wybodaeth i yrwyr am y gofynion newydd i ganiatáu i’r rhai sy’n gymwys wneud cais am eithriad o’r gofynion hygyrchedd

(2.4) Gweler isod dwy enghraifft o’r math o brosesau y gall Awdurdod Trwyddedu Lleol eu dilyn mewn perthynas â rhestrau o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac unrhyw geisiadau am eithrio gyrwyr. Mae’r enghreifftiau hyn yn ddangosol, a mater i bob Awdurdod Trwyddedu Lleol fydd

penderfynu ar y camau y mae angen iddynt eu cymryd i sicrhau bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei gweithredu’n effeithiol yn eu hardal.

Rhestrau o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn:

  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn adolygu’r canllawiau hyn ac yn ystyried a yw ei bolisïau neu ei ddulliau presennol yn ei alluogi i gydymffurfio â’r gofynion
  • Casglu data perthnasol o gronfeydd data, megis ceisiadau trwyddedu cerbydau, i’w alluogi i greu rhestr o gerbydau dynodedig
  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn hysbysu pob perchennog pa rai, os unrhyw rai, o’u cerbyd(au) sy’n cael eu rhoi ar y rhestr ddynodedig ac yn gofyn iddynt gadarnhau a ydynt o’r farn y dylid cynnwys unrhyw un o’u cerbydau eraill ar y rhestr hefyd
  • Mae Awdudodau Trwyddedu Lleol yn gwirio data perthnasol y gellir eu defnyddio i greu a diweddaru rhestr gyhoeddus o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, gan ddefnyddio canllawiau fformatio hawdd eu deall
  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn cyhoeddi rhestr o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar-lein ac yn rhoi proses ar waith i ymateb i geisiadau i ddarparu’r rhestr mewn fformat amgen

Eithriadau i yrwyr:

  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn adolygu’r canllawiau hyn ac yn ystyried a yw ei bolisïau neu ei ddulliau presennol yn ei alluogi i gydymffurfio â’r gofynion i roi tystysgrifau eithrio i yrwyr cymwys mewn perthynas â’r dyletswyddau cymorth symudedd
  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn sefydlu ac yn cyfathrebu i yrwyr ei bolisi ar gyfer eithrio gyrwyr o’r dyletswyddau cymorth symudedd ar sail feddygol neu gyflwr corfforol
  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn hysbysu pob gyrrwr o’i ddyletswyddau newydd – gan gynnwys hysbysu gyrwyr sydd ag eithriad presennol bod eu heithriad bellach ond yn cynnwys y dyletswyddau cymorth symudedd yn adran 164A a 165
  • Mae gyrwyr yn gwneud cais am eithriadau, lle bo angen
  • Mae Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn adolygu ceisiadau, ac naill ai’n cyhoeddi tystysgrif eithrio a hysbysiad neu’n hysbysu’r ymgeisydd bod ei gais wedi’i wrthod (a pham) ac y bydd yr holl ddyletswyddau’n berthnasol i’r ymgeisydd hwnnw

Adran 167: Rhestr o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn – canllawiau statudol ar gyfer Awdurdodau Trwyddedu Lleol

3. Trosolwg

(3.1) Mae Adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu Lleol gynnal a chyhoeddi rhestr o dacsis a cherbydau hurio preifat dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae’r dyletswyddau ar yrwyr yn adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gymwys i yrwyr cerbydau sydd wedi’u cynnwys ar restr o’r fath [gweler paragraff 12.1 – 12.11 am ganllawiau ar ddyletswyddau adran 165 ac Atodiad A am ddadansoddiad o’r dyletswyddau sy’n gymwys i bob adran yn seiliedig ar y gyrrwr a’i gerbyd].

4. Cerbydau sy’n gallu cael eu dynodi

(4.1) Rydym am sicrhau bod teithwyr mewn cadeiriau olwyn yn cael gwell gwybodaeth am hygyrchedd y tacsis a’r cerbydau hurio preifat yn eu hardal, a’u bod yn hyderus o gael y cymorth sydd ei angen arnynt i deithio’n ddiogel, a bod y pris yr un peth ag y mae ar gyfer defnyddiwr nad yw mewn cadair olwyn am yr un daith.

(4.2) Rhaid ychwanegu cerbyd at restr Awdurdodau Trwyddedu Lleol o gerbydau dynodedig os yw’n “cydymffurfio â gofynion hygyrchedd o’r fath a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod trwyddedu”. Dylai cerbydau sy’n cael eu cynnwys ar y rhestr allu cario defnyddwyr cadeiriau olwyn naill ai yn eu cadair olwyn neu mewn sedd deithiwr (yn dibynnu ar ba un sydd well gan y defnyddiwr cadair olwyn), gan gynnwys caniatáu i deithwyr:

  • mynd i mewn ac allan o’r cerbyd yn ddiogel
  • teithio yn y cerbyd yn ddiogel ac yn gyfforddus

(4.3) Mae hyn yn golygu, er mwyn bod ar restr Awdurdodau Trwyddedu Lleol, fod yn rhaid i gerbyd allu cario rhai mathau – ond nid pob un o reidrwydd – o gadeiriau olwyn. Mae’r llywodraeth yn argymell y dylid ond cynnwys cerbyd ar restr Awdurdodau Trwyddedu Lleol os byddai’n bosibl i ddefnyddiwr “cadair olwyn gyfeirio” fynd i mewn, gadael a theithio yn y rhaniad teithwyr yn ddiogel a chyfforddus tra’n eistedd yn eu cadair olwyn.

Diffinnir y “gadair olwyn gyfeirio” fel cadair sy’n 700mm o led, 1200mm o hyd, a 1350mm o uchder. Gweler diagram o’r “gadair olwyn gyfeirio” ar dudalen 97 o adroddiad ymchwil Safon Cadeiriau Olwyn Cyfeirio a Dylunio Trafnidiaeth 2022 yr Adran Drafnidiaeth.

(4.4) Drwy fabwysiadu’r dull hwn, bydd Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn caniatáu i’r dyletswyddau yn adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fod yn berthnasol i fwy o yrwyr na phe bai Awdurdodau Trwyddedu Lleol ond yn cynnwys cerbydau sy’n gallu cario mathau mwy o gadeiriau olwyn ar eu rhestrau.

(4.5) Mae’r llywodraeth yn cydnabod y bydd y dull hwn yn golygu y bydd rhai mathau o gadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd, megis cadeiriau olwyn wedi’u pweru a sgwteri symudedd, yn methu â chael mynediad i rai o’r cerbydau sydd wedi’u cynnwys ar restr Awdurdodau Trwyddedu Lleol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod y posibilrwydd hwn, ac mae eithriadau gyrwyr wedi’u cynnwys yn adran 165 os na fyddai wedi bod yn bosibl i’r cymhorthion cadair olwyn neu symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd, neu na fyddai wedi bod yn rhesymol fel arall o dan yr holl amgylchiadau i’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd.

(4.6) Rhaid i unrhyw dacsi neu gerbyd hurio priefat sy’n cydymffurfio â gofynion hygyrchedd yr Awdurdod Trwyddedu Lleol gael eu cyhoeddi ar restr yr Awdurdod Trwyddedu Lleol o dan adran 167 (oni bai bod ei gynnwys wedi’i apelio’n llwyddiannus o dan adran 172).

(4.4) Drwy fabwysiadu’r dull hwn, bydd Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn caniatáu i’r dyletswyddau yn adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fod yn berthnasol i fwy o yrwyr na phe bai Awdurdodau Trwyddedu Lleol ond yn cynnwys cerbydau sy’n gallu cario mathau mwy o gadeiriau olwyn ar eu rhestrau.

(4.5) Mae’r llywodraeth yn cydnabod y bydd y dull hwn yn golygu y bydd rhai mathau o gadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd, megis cadeiriau olwyn wedi’u pweru a sgwteri symudedd, yn methu â chael mynediad i rai o’r cerbydau sydd wedi’u cynnwys ar restr Awdurdodau Trwyddedu Lleol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod y posibilrwydd hwn, ac mae eithriadau gyrwyr wedi’u cynnwys yn adran 165 os na fyddai wedi bod yn bosibl i’r cymhorthion cadair olwyn neu symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd, neu na fyddai wedi bod yn rhesymol fel arall o dan yr holl amgylchiadau i’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd.

(4.6) Rhaid i unrhyw dacsi neu gerbyd hurio priefat sy’n cydymffurfio â gofynion hygyrchedd yr Awdurdod Trwyddedu Lleol gael eu cyhoeddi ar restr yr Awdurdod Trwyddedu Lleol o dan adran 167 (oni bai bod ei gynnwys wedi’i apelio’n llwyddiannus o dan adran 172).

5. Paratoi a chyhoeddi rhestrau o gerbydau dynodedig

(5.1) Mae Adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu Lleol gynnal a chyhoeddi rhestr o dacsis a cherbydau hurio preifat dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

(5.2) Rydym yn argymell y dylai’r rhestr hon gael ei nodi’n glir fel “dynodedig yn unol ag Adran 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.”

(5.3) Dylai rhestrau ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • gwneuthuriad a model y cerbyd
  • rhif trwydded y cerbyd
  • a yw’r cerbyd yn dacsi neu’n gerbyd hurio preifat
  • lle mae’n hawdd i’r Awdurdodau Trwyddedu Lleol ei gasglu a bod y gweithredwr wedi rhoi caniatâd, enw gweithredwr(wyr) y cerbyd, ei rif ffôn cyswllt, a’i gyfeiriad e-bost a/neu wefan
  • gwybodaeth am faint a phwysau cadeiriau olwyn sy’n gallu cael eu cario, gan gynnwys a yw’r cerbyd yn gallu cario cadeiriau olwyn sy’n fwy na’r safon “cadair olwyn gyfeirio”

(5.4) Rydym hefyd yn argymell bod gwybodaeth yn cael ei darparu ynghylch a yw’r cerbyd yn gallu cario mwy nag un cadair olwyn pan fydd teithwyr yn eistedd yn eu cadeiriau olwyn, ac os felly, faint gall ei gario.

(5.5) Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol nid yn unig i gadw rhestrau, ond i’w cyhoeddi hefyd. Ym mhob achos, dylai rhestrau fod ar gael ar-lein, ac, oni bai ei bod yn afresymol o ddrud neu’n anodd gwneud hynny, mewn fformat copi caled ar gais. Os ystyrir bod darparu rhestr ar ffurf copi caled yn afresymol o ddrud neu’n anodd, rhaid i Awdurdodau Trwyddedu Lleol barhau i fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau ehangach o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch amgen. Rydym yn argymell y dylid cyfathrebu â’r sawl sy’n gwneud cais i ddeall eu hanghenion penodol ac i nodi sut y gellid teilwra gwybodaeth lle bo hynny’n berthnasol.

(5.6) Ym mhob achos, p’un a yw gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar-lein neu ar ffurf copi caled, rydym yn argymell bod Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn defnyddio canllawiau’r llywodraeth ar gyhoeddi dogfennau hygyrch. Pan fydd y canllawiau yn cael eu darparu ar-lein, dylai fod yn syml i ddarpar deithwyr ddod o hyd iddo.

(5.7) Os bydd yr Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn cynhyrchu fersiynau copi caled o’r rhestrau, rydym yn argymell eu bod yn sefydlu proses i’w darparu ar gais. Dylid cyfleu’r gallu i ofyn am gopi caled a fersiynau hygyrch eraill o restrau yn glir ar wefannau Awdurdodau Trwyddedu Lleol, gan gynnwys ar dudalennau sy’n ymwneud â’r fersiwn ar-lein, a dylid darparu fersiynau copi caled heb unrhyw oedi afresymol.

(5.8) Cyn cyhoeddi, dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol sicrhau bod perchnogion cerbydau yn cael gwybod bod eu cerbyd(au) yn cael eu cynnwys yn y rhestr. Er mwyn osgoi dyblygu ceisiadau am wybodaeth i berchnogion

cerbydau, dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol gasglu’r data sydd eu hangen i gynnal a chyhoeddi rhestrau o dan adran 167 drwy ffurflenni cais trwyddedu.

(5.9) Rydym yn argymell bod y rhestr yn cael ei diweddaru yn rheolaidd wrth i gerbydau newydd gael eu trwyddedu, gyda rhestrau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi o leiaf bob tri mis. Bydd hyn yn sicrhau y gall teithwyr gael gafael ar wybodaeth berthnasol a chyfredol er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus am deithiau, gan roi modd i adnoddau Awdurdodau Trwyddedu Lleol gael eu rheoli’n briodol.

6. Apeliadau

(6.1) Mae adran 172 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi y gall apêl yn erbyn penderfyniad Awdurdod Trwyddedu Lleol gynnwys cerbyd ar y rhestr ddynodedig. Dylid gwneud yr apêl honno, ar gyfer achosion yng Nghymru a Lloegr, i’r Llys Ynadon neu, ar gyfer achosion yn yr Alban, y siryf, a rhaid ei gwneud o fewn 28 diwrnod i gynnwys y cerbyd(au) dan sylw ar restr yr Awdurdod Trwyddedu Lleol.

Adran 166: Eithriadau i yrwyr – canllawiau anstatudol

7. Trosolwg

(7.1) Efallai fod gan rai gyrwyr gyflwr corfforol neu resymau meddygol sy’n ei gwneud yn amhosibl neu’n afresymol o anodd iddynt ddarparu’r math o gymorth corfforol y mae’r dyletswyddau cymorth symudedd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn gofyn amdano.

(7.2) Mae adran 166 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu Lleol ganiatáu eithriadau i yrwyr cymwys yn benodol o’r dyletswyddau “cymorth symudedd” yn 164A(5)(e) a 165(4)(e). Mae hyn yn golygu nad yw gyrwyr sydd â thystysgrifau eithrio o’r fath wedi’u heithrio o unrhyw un o’r dyletswyddau eraill yn adran 164A, 165, neu 165A. Mae hyn yn berthnasol i bob tystysgrif eithrio o’r fath p’un a ydynt newydd eu rhoi neu wedi’u rhoi o’r blaen. Rydym yn argymell bod Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn rhoi gwybod i bob gyrrwr am y newid hwn.

(7.3) Gellir cyflwyno eithriad am gyfnod mor fyr neu hir ag sy’n cael ei ystyried yn briodol gan yr Awdurdod Trwyddedu Lleol, gan gofio natur y cyflwr corfforol neu feddygol perthnasol.

(7.4) Yn wahanol i’r eithriadau yn adran 166 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gall Awdurdodau Trwyddedu Lleol hefyd roi eithriadau i yrwyr o dan adran 169 (ar gyfer gyrwyr tacsis) a 171 (ar gyfer gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat) sy’n ymwneud â’r dyletswyddau i gario cŵn cymorth (adran 168 a 170). Nid yw gyrrwr sydd ag eithriad adran 166 wedi’i eithrio o’r dyletswyddau yn adran 168 neu 170 mewn perthynas â chario cŵn cymorth. Yn yr un modd, nid yw gyrrwr sydd ag eithriad 169 neu 171 wedi’i eithrio o’r dyletswyddau cymorth symudedd yn adran 164 neu 165.

8. Asesu eithriadau

(8.1) Rydym yn argymell y dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol sicrhau bod ffurflenni cais ar gael i yrwyr wneud cais am eithriad, gan nodi’r dystiolaeth ategol y mae’n ofynnol i ymgeiswyr ei chyflwyno.

Dylai’r dystiolaeth hon o leiaf fod ar ffurf llythyr neu adroddiad gan feddyg teulu. Fodd bynnag, mae penderfyniadau ar eithriadau yn debygol o fod yn decach ac yn fwy gwrthrychol os cynhelir asesiadau meddygol gan weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n benodol ac sy’n annibynnol ar yr ymgeisydd.

Felly, rydym yn argymell y dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol ddefnyddio aseswyr meddygol annibynnol sydd â chymwysterau proffesiynol priodol ac nad ydynt yn agored i ragfarn oherwydd cysylltiad personol neu fasnachol â’r ymgeisydd. Efallai y bydd gan Awdurdodau Trwyddedu Lleol drefniadau eisoes gydag aseswyr o’r fath, er enghraifft gyda Chynllun y Bathodyn Glas.

(8.2) Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylai’r Awdurdod Trwyddedu Lleol gyflwyno tystysgrif eithrio a darparu hysbysiad eithrio i’r gyrrwr ei arddangos yn ei gerbyd. Os nad yw’r hysbysiad eithrio yn cael ei arddangos, gellid erlyn y gyrrwr os nad yw’n cydymffurfio â’r dyletswyddau cymorth symudedd perthnasol.

(8.3) Os bydd y cais yn aflwyddiannus, rydym yn argymell y dylai’r ymgeisydd gael ei hysbysu’n ysgrifenedig o fewn amserlen resymol, gydag esboniad clir o’r rhesymau dros y penderfyniad a’r hawliau apelio cysylltiedig.

9. Hysbysiadau eithrio

(9.1) Pan fo gyrrwr cerbyd dynodedig wedi’i eithrio o’r dyletswyddau cymorth symudedd o dan adran 165 a 164A, cyfrifoldeb yr Awdurdod Trwyddedu Lleol yw darparu hysbysiad eithrio i’r gyrrwr sy’n cydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat) (Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn – Hysbysiadau Eithrio) 2017. Rydym yn bwriadu diwygio’r Rheoliadau hyn maes o law i ddarparu bod yr hysbysiad eithrio yn nodi’n glir bod yr eithriad ond yn gymwys i’r dyletswyddau cymorth symudedd yn adran 165 a 164A ac nid i unrhyw ran arall o adran 165 neu 164A. Yn y cyfamser, mae eithriad yn parhau i fod yn ddilys os yw’r hysbysiad yn cydymffurfio â’r Rheoliadau fel y maent.

(9.2) Dylid ond arddangos un hysbysiad eithrio mewn cerbyd ar unrhyw adeg. Os defnyddir cerbyd gan nifer o yrwyr, dylai’r gyrrwr sydd â’r eithriad dynnu’r hysbysiad eithrio o’r ffenestr flaen ac o olwg unrhyw deithwyr posibl pan nad ydynt yn gyrru’r cerbyd.

10. Apeliadau

(10.1) Mae adran 172 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi y gall gyrwyr apelio yn erbyn penderfyniad Awdurdod Trwyddedu Lleol i beidio â rhoi tystysgrif eithrio. Dylid gwneud yr apêl honno i’r Llys Ynadon yng Nghymru neu Loegr, neu siryf yn yr Alban, a rhaid ei gwneud o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad y gwrthodwyd y penerfyniad yn ysgrifenedig.

Dyletswyddau ar yrwyr – canllawiau anstatudol

11. Trosolwg o’r dyletswyddau ar yrwyr

(11.1) Mae adrannau 164A, 165, 165A, 168, a 170 yn gosod dyletswyddau ar yrwyr i sicrhau bod gan bobl anabl hawliau ac amddiffyniadau penodol i gael mynediad i dacsis a cherbydau hurio preifat, i gael cymorth wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, ac i beidio â chodi tâl ychwanegol am wneud hynny.

(11.2) Rydym yn annog Awdurdodau Trwyddedu Lleol yn gryf i roi hyfforddiant i yrwyr a gweithredwyr ar eu dyletswyddau, er enghraifft fel rhan o’r hyfforddiant presennol ar gyfer gyrwyr. Dylai’r neges fod yn glir nad yw’n

berthnasol pa fath o anabledd neu nam sydd gan deithiwr, beth sy’n bwysig yw pa ofynion sydd ganddynt oherwydd eu hanabledd neu nam.

(11.3) Rydym yn argymell y dylai gyrrwr neu’r gweithredwr ofyn i bob teithiwr a oes angen cymorth arnynt. Ar gyfer cerbydau wedi’u llogi, dylai hyn ddigwydd pan fydd yr archeb yn cael ei wneud. Ar gyfer tacsis, dylai hyn ddigwydd pan fydd y cerbyd yn cael ei alw yn y safle tacsis neu ar y stryd.

Lle bo hynny’n berthnasol, dylai darparwyr gwasanaethau hefyd ddiweddaru gwefannau archebu a chymwysiadau ffonau clyfar i gasglu’r wybodaeth hon gan deithwyr, gan ganiatáu, er enghraifft, i berson â dementia ofyn am gymorth i ddod o hyd i’r cerbyd neu ddefnyddiwr cadair olwyn i ddatgan ei fod am aros yn ei gadair olwyn wrth deithio. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i’r gyrrwr neu’r gweithredwr gynghori’r teithiwr ar sut y bydd yn darparu cymorth, er enghraifft i egluro sut y bydd ramp y cerbyd yn cael ei ddefnyddio neu i sefydlu lle priodol i ddefnyddiwr cadair olwyn fynd i mewn i’r cerbyd.

12. Adran 164A a 165: dyletswyddau i gario a chynorthwyo unrhyw berson anabl

(12.1) Mae adran 164A a 165 yn gosod dyletswyddau ar yrwyr i gario a chynorthwyo teithwyr anabl heb wneud, neu gynnig gwneud, tâl ychwanegol am wneud hynny [gweler Atodiad A am restr o’r dyletswyddau]. Mae gan yrwyr sy’n ddarostyngedig i adran 165 ddyletswydd ychwanegol i gario’r teithiwr pan fydd yn eistedd yn ei gadair olwyn

(12.2) Mae dyletswyddau adran 164A yn gymwys i:

  • gyrwyr unrhyw dacsi neu gerbyd hurio preifat nad yw wedi’i gynnwys ar restr Awdurdod Trwyddedu Lleol o gerbydau dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, lle mae’r teithiwr yn anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn (gan dybio y bydd y defnyddiwr cadair olwyn yn symud i sedd deithiwr i deithio)
  • gyrwyr unrhyw gerbyd sydd wedi’i gynnwys ar restr ddynodedig, lle mae’r teithiwr yn anabl ac nad yw’n ddefnyddiwr cadair olwyn

(12.3) Mae dyletswyddau adran 165 yn gymwys i:

  • gyrwyr unrhyw gerbyd sydd wedi’i gynnwys ar restr ddynodedig, lle mae’r teithiwr mewn cadair olwyn
  • gerbyd wedi’i logi gan neu ar ran person anabl sydd mewn cadair olwyn neu gan berson arall sy’n dymuno cael ei hebrwng gan berson anabl sydd mewn cadair olwyn

(12.4) Mae cymhwyso adran 164A neu 165 yn seiliedig ar p’un a yw’r cerbyd wedi’i ddynodi’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac a yw amgylchiadau’r teithiwr anabl fel a ganlyn:

  • os nad yw’r cerbyd wedi’i ddynodi a bod y teithiwr yn ddefnyddiwr cadair olwyn, yna mae adran 164A yn gymwys
  • os nad yw’r cerbyd wedi’i ddynodi a nad yw’r teithiwr yn ddefnyddiwr cadair olwyn, yna mae adran 164A yn gymwys
  • os yw’r cerbyd wedi’i ddynodi a nad yw’r teithiwr yn ddefnyddiwr cadair olwyn, yna mae adran 164A yn gymwys
  • os yw’r cerbyd wedi’i ddynodi a bod y teithiwr yn ddefnyddiwr cadair olwyn, yna mae adran 164A yn gymwys

(12.5) Pan fydd gyrrwr wedi’i eithrio, ni fydd yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r dyletswyddau yn adran 164A a 165 i ddarparu cymorth symudedd. Ni waeth beth fo dyluniad a chynnwys eu tystysgrif eithrio a’u hysbysiad, ni fydd gyrwyr sydd wedi’u heithrio yn cael eu heithrio o unrhyw ddyletswydd berthnasol arall – gan gynnwys, er enghraifft, ymatal rhag codi tâl ychwanegol ar deithwyr anabl.

(12.6) Er y bydd pob sefyllfa’n wahanol, a bydd cymorth symudedd rhesymol yn ddarostyngedig i gyfraith berthnasol arall – gan gynnwys deddfwriaeth iechyd a diogelwch – byddem yn disgwyl i yrwyr ddarparu cymorth sylfaenol a allai gynnwys, ond nad yw’n gyfyngedig i:

  • agor drws y teithiwr
  • plygu cadeiriau olwyn â llaw a’u rhoi yn y lle bagiau
  • gosod ramp i fynd mewn ac allan o’r cerbyd
  • sicrhau bod cymorth symudedd lle mae’r teithiwr yn eistedd

(12.7) Yn dibynnu ar bwysau’r gadair olwyn neu’r cymorth symudedd a gallu’r gyrrwr, gallai cymorth symudedd rhesymol hefyd gynnwys (ond nad yw’n gyfyngedig i) wthio cadair olwyn â llaw neu gadair olwyn drydan ysgafn i fyny ramp, neu storio cadair olwyn drydan ysgafn yn y lle bagiau.

(12.8) Fodd bynnag, dylai gyrrwr ond gyffwrdd â chadair olwyn neu gymorth symudedd neu geisio darparu cymorth corfforol os yw’r defnyddiwr yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny.

(12.9) Rydym yn disgwyl i yrwyr gyfathrebu â theithwyr wrth ddarparu cymorth, gan y bydd hyn yn allweddol i ddeall anghenion person anabl. Rydym yn argymell y dylai gyrwyr:

  • gofyn i deithwyr pa help sydd ei angen arnynt
  • gwrando ar yr ymateb a cheisio ei ddeall, ac yna
  • gweithredu ar yr hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud, gan ofyn am eglurhad, os oes angen, ar sut i ddarparu beth sydd ei angen arnynt

(12.10) Er y gall mynediad i’r cerbyd ddibynnu ar y gadair olwyn neu’r cymorth symudedd ei hun, ni ddylai gyrwyr gario unrhyw eitemau o’r fath yng nghist y cerbyd a allai atal cadair olwyn neu gymorth symudedd rhag cael ei storio yno, neu (yn achos cerbydau dynodedig) cario unrhyw eitemau di-angen yn yr ardal eistedd i deithwyr a allai atal defnyddiwr cadair olwyn rhag teithio pan fydd yn eistedd yn ei gadair olwyn.

Yn ogystal, dylai gyrwyr cerbydau dynodedig osgoi cario eitemau o’r fath a fyddai’n atal cadair olwyn neu gymorth symudedd rhag cael ei gario yn ardal eistedd teithwyr y cerbyd.

(12.11) Mae’r gofyniad i beidio â chodi tâl ychwanegol ar berson anabl yn golygu na ddylai mesurydd gael ei gychwyn cyn, na’i adael ymlaen, pan fydd y gyrrwr yn cyflawni dyletswyddau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

13. Adran 165A: dyletswyddau ar yrwyr i gynorthwyo teithiwr i adnabod a dod o hyd i’r cerbyd

(13.1) Mae adran 165A yn gosod dyletswyddau ar yrwyr i gynorthwyo unrhyw deithiwr anabl i ddod o hyd i’w tacsi neu gerbyd hurio preifat sydd wedi’i archebu ymlaen llaw neu ddod o hyd iddo heb godi, neu fwriadu codi, tâl ychwanegol am wneud hynny.

(13.2) Mae dyletswyddau adran 165A yn gymwys i unrhyw yrrwr tacsi sydd wedi’i archebu ymlaen llaw ac unrhyw yrrwr cerbyd hurio preifat, p’un a yw eu cerbyd wedi’i ddynodi’n hygyrch i gadeiriau olwyn ai peidio, ar yr amod:

  • bod y cerbyd wedi’i logi gan neu ar ran person anabl, neu gan berson arall sy’n bwriadu mynd gyda’r person anabl
  • bod gyrrwr y cerbyd hurio preifat neu’r tacsi wedi’i archebu ymlaen llaw wedi cael gwybod cyn dechrau’r daith bod angen cymorth ar y teithiwr i adnabod a/neu ddod o hyd i’r cerbyd hwnnw

(13.3) Dylai awdurdodau annog gyrwyr a/neu weithredwyr i ofyn i bob teithiwr pan fyddant yn archebu (i) a oes angen cymorth arnynt ac, os felly, yna (ii) pa fath o gymorth sydd angen arnynt.

Ni ddylai gyrwyr a gweithredwyr geisio adnabod nam neu anabledd person, dylent ond ceisio adnabod pa fath o gymorth sydd angen iddynt ei ddarparu er mwyn i’r teithiwr fynd i mewn ac allan o’r cerbyd, teithio yn y cerbyd, a gadael y cerbyd yn ddiogel ac yn gyfforddus.

(13.4) Er mwyn helpu i gyflawni’r dyletswyddau yn adran 165A, dylai gyrwyr ymgyfarwyddo â’r dulliau cyfathrebu mwyaf cyffredin y gallai fod eu hangen ar berson er mwyn adnabod a/neu ddod o hyd i’r cerbyd. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • rhoi cyfarwyddiadau sain ar gyfer teithiwr â nam ar ei olwg (gan alw’r teithiwr unwaith eu bod yn y man codi)
  • rhoi cyfarwyddiadau gweledol (er enghraifft, lliw a rhif cofrestru’r cerbyd) ar gyfer teithiwr â nam ar ei glyw
  • ailadrodd gwybodaeth allweddol ar gyfer teithiwr sydd â nam meddyliol neu wybyddol

(13.5) Yn ymarferol, mae’r gofyniad i beidio â chodi tâl ychwanegol ar berson anabl yn golygu na ddylai mesurydd gael ei gychwyn cyn, na’i adael ymlaen, pan fydd gyrrwr yn cyflawni dyletswyddau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

14. Adrannau 168 a 170: dyletswyddau ar yrwyr i gario cŵn cymorth

(14.1) Mae adrannau 168 a 170 yn gosod dyletswyddau ar yrwyr tacsis (168) a cherbydau hurio preifat (170) i gario ci cymorth a chaniatáu iddynt aros gyda’u defnyddiwr heb wneud, neu gynnig gwneud, tâl ychwanegol am wneud hynny.

(14.2) Mae’n drosedd i yrrwr gynnig codi tâl ychwanegol, yn ogystal â chodi tâl ychwanegol am gyflawni’r dyletswyddau yn yr adrannau hyn. Er enghraifft,

rhaid i yrrwr beidio ag ychwanegu gordal at y mesurydd ar gyfer cario ci cymorth. Ni ddylid cychwyn y cloc tacsi nes bod y teithiwr a’r ci cymorth wedi setlo’n iawn, ac mae’r cerbyd yn barod i adael. Yn yr un modd, dylid stopio’r cloc tacsi cyn gynted ag y cyrhaeddir y gyrchfan, a chyn i unrhyw ddadlwytho ddigwydd.

Troseddau ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio preifat

15. Adran 167A: troseddau ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio breifat os byddant yn gwrthod neu fethu archeb ar gyfer person anabl

(15.1) Mae adran 167A yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr cerbydau hurio preifat wrthod neu fethu â derbyn archeb gan berson anabl, neu ar ei ran, oherwydd (i) bod y person yn anabl neu (ii) i atal gyrrwr rhag bod yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adran 164A, 165, neu 165A. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr cerbyd hurio preifat wneud, neu gynnig gwneud, tâl ychwanegol am gyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar yrrwr y cerbyd hurio preifat o dan adran 164A, 165 neu 165A.

(15.2) Dylai Awdurdodau Trwyddedu Lleol fonitro cydymffurfedd gweithredwyr â’r dyletswyddau hyn. Gall fod yn anodd asesu a yw gweithredwr wedi cyflawni trosedd os yw’n gwrthod archeb er mwyn osgoi gwneud gyrrwr cerbyd hurio preifat yn ddarostyngedig i ddyletswydd o dan adran 164A, 165, neu 165A; er enghraifft, pan fo gyrrwr yn ffit yn feddygol i gyflawni’r dyletswyddau ond bod y gweithredwr yn gwrthod yr archeb ar y sail y byddai’r dyletswyddau cymorth yn ymestyn yr amser a gymerir i gwblhau’r archeb heb unrhyw enillion ariannol ychwanegol.

Gall Awdurdod Trwyddedu Lleol brofi’r modd y cymhwysir y troseddau hyn fel rhan o ymarfer prynu prawf (ar yr amod bod ganddynt awdurdodiadau ar waith sy’n ofynnol o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016) neu drwy ddefnyddio data eraill i ddeall tueddiadau mewn archebion sy’n cael eu gwrthod gan bobl anabl o gymharu ag archebion pobl nad ydynt yn anabl.

(15.3) Yn ogystal â hysbysu gweithredwyr o’u gofynion cyfreithiol o dan adran 167A, gall Awdurdodau Trwyddedu Lleol hefyd gynnig hyfforddiant i weithredwyr ar:

  • holl ddarpariaethau tacsis a cherbydau hurio preifat yn Neddf Cydraddoldeb 2010
  • cyfathrebu â phobl anabl

16. Adran 170: troseddau ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio breifat os byddant yn gwrthod neu fethu archeb ar gyfer teithiwr gyda chi cymorth

(16.1) Mae adran 170 yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr cerbyd hurio preifat wrthod neu fethu â derbyn archeb gan deithiwr gyda ci cymorth, neu ar ei ran:

  • oherwydd y bydd ci cymorth gyda’r person neu;
  • i atal gyrrwr rhag bod yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adran 170 [gweler paragraff 14.1 – 14.2 am ganllawiau ar ddyletswyddau gyrwyr cerbydau hurio preifat i gario cŵn cymorth]

(16.2) Dylai gweithredwyr archebu teithwyr ar gyfer teithwyr gyda chŵn cymorth fel y byddent ar gyfer unrhyw deithiwr arall, er enghraifft drwy gysylltu â’r gyrrwr agosaf i’r man casglu, waeth beth fo’r dewis y gallai fod gan y gyrrwr i beidio â chario ci.

Gorfodi

17. Mesurau trwyddedu ac erlyn

(17.1) Mae’r llywodraeth yn disgwyl i Awdurdodau Trwyddedu Lleol gymryd camau llym pan fydd gyrwyr neu weithredwyr yn torri eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

(17.2) Mae gan Awdurdodau Trwyddedu Lleol bwerau eang i bennu’r rheolau ar gyfer gweithredu tacsis a cherbydau hurio preifat yn eu priod ardaloedd. Argymhellwn y dylent ddefnyddio’r pwerau hyn i sicrhau bod gyrwyr neu weithredwyr sy’n gwahaniaethu yn erbyn teithwyr anabl yn atebol.

(17.3) Os bydd gyrrwr yn cael euogfarn am dorri ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddai’n briodol i’r Awdurdod Trwyddedu Lleol

benderfynu a oedd y gyrrwr yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr tacsi neu gerbyd hurio preifat ai peidio. Barn y llywodraeth yw na fyddai gyrrwr a fethodd yn fwriadol â chydymffurfio â’i ddyletswyddau yn debygol o barhau i fod yn “person addas a phriodol” i gael trwydded.

(17.4) Gall Awdurdodau Trwyddedu Lleol hefyd gymryd camau priodol – fel atal dros dro, dirymu, neu wrthod adnewyddu trwydded – hyd yn oed pan nad oedd erlyniad yn mynd rhagddo ond lle’r oedd yr Awdurdod Trwyddedu Lleol o’r farn bod y gyrrwr yn trin â’r teithiwr anabl yn afresymol.

Atodiad A: Dyletswyddau ar yrwyr tacsi a gyrwyr a gweithredwyr cerbydau hurio preifat o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Dyletswyddau ar yrwyr tacsis nad ydynt wedi’u dynodi yn hygyrch i gadeiriau olwyn

Adran 164A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau

  • cario’r teithiwr
  • cario eu cadair olwyn (e.e. yng nghist y cerbyd)
  • cario eu cymhorthion symudedd
  • cymryd camau rhesymol i gludo’r teithiwr yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • darparu cymorth symudedd rhesymol
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl am gyflawni’r dyletswyddau uchod

Amddiffyniadau

  • na allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod y teithiwr yn anabl (er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau)
  • ni fyddai wedi bod yn bosibl nac yn rhesymol i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd
  • ni fyddai wedi bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd
  • ni allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod angen cymorth symudedd o’r math yr oedd ei angen ar y teithiwr

Adran 165A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau

Mae’r dyletswyddau hyn ond yn berthnasol os yw’r tacsi wedi’i archebu ymlaen llaw.

  • cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i gynorthwyo’r teithiwr i adnabod a dod o hyd i’r cerbyd sydd wedi’i logi
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gydymffurfio â’r ddyletswydd uchod

Amddiffyniadau

  • nid yw gyrrwr y tacsi sydd wedi’i archebu ymlaen llaw wedi cael gwybod cyn dechrau taith y teithiwr bod angen cymorth ar y teithiwr i adnabod neu ddod o hyd i’r cerbyd hwnnw

Adran 168

Teithiwr anabl

Teithwyr gyda chŵn cymorth.

Dyletswyddau

  • cario ci’r person anabl a chaniatáu iddo aros gyda’r person hwnnw
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny

Amddiffyniadau

Nid oes unrhyw amddiffyniadau ar gyfer yr adran hon.

Dyletswyddau a throseddau ar ar yrwyr cerbydau hurio preifat nad ydynt wedi’u dynodi yn hygyrch i gadeiriau olwyn

Adran 164A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau

  • cario’r teithiwr
  • cario eu cadair olwyn (e.e. yng nghist y cerbyd)
  • cario eu cymhorthion symudedd
  • cymryd camau rhesymol i gario’r teithiwr yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • darparu cymorth symudedd rhesymol
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl am gyflawni’r dyletswyddau uchod

Amddiffyniadau

  • na allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod y teithiwr yn anabl (er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau)
  • ni fyddai wedi bod yn bosibl nac yn rhesymol i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd
  • ni fyddai wedi bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd
  • ni allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod angen cymorth symudedd o’r math ar y teithiwr

Adran 165A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau

  • cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i gynorthwyo’r teithiwr i adnabod a dod o hyd i’r cerbyd sydd wedi’i logi
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gydymffurfio â’r ddyletswydd uchod

Amddiffyniadau

*nid yw gyrrwr y cerbyd hurio preifat wedi cael gwybod cyn dechrau taith y teithiwr yn y cerbyd bod angen cymorth ar y teithiwr i adnabod neu ddod o hyd i’r cerbyd hwnnw

Adran 170

Teithiwr anabl

Teithwyr gyda chŵn cymorth.

Troseddau

Mae gyrrwr yn cyflawni trosedd drwy:

  • methu neu wrthod gwneud archeb a dderbynnir gan y gweithredwr:
    • os bydd yr archeb yn cael ei wneud gan, ar neu ar ran, berson anabl
    • y rheswm dros fethu neu wrthod y teithiwr yw bod ci cymorth gan y person anabl
  • gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gario ci cymorth

Amddiffyniadau

Nid oes unrhyw amddiffyniadau ar gyfer yr adran hon.

Dyletswyddau ar yrwyr tacsis dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn

Adran 164A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, ac eithrio defnyddwyr cadeiriau olwyn

Dyletswyddau

  • cario’r teithiwr
  • cario eu cymhorthion symudedd
  • cymryd camau rhesymol i gario’r teithiwr yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • darparu cymorth symudedd rhesymol
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl am gyflawni’r dyletswyddau uchod

Amddiffyniadau

  • na allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod y teithiwr yn anabl (er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau)
  • ni fyddai wedi bod yn bosibl nac yn rhesymol i’r cymhorthion symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd
  • ni fyddai wedi bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd
  • ni allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod angen cymorth symudedd o’r math ar y teithiwr

Adran 165

Teithiwr anabl

Defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau:

  • cario’r teithiwr pan fydd yn y gadair olwyn
  • os yw’r teithiwr yn dewis eistedd mewn sedd deithiwr, i gario’r gadair olwyn (e.e. yng nghist y cerbyd)
  • cario eu cymhorthion symudedd
  • cymryd y camau angenrheidiol i gario’r teithiwr yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • darparu cymorth symudedd rhesymol
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl am gyflawni’r dyletswyddau uchod

Amddiffyniadau

  • ni fyddai wedi bod yn bosibl i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd
  • ni fyddai wedi bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd

Adran 165A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau

Mae’r dyletswyddau hyn ond yn berthnasol os yw’r tacsi wedi’i archebu ymlaen llaw:

  • cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i gynorthwyo’r teithiwr i nodi a dod o hyd i’r cerbyd sydd wedi’i logi
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gydymffurfio â’r ddyletswydd uchod

Amddiffyniadau

  • nid yw gyrrwr y tacsi sydd wedi’i archebu ymlaen llaw wedi cael gwybod cyn dechrau taith y teithiwr bod angen cymorth ar y teithiwr i adnabod neu ddod o hyd i’r cerbyd hwnnw

Adran 168

Teithiwr anabl

Teithwyr gyda chŵn cymorth.

Dyletswyddau

  • cario ci’r person anabl a chaniatáu iddo aros gyda’r person hwnnw
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny

Amddiffyniadau

Nid oes unrhyw amddiffyniadau ar gyfer yr adran hon.

Dyletswyddau a throseddau ar yrwyr cerbydau hurio preifat dynodedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn

Adran 164A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, ac eithrio defnyddwyr cadeiriau olwyn

Dyletswyddau

  • cario’r teithiwr
  • cario eu cymhorthion symudedd
  • cymryd camau rhesymol i gario’r teithiwr yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • darparu cymorth symudedd rhesymol
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl am gyflawni’r dyletswyddau uchod

Amddiffyniadau

  • na allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod y teithiwr yn anabl (er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau)
  • ni fyddai wedi bod yn bosibl nac yn rhesymol i’r cymhorthion symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd
  • ni fyddai wedi bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd
  • ni allai’r gyrrwr fod wedi gwybod yn rhesymol fod angen cymorth symudedd o’r math ar y teithiwr

Adran 165

Teithiwr anabl

Defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau
  • cario’r teithiwr pan fydd yn y gadair olwyn
  • os yw’r teithiwr yn dewis eistedd mewn sedd deithiwr, i gario’r gadair olwyn (e.e. yng nghist y cerbyd)
  • cario eu cymhorthion symudedd
  • cymryd y camau angenrheidiol i gario’r teithiwr yn ddiogel ac yn gyfforddus
  • darparu cymorth symudedd rhesymol
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl am gyflawni’r dyletswyddau uchod

Amddiffyniadau

  • ni fyddai wedi bod yn bosibl i’r gadair olwyn neu’r cymhorthion symudedd gael eu cario’n ddiogel yn y cerbyd
  • ni fyddai wedi bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r cymhorthion symudedd gael eu cario yn y cerbyd

Adran 165A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dyletswyddau

  • cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i gynorthwyo teithiwr i adnabod a dod o hyd i’r cerbyd sydd wedi’i logi
  • peidio â gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gydymffurfio â’r ddyletswydd uchod

Amddiffyniadau

  • nid yw gyrrwr y cerbyd hurio preifat wedi cael gwybod cyn dechrau taith y teithiwr yn y cerbyd bod angen cymorth ar y teithiwr i adnabod neu ddod o hyd i’r cerbyd hwnnw

Adran 170

Teithiwr anabl

Teithwyr gyda chŵn cymorth.

Troseddau

  • methu neu wrthod derbyn archeb a dderbynnir gan y gweithredwr:
    • os bydd yr archeb yn cael ei gwneud gan, ar neu ar ran, berson anabl
    • y rheswm dros fethu neu wrthod yw bod gan y person anabl gi cymorth
  • gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gario ci cymorth

Amddiffyniadau

Nid oes unrhyw amddiffyniadau ar gyfer yr adran hon.

Troseddau ar weithredwyr Cerbydau Hurio Preifat

Adran 167A

Teithiwr anabl

Unrhyw deithiwr anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Troseddau

  • methu neu wrthod derbyn archeb ar gyfer y cerbyd os:
    • Bydd yr archeb yn cael ei gwneud gan, neu ar ran, berson anabl
    • y rheswm dros fethu neu wrthod yw:
      • bod y person yn anabl neu
      • i atal y gyrrwr rhag cael ei wneud yn ddarostyngedig i ddyletswydd yn adran 164A, 165, neu 165A
  • gwneud, neu gynnig gwneud, unrhyw dâl ychwanegol am gyflawni unrhyw ddyletswydd ar y gyrrwr o dan adran 164A, 165, neu 165A

Amddiffyniadau

  • roedd yn rhesymol i beidio â derbyn yr archeb oherwydd diffyg cerbydau addas

Adran 170

Teithiwr anabl

Teithwyr gyda chŵn cymorth.

Troseddau

  • methu neu wrthod derbyn archeb ar gyfer y cerbyd os:
    • y rheswm dros fethu neu wrthod yw:
      • bod ci cymorth gyda’r person
      • i atal y gyrrwr rhag cael ei wneud yn ddarostyngedig i ddyletswydd yn adran 170
  • codi, neu gynnig codi, tâl ychwanegol am gario ci cymorth

Amddiffyniadau:

Nid oes unrhyw amddiffyniadau ar gyfer yr adran hon.