Canllawiau statudol

Mynediad i dacsis a cherbydau llogi preifat i ddefnyddwyr anabl

Sut y gall awdurdodau trwyddedu sicrhau bod gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat yn cydymffurfio â gofynion ar fynediad i bobl anabl.

Dogfennau

Manylion

Mae’r canllawiau hyn yn helpu awdurdodau trwyddedu i weithredu deddfau sy’n galluogi teithwyr anabl i ddefnyddio tacsis a cherbydau llogi preifat (PHVs).

Mae’n rhoi cyngor ar sut i:

  • dynodi cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn
  • cyfathrebu gofynion newydd i yrwyr a gweithredwyr
  • ymdrin â cheisiadau eithrio gan yrwyr
  • gorfodi’r gofynion

Mae Deddf Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat (Pobl Anabl) 2022, sy’n diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010, yn dechrau ar 28 Mehefin 2022.

Mae’n gosod dyletswyddau ar yrwyr, gweithredwyr, ac awdurdodau trwyddedu lleol fel bod gan unrhyw berson anabl hawliau ac amddiffyniadau penodol i gael eu cario a chael cymorth heb orfod talu mwy.

Cyhoeddwyd ar 20 June 2022