Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd

Tracy Nash

Bywgraffiad

Ymunodd Tracy â DVLA yn 2005 a phenodwyd fel Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd ym mis Awst 2022.

Addysg

Mae Tracy yn Gymrawd Gyfrifydd Siartredig ICAEW gyda gradd BSc ag Anrhydedd mewn Mathemateg Bur o Brifysgol Abertawe.

Gyrfa

Rôl gyntaf Tracy yn y gwasanaeth sifil oedd pan ymunodd â Chyfarwyddiaeth Gyllid DVLA yn 2005. Ym mis Awst 2022, penodwyd Tracy yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd. Trwy gydol ei hamser yn DVLA mae Tracy wedi arwain ystod o dimau o fewn yr adran cyllid gan gefnogi nifer o fentrau arwyddocaol megis cyflwyno debyd uniongyrchol a chyflenwi’r swyddogaeth TG yn fewnol. Cyn ymuno â DVLA, gweithiodd i PricewaterhouseCoopers fel rhan o gangen sicrwydd y busnes, gan arwain ar ystod eang o archwiliadau ar draws nifer o sectorau.

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Sicrwydd

Bu’n gyfrifol am roi arweiniad ar bob mater cyllidol a’r maes caffael ar lefel strategol a gweithrediadol, yn sicrhau bod proses mewn lle ar gyfer llywodraethu gadarn a phriodol ac yn rheoli risg ar draws y sefydliad.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Cyllid Interim