Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol

Sarah Jennings

Bywgraffiad

Ymunodd Sarah â Llywodraeth y DU yng Nghymru ym mis Medi 2020 fel Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol. Cyn hyn, bu’n gweithio i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) fel Dirprwy Gyfarwyddwr dros Strategaeth Gyfathrebu a chyn hynny bu’n arwain ymgysylltu â rhanddeiliaid a busnesau yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae gyrfa Sarah yn ymestyn dros y sector gyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector gan ymgymryd â rolau cyfathrebu mewn llywodraeth leol a rhanbarthol yn ogystal â mewn sefydliadau gwyddoniaeth ac addysgol genedlaethol.

Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol

Mae’r Prif Ysgrifennydd Preifat yn arwain Swyddfa Breifat yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn aelod o Fwrdd Rheoli Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Rôl Bwrdd Rheoli Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw:

  • darparu arweiniad effeithiol ac ar y cyd i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phennu ei chyfeiriad corfforaethol a’i safonau galluogrwydd, yn seiliedig ar nodau, amcanion a blaenoriaethau Gweinidogion Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • goruchwylio’r modd y caiff amcanion a blaenoriaethau’r gweinidogion eu cyflawni, fel y maent wedi’u pennu yn y cynllun busnes, a rheoli’r risgiau allweddol cysylltiedig
  • sicrhau bod asedau ac adnoddau ariannol Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael eu rheoli’n ddoeth ac yn effeithiol
  • cytuno a chynnal system dryloyw a chadarn o ran rheolau mewnol
  • arwain a goruchwylio’r broses o newid ac arbedion effeithlonrwydd
  • arwain y broses o reoli a datblygu gweision sifil Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y cyd

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru