Sarah-Ellen Stacey

Bywgraffiad
Ymunodd Sarah-Ellen â DVLA ym mis Mehefin 2025. Mae hi wedi gweithio mewn nifer o rolau uwch a gweithredol ym meysydd adnoddau dynol a datblygu sefydliadol ar draws y sector cyllid a thai cymdeithasol ac, yn fwy diweddar, i gorff datganoledig o Lywodraeth Cymru.
Addysg
Mae gan Sarah-Ellen MA mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd a BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth, o Brifysgol Cymru (Abertawe), 1995. Hefyd, enillodd Sarah-Ellen gymhwyster CIPD o Brifysgol Westminster ym 1999.
Gyrfa
Mae Sarah-Ellen yn Gymrawd o’r CIPD, ar ôl gweithio dros 25 mlynedd ym maes adnoddau dynol a datblygu sefydliadol, gyda chyfrifoldebau’n ymestyn i ystadau ac iechyd, diogelwch a lles.
Mae ei phrofiad mewn gwasanaethau ariannol yn cwmpasu rolau yn PricewaterhouseCoopers, Lloyds Bank, Cymdeithas Adeiladu Nationwide a Hodge Bank.
Roedd Sarah-Ellen yn Gadeirydd fforwm adnoddau dynol ar gyfer Cartrefi Cymunedol Cymru wrth gyflawni ei rôl fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ar gyfer RCT Homes (Trivallis bellach). Mae hi wedi treulio’r 3 blynedd diwethaf yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru, yn y sector amgylcheddol, gan arwain yr agenda pobl fel Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau
Mae gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau gyfrifoldeb cyffredinol am ddarparu gwasanaethau adnoddau dynol ac rheoli ystadau i DVLA. Mae’r rôl yn aelod allweddol o dîm Gweithredol DVLA a Bwrdd yr Asiantaeth, gyda dealltwriaeth gref o amcanion strategol yr asiantaeth, eu pobl a’u goblygiadau ystad.
Mae’r rôl yn darparu arweinyddiaeth i sicrhau cydweithwyr sy’n perfformio’n dda ac sy’n ymgysylltiedig, diwylliant sefydliadol ffyniannus ac ystad sy’n cefnogi agenda cyflawni a thrawsnewid gweithredol DVLA.