Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu

Lynette Rose

Bywgraffiad

Ymunodd Lynette â DVLA yn 1989. Gweithiodd mewn nifer o rolau ar draws yr asiantaeth cyn dechrau yn y rôl Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu ym Mawrth 2019.

Addysg

Mae gan Lynette BA Anrhydedd mewn Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Cymru (Abertawe).

Gyrfa

Mae Lynette yn was sifil proffesiynol. Mae wedi treulio’r 15 mlynedd diwethaf ar ystod o newidiadau polisi a deddfwriaethol, gan gynnwys mentrau proffil uchel i foderneiddio gwasanaethau megis diddymu y gwrth-ddalen cerdyn-llun a’r ddisg dreth cerbyd. Mae hefyd wedi cefnogi datblygu strategaeth y DVLA. Cyn hyn, gweithiodd mewn nifer o rolau ar draws yr asiantaeth a oedd yn cynnwys rôl allweddol mewn trosglwyddo newid diwylliannol, rheolaeth rhaglen a gwasanaethau corfforaethol.

Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu

Mae gan y Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu gyfrifoldeb am strategaeth busnes a datblygiad polisi y DVLA yn ogystal â chyfathrebu mewnol ac allanol. Mae’r Cyfarwyddiaeth Strategaeth a Pholisi yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth busnes y DVLA ac am greu polisïau cadarn ar gyfer dosbarthu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid DVLA. Mae hefyd yn gyfrifol am gynghori gweinidogion yn ddidwyll, amhleidiol ac yn wrthrychol i’w galluogi nhw i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch strategaeth a pholisi DVLA, gan ddefnyddio tystiolaeth a dealltwriaeth o’r goblygiadau ymarferol o gyflawni hyn.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi & Chyfathrebu dros dro