Iain Banfield

Bywgraffiad
Ymunodd Iain â Chofrestrfa Tir EF yn Chwefror 2019 fel Prif Swyddog Ariannol. Cyn hynny, fe dreuliodd dwy flynedd a hanner yn yr Adran Masnach Ryngwladol, yn gyntaf fel y Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Cyllid Strategol ac yna Cyfarwyddwr Cyllid dros dro. Iain yw Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro Cofrestrfa Tir EF ar hyn o bryd.
Mae Iain wedi bod yn y Gwasanaeth Sifil er 2001 mewn swyddi eraill gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Masnach a Buddsoddiadau’r DU, Partner Busnes Cyllid a rolau yn y Pwyllgor Gweithredol Rhanddeiliaid a’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Mae cyfrifoldebau trwy ei yrfa wedi cynnwys cynnal trafodaethau ar adolygiad o wariant, cynllunio busnes, cyfrifyddu rheoli a chyfrifyddu a rheolaeth ariannol.
Mae Iain yn gyfrifydd sector cyhoeddus cymwysedig, ac wedi ennill dwy brif wobr CIPFA am ei berfformiad yn ei arholiadau terfynol.
Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro
Mae’r Prif Gofrestrydd Tir yn gyfrifol am gadw’r cofrestri tir ac mae ganddo’r holl bwerau, cyfrifoldebau a dyletswyddau a roddir ac a osodir gan y gyfraith mewn perthynas â hynny.
Y Prif Gofrestrydd Tir yw Prif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyfrifyddu Cofrestrfa Tir EF hefyd. Mae’r rôl hon yn gyfrifol am reoli’r sefydliad yn effeithlon ac yn effeithiol o ddydd i ddydd, gan gynnwys goruchwylio ei amcanion a gweithredu strategaeth fusnes a chynllun busnes cymeradwy.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Prif Swyddog Ariannol
-
Director of Finance