Ciarán Hayes

Bywgraffiad
Ymunodd Ciarán â Swyddfa Cymru fel Cyfarwyddwr yn Ionawr 2026.
Mae wedi gweithio mewn nifer o rolau allweddol ledled Llywodraeth y DU, yn fwy diweddar yn Swyddfa Gogledd Iwerddon ble roedd yn arwain gwaith ar bolisi economaidd ac ariannol.
Bu iddo wasanaethu fel y Prif Ysgrifennydd Preifat i Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn flaenorol. Cyn Swyddfa Gogledd Iwerddon, roedd Ciarán yn arwain ar waith ffiniau a thollau, ac yn Adran Gogledd Iwerddon dros Adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae wedi gweithio ar draws nifer o adrannau Whitehall, gan gynnwys yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Trysorlys EF a’r Adran Addysg, mewn nifer o rolau’n ymwneud â strategaeth, polisi a dadansoddi.
Cyfarwyddwr, Swyddfa Cymru
Cyfarwyddwr Swyddfa Cymru sy’n atebol am berfformiad yr adran drwyddi draw.