Angie Clarkson

Bywgraffiad
Ymunodd Angie â Chofrestrfa Tir EF yn 2001 ac ar hyn o bryd, hi yw’r Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Cwsmeriaid a Strategaeth. Mae’n arwain yr Hwb Strategaeth, Polisi a phob agwedd ar Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Cynnyrch, Gwasanaeth a Dylunio Busnes, gan weithio trwy dimau amlddisgyblaethol ac ar draws Cofrestrfa Tir EF i ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid cyflymach a haws.
Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros fwy na dau ddegawd yng Nghofrestrfa Tir EF, mae Angie wedi dal y sbectrwm llawn o rolau gweithredol gan gynnwys prosesu gwaith cais, arweinyddiaeth, hyfforddiant, rheoli perthynas â chwsmeriaid ac, yn fwyaf diweddar, fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi Gwasanaethau. Mae ei phrofiad helaeth yn cwmpasu cyflenwi gweithredol, newid sefydliadol a thrawsnewid digidol – gan gynnwys arweinyddiaeth ar raddfa sylweddol.
Mae Angie yn gyn-fyfyrwraig ar Raglen Arweinyddiaeth Stonewall ac mae’n eiriolwr angerddol dros herio a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb yn y gweithle.
Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Cwsmeriaid a Strategaeth
Mae’r rôl dros dro yn gyfrifol am strategaeth gorfforaethol, ymgysylltu allanol, cysylltiadau â chwsmeriaid, dylunio gwasanaethau a rheoli cynnyrch, datblygu polisïau a dylunio mentrau.