Polisi dogfennau hygyrch

Dogfennau hygyrch yn Swyddfa’r Dyfarnwr


Mae’r polisi hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r dogfennau y mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn eu cyhoeddi ar GOV.UK.

Mae’n cynnwys PDFs, taenlenni, cyflwyniadau a mathau eraill o ddogfennau. Nid yw’n cynnwys yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi ar GOV.UK fel HTML, sy’n cael ei gwmpasu gan ddatganiad hygyrchedd GOV.UK.

Defnyddio ein dogfennau

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn cyhoeddi dogfennau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys:

  • PDF
  • Microsoft Word
  • Taenlenni Microsoft Excel
  • CSV (Gwerthoedd wedi’u gwahanu gan goma)
  • ODT (Testun OpenDocument)

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r dogfennau hyn. Er enghraifft, pan fyddwn yn cynhyrchu dogfen, rydym yn sicrhau ein bod yn gwneud y canlynol:

  • cynnig opsiwn HTML lle bo modd
  • tagio penawdau a rhannau eraill o’r ddogfen yn iawn, fel y gall darllenwyr sgrin ddeall strwythur y dudalen
  • gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys testun ochr yn ochr â delweddau nad ydynt yn addurniadol, fel bod pobl nad ydynt yn gallu eu gweld yn deall pam eu bod yno
  • osgoi defnyddio tablau, ac eithrio wrth gyflwyno data
  • ysgrifennu mewn Saesneg clir

Beth i’w wneud os na allwch ddefnyddio un o’n dogfennau

Os oes angen i chi gael gafael ar wybodaeth yn un o’r mathau hyn o ddogfennau, gallwch ofyn am fformat arall. Bydd o gymorth i ni os byddwch yn rhoi gwybod i ni ba dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio.

Pa mor hygyrch yw ein dogfennau

Dylai dogfennau newydd sy’n cael eu cyhoeddi gennym, a dogfennau y mae angen i chi eu lawrlwytho neu eu llenwi i gael mynediad at un o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gennym, fod yn gwbl hygyrch.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gydag un o’n dogfennau

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein dogfennau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch gysylltu â ni.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS), neu’r Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein dogfennau

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr wedi ymrwymo i wneud ein dogfennau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r dogfennau y mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn eu cyhoeddi yn cydymffurfio’n rhannol â safon ‘AA’ Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd

Maen prawf llwyddiant 1.1.1: (Non-text Content)

Mae gan rai o’n dogfennau ddiagramau a/neu dablau. Nid yw rhai o’r rhain ar gael ar ffurf testun, felly nid yw’r wybodaeth ynddynt ar gael i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1 (non-text content).

Rydym yn bwriadu ychwanegu pob diagram a thabl ar ffurf testun erbyn diwedd mis Hydref 2020. Byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.

Sut y gwnaethom brofi ein dogfennau

Profwyd sampl o’n dogfennau ym mis Awst a mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan dîm cynnwys digidol CThEM.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

  • Dogfennau PDF

Penderfynwyd profi’r mathau hyn o ddogfennau gan mai nhw yw’r prif fformatau nad ydynt yn rhai HTML a gyhoeddir gan Swyddfa’r Dyfarnwr.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn:

  • cyhoeddi mewn HTML yn ddiofyn lle bo modd, yn hytrach na PDF

Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru’r polisi hwn wrth i’n gwaith fynd yn ei blaen.