Amdanom ni

Corff annibynnol yw'r Bwrdd Parôl sydd yn cynnal asesiadau risg ar garcharorion i benderfynu a oes modd eu rhyddhau'n ddiogel i'r gymuned.


am y Bwrdd Parôl

Pwy ydym ni

Corff annibynnol yw’r Bwrdd Parôl sydd yn cynnal asesiadau risg ar garcharorion i benderfynu a oes modd eu rhyddhau’n ddiogel i’r gymuned. Cafodd ei sefydlu yn 1968 dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1967 a daeth yn gorff cyhoeddus gweithredol annibynnol anadrannol ar 1 Gorffennaf 1996 dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

Mae gennym 246 aelod o’r Bwrdd Parôl sydd yn gwneud asesiadau a phenderfyniadau. Rydym yn cyflogi tua 120 aelod o staff i’w cefnogi, wedi eu lleoli yn 10 South Colonnade, Llundain.

Ein swydd yw penderfynu a yw rhyuwn yn ddiogel i gael ei ryddhau. Rydym yn gwneud hynny gyda chryn ofal, a’n blaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd. Rydym yn delio â 25,000 o achosion y flwyddyn; y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu cyfeirio atom unwaith y bydd y carcharorion wedi cwblhau’r gosb a benderfynwyd gan y llysoedd. Mae penderfyniadau’r Bwrdd Parôl yn canolbwyntio’n llwyr ar y cwestiwn a fyddai carcharor yn peri risg arwyddocaol i’r cyhoedd ar ôl ei ryddhau. Mae’r asesiad risg wedi ei seilio ar dystiolaeth fanwl a geir yn y goflen (casgliad o ddogfennau perthnasol i’r carcharor) a thystiolaeth a ddarperir yn y gwrandawiad llafar.

Ystadegau Allweddol

Nifer yr achosion yr ymdriniwyd â hwy mewn gwrandawiad llafar yn 2018-19: 5380

  • gwrthodwyd 38% o’r rhain
  • rhyddhawyd 49%
  • argymhellwyd bod 13% yn cael eu symud i garchar agored.

O 2018-19, roedd canran y troseddwyr a gyflawnodd droseddau difrifol yn dilyn penderfyniad i’w rhyddhau neu ar ôl cael eu symud i amodau agored yn 1.1%

Ein cyfrifoldebau

Ein prif rôl yw penderfynu a yw carcharorion sy’n gwneud dedfrydau amhenodol, a’r rhai hynny sy’n gwneud dedfrydau penodol ar gyfer troseddau difrifol, yn parhau i gyflwyno risg arwyddocaol i’r cyhoedd.

Y prif achosion rydym yn eu harolygu yw’r rhai ar gyfer carcharorion yn gwneud:

  • dedfrydau oes a dedfrydau carcharu er amddiffyn y cyhoedd (IPP), o dan Ddeddf Troseddu (Dedfrydau) 1997, fel y’i diwygiwyd.
  • dedfrydau penodol estynedig (EDS), o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 [(fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr 2012)] ( http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2012/10/contents/enacted)
  • dedfrydau ar gyfer tramgwyddwyr sy’n peri pryder arbennig, gan gynnwys terfysgwyr a throseddwyr rhyw â phlant, o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015.

Rydym hefyd yn ystyried:

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.