Amdanom ni

Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Cymru ac Is-Ysgrifenyddion Gwladol Seneddol i hyrwyddo buddiannau gorau Cymru o fewn Teyrnas Unedig gryfach. Mae'n sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli wrth galon Llywodraeth y DU, a bod cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn cael eu cynrychioli yng Nghymru.


Amcanion

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw Swyddfa Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru. Ei rôl yw gwneud y canlynol:

  • Hyrwyddo economi a buddiannau economaidd Cymru.

Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, gyda busnes a chyda rhanddeiliaid eraill i ysgogi twf economaidd a chreu economi mwy cytbwys yng Nghymru.

  • Sicrhau bod y setliad datganoli yn parhau i ddarparu setliad clir, teg a chryf i Gymru

Byddwn yn sicrhau bod Cymru’n parhau i elwa o setliad datganoli cydlynol sy’n galluogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni dros bobl Cymru a bod deddfwriaeth yn Senedd y DU a Senedd Cymru yn adlewyrchu’r ffiniau datganoli yn gywir. Byddwn yn ceisio hyrwyddo perthynas gynhyrchiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

  • Cynrychioli buddiannau Cymru yn Llywodraeth y DU, a hybu dealltwriaeth ehangach o bolisïau Llywodraeth y DU yng Nghymru.

Byddwn yn gweithio’n agos gydag adrannau Llywodraeth y DU i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu cynrychioli’n llawn wrth lunio a gweithredu polisïau Llywodraeth y DU. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o bolisïau Llywodraeth y DU mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli.

Darganfod mwy am ymrwymiadau Llywodraeth y DU i bobl Cymru.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.