Skip to main content

Cynllun iaith Gymraeg

Rydym yn trin y Saesneg a'r Gymraeg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.


Cyflwyniad

Mae’r cynllun hwn wedi’i baratoi o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae Swyddfa Eiddo Deallusol y DU (IPO) yn cefnogi trin Saesneg a’r Gymraeg yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus, lle ei fod yn briodol ac yn rhesymol ymarferol. 

Yn y cynllun hwn, mae’r term ‘cyhoedd’ yn golygu:

  • unigolion
  • unigolion cyfreithiol
  • y cyhoedd yn gyffredinol
  • rhan o’r cyhoedd
  • sefydliadau gwirfoddol ac elusennau

Fodd bynnag, nid yw ‘cyhoedd’ i fod i gynnwys pobl sy’n gweithredu mewn swyddogaeth sy’n cynrychioli’r goron, y llywodraeth neu’r wladwriaeth. Nid yw pobl sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, er eu bod yn bobl cyfreithiol, wedi’u cynnwys o dan y diffiniad o’r term ‘cyhoedd’, hyd yn oed pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn nodi sut bydd yr IPO yn rhoi’r egwyddorion ar waith, yn unol â’n cynllun gweithredu. Wrth osod ymrwymiadau, rydym wedi ystyried beth sy’n rhesymol ac yn gymesur o fewn yr IPO.

Mae’r cynllun hwn wedi’i baratoi o dan Adran 21 o’r Ddeddf ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr hen Fwrdd Iaith Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf. Cymeradwywyd y fersiwn ddiwygiedig hon ar 2 Mawrth 2026.

Gwybodaeth am y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO)

Mae IPO y DU yn asiantaeth weithredol o’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg gyda statws cronfa fasnachu. Rydym wedi’n lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru ac mae gennym swyddfa fach yn Llundain. Rydym yn cyflogi tua 1,600 o staff, gyda’r mwyafrif wedi’u lleoli yng Nghasnewydd lle mae craidd ein gwaith yn cael ei wneud.

Rydym yn gyfrifol am:

  • Polisi IP
  • addysgu busnesau a defnyddwyr am hawliau a chyfrifoldebau IP
  • cefnogi gorfodi IP
  • rhoi patentau, nodau masnach a hawliau dylunio yn y DU

Ein blaenoriaethau yw helpu pobl a busnesau i dyfu economi’r DU drwy ddarparu system Eiddo Deallusol sy’n annog buddsoddi mewn creadigrwydd ac arloesedd. Rydym yn cyflawni hyn drwy:

  • gwasanaethau o ansawdd uchel, effeithlon a hygyrch; a
  • polisi sy’n cefnogi arloesedd a’r economi ehangach; drwy
  • sefydliad perfformio uchel gyda phobl fedrus sydd wedi’u cysylltu gan bwrpas cyffredin

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr IPO.

Rhagair

Rhagair gan Gyfarwyddwr pobl, cyfathrebu, a gweithle, ac arweinydd y Gymraeg Penny Phillpotts.

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n hunaniaeth a’n treftadaeth yn yr IPO. Ers dros 35 mlynedd, rydym wedi bod â gwreiddiau balch yng Nghymru, ac mae’r cysylltiad hwn yn llunio pwy ydym ni a sut rydym yn gweithio.

Mae ein gweledigaeth yn glir: dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ar draws ein gwasanaethau a’n gweithle. Os yw cwsmeriaid yn rhyngweithio â ni ar-lein, dros y ffôn, neu drwy e-bost, rydym am iddynt deimlo’n hyderus a chael eu cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r ymrwymiad hwn yn berthnasol i’n gwasanaethau digidol sydd wedi’u trawsnewid, a phob ffordd arall y mae cwsmeriaid yn dewis ymgysylltu â ni.

Yn ein swyddfeydd, ein nod yw creu amgylchedd lle mae’r Gymraeg yn weladwy ac yn cael ei werthfawrogi trwy arwyddion dwyieithog, cyfleoedd dysgu, a diwylliant sy’n annog pawb i ymgysylltu â’r iaith. Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi mwy na 100 o gydweithwyr i ddysgu Cymraeg, a byddwn yn parhau i ehangu’r cyfleoedd hyn. Drwy wneud hynny, rydym yn cryfhau ein cymuned iaith Gymraeg ac yn creu mwy o ffyrdd i gwsmeriaid gysylltu â ni yn y Gymraeg. Rydym am i’n cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg deimlo’n falch ac yn hyderus, ac i bob cydweithiwr deimlo’n rhan o’n treftadaeth gyffredin.

Mae ein cynllun gweithredu yn nodi sut y byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn ac yn dathlu ein hunaniaeth ddwyieithog wrth i ni symud ymlaen. Drwy ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi’r iaith Gymraeg, rydym yn gobeithio y bydd ein siaradwyr, ein dysgwyr a’n cwsmeriaid Cymraeg yn teimlo’n fwy cysylltiedig â ni ac yn falch o’r gwasanaethau rydym yn darparu.

1. Cynllunio a darparu gwasanaethau

1.1 Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein polisïau, ein mentrau, a’n gwasanaethau yn cefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

1.2. Bydd ein staff yn cael canllawiau ar sut y gallai’r cynllun effeithio ar lunio polisïau a byddwn yn gofyn iddynt ystyried yr iaith Gymraeg fel rhan o ddatblygu polisïau.

1.3. Byddwn yn darparu gwasanaeth o’r un ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn cynnig y cyfle i gwsmeriaid gynnal busnes yn y Gymraeg lle ei fod yn rhesymol ymarferol.

2. Ymgysylltu â’r cyhoedd

Derbyn ymateb

2.1. Rydym wedi ymrwymo i ymateb i adborth neu ymholiadau o fewn 10 diwrnod gwaith lle mae angen ateb.

2.2. Os na allwn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith, bydd ateb dros dro yn cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg.

Gohebiaeth ysgrifenedig

2.3. Os byddwn yn derbyn llythyr neu e-bost yn y Gymraeg, byddwn yn ateb yn y Gymraeg.

2.4. Byddwn yn anfon ateb dros dro yn Gymraeg os yw’n debygol y bydd oedi wrth ymateb i gais ysgrifenedig.

2.5. Byddwn yn defnyddio llofnod electronig dwyieithog wrth ateb e-bost yn Gymraeg a byddwn yn annog pob aelod o staff i’w ddefnyddio ar gyfer gohebiaeth gyffredinol.

Ffôn

2.6 Rydym yn croesawu galwyr ffôn sy’n dymuno cynnal eu busnes yn Gymraeg.

2.7 Wrth gysylltu â’r IPO drwy’r switsfwrdd, rhoddir cyfarchiad dwyieithog.

2.8 Os yw’r cwsmer yn dymuno cynnal ei sgwrs yn Gymraeg, bydd y gweithredwr yn cyfeirio’r alwad at aelod o staff sy’n siarad Cymraeg a fydd yn gallu delio â’r ymholiad lle bod modd.

2.9 Os bydd cwsmer yn deialu’n uniongyrchol i un o’r adrannau gweithredol ac yn dymuno siarad Cymraeg, bydd y person sy’n ateb yr alwad, os nad yw’n siarad Cymraeg, yn ei drosglwyddo i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg.

2.10 Os nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, byddwn yn rhoi’r dewis i’r cwsmer barhau yn Saesneg, neu gael ei alw nôl gan siaradwr Cymraeg cyn gynted ag y bydd un ar gael.

2.11 Os yw ymholiad yn arbennig o gymhleth, efallai na fydd yn bosibl delio ag ef dros y ffôn oherwydd efallai y bydd angen i ni ofyn am arweiniad technegol neu gyfreithiol. Os bydd hyn yn digwydd, yna byddwn yn delio â’r ymholiad yn ysgrifenedig ac yn ateb yn Gymraeg os yw’r cwsmer yn dymuno.

Wyneb yn wyneb

2.12 Mae angen apwyntiad ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghasnewydd. Ar gyfer cwsmeriaid sydd am sgwrsio â ni yn Gymraeg, byddwn yn trefnu bod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol.

2.13 Os nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, bydd cwsmeriaid yn cael dewis apwyntiad yn Saesneg neu ohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg.

Gwrandawiadau

2.14 Yn achos anghydfod sydd heb ei ddatrys ynghylch cais patent, nod masnach neu ddyluniad penodol, mae gan yr ymgeisydd hawl i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad. Gellir cynnal y gwrandawiad yn Gymraeg os gofynnir am hyn o flaen llaw.

2.15 Os na roddir rhybudd o flaen llaw, efallai na fydd siaradwr Cymraeg sy’n gymwys yn gyfreithiol ac yn dechnegol ar gael ar unwaith. Bydd yr ymgeisydd wedyn yn cael y dewis, heb ragfarn, o barhau â’r gwrandawiad yn Saesneg neu ei ohirio nes bod siaradwr Cymraeg ar gael.

Cyfarfodydd cyhoeddus

2.16 Nid ydym yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd.

Arolygon

2.17 Gellir darparu ac ymateb i arolygon cyhoeddus a gynhelir yng Nghymru yn Gymraeg, lle bod hynny’n rhesymol ymarferol. 

Seminarau

2.18 Bydd yr angen i gynnal seminarau, cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau tebyg ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg yn cael ei asesu. Byddwn yn ystyried dewis iaith y rhai sy’n mynychu ac argaeledd hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg.

Digwyddiadau

2.19 Rydym yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd i godi ymwybyddiaeth o eiddo deallusol a hyrwyddo’r gwasanaethau a gynigiwn. Pan gynhelir yr arddangosfeydd hyn yng Nghymru, byddwn yn defnyddio stondinau a deunyddiau dwyieithog.

2.20 Byddwn yn sicrhau bod copïau o gyhoeddiadau IPO y DU a gwybodaeth ar gael mewn digwyddiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg pan yng Nghymru.

2.21 Byddwn yn sicrhau bod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael mewn digwyddiadau yng Nghymru i gynorthwyo cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Cyfryngau cymdeithasol

2.22 Pan gysylltir â ni yn Gymraeg drwy’r cyfryngau cymdeithasol a bod angen ymateb, byddwn yn ateb yn Gymraeg ac yn unol â’r protocolau Saesneg presennol.

2.23 Byddwn yn cynyddu ein cynnwys Cymraeg yn ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol. I ddechrau, bydd gan hyn yn gynnwys sy’n berthnasol i Gymru yn unig a bydd yn cynyddu dros amser

Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI)

2.24 Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn mynnu ein bod yn ymateb i geisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith o’u derbyn. Mae cyfieithiadau wedi’u heithrio o’r uchafswm o 20 diwrnod, fodd bynnag, byddwn yn ceisio ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Gwasanaethau ar-lein

2.25 Bydd ein rhaglen Drawsnewid yn galluogi ymgeiswyr i wneud cais am batent, nod masnach neu ddyluniad yn Gymraeg. Cyflwynir y gwasanaethau dwyieithog hyn fesul cam gan ddechrau gyda phatentau, a gyda nodau masnach a dyluniadau i ddilyn yn ddiweddarach.

2.26 Mae offeryn newydd yn cael ei ddatblygu i alluogi cwsmeriaid i chwilio am batentau, nodau masnach a dyluniadau presennol. Bydd defnyddwyr yn gallu chwilio yn Gymraeg am batentau, nodau masnach a dyluniadau i ddilyn yn ddiweddarach.

2.27 Bydd ein rhaglen Drawsnewid hefyd yn galluogi defnyddwyr i reoli eu heiddo deallusol o fewn cyfrif IPO. Bydd defnyddwyr y cyfrif yn gallu cyrchu’r cynnwys yn Gymraeg.

Arweiniad ar-lein

2.28 Rydym yn ymroddedig i wella’r cynnwys Cymraeg sydd ar gael ar ein gwefan. Byddwn yn creu fersiynau Cymraeg cyfatebol ar gyfer tudalennau priodol ar ein gwefan a byddwn yn asesu’r angen i gyfieithu tudalennau gwe drwy ein prosesau mewnol.

Hysbysebu a Chyhoeddusrwydd, Hysbysiadau Swyddogol a Datganiadau i’r Wasg

2.29 Byddwn yn cyhoeddi unrhyw hysbysebion, hysbysiadau recriwtio, cyhoeddusrwydd neu hysbysiadau swyddogol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer cyhoeddiadau sy’n cylchredu yn bennaf yng Nghymru.

2.30 Bydd datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg, pan fydd terfynau amser yn caniatáu.

3. Ein pobl a’n hystad

Gweithlu

3.1 Bydd yr angen i ddeiliad swydd siarad Cymraeg yn dibynnu ar fonitro’r galw am wasanaethau yn y Gymraeg y mae’r swydd yn eu darparu.

3.2 Os bydd y galw am weithwyr i siarad Cymraeg yn cynyddu, byddwn yn nodi’r lefel o hyfedredd sydd ei hangen ac yn llenwi’r swydd yn briodol.

Hyfforddiant a datblygiad iaith

3.3 Byddwn yn rhoi cyfle i staff ddysgu Cymraeg yn ystod oriau gwaith. Bydd staff yn gallu mynychu cwrs hyfforddi 2 awr wythnosol a ddarperir gan ddarparwr allanol.

3.4 Byddwn yn annog staff sy’n siarad Cymraeg i wirfoddoli, i gynorthwyo gyda delio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

3.5 Byddwn yn cynnal ein cyfeiriadur mewnol o staff sy’n siarad Cymraeg ac sy’n gallu helpu ein cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

3.6 Byddwn yn cynnal archwiliad ieithyddol blynyddol i fesur ein hyfedredd iaith a nodi meysydd i’w gwella.

Recriwtio

3.7. Pan fod rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, bydd hyn yn cael ei nodi mewn hysbysebion swyddi.

3.8 Os na ellir dod o hyd i ymgeisydd addas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd lle mae’r Gymraeg yn ddymunol, anogir y person a benodir i ddysgu Cymraeg.

3.9 Os na ellir ddod o hyd i ymgeisydd addas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, byddwn yn gwneud trefniadau eraill i gyflawni ein hymrwymiadau.

Hunaniaeth gorfforaethol

3.10 Byddwn yn mabwysiadu arddull a hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog (e.e. ar gyfer eitemau corfforaethol fel negeseuon e-bost, pen papur a chardiau busnes), wrth ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. 

3.11 Byddwn yn gwella ein hunaniaeth gorfforaethol ar ein gwefan i ganiatáu i ddefnyddwyr gwblhau trafodion o’r dechrau i’r diwedd yn y Gymraeg.

3.12 Byddwn yn creu tudalen ar ein mewnrwyd a fydd yn rhoi adnoddau, nodiadau hyfforddi a chanllawiau i’n staff ar sut y byddant yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau.

Arwyddion swyddfa

3.13 Bydd ein holl arwyddion cyhoeddus yn ein swyddfa yng Nghasnewydd yn ddwyieithog a byddant yn gyfartal o ran maint, ansawdd, darllenadwyedd ac amlygrwydd.

4. Cyflwyno dogfennau statudol a ffurflenni benodedig

4.1 Rydym yn derbyn ceisiadau ar ffurflenni benodedig yn y Gymraeg ar gyfer patentau, nodau masnach a dyluniadau. Bydd y ffurflenni hyn ar gael ar ein gwefan.

4.2 Byddwn yn comisiynu cyfieithiad o ffeilio yn y Gymraeg i’r Saesneg i’w roi ar y cofnod cyhoeddus ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Bydd y cyfieithiad hwn ac unrhyw welliannau dilynol yn cael eu cytuno gyda’r ymgeisydd cyn cyhoeddi. Ystyrir bod y cyfieithiadau y cytunwyd arnynt yn gyfwerth â’r gwreiddiol Cymraeg.

4.3 Yn rhinwedd ein swydd fel Swyddfa Dderbyn ar gyfer ceisiadau patent rhyngwladol neu Ewropeaidd, gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg, ond rhaid i’r ymgeisydd eu dilyn gan gyfieithiad i’r Saesneg (neu, yn achos ceisiadau Ewropeaidd, i’r Ffrangeg neu’r Almaeneg).

5. Cytundebau trydydd parti

5.1 Bydd pob cytundeb yn y dyfodol gyda thrydydd partïon ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cyd-fynd â’r cynllun hwn. Mae’r ymrwymiad hwn yn ymestyn i wasanaethau dan gontract.

5.2 Byddwn yn cyfleu’r gofynion i gontractwyr lle ei fod yn berthnasol. Bydd yn cael ei amlinellu ym mhob dogfen dendro a chontract, gyda monitro parhaus i sicrhau cydymffurfiaeth.

5.3 Pan fyddwn yn arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau gwasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn.

5.4 Pan fyddwn yn ymuno â phartneriaeth y mae sefydliad arall yn ei harwain, bydd ein mewnbwn i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’r cynllun hwn a byddwn yn annog y partneriaid eraill i gydymffurfio.

5.5 Pan fyddwn yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r cynllun hwn. Wrth weithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gweithredu yn unol â hynny.

6. Datblygu cynllun

Adolygu a diwygio’r cynllun

6.1 Efallai y bydd angen i ni ailasesu’r cynllun hwn yn seiliedig ar newidiadau o fewn ein sefydliad a’i ddiwygio i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

6.2 Bydd unrhyw welliannau arfaethedig i’r cynllun yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn yr Iaith Gymraeg i’w hystyried.

6.3 Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn o leiaf bob pedair blynedd

Monitro

6.4 Bydd ein Swyddog Iaith Gymraeg yn monitro ein cynnydd bob 6 mis, ac yn adrodd ar ganfyddiadau i’n Bwrdd yn flynyddol.

6.5. Mae ein cynllun gweithredu yn amlinellu’r hyn sydd angen i ni ei wneud, pwy sy’n gyfrifol am ei gyflawni a phryd y byddwn yn ei gyflawni.

6.6 Byddwn yn adrodd i’r WLC ar ein cynnydd yn flynyddol.

Adborth a chwynion

6.7 Dylid cyfeirio adborth a chwynion at CEUMailbox@ipo.gov.uk. Bydd y gŵyn yn cael ei chydnabod, a bydd cwsmeriaid yn derbyn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw’n debygol y bydd oedi, anfonir ateb dros dro.

6.8 Os nad yw’r ymateb i’r gŵyn yn foddhaol, gellir cyfeirio cwynion at Swyddfa’r WLC.

Trefniadau gweinyddol

6.9 Mae’r ymrwymiadau a’r trefniadau a nodir yn y cynllun wedi’u cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Bwrdd perthnasol sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg. Cyfrifoldeb ein Swyddog Iaith fydd perchnogaeth dros gydlynu a hwyluso’r cynllun. Bydd rheolwyr unigol yn cael y cyfrifoldeb dros weithredu agweddau sy’n berthnasol iddynt yn uniongyrchol.

6.10 Bydd y cynllun ac unrhyw gyfarwyddiadau mewnol sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg ar gael i bob aelod o staff sy’n dod i gysylltiad â chwsmeriaid.

6.11 Pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu neu ddehongli allanol, er enghraifft ar gyfer cyfieithu dogfennaeth swyddogol, byddwn yn defnyddio cyfieithwyr neu ddehonglwyr cymwysedig.