Ein llywodraethiant - Intellectual Property Office
Y prif fwrdd llywio, pwyllgor archwilio a grwpiau llywodraethiant eraill y Swyddfa Eiddo Daellusol.
Ein llywodraethiant
Mae gan y Swyddfa Eiddo Deallusol Fwrdd Gweithredol, Bwrdd Llywio a Phwyllgor Archwilio a Risg i reoli a chynghori ar weithgareddau.
Mae Dogfen Fframwaith y Swyddfa Eiddo Deallusol yn manylu ar y trefniadau llywodraethiant sy’n gymwys i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO). Mae hyn yn manylu ar gyfrifoldebau’r Prif Weithredwr, y prif fwrdd llywio, pwyllgor archwilio a grwpiau llywodraethiant eraill yr IPO. Mae’n amlinellu hefyd y fframwaith polisi, cynllunio, atebolrwydd a dirprwyaethau y mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gweithredu o’u mewn.
Bwrdd Gweithredol IPO
Bwrdd Gweithredol IPO (a adnabyddir fel IPOB) yw uwch gorff gwneud penderfyniadau’r sefydliad. Mae’r bwrdd yn gyfrifol am osod y cyfeiriad a gwneud penderfyniadau sylfaenol a throsfwaol i gynorthbwyo’r sefydliad mewn cyflawni ei amcanion. Rôl y Bwrdd yw cymryd penderfyniadau ar faterion corfforaethol, i sicrhau bod cynlluniau corfforaethol wedi’u cydgyfeirio â thargedau Gweinidogol ac amcanion strategol Adrannol, i greu a chyflawni’r Cynllun Corfforaethol ac i reoli’r IPO o fewn ei gylch gorchwyl fel Cronfa Fasnachu Asiantaeth Weithredol er budd rhanddeiliaid cyhoeddus a llywodraeth.
Aelodau’r Bwrdd Gweithredol
-
Adam Williams, Prif Swyddog Gweithredol
-
Andy Bartlett, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwasanaethau
-
Sian-Nia Davies, Prif Swyddog Digidol, Data a Thechnoleg
-
Steph Bell, Cyfarwyddwr Strategaeth
-
Neil Hartley, Cyfarwyddwr Cyllid
-
Chris Mills, Cyfarwyddwr Polisi Hawliau
-
Penny Phillpotts, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd
-
Natasha Chick, Cyfarwyddwr Gorfodaeth, Busnes a Chyfarwyddiaeth Ryngwladol
Bwrdd Llywio IPO
Mae ein bwrdd llywio yn cynghori gweinidogion ar y strategaethau, perfformiad a thargedau a amlinellir yn ein cynllun corfforaethol. Mae’n darparu cyfarwyddyd masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad. Nid oes gan y Bwrdd Llywio swyddogaethau gweithredol.
Cyfarfodydd Bwrdd
Mae cofnodion o bob cyfarfod ar gael cyn gynted â’u bod wedi’u cymeradwyo yn y cyfarfod dilynol. Mae cofnodion a gymeradwywyd isod:
2026
2025
2024
2023
2022
2021
2020
2019
2018
2017
2016
2015
2014
Cofnodion blaenorol
Mae cofnodion Bwrdd Llywio o 2008 ymlaen ar gael yn yr Archifau Cenedlaethol ac i ofyn am gopi o’r cofnodion o gyfarfod blaenorol, e-bostiwch secretariat@ipo.gov.uk.
Aelodau’r Bwrdd Llywio
Aelodau’r bwrdd yw:
-
Harry Rich, Cadeirydd Bwrdd Anweithredol IPO, Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorwyr, Cadeirydd y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio
-
Clem Brohier, Aelod Annibynnol o Fwrdd IPO, cyfrifydd cymwysedig a Bwrsar a Chymrawd o Goleg Mansfield, Prifysgol Rhydychen
-
Harriet Kelsall, Aelod Annibynnol o Fwrdd IPO, dylunydd arbenigol ac arloeswraig fusnes sy’n gweithio yn niwydiant gemwaith y DU
-
Hilary Newiss, Aelod Annibynnol o Fwrdd IPO, cyfreithwraig a chyn-bartner mewn cwmni cyfraith yn y Ddinas, yn arbenigo mewn Eiddo Deallusol, Ymddiriedolwr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur
-
Catherine Salway, Aelod Annibynnol o Fwrdd IPO, Cyfarwyddwr Bwrdd yn flaenorol yn y Grŵp Virgin
-
Kirsty Whitehead, Aelod Annibynnol o Fwrdd IPO, Cyfarwyddwr ar gyfer Monamy Trustees Limited
-
Timothy Render, Aelod Annibynnol o Fwrdd IPO, aelod Panel ar gyfer Swyddfa’r Farchnad Fewnol
-
Adam Williams, Prif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol, Swyddfa Eiddo Deallusol
-
Andy Bartlett, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwasanaethau
-
Alex Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg. Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn darparu dirprwy dynodedig
Pwyllgor Archwilio a Risg IPO
Mae’r pwyllgor archwilio yn is-bwyllgor o’n Bwrdd Llywio ac nid oes ganddo bwerau gweithredol. Mae’r pwyllgor yn edrych ar llywodraethiant, cyfrifon, archwiliadau mewnol ac archwiliadau allanol corfforaethol, ac yn asesu pa mor dda rydym yn cyfarfod â’r gofynion mae’r Adran ar gyfer Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn eu rhoi ar asiantaethau gweithredol.
Cyfarfodydd pwyllgor
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. I ofyn am gopi o gofnodion o gyfarfod blaenorol, ebostiwch secretariat@ipo.gov.uk.
Aelodau’r pwyllgor
Aelodau’r pwyllgor yw:
-
Clem Brohier, Cadeirydd
-
Chris Pleass, Aelod Annibynnol, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Comisiwn Etholiadol
-
Harriet Kelsall, Aelod annibynnol, dylunydd arbenbigol ac arloeswraig fusnes sy’n gweithion yn niwydiant gemwaith y DU
-
Kirsty Whitehead Aelod Annibynnol, Cyfarwyddwr ar gyfer Monamy Trustees Limited
Y mynychwyr gorfodol yw:
-
Adam Williams, Swyddfa Eiddo Deallusol, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
-
Andy Bartlett, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwasanaethau
-
Neil Hartley, Cyfarwyddwr Cyllid Swyddfa Eiddo Deallusol
Mynychwyr trwy wahoddiad yw:
-
Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
-
Swyddfa Archwilio Genedlaethol
-
Pennaeth Llywodraethiant a Risg
-
Cynrychiolwyr DSIT
-
Archwilwyr Allanol
-
Cyfarwyddwyr Gweithredol Swyddfa Eiddo Deallusol