Ymholiadau gan y cyfryngau
Sut i gysylltu â swyddfa wasg Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae swyddfa wasg Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn delio ag ymholiadau’r wasg sy’n ymdrin â phob rhan o waith yr adran. Mae’n croesawi ymholiadau gan bob newyddiadurwr, gan gynnwys rhai cenedlaethol, rhanbarthol, masnach, print, darlledu ac ar-lein.
Ein nod yw darparu gwasanaeth defnyddiol i newyddiadurwyr ac i ateb pob ymholiad gan y cyfryngau o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt.
Ni allwn helpu cwsmeriaid gyda’u materion treth personol.
Os oes rhywun wedi gofyn i chi ddod i’r dudalen hon er mwyn rhoi sicrwydd i chi eich bod yn siarad ag un o swyddogion dilys CThEF, rhowch y ffôn i lawr yn syth - sgam ydyw. Rhowch wybod am hyn drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r dudalen Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy ar GOV.UK
Os ydych yn newyddiadurwr gydag ymholiad neu gais i’r wasg, dylech ffonio un o’n swyddogion y wasg (gweler y rhifau isod).
Mae swyddogion y wasg yn rhwym wrth reolau cyfrinachedd ac fel pob aelod arall o staff CThEF, nid ydynt yn cael trafod manylion cwsmeriaid unigol ar unrhyw adeg.
Mae pedair desg yn swyddfa’r wasg sy’n delio ag ymholiadau’r wasg:
- Treth Bersonol
- Ffiniau a Masnachu, a Theuluoedd
- Busnes a Chorfforaeth
- Gorfodi’r Gyfraith
Lle bo’n bosibl, ceisiwch anfon eich ymholiad i’r ddesg berthnasol a restrir isod.
Fodd bynnag, os oes angen i chi wneud ymholiadau cyffredinol gan y cyfryngau neu os nad ydych yn siŵr pa ddesg i’w chysylltu â hi, ffoniwch 03000 585 018 neu 03000 585 029
Desg Dreth Bersonol
 chyfrifoldeb dros y canlynol:
- Treth Incwm
- IR35/cwmnïau gwasanaeth a reolir
- TWE ac Yswiriant Gwladol
- Hunanasesiad
- Treth Enillion Cyfalaf
- Treth Etifeddiant
- materion preswylio
- trethu alltraeth
- pensiynau
- rheolaeth dyledion a bancio
Cysylltiadau
Rôl | Rhif ffôn |
---|---|
Uwch Swyddog y Wasg | 03000 585 015 |
Swyddog y Wasg | 03000 564 431 |
Desg Ffiniau a Masnachu, a Theuluoedd
 chyfrifoldeb dros y canlynol:
- systemau Ffiniau a Masnachu
- Budd-dal Plant
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant
- Cymorth i Gynilo
- credydau treth
- Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
- lles
Cysylltiadau
Rôl | Rhif ffôn |
---|---|
Uwch Swyddog y Wasg | 03000 518 552 |
Desg Fusnes a Chorfforaeth
 chyfrifoldeb dros y canlynol:
- Treth Gorfforaeth
- materion Adnoddau Dynol
- Ystadau
- Gwasanaeth Busnesau Mawr
- TAW
- tollau ecséis
- treth amgylcheddol
- data/diogelwch
- Ffiniau a Masnach
Cysylltiadau
Rôl | Rhif ffôn |
---|---|
Uwch Swyddog y Wasg | 03000 559 472 |
Swyddog y Wasg | 03000 550 493 |
Desg Orfodi’r Gyfraith
 chyfrifoldeb dros y canlynol:
- twyll treth
- gwyngalchu arian a Deddf Elw Troseddau 2002 (POCA)
- Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- twyll alcohol
- twyll tybaco
- twyll tanwydd
- ymchwiliadau troseddol a sifil
Cysylltiadau
Rôl | Rhif ffôn |
---|---|
Uwch Swyddog y Wasg | 03000 589 546 |
Swyddog y Wasg | 03000 598 834 |
Y tu allan i oriau gwaith
Rydym yn cynnig gwasanaeth 24 awr y dydd, ac mae swyddog y wasg ar ddyletswydd i helpu ag ymholiadau brys y tu allan i oriau gwaith. Mae ein horiau gwaith arferol rhwng 09:00 a 18:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os oes angen i chi gysylltu â’r swyddfa’r wasg rhwng 18:00 a 09:00, neu ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, cysylltwch â swyddog y wasg ar ddyletswydd ar 03000 538775.
Dyma’r unig rif cyswllt ar gyfer holl ymholiadau brys gan y cyfryngau sy’n codi y tu allan i oriau gwaith.