Cydraddoldeb ac amrywiaeth


Bob dydd, mae CThEF yn datblygu ac yn rhoi ar waith bolisïau a gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl ar draws y wlad a thu hwnt. Mae ein gweledigaeth, ein gwerthoedd, ein hamcanion strategol a Siarter CThEF yn disgrifio’r math o sefydliad yr ydym yn dymuno bod – un sy’n trin cwsmeriaid a chydweithwyr yn deg, yn diogelu’r gymdeithas rhag niwed ac yn gwneud CThEF yn lle gwych i weithio.

I’n helpu i gyflawni hyn - ac i fodloni ein cyfrifoldebau statudol - rydym wedi gosod tri amcan o ran cydraddoldeb ar gyfer 2020 i 2024. Mae’r rhain yn disgrifio ein gwaith i fod yn sefydliad sy’n fwy cynhwysol, yn fwy cynrychioladol ac sy’n dangos mwy o barch. Maent yn gymwys i’n gwaith gyda chwsmeriaid ac fel cyflogwr. Maent yn cynnwys holl feysydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Fel awdurdod cyhoeddus sydd heb ei ddatganoli, mae gan CThEF gyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yng Ngogledd Iwerddon o dan Adran 75 o Ddeddf Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon 1998. Caiff ein cydymffurfiad ei fonitro gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon.

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb yn ein hadroddiad blynyddol ar gydymffurfiad CThEF gyda dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am y gweithlu yn ein hadroddiad a chyfrifon blynyddol a gwybodaeth am gyflog cyfartal yn ein hadroddiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Mae Cynllun Cydraddoldeb CThEF ar gyfer Gogledd Iwerddon yn amlinellu sut y byddwn yn bodloni ein gofynion o ran cydraddoldeb yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys darparu ar gyfer cyhoeddi’r Dadansoddiad Cydraddoldeb Cychwynnol a’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Mae ein Cynllun Gweithredu o ran Anabledd ar gyfer 2021 i 2024, a ddatblygwyd i fodloni ein rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar gyfer Gogledd Iwerddon 1995, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella profiadau cydweithwyr a chwsmeriaid sydd ag anabledd, ar draws y DU.