Ymchwil yn HMPPS
Cynnal Ymchwil mewn Carchardai, Gwasanaeth Prawf neu Bencadlys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
Trosolwg
Mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n dymuno cynnal ymchwil (yn benodol defnyddio dulliau ymchwil) sy’n cynnwys staff a/neu droseddwyr mewn sefydliadau carchar, ar draws y Gwasanaeth Prawf neu ym Mhencadlys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) wneud cais ffurfiol am gymeradwyaeth i Bwyllgor Ymchwil Cenedlaethol HMPPS.
Mae’r Pwyllgor Ymchwil Cenedlaethol (NRC) yn bodoli i sicrhau:
- Bod yr ymgeisydd ymchwil, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a HMPPS yn cael y gwerth gorau o’r ymchwil a gynhaliwyd.
- Bod goblygiadau ac effaith gweithgarwch ymchwil ar ddarpariaeth weithredol o ran adnoddau yn cael eu hystyried.
- Bod cadernid a pherthnasedd yr ymchwil yn cael ei asesu’n ddigonol.
- Bod materion sy’n ymwneud â diogelu data, diogelwch a moeseg ymchwil yn cael sylw mewn modd cyson.
Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodi blaenoriaethau ymchwil tymor canolig yr adran, yn unol â’n hamcanion strategol ar gyfer y system gyfiawnder. Mae’n tynnu sylw at ble mae angen ymchwil newydd a ble y gallai gael yr effaith fwyaf ar gyfer polisi ac ymarfer.
Dylai ymchwilwyr ystyried y meysydd o ddiddordeb ymchwil yn eu cais, a lle bo’n bosib, egluro sut bydd eu hymchwil yn helpu i fodloni’r anghenion hyn o ran tystiolaeth strategol. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn hyn fel un o’r meini prawf adolygu.
Sut mae cyflwyno cais
Gwneud cais
Oherwydd newid deddfwriaethol a phwysau gweithredol sylweddol ar reng flaen y gwasanaeth prawf, rydym wedi gosod gofynion ychwanegol dros dro ar gymeradwyo ymchwil nad yw’n hanfodol mewn lleoliadau prawf. Rhaid i brosiectau ddangos mai prin iawn yw’r effaith, os o gwbl, ar adnoddau HMPPS, neu y byddai peidio â chynnal yr ymchwil yn niweidiol i weithrediadau, gan gynnwys cydymffurfiaeth gyfreithiol neu statudol.
Er ein bod yn croesawu ceisiadau ymchwil newydd o hyd, gwnewch yn siŵr:
- bod cysylltiadau clir â blaenoriaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder/HMPPS fel y nodir ym Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder 2025 neu Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol HMPPS
- nad oes dim goblygiadau, neu mai bach iawn yw’r goblygiadau, o ran adnoddau ar y rheng flaen
- bod rhesymeg glir yn cael ei darparu i amlinellu pam y dylid ystyried yr ymchwil yn ystod y cyfnod hwn
Rhaid gwneud bob cais NRC gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein – Ffurflen Gais Ar-lein NRC HMPPS
Gallwch hefyd lawrlwytho a chwblhau fersiwn argraffadwy o’r ffurflen ar-lein yma, . Dylid defnyddio’r ddogfen hon at ddibenion drafftio; dim ond ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein fydd yn cael eu prosesu a’u hadolygu.
Ar gyfer prosiectau sydd hefyd angen cymeradwyaeth gan gyrff iechyd a gofal cymdeithasol, dylid gwneud ceisiadau drwy’r System Ymgeisio Integredig ar gyfer Ymchwil (IRAS). Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio a oes angen cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) hefyd. Mae gan yr HRA adnodd i’ch helpu i benderfynu - Ai ymchwil yw fy astudiaeth? (hra-decisiontools.org.uk)
Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer dadansoddi data eilaidd drwy’r broses NRC arferol.
Rhaid llwytho dogfennau ategol i fyny drwy’r ffurflen gais ar-lein.
Canllawiau ar geisiadau
Mae canllawiau ar y broses NRC, gan gynnwys gwybodaeth y dylid ei chynnwys yn y ffurflen gais ac awgrymiadau ar gyfer llenwi eich cais, ar gael yma: Canllawiau ar geisiadau i’r NRC (PDF, 605 KB, 31 tudalen).
Defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
Mae’r Pwyllgor Ymchwil Cenedlaethol (NRC) yn cydnabod bod adnoddau deallusrwydd artiffisial yn gallu cefnogi gwahanol gamau mewn astudiaeth ymchwil, gan gynnwys drafftio ffurflenni cais.
Fodd bynnag, rydym yn gweld mwy o geisiadau’n dibynnu’n fawr ar gynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial a heb gael ei wirio gan yr ymchwilydd. Mewn achosion o’r fath, nid oes gan adolygwyr hyder yng ngonestrwydd a chadernid yr astudiaeth.
Enghreifftiau o geisiadau wedi’u drafftio gan ddeallusrwydd artiffisial yw:
- Ailadrodd gwybodaeth amherthnasol neu ddiangen ar draws adrannau.
- Cyfatebiaeth wan rhwng cwestiynau ymchwil a’r fethodoleg arfaethedig.
- Disgrifiadau methodolegol rhy gymhleth, yn enwedig ar gyfer astudiaethau sy’n ymwneud â data gweinyddol.
- Defnyddio egwyddorion ymchwil gymdeithasol generig heb gael eu teilwra ar gyfer lleoliadau cyfiawnder troseddol penodol, gan gynnwys cynnwys a allai fod yn amhriodol ar gyfer amgylcheddau o’r fath.
- Cyfeirnodi anghyflawn neu amhriodol (er enghraifft, dyfynnu ‘Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2023’ heb nodi’r cyhoeddiad).
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gynnwys a gynhyrchir neu a gefnogir gan ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei adolygu â llaw er mwyn sicrhau ei fod yn gywir, darllenadwy, perthnasol ac addas ar gyfer cyd-destun cyfiawnder troseddol. Rhaid i’r cynnwys fod yn waith yr ymchwilydd ei hun.
Os bydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei gynnig yn yr ymchwil, gan gynnwys wrth ddrafftio allbynnau ymchwil, dylid cyfleu hyn yn glir yn y ffurflen gais. Rhaid i’r holl ymchwil gydymffurfio ag egwyddorion diogelu data, diogelwch a moeseg.
Gallwch chi ddarllen Llawlyfr Deallusrwydd Artiffisial y Llywodraeth er mwyn deall mwy am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol.
Proses adolygu a chymeradwyo
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm ar ddiwrnod gwaith olaf y mis i’w hystyried yn ystod y mis canlynol o adolygiadau.
Mae’r NRC yn adolygu uchafswm o 14 cais aml-safle bob mis. Mae’r cap hwn yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin, gydag unrhyw geisiadau dros ben yn cael eu trosglwyddo i’r mis canlynol.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses adolygu a chymeradwyo, cyfeiriwch at ddogfen ganllaw’r NRC ar geisiadau.
Ceisiadau myfyrwyr
Myfyrwyr Israddedig: Oherwydd nifer y ceisiadau posib, nid yw’r NRC yn gallu derbyn cynigion ymchwil gan fyfyrwyr israddedig. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed pan fydd cymorth busnes HMPPS neu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael ei ddarparu.
Myfyrwyr Ôl-raddedig (Meistr): Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau Meistr heb dystiolaeth ysgrifenedig o gymorth busnes HMPPS/y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Dylid cael cymorth busnes gan Gyfarwyddwr y Grŵp Carchardai ar gyfer ceisiadau dalfa, y Cyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol ar gyfer ceisiadau yn y gymuned, neu lefel Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer ceisiadau Pencadlys. Rhaid llwytho llythyr/e-bost o gefnogaeth i fyny gyda’r cais NRC. Ni allwn brosesu ceisiadau heb y cadarnhad hwn.
Myfyrwyr Ôl-raddedig (Doethurol): Mae’r Pwyllgor yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr ar lefel ddoethurol. Mae cymorth busnes yn fuddiol ond nid yw’n ofynnol.
Diwygiadau i ymchwil a gymeradwywyd yn flaenorol
Dylid ceisio cymeradwyaeth yr NRC ar gyfer diwygiadau i geisiadau sydd eisoes wedi’u cymeradwyo. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, newidiadau i’r carchardai neu’r rhanbarthau prawf sydd wedi’u cynnwys yn eich ymchwil, y fethodoleg neu’r tîm ymchwil.
Canllawiau Diwygio’r NRC – Canllawiau Diwygio’r NRC (PDF, 251 KB, 3 tudalen)
Ffurflen Diwygiadau’r NRC – Ffurflen Diwygiadau’r NRC (Dogfen MS Word, 33.9 KB)
Dylid cyflwyno ffurflenni wedi’u llenwi i flwch post yr NRC: National.Research@justice.gov.uk
Penderfyniadau’r NRC
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am benderfyniad yr NRC drwy ddiweddaru statws eich cais yn y porth ymgeisio ar-lein. Bydd llythyr penderfyniad hefyd yn cael ei e-bostio at y prif ymchwilydd. Efallai y byddwn yn gofyn i’r ymchwil gael ei gyflwyno i bwyllgor moeseg ymchwil lleol priodol hefyd (er enghraifft y Brifysgol, y GIG neu gorff ymchwil).
Ymgeiswyr llwyddiannus
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi baratoi crynodeb ymchwil (uchafswm o bum tudalen) ar ddiwedd eich prosiect sydd:
- yn crynhoi nodau a dull yr ymchwil
- yn tynnu sylw at y prif ganfyddiadau
- yn nodi’r goblygiadau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae darparu’r crynodeb ymchwil yn hanfodol i sicrhau bod HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael gwybod am eich canfyddiadau ymchwil a bod gwerth eich ymchwil yn cael ei gynyddu cymaint â phosib.
Ymgeiswyr aflwyddiannus
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn nodi’r rhesymau yn y llythyr penderfyniad. Cewch ailgyflwyno unwaith. Dylid rhoi sylw llawn i’r rhesymau dros y gwrthodiad blaenorol.
Sut rydym yn defnyddio eich data
I gael gwybodaeth am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data, gallwch chi ddarllen Polisi Preifatrwydd y Pwyllgor Ymchwil Cenedlaethol (NRC) (PDF, 187 KB, 5 tudalen)
Dolenni Cysylltiedig
Ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud â’r NRC: National.Research@justice.gov.uk
Cael mynediad at ddata Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Cael mynediad at ddata Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Ymchwil sy’n cynnwys y farnwriaeth - Cyfranogiad barnwrol mewn prosiectau ymchwil - Barnwriaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Ystadegau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Ystadegau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Y Weinyddiaeth Gyfiawnder - GOV.UK (www.gov.uk)
Defnyddio’r Labordy Data Cyfiawnder - Defnyddio’r Labordy Data Cyfiawnder - GOV.UK (www.gov.uk)
Ymchwil drwy Data First - Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Data First, ffurflen gais ar gyfer mynediad diogel at ddata - GOV.UK (www.gov.uk)
Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: meysydd o ddiddordeb ymchwil 2020 - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyhoeddiadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - Ymchwil ac ystadegau - GOV.UK (www.gov.uk)
Ymchwil gydag asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyrff Hyd Braich - Ymchwil o fewn asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyrff hyd braich - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae canllawiau ar ddiogelu data ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - http://ico.org.uk