Gweithio i DVLA

Dewch o hyd i sut beth yw gweithio i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.


Rydym yn cyflogi tua 6,000 o staff llawn amser a staff rhan amser yn y DVLA. Rydym yn blaenoriaethu cadw ein staff yn iach ac yn hapus ac mae llawer o fuddion a gwobrwyon ar gael.

Mae amrywiaeth o rolau mewn llawer o wahanol feysydd busnes gennym, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau gweithredol a chwsmeriaid
  • Digidol a Thechnoleg
  • Adnoddau Dynol
  • Cyllid
  • Cyfathrebu
  • Masnachol
  • Polisi
  • Grŵp meddygol y gyrwyr

Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud.

Tâl a buddion

Rydym yn darparu:

  • cyflog cystadleuol ynghyd â chynllun bonws perfformiad arbennig
  • opsiynau cynllun bensiwn gwych
  • mynediad i borth gostyngiadau i staff
  • opsiynau talebion gofal plant
  • gwobrau gwasanaeth hir ar gyfer gweithio dros yr asiantaeth am 25, 35 a 45 o flynyddoedd
  • cymorth wrth dalu am docynnau tymor trafnidiaeth gyhoeddus i’ch helpu i deithio rhwng gwaith a’ch cartref
  • gofal plant ar y safle
  • 25 niwrnod o wyliau blynyddol (ac eithrio gwyliau’r banc), yn cynyddu bob blwyddyn hyd at 30 diwrnod pro rata
  • absenoldeb rhiant - mae hawl gan weithwyr i 26 wythnos o absenoldeb famolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant wedi ei rannu gyda thâl llawn, ac yna 13 wythnos o dâl statudol ac 13 wythnos bellach o absenoldeb heb dâl; gall rhieni rhannu unrhyw absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu sy’n weddill fel absenoldeb rhiant wedi ei rannu hyd at uchafswm o 50 wythnos; a gall unigolion hawlio 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb cefnogi partner ar gyflog llawn
  • absenoldeb arbennig a delir

Hyblygrwydd

Rydym yn annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn y rhan fwyaf o feysydd rydym yn cynnig oriau gweithio hyblyg i’n staff llawn amser a’n staff rhan amser (yn amodol ar anghenion busnes).

Cyfleoedd i ddatblygu a gwella

Rydym yn hyrwyddo diwylliant dysgu ac yn darparu cyfleoedd i’n holl staff ddysgu sgiliau newydd a datblygu.

Rydym yn cynnig:

  • 5 niwrnod o ddysgu’r flwyddyn
  • dysgu ar-lein drwy Dysgu’r Gwasanaeth Sifil
  • cyrsiau hyfforddi ystafell ddosbarth
  • rhwydweithiau mentora a hyfforddi

Iechyd a lles

Rydym yn cynnig:

  • gampfa 24 awr ar y safle
  • Rhaglen Gymorth i Staff yn darparu help a chyngor ar faterion personol neu sy’n ymwneud â gwaith
  • gwasanaeth iechyd galwedigaethol
  • profion golwg a sbectol am ddim (lle bo’n berthnasol i’r swydd)
  • blaendal cyflog i helpu tuag at brynu beic at ddefnydd teithio rhwng y cartref a’r gwaith

Amrywiaeth

Rydym yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac rydym yn falch o’n gweithlu amrywiol.

Rydym yn cynnig llawer o grwpiau staff i gefnogi ein cydweithwyr o gymunedau BAME (pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) a LGBT (pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol) ynghyd â grwpiau sy’n cefnogi staff anabl, cyn-filwyr, grŵp Cristnogol, rhwydwaith gofalwyr a grŵp sy’n ymdrin â materion cenedl.

Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

Mae ein gweithwyr yn bwrw pleidlais dros elusen pob blwyddyn ac mae cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn i godi arian dros yr elusen ddewisedig.

Am fwy o wybodaeth ar fuddion:

Llyfryn gwobrwyon DVLA

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email alternative.format@dvla.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Swyddi

Chwiliwch am swyddi yn DVLA yn: