Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae DVLA yn falch o fod wedi ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau cydraddoldeb, gan werthfawrogi amrywiaeth a bod yn weithle cynhwysol.


Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Ne Cymru mae gennym ymrwymiad cadarn i osod Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant wrth galon pwy ydym ni. Mae cynllun strategol DVLA yn cadarnhau ein gweledigaeth i fod yn lle gwych i weithio, lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi, a lle mae pawb yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial llawn. Mae ein hymagwedd at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant hefyd yn ymestyn at ein cwsmeriaid, gan ein bod wedi ymrwymo i wella ansawdd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus i bawb mewn cymdeithas.

Fel asiantaeth sector cyhoeddus, mae gan DVLA gyfrifoldebau statudol o dan adran 149 o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus (PSED) i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad anghyfreithlon arall a waherddir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • hyrwyddo cydraddoldeb cyfle rhwng unigolion sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac unigolion sydd ddim yn ei rannu
  • meithrin perthnasoedd da rhwng unigolion sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac unigolion sydd ddim yn ei rannu

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym ddyletswyddau penodol i gyhoeddi un neu fwy o amcanion cydraddoldeb a gwybodaeth am gydraddoldeb i gyfathrebu sut rydym yn ateb ein gofynion statudol.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein hamcanion cydraddoldeb, ein hymagwedd strategol at eu cyflawni a’n cynlluniau ar gyfer 2021 i 2024. Mae’n hamcanion cydraddoldeb yn gymwys i’n gwaith gyda’n cwsmeriaid a sut rydym yn rhyngweithio â’n cydweithwyr. Byddant yn cael eu hadolygu o leiaf bob 3 blynedd ac wrth i flaenoriaethau newydd ddod i’r amlwg.

Hygyrchedd

Mae amcanion yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Maen nhw’n hygyrch trwy dechnoleg addasol ac mae’r darllenydd yn gallu newid y fformatio yn ôl yr angen. Gellir gofyn am gopïau hefyd mewn fformatau amgen.

Sut rydym yn cyflawni ar ein hymrwymiadau strategol

Fel asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth, rydym yn cyhoeddi adroddiadau monitro cydraddoldeb a bwlch tâl rhwng y rhywiau i ateb ymrwymiadau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Monitro cydraddoldeb

Mae monitro cydraddoldeb yn darparu mewnwelediad i alluogi gweithgareddau penodol a mesuradwy. Mae crynodeb o ganfyddiadau ar gydraddoldebau mewn cyflogaeth yn DVLA yn nhablau monitro cydraddoldeb yr Adran Drafnidiaeth.

Adroddiadau bwlch tâl rhwng y rhywiau

Mae’r bwlch tâl rhwng y rhywiau yn dangos y gwahaniaeth mewn tâl ar gyfartaledd yr awr (cymedrig a chanolrifol) rhwng yr holl ddynion a menywod mewn gweithlu. Edrychwch ar adroddiad a data adroddiad bwlch tâl rhwng y rhywiau yr Adran Drafnidiaeth.

Achrediadau ac aelodaethau

Mae DVLA wedi dal yr achrediadau canlynol ers peth amser ac maen nhw’n arddangos ein hymrwymiad at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Hyderus o ran Anabledd

Mae DVLA yn cael ei chydnabod fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn arddangos ein hymrwymiad at ddenu, recriwtio a chadw pobl anabl, a’u cynorthwyo mewn cyflawni eu potensial llawn.

Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun llywodraeth sy’n cynorthwyo cyflogwyr i fanteisio ar y talentau mae pobl anabl yn gallu cyflwyno i’r gweithle.

Aelodaethau eraill

Mae DVLA hefyd yn aelod o’r sefydliadau canlynol:

Amcanion Cydraddoldeb

Mae ein hamcanion cydraddoldeb yn ein caniatáu i ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau parhaol yn ogystal â chynorthwyo’n Cynllun Strategol i wneud DVLA yn lle gwych i weithio a rhoi’r cwsmer wrth ganol ein hymagwedd. Byddwn yn parhau i symud rhwystrau rhag recriwtio, datblygu a hyrwyddo gweithlu amrywiol a chynhwysol.

Amcan 1: bod yn gynhwysol i bawb

Mae DVLA wedi ymrwymo i wella ansawdd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus i’n staff, cwsmeriaid, a rhanddeiliaid. Rydym yn cydnabod bod gan bawb ran i’w chwarae mewn creu diwylliant cynhwysol sy’n hanfodol mewn gwneud DVLA yn lle gwych i weithio, a lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gyfforddus i fod eu hunain yn y gweithle.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn:

  • creu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae pawb yn cael eu trin â pharch ac urddas a lle nad yw bwlio, aflonyddu na gwahaniaethu yn cael ei oddef
  • sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb
  • ystyried anghenion hygyrchedd trwy sicrhau bod gan ein staff a chwsmeriaid fynediad at addasiadau neu gymorth ychwanegol
  • sicrhau bod ein polisïau a phrosesau yn cael effaith gadarnhaol i’n staff, cyflenwyr allanol, a chwsmeriaid

Sut y byddwn yn mesur cynnydd a chyflawni canlyniadau:

  • cynnydd mewn sgôr thema cyffredinol Arolwg y Bobl ar gyfer Cynhwysiant a Thriniaeth Deg
  • cyfraddau datgan gwell ar draws llinynnau amrywiaeth
  • adolygu’n polisïau amrywiaeth pob 3 blynedd neu’n gynt os oes angen

Amcan 2: bod yn hyderus o ran amrywiaeth

Mae DVLA yn anelu at gynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth ei gweithlu i adlewyrchu’r boblogaeth waith leol yn well. Rydym yn cydnabod na fydd pob unigolyn yn cael yr un profiad ag eraill, yn enwedig y rheini o gefndiroedd gwahanol a byddwn yn adnabod a symud unrhyw rwystrau tra’n cydbwyso ymagwedd deg ac agored at recriwtio, datblygu, a symud ymlaen.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn:

  • cyflwyno rhaglenni rheoli talent a datblygu sy’n gynhwysol, ac sy’n adnabod a meithrin talent
  • adolygu pob cam o’n prosesau recriwtio i amlygu rhwystrau i’r rheini o grwpiau lleiafrifol a gweithio i symud unrhyw rwystrau
  • denu ymgeiswyr o’r pwll ehangaf posibl a bod yn gynhwysol trwy ein holl weithgaredd recriwtio
  • symud staff ymlaen yn sylfaenol fesul llinynnau amrywiaeth gan sicrhau tegwch cyfleoedd ac i ddileu unrhyw rwystrau mewn datblygu a symud ymlaen

Sut y byddwn yn mesur cynnydd a chyflawni canlyniadau:

  • cynnydd mewn ceisiadau gan grwpiau amrywiol yn enwedig lle rydym wedi’n tangynrychioli
  • lleihau’r bwlch gwahaniaeth ar draws yr holl linynnau yn ein prosesau recriwtio a chyflogi
  • culhau’r bwlch ymgysylltu yn ein canlyniadau Arolwg Pobl blynyddol

Amcan 3: uchafu potensial i bawb

Mae ein model o gynhwysiant wedi’i ganolbwyntio ar ddilysrwydd, perthyn a llais, ac mae’n ystyried sut mae pob un yn gallu hyrwyddo perfformiad tîm gwell yn gyffredinol. Mae hyn yn galluogi’r unigolyn a’r rheini o’i gwmpas i ffynnu a pherfformio’n effeithiol

Sut y byddwn yn cyflawni hyn:

  • hyrwyddo amgylchedd diogel lle rydym oll yn teimlo’n gyfforddus i godi llais os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn
  • parhau i adeiladu ar ein piblinell o staff talentog, amrywiol, gan gynnwys trwy brentisiaethau, a chynlluniau talent a datblygu perthnasol eraill ar draws llywodraeth
  • sicrhau bod ein hymagweddau rheoli perfformiad yn deg, ac yn cynorthwyo a galluogi pawb i wneud y mwyaf o’u potensial
  • sicrhau bod pawb yn deall yr effeithiau cadarnhaol o alluogi pawb i ffynnu yn y gwaith trwy gwblhau dysgu gorfodol

Sut y byddwn yn mesur cynnydd a chyflawni canlyniadau:

  • adolygu a monitro cwblhau dysgu gorfodol
  • canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil
  • darparu cynlluniau datblygu amrywiol a chynigion prentisiaeth
  • cysylltu â’n cymunedau allanol trwy ein rhaglenni ymestyn
  • trafodaeth effeithiol am Berfformiad i gynnwys adnabod cynhwysiant

Amcan 4: ein cwsmeriaid

Mae DVLA wedi ymrwymo i wella ansawdd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus i’n staff, cwsmeriaid a rhanddeiliaid. Bydd parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau’n adlewyrchu anghenion a phrofiadau’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Mae gan y rheini sy’n gweithio inni a chyda ni, fel partneriaid darparu wrth ddarparu’n gwasanaethau, gyfrifoldeb personol hefyd i weithredu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn eu trafodion dydd i ddydd â chwsmeriaid a’n staff.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn:

  • ystyried anghenion penodol defnyddwyr sy’n cyrchu’n gwasanaethau trwy sefydlu sgrinio cydraddoldeb i mewn i’n holl ddarparu gwasanaeth a gwneud penderfyniadau
  • ystyried anghenion ein cwsmeriaid trwy sicrhau bod ganddynt fynediad at wasanaethau hygyrch neu’n gallu gofyn am addasiadau i’w galluogi i gynnal busnes â ni yn llwyddiannus
  • cynorthwyo ein gwneuthurwyr polisi yn eu hymwybyddiaeth o anghenion amrywiol ac i ddeall ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Sut y byddwn yn mesur cynnydd a chyflawni canlyniadau:

  • gyrru cydymffurfiaeth a dealltwriaeth yn y gofyn am sgrinio cydraddoldeb cadarn
  • adolygu’n polisïau amrywiaeth pob 3 blynedd neu’n gynt os oes angen
  • cynorthwyo canlyniadau cymdeithasol allweddol trwy gymhwyso gwerth cymdeithasol trwy ein gweithgareddau masnachol