Polisi dogfennau hygyrch

Mae’r polisi hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw’r dogfennau mae’r Adran Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn eu cyhoeddi ar GOV.UK.


Mae’n cwmpasu dogfennau PDF, taenlenni, cyflwyniadau a mathau eraill o ddogfennau. Nid yw’n cwmpasu cynnwys sy’n cael ei gyhoeddi ar GOV.UK fel HTML: bydd prif ddatganiad hygyrchedd GOV.UK yn ymdrin â hynny.

Defnyddio ein dogfennau

Mae DVLA yn cyhoeddi dogfennau mewn amryw o fformatau, gan gynnwys PDF, fformat dogfen agored, a CSV.

Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl fod yn gallu defnyddio’r dogfennau hynny. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n creu dogfen, byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n gwneud y canlynol:

  • darparu’r opsiwn HTML pan fo modd
  • tagio penawdau a rhannau eraill o’r ddogfen yn gywir fel bod darllenwyr ar sgrin yn gallu deall strwythur y tudalennau
  • sicrhau ein bod yn cynnwys dewis amgen i destun ochr yn ochr â delweddau anaddurnol fel bod pobl sydd heb fod yn gallu eu gweld yn deall beth yw eu pwrpas
  • osgoi defnyddio tablau, ac eithrio pan fyddwn ni’n cyflwyno data
  • ysgrifennu mewn iaith glir

Pa mor hygyrch yw ein dogfennau

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddir gennym, a dogfennau y mae angen i chi eu lawrlwytho neu eu llenwi er mwyn cyrchu un o’n gwasanaethau, fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:

  • heb gael eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt gael eu deall gan ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrîn
  • heb gael eu tagio’n gywir - er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
  • heb gael eu hysgrifennu mewn iaith glir

Mae rhai o’r dogfennau hyn yn ddogfennau hanesyddol nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Maent wedi cael eu heithrio o’r rheoliadau, felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i’w gwneud yn hygyrch.

Ond os oes angen ichi gael gwybodaeth o un o’r mathau hyn o ddogfennau, gallwch chi gysylltu â ni a gofyn am fformat amgen.

Beth i’w wneud os na allwch ddefnyddio un o’n dogfennau

Os oes angen ichi gael fformat gwahanol i ddogfen a gyhoeddwyd gennym, anfonwch neges e-bost at ein tîm Cyfathrebu Allanol.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gydag un o’n dogfennau

Rydym yn wastad yn ceisio gwella hygyrchedd ein dogfennau. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestri ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol.

Y weithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac yn defnyddio ein gwasanaethau cerbydau, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein dogfennau

Mae DVLA wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dogfennau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r dogfennau a gyhoeddir gan y DVLA yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, a hynny oherwydd y materion anghydffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Anghydffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae diagramau i’w cael yn ambell un o’n dogfennau. Nid oes dewis amgen i destun ar gyfer y delweddau hyn felly nid yw’r wybodaeth sydd ynddynt ar gael i bobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrîn. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun).

Rydym yn bwriadu ychwanegu dewisiadau amgen i destun ar gyfer pob diagram erbyn Medi 2020. Pan rydym yn cyhoeddi dogfennau newydd, byddwn ni’n gwneud yn siŵr fod y ffordd rydym yn defnyddio diagramau yn cyrraedd y safonau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Mae miloedd o ddogfennau PDF hanesyddol ar ein gwefan. Rydym wedi adolygu a blaenoriaethu ein dogfennau. Ein nod yw trwsio’r rhai sy’n cael eu defnyddio fwyaf ac sy’n debygol o fod o ddiddordeb penodol i bobl sydd ag anabledd a bod yr anabledd hwnnw yn gallu lleihau eu gallu i ddarllen dogfen.

Mae mwyafrif helaeth y dogfennau yn rhai o ddiddordeb hanesyddol yn unig, ac nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn rhai hygyrch.

Os ydych chi eisiau dogfen benodol mewn fformat hygyrch, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol ac fe wnawn ni weld os gallwn ni helpu.

Cynnwys sydd heb fod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw llawer o’n dogfennau hŷn, ar ffurf PDF a Word, yn bodloni’r safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrîn. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 4.1.2.

Mae rhai o’n dogfennau PDF yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, rydym yn cyhoeddi ffurflenni fel dogfennau PDF anhygyrch. Erbyn Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu gael dogfennau hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn trwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd gymaint â phosibl – er bod rhai achosion pryd na fydd hyn yn bosibl, er enghraifft dogfennau PDF Cymraeg pryd nad yw hyn yn bosibl yn dechnegol.

Sut rydym wedi profi ein dogfennau

Y tro diwethaf inni brofi sampl o ddogfennau oedd ym Mehefin 2019. Cafodd y prawf ei gynnal gan staff Cyfathrebu Mewnol y DVLA.

Fe wnaethom ni brofi’r holl gynnwys a gyhoeddwyd gennym rhwng 23 Medi 2018 ac 1 Mai 2019, er enghraifft ffurflenni a thaflenni.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi sefydlu canllawiau a gweithdrefnau i sicrhau bod pob dogfen newydd a gynhyrchir gennym yn rhai hygyrch. Byddwn ni’n parhau i adolygu dogfennau hŷn i weld a oes modd inni ychwanegu nodweddion i’w gwneud yn fwy hygyrch i bobl sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrîn.

Cafodd y dudalen hon ei pharatoi ar 23 Medi 2019. Cafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 23 Medi 2019.