Am ein gwasanaethau

Y safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl wrth DVLA.


Gwasanaethau a safonau

Boddhad cwsmer

Defnyddir ein harolygon ymchwil fel mesur parhaus o foddhad gwasanaeth cwsmeriaid.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrthym

Byddwn yn:

  • deg ac yn gynhwysol
  • eich trin gydag urddas a pharch
  • agored ac yn onest
  • cadw eich manylion personol yn gyfrinachol ac yn trin â gwybodaeth amdanoch yn unol â chyfraith diogelu data (serch hynny, efallai bydd angen ei rannu gyda thrydydd parti oni ei fod yn gyfreithlon ac yn angenrheidiol)
  • gwrando ar eich barn

Hygyrchedd

Rydym yn darparu:

  • gwasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg yn unol â Chynllun yr Iaith Gymraeg
  • gwasanaeth e-bost a gwe-sgwrs
  • gwasanaeth cyfieithu trwy Big Word os nad ydych yn siarad Saesneg na Chymraeg (am ymholiadau ynglŷn â thrwyddedau gyrru ac ymholiadau meddygol ffoniwch 0906 737 0012, ac ar gyfer ymholiadau cofrestru cerbydau a threth ffoniwch 0906 737 0013)
  • y mwyafrif o’n gwybodaeth mewn fformat arall ar ofyn