Cynllun iaith Gymraeg
Mae'r Cynllun Iaith Gymraeg yn nodi sut y gall y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ddarparu ei wasanaethau i'r cyhoedd yn Gymraeg.
Yn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid yng Nghymru, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithredu o dan Gynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref yn berthnasol i’r Swyddfa Gartref yn ei chyfanrwydd a holl asiantaethau a chyrff cyhoeddus y Swyddfa Gartref, oni bai eu bod yn rhedeg eu Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain.
Tystysgrifau DBS
Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein dogfennau’n cael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae’n werth nodi na ellir argraffu tystysgrifau DBS yn Gymraeg.
Mae hyn oherwydd o dan Rhan V Deddf yr Heddlu 1997, mae’n ofynnol i’r DBS ddatgelu cofnodion troseddol a gwybodaeth arall y llywodraeth fel y cofnodir mewn cofnodion canolog. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) yn Saesneg yn unig, felly bydd tystysgrifau DBS yn cael eu cyhoeddi yn Saesneg yn unig.
Nid oes gan y DBS yr awdurdod i gyfieithu gwybodaeth ac mae wedi nodi risg gynhenid i uniondeb a chywirdeb y gwasanaeth gwirio DBS, pe bai gwybodaeth am dystysgrif yn cael ei chyfieithu.
Hefyd, lle mae gwybodaeth i’w dadlau byddai angen dychwelyd y wybodaeth i’r Saesneg er mwyn ystyried y wybodaeth wreiddiol.
Gwybodaeth gyswllt
Rhif ffôn y llinell Gymraeg ar gyfer ymholiadau gwasanaeth gwirio DBS yw 03000 200 191.
Cyfeiriad gohebiaeth Gymraeg yw:
Blwch SP 3961
Royal Wootton Bassett
SN4 4HF
Y Deyrnas Unedig
Y cyfeiriad e-bost ar gyfer gohebiaeth Gymraeg yw customerservices@dbs.gov.uk.