Amdanom ni
Mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn helpu i sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor. Rydym yn diogelu ac yn hyrwyddo ein treftadaeth ddiwylliannol ac artistig ac yn helpu busnesau a chymunedau i dyfu drwy fuddsoddi mewn arloesi a thynnu sylw at Brydain fel lle gwych i ymweld ag ef. Rydym yn helpu i roi mantais unigryw i'r DU ar y llwyfan byd-eang, gan ymdrechu i sicrhau llwyddiant economaidd.
Blaenoriaethau
Mae ein blaenoriaethau’n cynnwys:
- tyfu’r economi
- cysylltu’r DU
- annog cyfranogiad
- cynnal rhagoriaeth a hyrwyddo Prydain
- cefnogi ein cyfryngau
- sicrhau cyfrifoldeb cymdeithasol
Darllenwch ein Cynllun adrannau unigol i gael rhagor o fanylion am bob blaenoriaeth.
Pwy ydym ni
Mae gennym tua 900 o staff yn gweithio i’r DCMS, ond mae’r rhan fwyaf o’r gwaith y mae pobl yn ei gysylltu â ni’n waith a wneir gan y 43 o gyrff cyhoeddus sy’n ein cefnogi.
Mae ein pencadlys yn Llundain.
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydym yn eu cyhoeddi’n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol.