Ymchwil yn Tŷ'r Cwmnïau

Ymunwch â'n panel defnyddwyr i'n helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, a chwblhau ein harolwg boddhad cwsmeriaid i ddweud wrthym beth yw eich barn am ein gwasanaethau.


Dod yn aelod o’n panel defnyddwyr

Mae ein panel defnyddwyr yn ein helpu i ddeall sut mae ein cwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau digidol yn well. Mae gennym gynrychiolaeth gan ystod eang o ddefnyddwyr sy’n rhoi adborth ar eu profiadau.

Os hoffech ein helpu i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau, cofrestrwch i fod yn aelod o’n panel defnyddwyr.

Pam rydym yn gwneud gwaith ymchwil defnyddwyr

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn rhoi i ni, i:

  • asesu pa mor dda rydym yn darparu ein gwasanaethau
  • gael mewnwelediad ar ba newidiadau yr hoffech i ni eu gwneud i’n gwasanaethau presennol
  • datblygu gwasanaethau newydd yr hoffech i ni eu darparu

Pan fyddwch yn cwblhau arolwg, caiff y wybodaeth a roddwch i ni ei thrin â chyfrinachedd yn unol a’n datganiad preifatrwydd.

Sut mae’r sesiynau ymchwil defnyddwyr yn gweithio

Byddwn yn gofyn i chi pa fathau o ymchwil yr hoffech fod yn rhan ohonynt. Byddwn ond yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yr ydych wedi’u nodi.

Mae cyfranogiad yn wirfoddol. Gallwch ddweud na wrth unrhyw wahoddiad a gewch.

Gallwch adael y panel defnyddwyr ar unrhyw adeg.

Darllenwch fwy am ein panel ymchwil defnyddwyr ar ein blog.

Ymchwil ac arolygon cyfredol

Gallwch ein helpu i sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau neu’n amlygu meysydd lle gallwn wella.

Cwblhewch ein harolwg boddhad cwsmeriaid.

Cyhoeddiadau ymchwil a chanlyniadau arolygon

Gallwch ddod o hyd i’n hymchwil a chanlyniadau’r arolwg - ychwanegwch eiriau allweddol a hidlyddion eraill i fireinio canlyniadau’r chwiliad.

Mae ymchwil a chanlyniadau arolygon hŷn ar gael o’r Archifau Cenedlaethol.

Canlyniadau arolwg staff Tŷ’r Cwmnïau

Gweler canlyniadau diweddaraf ein harolwg staff.

Dewch o hyd i ganlyniadau arolwg y gorffennol ar yr Archifau Cenedlaethol.