Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Polisi Tŷ’r Cwmnïau ar gyfle cyfartal.


Mae Tŷ’r Cwmnïau yn gyflogydd cyfle cyfartal. Ein nod yw bod yn deg â phawb a sicrhau na fydd yr un gweithiwr nac ymgeisydd am swydd yn cael cyfle neu driniaeth fwy ffafriol neu lai ffafriol ar sail, er enghraifft:

  • oed
  • hil
  • lliw
  • tarddiad ethnig neu genedlaethol
  • cenedligrwydd (gan ddibynnu ar y rheolau cenedligrwydd)
  • rhyw
  • trawsrywedd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • anabledd
  • crefydd neu gred / ymlyniad crefyddol
  • gweithio rhan-amser
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • barn wleidyddol
  • pobl sydd â neu sydd heb ddibynyddion (Gogledd Iwerddon yn unig)
  • aelodaeth o undeb llafur na dyletswyddau undeb

Gall fod eithriadau cyfyngedig lle caniateir gweithredu positif o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

Cyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal yw conglfeini ein polisi penodi a chyflogi.

Darllenwch strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Tŷ’r Cwmnïau.

Cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd

Fel Cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi cael ein cydnabod fel corff sy’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfle teg. Rydym wedi ymrwymo i:

  • broses recriwtio gynhwysol a hygyrch
  • cyhoeddi a hyrwyddo swyddi gwag
  • cynnig cyfweliad i bobl anabl
  • darparu addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn
  • cynorthwyo unrhyw gyflogai presennol sy’n cael anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gan ei alluogi i aros mewn gwaith
  • gwneud gwahaniaeth i bobl anabl

Mwy o wybodaeth am Hyderus o ran Anabledd.