Datganiad i'r wasg

ZZ Top, Kermit, a The Beast ymhlith yr enwau mwyaf anarferol am geir, mae DVLA yn datgelu

Dengys ymchwil gan DVLA bod 1 o bob 6 modurwr wedi enwi ei gar, gyda 27% o’r rheiny a ymatebodd i’r arolwg yn cyfaddef eu bod wedi llysenwi eu car.

Mae arolwg newydd DVLA yn datgelu bod:

  • 1 o bob 6 modurwr a ymatebodd i’r arolwg wedi enwi ei gar – a’r rheiny o 35 i 53 oed sy’n fwyaf tebygol o wneud
  • ymhlith yr enwau mwyaf anarferol yw Disco Dave, Lady Patricia, The Beast a ZZ Top

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i roi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu car yw trwy ymweld â gwasanaeth ar-lein DVLA GOV.UK.

Mae dweud wrth DVLA ar-lein eich bod wedi gwerthu cerbyd dim ond yn cymryd ychydig funudau, mae cronfa ddata DVLA yn cael ei ddiweddaru ar unwaith, a bydd cwsmeriaid hefyd yn cael unrhyw ad-daliad o dreth cerbyd yn gyflymach.

Mae arolwg DVLA diweddar wedi datgelu bod Disco Dave, Lady Patricia, the Beast, a ZZ Top ymhlith yr enwau mwyaf anarferol y mae pobl wedi’u rhoi i’w ceir.

Datgelwyd y llysenwau, sy’n cynnwys cymysgedd o enwau anarferol a thraddodiadol, i’r asiantaeth yn ei harolwg moduro diweddaraf.

Roedd yr enwau mwyaf poblogaidd a roddwyd gan y 2,095 o ymatebwyr yr arolwg i’w cerbydau yn cynnwys Betsy, Pablo, Max, Ruby, a Doris – ac mae Max a Ruby ymhlith y 50 o enwau babanod mwyaf poblogaidd eleni.

Mae cymeriadau teledu a ffilm hefyd wedi ysbrydoli nifer o fodurwyr, gyda The Bat Mobile, Betty Boop, Eeyore, Homer, Kermit, Mickey, Olaf, a Snow White ar y rhestr hefyd.

Roedd modurwyr o 35 i 54 oed y mwyaf tebygol o enwi eu cerbydau gyda 27% ohonynt yn cyfaddef eu bod nhw wedi llysenwi eu car, yn ôl yr arolwg. Y rheiny o 16 i 34 oed oedd yr ail fwyaf tebygol i enwi eu ceir gydag ychydig dros 26% yn datgelu eu bod wedi’i wneud.

Mae’n rhaid i fodurwyr sy’n bwriadu gwerthu eu ceir annwyl roi gwybod i DVLA nad ydynt yn berchen ar y cerbyd bellach pan gaiff y cerbyd ei werthu, a’r ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hwn yw ar-lein.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Beth bynnag rydych chi’n enwi eich car, pan fydd yr amser yn dod i ddweud ffarwél, ein gwasanaethau ar-lein fydd y ffordd gyflymach, hawsaf a mwyaf cyfleus bob tro i roi gwybod wrthym eich bod wedi gwerthu neu drosglwyddo cerbyd.

Rydym yn falch iawn bod 98% o gwsmeriaid yn fodlon â’r gwasanaeth a byddant yn ei ddefnyddio eto.

Rydym yn annog unrhyw un sy’n bwriadu gwerthu ei gar i roi gwybod inni ar-lein cyn gynted â phosibl i sicrhau bod cofnod y cerbyd yn cael ei ddiweddaru yn brydlon.

I roi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu neu drosglwyddo cerbyd, ewch i GOV.UK.

Nodiadau i olygyddion:

  • roedd yr arolwg moduro yn cynnwys ymatebion gan 2,095 o fodurwyr
  • roedd yr arolwg hefyd yn dangos y byddai 98% o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA yn eu defnyddio eto, teimlodd 72% ei fod yn haws a dywedodd 80% ei fod yn gyflymach

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 7 December 2021